y gloran
rhifyn 276 2il gyfrol
papur bro blaenau’r rhondda fawr
20c
Tachwedd 12
RHYS JONES
ATHLETWR PARALYMPAIDD Cawn hanes y llanc ifanc hwn o Gwm Clydach sydd wedi llwyddo i drechu pob math o anfanteision a dod yn bencampwr. Adroddir yr hanes gan ei dad-cu, Ray Poulton, Cwm Clydach.
Pan oedd Rhys Jones o Gwm Clydach yn grwt, dioddefodd o lid yr ymennydd [Envirol
Encephilitis] a ddinistriodd ran o’i ymennydd a chafodd ei barlysu. Roedd ar fin marw, a’r meddygon yn ei ddisgrifio fel “achos anobeithiol”. Ond doedd ei rieni ddim wedi ystyried ei barodrwydd i frwydro na’i benderfyniad yn wyneb ei drallod. Datblygodd Rhys yn
gorfforol er gwaethaf y gwendid ar ei ochr chwith, ei ddiffyg golwg a’i drafferth i gofio. “cewch fod Rhys yn dysgu darn o waith ar ei gof, ei wybod yn fanwl, ond wedyn yn ei anghofio ymhen deng munud,” meddai ei fam, Debbie. Roedd Rhys yn benderfynol
o gael mynediad i brif ffrwd addysg. Mynychodd Ysgol Iau Cwm Clydach cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, yn Aberdâr. Dywedodd ei rieni fod staff y ddwy ysgol wedi rhoi cefnogaeth frwd i Rhys a phob anogaeth iddo yn ystod ei arddegau. Er gwaethaf pob rhwystr, enillodd Rhys 4 gradd B, 4 gradd C ac 1 gradd D yn ei arholiadau TGAU ddwy flynedd yn ôl, a’r llynedd llwyddodd i gael gradd C mewn Astudiaethau Crefyddol, Hanes a Datblygu Chwaraeon. Fel y dywedodd ei brifathrawes, Dr Sue Mitchell, “ Rydym mor falch o Rhys. Gweithiodd yn galed ac mae’n haeddu clod am gyflawni llwyddiant eithriadol.” Yn naturiol, roedd ei rieni, Debbie ac Allen wrth eu bodd, “Doedden ni ddim yn gwybod fyddai e’n gallu cerdded ar ôl ei salwch, na darllen ac ysgrifennu. Fydden ni ddim wedi breuddwydio mewn miliwn o flynyddoedd y byddai’n pasio arholiadau TGAU.” Yn goron ar ei gamp, cafodd Rhys ei benodi’n Ddirprwy Brif Fachgen gan yr ysgol y llynedd. Ymunodd Rhys â chlwb pêldroed Teigrod y Rhondda, cymdeithas wych sy’n darparu gweithgareddau ar gyfer plant ag anghenion arbennig. Chwaraeodd mewn nifer o gemau a llwyddo i sgorio nifer fawr o goliau. Yn sgil hyn, ymunodd Rhys ag Academi Chwaraeon Anabl Cymru a olygodd fod rhai iddo fynychu Coleg Hyfforddi Cyncoed i ymarfer rhedeg ddwywaith yr wythnos. Ym mis Medi 2010, es gyda fy ngwraig, Kay, i Gateshead i’w weld yn yn ennill ras 200 medr a chael gwefr wrth ei weld a chlywed y sylwebydd yn cyhoeddi ei enw ac enw ei ysgol. Yn 2011, ac yntau’n aelod o garfan Ysgolion Cymru, enillodd Rhys rasys 100m a 200m yn Sheffield a mynd ymlaen i gipio’r fedal aur mewn cystadleuthau yn
RHYS JONES parhad
Yr Iseldiroedd, Prague a Nottingham. Cyflawnodd yr un gamp ym Mhencampwriaethau Hŷn Cymru yng Nghaerdydd. Bellach, roedd Rhys yn Rhif 1 trwy ynysoedd Prydain a chafodd wahoddiad i ymuno â charfan Paralympaidd Prydain yn Leeds. Fe’i hapwyntiwd yn Llysgennad Ieuenctid dros Rondda Cynon Taf ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 a chafodd fynd i’r Almaen am wythnos o hyfforddiant. Y pryd hynny roedd Rhys yn 14eg yn y byd, ond un eiliad
o’r brig a’i olygon ar gemau Brasil yn 2016. Enillodd anrhydedd ‘Excellence in Disabled Sport’ mewn seremoni yn Llundain ym mis Tachwedd 2011 a dywedodd y Farwnes Tani Grey-Thompson, un o’r beirniaid, “Rhys yw fy Rhif 1 am fod ei CV yn afaelgar iawn am athletwr mor ifanc. mae’n dangos sut y gall chwaraeon drawsnewid bywyd unrhyw un ac rwy’n hoffi’r ffaith ei fod yn cwmpasu agweddau o sawl camp, nid athletau’n unig.” Roedd panel y dewiswyr yn cynnwys sêr mewn sawl camp a’r rhedwr 400m o Gymru, Iwan Thomas oedd yn cyflwyno’r seremoni. Fe’i syfrdanwyd gan hyder Rhys yn siarad o flaen torf enfawr. Yn goron ar y cyfan, enillodd Rhys Bersonoliaeth Ifanc Chwaraeon y Rhondda mewn seremoni a gynhaliwyd yn yr Ystrad ar 20 Mai 2012. Wrth gyflwyno’r wobr cyfeiriwyd at ei lwyddiannau, ei gariad at chwaraeon a’r anawsterau y bu raid iddo eu goresgyn ar y ffordd. Rhaid cyfaddef fy mod, wrth wrando, dan deimlad a’r dagrau’n llifo’n rhwydd wrth i’r bod un yn y neuadd sefyll i’w gymeradwyo. Roedd yn wefreiddiol dros ben. Dywedodd ei rieni, “Doedd dim syniad ‘da ni y byddai Rhys yn derbyn yr anrhydedd hon, gan ein bod yn tybio ei fod wedi cael ei enwebu ar gyfer y categori anabl yn unig. Rŷn ni’n ddiolchgar iawn i’r nifer fawr o westeion a ddaeth ymlaen i’w longyfarch ar ei lwyddiant.”
Ray a Kay gyda’u hwyr Osian Llyr sy’n mynychu Ysgol Gyfun y Cymer yn y Parc Olympaidd Llundain 8fed Medi
golygyddol y gloran Y FRWYDR I GADW PWLL NOFIO TREHERBERT Roedd penderfyniad aelodau cabinet Rhondda Cynon Taf i ddymchwel pwll nofio Treherbert yn siomedig am sawl rheswm. Yn y lle cyntaf, gwrthododd y cabinet ddod i Dreherbert i esbonio’r rhesymeg y tu ôl i’w penderfyniad er iddynt gael cynnig i ddewis dyddiad ac amser y cyfarfod. Mynegodd pobl yr ardal a ddaeth i’r ddau gyfarfod a drefnwyd i drafod y mater eu hawydd i gwrdd â’r cabinet a chael cyfle i’w holi. Dadleuent y dylai pob cynghorydd fod yn atebol i’r etholwyr sy’n eu cyflogi a bod hyn yn arbennig o wir am yr aelodau hynny sy’n bennaf cyfrifol am wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y cyhoedd. Anwybyddwyd eu cais yn llwyr. Yn yr ail le, seiliwyd y penderfyniad yn llwyr ar resymau
ariannol. Trafodwyd yr oblygiadau ariannol i’r cyngor yn drylwyr, ond mewn dogfen hirfaith a gyflwynwyd i’r cabinet, doedd dim un gair yn sôn am y golled gymdeithasol. A hithau’n ardal Cymunedau’n Gyntaf, mae Treherbert ymhlith cymunedau tlotaf blaenau’r cymoedd. Gwyddom taw canran isel o blant yr ardal, er enghraifft, sy’n gallu nofio a bod problemau diweithdra ac afiechyd yn rhemp. Prin bod cau’r pwll nofio’n mynd i wella’r sefyllfa. Cost tocyn dwy ffordd o Flaenrhondda i Ystrad Rhondda [ y pwll nofio agosaf] yw £4.10. Ar ben hyn byddai raid i berson di-waith dalu £1.70 i nofio - cyfanswm o £5.80. Pa deulu sy’n dibynnu ar fudddaliadau allai fforddio hyn? Fel arfer, aelodau tlotaf ein cymdeithas sy’n dioddef yn yr achos
hwn eto. Y trydydd rheswm dros ein siom yn y penderfyniad yw ei fod yn tanseilio un o brif amcanaion y Cynllun Datblygu Lleol [Local Development Plan]. Yn y cynllun hwnnw dangosir yn glir bod yna fyd o wahaniaeth rhwng de a gogledd y sir o ran cyfleusterau, iechyd, yr economi, cyflwr y tai ac yn y blaen. Bron nad yw’n adlewyrchu’r rhaniad rhwng y de a’r gogledd yn Ynysoedd Prydain. Mae diddymu cyfleusterau yn sicr o ledu’r agendor. Mae’n fwy anodd byth ddeall bod cyngor sy’n honni ei fod yn un asgell chwith yn gyfrifol am benderfyniad o’r fath pan ddylai fod yn ceisio dangos rhagfarn o blaid ei gymunedau tlotaf - sef yr hyn a alwai ein tadau yn egwyddorion sosialaidd. Un llygedyn o obaith yng nghanol y siom yw bod yr ymgyrch i gadw’r pwll nofio ar agor wedi uno’r ardal ar draws y pleidiau gwleidyddol a rhaid talu teyrnged i’r rheiny a roddodd o’u talent, eu hegni a’u hamser i geisio datrys y broblem dros y tair blynedd diwethaf. Mae cydweithrediad o’r fath yn argoeli’n dda i’r dyfodol a chyda throad y rhod economaidd, rhaid dal i obeithio y gellir ennill y frwydr hon yn y pen draw.
GWŶR Y GLORAN YN STOROM FAWR AMERICA
newyddion lleol TREHERBERT
Storom fawr gogledd America oedd prif destun siarad y cyfryngau ddechrau’r mis ac yn naturiol roedd pawb yn gofidio am ffrindiau a pherthnasau allai ddioddef o’i herwydd. Ar hyn o bryd mae un o’n gohebwyr yn y Pentre, Dr Anne Brooke, gartref yn Norfolk, Virginia yn gofalu am ei chwaer, Mary, sydd wedi bod yn dost yn ddiweddar. Pan gysylltodd Y Gloran ag Anne, da oedd clywed bod Norfolk wedi osgoi effeithiau gwaethaf y storom. Rhan o’r broblem i’r gwŷr tywydd oedd maint y corwynt oedd, yn ôl yr amcangyfrifon, tua mil o filltiroedd ar draws. Mae’n amlwg fod Norfolk ar yr ymylon a’i bod wedi ei harbed rhag gormod o ddifrod.
Efrog Newydd Pan gysyllton ni â David Lyn Evans, o Dreorci’n wreiddiol, ond sy wedi dysgu yn Ysgol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ers blynyddoedd, roedd yr hanes yn waeth o lawer. Yn 88 Street, yr ardal lle mae’n byw, roedd pethau’n weddol, ond dywedodd fod yr ardal islaw Stryd 39 wedi dioddef enbyd. Roedd ei ysgol, sydd wedi ei lleoli ar lan Afon Hudson, wedi dioddef gan lifogydd ac yn debygol o aros ar gau tan 7 Tachwedd. Roedd hyn yn peri gofid i David am fod rhaid i’r staff baratoi disgyblion ar gyfer y Fagloriaeth Ryngwladol a’r amser bellach yn brin. Pan siaradon ni â David, roedd e wedi bod yn mynd â bwyd i eglwys i’w ddosbarthu ymhlith trueiniaid ardaloedd fel Staten Island oedd
wedi colli eu cartrefi a’u heiddo. Ar 5 Tachwedd dywedodd fod nifer o ardaloedd yn y ddinas yn dal heb gyflenwad trydan ac roedd llifogydd wedi effeithio’n fawr ar system y trenau tanddaearol. Mae gan David dŷ hefyd yn Buconic ar Long Island ac roedd yn gofidio amdano gan ei fod o fewn 150 llath i’r môr. Trwy lwc, roedd y sawl a gododd y tŷ yn gyfarwydd iawn â’r ardal ac wedi codi’r sylfeini ryw 9 troedfedd uwchlaw’r ffordd fawr. Oherwydd hyn, er i’r dŵr gyrraedd o fewn trwch blewyn i’r llawr isaf, cafodd ei arbed rhag effeithiau gwaethaf y storom. Boston Aeth Siân Davies, Stryd Colum, Treorci ar daith i Boston dros hanner tymor. Pan aeth i ganolfan siopa ar y dydd
Llun cyntaf roedd gofid mawr fod y storom ar y ffordd a chyhoeddwyd bod y siopau’n mynd i gau’n gynnar a bod y system trenau hefyd yn mynd i gau lawr yn gynnar. Camau diogelwch oedd y cyhoeddiadau hyn oherwydd er i Boston ddioddef storom o fellt a tharanau ar y dydd Mawrth, fel Norfolk, Virginia phrofodd hi mo effeithiau gwaethaf Sandy. O ganlyniad roedd Siân yn gallu mwynhau ei gwyliau yn weddol normal. Yn Boston roedd rhai’n cwyno bod yr awdurdodau wedi gorymateb, ond gofal biau hi ar adegau fel hyn. Er bod miloedd o bobl wedi dioddef yn enbyd yn yr Unol Daleithiau, roedd yn dda clywed bod gwŷr y Gloran y cysyllton ni â nhw wedi bod yn arbennig o ffodus.
Ar 21 Hydref penderfynodd cabinet Rh. C. Taf yn unfrydol i ddymchwel pwll nofio Treherbert. Mae’r cynghorwyr lleol Geraint Davies ac Irene Pearce yn herio’r penderfyniad oherwydd mae rhaid cael caniatad cynllunio ac ymgynhoriad gyda’r cyhoedd cyn gwneud y weithred. Mae trigolion Treherbert yn dal i fod yn grac fod y cyngor heb gefnogi’r cynllun i ailagor y pwll. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd bydd CwmNi yn darfod fel Partneriaid Cymunedau Cyntaf Treherbert. Yn ei le bydd clwstwr o gymunedau, sef Cwmparc, Pentre, Ystrad a Threherbert. Gobeithio y bydd swyddfa’r clwstwr newydd yn cael ei leoli yn Nhreherbert. Yn ystod y mis diwethaf ailffurfiwyd Siambr Fasnach (Chamber of Trade) Treherbert. Bwriad y mudiad yw gofalu am siopau a busnesau’r ardal a’u hyrwyddo. Cadeirydd y mudiad yw Graham Harry. Mae Mr a Mrs Peter Booth o Dde Affrica wedi prynu tafarn y Wyndham yn Nhynewydd. Mae’r ddau wedi bod yn brysur yn adnewyddu’r adeilad ac maent yn gobeithio ailagor y dafarn cyn Nadolig. Pob dymuniad
da iddynt yn eu menter a chroeso i’r ardal. Llongyfarchiadau i Janet Slade Jones o Stryd Gwendoline am drefnu cyngerdd ragorol i godi arian at Cymorth i’r Arwyr (Help for Heroes). Roedd y Parc a Dâr dan ei sang i glywed itemau gan Gôr Meibion Treorci, Only Boys Aloud, Spotlight, Cwmni Opera Selsig a llawer mwy. Codwyd dros £7,000 dros yr achos. Llongyfarchiadau i Stewart Pearce a Mandy James ar achlysur eu priodas. Fe briododd y ddau yng nghapel Carmel a chafon nhw barti priodas yng Nhglwb Llafur Tynewydd. Ar hyn o bryd mae’r ddau ar eu mis mêl yn Ciwba.
TREORCI
Llongyfarchiadau calonnog i Mrs Kath Davies, Stryd Colum, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 80 oed yn ddiweddar. Mae Kath yn aelod brwd o’r W.I. ac yn weithgar hefyd gyda Chymdeithas yr Henoed yn Neuadd y Dderwen. Dymunwn iddi iechyd a phob hapusrwydd i’r dyfodol. Roedd yn ddrwg iawn gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Mary Pauline, y Stryd Fawr. Bu Mary yn ymgynghorydd addysg gynradd dan Ganol Mor-
gannwg cyn ymddeol ac roedd yn weithgar iawn ar bwyllgor Ymchwil i Gancr, Treorci. Cydymdeimlwn â’i meibion a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Llongyfarchiadau i Allison Chapman, Wonderstuff ar gael ei hethol yn aelod o Fwrdd llywodraethol Ysgol Gyfun Treorci. Llongyfarchiadau calonnog i Mr Elwyn Lewis, Woodland Vale ar ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed y mis diwethaf. Ar hyn o bryd mae Elwyn, diacon hynaf Hermon, yn gaeth i’r t¥. Mae ei gyd-aelodau a’i ffrindiau i gyd yn dymuno pob cysur iddo i’r dyfodol. Cafwyd sioe ysblennydd o dân gwyllt ar yr Oval, nos Sul, 4 Tachwedd. Trefnwyd y cyfan gan Glwb Rygbi Treorci a da oedd gweld torf sylweddol o bobl yn bresennol yn mwynhau’r adloniant, y stondinau a’r lluniaeth er gwaethaf y tywydd annymunol. Yn dilyn damwain tra ar ymweliad â Windsor, bu farw Mr Ken Simpson, cyn-berchennog y siop bapurau yn y Stryd Fawr. Yn frodor o Gwm Clydach, dychwelodd Ken i’r Rhondda gyda’i briod, Sylvia i agor busnes rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn ŵr cymwynasgar a chyfeillgar a gwelir ei eisiau’n fawr yn yr ardal. Cydymdeimlwn â
DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA EICH GOHEBWYR LLEOL : Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: Geraint a Merrill Davies Cwmparc: D G Lloyd Treorci: Mary Price Y Pentre Tesni Powell Anne Brooke Ton Pentre a’r Gelli Hilary Clayton Graham John
Sylvia a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Diane Locke, Stryd Stuart sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cynhaliwyd dathliad Nos Galan Gaeaf gan aelodau W.I. Treorci nos Iau 1 Tachwedd. Roedd sawl aelod wedi gwisgo het gwrach ar gyfer yr achysur a da oedd gweld amell ddiafol yn bresennol hefyd! Er gwaethaf yr holl ddwli, cafodd pawb noson wrth eu bodd yn mwynhau cwis ffotograffig Ann Barrett a’r sesiwn o Bingo a drefnwyd gan Pauline Worman. Cyfranogdd
pawb o luniaeth ysgafn i gloi noson hyfryd. Ddydd Iau, 5 Tachwedd, aeth nifer o aelodau’r W.I. i Bafiliwn Porthcawl ar gyfer Cyfarfod Hanner-blynyddol Sefydliad y Merched ym Morgannwg. Gaynor Richards, Castell Nedd oedd y siaradwraig wadd yn y bore. Soniodd hi am ei gwaith gyda gweithwyr gwirfoddol a gweithwyr cyrff elusennol yn y gymuned. Yn sesiwn y prynhawn, anerchwyd gan Miranda Polevechi a siaradoddyn ddiddorol iawn am ‘Fywyd Môr o gwmpas Cymru”. Mae’n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr ken Morgan, Stryd Stu-
art. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â’i weddw Edna a’r teulu cyfan yn eu colled. Cafodd aelodau Clwb Henoed Treorci ddiwrnod ir brenin pan ymwelon nhw â Threfynwy, ddydd Iau, 25 Hydref. Roedden nhw’n lwcus bod y tywydd yn ffafriol a chafodd pawb amser da. Diolch i’r rhai a fu’n trefnu. Llongyfarchiadau i Milwyn a Robert Pearce, Heol Ynyswen ar enedigaeth eu hŵyr newydd, Harry, mab i Natalie a Phillip, Y Stryd Fawr. Pob dymuniad da i Mr Donald Rees, Stryd Regent, sydd wedi bod yn gaeth i’w gartref ac yn yr
ysbyty yn ddiweddar. Gobeithio y bydd yn teimlo’n well cyn bo hir.
CWMPARC
Cynhelir Ffair Gaeaf Eglwys Sat Sior yn y neuadd ar fore Sadwrn 24ain o Dachwedd. Hefyd cynhelir Gwyl Goeden Nadolig yn St Sior ar 8fed o Ragfyr. Mae’n dda gweld y Ficer Brian Taylor yn ol yn yr eglwys ar ol bod yn dost am bwth amser. Llongyfarchiadau i Vicky a Nigel DAvies 103 Heol y Parc ar enedigaeth mab Declan, brawd i Xanda. Hefyd llongyfarchiadau
i Lis a Rob Taylor ar enedigaeth mab James, brawd i Frances ac wyr arall i Pam a Peter Williams.
19eg fydd Doug Harrison Hogg. Draw yn Llys Siloh, gobeithio y caiff Mike Powell ben-blwydd hapus iawn yn 63 oed ar 12 Tachwedd. Roedd pawb yn Llys Siloh yn flin iawn i dderY PENTRE byn y newyddion am Bu farw’r Major Ellen farwolaeth Joan Rossiter Evans, gynt o Lys Siloh a arferai fyw yn Fflat ond yn ddiweddar o 2 ond a fu ers tro yng gartref gofal Tŷ’r Porth. Nghartref Gofal Tyntyle Cyn iddi ymddeol, bu Ellen yn aelod blaenllaw lle y bu farw. Cydymdeimlwn â’i theulu a’i iawn o Fyddin yr Iachawdwriaeth gan fynychu ffrindiau yn eu colled. Er bod busnes smwddio eu pencadlys yn y PenPressed for Time wedi tre. Yno y cynhaliwyd symud adeilad, dydyn ei gwasanaeth angladnhw ddim wedi ymadael dol. Cydymdeimlwn â’i â’r ardal. Dymunwn nithod Rita a Betty a’r iddynt bob llwydddiant teulu oll yn eu profediyn eu cartref newydd yn gaeth. Stryd Llywelyn. Gwŷr yr ardal sy’n dathlu pen-blwyddi’r mis A sôn am y stryd honno, da yw gweld bod y hwn. Yn Nhŷ’r Pentre goleuadau traffig yn bydd Kenneth Clancy’n gweithio’n iawn unwaith mwynhau parti ar 13 Tach ac yn ei ddilyn ar y yn rhagor gan wneud
croesi’r stryd fawr yn fwy diogel i bawb. Am 7p.m. ar y nos Fawrth cyntaf o bob mis, cynhelir cyfarfod PACT yn Llys Nasareth. Mae cyfle ichi gwrdd â’ch Swyddog Heddlu Cymunedol a’ch cynghorwyr lleol, Maureen Weaver a Shelley Rees-Owen, i wyntyllu eich syniadau a thrafod unrhyw broblemau sy’n eich blin. Croeso i bawb! Ddydd Sadwrn, 10 Tachwedd cewch gyfle i ddechrau prynu eich anrhegion Nadolig yn Ffair Nadolig Eglwys San Pedr. Y Sadwrn canlynol (17 Tach) am 10a.m. bydd Byddin yr Iachawdwriaeth yn cynnal eu ffair hwythau. Dewch yn llu i’w cefnogi. Gobeithio nad oedd nos Iau, 8 Tachwedd yn rhy oer gan fod ein cynhor-
wyr lleol, Shelley ReesOwen a Maureen Weaver yn cysgu ma’s dros nos yng Nghaerdydd i godi arian at y digartref. Yn gwmni iddynt roedd un o gynghorwyr Treorci, Emyr Webster. Gobeithio iddynt lwyddo i ddenu digon o noddwyr i wneud noson ma’s yn yr oerfel yn werth chweil!
TON PENTRE
Colled i’r ardal gyfan oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Tom Davies, Heol Penrhys. Yn frodor o Wattstown, gweithiodd Tom gydol ei oes yng ngwasanaeth Co-op Canol Rhondda lle y daeth yn ddirprwy brif weithredwr cyn ymddeol. Bu Tom yn weithgar iawn mewn sawl cylch gan gynnwys y Clwb Rotari,
y Seiri Rhyddion a’r Clwb Golff. Roedd yn ŵr hoffus, uchel ei barch gan bawb. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol ym Methlehem, Treorci dan ofal y Parchedigion Cyril Llewellyn a Carwyn Arthur. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i’w weddw, Anne a’ii blant Nia ac Aled a’r teulu oll yn eu hiraeth. Pob dymuniad da i Mrs Margaret Thomas, Tŷ Ddewi, sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Rhondda. Dros nifer o flynyddoedd gweithiai Margaret yn galed iawn dros Dŷ Hafan gan lwyddo i godi llawer o arian i’r elusen deilwng
honno sy’n cefnogi plant ag afiechydon difrifol. Hi hefyd sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu dosbarthiadau Cymraeg i ddysgwyr yn Nhŷ Ddewi, menter sydd wedi bod o fudd i lawer o’r preswylwyr. Cofiwn amdani a gobeithio y cawn ei chwmni nôl yn Nhŷ Ddewi’n fuan. Er gwaethaf y tywydd cafodd Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr ffair Nadolig lwyddiannus iawn. Fel arfer roedd rhai wedi bod wrthi’n trefnu’r amrywiol stondinau a’r adloniant a da oedd gweld cymaint o bobl yn bresennol. llwyddwyd i godi swm teilwng o
arian. O hyn ymlaen bydd ein cynghorwyr lleol Shelley Rees-Owen a Maureen weaver yn cynnal eu cymhorthfa fisol yn Nhŷ Ddewi ar yr ail ddydd Mawrth o’r mis. Croeso i unrhywun alw heibio i’w gweld heb drefnu apwyntiad. Bydd Brawdoliaeth Ioan Fedyddiwr yn cynnal eu cinio Nadolig yn nhafarn Fagin’s nos Fercher, 5 Rhagfyr ond bydd y Clwb Cameo wedi achub y blaen arnynt gan eu bod nhw’n cynnal eu cinio dipyn yn gynharach ar 13 Tachwedd. Os ydych am ddysgu sut i drin cyfrifiadur mae
croeso ichi alw heibio i Lyfrgell Ton Pentre naill ai rhwng 10.30 - 11.30a.m. ar ddydd Llun neu rhwng 10.00 - 12.00 a.m. ar ddydd Mercher. Anelir y gwersi at ddechreuwyr pur, felly peidiwch ag ofni picio i mewn i’n gweld! Roedd yn ddrwg gan bawb glywed am farwolaeth Mr John Pomeroy, Stryd Arthur, Ystrad Rhondda. Roedd John yn hanu’n wreiddiol o Dreorci ond bu’n byw yn yr Ystrad ers blynyddoedd. Cofiwn am y teulu yn eu profedigaeth.
CYMDEITHAS GYMRAEG Cafodd y gynulleidfa luosog a ddaeth i gyfarfod mis Tachwedd y Gymdeithas noson ddiddorol iawn yng nghwmni’r nofelydd poblogaidd a’r ddarlledwraig adnabyddus, Bethan Gwanas. Yn ystod y dydd bu’n cynnal gweithdai yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda ac mae’n dweud llawer am yr argraff a greodd ar y disgyblion yno bod nifer fawr ohonynt wedi dod i wrando arni unwaith yn rhagor gyda’r hwyr. Y weithred o sgrifennu a sut y dechreuodd ar ei gyrfa fel awdur oedd ei phwnc. Soniodd am yr anogaeth a gafodd gan ei hathrawon yn Ysgol Dolgellau, er ei bod yn sgrifennu yn Saesneg yn bennaf yr adeg honno. Ar ôl treulio blwyddyn yn Ffrainc cafodd gyfle i gyfrannu i raglenni Radio Cymru a derbyn llawer o gefnogaeth gan R. Alun Evans a mynd ymlaen wedyn i gynhyrchu amrywiaeth o nofelau, i blant, oedolion a dysgwyr. Wrth fynd heibio cafodd gyfle i sôn am ei theithiau tramor a’r cyfnod y bu’n byw yn yr Affrig. Roedd yn amlwg oddi wrth y gymeradwyaeth a dderbyniodd ar y diwedd fod pawb wedi cael noson wrth eu
bodd. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Branwen Cennard a da oedd gweld nifer o aelodau newydd yn bresennol. Y mis nesaf bydd aelodau’r Gymdeithas yn cefnogi sioe Nadolig Ysgol Y Cymer a gynhelir yn y Parc a’r Dâr a bydd y cyfarfod nesaf yn Hermon ar 31 Ionawr pan ddisgwylir cael cwmni cyn-gyflwynydd HTV, Arfon Haines Davies. Croeso i bawb.
Llythyr: Dyfodol: Llais i’r Iaith Diolch i ymgyrchu a phleidlais a chefnogaeth ariannol Cymry Cymraeg yn bennaf, mae gan Gymru Senedd, Deddf Iaith, S4C a Choleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae llawer wedi’i wneud mewn 50 mlynedd. Ond mae llawer mwy angen ei wneud dros y Gymraeg, a llawer mwy y gallen ni ei wneud gyda’n gilydd. Mae Senedd yng Nghymru heddiw yn rhoi cyfle i ni wneud yn siŵr fod ein hiaith ni yn ganolog i bopeth sy’n cael ei basio o ran deddf a rheolau eraill ym mhob rhan o’n bywydau. Cynllunio ac adeiladu tai, gwasanaeth iechyd, ysgolion a cholegau, amgylchedd cynaliadwy, gofal a lles pobl o bob oed... mae’r rhain i gyd yn feysydd sy’n gwneud gwahaniaeth i’r Gym-
raeg. Dyma lle mae’r iaith yn mynd i fyw... neu farw. Y trueni mawr yw bod cyfle yn cael ei golli bob dydd i gryfhau’r Gymraeg ym mhob maes gan nad oes yna neb yn gweithio i lobïo dros yr iaith yn ein Senedd ym Mae Caerdydd. Mae gan bob mudiad arall dan haul sawl person yn lobïo drostyn nhw, ond does neb yn gwneud hynny dros y Gymraeg. Dyma’r ffordd i ennill brwydrau a gwneud gwahaniaeth, bellach. Roedd ymgyrchu a phrotestio yn gweithio cyn i ni gael Senedd. Mi ddylai fod yn bosibl cyflawni llawer rhagor erbyn hyn. Ond dydyn ni ddim yn defnyddio’r cyfle sydd ar gael. Pwrpas sefydlu Dyfodol i’r Iaith yw newid hynny, a sicrhau bod pobl yn gweithio dros y Gymraeg yn y man mwyaf effeithiol posib – yng
nghanol y gwleidyddion a’r gweision sifil yng Nghaerdydd. Mae angen cyflogi pedwar person proffesiynol i lobïo dros y Gymraeg ar draws ystod eang o feysydd. Er mwyn gallu talu cyflog y pedwar, mae angen swm mawr o arian. £200,000 bob blwyddyn. Swm anferth o edrych arno, ond swm y gallwn ni ei gasglu pe bai pawb yn helpu’n ymarferol i sicrhau dyfodol i’n hiaith. Mae miloedd o bunnoedd y flwyddyn wedi’u haddo’n barod gan aelodau Dyfodol i’r Iaith Mae Dyfodol yn agored i unrhyw un sy’n caru’r iaith Gymraeg ac nid yw ynghlwm wrth unrhyw blaid wleidyddol nac yn derbyn unrhyw nawdd cyhoeddus. £10 y mis yn unig yw tâl aelodaeth Dyfodol. A yw £10 y mis yn ormod i’w dalu er mwyn gwneud y Gymraeg yn iaith fyw ym mhob maes? A ydych chi am
estyn llaw? Ydych chi am fod yn rhan o’r cyfle gorau erioed i warchod a datblygu’r Gymraeg? Mae rhai wedi protestio, mae rhai wedi bod mewn carchar, mae rhai wedi rhoi llawer mwy na £10 y mis dros y blynyddoedd. Mae hwn yn gyfle arall i bob un ohonom ni. Nid mynd i lys barn, nid mynd i garchar, ond mynd i’n pocedi. Cefnogwch y Gymraeg - er mwyn ei dyfodol. Ymunwch â Dyfodol. Rhowch Lais i’r Iaith. Ewch i’r wefan: www. dyfodol.net i gael ffurflen ymaelodi. Mae croeso i gyfraniadau ariannol, yn ogystal. Yn ddiffuant Bethan Jones Parry, Llywydd; Heini Gruffudd, Cadeirydd; Angharad Mair, Is-Gadeirydd; Richard Wyn Jones, aelod o’r Bwrdd.
COFIWCH WEITHDAI LEMON BLUES MAE DAU OHONYN NHW CYN Y DOLIG DYDD MAWRTH 20 TACHWEDD GWNEUD PETHAU AR GYFER Y DOLIG - £6.00 DYDD MAWRTH 11 RHAGFYR YARN WRAPS AR GYFER Y DOLIG - YR ANRHEG DELFRYDOL - RHAI FFRAMIAU AR GAEL I’W PRYNU HEFYD - £6.00 Melissa Warren, Lemon Blues, 73 Stryd Llywelyn, Y Pentre 01443422266/438939 Mae rhagor am waith Melissa a’n crefftwyr lleol drosodd
EIN CREFFWYR LLEOL
Mis Tachwedd, y Nadolig yn nesau ac mae’n amser perffaith i’ch atgoffa o weithgareddau ein crefftwyr lleol. Yn lle ymuno a thyrfaoedd Caerdydd i ddod o hyd i’r anrheg delfrydol ‘na, beth am cael cip ar y wledd wedi‘i pharatoi ar eich cyfer chi jyst lawer yr heol fan hyn?
Ond yn cyntaf cip ar un o’r cyfres o ffeiriau crefft poblogaidd iawn wedi’i trefni gan Alison (Wonderstuff) yn Neuadd y Dderwen ym mis Hydref. Diolch yn fawr i Melissa Warren a dynnodd y lluniau dros Y Gloran.
Mel de Castro Pugh a’i gwaith (chwith) a gwaith Helen Silvers (de) a Melissa a’i gwaith.
Nesa tamaid i aros pryd - lluniau o waith rhai o 14 o grefftwyr bydd yn dangos eu gwaith yn sioe nesa Melissa Warren ym Mharc Treftadaeth yn Nhrealaw,
gyda llaw mae’r poster gan Maggy Corkhill o’r Pentre a llun y poster gan Gayle Rogers o Ystrad. Dydd Sul Tachwedd 25.
ysgolion a phrifysgolion NEWYDDION Y G G BRONLLWYN
Rhian Homewood ac esiamplau o’i gwaith.
CALENDR TACHWEDD - 21 Tachwedd Clwb Gemau Olympaidd yr Urdd/ Urdd Olympic Games Club Trefnwyd clwb i ddisgyblion Blwyddyn 2 a 3 gan yr Urdd pob Dydd Mercher o 3.30 yp tan 4.30 yp. Pris pob sesiwn w £1.
Clwb Cerddoriaeth / Music Club Caiff disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 aros ar ol ysgol heno i gymryd rhan mewn clwb cerddoriaeth tan 4.30yp.
ysgolion a phrifysgolion NEWYDDION Y G G YNYSWEN Ar ddydd Mercher 7fed o Dachwedd, daeth y Brodyr Gregory a’u ffrindiau i’r ysgol. Roedd Rhys Cycle yn rhannu’r neges arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gyda ni. Daeth Llew llysiau i son am bwysigrwydd deiet cytbwys. Canodd Owain ac Olwen “La la la la bwytwch bump o ffrwythau a llysiau y dydd.” Yna, roedd Sian a Laura gyda’r
neges “Peidiwch taflu sbwriel rhowch e yn y bin.” Yn olaf, daeth y Brodyr Gregory a’u ci gan floeddio’r neges “Rhowch y rhaw o dan y baw, rhowch y baw yn y bin.” Cofiwch chwithau y neges!! Bore llawn hwyl a sbri.