Y Gloran Rhagfyr 2012

Page 1

y gloran GOLYGYDDOL

rhifyn 277 2il gyfrol

papur bro blaenau’r rhondda fawr

Fwy nag unwaith, mae’r golofn hon wedi tynnu sylw at bwysigrwydd diogelu busnesau canol ein trefi. O fewn cof llawer ohonom gwelwyd dirywiad syfrdanol yng nghyflwr ein strydoedd mawr. Yn yr ardal hon, Y Pentre yw’r enghraifft orau efallai, gyda dyrnaid yn unig o siopau ar ôl lle bu gynt rai o fusnesau mwyaf Cwm Rhondda - E.H.Davies, R.T. Evans, Walters a Rees, yr haearnwerthwyr, siop ddillad ysblennydd Cule a busnesau llwyddiannus Sam Wilshire, Dotter a Phillips “y Typewriter’. Bu dirywiad y Pentre’n ddramatig ac yn yr un modd gwelsom strydoedd Dunraven, Tonypandy a Stryd Hannah, Y Porth,

NADOLIG LLAWEN I’N DARLLENWYR I GYD

20c

Rhagfyr 12


golygyddol y gloran

a fu gynt yn ganolfannau siopa llewyrchus, yn colli tir yn gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu colli diwydiannau trwm, diboblogi a dyfodiad yr archfarchnadoedd mawrion yn rhannol gyfrifol am hyn ynghyd â gallu pobl â cheir i siopa y tu allan i’r ardal. Yn wyneb y datblygiadau hyn, dau ddewis sydd - naill ai derbyn bod y dirywiad yn anorfod neu chwilio am ddulliau newydd o fasnachu. Fel y gwelwn yn y rhifyn hwn o’r Gloran, mae arwyddion bod masnachwyr canol Treorci yn ceisio ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i’r her trwy drefnu digwyddiadau fydd yn hybu busnes yn y dref. Un o’r rhain oedd gŵyl croesawu’r Nadolig a gynhaliwyd ddydd Gwener, 30 Tachwedd i ddathlu cynnau’r goleuadau ar y goeden Nadolig ac ar hyd y stryd fawr. O ganol dydd ymlaen roedd perfformwyr o bob math yn arddangos eu doniau o flaen tafarnau’r Lion a’r Cardiff Arms a threfnwyd bod ffair bleser fywiog y tu fa’s i Glwb y Bechgyn a’r Merched. Roedd amrywiaeth o stondinau dan do yn y clwb ei hun a’r lle dan ei sang. Roedd hi’n dda gweld bod nifer o’r masnachwyr lleol

wedi manteisio ar y cyfle i werthu eu nwyddau a does ond gobeithio eu bod wedi cael dechrau da fydd yn arwain at Nadolig proffidiol iddynt. Yn sicr, llwyddodd y fenter i ddenu cannoedd o bobl i Dreorci ac ymddangosai fod y caffis a’r tafarnau yn enwedig wedi bod yn brysur trwy gydol y dydd. Syniad da oedd cael cystadleuaeth am y ffenest siop orau a bod cymaint o fusnesau wedi cymryd rhan. Bu corau o ysgolion cynradd yr ardal, gan gynnwys Treorci, Y Gelli, Y Pentre a Thon Pentre yn perfformio a Radio Rhondda a GTFM yn darparu cerddoriaeth ynghyd â Band Arian Treherbert. Yn naturiol, daeth rhieni a thylwyth y plant i’w cefnogi gan sicrhau bod llif cyson o bobl yn crwydro’r strydoedd. Dangosodd y diwrnod sut y gall menter masnachwyr ac ychydig o help ariannol gan y Cyngor gyfuno i ddenu pobl i ganol y dref. Yn barod eleni bu’r Ŵyl Gerdd a’r Eisteddfod yn achlysuron llwyddiannus a does ond gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn dod yn rhan sefydlog o galendr y flwyddyn, nid yn unig yn Nhreorci ond yn nhrefi eraill blaenau’r cymoedd.

parhad

STORI RHYS JONES

riol, hoffwn ennill aur eto!” Ac yn y mabolgampau llwyddodd i gyflawni ei freuddwyd o flaen tor o 35,000. Llansawel O’r diwedd, gwawriodd 26 Mai a’r un diwrnod y cludwyd y fflam trwy Dreherbert a Threorci roedd Rhys yn ei chario trwy Stryd Fawr Llansawel. Yn ffodus, roedd y tywydd yn braf iawn pan gyrhaeddon ni’r man cychwyn, sef Clwb JK lle roedd digon o fyrddau picnic dan gysgod ymbarelau. Yn raddol, cynyddodd y dorf gyda nifer fawr o aelodau ei deulu, ei ffrindiau a’i athrawon o Ysgol Sant Ioan yno i gefnogi Rhys. Roedd yr awyrgylch yn drydanol wrth i’r amser nesau. Cododd bloedd enfawr pan gamodd Rhys gyda’i wên lydan o’r bws a phawb yn tynnu lluniau ohono ac yn cyhwfan baneri wrth iddo godi’r ffagl. Gallwch chi ddychmygu fy mod i a fy ngwraig yn browd iawn o’n hŵyr annwyl. Cael ei ddewis Ond cododd ein balchder ohono’n fwy fyth ar 4 Gorffennaf Rhan 2: CARIO’R FFLAM A MWY pan dderbynion ni’r newyddion bod Rhys wedi ei ddewis yn un o’r garfan o 49 ar gyfer y Gemau Paralympaidd. [Rhagor o hanes yr athletwr parlympaidd ifanc o Gwm Clydach yn cael ei adrodd gan Y peth cyntaf y gwnaeth y wraig a minnau oedd sicrhau seddau ar y trên i Lundain. Roeddem yn benderfynol o fod ei dad-cu balch, Ray Poulton] yno! Cafodd Rhys Jones, yr athletwr para-olymOnd cyn hynny, roedd rhaid mynd â Rhys i Sefydliad paidd sy’n hanu o Gwm Clydach, ei enwebu Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd am gyfweliad gyda’r gan Chwaraeon Anabledd Cymru i gario’r Cymry eraill oedd yn y tîm. Ar ôl y cyfweliadau, clywais fflam Olympaidd trwy Lansawel [Briton rywun yn siarad Cymraeg a chael, er mawr syndod i mi, fod Ferry] ar 26 Mai, 2012. Enillodd y fraint y gŵr ifanc yn dod o Fferm y Graig, Y Mwnt, Sir Aberteifi, yn gydnabyddiaeth am ei waith fel hyffordsef y fferm nesaf at Fferm Blaenwaun, safle ein carafan ni dwr gwirfoddol gyda thîm pêl-droed Teigrod Rhondda Cynon Taf, tîm o chwaraewyr anabl, ers ugain mlynedd! Am fyd bach! Rai dyddiau’n ddiweddarach cefais i fy nghyfweld ar S4C yn sôn am yrfa Rhys, ac am ei ymdrechion fel llysgennad dros ei anawsterau a sut y daeth yn athletwr tan gamp. fabolgampau ymhlith pobl anabl yn y fwrdeParatoi istref. Dywedodd yr hoffai ddilyn gyrfa yn hyfford- Cafodd e amser prysur cyn y gemau eu hunain yn mynychusesiynau hyfforddi bob dydd Sadwrn yng Ngholeg dwr chwaraeon ar gyfer pobl anabl yn y pen Loughborough a hedfan wedyn ar 8 Awst i Bortiwgal ar gydraw a lansiodd ymgyrch i godi £2,700 dros fer gwersyll ymarfer. Rhys oedd yr olaf i’w gael ei gynnwys y Gymdeithas Encephilitis trwy rafflo crys yn y garfan derfynol a hynny er syndod iddo gan taw ei brif Tîm GB wedi ei lofnodi gan lu o sêr o fyd y obaith cyn hynny oedd cynrychioli Prydain yn Rio yn 2016. campau gan gynnwys y capten, Dai Green o Fel y dywedodd ei fa, “Dydyn ni ddim yn disgwyl i Rhys Lanelli. “Dw i’n dwlu bod y cyflymaf ar y ennill medal y tro hwn, ond bydd yn baratoad ardderchog ar trac,” meddai Rhys, “Mae chwaraeon wedi gyfer Rio mewn pedair blynedd.” newid fy mywyd i gymaint. Ond roedd cael cario’r fflam Olympaidd yn fraint anhygoel.” Yn sgil llwyddiant Rhys, cawson ni fel teulu ein rhwydo gan ramant y Gemau a chafodd yntau gyfle i wireddu ei Fodd bynnag, cyn yr achlysur hwnnw, roedd freuddwydion. “Y peth gorau wnes i erioed,” meddai “oedd yn edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Ysgolion oedd yn cael eu cynnal yn ymuno â Theigrod y Rhondda. Fe’m gwnaeth yn berson mwy hyderus a thyfais yn fwy annibynnol wrth wneud llu y Stadiwm Olympaidd newydd sbon. Braint o ffrindiau ar y ffordd. Dysgais sgiliau newydd a fydd yn oedd cael rhedeg ar yr un trac ag athletwyr sylfaen i yrfa yn y dyfodol ond yn fwy na dim mae’n gyfle gorau’r byd ac roedd yn gobeithio ennill. “ Enillais y fedal aur yn y ras 200m. yn 2010 a’r imi annog eraill i ddilyn eu breuddwydion heb ganiatau i unrhyw beth eu rhwystro.” aur am y 100m a’r 200m. yn 2011. Yn natu-


Thomas Nast

newyddion lleol Cyfarchion y Tymor oddi wrth Leanne

Leanne Wood AC leanne.wood@ cymru. gov.uk 01443 421691

Nadolig Llawen oddi wrth Leighton

Leighton Andrews AC leighton. andrews@cymru. gov.uk 01443 685261

Nadolig Llawen oddi wrth Jill

Jill Evans ASE jill.evans@europarl. europa.eu 01443 441395

Cawsom y llun hwn o dîm rygbi Ysgol Fodern Treorci 1948-49 gan Lindsey Foxall, Cwmparc. Ydych chi’n gwybod enwau’r ddau fachgen sy’n eisiau? Rhowch wybod os ydych. Rhes gefn o’r chwith: Arthur Thomas, John Salisbury, John Birmingham, ???, Brian Bebb. Rhes ganol: Haydn Williams [Athro Ymarfer Corff], Colin Jones, Evan John Baker, David Reynolds, Alwyn Parry, John Stanley Evans, Cyrnol Idris Evans [Prifathro], Lindsey Foxall. Rhes flaen: ???, Idwal Woolson, Brian Dyer, David Roberts, Malcolm Evans.

TREHERBERT

Roedd dydd Gwener, 9 Tachwedd, yn ddiwrnod trist iawn pan ddechreuodd gwaith i ddymchwel Pwll Nofio Treherbert. Mae pwll wedi bod ar yr un safle am 76 o flynyddoedd a golygfa ofnadwy oedd gweld peiriaunau chwalu yn bwrw’r waliau i lawr. Mae llawer o bobol wedi gweithio’n ddyfal dros y blynyddoed i ail agor y pwll. Diolch i gyfarwyddwyr Cwmni Pwll Nofio Treherbert am eu gwaith mawr yn paratoi sawl cais am arian. Diolch i Mr Ralph Cole am godi swm sylweddol wrth drefnu nifer o dripiau ac i’r disgyblion o ysgol Penyrenglyn am eu llythyron i ‘r Argwlydd Seb Coe. Diolch hefyd i drigolion Treherbert a’r cylch am fynd i brotestio yn Siambr y Cyngor ac yn y Senedd yng Nghaerdydd a diolch am y cannoed a fynychodd nifer fawr o gyfarfodydd cyhoeddus. Yn olaf

diolch yn fawr i CwmNi a oedd bod amser wrth gefn yr ymgyrch yn cynorthwyo ac yn cefnogi. Er gwaethaf y pedair blynedd o frwydro mae Treherbert,,un o’r ardaloedd mwya difreintiedig yng Nghymu, yn dlotach fyth.. Bydd llif trafnidiaeth yn cael ei amharu ar fordd y Rhigos am rai dyddiau rhwng 5 Rhagfyr a 31 Mai 2013 wrth i’r heol gael ei chau am awr yn y bore ac awr yn y prynhawn er mwyn cludo melinau gwynt Maerdy o Hirwaun i ben Craig y Llyn. Trosglwyddir y melynau rhwng 10.15 a 11.15 yb a rhwng 1.30 a 2.30yp ar ddyddiau penodedig. Mae’r Cyngor wedi addo rhoi 48 awr o rybydd cyn pob symudiad. Mae’r maes parcio y Dunraven yn cael ei ailwampio . Gosodir llinellau newydd a bydd safle arbennig i’r blwch ailgylchu

Cynhelir gwasaneth arbennig ar 22 Rhagfyr yng nghapel Blaenycwm i fendithio priodas Natasha a Lee Foster o Flaenrhondda. Bydd y gwasanaeth dan olau canwyllau a dymunwn ddyfodol hapus i’r ddau. Cynhalwyd gwasanaeth carolau yng nghapel Carmel ar y 7fed o Rhagfyr. Roedd y gwasanaeth dan nawdd Mudiad Macmillan a chodwyd swm syweddol o arian at yr elusen arbennig yma. Bydd gwasanaeth carolau dan olau canwyll yng nghapel Blaenycwm ar y 16 Rhagfyr am 6.00yh. Croeso cynnes i bawb. Roedd llawer o hwl a sbri yng Nglwb Llafur Tynewydd ar 8 Rhagfyr 8fed pan lwyfanwyd pantomeim Cinderella. Aelodau’r clwb a staff Cwmni oedd yn trefnu ac actio yn y pantomime a daeth Sion Corn i ymweld â’r plant ar ôl y sioe.

DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA EICH GOHEBWYR LLEOL : Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: Geraint a Merrill Davies Cwmparc: D G Lloyd Treorci: Mary Price Y Pentre Tesni Powell Anne Brooke Ton Pentre a’r Gelli Hilary Clayton Graham John


TREORCI Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr John Middleton, gynt o Stryd James, ond ers rhai blynyddoedd o Bont-lliw, Abertawe. Dioddefodd John gystudd hir a chydymdeimlwn yn ddiffuant â’i weddw a’i blant a hefyd â’i frawd Peter a’r teulu sy’n byw yn Stryd Regent. Ddydd Iau, 6 Rhagfyr cafodd aelodau Clwb yr Henoed gyfle i ddechrau eu siopa Nadolig pan aeth llond bws ohonyn nhw i Gaerwrangon [Worcester] am y diwrnod. Roedd hi’n wythnos brysur i bawb gan

fod nifer wedi mwynhau cinio Nadolig yng ngwesty’r Tŷ Newydd, Penderyn ar y dydd Llun blaenorol. Nos Fawrth, 18 Rhagfyr, cynhaliodd Sefydliad y Merched ei wasanaeth blynyddol o ddarlleniadau a charolau yn Eglwys Sant Matthew. Yn ôl yr arfer, dilynwyd y gwasanaeth gan luniaeth ysgafn a chyfle i bawb gymdeithasu a mwynhau hwyl yr Ŵyl. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwiolaeth Mrs Pauline Rees, Prospect Place, yn dilyn rhai blynyddoedd o afiechyd. Cydymdeimlwn â David, ei ph-

riod, Emma, ei hunig ferch a’r teulu oll yn eu colled. Un arall a gollwyd yn ddiweddar oedd Mrs Jean Pitt, Stryd Stuart. Roedd Jean yn aelod ffyddlon a gweithgar o Glwb yr Henoed lle roedd yn boblogaidd iawn. Cydymdeimlwn â’i meibion, Michael a Simon yn eu profedigaeth. Cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil i Gancr Treorci ei noson goffi flynyddol yn Neuadd Sant Matthew, nos Iau 24 Tachwedd. Cafwyd noson hwyliog a llwyddiannus fel arfer a llwyddwyd i godi dros £700 at yr achos teilwng hwn. Aelodau Cwmni Theatr Spot-

light oedd yn gyfrifol am yr adloniant a chafodd pawb amser da yn mwynhau eu talentau. Golyga hyn y bydd y pwyllgor yn gallu anfon £2,500 at Cancer UK cyn diwedd y flwyddyn ac maen nhw am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Beth amser yn ôl, gwrthododd Pwyllgor Cynllunio Rh.C.T. gais i godi 4 tŷ y tu ôl i dafarn y Red Cow. Fodd bynnag, aeth yr achos i apêl a phenderfynodd Arolygyddd Llywodraeth Cymru ganiatau’r datblygiad. Seiliwyd gwrthwynebiad y Cyngor ar y diffyg mannau parcio yn y cynllun,

ond dadleuodd yr Arolygydd fod digon o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael i ateb y galw. Pob dymuniad da a llawer o ddiolch i’r Bliswraig Gynorthwyol Suzanne Casey sydd wedi bod yn gyfrifol am ardal Treorci ers rhai blynyddoedd a hithau’n disgwyl ei hail blentyn ac yn debygol o weithio’n nes at ei chartref ym Merthyr ar ôl ei chyfnod mamolaeth. Ar yr un pryd, estynnwn groeso i’w holynydd PSO Paul Jones, frodor o’r Rhondda a fydd yn gofalu amdanom o hyn allan. Gellir cysylltu â Paul ar 07805 301085 neu trwy paul.jones6@southwales.pnn.police.uk Mae ffenestri siopau canol y dref yn werth eu gweld gyda phawb

yn cystadlu am y gorau i gael y ffenest fwyaf atyniadol. Edrychwn ymlaen at weld pwy fydd yn fuddugol. Chi fydd yn penderfynu ac mae modd ichi fwrw eich pleidlais naill ai yn y Llyfrgell neu yn nhafarn y Lion. Felly, ewch ati yn ddiymdroi! O hyn ymlaen bydd Cylch Meithrin Hermon yn ymestyn ei oriau gan fod ar agor am 4 awr bob bore. Bydd sesiynau prynhawn hefyd ar gael ar ddau brynhawn. Am fanylion pellach, ffoniwch Melanie ar 07858 577155. Ddydd Sul, 16 Rhagfyr am 10.30am, cynhaliodd aelodau Hermon eu gwasanaeth carolau blynyddol gyda nifer yn cymryd at y darlleniadau traddodiadol.

Dilynwyd hyn gan fore coffi yn y festri.

CWMPARC

Llongyfarchiadau i Lou Reed, Heol y Parc ac ennill ei gap llawn cyntaf dros Gymru yn y gêm rygbi yn erbyn Awstralia. Mae’n drueni na lwyddodd i gael anrheg Nadolig gynnar yn ogystal wrth i Gymru ildio cais yn y funud olaf ar ôl bod ar y blaen! Ond, da iawn,Lou. Fe gest ti gêm gyntaf ardderchog o dan amodau anodd. Mae Nerys Bowen, Heol Conwy yn trefnu boreau coffi achlysurol yn Neuadd y Parc ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mae hin awyddus i ddenu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg i’r achlysuron hyn. Am ragor o fanylion, ffoniwch Nerys ar 771114.

Mae heddwas cynorthwyol newydd gan Gwmparc, sef PCSO Ceri Lyons a fu gynt yn y Ton a’r Pentre. Bydd e hefyd yn rhannu ei ddyletswyddau â swyddo Treorci, Paul Jones a gan fod dau ohonynt nawr gobeithir cynnig gwell gwasanaeth i’r ddwy ardal. I gysylltu â Ceri, ffoniwch 07584 770625. Ar 5ed o Ionawr cynhaliwyd cyngerdd yn eglwys St Sior. Roedd yr eglwys bron yn llawn a chafwyd amryw ganeuon gan Gôr Meibion Cwm Rhondda o dan yr arweinydd Neil Topping a oedd hefyd yn cyfeilio. Yn ogystal cafwyd amryw caneuon gan gôr plant Ysgol y Parc ar seindorf plant yr ysgol. rhaid canmol noson ardderchog gyda’r plant a’r côr meibion ar eu gorau.


Y PENTRE

Diolch i Michael a Tesni Powell, Llys Siloh am eu gwaith yn casglu newyddion yr ardal yn absenoldeb Dr Anne Brooke. Gobeithio y cânt Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ynghyd â’n holl ddarllenwyr yn Y Pentre. Mae preswylwyr Llys Siloh yn dymuno penblwydd hapus iawn i Iris Pearce, Fflat 8 a Gareth Edwards, Fflat 9 sydd, ill dau yn dathlu’r mis hwn. Mae pawb yn y Llys hefyd yn dymuno gwellhad llwyr a buan i’w warden, Dianne Wakeford sydd wedi torri asgwrn yn ei throed o ganlyniad i gwymp a gafodd yn ddiweddar. Roedd yn ddrwg gan bawb yn Llys Nazareth dderbyn y newyddion am farwolaeth Doris Cadogan. Roedd Doris yn adnabyddus yn yr ardal a gwelir ei heisiau gan lawer. Cydymdeimlwn â’i theulu a’i ffrindiau yn eu colled. Gobeithiwn y bydd dathlu mawr yn Nhŷ’r Pentre ar 4 Rhagfyr pan fydd Jess a Mary Merrit yn dathlu eu priodas ddiemwnt. Yn anffodus, mae Jess yn yr ysbyty ar hyn o bryd ond hyderwn y gall y ddau fod nôl gyda’i gilydd ar gyfer eu diwrnod mawr. Pob bendith iddynt. Bydd band Byddin yr Iachawdwriaeth yn ymweld â Carmel, Treherbert, nos Wener, 7 Rhagfyr ar gyfer gwasanaeth carolau a fydd yn

dechrau am 7.30pm. Croeso i bawb. Cafodd yr ardal golledion yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda marwolaeth Mrs Betty Evans, Stryd Price. Cofiwn am Janet, Steve a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth. Hefyd, tristawyd preswylwyr Tŷ’r Pentre gan farwolaeth Ceridwen Davies oedd wedi trigo yno ers peth amser. Mae pawb yn Nhŷ’r ,entre yn edrych ymlaen yn eiddgar at ymweliad band Byddin yr Iachawdwriaeth ar 16 Rhagfyr pan fyddan nhw’n perfformio rhwng 2.30 - 3.15pm. Maen nhw hefyd am ddymuno Penblwydd Hapus i Mabel Matthews sy’n dathlu ar 21 Rhagfyr. Mae croeso i bawb ddod i Bencadlys y Fyddin yn Stryd Carne, ddydd Sul 23 Rhagfyr pan fydd y bobl ifainc yn perfformio’r sioe hudol ‘Christmas Jigsaw’ Bydd y dathlun dechrau am 4.30pm. Pwy yw’r person hynaf o fewn dalgylch y Gloran? Tybed oes unrhyw un cyn hyned â Audrey Middleton sydd bellach yn derbyn gofal yng Nghartref Pentwyn. Ar 30 Tachwedd, dathlodd Audrey ei phen-blwydd yn 109 oed. Ydy hyn yn record? Rhowch wybod inni. Yn naturiol, bydd Eglwys San Pedr yn brysur dros yr Ŵyl gan ddechrau gyda gwasanaeth carolau am 6.30pm,

13 Rhagfyr. Hefyd, bydd gwasanaeth arbennig am 8pm, ar Noswyl y Nadolig, sef nos Lun, 24 Rhagfyr.

TON PENTRE

Cafwyd gwledd o ganu pan ddaeth aelodau capeli’r ardal ynghyd i ddathlu’r Nadolig trwy ganu carolau traddodiadol. Roedd yn dda cael cwmni aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth i ychwanegu at hwyl yr Ŵyl. Llongyfarchiadau calonnog i Nicki a Helen Cope, Y Parade ar enedigaeth eu mab Evan Daniel. Roedd yn ddrwg gennym dderbyn newyddion am nifer o farwolaethau yn yr ardal y mis hwn eto ac estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i deuluoedd y canlynol yn eu profedigaeth: Patricia Stuckey, Gelli Crossing; Phyllis Sparrow, Stryd Taf; Tegwen Biggs, Heol Avondale; Gwen Evans, Heol Avondale a Norman Goodwin, Heol y Gelli. Dechreuodd dathliadau Nadolig preswylwyr Tŷ Ddewi nos Wener, 30 Tachwedd pan gafwyd ymweliad gan y Côr Treftadaeth / Heritage Choir o Bontypridd o dan arweiniad Fred Nicholas. Canon nhw raglen amrywiol o ganeuon poblogaidd a cherddoriaeth gorawl. Da oedd gweld parti o breswylwyr Constantine

Court yn bresennol yn ymuno yn y dathlu. Dau fudiad lleol arall a gynhaliodd eu ciniawau Nadolig yn nhafarn Fagins yw Cameo a fu’n gwledda ar 28 Tachwedd a Brawdoliaeth Eglwys Sant Ioan ar 5 Rhagfyr. Roedd pawb yn drist wrth dderbyn y newyddion am farwolaeth un o drigolin mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yr ardal, Mr Grenville Hutchings, Highlands, Y Parêd. Roedd Grenville yn adnabyddus fel un o wŷr busnes mwyaf blaengar y cylch. Estynnwn ein cydymdeimlad i’w weddw Pat ac i’r teulu cyfan yn eu profedigaeth. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mrs Sylvia Pugh, Uplands sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Rhondda. Cyn iddi ymddeol, Mrs Pugh oedd warden Canolfan Ddydd Brynar Jones, Y Gelli. Bob dydd Mawrth rhwng 1 - 4pm cynhelir grŵp cymdeithasol, cymunedol yng Nghanolfan Brynar Jones, Stryd Rees, Y Gelli. Gelwir y prosiect ‘Bywyd i’w Fyw” a’i nod yw rhoi cyfle i bobl gwrdd â’i gilydd ac adnewyddu hen gyfeillgarwch. Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Allison Evans ar 671023.

CYMDEITHAS GYMRAEG AIL HANNER RHAGLEN Y GYMDEITHAS Ym mis Tachwedd cefnogodd llawer o aelodau’r Gymdeithas sioe gerdd Ysgol Gyfun Cymer Rhondda ‘Grease’ a lwyfannwyd yn Theatr y Parc a’r Dâr. Mwynhaodd pawb y perfformiad lliwgar a bywiog a da oedd gweld cymaint o ddisgyblion yn cael cyfle i gymryd rhan. Llongyfarchiadau calonnog iddynt i gyd a llawer o ddiolch i’r staff am eu gwaith caled yn hyfforddi’r bobl ifainc dalentog hyn. Bydd ail ran rhaglen

RHAI O HEN ARFERION Y NADOLIG Whipo’r Celyn Dyma arfer a ddigwyddai ar Ddydd Gŵyl Steffan [Boxing Day] yn yr hen amser. Byddai dynion a bechgyn yn crwydro o gwmpas ar y diwrnd hwnnw ac yn chwipio coesau ei gilydd â changhennau celyn nes y byddent yn gwaedu. mewn rhai ardaloedd merched ifainc a gwragedd oedd y targed. Does neb yn sicr beth

Cymdeithas Gymraeg Treorci yn dechrau nos Iau olaf mis Ionawr [31 Ion.] pan fydd y darlledwr adnabyddus Arfon Haines Davies yn ŵr gwadd. Roedd yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y sgrîn deledu gan gyflwyno nifer o gyfresi ar gyfer HTV gan gynnwys ‘Pacio’, ‘Penblwydd Hapus’ a ‘Pws’ yn y Gymraeg. Cyhoeddodd ei hunangofiant beth amser yn ôl sy’n sôn yn ddiddorol iawn ei fagwriaeth yn Aberystwyth ac yng Nghlwyd yn ogystal ag am ei yrfa amrywiol ym myd y cyfryngau. Yn ei ddilyn ar 28 Chwefror fydd y gwleidydd lliwgar o Dori, Felix Aubel. Yn fab i ŵr

yw tarddiad yr arfer. Mae rhai yn ei gysylltu â merthyrdod Steffan a goffeir ar y dydd ar ôl y Nadolig tra bod eraill yn dweud ei fod yn tarddu o’r arfer o ollwng gwaed ceffylau yr adeg hon o’r flwyddyn. Y Plygain Gwasanaeth arbennig a gynhelid yn gynnar iawn ar fore’r Nadolig. Daw’r term o’r Lladin ‘pulli cantus’ neu ‘ganiad y ceiliog’ oedd i’w glywed ar doriad gwawr - yr

o Slofenia ac athrawes o Aberdâr, mae e bellach yn weinidog ar eglwysi annibynnol Cymraeg yn Sir Gâr. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Rhydfelen ac etifeddodd ei syniadau gwleidyddol gan ei dad. Ymunodd â’r SDP i ddechrau, cyn troi at y Toriaid. Er na fu’n ymgeisydd llwyddiannus ar eu rhan, bu’n eu cynrychioli’n gyson ar y cyfryngau. Mae’n ŵr annibynnol ei farn sy’n credu mewn senedd i Gymru ond hefyd bod sosialaeth ‘yn gomiwnyddiaeth heb y dryll!’ Mae’n siwr y bydd aelodau’r Gymdeithas yn cael noson fywiog iawn yn ei gwmni. I gloi’r tymor, cawn gyngerdd yng nghwni

Parti’r Efail. Mae gan arweinydd y parti hwm, Menna Thomas, gysylltiadau agos â’r ardal hon gan fod ei mam yn hanu o Flaenrhondda lle roedd ei thad-cu, Sam Williams, yn brifathro. Mae’r parti hwn yn amryddawn iawn a’i repertoire yn amrywio o gerdd dant i alawon gwerin a chaneuon poblogaidd. Mae doniau unigol disglair gan nifer o’r aelodau fydd yn sicrhau noson ddiddorol a hwyliog yn eu cwmni Bydd y cyfarfodydd hyn i gyd yn cael eu cynnal yn Hermon, Treorci, gan ddechrau am 7.15pm. Croeso i bawb.

adeg pan fydden nhw’n cynnal y gwasanaethau hyn. Yn y gwasanaeth hwn roedd llawer o bwyslais ar olau, a’r arfer oedd cynnau’r eglwysi â channoedd o oleuadau cannwyll. Mae’r arfer wedi par mewn rhannau o siroedd Meirionnydd a Trefaldwyn hyd heddiw er taw gyda’r nos, yn hytrach nag yn y bore bach y cynhelir y gwasanaethau. Cenir carolau traddodiadol gan bartion sydd, yn aml, yn perthyn i’r un teulu a’r rheiny wedi trosglwyddo carol draddodiadol o genhedlaeth i genhedlaeth. Yn yr hen amser, cysylltid y plygain â chyfle am hwyl ac weithiau anhrefn gyda dynion meddw yn dod i’r gwasanaeth ar ôl noson o loddesta.’ Digwyddiadau fel hyn a arweiniodd at dranc yr arfer mewn sawl rhan o Gymru wrth i ymneilltuaeth a’r mudiad dirwest

gryfhau. Boncyn Gwyla I’r hen bobl, roedd arwyddocâd arbennig i’r arfer o losgi a pharatoi tân adeg y Nadolig. Ceir tystiolaeth a’r arfer hon ar draws Ewrop pryd y teflid boncyff sylweddol ar y tân ddydd Ndolig ond sircrhau bod y darn olaf ohono’n cael ei arbed i’w ddefnyddio i gynnau tân y flwyddyn ddilynol. Eto, mae dadlau ynlŷn â phwrpas hyn. Mynn rhai taw’r nod oedd cadw ysbrydion drwg a gwrachod i ffwrdd tra bo eraill yn honni bod y ddefod yn gysylltiedig â ffrwythlonedd ac â pharhad bywyd


ysgolion a phrifysgolion NEWYDDION Y G G YNYSWEN

NEWYDDION Y G G BODRINGALLT Fy Nadolig i

Wrth i mi ddeffro mae fy nghoesau yn symud i lawr y gwely i deimlo’r hosan Nadolig yn llawn. Rydw i’n neidio allan o fy ngwely ac yn rhedeg i fewn i ystafell wely Mam a Dad a gweiddi “Mae Sion Corn wedi bod!” yn uchel iawn. Mae Mam a Dad yn dweud “Ewch i nol dy hosan te,”yn flinedig. Ar ol i fi agor fy anrhegion bydd Dad yn mynd i lawr y grisiau ac yn taflu hosan lan y grisiau os mae Sion Corn wedi bod. Wedyn ar ol i fi agor fy anrhegion byddaf yn cael brecwast ac yn gwisgo ein dillad yn barod i fynd allan i dy nain a ty fy modryb. Nadolig Slymiau India

Ysgol Ynyswen Y Rhondda Annwyl Siôn Corn Gai beic pinc os gwelwch yn dda. Rydw i’n ferch dda iawn. Rydw i’n mynd I roi llaith a cwch I ti. Rydw i’n mynd I roi moron I Rwdolff. Rwy’n mynd i’r gwely 10 o’r gloch. Diolch Siôn Corn Oddi wrth Ellie. Ellie Morgan 7bl 1mis Lluniau : Band Ynyswen yn chwarae yn Nhreorci Sion Corn gan Olivia Morris Bl6

Wrth i mi ddeffro does dim cyffro yn fy nghorff. Does dim hosan Nadolig ar waelod fy mlanced. Dim hyd yn oed un anrheg ar ochr arall fy mhabell. Fydd dim cinio Nadolig gyda fi. Bydd rhaid i fi chwilio am fwyd yn y sbwriel. Mae rhaid i fi wisgo dillad carpiog trwy’r dydd. Does dim arian gyda fi i brynu unrhyw deganau am fy mrawd neu chwaer. Dydw i ddim yn gallu fforddio mynd i’r ysgol i wneud cardiau Nadolig neu dynnu lluniau pert. Rydw i’n dlawd. Ellie Brown Blwyddyn 4 YGG Bodringallt Y Teigr Annwyl Gan Ella Davies Blwyddyn 5 YGG Bodringallt Yng nghanol sŵ tlawd yn Ne Affrica roedd teigr o’r enw Syr Twm. Roedd Syr Twm a’i deulu yn llwglyd iawn a penderfynodd Syr Twm wneud rhywbeth, roedd Syr Twm yn mynd i ddianc o’r sŵ. Y diwrnod canlynol, cododd ceidwad y sŵ i ffeindio Syr Twm ar goll, edrychyn nhw ym mhobman. Ond, ar ochr arall y gat roedd Syr Twm yn ymborthi ar gwningen bychan. Cyn pen dim, roedd Syr Twm ar y cwch mawreddog. Yng nghanol Môr y Canoldir suddodd y cwch………

“AHHH!!! Ble ydw i??” holodd Syr Twm yn ystwrllyd. “Rwyt ti yn Bwlgaria, Ewrop.” atebodd llais distaw. Doedd Syr Twm ddim yn adnabod y llais yma. Cropiodd i fyny cyn bwro ei ben ar rhywbeth cadarn. “AWWWCH!!!” cwynodd Syr Twm bron â crio. “ Wyt ti’n iawn?” gofynodd y llais eto. Eisteddodd i fyny a gwelodd deigr prydferth. “Ydw, ydw!! Felly….. pwy wyt ti?” gofynodd Syr Twm yn ddryslyd. “ Lleucu yw fy enw i. Cwmpais i o’r cwch! Beth yw dy enw di?” Meddyliodd am eiliad cyn………. Y bore canlynol, roedd Syr Twm a Lleicu yn codi i ffeindio 30 o bobl yn syllu arnyn nhw. Un plentyn syllodd Syr Twm arno oedd bachgyn o’r enw Siôn. Roedd Sion yn 5 oed a daeth i’r sŵ gyda ei deulu. “Helo teigr hardd!!” meddai Sion. Sbonciodd i fyny yn chwim. Siaradodd am oriau gyda Sion bychan. Y noson honno daeth Sion fewn i’r sŵ gydag allwedd sgleiniog. “ Hello Syr Twm. Wyt ti eisiau dod adref gyda mi?” sibrydodd Sion. Cytunodd Syr Twm cyn deffro Lleici. Yn dawel cropiodd y tri mas o’r carchar eang. “ Ble ydyn ni’n mynd i aros?” gofynodd Lleucu. Meddyliodd Sion am funud…………. “Ahhh…… yn fy ngardd.” Y bore canlynol, deffrodd Syr Twm a Lleucu yng ngardd Sion. Yn rhyfedd, ni welodd mam Siôn Syr Twm na Lleucu. Penderfynodd Lleucu gael babi yn ngardd Sion a dyna beth ddigwyddodd………….. Flynyddoedd yn ddiweddarach Cafodd Lleucu dri babi o’r enw Mali, Efa a Cai. Ond, doedd mam dal heb eu gweld nhw. Ond, un diwrnod roedd Syr Twm, Mali, Efa a Cai yn chwarae cyn clywed sgrech anferth. Ffoniodd mam y sŵ a dyna ble aeth Lleucu, Mali, Efa a Cai…………. Rhedodd a rhedodd Syr Twm cyn ffeindio cwch crand. Neidiodd Syr Twm ar y cwch crand ac aeth Syr Twm nôl i Affrica. Yn nôl yn Affrica roedd Syr Twm yn frenin cryf, ond fydd neb yn anghofio am Syr Twm yn Mwlgaria lle cafodd ei achub.


NEWYDDION Y CYMER TALIESIN, VICKY AC ELIS YN CYNRYCHIOLI’R YSGOL YN YR ALMAEN Braf oedd derbyn llythyr yn llongyfarch Taliesin Evan-Jones o Flwyddyn 8, Vicky Rendell o Flwyddyn 9 ac Elis James o Flwyddyn 10 ar fod yn lysgenhadon mor arbennig i’r ysgol a’r cwm yn ystod taith i’r Almaen a drefnwyd gan Wasaneth Cerdd RCT yn ystod yr

Lluniau

hanner tymor. Cafodd y tri gyfle i berfformio mewn sawl lleoliad arbennig yn ystod y daith yn ogystal â gweld eira cynta’r tymor yn disgyn! Diolch i’r tri am eu hymroddiad. LLONGYFARCHIADAU KIERAN! Dymunwn yn dda i Kieran Wallen o Flwyddyn 9 wrth iddo ymgymryd â swydd Cadet y Maer. Cafodd Kieran ei enwebu ar gyfer y swydd oherwydd ei ymrwymiad i’r Cadets a’i waith yn y

Ein Dawnswyr Kieran Taliesin Viky ac Elis James Grease

gymuned. Llongyfarchiadau mawr iawn a phob hwyl ar y gwaith Kieran! LLONGYFARCHIADAU JACK! Llongyfarchiadau mawr i Jack Harries, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 10, ar ennill ei wregys du! GREASE! Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n rhan o berfformiadau bythgofiadwy ‘Grease’ eleni! Diolch yn fawr hefyd i bawb a fu wrthi – yn ddisgyblion, athrawon a theuluoedd!

Mor braf oedd gweld doniau disglair disgyblion Y Cymer yn serennu ar lwyfan y Parc a’r Dâr eto eleni. DAWNSIO A DATHLU’R ‘DOLIG Estynnwyd croeso cynnes a Nadoligaidd iawn unwaith eto i ddawnswyr y gymuned yn ein Dawns Dê ar Ragfyr y 4ydd. Diolch i Sarah Stone, ein Gweithwraig Ieuenctid am y trefniadau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Cymer unwaith eto cyn hir!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.