Medi16blue

Page 1

y gloran

20c

HANES Y SEBRAS Tymor Newydd! GWELER GAN CERI LLEWELYN Dechrau Newydd! AR TUDALEN 3

TAITH PRYDAIN YN YMWELD A RHONDDA CYNON TAF AM Y TRO CYNTAF - MEDI 8 - 2016 - llun gan Rosa Baik


golygyddol l Mae Siôn Owen ein cartwnydd wedi taro'r hoelen ar ei phen y mis yma wrth gymryd problem Sgwâr y Stag yn destun a dangos y penbleth sy'n wynebu cynllunwyr, sef sut i sicrhau bod y traffig yn llifo tra ar yr un pryd diogelu cerddwyr. Neilltuodd Cyngor Rh.C.T. dri chwarter miliwn o bunnau i weithredu cynllun wedi ei seilio ar yr egwyddor o gael gwared ar y goleuadau sy'n achosi tagfeydd a

2

gadael i yrwyr cerbydau a'r cyhoedd rannu'r ffordd fawr o gwmpas y Sgwâr gan barchu gofynion ei gilydd. Cynhaliwyd arddangosfa a gofynnwyd am farn y bobl. Yn anffodus, cafwyd bod 50% o blaid y cynllun newydd a'r un nifer yn erbyn. Ofn rhai oedd y byddai'r drefn yn peryglu cerddwyr, yn enwedig yr henoed, yn anabl a rhai â golwg diffygiol. Yn wir, bu Cymdeithas y Deillion yn lobïo aelodau San Steffan ac mae

Cynllun gan High Street Media

y goleuadau i'r llif

y gloran medi 2016 traffig, gwahardd llYN Y RHIFYN HWN

Sebras/Taith Prydain..1-3 Golygyddol...2 Adroddiad Ysgolion/Cofio Mametz...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10r Cartwn/Englynion..6-7 /Byd Bob...8-9 Ysgolion...10-11-12

eu gofidiau yn dal i fod o dan ystyriaeth ar hyn o bryd. Oherwydd yr ansicrwydd yn lleol ac yn genedlaethol, cyhoeddodd y Cyngor nad yw'n bwriadu gweithredu prif argymhelliad y syniad gwreiddiol ond eu bod yn mynd ymlaen â rhai o'r gwelliannau ymylol. Mae'r rhain yn cynnwys gwella ymateb

wytho lorïau yng nghyffiniau'r goleuadau ar oriau brig, symud arosfannau bysys ymhellach oddi wrth y goleuadau a chau'r fynediad i Chapel St gan greu pafin difwlch ar ochr ddwyreiniol y Sgwâr. Y gobaith yw y bydd y mesurau hyn yn gwella'r sefyllfa bresennol er na fyddan nhw'n datrys problem y tagfeydd anferth a achosir gan y goleuadau. Mae'r rhain yn effeithio ar economi pen ucha'r Rhondda ac yn rhwystredigaeth i bawb sy'n gorfod teithio i'w gwaith yn ddyddil - sef canran uchel o boblodaeth yr ardal. Ni fydd y


gwelliannau a gynigir, er eu bod i'w croesawu. yn datrys y brif broblem. Dywed y Cyngor taw un o'r rhesymau nad ydynt yn mynd i weithredu eu bwriad gwreiddiol yw'r ffaith bod 50% o'r ymatebion a gawsant

yn wrthwynebus iddo. Ychydig yn ôl, pleidleisiodd dros 90% yn erbyn bwriad y Cyngor yn erbyn bwriad y Cyngor i godi oed dechrau addysg feithrin, ond anwybyddwyd barn y cyhoedd y pryd hynny.

Ar ôl i San Steffan benderfynu ystyried diffygion y system a gymeradwywyd ar gyfer Sgwâr y Stag, rhaid ailafael yn y broblem a cheisio dod o hyd i ateb derbyniol. Yn y cyfamser, rhaid gobeithio y bydd y

newidiadau ymylol yn gwella rywfaint ar y sefyllfa annerbyniol y mae pobl leol wedi gorfod ei dioddef yn rhy hir.

Gol.

TYMOR NEWYDD! DECHRAU NEWYDD!

Tymor newydd a threfn newydd yw hi yng nghlwb rygbi Treorci ar gyfer tymor 2016/17. Ar ôl dwy flynedd o dan reolaeth Jamie Summers, Trystan Lazarus a Marc Rees, lle rhoddwyd y cyfle i nifer o chwaraewyr ifainc, talentog yr ardal i chwarae yn Adran 1 (Dwyrain) Cyngrhair Undeb Rygbi Cymru, mae newid wedi digwydd gyda hyfforddwyr newydd yn cymryd yr awenau. Andrew Bishop ac Ian Evans, dau chwaraewr rhyngwladol, sydd wedi derbyn yr her o ddatblygu’r talent lleol ymhellach. Tra bod Bishop wedi ymddeol bellach, mae Evans yn dal i chwarae dros glwb rygbi Bryste yn Uwch Gyngrhair Aviva yn Lloegr. Mae’r ddau yn gweld cyfle i ddatblygu fel hyfforddwyr ar ôl gyrfaoedd disglair fel chawraewyr. “Mae pawb yn y clwb yn edrych ymlaen

at y tymor newydd,” dywedodd rheolwr y clwb, Gareth Wilcox. “ Mae cael dau chwaraewr rhyngwaladol fel hyfforddwyr yn gaffaeliad i’r clwb.” Bydd y cyn ganolwr, Bishop, yn

chwaraeodd dros 200 o gêmau dros y Gweilch, wedi cael ei benodi yn un o hyfforddwyr ieuenctid rhanbarth y Gweilch. Bydd Evans yn canolbwyntio ar hyfforddi’r blaenwyr. “Dyma

cymryd gofal o’r cefnwyr. Dywedodd: “ Mae’n fraint i mi gael hyfforddi fy nhim lleol. Rydw i wedi bod yn helpu’r ieuenctid yma, nawr ac yn y man, ond pan ofynnwyd i mi hyfforddi’r tîm cyntaf doeddwn i ddim yn gallu gwrthod y cyfle.” Mae Bishop, a

gyfle euraidd i mi hyfforddi yn yr adran gyntaf. Doedd dim angen i Bish ofyn ddwywaith” meddai’r clo. Mae’r tymor yn argoeli i fod yn gyffrous gyda nifer o dîmau lleol yn ymgyprys â’i gilydd. Bydd y Sebras yn croesawu Porth i’r Cae Mawr ar Sadwrn cyntaf y

tymor a bydd Ystrad yn croesawu Treorci ym mis Hydref. Bydd nifer o dîmau cryf Caerdydd yn y gynghrair yn cynnwys Tredelerch, Rhiwbeina a Cwins Caerdydd. Mae Treorci yn glwb sy’n ymfalchïo yn llwyddiant ei cyn chwaraewyr. Felly , bydd y clwb a’r cefnogwyr yn dymuno’r gorau i’w cyn chwaraewyr sydd yn chwarae rygbi proffesiynnol, Rhys Gill, Ethan Lewis, Liam Belcher, Macauley Cook, Aled Summerhill, Tom a Declan Williams, sy’n chwarae dros dîm rhanbarthol y Gleision, ac i Marc Jones (Bryste) a Lou Reed (Sale Sharks) sy’n chwarae dros y bont yn Lloegr. Pob lwc i’r bechgyn a phob lwc i’r Sebras.

Ceri Llewelyn

3


ADRODDIAD PWYSIG AR EIN HYSGOLION Ddechrau mis Awst, cyhoeddwyd adroddiad cynhwysfawr ar ysgolion uwchradd Cymru yn dwyn y teitl 'Real Schools Guide' neu 'Cyflwyniad Go-iawn i Ysgolion'. Yn øl arbenigwyr addysg, mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwell syniad nag unrhyw un arall i rieni sy'n dewis ysgol i'w plant ac fell, mae'n ddiddorol sylwi sut mae ysgolion Cwm Rhondda'n cymharu å'i gilydd ac å gweddill ysgolion Rhondda Cynon Taf. Dyma'r rhestr yn øl eu safle yn y cwm gyda'u safle o fewn y sir, sef 17 ysgol gyfun Rhondda Cynon

Taf, yn cael ei nodi rhwng cromfachau: 1. Ysgol Gyfun Cymer Rhondda [3] 2. Ysgol Gymunedol Ferndale [4] 3. Ysgol Gyfun Treorci [5] 4. Coleg Cymunedol Tonypandy [10] 5. Ysgol Sir y Porth [15] Ysgol Gyfun Gymraeg Llanhari sydd yn y safle cyntaf gyda Bryncelynnog yn ail. Da yw gweld bod 4 o'n 5 ysgol o fewn 10 uchaf y sir. Fodd bynnag, mae gan ysgolion RhCT le i wella gan nad oes un ohonynt yn dod o fewn 10 uchaf Cymru

COFIO BRWYDR COEDWIG MAMETZ

Eleni, cafodd nifer o frwydrau gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf eu cofio gan gynnwys brwydr ffyrnig Coedwig Mametz yn ardal y Somme lle cafodd dros 4000 o filwyr a berthynai i'r Gatrawd Gymreig eu lladd. Yn rhan o'r cofio,, mae arddangosfa ar hyn o bryd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth gan ffotograffydd a aned yn y Rhondda, Aled Rhys Hughes. Cafodd Aled ei eni yn Ynyshir lle roedd ei dad, Parch Dewi Myrddin Hughes yn weinidog ar Saron. Bu ei ddiweddar fam, Blodwen Hughes [gynt Morgan], yn athraws Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Symudodd y teulu maes o law i Gwmllynfell lle cafodd Aled ei fagu. Bellach, mae'n byw yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin ac yn gweithio fel artist ffotograffig a darlithydd ffotograffiaeth. Bu'n gweithio ym maes ffotograffiaeth am dros bum mlynedd ar hugain, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn ffotograffiaeth o Brifysgol Cymru, Casnewydd yn 1996. Enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe, 2006 am ei ddelweddau 'Ffarwel Rock'. Mae Aled wedi arddangos ei waith ledled Cymru gan gynnwys sioe unigol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2004, ac mewn lleoliadau yn Ewrop. Mae lluniau o'i eiddo'n perthyn i gasgliadau cyhoeddus megis Oriel Glynn Vivian, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. Ef oedd awdur delweddau trawYn y lluniau pelenni, ysgidiau a chroesau iadol y gyfrol Môr Goleuni Tir Tywyll 4


newyddion lleol

CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu gwahardd cerbydau dros 7.5 tunell rhag ddefnyddio'r bont "newydd" sy'n cysylltu Tynewydd a Blaenrhondda. Fel canlyniad bydd rhaid ail-gyfeirio bysiau trwy Ty Draw Terrace a symud y ddau safle bysiau sy'n anghyfleus iawn i drigolion rhan uchaf Tynewydd. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Blaenycwm lle oedd swyddogion y cyngor yn bresennol i egliro'r cynllun. Roedd y cyfardod yn unfrydol yn erbyn symud y safleodd bysiau ac yn mynnu fod y bont yn cael ei drwsio i ganiatau y bwsiau croesi. Mae cynghorwr Geraint Davies wedi derbyn e-bost oddiwrth arweinydd y cyngor i gadarnhau bydd y bont yn cael ei drwsio. Does dim amserlen ar hyn o bryd a bydd rhaid i'r cymuned cadw pwysau ar y cyngor i sicrhau bydd y gwaith yn cael ei wneud cyn cynted a sy'n bosib Mae cerddwyr wedi cael eu atal rhag ddefnyddio llwybr ar

draws cae ar waelod y Rhigos. Ers gwerthwyd y tir gan Cyfaoedd Naturiol Cymru mae'r perchennog newydd wedi cael gwared o'r ddwy gamfa a wedi gosod weiren bigog yn eu lle. Defnydddir y llwyby gan cerddwyr a thrigolion fermydd Tyn y Coedcau a Tyle Fforest ac o ganlyniad mae rhaid cerdded 300 medr mwy o gwmpas troiad pedol peryglus. Mae adran cyfreithiol y cyngor yn edrych mewn i'r fater gyda'r bwriad i orfodi y perchenog i ail agor y llwybr

Mae capel Blaenycwm wedi cymyd dros y meddygfa celfyddydol ( arts surgery) oddiwrth Cymdeithas Tai y Rhondda. Mae'r adeilad wedi bod yn wag am nifer o flynyddoedd a mae 'r capel yn mynd i ddefnyddio'r adeilad am grwpiau gwahanol cymunedol.

Daeth ffriniau a chefnogwyr Chloe Tutton at ei gilydd yn y Lion Treorci i'w chroesawu yn ol ar ol ei llwyddiant yn Rio. Daeth Chloe yn bedwaredd yn nofio broga

- dim on 0.6 eiliad tu ol i'r safle Efydd. Gwnaeth Chloe llawer o'i ymarfer ym mwll Treberbert. Mae Chloe yn. Cystadlu yn Canada ym mis Rhagfyr ac yn edrych ymlaen i pencampwriaeth y byd y blwyddyn nesaf ac i gynrichioli Cymru yn y gemau cymanwlad yn 2008

TREORCI

Pob dymuniad da i'n gohebydd lleol, Mary Price, sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Brysiwch i wella. [Gol.] Llongyfarchiadau i Ray a Josie Williams, Heol Gethin, ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt ddiwedd mis Gorffennaf. Hefyd i Meurig a Susan Hughes, Sryd Tynybedw oedd yn dathlu eu Priodas Aur tua'r un adeg. Pob dymuniad da i'r ddau gwpwl i'r dyfodol. Ddydd Llun, 5 Medi agorwyd caffi newydd, Treorchy Social ar safle hen gaffi'r Stag. Pob dymuniad da i Geraint Hughes a'i fenter newydd. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Margret Rose Beauchamp, Heol

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Glyncoli ar 4 Gorffennaf. Bu Margret yn athrawes am flynyddoedd yn Ysgol Fabanod Treorci ac yn aelod brwd o'r WI. Bu hefyd yn aelod gweithgar o Eglawys San Matthew. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i phriod, Brian, ei merch, Elizabeth a'r holl deulu yn eu profedigaeth. Ddechrau mis Gorffennaf cynhaliodd Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg ei harddangosfa flynyddol o waith yr aelodau yn hen Ysgol Gynradd Treorci sydd nawr yn eiddo i 'Too Good to Waste'. Arddangoswyd 211 o ddarluniau gan 34 o arlunwyr ac roedd y gwaith o safon oedd yn glod i'r Gymdeithas. Roedd y

PARHAD ar dudalen 8

5


(Gomer), cyfrol i ddathlu canmlwyddiant geni Waldo Williams yn 2004 o dan olygyddiaeth Damian Walford Davies ym mis Awst 2004. Mae'r arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol a'i gyfrol, "Mametz" yn ffrwyth chwe blynedd o ymweliadau â'r safle yn ardal y Somme, gwaith a gafodd ei ysbrydoli gan "In Parenthasis', gerdd gan y bardd-arlunydd Eingl-Gymreig, David Jones. Mae'r gerdd, a ystyrir yn un o glasuron y Rhyfel Byd Cyntaf, yn dilyn hynt a helynt milwr cyffredin - efallai David Jones ei hun - ac yn gorffen yng nghoedwig Mametz. Ar 7 Gorffennaf 1916, ymosododd aelodau Catrawd Gymreig 38 ar y goedwig lle roedd yr Almaenwyr wedi ymsefydlu ac yn y pen draw eu trechu, er bod cost y fuddugoliaeth yn enbyd. Pan ymwelodd Aled â'r Somme gyntaf, yr hyn a'i trawodd oedd bod dros 200 o fynwentydd rhyfel mewn ardal mor fach a hynny yn ddarlun o faint y colledion. Am chwe blyneddyn olynol aeth Aled yn ôl i Mametz bob mis Gorffennaf er mwyn cael bod yno ar yr union adeg o'r flwyddyn pan fuodd y Cymry'n brwydro. Hefyd, daeth i wybod am gysylltiad teuluol â'r lle. Fel yr esboniodd, "Dywedodd fy nhaid, Dafydd Hughes, Llansannan wrtha i am ei frawd Peter a fu yn y rhyfel, a rhai o'r pethau 6

ddigwyddodd iddo. Wrth fwyta bisgïen un diwrnod, cafodd honno ei saethu o'i law! Y ddiweddarach, ces i wybod gan berthynas taw yn Mametz y digwyddodd hyn." O'r 200 o luniau a dynnodd, mae 49 yn yr arddangosfa a phedwar adran yn seiliedig ar ddail y goedwig. Yn y

lluniau du a gwyn a dynnwyd yn ystod y Rhyfel ei hun, sylwodd Aled nad oedd dail o gwbl ar y coed er taw mis Gorffennaf oedd hi. Canlyniad yr holl ffrwydro oedd hyn. Roedd y dail wedi eu difetha'n llwyr. Erbyn heddiw mae'r coed yn deilio unwaith eto, ond erys creithiau'r rhyfel - y tyllau anferth a

grewyd gan y bomio, olion bwledi a chyfarpar rhyfel yn gorwedd o hyd yn llonyddwch tywyll a thawel y goedwig. Mae hyn oll yn cael ei adlewyrchu yn y lluniau. Bydd yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol tan ddechrau mis Rhagfyr. Os cewch gyfle, ewch i'w gweld.


BYD BOB

Pan oeddwn i'n tyfu lan, roeddwn i'n edmygu'r oedolion o'm cwmpas rhieni, cymdogion, athrawon - achos eu bod nhw yn gwybod yn fwy na fi am fywyd. Roeddwn i'n siwr y byddai'r ysgol a'r coleg yn arwain at wybodaeth a gwirionedd, ac felly fe benderfynais astudio'n galed er mwyn ennill tysysgrifau a graddau a fyddai'n profi fy mod yn ddysgedig a doeth. Ar ôl i fi adael y brifysgol, sylweddolais doeddwn i ddim yn gorffen siwrnai ond yn dechrau ar siwr-

nai arall, sef siwrnai trwy'r byd real, ysgol bywyd. Wrth gwrs, roedd rhai o'm ffrindiau'n gwybod hynny'n barod. Roedd fy ffrind, John Clatworthy o Flaenrhondda wedi ymuno â'r Comisiwn Coedwigaeth ac roedd Arwel, ffrind arall, wedi mynd i weithio dan ddaear pan oedd y ddau ohonyn nhw'n bymtheg oed. Roedden nhw'n defnyddio caib a rhaw tra oeddwn i'n dal i weithio gyda llyfrau a dogfennau. Yn gynharach eleni, fe ddathlais fy mhenblwydd yn saith deg pump oed. Siwr o fod, mae tri chwarter canrif yn ddigon o amser i ddeall popeth, ond ydy? Wel, na. Mae'r blynyddoedd wedi mynd heibio'n gyflym, ond mae bywyd modern yn symud yn fwy cyflym

byth. Weithiu, rwy'n teimlo fel pysgodyn sy'n gorwedd yn ddiymadferth ar y traeth tra bod y môr yn cilio tua'r gorwel. Yn ddiweddar, fe dderbyniais i fil trwy'r post., Bil tybiedig neu amcangyfrif oedd e. Yn y gorffennol, byddwn i'n gallu ymweld â'r siop nwy yn Nhreorci, rhoi'r ffigurau iawn iddyn nhw a thalu'r bi heb broblem. Ond nawr roedd rhaid i fi ffonio er mwyn cysylltu â system awtomtig i newid y bil. Cyn hir, roeddwn i'n siarad â Robot oedd yn gofyn am fanylion y bil. Dychmygwch fy hapusrwydd pan ddywedodd y Robot ei bod hi [ achos taw robot benywaidd oedd e] wedi derbyn y manylion newydd a byddai'n anfon bil newydd ataf. Ond pan ges i'r bil, fis yn hwyrach, doedd dim byd wedi newid o gwbl. Y bil

gwreiddiol oedd e unwaith eto. Fe ffoniais i eto a siarad â merch real y tro 'ma. Roedd acen Indiaidd gyda hi. Fe addawodd hi anfon bil newydd ataf, ond yn y cyfamser fe dderbyniais i'r hen fil ddwywaith eto. Fe siaradais â dyn arall. Roedd e'n gweithio mewn swyddfa yn Durban, De Affrica. Oedd, dywedodd, roedd y bil newydd ar ei ffordd, ond cyn i'r bil gyrraedd, fe ges i rybudd gan bennaeth rhyw adran y Nwy Prydain y bydden nhw'n fy nghosbi pe na bawn yn talu'r bil ar unwaith. Fe ysgrifennais i lythyr yn ôl atyn nhw. Doedd fy llythyr ddim yn ddiplomatig. Dydw i ddim yn ymddiheuro am hynny. Rwy'n hen ac yn hen-ffasiwn, efallai. Ond dydw i ddim yn Robot!

ENGLYNION CWM RHONDDA 2 O wlad fach, cofleidiaf hi, - angoraf Long fy nghariad wrthi; Boed i foroedd byd ferwi, Nefoedd o'i mewn fydd i mi.

Thomas Williams [Brynfab], 1848 - 1927, oedd awdur yr englyn crefftus hwn sy'n llwyddo i gynnal yr un ddelwedd o'i ddechrau i'w ddiwedd. Cafodd Brynfab ei fagu ar fferm y Fforch, Treorci ac yno y bu'n byw nes iddo symud yn ŵr ifanc i ffermio'r Hendre ym mhlwyf Eglwysilan. Am flynyddoedd, bu'n gyfrifol am golofn farddol papur Y Darian a chafodd bensiwn sifil gan y Llywodraeth yn gydnabyddiaeth am ei waith yn meithrin beirdd. Ef hefyd oedd awdur y nofelig 'Pan oedd Rhondda'n Bur' sy'n disgrifio'r ardal hon a'i chymdeithas cyn dyfodiad y diwydiant glo. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys y plwyf, Eglwysilan.


lleoliad newydd yn ddelfrydol - yng nghanol y dref a chyn hir bydd cyfleusterau parcio ar gael hefyd. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol yn cael eu cynnal yma. Pen-blwydd Hapus a llongyfarchiadau gwresog i Mrs Ellen Hughes, Stryd Dumfries a ddathlodd cyrraedd 90 oed yn ddiweddar. Mae Ellen yn dal yn sionc ac yn aelod brwd o'r W.I. Y pregethwr gwadd yng ngwasanaeth unedig eglwysi Treorci ar ail Sul Medi yng nghapel Bethlehem oedd y Parch Evan Morgan, Caerdydd. Da yw gweld bod nifer fawr o gwlis yr ardal wedi eu glanhau gan weithwyr Cyngor RhCT dros y gwyliau ar ôl pwyso gan y cynghorwyr lleol. Pob dymuniad da i Cerian Davies a Rho-

8

dri a briododd yng nghapel Bethlehem Ddechrau'r mis. Mae Cerian sy'n ferch i Jill a Garwyn Davies, Stryd Stuart yn aelod o staff Cynulliad Cymru. Bydd Pwyllgor Cancer UK Treorci yn cynnal cwis yn nhafarn y Ddraig Wen, nos Lun 26 Medi. Mr Noel Henry, Ynyswen fydd y cwisfeistr. Yn ddiweddar, anfonodd y pwyllgor £2500 i'r achos teilwng hwn ac maen nhw'n ddiolchgar i bawb sy'n hael eu cefnogaeth yn yr ardal. Mae tocynnau ar gael gan aelodau'r pwyllgor am £2. Tony Melville, Treherbert oedd y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Medi o'r WI. Mewn sgwrs ddiddorol, olrheiniodd hanes y Rhondda o'r dechreuadau cynnar. Pen-blwydd Hapus i Mrs Ann Phillips, Teras Tynybedw a

phob dymuniad da iddi am adferiad llwyr a buan iddi a hithau wedi bod yn gaeth i'r tŷ yn ddiweddar. Nos Wener, 9 Medi cynhaliwyd cwis dan nawdd Plaid Cymru yn y Pencelli gyda'r Aelod Cynulliad, Leanne Wood yn bresennol. Cafwyd amser da gan bawb. Cafodd aelodau WI Treorci ddiwrnod wrth eu bodd pan aethon nhw ar daith i Gaerlleon ym mis Awst. Diolch i bawb oedd yn gyfrifol am y trefniadau. Ddydd Gwener, 23 Medi dadorchuddiwyd plac ar y tŷ yn Stryd Dumfries lle y cafodd yr hanesydd adnabyddus, Dr John Davies, ei eni a'i fagu. Cynrychiolwyd Cyngor RHCT gan y dirprwy faer, Cyngh. Craig Middle a groesawodd aelodau o'r teulu yn dilyn y seremoni mewn derbyniad a

gynhaliwd yn nhafarn y RAFA. Mae'n dda clywed bod Daniel Owen, Fferm Glyncoli yn gwella yn yr ysbyty yn dilyn damwain ddifrifol a gafodd rai wythnosau nôl yn Pentre. Pob dymuniad da iddo am wellhad llwyr a buan oddi wrth ei ffrindiau.

CWMPARC

Ar ôl bod yn gyfrifol am ddosbarthu'r Gloran yng Nghwmparc ers blynyddoedd a chyfrannu newyddion i'r golofn hon, mae David Lloyd, Stryd Tallis wedi ymddeol. Diolchwn yn fawr iddo am ei wasanaeth dros y blynyddoedd a dymuno'n dda iddo i'r dyfodol. Y dosbarthwr newydd yw Julie Godfrey, hefyd o Stryd Tallis. Pob hwyl iddi hi gyda'r gwaith.


Pob dymuniad da i'n chwaraewr rygbi rhyngwladol lleol, Lou Reed sy'n ymadael â Gleision Caerdydd ac yn ymuno â thîm Sale sy'n chwarae yng Nghyngrair Lloegr. Bydd yn dilyn Marc Jones, un arall o feibion Cwmparc, a chwaraeodd dros Sale am nifer o flynddoedd tan iddo symud i Fryste yn 2015. Cydymdeimlwn â theulu Abbie Bloodworth, Ffordd y Parc, a fu farw yn sydyn yn dilyn tân yn ei thŷ ar 19 Awst.  Mae Abbie yn gadael merch, Chantelle,sy,n 3 oed.

Bu gweithwyr y Cyngor wrthi'n brysur dros wyliau'r ysgol yn atgyfnerthu'r bont yn ymyl y Pencelli. O'r diwedd mae'r ffordd rhwng Heol Conway a'r Pencelli ar agor eto. Mae'r staff a disgyblion Ysgol y Parc yn dymuno pob lwc i Mr. Tom Rouse wrth iddo adael i ddechrau swydd newydd yn Ysgol Penpych.

Y PENTRE

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Colin Vincent, Stryd Elizabeth. Roedd Colin yn beldroediwr talentog yn ei ieuenctid ac yn aelod o dîm Clwb Bechgyn y Pentre. Yn ŵr hynaws, fe welir ei eisiau yn yr ardal. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu profedigaeth. Gwnaed cais i Gymdeithas Ddinesig Cwm Rhondda osod plac glas ar 41 Stryd Treharne lle y cafodd y bardd a'r nofelydd,

Rhydwen Williams ei eni yn 1916. Eleni felly yw canmlwyddiant ei eni a byddai'n briodol iawn i gydnabod ei gyfraniad mawr i lenyddiaeth Cymru a'r rhan y chwaraeodd Cwm Rhondda yn ei waith creadigol. Da yw gweld bod Canolfan Stryd llywelyn yn dechrau codi stêm gan gynnig nier fawr o weithgareddau i bobl ifainc ac oedolion. Galwch heibio i weld beth sy ar gael ar eich cyfer. Mae Madge Simcox, Stryd Albert wedi bod yn brysur iawn yn rhan o'r tîm sy'n trefnu'r rhagbrofion ar gyfer y rhaglen deledu, 'Britain's Got Talent'. Roedd y rhagbrawf lleol yn cael ei gynnal nos Fercher, 14 Medi yn theatr Coleg Morgannwg, Llwynypia. Does ond gobeithio y bydd rhai o'n talentau lleol yn ennill lle ar y rhaglen.

Mae Barics Pentre ar y farchnad. Yr isafbris a ofynnir am y safle a estynnir dros 4 erw yw £25,000. Adeg yr Ail Ryfel Byd roedd hwn yn wersyll i lawer o filwyr America. Disgwylir y bydd y safle'n cael ei ddatblygu ar gyfer tai.

TON PENTRE A’R GELLI

Nos Iau, 15 Medi roedd Owen Money a'i fand, y Wrinklies', yn perfformio yn y Clwb Pêl-droed a'r holl elw yn mynd at y British Heart Foundation. Tristwch i bawb yn yr ardal oedd clywed am farwolaeth Mr Brinley

Harry, Stryd Bailey, yn 90 oed ar ôl cystudd byr. Roedd Brin yn adnabyddus ac yn boblogaidd yn yr ardal. Cyn ymddeol, bu'n gweithi fel trydanwr ceir yn Garej Hutchings. Roedd yn aelod yn Eglwys Ioan Fedyddiwr ac yn helpu plant yn Ysgol Gynradd Ton Pentre gyda'u darllen. Yn ogystal, bu'n helpu henoed yr ardal i wella eu sgiliau cyfrifiadurol yn Llyfrgell Ton - sesiynau llawn hwyl a chwerthin. Yn uchel ei barch, gwelir ei eisiau'n fawr yn y gymdogaeth. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w wraig, Gwyneth a'r teulu oll yn eu hirath. Llongyfarchiadau i Laura Mansel a'i phriod, Jonathan ar eu priodas ddiweddar. Bydd y pâr yn ymgartrefu yn Pentre. Hefyd anfonwn ein dymuniadau gorau at fam-gu Laura, Mrs Betty Evans, St Davids St, sydd wedi bod yn dost ac yn gaeth i''w chartref ers tro. Doedd dim cyfarfod o gymdeithas Cameo yn ystod mis Awst ond bydd y cyfarfod nesaf ddydd Mercher 22 Medi yn Fagin's, Ton Pentre. Pob lwc i Seindorf Cory wrth iddyn nhw fynd i Lundain i gystadlu ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain a gynhelir yn Neuadd Albert. Unwaith eto, bydd Dr Masoud Ahmadi, y fferyllydd o Heol Gelli yn rhedeg ym marathon blynyddol Caerdydd. Ei nod yw

codi arian at Dŷ Hafan. Os ydych yn barod i'w noddi, galwch heibio i'r fferyllfa. Siom i Chloe Tutton, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bodringallt oedd methu ag ennill medal yn Gemau Olympaidd yn Rio - a hynny o drwch blewyn. Yn y ras nofio 100m daeth Chloe yn 4ydd. Gwell lwc y tro nesaf. Llongyfarchiadau i Jonathan Evans, Gelli, ar dderbyn gwobr gan Gymdeithas Gwaith i Ieuenctid Cymru am ei waith dros Gyngor Rhondda Cynon Taf yn ystod y 12 mlynedd diwethaf yn hyrwyddo Cynllun Meisgyn. Cynllun yw hwn i helpu pobl ifainc ym mlwyddyn 10 a 11 yn yr ysgolion uwchradd i wella eu ffordd o feddwl a byw i'r dyfodol. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn Hebron yn ddiweddar pan ordeiniwyd Mr Colin Davies yn ddiacon newydd gan y Parch Dafydd Henry Edwards. Derbyniodd aelodau'r Capel Cynulleidfaol Saesneg grant o £100 yn ddiweddar o gronfa cynghorwyr Plaid Cymru i'w galluogi i hyrwyddo gwaith yr eglwys. Bu nifer o brofedigaethau yn yr ardal yn ddiweddar. Collodd capel Hebron aelod ffyddlon pan fu farw Mrs Marion Nash, Stryd Clarence, aelod hynaf y capel. Cofiwn hefyd am deuluoedd Mr Mal Hughes, Stryd Llanfair a Mr Daryl Morgan gynt o Stryd Bailey. 9


YSGOLION DATHLU’R CANLYNIADAU SAFON UWCH GORAU YN HANES YR YSGOL AM YR AIL FLWYDDYN YN OLYNOL

Mae aelodau Dosbarth 2016 Ysgol Gyfun Cymer Rhondda yn dathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau Safon Uwch. Mae myfyrwyr Y Cymer wedi llwyddo i sicrhau 100% llwyddiant yn Safon Uwch am yr ail flwyddyn yn olynol. Roedd 81.3% o’r graddau a ddyfarnwyd yn raddau A*-C a llwyd-

10

dodd 28.8% o fyfyrwyr i ennill o leiaf un radd A*A grade.

Ymhlith ein perfformiadau gorau eleni oedd Cerys Evans a enillodd 1 radd A*, 2 radd A a 2 radd B gan sicrhau ei lle ym Mhrifysgol Durham lle bydd yn astudio Fferylliaeth , Aaron Matthews a enillodd 3 gradd A ac 1 B ac sy’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Mathemateg, ac Elis James sydd ar ei ffordd i Brifysgol Abertawe ar ôl ennill 1 A*, 2 A ac 1 B.

Bydd Dafydd Carter yn mynd gydag Elis i Abertawe ar ôl sicrhau 1 A*, 1 A, 1 B ac 1 C ac fe enillodd Courtney Adams ac Elinor Rees 2 radd A, 1 B ac 1 C yr un. Bydd Courtney yn parhau gyda’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Reading tra bod Elinor ar ei ffordd i Brifysgol Southhampton. Yn ogystal â hynny, astudiodd 51 o fyfyrwyr y Fagloriaeth Gymreig Diploma Uwch, gan sicrhau 100% llwyddiant.

Mae myfyrwyr AS yr ysgol hefyd yn dathlu ar ôl ennill rhai o’r canlyniadau gorau yn hanes yr ysgol. Ymhlith ein perfformiadau gorau eleni roedd Carys Frost, Elis Macmillan, Seren Howells, Jake Bailey, Ffion Thomas, Iestyn Francis a Seren Morgan a lwyddodd i gasglu 20 gradd A*-B rhyngddynt.


YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Braf oedd gweld dau o’n cyn-ddisgyblion yn cynrychioli carfan y Gleision yn ystod y penwythnos. Gwych iawn Rhys Gill a Macauley Cook – modelau rôl arbennig!

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com Llongyfarchiadau i’n disgyblion a basio eu haroliadau TGAU

Cyflwyno ein Prif Swyddogion newydd Estynnwn ein llongyfarchiadau a’n dymuniadau gorau i Seren Howells ac Elis Macmillan ar ôl iddynt gael eu hethol yn Brif Ferch a Phrif Fachgen ein hysgol eleni. Gwn y byddant yn llys genhadon arbennig ac yn fodelau rôl gwych i’n disgyblion.

11


PAWB YN DATHLU

12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.