Y Gloran

Page 1

y gloran papur bro blaenau’r rhondda fawr

rhifyn 275 2il gyfrol

20c

hydref 12

SIOE ARDDIO LLWYDDIANNUS YNYSWEN Ivor Mace Ynyswen a rhai o’i winwns anferth!

Ddydd Sul, 9 Medi, cynhaliwyd 51fed. Sioe Flynyddol Cymdeithas Arddio Ynyswen yn y Neuadd Les. Roedd y trefnydd, Les Hill, wrth ei fodd gyda safon y cynnyrch a arddangoswyd a gyda nifer y bobl a alwodd i mewn i weld yr arddangosfa arbennig o flodau a llysiau. Roedd Les yn hael ei glod i’r rhai a fu wrthi’n paratoi’r neuadd ar y nos Sadwrn flaenorol; y rhai a drefnodd luniaeth o dan gyfarwyddyd un o hoelion wyth y Gymdeithas, Ann Hill; y ffordd ddiffwdan y gweinyddwyd y cwbl, gan gynnwys

dosbarthu’r gwobrau, gan Julie Rees; ac, yn olaf, arbenigedd y beirniaid a gwaith gofalus y stiwardiaid. Daeth rhai i gystadlu o bell ac agos, gan gynnwys gorllewin a chanolbarth Cymru a Lloegr, ffaith sydd ynddi’i hunan yn fesur o’r parch cyffredinol at safonau Sioe Ynyswen. Ysgrifennydd y Gymdeithas, Ivor Mace a’r Llywydd, Graham Lewis a gafodd yr anrhydedd o gyflwyno’r gwobrau i’r buddugwyr fel a ganlyn:

Llysiau Y casgliad gorau o lysiau: Jim Thompson, Undy, ger Pont Hafren; Ddysgl Orau y Gymdeithas Lysiau Genedlaethol: Ivor Mace, Ynyswen; Yr hambwrdd gorau: Jim Thompson; Y nifer fwyaf o bwyntiau am amrywiaeth o gynnyrch: Ron Jones, Ysrad Rhondda. Blodau Medal Arian y Gymdeithas Chrysanthemum am flodau gorau’r sioe: Cyril Powell, Castell Nedd; Medal Efydd y Gymdeithas Chrysanthemum: Bryn Stonebridge,

Rhaeadr; Medal Arian y Gymdeithas Dahlia Genedlaethol am y blodau gorau: Mark Ashton, Port Talbot; Medal Efydd y Gymdeithas Dalhia: Graham Lewis, Rhondda Fach; Medal Arian y Gymdeithas Carnation Genedlaethol am y blodau gorau: Ivor Mace; Y nifer fwyaf o bwyntiau yn y sioe: Mark Ashton. Wrth gloi, rhaid cyfeirio’n arbennig at ymgeisydd ifancaf y sioe, sef Liam Hoffman, Treherbert, un o ddisgyblion Ysgol Gymraeg


Sioe Arddio parhad

Ynyswen, a gipiodd tair gwobr gyntaf, dwy ail a dwy drydedd. Dyma enw i gadw llygad arno i’r dyfodol!

Rhai yn edmygu cynnyrch y sioe.

CYMDEITHAS GYMRAEG 2 TREORCI

Daeth gynulleidfa deilwng ynghyd yn festri Hermon nos Iau 27 Medi ar gyfer cyfarfod agoriadol Cymdeithas Gymraeg Treorci. Y siaradwr gwadd oedd y Prifardd Aled Gwyn oedd yn traddodi darlith ar y testun ‘Hiwmor y Gorllewin’. Cafwyd ganddo ddarlun byw o gymdeithas Castell Newydd Emlyn a’r cylch a chawsom glywed ganddo hanes rhai o gymeriadau lliwgar y fro a’r troeon trwstan a ddigwyddai o dro i dro. Yn arbennig, cafwyd hanes Ysgol Ramadeg Llandysul a rhai o’r athrawon oedd yno yn cyflwyno addysg Saesneg ganolog mewn ardal oedd yn un o gadarnleoedd y Gymraeg. Erbyn hyn, roedd yn ddoniol gwrando, er enghraifft, ar eu hymateb i farwolaeth Siôr VI a sylweddoli cymaint mae ein hagwedd wedi newid erbyn hyn. Cafwyd gan y darlithydd hefyd gyfeiriadau lu at waith rhai o’n llenorion, gan gynnwys Waldo Williams a D.J. Williams. Yn rhannol, dyma’r ddarlith a draddodwyd gan Aled Gwyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni y bydd cyfle i’w gweld cyn bo hir ar y teledu. Dangosodd y gymeradwyaeth a gafodd ar y diwedd cymaint roedd pobl wedi mwynhau. Da hefyd oedd gweld rhai wynebau newydd yn y gynulleidfa. Y nofelydd a’r ddarlledwraig boblogaidd, Bethan Gwanas fydd yn annerch yn y cyfarfod nesaf ar 25 Hydref am 7.15p.m. Croeso i bawb.

golygyddol y gloran Un o’r cynlluniau canmoladwy a sefydlwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw’r Placiau Gleision i goffau pobl a digwyddiadau arbennig ar draws y fwrdeistref, yn ogystal â nodi mannau o arwyddocâd hanesyddol. Yn ddiweddar, dadorchuddiwyd plac yn Lower Terrace, Cwmparc, man geni’r cerflunydd, Robert Thomas sy’n gyfrifol am gerflun trawiadol ‘Teulu’r Glowr’ yn Llwynypia, nifer o gerfluniau yng Nghaerdydd ac mewn trefi a dinasoedd eraill ar draws Prydain. Un o swyddogaethau’r placiau yw ein hatgoffa am ein treftadaeth gyfoethog a’r cyfraniad clodwiw a wnaed gan dr-

igolion yr ardal i’n hanes a’n diwylliant fel cenedl. Wrth ddod i wybod mwy am ein hanes, gobeithio y byddwn oll yn parchu ein hamgylchedd fwyfwy ac yn gweithio i’w gynnal a’i ddatblygu. Gobeithir ychwanegu at y placiau yn flynyddol ac mae’n bosib y bydd modd datblygu Llwybrau Treftadaeth ar draws y sir maes o law. Mae modd i unigolion enwebu rhai i’w cynnwys yn y cynllun ac, yn sicr, mae digon o bobl sy’n deilwng o blac heb eu hanrhydeddu hyd yn hyn. Un bwlch amlwg yw beirdd a llenorion a ddewisodd ysgrifennu yn y Gymraeg. Trwy ymdrechion cymdeithasau lleol llwyddwyd i goffau cyfraniadau nodedig

/Yn y gêm yn erbyn Gilfach Goch ar 8 Medi, Jamie Summers - Carreg Filltir Nodedig Chwaraewr Rygbi - drosodd ///

roedd Jamie Summers, capten tîm rygbi Treorci, yn dathlu cynrychioli’r clwb am y ddeuganfed tro. Dim ond un chwaraewr arall yn hanes y clwb all ddweud hyn. Dechreuodd taith Jamie ar yr Oval 11 Mai, 1996 mewn gêm Adran 1 yn erbyn Castell Nedd. Doedd e ddim yn ddechrau da wrth i Dreorci colli o 31 - 58 a dros y chwe thymor nesaf, dim ond 10 gwaith y chwaraeodd Jamie dros y clwb. Fe gafodd dymor llawn yn 2002-03 gan chwaraeym mhob un o’r 34 gêm ond, gwaetha’r modd, dim ond un gêm a enillodd Treorci trwy gydol y tymor! Ers hynny, fodd bynnag, ar wahân i ysbaidfer ar lan y môr yn Aberafon, mae Jamie wedi wedi bod yn hollbresennol yn y tîm, gan fod yn gapten am y pum tymor diwethaf. Ei gyfaill, Vernon Lloyd, yw’r unig un arall a arweiniodd y tîm gymaint. Rhaid dweud bod y cyfnod diweddar hwn wedi bod yn un ffrwythlon wrth i Dreorci gael eu coroni’n bencampwyr Adran 3

Ben Bowen, y bardd a fu farw’n 24 oed a hefyd James Kichener Davies, y dramodydd a’r gwleidydd. Deallwn hefyd fod bwriad gan Llenyddiaeth Cymru osod plac ar y tŷ yn Stryd Fawr Treorci lle y ganed y bardd a’r ysgolhaig o offeiriad, Euros Bowen. Ond beth am Rhydwen Williams a sgrifennodd gymaint am Gwm Rhondda yn ei gerddi a’i nofelau a Thomas Williams [Bryfab], awdur ‘Pan oedd Rhondda’n Bur’, nofelig wedi ei lleoli yn y cyfnod cynddiwydiannol. Roedd ei gyfraniad ef yn cael ei ystyried yn ddigon arwyddocaol i lywodraeth Prydain Fawr ddyfarnu pensiwn sylweddol iddo tua diwedd ei oes. Ond

rhag inni roi gormod o bwyslais ar lenorion, rhaid peidio ag anghofio pwysigrwydd gwyddonwyr a diwydianwyr. Y bylch amlwg yn y maes hwn yn ardal Y Gloran yw Donald Davies a aned yn Stryd Dumfries, Treorci ac a wnaeth gyfraniad hollbwysig i ddatblygiad e-byst a’r rhyngrwyd ac Isaac Jones, yr argraffydd o Dreherbert y cyfrannodd 3 ei wasg gymaint i fyd cerddoriaeth gan ddwyn caneuon poblogaidd fel ‘Myfanwy’ i olau dydd am y tro cyntaf. Dyna rai awgrymiadau, ond, yn ddi-au mae llawer rhagor y gellir eu gwneud. Felly, ewch ati ar unwaith mae ffurflen enwebu i’w chael ar wefan Rhondda Cynon Taf. Golygydd

[Y De-ddwyrain] yn 2009, ennill dyrchafiad o Adran 2 [Y Dwyrain] yn 2010 a chipio Cwpan yr Adran Ganol yn 2012.Mae Jamie Summers yn cael ei gydnabod fel blaenwr caled a digyfaddawd sy’n uchel ei barch gan ei gyd-chwaraewyr a’i wrthwynebwyr. Cafodd ei siâr o anafiadau dros y blynyddoedd ond ni leihawyd ei frwdfrydedd un iot. Eleni, bydd yn cyrraedd 36 oed ac mae’n bygwth taw dyma fydd ei dymor olaf yn lliwiau’r clwb. Ond prin y bydd Treorci’n colli ei wasanaeth yn llwyr gan ei fod eisoes yn hyfforddi’r tîm ieuenctid o dan 16. Mae ganddo ef a’i bartner, Caryl, un ferch Alex sy’n 11 oed a chan i’r pâr gyhoeddi eu dyweddiad yn ddiweddar, peidiwch â synnu gweld yr hen warior o flaen yr allor cyn bo hir! Beth bynnag a ddigwydd, mae clwb rygbi Treorci a’i gefnogwyr yn drwm yn nyled Jamie a dymunwn iddo dymor llwyddiannus wrth y llyw eleni a phob dymuniad da i’r dyfodol.


Mewn seremoni gwobrwyo a gynhaliwyd nos Fawrth Medi’r 18fed yn Neuadd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg galwyd Dewi Roger Price ymlaen i dderbyn Medal y Canghellor o law Helen Marshall, Diprwy Is-Ganghellor y Brifysgol. Mae Roger, sy’n hanu o Dreherbert ac yn fab i’r diweddar John a Bec Price, Stryd Bute, yn gynfyfyriwr yn y Brifysgol gan iddo gofrestru yno yn 1958 pan oedd yn Goleg Technolegol. Mae llawer tro ar fyd wedi bod ers hynny yn hanes y coleg ac yn 4 hanes Roger Price! Derbyniodd y Fedal hardd am y cyfraniad a wnaeth i fywyd Cymraeg yn ardal Pen-ybont ar Ogwr lle mae wedi byw ers nifer o flynyddoedd. Bu’n ysgrifennydd ymroddgar

MEDAL YM MLWYDDYN Y GEMAU OLYMPAIDD

Eisteddfod y Glowyr am ddeunaw mlynedd ar hugain gan greu cysylltiadau diwylliannol â phobl a chymdeithasau ledled y byd. Pan ddaeth cyfnod y pyllau glo dyfnion i ben yn ne Cymru llwyddodd Roger mewn ffordd ddeheuig i newid y sefydliad a’i droi yn Bencampwriaeth Bandiau Pres Cenedlaethol a’r gefnogaeth yr un mor frwd. Bu’n Swyddog Hamdden Cyngor Ogwr gan lwyddo i gynnal pob math o

weithgareddau diwylliannol yn yr ardal hon. Cyfrannodd yn helaeth i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr ac yn ddiweddarach bu’n gadeirydd Côr Bro Ogwr a sefydlwyd yn dilyn yr Eisteddfod yn 1998. Olyniaeth arbennig Mae Roger mewn olyniaeth arbennig gan i Fedal Canghellor Prifysgol Morgannwg gael ei chyflwyno yn ystod y deng mlynedd diwethaf i enwogion fel y cerddor Karl Jenkins,

y cricedwr Hugh Morris a’r chwaraewr rygbi a’r anturiaethwr Richard Parks. Nodwedd arbennig o’r seremoni a gynhaliwyd y flwyddyn hon oedd ei fod yn Gymraeg gan fod y fedal wedi ei chyflwyno i Roger wedi noson o gyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr y Ganolfan Cymraeg i Oedolion sy’n ran o’r Gyfadran Busnes a Chymdeithas. Llongyfarchiadau cynnes iawn Roger!

newyddion lleol TREHERBERT

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod bwriad Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddymchwel pwll nofio Treherbert. Daeth dros 100 o drigolion yr ardal i Glwb Llafur Tynewydd i wrthwynebu’r cynllun. Mae’r cyngor yn honni fod rhaid gwario £360,000 i ailagor y pwll a dim ond £57,000 i’w ddymchwel. Ond nid ystyriwyd yr effaith y caiff y penderfyniad hwn ar iechyd trigolion pen ucha’r cwm. Rhondda Cynon Taf yw’r sir waethaf yng Nghymru yn ôl nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn unrhyw ymarfer corff ac mae 44% o blant y cwm yn methu nofio. Roedd llawer yn y cyfarfod yn grac iawn ac yn gofyn i aelodau’r cabinet sy’n gyfrifol am y penderfyniad i ddod i gwrdd â nhw. Mae hi bron yn bedair blynedd ers pan wnaethpwyd y penderfyniad gwreiddiol i gau’r pwll a does dim un aelod o’r cabinet wedi cytuno i ddod i gyfarfod cyhoeddus i drafod y fater. Mae cyfarwyddwyr Pwll Nofio Treherbert yn ffyddiog ei bod yn bosib i’r pwll nofio fod yn gynaliadwy yn y tymor hir yn enwedig o gofio bod cwmni ynni Vattenfall wedi addo £620,000 y flwyddyn i gymuned Treherbert pan fydd y melinau gwynt yn dechrau cynhyrchu trydan ym 2016. Gobeithio pawb yw y bydd y cyngor yn newid ei feddwl ac yn gweithio gyda’r

gymuned yn Nhreherbert i ailagor y pwll. Yn ddisymwyth, bu farw Maurice Hancock un o’r trigolion mwyaf adnabyddus yn Nhreherbert. Gweithiai Mr Hancock yn ddiflino dros glwb bechgyn Treherbert trwy gydol ei fywyd ac mae e wedi dylanwadu ar genhedlaethau o bobl ifainc. Fe oedd un o aelodau gwreiddiol y clwb pan agorwyd e ym 1934 ac roedd yn drysorydd am dros hanner ganrif. Ddwy flynedd yn ôl derbyniodd yr MBE am ei wasanaeth dros y mudiad. Bydd colled fawr ar ei ôl . Cynhaliwyd yr angladd mewn lle oedd yn arbennig iawn iddo, sef Clwb y Bechgyn. Cydymdemlwn â’i ferch, Catherine [Iwerddon] a’i fab, Roger [Treorci] ynghyd â’i frawd Edward Hancock, [Treorci] a’r holl deulu yn eu hiraeth. Cynhelir ymgynghoriad swyddogol ym mis Hydref i ystyried newidiadau i’r heol fawr yn Nhreherbert. Mae’r argymhellion yn cynnwys symud y groesfan wrth Spar lan at yr hen fanc a symud y safle bysys lawr o Ystafell y Santes Fair i’r Bute. Bydd corneli y stryd fawr yn ymestyn allan er mwyn i yrwyr sy’n ymuno â’r heol weld yn well . Gobeithio bydd y newidiadau yn gwneud stryd fawr Treherbert yn fwy ddiogel i bawb. Ym mis Awst daeth Beenish Gill yr holl ffordd o Pakistan i Dreherbert er mwyn gweithio am flwyddyn yng nghapel Blaen-ycwm. Roedd Beenish yn

athrawes yn Faisalabad. Mae pawb yn y capel wrth eu boddau i’w chael hi yma ac mae hi wedi ymgatrefu’n dda iawn. Daeth hi dan gynllun y mudiad ‘ Time for God’ lle mae pobl ifanc yn mynd tramor am flwyddyn i weithio gydag eglwysi. Mae tîm o bobl ifanc o All Nations Church yng Nghaerdydd yn cynnal gwasanaeth arbennig ‘Encounter’ unwaith y mis yng nghapel Blaeny-cwm. Roedd y gwasanaeth cyntaf yn llwyddianus iawn a chynhelir yr un nesaf ar nos Sul yr 29 Hydref am 7.30. Croeso cynnes i bawb.

DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA EICH GOHEBWYR LLEOL : Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: Geraint a Merrill Davies

Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion ar 6 Medi am farwolaeth Mrs Lorena Rich, 92 oed, o Stryd George lle roedd hi wedi byw am dros drigain mlynedd. Mae’r teulu am ddiolch i bawb am eu negeseuau o gydymdeimlad a blodau. Maen nhw’n arbennig o ddiolchgar i’r nyrsys ardal, nyrsys McMillan a Marie Curie a staff Y Bwthyn, Pontypridd am eu gofal tyner.

Cwmparc: D G Lloyd Treorci: Mary Price Y Pentre: Tesni Powell Anne Brooke Ton Pentre a’r Gelli: Hilary Clayton Graham John

5


TREORCI

6

Trist yw cofnodi marwolaeth Gareth Evans, Tŷ Bethania yn dilyn cyfnod hir o afiechyd. Maged Gareth yn Stryd Bute ac ar ôl gorffen yn yr ysgol aeth i weithio fel clerc ar y rheilffordd. Carai astudio, yn enwedig ieithoedd. Maes o law hyfforddodd i fod yn athro gan arbenigo mewn Ffrangeg a bu am flynyddoedd yn aelod o staff Ysgol Gyfun Ferndale. Ymgartrefodd yn Ynysybwl a chynrychioli’r gymune4d honno yn aelod dros Blaid Cymru ar Gyngor Tref Pontypridd. Pan symudodd i fyw yn Nhrefforest, dysgodd Gymraeg ym Mholitechnig Cymru

a dod i siarad yr iaith yn rhugl. Bu’n aelod gweithgar o’r Blaid yn yr ardal cyn i’w iechyd ddirywio. Teithiodd yn eang yn Ewrop, gan ffafrio mynd o wlad i wlad ar y trên - ei gariad cyntaf. Cydymdeimlwn â’i frawd, Keith, a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Bu farw Mrs Eirlys Davies, Stryd Luton yn annisgwyl ar 20 Medi a hithau wedi dychwelyd i Ysbyty Cwm Rhondda ar ôl treulio cyfnod gyda’i mab yn Llundain. Roedd Eirlys, gweddw y diweddar Ivor Davies, yn aelod selog o’r WI lle y byddai’n mwynhau canu yn y côr a hefyd

o’r Gymdeithas Henoed. Cydymdeimlwn â’i mab, Howard a’r teulu yn eu colled a hefyd ag Esme Holmes, ei ffrind ffyddlon am nifer o flynyddoedd. Llongyfarchiadau calonnog i Mrs Doris Merriman, Stryd Hermon, oedd yn dathlu ei phenblwydd yn 96 oed, 24 Medi. Dymunwn iddi bob hapusrwydd i’r dyfodol. Pob dymuniad da i Sioned Cox, Stryd Luton a fydd yn mynd i Awstria i ddilyn cwrs fel hyfforddwraig sgio ac i ddysgu Almaeneg. Pob lwc iddi gyda’i menter newydd. Dymunwn yn dda i Mrs Mary Pauline, Y

Stryd Fawr, sydd ar hyn o bryd yng Nghartref Gofal Pentwyn. Yn ffodus, mae ei chymdoges, Mrs Mairona Jones yn gwmni iddi yno a hefyd Vic Davies, Prospect Place. Pob cysur a rhwyddineb i’r tri a fu mor weithgar yn y gymdogaeth. Llongyfarchiadau i Ann a Ron Barrett, Stryd Dumfries sydd newydd ddathlu eu priodas arian a phob dymuniad da iddynt i’r dyfodol. Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Miss Audrey Evans, gynt o’r Stryd Fawr a Stryd Tynybedw ond a fu ers rhai blynyddoedd yn preswylio yn

Nhŷ Ystradfechan lle y derbyniodd bob gofal a charedigrwydd. Bydd llawer yn ei chofio fel Audrey’r Post oherwydd bu’n gwasanaethu yn y Swyddfa Bost leol am flynyddoedd lawer. Cydymdeimlwn â’i chwaer, Megan sy’n byw yng Nghaeredin a’i nith, Siân. Cofiwn hefyd am ei ffrind ffyddlon, Marion yn ei hiraeth. Ddydd Iau, 13 Medi, aeth aelodau’r Clwb Henoed ar wibdaith i Fro Morgannwg, Penarth a Phorthcawl Cawson nhw ginio ardderchog yn y Customs Huse, Penarth ganol dydd a mwynhau diwrnod i’r brenin, er gwaethaf y tywydd. Mae’n dda deall bod Mr Alwyn Phillips, Teras Tynybedw, ma’s o’r ysbyty erbyn hyn. Dymunwn iddo adferiad

buan. Yr un yw ein dymuniad i Byron Thomas, Stryd Senghennydd sydd newydd dderbyn llawdriniaeth yn Ysbyty’r Waun, Caerdydd. Penderfynodd Pwyllgor Cynllunio RhCT ganiatau hawl i godi tŷ ar dir Trelawen ac i droi stablau ar fferm Glyncoli yn annedd. Cynhaliwyd cwis gan Bwyllgor Cancer UK Treorci yn nhafarn y RAFA, nos Lun, 24 Medi. Mr Noel Henry, Ynyswen oedd y cwisfeistr fel arfer a llwyddwyd i godi swm sylweddol o arian at yr achos teilwng hwn. Diolch i bawb a ddaeth yno i gefnogi. Tristwch i bawb oedd clywed am farwolaeth Michelle Cox [gynt Matthews], merch y diweddar Ken Matthews a’i

wraig, Honoria. Roedd Michelle yn wraig ifanc iawn a chydymdeimlwn â’i phriod, Tim a’i merch fach, Harley, yn eu colled fawr. Mawr oedd y llawenydd ymhlith gwragedd yr ardal wrth weld siop ddillad merched, Wardrobe, yn Stryd Bute, yn ailagor. Dymunwn bob llwyddiant i’r rhai sydd wedi mentro arni. Da yw gweld un siop wag yn llai ar y stryd fawr. Cynhaliodd Eglwys Sant Matthew a’r Gymdeithas Henoed fore coffi ar y cyd i godi arian at elusen Nyrsys McMillan ddydd Sadwrn, 29 Medi. llwyddwyd i godi swm teilwng i hyrwyddo’r gwaith hanfodol a wneir gan yr elusen hon ledled Prydain. Bu farw Mrs Phyllis Morgan, Stryd Seng-

hennydd yn ddiweddar. Roedd Phyllis yn wraig hynaws, boblogaidd. Cydymdeimlwn â’i phriod Islwyn a’r meibion, Graham a Keith, yn eu hiraeth.

CWMPARC

Roedd yn flin gan bawb yn yr ardal dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Ken Winter, Heol Conway. Bu Ken, a hanai o Stryd Glynrhondda, Treorci, yn gweithio ar y rheilffyrdd ac am nifer o flynyddoedd bu’n gynghorydd yn cynrychioli Cwmparc a Threorci ar Gyngor Morgannwg Ganol. Roedd yn uchel ei barch yn yr ardal a bydd 7 bwlch mawr ar ei ôl. Cydymdeimlwn â’i weddw Elisabeth ac a’r teulu


Dymuniadau gorau i Mrs Joy Bishop sydd yn ymddeol ar ol 30ain o flynyddoedd ar staff Ysgol Gynradd Cwmparc fel athrawes, dirprwy brif athrawes a phrifathrawes. Bu’n boblogaidd gan bawb, staff a rhieni o’r dechrau a dymunir ymddeoliad hapus iawn. Dymuniadau gorau i Mrs 8 May Morgan a dorodd ei hysgwydd tua mis yn ol a chofion hefyd am Gweorge ei gwr sydd yng Nghartef Tyntyla ers dros blwyddyn. Mae Barry Watkins sydd newydd ddod adref o’r ysbyty. Chofion am ei briod Phyllis sy’n gaeth i’r ty ers peth amser. Dathliwyd Gwyl Gynhaeaf yn eglwys St Sior gyda’r Swper arferol. I fewn y dathlu cafwyd amser o ganu (Songs of Praise). Mae’r eglwys yn dal i gynnal Ciniawau Plwy ar y dydd Mercher cyntaf o bob mis. Bydd eisiau rhoi gwybod i Denise Smith a’r trefnwyr ymlaen llaw am y pryd bwyd am bris rhesymol.

Y PENTRE

Mae trigolion Llys Siloh am estyn croeso cynnes iawn i Mrs Ada May Donnelly sydd wedi symud i mewn i Fflat 2 yn ddiweddar. Dyw Mrs Donnelly heb symud yn bell iawn gan fod ei chartref blaenorol yn Stryd Albert. Mae pawb yn gobeithio y bydd yn hapus ac yn gyfforddus yn ei chynefin newydd. Mae pawb yn y Llys hefyd am longyfarch Diane a Mansel ar enedigaeth eu hwyres newydd Ava Sophia, merch Victoria ac Adam. Pob llwydd a hapusrwydd i’r un fach. Pen-blwydd Hapus i Pat Edwards, eto o Lys Siloh, oedd yn dathlu ar 7 Hydref. Boed i’r flwyddyn nesaf yn eich hanes fod yn un iachus a llwyddiannus. Galwodd Maureen Weaver a Shelley Rees Owen, y ddau gynghorydd lleol newydd heibio i’r llys 2 Hydref i gwrdd â’r preswylwyr a gwrando ar eu cwynion a’u dymuniadau. Yr un diwrnod, roedd yn dda gweld Chris Tolliday, aelod o staff Gwasanaethau Cymdeithasol Rh.C.T. yn taro i mewn. ydych chi wedi clywed am gynllun ‘Chwarae Plant’? Wel, bob dydd Mercher rhwng 5.30 - 7.15p.m. mae cyfle i blant i ddilyn pob math o weithgareddau a chwarae gemau amrywiol yn ddiogel ac o dan gyfarwyddyd. Am ragor o fanylion, ffoniwch Ben Greenway ar 43321. Dyna braf oedd hi i glywed clychau Eglwys Sant Pedr yn cael eu canu

ddydd Gwener 28 Medi pan ymwelodd tîm o glochyddwyr â’r ardal. Mae pawb yn gweld eisiau sŵn y clychau ac yn croesau pob cyfle i’w clywed yn eu holl ogoniant. Mae’n ddrwg gan bawb glywed bod Fashion Fabrics y Pentre yn mynd i gau ar ôl masnachu yn yr ardal am dros 40 mlynedd. Dymunwn yn dda i Pam, y perchen, i’r dyfodol gan ddiolch iddi yr un pryd am ei gwasanaeth i’r ardal. Os oes rhywbeth yn eich blino, mae croeso ichi ddod i gyfarfodydd PACT a gynhelir yn Llys Nazareth ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis rhwng 6 - 7pm. Fel arfer mae cynrychiolydd yr heddlu a’n cynghorwyr lleol ar gael i drafod eich problemau a chynnig help.

TON PENTRE Yng nghyfarfod mis Medi o’r Gymdeithas Cameo derbyniwyd y newyddion trist am farwolaeth un o’i sylfeinwyr, Mrs Kath Griffiths. Talwyd teyrngedau iddi yn ystod y cyfarfod gan Mrs Crinllys Davies a Mrs Thelma Hughes a chafwyd munud o ddistawrwydd er cof amdani. Roedd Kath hefyd yn aelod ffyddlon o’r Eglwys Gynulleidfaol Saesneg. Cofiwn am ei theulu a’i ffrindiau oll yn eu profedigaeth. Y siaradwr gwadd yng nghyfarfod y Clwb Cameo oedd Mr Matthew Davies a gyflwynodd agweddau ar waith Am-

gueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan lle mae’n aelod o’r staff. Roedd ganddo nifer o wrthrychau diddorol a ddefnyddiwyd i egluro’i sgwrs. Cafwyd ymateb ffafriol iawn gan yr aelodau sydd yn benderfynol o drefnu taith i’r amgueddfa yn y dyfodol agos. Diolchwyd i’r siaradwr yn Gymraeg a Saesneg gan Mrs Margaret Thomas. Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cameo yn digwydd ym mis Hydref a chynhelir Te’r Hydref yn nhafarn Fagins. I ddechrau dathliadau’r cynhaeaf, trefnwyd swper ar gyfer aelodau Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr nos Wener, 28 Medi. Mwynhaodd pawb oedd yn bresennol y lluniaeth sylweddol a ddarparwyd ar eu cyfer. Parhawyd y dathliadau ar y Sul canlynol pan drefnwyd gwasanaeth cynhaeaf arbennig yn y prynhawn. Llongyfarchiadau i Andrew Mallin, Dinam Park Avenue, ar fod yn aelod o’r tîm a ddaeth yn ail mewn cystadleuaeth triathalon yng ngogledd Lloegr ac yn sgil hynny, llwyddo i godi swm sylweddol o arian at elusen y Llwy Bren sy’n cefnogi rhai â nam meddyliol. Tri oedd yn y tîm oedd yn gorfod rhwyfo canŵ ar draws Llyn Windermere, wedyn seiclo 26 milltir ac ar y diwedd rhedeg 9 milltir ar draws tir mynyddig. Tipyn o gamp! Doess ond gobeithio y bydd Andrew wedi dadflino digon i gymryd ei le nôl yn nhîm rygbi Treorci cyn bo hir iawn.

Yn rhan o Fore Coffi Mwya’r Byd a drefnwyd gan elusen Nyrsys MacMillan, cynhaliwyd bore coffi yn yr Eglwys Gynulleidfaol Saesneg fore Gwener, 28 Medi. Diolch i bawb a drefnodd ac a gefnogodd yr achlysur. A sôn am elusen MacMillan, bydd Masond, y fferyllydd poblogaidd sy’n cadw fferyllfa’r Gelli, yn rhedeg yn hanner marathon Caerdydd ar 16 Hydref gan obeithio codi arian at yr achos da hwnnw. Mae e am ddiolch i bawb sydd wedi ei noddi hyd yma ond mae digon o amser eto os ydych yn awyddus i gyfrannu. Galwch yn y siop am fanylion. Cafwyd gwledd o ganu a dawnsio yn Theatr y Ffenics yn ddiweddar pan berfformiwyd sioe newydd sbon yn dwyn y teitl ‘13’ gan gwmni ifanc Act 1. Mae bron 40 o bobl ifainc o dan 18 yn y cwmni a braf oedd eu gweld yn mwynhau eu hunain ar y llwyfan. Cymerwyd y prif rannau gan Rebecca Owen, Chloe Thomas, Lucy Elson, Morgan Westcott, Callum Howells a James Owen. Cyfarwyddwr y cwmni yw Mr Rhys Williams sydd i’w longyfarch ar ei waith. Pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol. Mae’n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Bill Spiller, Maendy Grove. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â’i ferched, Ann a Marilyn a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Cofiwn hefyd am deuluoedd Mrs Katie Griffiths, Ton Row a Mr Terry Burge James, Stryd Canning a fu farw’n ddiweddar.

CWIS Y GLORAN

[Y mis hwn, mae ein cwisfeistr sefydlog, Graham Davies John, yn profi ein gwybodaeth am Gwm Rhondda] 1. Enwch y strydoedd hyn sydd wedi eu lleoli yn Nhrealaw. i) Prifddinas yn y Dwyrain Canol. ii) Gwlad yn y Dwyrain Canol iii) Afon yn y Dwyrain Canol. 2. Ble cafodd Sefydliad y Deillion ei agor yn y Rhondda yn 1927? 3. Beth oedd teitl nofelig Thomas Williams, Brynfab am y Rhondda? 4. O ba wlad y daeth Archibald Hood, y ceir cerflun ohono yn Llwynypia, i sefydlu pyllau glo yn y cwm yma? 5. O ba sir yng ngorllewin Cymru y daeth William Evans, sylfaenydd cwmni enwog Corona, yn y Porth? [Yr hen enw] 6. Pwy gyflwynodd Siartr i Fwrdeistref y Rhondda yn 1955? Ble cynhaliwyd y seremoni? 7. Ym mha flwyddyn y daeth y Rhondda’n rhan o Rondda Cynon Taf? 8.Ym mha dŷ opera enwog y canodd Côr Meibion Treorci yn 1986? 9. Ym mha flwyddyn y caniatawyd i dafarnau agor ar y Sul yn y Rhondda ar ôl bwlch o 80 mlynedd? 10. Ym mha flwyddyn y cynhaliwyd Ras Hwyl y Rhondda / Rhondda Fun Run i godi arian at elusennau teilwng?

Atebion: 1. i) Stryd Cairo ii) Egypt Rd iii) Nile Rd 2. Llwynypia 3. ‘Pan oedd Rhondda’n Bur’ 4. Yr Alban 5. Sir Benfro 6. Dug Caeredin 7. 1996 8. Tŷ Opera Sydney, Awstralia 9. 1961 10. 1980

oll yn eu profedigaeth. Cynhaliwy y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Sant Siôr, Cwmparc o dan ofal y Parch Gareth Cousins. Cafwyd caniatad cynllunio gan Bwyllgor Cynllunio Rh.C.T. i godi 3 thŷ ar dir yn ymyl Tany-coed, Teras Vicarage.

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno Llanast! Cyfieithiad Gareth Miles o ‘Le Dieu du Carnage’ gan Yasmina Reza 2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast! Dau bâr o rieni diwylliedig yn cwrdd i drafod eu plant anystywallt. Cyn hir mae chwarae’r oedolion yn troi’n chwerw ac mae’n llanast go iawn yn y lolfa! Drama ddoniol a deifiol. Gyda: Emlyn Gomer, Rebecca Harries, Lauren Phillips a Llion Williams. Canllaw oed: 14+ 8.00pm Tachwedd 22, 23, 24 - Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Caerdydd,CF24 4YE. Gwybodaeth tocynnau: 02920646900 7.45pm Tachwedd 29, 30 a Rhagfyr 1 - Theatr Bara Caws, Uned A1, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, LL55 2BD. Gwybodaeth tocynnau: 01286676335/01286675869

9


DATHLU LLWYDDIANT SARAH

Llongyfarchiadau mawr i

un o gyn-fyfyrwyr Y Cymer ar ei llwyddiant haeddiannol yn seremoni wobrwyo ‘Myfyriwr y Flwyddyn’ a gynhelir yn flynyddol gan Griffin Mill. Derbyniodd

Sarah’r wobr ‘Myfyrwraig y Rhondda’ eleni – diwedd teilwng i yrfa ysgol lewyrchus iawn. Bellach mae Sarah wedi cychwyn ar ei gradd berfformio yn yr Atriwm yng Nghaerdydd ar ôl

derbyn ysgoloriaeth i astudio yno. Dymunwn bob llwyddiant iddi ac estynnwn ein diolchiadau iddi am bob cyfraniad i fywyd ysgol yn Y Cymer. Llongyfarchiadau mawr iawn i ti Sarah!

YSGOL GYFUN Y CYMER

Cafodd criw o ddisgyblion Blwyddyn 7 gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai Celf a Chrefft a drefnwyd gan fenter ‘Bright Sparks’ yn ddiweddar yn Llwydcoed. Cawsant gyfle i fwynhau sesiynau amrywiol, o greu doliau i blant i ddylunio cardiau cyfarch. Diolch yn fawr i’n Gweithiwr Bugeiliol, Mr Sion Owen am drefnu’r daith.

ysgolion a phrifysgolion

10

CELF A CHREFFT I FLWYDDYN 7

11

BORE COFFI MACMILLAN

Diolch yn fawr iawn i fyfyrwyr Blwyddyn 12 am drefnu bore coffi llwyddiannus iawn ar ddydd Gwener, 28ain o Fedi. Llwyddwyd i gasglu £195 tuag at yr elusen.


BRAWD A CHWAER YN CYRRAEDD Y BRIG

Llongyfarchiadau mawr i Katie a Steffan Atherton ar eu llwyddiannau mewn cystadleuaeth Karate ddiweddar. Llwyddodd Steffan i gipio’r fedal aur a Katie y fedal arian mewn cystadleuaeth genedlaethol a drefnir gan y gynghrair Karate genedlaethol. Gwych iawn!

12

YSGOL GYFUN TREORCI DIWRNOD PONTIO I GOFIO

Ym mis Medi, fel gwobr am eu gwaith caled yn ystod eu gwersi Cymraeg, gwahoddwyd 95 o ddisgyblion Blwyddyn 6 yr ardal a thu hwnt i Ysgol Gyfun Treorci am y diwrnod i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gyda’r Adran Gymraeg. Rhoddodd y diwrnod yma cyfle i’r disgyglion wneud ffrindiau newydd yn ogystal â rhoi cyfle iddynt i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan

i ffurfioldeb y dosbarth. Ar hyn o bryd mae dwy athrawes yn ymweld â’r ysgolion lleol ac yn dysgu’r iaith i flwyddyn pump a chwech.

Hargreaves a dawnsio disgo gyda disgyblion y 6ed dosbarth. Profodd y bwyd o’r ffreutur ym mloc dau yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion hefyd! Gweithiodd disgyblion y chweched yn galed yn helpu’r staff a’r disgyblion i fwynhau’r diwrnod. Roedd Blwyddyn 6 yn glod i’w hysgolion ac Mwynheuodd y disiddyn nhw eu hunain gyblion chwaraeon ac edrychwn ymlaen gyda Miss Oliver, Drama gyda Miss Grif- at groesawu mwy o ddisgyblion Blwyddyn fiths, coginio gyda 6 yn y dyfodol agos. Miss Howell, dawnsio gwerin gyda Mrs.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.