Rhag13gloran

Page 1

y gloran

20c

Nadolig Llawen i’n Darllenwyr

Tomos y Tanc yn Nhreorci. Gareth a Sêra EvansFear yn yr orymdaith. Rhai o stondinau'r ffair. Dwy goeden o’r Wyl Coed Nadolig yn eglwys San Siôr Cwmparc.


golygyddol l CRONFA FFERM WYNT TREORCI

Ddydd Sul, 1 Rhagfyr cynhaliwyd 'etholiad' braidd yn anarferol yn Nhreorci wrth i'r cyhoedd benderfynu pwy oedd yn mynd i dderbyn nawdd ariannol o Gronfa Gymdeithasol Fferm Wynt y Maerdy. Roedd nifer fawr o gyrff yn yr ardal wedi cyflwyno ceisiadau am grantiau yn amrywio o £250 i £2,500. Da oedd gweld cymaint o bobl yn pleidleisio. Amcangyfrifir bod rhyw 400 wedi cymryd rhan. Roedd hi'n amlwg bod ysgolion yr ardal wedi pwyso ar ddisgyblion dros 16 oed a rhieni i bleidleisio ac roedd y trefnyddion yn brysur trwy gydol y dydd o 10am - 4pm. Yn rhyfedd iawn, roedd 14 cais i mewn am y 10 grant £2,500 tra bod prinder ceisiadau am y symiau llai. O ganlyniad, ond iddynt sicrhau 10 pleidlais, roedd pawb yn derbyn yr arian. Wrth i fudiadau ddod i wybod am y ffynhonnell ariannol hon, y gobaith yw y bydd rhagor yn cyflwyno ceisiadau. Er bod agwedd pobl at ffermydd gwynt yn amrywio o gefnogaeth i wrthwynebiad llwyr, mae'r cronfeydd cymdeithasol wedi eu sefydlu a dylid 2

y gloran

rhagfyr 2013

YN Y RHIFYN HWN

Tomos y Tanc yn Dechrau’r Dathlu...1

Golygyddol.. ...2 Gareth..3 Cyfarchion oddi wrth4 ein gwleidyddion Newyddion Lleol...5-8 Mentro Mewn Busnes...9 Y Gymraeg yn Ysgol y Parc...10 Ysgol Gyfun Treorci...11 Dadlau’n ffyrnig/Nia Ben Aur/Cymru v Tonga...12

manteisio arnynt i gefnogi mentrau teilwng. Un cŵyn gan y cyhoedd oedd bod ysgolion, sydd eisoes yn cael eu hariannu gan y Cyngor, wedi sicrhau 40% o'r arian ar draul mudiadau gwirfoddol sy'n dibynnu'n llwyr ar grantiau. Dyma broblem y bydd rhaid i'r Gronfa ei hystyried erbyn y flwyddyn nesaf. Hefyd, roedd trigolion Cwmparc ac Ynyswen yn cwyno taw un orsaf bleidleisio'n unig oedd ar gael, yn enwedig ar ddydd Sul pan nad oedd cymaint o drafnidiaeth gyhoeddus. Beth bynnag, llongyfarchiadau i'r mudiadau llwyddiannus a ganlyn:

Ross; Ysgol Gynradd Treorci; CLwb 'Dylan's Den'; Cymdeithas Jazz y Rhondda; Adran ddaearyddiaeth Ysgol Gyfun Treorci; Grŵp Darllen Ysgol Gynradd Treorci; Adran Economeg y Cartref Ysgol Gyfun Treorci. £250 Cartref Gofal Tŷ Ross; Ysgol Gynradd Treorci; Adran Hanes Ysgol Gyfun Treorci.

£2,500 Ysgol y Parc; Ysgol Gynradd Treorci; Cymdeithas Gymunedol Cwmparc; Clwb Rygbi Treorci; Fforwm 50+ Rhondda Uchaf; Band y golygydd Parc a'r Dâr; Cymdeithas Arddio'r Caemawr; Ysgol Gyfun Gymraeg y Cymer; Ysgol Gyfun Treorci. £1,000 Pwyllgor Ymchwil i Gancr Treorci; Ysgol Gynradd Treorci; Band Pres Rhondda Uchaf; Y Gloran; Adran Gelf Ysgol Gyfun Ariennir yn rhannol Treorci. gan Lywodraeth Cymru £500 Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison Cartref gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Gofal Tŷ Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


GARETH MORGAN JONES YH

Daeth cynulleidfa fawr ynghyd i Gapel Carmel,Treherbert, dydd Mawrth, Tachwedd 5ed, ar gyfer gwasanaeth angladd Gareth MorganJones, ysgrifennydd ymroddgar yr eglwys. Un o blant Treherbert oedd Gareth, yn fab i’r Parchedig Emrys M. Jones, gweinidog Carmel, ac Eluned, merch John Gower, ysgrifennydd yr eglwys am flynyddoedd lawer. Ganed Gareth ar Ebrill 25ain, 1942 a chafodd ei addysg yn Ysgol Penyrenglyn, Ysgol Sir y Porth a Choleg y Drindod, Caerfyddin lle yr enillodd radd B.Add. Yn Ysgol y Graig, Pontypridd y cafodd ei swydd gyntaf cyn iddo symud i Ferthyr Tudful, i weithio mewn uned i blant afreolus, a’i benodi wedyn yn ymgynghorydd addysg. Etholwyd ef yn ysgrifennydd cangen Merthyr o’i undeb, yr NAS/UWT, ac yn aelod llawn-amser o’r pwyllgor gwaith canolog. Bu’n aelod o’r Pwyllgor Lles ac o reolwyr cartref athrawon wedi ymddeol yn Cheltenham, yn ogystal â chyflawni swydd yn drysorydd y Pwyllgor Cymreig. Anrhydeddwyd ef â medal arian yr undeb am ei waith diflino dros yr undeb a’i aelodau dros y blynyddoedd. Er iddo ymadael â’i swydd er mwyn ymuno â’r Colonial Mutual Group, parhaodd yn

ei wasanaeth i athrawon gan ei fod yn dal i ymwneud â phensiynau athrawon, blwydd-daliadau a chynlluniau ymddeol. Am flynyddoedd wedyn bu’n aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Tai Trothwy Cyf. (Grwp Tai Gwalia). Ymhen blynyddoedd dychwelodd i fyd addysg fel is-gadeirydd Rheolwyr Ysgol y Graig ond gwnaeth ei brif gyfraniad fel un o reolwyr Ysgol Gyfun Treorci am ugain mlynedd a chadeirydd am un deg saith ohonynt. Yn ystod ei gadeiryddiaeth bu’n cadeirio cyfarfodydd penodi y rhan fwyaf o athrawon yr ysgol, gan gynnwys y prifathro presennol, Mr. Rhys Jones. Yn ôl tystiolaeth y prifathro, cysegrodd ei amser a’i egni i wasanaeth yr ysgol, gan ddylanwadu’n fawr ar fywyd y gymuned yno. Gwerthfawrogwyd ei waith yn fawr iawn ac y mae yna golled enfawr ar ei ôl. Cafodd Gareth ei benodi yn Ynad Heddwch yn 32 mlwydd oed ac ef ar y pryd oedd ynad ifancaf Cymru a Lloegr. Bu’n Gadeirydd Mainc Meisgyn a’r Llys Teuluol, yn Gadeirydd Pwyllgor llysoedd Ynadon De Cymru am ddeuddeg mlynedd ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynhorol yr Arglwydd Ganghellor ar Bemodi Ynadon. Yn ogystal, bu’n aelod o Fwrdd Prawf De Cymru am chwe blynedd.

Ar ben hyn oll, gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cyfeillion Ysbyty Treherbert hyd nes i Ysbyty George Thomas gael ei hagor yn Nhreorci ac etholwyd ef yn ysgrifennydd Cyfeillion yr ysbyty newydd. Bu’n aelod o Bwyllgor Tŷ Caersalem, yn ymwneud ag iechyd meddwl. Gareth hefyd oedd llywydd Clwb Bowls y Gelli, lle bu ei frawd-yng-nghyfraith, Mal yn aelod a phencampwr y byd yn ei dri degau. Ymfalchiodd yn y ffaith iddo gael rhannau bach yn Pobl y Cwm. Er ei fod yn ddibriod, dyn teulu oedd Gareth Morgan-Jones. Ni adawodd ei gartref, ar wahân i’w gyfnod yng Ngholeg y Drindod. Gofalodd yn ffyddlon am ei rieni yn eu henaint ac wedyn am ei chwaer Mary a’i gwr Mal, hyd nes i’r ddau farw o fewn ychydig o fisoedd i’w gilydd tua dwy flynedd yn ôl. Oddi ar hynny, bu’n fawr ei ofal o'i nai Gareth, ei wraig Claire, a’u meibion Lawrence a Miles. Gareth oedd yn gyfrifol am arwain eglwys Carmel i ymgymryd â’r gwaith o adnewyddu’r capel, gan greu ystafell cyfarfod o dan y galeri ynghyd â chegin a thoiledau. Derbyniwyd ei awgrymiadau am brydiau bwyd, naill ai yn y capel neu mewn gwestai lleol ar achlysuron megis

Gwyl Ddewi neu’r Cynhauaf. Mawr oedd ei gyfraniad i’r eglwys gynnes a chroesawgar sydd ar gael yno heddiw. Roedd Gareth yn hoff o bobl yn eu holl amrywiaeth, yn ddyn caredig, cyfeillgar a haelionus. Ymddiddorodd mewn gwleidyddiaeth a ‘i chymeriadau ac yr oedd yn falch o bob cyfle i drafod gyda phobl, beth bynnag oedd eu daliadau. Clywodd ryw dair blynedd yn ôl ei fod yn dioddef o ffurf ar gangcr nad oedd unrhyw wellhâd iddo. Derbyniodd ei gyflwr gan wybod mai amser cymharol fyr oedd ar ôl iddo, gan geisio paratoi pobl eraill ar gyfer hynny. Gwnaeth ymdrech i gadw ei annibyniaeth hyd y diwedd a gwnaeth ei deulu, aelodau Carmel, ffrindiau a gwŷr busnes Treherbert ei helpu i wneud hynny. Bu’n fawr ei glod i bawb arall am eu caredigrwydd. Mynegai ei ddyled i’w feddyg, i Ysbyty Frenhinol Morgannwg ac i’r Gwasanaeth Iechyd Genhedlaethol bob amser. Daeth y diwedd iddo yn ofnadwy o sydyn ond bydd ei ddylanwad yn ei holl feysydd o wasanaeth yn para’n hir iawn ac yn arbennig yn ei fameglwys, Carmel, Treherbert.

Ivor Thomas Rees

3


Cyfarchion y tymor i’n darllenwyr oddi wrth ein gwleidyddion lleol Jill, Leanne a Leighton

4


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Mae Clwb Rygbi Treherbert wedi derbyn caniatâd i newid o fod yn glwb i dafarn. Unwaith y ceir cadarnhad gan Bwyllgor Trwyddedu RhCT fydd ddim angen i aelodau arwyddo dros westeion. Bydd hyn yn fantais fawr a gobeithir denu rhagor o gwsmeriaid yn y dyfodol. Nos Iau, 19 Rhagfyr, bydd Pwyllgor Datblygu RhCT yn ystyried cais i ddymchwel hen ysgol Blaenrhondda a chodi tai ar y safle. Roedd Clwb Llafur Tynewydd dan ei sang gda phlant a rhieni ar 30 Tach. pan ddaeth cwmni Hawthorn Entertainment yno i berfformio'r pantomeim, 'Robin Red Riding Hood'. Cafodd pawb fodd i fyw gyda disgo a gemau parti wedi eu trefnu i ddilyn y sioe. Nos Lun, 2 Rhagfyr daeth aelodau PACT Treherbert ynghyd yn Nhafarn Hendrewen, Blaencwm i fwynhau cinio Nadolig. Cafodd pawb amser wrth eu bodd yn awyrgylch yr Ŵyl. Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch yn Ysgol Pen-pych yn ddiweddar ac ar ei ddiwedd rhoddodd y plant yr holl fwyd a gasglwyd i fanc bwyd Capel Blaencwm,. Diolch i bawb am eu

haelioni ac am gofio am rai llai ffodus yn yr ardal. Nos Sul, 22 Rhagfyr, cynhelir gwasanaeth carolau dwyieithog yng ngolau cannwyll yng Nghapel Blaencwm gan ddechrau am 6pm. Croeso cynnes iawn i bawb. Llongyfarchiadau i Kelly a Sam Barker o Flaencwm ar enedigaeth eu merch, Tyrianne. Roedd yr efeilliaid, Janet Jones a Liz Richards, yn dathlu eu pen-blwydd yn 50 oed yn ddiweddar. I nodi'r achlysur, cawson nhw barti yn nhafarn Y Brics. Llongyfarchiadau calonnog i'r ddwy. Prin wythnos ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 88 oed, bu farw Howard Williams, gynt o Heol Blaenrhondda. Roedd Howard yn gyn-of yn y pwll glo a weithiodd wedi hynny yn y diwydiant dur. Ac yntau dros 60 oed, aeth ati i ddysgu Cymraeg o ddifrif a llwyddo i ddod i'w siarad yn rhugl. Dysgodd ei ddiweddar wraig, Elsie a'i ferched Glynis, Lee a Delyth yr iaith yn ogystal.Roedd Howard yn Gymro i'r carn ac yn grefftwr medrus. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Nhŷ Ross lle y derbyniodd bob gofal a charedigrwydd. Mawr fydd y golled yn yr ardal ar ei ôl a

chdymdeimlwn yn gywir iawn â'i blant a'u teuluoedd yn eu colled. Yn ddiweddar, fel y gwelir mewn rhan arall o'r Gloran, perfformiwyd y sioe gerdd, 'Nia Ben Aur' gan gwmni o Brifysgol Dewi Sant yn neuaddYsgol Gyfun Treorci. Da oedd gweld merch o Dreherbert, Rachel Stevens, yn cymryd rhan flaenllaw yn y sio a llongyfarchiadau iddi ar safon ei pherfformiad. Ar hyn o bryd mae'r sioe ar daith ar draws Cymru. Croeso gartre i Herbert Hunt o Eileen Place ar ôl treulio cyfnod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Gobeithio eich bod yn teimlo'n well o lawer erbyn hyn. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i deulu Mrs Joyce Adams, gynt o Stryd Dumfries, yn eu profedigaeth. Cafodd Joyce ofal tyner a charedig dros nifer o flynyddoedd yn Nhŷ Ross. Hefyd i deulu Betty Davies o Stryd Margaret a fu farw'n ddiweddar. Gwelir eisiau'r ddwy yn yr ardal.

TREORCI

Nos wener, 29 Tachwedd cyneuwyd y goleuadau Nadolig yn y Stryd Fawr. Cafwyd gorymdaith â llusernau gan y plant o'r

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Cardiff Arms i ganol y dref i weld y goeden Nadolig yn cael ei goleuo. Roedd ffair fach a phob math o adloniant a nifer fawr o stondinau yn gwerthu nwyddau o bob math yng Nghlwb y Bechgyn a'r Merched. Roedd y plant yn dwli ar y trên lliwgar ac wrth eu bodd yn dangos eu lanternau. Da oedd gweld bod cymaint o bobl wedi troi ma's ar noson oer i gefnogi'r achlysur. Dechreuodd disgyblion Ysgol Gynradd Treorci ddathlu'r Nadolig yn gynnar yn y mis. Cynhaliodd adran y Babanod 'Gyngerdd y Geni' yn yr ysgol ddydd Mawrth, 10 Rhag ac fe'u dilynwyd ar yr 11eg gan yr Adran Iau a ymunodd â rhieni i 5


ganu carolau yn Eglwys Sant Pedr, Y Pentre. Bydd Mudiad y Merched [WI] yn cynnal eu Gwasanaeth Carolau yn Eglwys Sant Matthew, nos Iau, 19 Rhagfyr. Croeso i bawb. Ddydd Iau, 5 Rhag. bydd merched y WI yn cynnal eu cinio Nadolig yn Neuadd y Dderwen ar dydd Iau canlynol12 Rhagfyr bydd Clwb yr Henoed yn mwynhau cinio Nadolig yn yr un lle. Cafodd pawb, yn enwedig y plant, fodd i fyw wrth ymweld â safle'r Gwasanaeth Tân yn Nhreorci pan gynhalion nhw eu noson agored, nos Lun, 2 Rhag. Cafodd y plant gyfle i archwilio'r Injan Dân a chwrdd â sawl Sam Tân yn ogystal!

6

Da yw gweld Gareth Evans, Stryd Luton, yn ôl o gwmpas y lle unwaith eto ar ôl cael clun newydd yn ddiweddar. Hefyd, bod Mrs Anne Barrett, Stryd Dumfries, yn gwella o'r anaf a gafodd wrth gwympo yn ei chartref. Ac yntau wedi cyrraedd 100 oed y llynedd, roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am Farwolaeth Mr Albert Stubbs, gynt o Stryd Dumfries, ond bellach o Gartref Gofal Ystradfechan. Roedd Albert yn adnabyddus ac yn boblogaidd yn yr ardal lle y treuliodd ei holl fywyd. Cadwodd yn sionc ac yn effro ei feddwl hyd y diwedd. Cydymdeimlwn â'i deulu yn eu colled. Bydd aelodau Capel Hermon yn cynnal eu

gwasanaeth carolau Nadolig dwyieithog fore Sul, 22 Rhagfyr am 10.30am. Croeso i bawb. Estynnwn ein cydymdeimlad i Tony Reeves, Stryd Regent a gollodd ei dad yn ddiweddar. Cofiwn amdano fe a Janice, ei briod, a'r plant yn eu profedigaeth.

Mae Mrs Clarice Lewis, Stryd Senghennydd wedi ymgartrefu yng nghartref gofal Glyncornel ac mae ei merch, Mair erbyn hyn yng nghartref Pentwyn. Pob dymuniad da i'r ddwy.

CWMPARC

Mae pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar at y Nadolig yn Neuadd y Parc a bydd nifer o ddig-

wyddiadau'n cael eu cynnal yno gan gynnwys Disgo Plant ar gyfer rhai dan 10 oed, nos Sul, 8 Rhag. Fe'i cynhelir rhwng 5.30-8pm a'r tâl mynediad fydd £1.50. Wrth gwrs, bydd Siôn Corn yn bresennol a darperir lluniaeth ysgafn. Wedyn, bydd Disgo Teulu, nos Sadwrn, 21 Rhag rhwng 5-9pm. Croeso i bawb. Bob bore Mawrth rhwng 11-12 o'r gloch gallwch gwrdd â'ch plismon cynorthwyol lleol, Ceri Lyons yn Neuadd y Parc. Mae croeso ichi alw i mewn i drafod unrhyw broblem. Mae dosbarth Street Dance wedi dechrau yn theatr Neuadd y Parc bob nos Fercher, 6-7. Mae'n yn addas i blant 5-


Dyma Phil a Gerwyn wrth eu gwaith

..a dyma’r Cwpwrdd newydd

10 oed. £3 yr un. Bydd rhieni yn gallu cael paned yn y caffi lan llofft wrth iddyn nhw aros. Roedd cyngerdd yn theatr Neuadd y Parc wythnos diwethaf gyda Chor Meibion Treorci. Hefyd, roedd nifer o gantorion ifanc - Lucy Williams, Gabrielle Davies, Ffion Wilde, Callum Howells, Morgan Westcott a Georgia Williams. Mae'n wych gweld cymaint o dalent yn ein hardal ni. Llongyfarchiadau i bawb. Mae Cwmparc nawr yn rhan o Glwstwr Rhondda Uchaf Cymunedau'n Gyntaf ac mae swyddogion y clwstwr ar gael bob bore Iau rhwng 9.30-12 o'r gloch i drafod syniadau newydd ac i esbonio beth sy ar gael i bobl yr ardal ar hyn o bryd. Mae eglwys San Sior wedi cael Gŵyl Coed

Nadolig. Roedd amrywiaeth o goed gyda gwahanol themâu o'r traddodiadol i'r anarferol, o'r crefyddol i'r creadigol, o'r sanctaidd i'r bydol! Roedd y themâu yn cynnwys "Tra gwyliai'r bugeiliaid eu praidd" wedi cael ei gwau gan Daphne Wilkes a Laura Staveley, a "Peas on Earth" gan Nerys Bowen a'r plant. Mwynheuodd ymwelwyr baned a chacen wrth iddyn nhw'n edrych ar y coed. Mae gweithwyr wedi bod yn brysur yn neuadd eglwys San Sior. Maen nhw wedi ailblasto'r wal yn y gegin ac aildoi'r wal. Hefyd maen nhw wedi ail-blastro wal yn y neuadd a chreu cwpwrdd newydd ar gyfer teganau y grwp babanod. Diolch Phil a Gerwyn!

7


Y PENTRE

Bydd tri yn dathlu eu pen-blwydd yn Nhŷ'r Pentre y mis hwn. Pob dymuniad da, felly i Mabel Matthews ac Emme Jenkins ac yn arbennig Hannah Phillips a fydd yn dathlu ar Ddydd Nadolig.

Llys Siloh Pob dymuniad da i ddau o breswylwyr y Llys sy'n dathlu eu pen-blwydd y mis hwn, sef Iris Pearce, sy'n dathlu ar 3 Rhagfyr a Gareth Edwards a fydd yn dathlu ar y 4ydd. Roedd yn ddrwg gan bawb yn Llys Siloh dderbyn y newyddion am farwolaeth Phoebe Roberts ar 16 Tachwedd yn Ysbyty Dewi Sant. Bu'n byw yn y Llys am bron 25 mlynedd a bydd pawb yn gweld eisiau'r wraig boblogaidd hon. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddi yn y Llys, ddydd Gwener, 29 Tachwedd pryd y cafodd ei ffrindiau a chymdogion y cyfle i ddwyn llawer o atgofion hyfryd amdani i gof. Roedd y gwasanaeth yng ngofal warden y Llys, Diane Wakeford gyda'r cyn-warden, Esme Holmes hefyd yn cymryd rhan. Cafodd preswylwyr y Llys ragor o newyddion drwg wrth glywed am farwolaeth un arall o'u cyn-gymdogion, Doreen Greenway. Cafodd Doreen fywyd llawn a phrysur oedd yn dal i drefnu teithiau i aelodau Canolfan Dydd Pentre pan oedd yn ei nawdegau. Bu'n gyfrifol hefyd am drefnu clwb i rai

8

trwm eu clyw, a llwyddo i wneud hynny heb dderbyn llawer o gefnogaeth ariannol swyddogol.Derbyniodd ofal arbennig yn ystod ei blynyddoedd olaf yng Nghartref Ystradfechan, Treorci lle y bu farw'n 99 oed. Cofiwn am ei theulu oll yn eu profedigaeth. The residents of Robert Street were saddened by the news of long term resident Lilian Williams who sadly passed away on November 28th condolences goes to David her husband and her two children. Lilian worked for many years with the home help and will be sadly miss by all who knew her.

Bydd llawer o ddigwyddiadau'n gysylltiedig â'r Nadolig yn cael eu cynnal gan Fyddin yr Iachawdwriaeth yn ystod y mis hwn. Ddydd Mercher a dydd Iau, 3 a 4 Rhagfyr, cyflwynir dram, Nadoligaidd ei naws, 'The Messenger' Tocynnau ar gael gan Olive Hoskins am £5. Wedyn ar ddydd Sadwrn, 7 Rhag., cynhelir Arwerthiant o Waith Llaw rhwng 10.30am 12pm, tocynnau mynediad 50c. Ddydd Sul, 22 Rhag cynhelir gwasanaeth carolau a bydd y Bobl Ifanc yn cyflwyno drama, 'Toby's Christmas Drum'. Byddai'r Major Maria Rosa yn falch iawn o dderbyn bocsys sirial, rholiau toiled, cylchgronau a phapurau i'w defnyddio yn y sesiynau crefft.

Bydd Eglwys Sant Pedr yn cynnal ei gwasanaeth

Nadolig ar 19 Rhag. Croeso i bawb.Christmas service will be held on December 19th PACT Cynhelir cyfarfodydd PACT yn Llys Nazareth ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis rhwng 6-7pm. Mae'r cynghorwyr lleol ar gael i drafod eich problemau ac mae stafell breifat yno os ydych am gael sgwrs breifat â nhw. Hefyd, cewch gyfle i achwyn eich cwyn i gynrychiolwyr yr Heddlu. Bydd Chwarae Plant yn cael ei gynnal ar 4 a 6 Rhagfyr yn unig cyn torri am wyliau'r Nadolig. Bydd y sesiynau rhwng 3.30-5.15pm. Ailddechreuir y cynllun chwarae hwn ar 17 Ionawr. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 493321 neu e-bost www.chwaraeplant.org Cewch fanylion am Chwarae Plant hefyd ar Weplyfr / Facebook.

TON PENTRE A’R GELLI

Roedd yn dda gan breswylwyr Tŷ Ddewi estyn croeso'n ddiweddar i ymwelydd o Ganada. Mae Florence Wilton yn Hanu o Orllewin Vancouver ac roedd hi'n ymweld å Miss Margaret Thomas. Tra oedd hi yma, cafodd gyfle i ymuno mewn addoliad å'r gynulleidfa yn Eglwys Sant Ioan a hefyd i ymweld å rhannau eraill o dde Cymru. Unwaith eto eleni, bydd Eglwys Sant Steffan,

Ystrad Rhondda yn cynnal Gŵyl Coed Nadolig. Bydd yn dechrau nos Wener, 13 Rhagfyr gyda chyngerdd gan Fand Pres Ynyshir a chôr plant Ysgol Gymraeg Bodringallt. Yn dilyn ar ddydd Sadwrn bydd ymweliad gan Siôn Corn a chyngerdd gan Heritage Singers. Cynhaliwyd aduniad blynyddol cyn-aelodau Clwb Bechgyn Penygraig a Threorci yng Nghlwb Pêl Droed Ton Pentre yn ddiweddar. Yn anffodus, methodd y gŵr gwadd, y cyn-ddyfarnwr Clive Thomas å bod yn bresennol ond cafwyd amser da gan bawb yn dwyn atgofion yn ôl am y dyddiau å fu. Cafwyd ysbaid o dawelwch i gofio am ddau o'r aelodau a fu farw yn ystod y flwyddyn, sef Peter Jones a John Loney.

Ydych chi'n gwybod bod person ail hynaf Cymru yn hanu o'r ardal hon? Yn ddiweddar, dathlodd Mrs Audrey Middleton ei phen-blwydd yn 110 oed. Mae hi bellach yn byw yng Nghartref Pentwyn lle mae hi'n derbyn pob gofal. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da iddi yn y flwyddyn sy'n dod. Roedd yn flin gennym dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr David Bebb, Heol Bronllwyn. Roedd David yn frodor o Dreorci ond roedd e wedi byw yn y Gelli am flynyddoedd lawer. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w weddw ac i'r teulu oll yn eu hiraeth.


MENTRO

Nicola Morgan yw perchennog

siop bapurau Morgan's News yn y Pentre. Fe'i maged yn yr ardal ac mae hi'n byw ar hyn o bryd yn Queen St, Y Pentre. Penderfynodd Nocola agor y siop ar ôl gorffen cwrs gradd ym Mhrifysgol Morgannwg a methu â chael swydd. Roedd hi wedi bod yn astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol [Criminology & Criminal Justice] ym Mhrifysgol Morgannwg gan gwblhau'r cwrs trwy astudio'n rhan-amser dros naw mlynedd. Penderfyniad dewr oedd dechrau ar gwrs gradd yn 31 oed a gwneud hynny tra oedd hi'n gweithio yn Siop Spar, Y Pentre. Er iddi fwynhau'r cwrs yn y coleg yn fawr iawn, siom o'r mwyaf ar ôl graddio oedd cael bod llawer o'r

MEWN BUSNES

ffynonellau gwaith yn y maes hwnnw wedi dod i ben wrth i rai o'n llysoedd, fel Aberdâr a'r Rhondda gau a'r llywodraeth yn torri nôl ar y gwasanaeth prawf. Gyda chyfleoedd gwaith o'r fath yn diflannu, penderfynodd Nicola fentro ar agor siop sy'n gwerthu papurau newydd, cylchgronau, cardiau a losin. Wrth weithio mewn siop ei hun, roedd hi wedi clywed llawer o bobl yn cwyno nad oedd neb yn yr ardal yn dosbarthu papurau a phenderfynodd geisio ateb y galw. Erbyn hyn mae hi, gyda help tîm o bobl ifainc, yn dosbarthu papurau ar draws y Pentre o dafarn y Griffin i fanc Nat West. 'Does dim llawer o elw mewn gwerthu papurau," meddai "ac felly dw i'n dibynnu i raddau

helaeth ar werthiant losin a chardiau i wneud unrhyw elw. Yn achos losin, mae plant yn gwsmeriaid pwysig ac oherwydd hynny, byddai gweld Ysgol y Pentre'n cau yn dipyn o ergyd." Gan fod llawer o fasnach y siop yn dibynnu ar gerddwyr a modurwyr sy'n digwydd mynd heibio, bwgan arall, yn ôl Nicola, fyddai agor archfarchnad arall yng ngwaelod Treorci. "Byddai hynny'n golygu cynnydd mawr yn y traffig a gwneud stopio a pharcio yn llawer mwy anodd. All siopau bach ddim cystadlu o dan y fath anfantais,' meddai. " Mae rhedeg siop yn waith caled - gorfod codi'n gynnar a chymryd at ddosbarthu eich hun os yw un o'r bechgyn neu ferched yn dost." Ond er gwaethaf pawb a phopeth, mae Nicola'n dal i fasnach ers 18 mis ac yn gobeithio parhau i wneud hynny am amser eto. Yn rhan ucha'r Rhondda gwelsom nifer o bobl ifainc yn mentro ar agor busnesau gan ddod ag egni a syniadau newydd yn eu sgil. Rhaid dymuno iddynt bob llwyddiant a gobeithio y bydd y cyngor lleol a'r llywodreth yng Nghaerdydd yn gwneud popeth o

fewn eu gallu i hyrwyddo busnesau ym mlaenau'r cymoedd lle mae eu mawr angen.

9


Y GYMRAEG YN YSGOL Y PARC

Wrth i chi gyrraedd mynedfa Ysgol y Parc, does dim arwydd amlwg eich bod chi'n cyrraedd ysgol ddwyieithog. Mae'n dweud "Parc Primary School - Knowledge and Friendship" ar wal y cyntedd, gyda llun lliwgar o fathodyn yr ysgol. Wrth i chi ddechrau cerdded o amgylch yr ysgol, fodd bynnag, rych chi'n clywed "Bore da!" gan staff sy'n mynd heibio, a "Gwrandewch" neu "Eisteddwch" yn y dosbarthiadau. O dan yr wyneb, mae mwy o Gymraeg na'r disgwyl.

10

Mae Miss Alyson Jones wedi bod yn gweithio yn Ysgol y Parc am dros 20 mlynedd. Hi sy'n gyfrifol am Gymraeg yn yr ysgol. "Rydyn ni'n dechrau defnyddio'r Gymraeg yn y dosbarth meithrin. Bob bore, mae'r plant yn ateb "Yma" wrth gofrestru, ac rhaid iddyn nhw ddewis "Cinio" neu "Brechdanau" ar y bwrdd." Gyda Miss Jones, mae'r plant yn dysgu caneuon Cymraeg, ac mae gyda Miss Jones ddoli o'r enw Molly, sy ond yn 'siarad' Cymraeg! Mae'r iaith Gymraeg yn parhau yn y dosbarth derbyn, lle bydd y plant yn penderfynu ar y tywydd bob bore, a dewis cerdyn fflach i'w ddangos ar y bwrdd. Hefyd maen

nhw'n dewis "Sut ydych chi'n teimlo heddiw?" ar fwrdd arall.

Yn ol i Miss Jones, mae'r plant yn teimlo'n gyffordus symud rhwng Saesneg a Gymraeg, ac weithiau mae hi'n gofyn cwestiwn yn Gymraeg, ond mae'r plentyn yn ateb yn Saesneg. Weithiau mae plentyn yn defnyddio geiriau Cymraeg mewn canol brawdded Saesneg. Mae Miss Jones yn esbonio, "Efalllai basai plentyn yn dweud "Can I go to the ty bach?" neu "I'm having brechdanau today"." Nid problem yw hwn, ond rhan o'r broses ar y ffordd i ddwyieithrwydd.

Dywedodd papur 2010 gan Y Grwp Rapporteur ar Ddwyieithrwydd i'r Pwyllgor Menter a Dysgu "Mae dwyieithrwydd yn adlewyrchu gallu'r dysgwr, ar lefelau gwahanol, i newid o un iaith i iaith arall, i dderbyn defnydd yn un iaith a phrosesu a chyfleu'r wybodaeth yn yr iaith arall. Gallant hefyd dderbyn gwybodaeth trwy ddefnyddio un sgil iaith megis gwrando a chyfleu'r wybodaeth trwy sgil arall megis ysgrifennu. Mae graddau gwahanol o ddwyieithrwydd a gwahanol gamau o ddwyieithrwydd, "

Heb amau, mae'r plant yn Ysgol y Parc yn cael dechrau da yn yr iaith Gymraeg., ond yn ol i adroddiad Estyn yr ysgol yn 2010 mae'r ysgol angen datblgu cysondeb y darpariaeth a defnydd Gymraeg ym mhob dosbarth. ("continue to develop consistency in the provision and use of Welsh in all classes".) Mae bylchau wedi bod yn y ddarpariaeth o'r iaith Gymraeg yn y gorffenol, efallai oherwydd diffyg hyder yr athrawon. Mae rhai o'r staff yn siarad tipyn o Gymraeg, ac mae un o'r staff cynhorthwyol yn siarad Cymraeg yn rhugl, Wrth gwrs, mae rhai ohonyn nhw'n fwy hyderus yn y Cymraeg na'r lleill. Dan arweinyddiaeth Mr. David Williams, y pennaeth, Mae Miss Jones yn gweithio'n galed i wella safonau trwy'r ysgol cyfan - y plant a'r staff! Mae hi'n cyffesu bod hi'n gwneud camgymeriadau yn y Gymraeg weithiau, ond wrth gwrs, mae'n rhan o'r broses dysgu. Dywedod y prifathro bod y Gymraeg yn cael sylw arbennig yn nhargedau'r ysgol ar gyfer y flwyddyn hon a'i fod yn gobeithio y bydd y disgyblion yn dod yn fwy rhugl yn yr iaith. Erbyn i'r plant gyrraedd blwyddyn olaf yr ysgol,

blwyddyn 6, maen nhw'n fwy hyderus yn y Gymraeg, ac mae'n nhw'n defnyddio geirfa mwy cymhleth. Er enghraifft, ar hyn o bryd ym mlwyddyn 6, maen nhw'n dysgu ar them "Bugs". Maen nhw'n defnyddio geirfa Cymraeg fel "anifeiliaid di asgwrn cefn invertebrates". Hefyd, ar y wal, mae'r plant yn gallu gweld ar ba lefel maen nhw'n gweithio "Pa lefel ydw i?". Maen nhw'n gallu penderfynu ble rydyn nhw, a beth yw eu target. Mae Mr. Williams, y brifathro, yn hollol gefnogol i'r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Aeth e i ysgol gynradd Gymraeg ei hun. Mae e'n defnyddio Cymraeg gyda'r plant, ac y y gwasanaeth hefyd. Yn y neuadd mae poster mawr Presenoldeb - Attendance ar y wal. Bob wythnos mae cystadleuaeth presenoldeb rhwng y dosbarthiadau. Hefyd, yn y neuadd, ardal "Seren yr Wythnos". Bob wythnos un plentyn ym mhob dosbarth yn cael ei dewis i fod "Seren yr Wythnos" am wneud gwaith da, ac maen nhw'n derbyn tystysgrif.


Dadlau Chwyrn!

Ar nos Lun yr 11eg o Dachwedd cystadlodd tri disgybl o Ysgol Gyfun Treorci yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg y Rotari. Roeddynt yn dadlau o blaid ac yn erbyn y gosodiad Cred y tŷ hwn fod dynoliaeth yn diffinio’i hunan trwy fynd ar deithiau ymchwil i’r gofod. David Evans, ein prif fachgen, oedd yn dadlau o blaid teithio i’r gofod. Cafwyd pwyntiau dilys ganddo a oedd yn nodi gwerth ymchwil pellach o’r gofod er

Nia Ben Aur Ar y 12fed o Dachwedd, croesawyd myfyrwyr y drydedd flwyddyn o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i’r ysgol i berfformio un o sioeau cerdd enwocaf Cymru, Nia Ben Aur. Sioe gerdd yn seiliedig ar yr hen

YSGOL GYFUN TREORCI

mwyn dysgu mwy. Manon Wigley a aeth ati i ddadlau yn erbyn David gan nodi y dylen ni ganolbwyntio ar ddysgu mwy am y ddaear hon cyn edrych i’r gofod a gwario mwy o arian ar geisio datrys y problemau sydd gennym.

byn a gan ystyried mai nhw oedd yr unig ysgol Saesneg, braf oedd gweld y tîm ifanc yma yn cystadlu ar yr un safon â phawb arall. Yn anffodus ni lwyddwyd i gyrraedd y brig y tro hwn er cafodd David Evans glod am ei berfformiad fel y cynigydd.

chwedl Wyddelig am y tywysog Osian a Nia Ben Aur, merch Brenin Tir Na Nog. Fe'i cynhyrchwyd yn wreiddiol i'w pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974. Llwyddodd myfyrwyr y

Drindod adfywio hwyl y sioe gyda chymorth band poblogaidd Cowbois Rhos Botwnnog. Mae Osian, y prif gymeriad, yn chwarae mewn band ac mae e wedi diflasu ar fyw yn Erin, mae e’n dyheu am fywyd gwell gyda

Yn cadw trefn ar y ddau uchod oedd y cadeirydd Owen Kinsey o flwyddyn 12 a lwyddodd i aros yn wrthrychol a chadw rheolaeth ar y drafodaeth chwyrn. Roedd chwech Ysgol Gyfun Gymraeg yn cystadlu yn eu her-

Er na phrofwyd llwyddiant eleni, hoffwn longyfarch yr ysgolion buddugol a dymunwn pob lwc iddynt yn y rownd nesaf. Mwynheuodd y disgyblion y profiad yn fawr.

11


Gêm Rygbi Cymru V Tonga

Ar yr 22ain o fis Tachwedd, cafodd ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Treorci gyfle arbennig i fod yn rhan o dorf anferth yn Stadiwm y Mileniwm i weld gêm rygbi rhyngwladol Cymru yn erbyn Tonga. Cyrhaeddodd y disgyblion yn llawn egni a chyffro ac roeddent yn frwdfrydig i weld y gêm .Braf oedd cael gweld y bechgyn yn chwarae yng nghrys Cymru, yn ogystal â ffefrynnau’r disgyblion fel Lloyd Williams a Leigh Halfpenny. Cafodd y

Nia Ben Aur parhad o dudalen 11

12

disgyblion brofiad arbennig a llawer o hwyl yng nghwmni’r staff yn y stadiwm yn canu caneuon rygbi gyda'r cefnogwyr eraill. Roedd y gêm yn wych ac o ganlyniad cipiodd Cymru’r pwyntiau, a'r sgôr oedd Cymru 17 – Tonga 7. Aeth y disgyblion yn wyllt a gadawon nhw’r stadiwm yn gwenu o glust i glust. Mwynheuodd pawb y noson yn fawr iawn, gan gynnwys y staff! Pob lwc i Gymru yn eu gêm nesaf yn erbyn Awstralia.

mwy o arian ac enwogrwydd. Yn ystod y sioe, gwelwn sut mae Osian yn ymateb i gyfleoedd newydd sy’n cael eu cyflwyno iddo yn Nhir Na Nog. Roedd y perfformiad yma yn un newydd sbon a difyr, cynhyrchiad fel na’i welwyd o’r blaen! Roeddynt wedi llwyddo i ddatblygu darn o waith a chafodd ei greu yn y 70au yn sioe a oedd â neges gyfredol berthnasol ac addas ar gyfer pobl ifanc heddiw. Cafodd disgyblion mamiaith blwyddyn 7, 8 a 9 y cyfle i ganu rhai o’r caneuon poblogaidd yma gyda’r cast yn y gweithdy drama yn y prynhawn. Mwynheuodd y disgyblion y profiad o weithio gyda myfyrwyr y

Drindod, a’r cyfle i weld y sioe gerdd fywiog yn y nos. Braf oedd gweld neuadd llawn o ddisgyblion Iaith Gyntaf ac Ail-Iaith Ysgol GyfunTreorci, disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg y Cymer a’r cyhoedd yn mwynhau’r dawnsio a’r canu gwych. Mae’r adran yn hynod ddiolchgar i Brifysgol Y Drindod Dewi Sant am ei gwaith gwefreiddiol a dymunwn bob lwc i’r dyfodol i fyfyrwyr y Drindod yn eu gyrfaoedd. Braf oedd gweld merch lleol yn y cynhyrchiad hefyd, sef Rachel Stephens a dymunwn pob lwc iddi hi hefyd i’r dyfodol.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.