Y Gloran

Page 1

y gloran

ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 1

20c

rhifyn 268 2il gyfrol

ionawr 12

AR DRYWYDD TEULU AWYRENNWR papur bro blaenau’r rhondda fawr

Mae hi bellach yn 66 blynedd er diwedd yr Ail Ryfel Byd ac mae llawer o'r cymdeithasau a sefydlwyd ar gyfer cyn-filwyr yn dirwyn i ddiwedd eu hoes. Un o'r rhain yw cymdeithas y RAFA. Gyda'r aelodau sy'n dal yn fyw yn prysur heneiddio a phrinhau, penderfynodd Cangen Treorci o'r gymdeithas gau ei drysau am y tro olaf a bydd y clwb o hyn allan yn cael ei redeg fel tafarn preifat. Dros y blynyddoedd etifeddodd y clwb eiddo o wahanol fathau, yn eu plith cofeb i ŵr ifanc o Dreorci o'r enw Gomer Richards. Wrth waredu ei eiddo, roedd y swyddogion yn awyddus i drosglwyddo gwrthrychau o'r fath yn ôl i unrhyw aelodau o'u teuluoedd oedd yn dal ar dir y byw. Ond roedd dod o hyd i deulu Gomer Richards yn dipyn o broblem. Hanes Gomer Yn ôl y gofeb, saethwyd ei awyren Lancaster ME566 i lawr yn ymyl Hanover yn yr Almaen 14 Ionawr 1944 a lladdwyd yr 8 aelod o'r criw.

Gwŷr ifanc iawn oedd pob un ohonynt a'r

hynaf, y peilot, ond yn 21 oed. Fe'u claddwyd

gyda'i gilydd yn Wernigerode. Nodir ar y plac bod Gomer, oedd yn gyfrifol am y gynnau ôl, ond yn 18, er iddi ddod yn wybyddus yn ddiweddarach ei fod, mewn gwirionedd, yn 20 oed. Trwy ymchwilio i gofnodion yr RAF, cafwyd ei fod yn sarjant yn 101 Squadron a'i fod yn perthyn i'r Royal Airforce Volunteer Reserve. Nodwyd yn ogystal taw ei rieni oedd David a Blodwen Richards o Dreorci. Trwy ddyfalbarhad Mrs Pat Jeremiah, Cwmparc, sy'n ymddiddori mewn hel achau, cafwyd bod David Richards wedi priodi Blodwen Price o Stryd Augusta, Ton Pentre yn 1911 a llwyddodd Jill Thomas, o Lyfrgell Treorci, brofi eu bod wedi ymgartrefu yn 22 Heol Ynyswen, Treorci. Yn anffodus, doedd perchnogion presennol y tŷ hwnnw ddim yn gallu helpu a chafwyd fawr o lwyddiant wrth holi rhai o drigolion hynaf y stryd. Fodd bynnag, pan holwyd Gareth Evans,

drosodd i dudalen 2


ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 2

golygyddol

y gloran

E-bost: ygloran@hotmail.com

Un o bleserau cyfnod y Nadolig yw derbyn llyfrau'n anrheg a chael digon o amser i'w darllen. Cyfrol hynod o ddiddorol a ddaeth i law eleni oedd, 'Vanishing Kingdoms' o waith yr hanesydd o dras Gymreig, Norman Davies. Astudiaeth dreiddgar yw hon o nifer o ymerodraethau a chyfundrefnau Ewropeaidd a fu'n bwerus ar un adeg ond sydd bellach wedi diflannu a mynd yn angof. Yn wir, cyflwynir y gyfrol, a hynny yn y Gymraeg, 'I'r angofiedig'. Honna Davies fod pob cyfundrefn wleidyddol yn egino, yn datblygu ac wedyn yn marw a dyna a ddywed sy'n rhwym o ddigwydd i'n gwladwriaeth ni, y Deyrnas Gyfunol. Myn fod y broses hon wedi dechrau wrth i Iwerddon ennill ei hannibyniaeth a bod y datganoli cymharol ddiweddar a welwyd yng Nghymru, yn yr Alban ac yng ngogledd Iwerddon yn arwyddion pellach o'r datgymalu anorfod a ddigwydd maes o law. Mae Davies yn ystyried y ffactorau a all gyflymu'r broses megis

2

gwrthwynebiad rhai Saeson i sybsideiddio'r tair cenedl ddatganoledig mewn cyfnod o gyni economaidd. Gwelsom enghreifftiau o hyn y llynedd yn eu hymateb i bresgriptiynau rhad ac am ddim Cymru a'r ffaith bod ein myfyrwyr a rhai'r Alban yn talu ffioedd prifysgol is. Rhagwela Davies y bydd y gwrthwynebiad hwn yn cryfhau wrth i'r sefyllfa economaidd ddirywio. Beth a ddigwyddai wedyn petai economiau un o wledydd mwy Ewrop, fel Sbaen neu'r Eidal yn methu, a llywodraeth asgell dde Prydain yn gwrthod cyfrannu? Yn barod, gwelsom Carwyn Jones ac Alex Salmond yn collfarnu David Cameron am ddefnyddio'i feto yn Ewrop, gan ddadlau bod hynny'n effeithio'n ddrwg ar Gymru a'r Alban. Petai'r SNP, dyweder, yn cynnal refferendwm a olygai ddewis rhwng ffarwelio â'r Deyrnas Gyfunol neu aros yn rhan o'r Undeb Ewriopeaidd, fyddai hi ddim yn syndod ei gweld yn ennill y bleidlais. O gol-

AR DRYWYDD ionawr 2012 TEULU YN Y RHIFYN HWN AWYRENNWR

y gloran

Teulu Awyrennwr -1 Golygyddol/ -2 -4 NEWYDDION TREHERBERT TREORCI CWMPARC Y PENTRE TON PENTRE/ Y GELLI/YSTRAD - 5-6-7-8 -9 -10

Ysgolion/Prifysgolion -11-12

li'r Alban, byddai holl gydbwysedd Deyrnas unedig yn newid yn ddramatig a phobl Cymru a gogledd Iwerddon yn gorfod ailystyried eu sefyllfa. Ar drothwy blwyddyn newydd felly, wynebwn sefyllfa economaidd a gwleidyddol ansicr a diddorol. Ni ddisgwylir unrhyw newidiadau sydyn yn ystod y flwyddyn i ddod, ond gallai'r etholiadau lleol, yn enwedig yn yr Alban, fod yn rhyw arwydd o sut mae'r gwynt gwleidyddol yn chwythu. Beth bynnag a ddigwydd, dyletswydd ein gwleidyddion ni o bob plaid fydd amddiffyn buddiannau ein cymunedau bregus. Gallai hyn olygu

parhad

Stryd Luton, a drigai yn rhif 25 yn y chwedegau, dywedodd fod ganddo ryw frith gof o David Richards. Ymhen ychydig, cysylltodd â'r Gloran eto a dweud ei fod yn credu bod gan Mrs Anita Dyer, Oak Tree Court, gysylltiad â'r teulu. Pan ffoniwyd Mrs Dyer cafwyd ei bod yn nith i Gomer Richards, merch ei chwaer, Thelma! Erbyn hyn mae'r plac yn ei meddiant a swyddogion y RAFA wrth eu bodd eu bod wedi dod o hyd i aelod o'r teulu sydd yn falch o dderbyn darn gwerthfawr o'u hanes i'w gadw'n ddiogel. gwneud dewisiadau anodd ynglŷn â pha lwybr i'w ddilyn. Dymunwn yn dda iddynt yn eu tasg, gan obeithio y byddant yn sicrhau bod 2012 yn flwyddyn newydd dda inni i gyd. Gol

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISON gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 3

GWYR Y GLORAN AR WASGAR ^

Y tro hwn, cawn hanes

David Lyn Evans

sy'n dod yn wreiddiol o Dreorci ond sydd, ers blynyddoedd bellach, ar staff UNIS - Ysgol Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. Ces i fy magu yn Nhreorci a derbyn fy addysg yno ac wedyn yn Ysgol y Bechgyn, Y Porth a Phrifysgol Caerdydd. Yn ddiweddarach des i Manhattan ac astudio hanes ym Mhrifysgol Columbia a chael swydd yn UNIS, Ysgol Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig sy'n chwaerysgol i Goleg San Dunawd ym Mro Morgannwg. Rwyf yma o hyd yn dysgu hanes, ac wrth fy modd yng nghwmni'r myfyrwyr a'm cyd-athrawon. R欧n ni'n griw cymysg iawn! Wrth fy ochr yn Swyddfa'r Adran, mae desgiau Albanwraig a Ffrancwr yn mwynhau'r olygfa odidog dros East River.

Roedd hi'n arfer gweithio'n rhan o'r t卯m sy'n golygu Hansard yn San Steffan tra ei fod e'n dysgu athroniaeth i'n myfyrwyr hynaf. Mae'r sgwrsio trawsbynciol a thrawswladol bob amser yn ddiddorol. Dw i'n gyfrifol am ddysgu un o gyrsiau'r chweched dosbarth ar gyfer y Fagloriaeth Ryngwladol. UNIS oedd un o'r tair ysgol

wreiddiol a arloesodd raglen addysgol y Fagloriaeth sydd, erbyn hyn, wedi lledu ar draws y byd. Mae bywyd cymdeithasol staff yr ysgol yn amrywiol ac yn ddiddorol. Heno bydd y Gyfadran yn cynnal cinio ar long a fydd yn hwylio i lawr East River, mynd o gwmpas y Statue of Liberty, cyn troi n么l ac angori ychy-

dig i'r de o'r ysgol. Dw i'n siwr y bydd yn noson hudol gan ei bod yn debygol o fod yn noson glir, serennog a byddwn yn gweld holl oleuadau'r ddinas ac yn cael hwyl fawr yng nghwmni'n gilydd. Mae bywyd yn Manhattan bob amser yn gyffrous. Wythnos yn 么l es i a Sara, fy ngwraig, i

parhad drosodd

Geraint Davies (Fferyllydd) BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB

59 Stryd Gwendoline, Treherbert 3


ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 4

GWYR Y GLORAN AR WASGAR parhad

weld 'La Boheme' yn nhŷ opera'r Metropolitan. Rŷn ni'n ddilynwyr opera selog, minnau byth oddi ar imi weld Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru'n perfformio 'Tosca' yng Nghaerdydd flynyddoedd yn ôl. Noson gofiadwy oedd pan welon ni Bryn Terfel yn 'The Tales of Hoffman' yn y Met. Roedd ei lais yn anhygoel a grym ei bresenoldeb ar y llwyfan yn hoelio sylw'r gynulleidfa'n llwyr. Mae gan Lywodraeth Cymru gynrychiolydd tra effeithiol yn Efrog Newydd

o'r enw Catrin Brace ac mae Sara a minnau'n ceisio cefnogi cymaint o'r achlysuron mae hi'n eu trefnu ag y gallwn. Yn gynharach eleni, dangoswyd y ffilm 'Resisance' ac roedd yw awdur, Owen Sheers, o'r Fenni yno, ynghyd â'r cyfarwyddwr. Mwynheais ei nofel wreiddiol yn fawr a daeth Owen atom i'r ysgol i'w drafod â myfyrwyr y chweched dosbarth. Cafodd groeso brwd a bu trafod brwd ynglŷn a beth fyddai wedi digwydd tasai Hitler wedi ennill y rhyfel gan fod plot y nofel yn gredadwy iawn. Rŷn ni'n byw mewn

rhan o'r ddinas a elwir yn Upper east Side, taith gerdded o ryw chwarter awr o Amgueddfa'r Metropolitan a Central Park. Byddaf yn ymweld â'r ddau le'n bur aml a hefyd Oriel Neue, nid yn unig i weld gwaith arlunwyr yr Almaen ac Awstria, ond hefyd i flasu'r coffi a'r teisennod

gorau yn Efrog Newydd! Wel dyna ryw flas ichi o fy mywyd yma yn yr Unol Daleithiau gyda chofion at fy ffrindiau yn y Rhondda gan ddymuno ichi Flwyddyn Newydd Dda iawn yn 2012.

Gwefan UN International School http://www.unis.org/

A DDAW'R GORON I'R RHONDDA UNWAITH ETO ELENI?

Eleni, cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandŵ [Llandow] ym Mro Morgannwg. Un o brif gystadleuthau'r Ŵyl yw'r un am y goron. Fe'i rhoddir i'r bardd sy'n sgrifennu'r gerdd hir orau ar y mesurau rhydd ac yn y ddwy eisteddfod ddiwethaf a gynhaliwyd yn yr ardal hon, fe ddaeth y goron yn ôl i Gwm Rhondda. Tybed a ddigwydd hynny eleni eto? Roedd Eisteddfod 1920 yn achlysur arbennig oherwydd dyma'r unig dro i lowr ennill y wobr tra'n gweithio o dan ddaear - a gŵr ifanc a weithiai ar y pryd ym mhwll y Standard, Ynyshir oedd yn fuddugol. Ei enw oedd James Evans a hanai o

4

Beulah yn Sir Aberteifi yn wreiddiol, ond a fu'n lletya yn 13 Station St a 36 Ynys St, Ynyshir. 'Drannoeth y Drin' oedd testun y bryddest y flwyddyn honno, ond pan gododd yr Athro W.J. Gruffydd i draddodi ei feirniadaeth, cwynai llawer o'r dorf enfawr o 10,000 -

12,000 oedd yn bresennol na allen nhw ei glywed, a bu rhaid mynd i nôl megaffôn! Ond doedd yr hyn oedd gan y beirniaid i'w ddweud ddim yn galonogol o gwbl. O'r 17 a ddaeth i'r maes, dim ond gwaith tri oedd yn werth eu ystyried, ond er gwaethaf hynny, cafwyd James Evans yn deilwng 'r wobr. Fodd bynnag, roedd y goron yn rhy fach i'w ben a phan gododd ar ei draed fe gwympodd i'r llawr! Dyma'r unig dro i James

Evans ennill yn y Genedlaethol. Cyn mynd yn lowr, mae'n debyg iddo ddilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a derbyn hyfforddiant i fod yn weinidog. Yn anffodus, bu rhaid iddo roi'r gorau i'w fwriad oherwydd bod ganddo nam ar ei leferydd.

Yr Ail Dro Y tro nesaf y cynhaliwyd yr Eisteddfod yn y Fro oedd 1966 a rhieni Gwynfor Evans, Mr a Mrs Dan Evans, perchnogion siopau yn y dre, a roddodd y goron. Fe'i gwnaed o blastig ac arian ynghyd â melfed porffor a disgrifiad Y Faner ohoni oedd,

parhad ar dudalen 10


newyddion lleol

ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 5

DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT Ar ôl dioddef cystudd hir, ddechrau Rhagfyr bu farw Mr Cliff Doughty, Stryd Stuart yn 87 oed. Roedd Cliff yn ŵr busnes llwyddiannus yn yr ardal, yn berchen ar siop fara oedd yn enwog am safon ei chynnyrch. Roedd yn bobydd o'r radd flaenaf a bu'n cynnal dosbarthiadau i ddysgu'r grefft i eraill. Yn ŵr siriol a chyfeillgar bob amser, gwelir ei eisiau'n fawr gan bawb oedd yn ei adnabod. Cyflwynwn ein cydymdeimlad i'w wraig, Barbara ac i'r plant Clare, Delyth ac Ian a'u teuluoedd yn eu profedigaeth. Ddydd Sadwrn, 17 Rhagfyr, cynhaliodd CwmNi ei Ffair Nadolig yng Nghlwb Llafur Tynewydd. Daeth nifer fawr o bobl i fwynhau eu hunain a chafodd pawb amser da yn dathlu'r Ŵyl. Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu mae Railtrac wedi rhoi caniatâd swyddogol i gerbydau groesi'r rheilffordd ar bwys gorsaf Treherbert. Er bod pobl wedi bod yn defnyddio'r groesfan ers blynyddoedd, dim ond nawr gallan nhw wneud

hynny'n gyfreithlon.

Trembath, Eileen Place. Cofiwn yn Mae siop newydd wedi dyner am y teuluoedd agor yn Stryd Bute, sef hyn yn eu profedigaeth stiwdio tatŵ. Dymunwn ac bob llwyddiant i'r fenter. estyn ein cydymdeimlad Hefyd, mae siop trin cywiraf iddynt. gwallt Olivia Grace wedi symud i Dreorci. TREORCI

Roedd yn flin gan bawb Ym mis Rhagfyr cynhali- dderbyn y newyddion wyd cwis yng Nghlwb am farwolaeth Mr Rygbi Treherbert, Elwyn Samuel, Stryd Tynewydd Dyfodwg. Yn ŵr gan Ffrindiau Pwll Nofio gweddw, roedd Elwyn yn ei ddydd yn adnabydTreherbert. Cafwyd noson wrth fodd pawb a dus fel peldroediwr llwyddiannus ac yn llwyddwyd i godi dros gymeriad poblogaidd £100 at yr achos. iawn yn yr ardal. CyMae pawb yn falch clywed bod Mrs Nida Jeffreys, St Mary's Close, yn ôl gartref ar ôl bod am gyfnod yn yr ysbyty. Dymuniadau gorau iddi am wellhad llwyr a buan.

Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaethau Mrs Blodwen Pugh, Brook St, Blaenrhondda a Mrs Martha Rhoda

CYFRIFYDDION SIARTREDIG ARCHWILWYR COFRESTREDIG

EICH GOHEBWYR LLEOL :

Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN

Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Cwmparc: D.G.LLOYD

Treorci MARY PRICE

Y Pentre: TESNI POWELL

Ton Pentre a'r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN

CYFRIFYDDION SIARTREDIG ARCHWILWYR COFRESTREDIG

YOUNG AND PHILLIPS 77 STRYD BUTE TREORCI RHONDDA CF42 6AH FFÔN: 01443 772225 FFACS: 01443 776928 E-BOST: yandp@lineone.net

BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB 5


ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 6

dymdeimlwn â'r teulu oll yn ei golled. Pob dymuniad da i Miss Tilly John, Stryd Dumfries, sydd ar hyn o bryd yng Nghartref Preswyl Ystradfechan. Tan yn ddiweddar, bu Miss John, sy'n 100 oed yn byw ar ei phen ei hun yng nghartref y teulu. Mae Pwyllgor Datblygu Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cais cynllunio i droi capel Ainon yn Heol Ynyswen yn uned breswyl a gweithdy. Penderfynir ar ddyfodol yr adeilad yn y flwyddyn newydd. Cyn y Nadolig, ymwelodd merched côr y WI â chartref preswyl Pentwyn i gynnal noson o ganu carolau. Cawsant groeso mawr a llawer o hwyl yng nghwmni'r preswylwyr. Ar 18 Rhagfyr cynhaliodd aelodau Hermon eu gwasanaeth carolau arferol gyda'r casgliad, yn ôl yr arfer, yn mynd at Gymorth Cristnogol.

Da yw clywed bod Mrs Shirley Morgan, Stryd Tynybedw, allan o'r ysbyty ac yn gwella'n raddol. Pob dymuniad da iddi. Pen-blwydd Hapus iawn i Susan Thomas, Druids' Close oedd yn cyrraedd carreg filltir bwysig iawn yn ei hanes dros y Flwyddyn Newydd. Pob dymuniad da i'r dyfodol. Mae dosbarthiadau Aicido ar gael i blant a phobl ifanc yn Neuadd Les Ynys wen ar Heol Ynys wen, Ynys wen, Treorci, CF42 6DE. Mae croeso cynnes i bawb, ac mae dosbarth ar gyfer plant iau 47 mlwydd oed rhwng 16:30-17:30, a phlant 8-16 mlwyd oed rhwng 17:30-18:30 pob Dydd Llun. Mae'r dosbarthiadau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg trwy drefniant a'r athrawes, Shidoin Laura Williams, 4ydd Dan. Mae diodydd ar gael, a digonedd o le i barcio. Dewch i'r dosbarth cyntaf yn gynnar os gwelwch yn dda er mwyn

cwblhau'r ffurflenni perthnasol. Os am fwy o wybodaeth ewch at ein gwefan http://www.aikidoandsamuraiartsacademy.co.uk/, neu ffoniwch 07813834878. I ychwanegu enw eich plentyn i'n rhestr ddosbarth ebostiwch aikidoandsamuraiartsacademy@hotmail.co. uk Yn dilyn cystudd hir, bu farw Mrs Margaret Williams, Stryd Glynrhondda. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w gŵr, Brian, sydd ei hun wedi bod yn dost yn ddiweddar, a hefyd i'w merch, Helen a'i hwyres, Kate ynghyd â'r teulu oll yn eu hiraeth. Mwynhaodd aelodau Cymdeithas Henoed Treorci ginio Nadolig yn Neuadd y Dderwen ganol mis Rhagfyr. Roedd pawb wrth eu bodd hefyd o dderbyn y newyddion bod cais y Gymdeithas am arian Loteri wedi bod yn llwyddi-

CARPETS ʻNʼ CARPETS

117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349

6

Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni a dewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton, Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewch groeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.

Mesur cynllunio a phrisio am ddim Storio a chludiant am ddim Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa Credydd parod at £1,000 Gosodir eich carpet gan arbenigwy Gwarantir ansawdd Ol-wasanaeth am ddim Cyngor a chymorth ar gael bob amser Dewiswch eich carped yn eich cartref Gellir prynu a gosod yr un diwrnod Gosod unrhyw bryd Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol Carpedi llydan at 10ʼ5” Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad Y dewis mwyaf yn yr ardal Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop

50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYN o GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR MILOEDD o BATRYMAU a CHYNLLUNIAU yn ein HARDDANGOSFA DDEULAWR Dewch yma-Cewch werth eich arian

Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop os am fargen arbennig CARPETS ʻNʼ CARPETS Ar agor 6 diwrnod 8.30-5.30 Hefyd amser cinio ddydd Sul


ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 7

annus ac o ganlyniad byddant yn derbyn £3,864 a gaiff ei wario ar wella'r neuadd. Mae'r Gymdeithas yn cwrdd ar yr ail ddydd Iau o'r mis am 2 o'r gloch ac mae croeso i bawb. Pob dymuniad da i Mrs Mairona Jones, Y Stryd Fawr, sydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd ac i Mrs Gwennie Evans, Stryd Regent, sydd wedi dod adre ar ôl derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Gobeithio y bydd y ddwy'n teimlo'n well cyn bo hir. Hefyd, mae'n dda gweld Mrs Gaynor Webster, Y Stryd Fawr, o gwmpas eto ar ôl ei damwain ddiweddar. Bu gwasanaeth Nadolig blynyddol y WI yn Eglwys Sant Matthew yn llwyddiannus iawn

eto eleni. Canodd y côr amrywiaeth o garolau Cymraeg a Saesneg, hen a newydd a chafwyd hefyd nifer o ddarlleniadau ac adroddiadau pwrpasol. Mae arweinydd y côr, Mary Price, a'r gyfeilyddes, Sioned Dutfield i'w canmol am eu holl waith trwy gydol y flwyddyn. Nos Iau, 5 Ionawr, cafodd y WI ddechrau da i'r flwyddyn newydd trwy fwynhau cwis a drefnwyd gan Mrs Ann Barrett. Mawr yw ein diolch iddi am noson hwyliog a diddorol. Bydd Cylch Meithrin newydd yn agor ym mis Ionawr yn festri Hermon. I ddechrau, bydd ar agor ddydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener rhwng 9.30 - 11.30 a.m. Gellir cael rhagor o

wybodaeth trwy gysylltu â Melanie Meades ar 07783758757. CWMPARC Bu farw Mr Len Roberts, Railway Terrace, ar ôl dioddef afiechyd am rai blynyddoedd. Roedd Mr Roberts yn gyn-lowr oedd hefyd yn grefftwr da a oedd yn giamstar ar gerfio llwyau caru. Cydymdeimlwn â'i weddw a'i fab a'r teulu oll yn eu hiraeth. Mae’n drist cofnodi marw Mr Richie Richards gan bawb ac estynnir cydymdeimlad i’w briod Dorothy a’r teulu yn eu colled. Roedd Mr Richards hefyd o Railway Terrace. . Mae’n dda clywed bod

Myra Rees Tanyfron adref o’r ysbyty ar ôl ei damwain. Hefyd dymunir gwellhad buan i Ann Lock, Greenfield Terrace ar ôl bod yn yr ysbyty am gyfnod yn ddiweddar.

Mae Pwyllgor Datblygu Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cais cynllunio i ddymchwel capel Bethel yn Heol y Parc a chodi dau dŷ â thair ystafell wely ar y safle. Gwneir y penderfyniad yn fuan. Y PENTRE Roedd yn dda gweld Macauley Cook, Pentre Cottage, yn cael ei ddewis i chwarae i dîm cyntaf Y Gleision yn erbyn Leinster. Er i'r gwŷr o Gaerdydd golli gêm agos iawn yn y di-

7


ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 8

Gwefan Gymraeg i Asiantaeth Gwyliau yng Nghymru

Mae lansiad gwefan Gymraeg asiantaeth gwyliau ar-lein, gan gwmni ifanc Llion Pughe a Gareth Mahoney, yn ddatblygiad busnes arwyddocaol. Bydd y wefan Gymraeg, ‘Y Gorau o Gymru’ (www.ygorauogymru.co .uk), yn galluogi cwsmeriaid i chwilio ac archebu gwyliau ym mhob cornel o Gymru trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf. Hwn yw’r busnes gwyliau ar-lein cyntaf o’i fath yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth a gwefan drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Y Gorau o Gymru yn cynnig llety moethus pedwar a phum seren ar hyd a lled Cymru, a nawr fe fydd yn lledu ei apêl trwy

8

ddarparu gwefan Gymraeg, yn ogystal ag un Saesneg ar gyfer archebion ac ymholiadau. Meddai Llion sy’n rhedeg asiantaeth Y Gorau o Gymru o Gemaes, ger Machynlleth: “Mae’n holl bwysig i ni fel cwmni ein bod yn ymgorffori’r iaith Gymraeg yn ein busnes. Ychydig iawn o ddarpariaeth sydd ar gael ym myd twristiaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg.” Ychwanegodd Gareth, sydd hefyd yn rhedeg y cwmni o’r swyddfa yng Nghaerdydd: “Mae 22% o’n archebion yn dod gan bobl sydd yn byw yng Nghymru ac mae 1 o bob 5 o drigolion Cymru’n siarad Cymraeg. Felly mae ’na

fwlch yn y farchnad ac ‘rydyn ni’n hyderus y gallwn ei lenwi.” Fel canlyniad i ennill cystadleuaeth entrepreneuriaeth Gorsedd y Dreigiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 yr oedd y ddau bartner busnes yn medru cyflawni eu nod o sefydlu'r unig wefan Gymraeg gan asiantaeth sy’n gosod bythynnod gwyliau yn genedlaethol yng Nghymru. Maent hefyd wedi ymestyn gwasanaeth y wefan, fel ei bod nawr yn bosib i ddysgwyr archebu gwersi Cymraeg fel rhan o’r profiad gwyliau unigryw. Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae’r bythynnod gwyliau yn dod gyda chynhwysyn ychwanegol, arbennig

iawn sy’n gwneud gwyliau yng Nghymru yn unigryw a chyflawn. Fe’i gelwir yn 'Groeso Cynnes Cymraeg', a gallwch chwilio am fythynnod â pherchnogion sy’n siarad Cymraeg trwy glicio ar ‘perchnogion yn siarad Cymraeg’ o dan ‘Mwy o Opsiynau Chwilio’. I ddathlu’r garreg filltir hon, hoffai Y Gorau o Gymru gynnig côd gostyngiad o 5% i unrhyw un sy’n dymuno aros yn eu bythynnod gwyliau yn 2012. Bydd y cynnig yn ddilys tan y o Chwefror 2012 a’r côd (i’w ddyfynnu wrth archebu dros y ffôn neu ar-lein) yw ‘Gwyliau2012’. Gellir

drosodd


ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 9

Newyddion Lleol parhad

wedd, fe enilloodd Macauley glod mawr am ei ymdrech. llongyfarchiadau iddo! Pob dymuniad da i siop newydd 'Heavenly' sydd wedi agor gyferbyn ag eglwys San Pedr. Mae'r siop yn arbenigo mewn dillad babanod ac anghenion plant ifanc. Mae'n dda gweld busnes newydd yn dechrau yn yr ardal. Pob llwyddiant iddo! Bob dydd Sul cynhelir gwasanaethau yng nghanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth yn Stryd Carne am 10.15am a 4.30pm. Cynhelir yr ysgol Sul am 11.30 am. Croeso i bawb. Mae nifer o breswylwyr Tŷ'r Pentre naill ai wedi dathlu neu ar fin dathlu pen-blwydd. Mae'r rhain yn cynnwys Mabel Matthews oedd yn 90 ar 23 Rhagfyr. Ond bydd y dathlu'n parhau ddechrau'r flwyddyn newydd gyda Nora Wales (81oed) a Daisy Davies (85 oed) ill dwy

Gwyliau yng Nghymru parhad

defnyddio hwn ar gyfer unrhyw ddyddiadau yn ystod 2012. Am fwy o wybodaeth ynghylch bythynnod gwyliau Y Gorau o Gymru ffoniwch 01650 511 101 neu e-bostiwch info@bestofwales.co.uk

yn cael eu pen-blwydd ar yr un diwrnod, sef 16 Ionawr. Pob dymuniad da iddyn nhw i gyd. Cafodd y trigolion hynny yn Llys Siloh nad oedd yn mynd at deulu ar gyfer y Nadolig dipyn o syrpreis pan drefnodd Diane, y warden, a'i phriod wledd ysblennydd ar eu cyfer. Roedd pawb wedi cael diwrnod i'r brenin ac yn hynod o ddiolchgar i'r ddau am eu caredigrwydd. Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Rita Hughes, Stryd Llywelyn. Ar un adeg bu Rita'n berchen siop esgidiau yn y stryd ac yn adnabyddus iawn trwy'r ardal. Cofiwn am ei phriod, Eric a'i merch, Shirley, ynghyd â'r teulu oll yn eu profedigaeth. FelPob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Joan Rossiter, Llys Siloh, sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Mae pawb yn y Llys yn dymuno'n dda iddi ac yn gobeithio y bydd yn ôl yn eu plith cyn bo hir. yn Llys Siloh, mae cymdeithas glos a chynhaliol wedi datblygu yn Llys Nazareth. Roedd yn ddrwg gan bawb yno dderbyn y newyddion am farwolaeth Mo gan ei bod hi a'i gŵr, Trevor yn uchel iawn eu parch yno. Cofiwn am Trevor yn ei hiraeth.

yn yr ysbyty yn syth wedi'r Nadolig. Mawr obeithiwn ei fod yn teimlo'n well erbyn hyn. [Gol.] Ddiwedd mis Tachwedd, daeth cynulleidfa niferus ynghyd ar gyfer sefydlu'r Parch Haydn EnglandSimon yn Ddeon Ardal ar Ddeoniaeth Cwm Rhondda. Arweiniwyd y gwasanaeth hwyrol weddi corawl gan y Parch Philip Leyshon a'r pregethwr gwadd oedd Archddiacon Morgannwg, yr Hybarch Christopher Smith oedd hefyd yn gweinyddu'r seremoni sefydlu. Penodwyd y Tad Haydn, sy'n ficer plwyf Ystradyfodwg, i olynu'r Parch Chris Lewis-Jenkins, gan Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru ac Esgob Llandaf. Mae aelodau eglwysi Ioan Fedyddiwr a San Pedr am longyfarch y Tad Haydn ar ei benodiad ac yn dymuno'n dda iddo yn ei weinidogaeth. Bydd cyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd o'r Clwb Cameo yn digwydd ar 25 Ionawr yn festri'r capel Annibynwyr Saesneg am 2pm. Bydd y trysorydd yn derbyn y tanysgrifiadau o £10 yn y cyfarfod hwnnw. Croeso mawr i aelodau newydd. Cafodd aelodau Brawdoliaeth Eglwys Ioan Fedyddiwr ddiweddglo pleserus i'r flwyddyn pan TON PENTRE ddaethant ynghyd ar Roedd yn ddrwg gennym gyfer eu cinio Nadolig yn glywed bod Graham nhafarn Fagin. Diolch i Davies John, un o oheb- bawb a fu wrthi'n trefnu wyr y Gloran yn y Ton, noson bleserus iawn. wedi bod am gyfnod byr

Bydd ail hanner rhaglen y tymor yn dechrau nos Lun, 12 Mawrth pan fydd y dyfarnwr pêl-droed adnabyddus, Clive Thomas, yn ŵr gwadd. Croeso cynnes i bawb. Bydd cyfle i bawb weld pantomeim Eira Wen yn cael ei pherfformio yn Theatr y Ffenics gan Grŵp Theatr y Rhondda rhwng 15-18 Chwefror. Bydd y perfformiadau'n dechrau am 7.15p.m. a chynhelir matinee am 3p.m. brynhawn Sadwrn, y 18fed. Pris y tocynnau yw £7 ar y llawr ac £8 yn yr oriel.

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Cassie Jones gynt o Heol Penrhys, Ystrad. Roedd ei gŵr, Cyril a'i frawd, Ivor,, yn berchen busnesau gwerthu beiciau modur yn yr Ystrad a Threorci. Roedd Mrs Jones, oedd hefyd bellach wedi cyrraedd 101 oed ac wedi ymgartrefu mewn cartref gofal yn ymyl ei merch, Pat, yn Abertawe. Cofiwn am Pat a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Penderfynodd capel Hebron a'r Capel Cynulleidfaol Saesneg yn y Ton ddod ynghyd unwaith y mis i gynnal gwasanaeth ar y cyd. Pob dymuniad da i'r fenter newydd hon.

9


ion12:Layout 1

13/1/12

15:15

Page 10

NEWYDDION YSGOL GYFUN

'portread celfydd o goron mewn defnydd cyfoes'. Cynhyrchu plastig oedd un o brif ddiwydiannau tre'r Barri ar y pryd. Unwaith eto, daeth y wobr i Gwm Rhondda gyda'r Parch Haydn Lewis, gweinidog Jeriwsalem, Ton Pentre yn fuddugol. Roedd 22 wedi cystadlu ond er bod teilyngdod, roedd y tri beirniad Waldo Williams, Dr Thomas Parry a'r Parch Euros Bowen yn ffafrio cerdd wahanol. Am y tro cyntaf erioed yn hanes yr Eisteddfod, bu rhaid galw ar bedwerydd beirniad i benderfynu rhwng y tair cerdd, ond 'Meini' Haydn Lewis a gafodd bleidlais Alun Llywelyn Williams yn y diwedd. Ysbrydolwyd y gerdd

ysgolion a phrifysgolion

A DDAW'R GORON I'R RHONDDA UNWAITH ETO ELENI? parhad o dud 4

hon gan farwolaeth unig ferch y bardd, Caryl, ddeng mlynedd ynghynt a hithau yn ei hugeiniau cynnar. Roedd 'Meini' hefyd yn ddilyniant o'r gerdd a enillodd iddo goron Eisteddfod Dyffryn Maelor yn 1961. Fel James Evans, Cardi oedd Haydn Lewis. Yn 1920 cyhoeddwyd y gerdd fuddugol am y tro cyntaf yn union ar 么l y seremoni ac yn 1966 bu'n rhaid wrth farn pedwerydd beirniad i dorri'r ddadl rhwng y lleill. Mae'n amlwg bod eisteddfodau'r Fro y torri tir newydd. Tybed beth ddigwyddiff eleni a thybed a ddaw'r goron yn 么l i'r Rhondda unwaith yn rhagor? Allwn ni ond gobeithio!

CYMER RHONDDA TAITH ADDYSG GREFYDDOL Teithiodd griw o fyfyrwyr Blwyddyn 12 sy'n astudio Astudiaethau Crefyddol i Brifysgol Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan yn ddiweddar er mwyn mynychu darlith a sesiwn drafod ddiddorol. Diolch i Mrs Ress am drefnu'r ymweliad.

NEWYDDION YSGOL GYFUN

CYMER RHONDDA

CYLCH MEITHRIN TREORCI Bydd Cylch Meithrin Newydd yn agor ym mis Ionawr yn HERMON, TREORCI Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener Tan inni gael ein cofrestru gan CSSIW - oriau agor 9.30a.m. - 11.30a.m. Am fanylion pellach ffoniwch Melanie Meades ar 07783758757

10

LLWYDDIANT NOFIO Llongyfarchiadau mawr i nofwyr talentog y Cymer a gystadlodd yng Ngala Nofio'r Urdd ym mhwll Bronwydd yr wythnos hon. Fe fydd y canlynol yn cynrychioli'r sir yn ngala Genedlaethol yr Urdd ym mis Ionawr. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd! Keenan Napper Bl 8 Pili Pala Chloe Wilshire Bl 7 Cymysg Laura, Teigan, Jessie a Chloe - Bl 7 - T卯m Cymysg Morgan, Keenan, Iestyn ac Iestyn - Bl 8 T卯m Cymysg Dafydd Carter Bl 9 Cefn Carys Oliver Bl 9 Cefn a Cymysg Unigol Gethin Dibben Bl 11 Pili Pala


ion12:Layout 1

13/1/12

15:16

Page 11

11


ion12:Layout 1

13/1/12

15:16

Page 12

Dadlau Chwyrn!

ganddi a oedd yn nodi bod hawl gan bawb i Ar nos Wener yr 11eg o Dachwedd cystadlodd tri weld yr hyn sy'n digwydd tu ôl i ddrysau'r llys. disgybl o Ysgol Gyfun Treorci yng nghysDisgybl o flwyddyn tadleuaeth Siarad Cyunarddeg a oedd yn dadhoeddus Cymraeg y Rotari. Roeddynt yn dad- lau o blaid y gosodiad. lau o blaid ac yn erbyn y Aeth David Evans, ati i gosodiad ‘Cred y tŷ hwn ddadlau yn erbyn canidylai cyfiawnder fod yn atau camerau yn y llys, gan nodi y byddai hyn yn ddall'. tanseilio ein cyfundrefn farnwrol. Catherine Lumby, dis-

gybl o'r 6ed dosbarth a Sarjent yn ein cadetlu, oedd yn dadlau o blaid caniatau camerau teledu yn 'stafelloedd y llys. Cafwyd pwyntiau dilys

NEWYDDION YSGOL GYFUN

TREORCI 12

gan ystyried mai nhw oedd yr unig ysgol Saesneg, braf oedd gweld y tîm ifanc a newydd yma yn cystadlu ar yr un safon a phawb arall. Yn anffodus ni lwyddwyd i gyrraedd y brig y tro hwn ond enwyd Manon a Catherine fel un o'r pedwar cadeirydd a gwrthwynebwyr gorau ar y noson. Clod yn wir i Manon gan mai dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu ar Yn cadw trefn ar y ddau y llwyfan gystadleuol uchod oedd y cadeirydd hon. Enwyd David hefyd Manon Wigley a llwyd- fel un o gynigwyr gorau'r dodd i aros yn wrthrychol noson, sydd yn fraint gan a chadw rheolaeth ar y mai disgybl ail-iaith drafodaeth chwyrn. Cymraeg ydy David a chyn-ddisgybl o Ysgol Roedd wyth Ysgol Gynradd Treorci. Braf Gyfun Gymraeg yn cys- oedd cael gweld disgybl tadlu yn eu herbyn a o'r fath yn cael ei glodfori

am ei ymdrech i ddysgu'r iaith. Mae e bellach yn rhugl yn y Gymraeg o ganlyniad iddo fod yn rhan o'r Cwrs Carlam ers Blwyddyn 7, gan dderbyn A* mewn Cymraeg AilIaith dwy flynedd yn gynnar ym Mlwyddyn 9 ac sydd nawr yn astudio ar gyfer ei arholiadau AS.

Er na phrofwyd llwyddiant eleni, hoffwn longyfarch yr ysgolion buddugol a dymunwn pob lwc iddynt yn y rownd nesaf. Mwynheuodd y disgyblion y profiad yn fawr ac edrychwn ymlaen at gystadlu eto y flwyddyn nesaf.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.