y gloran
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Page 1
20c
rhifyn 267 2il gyfrol
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I’N DARLLENWYR papur bro blaenau’r rhondda fawr
Fel llawer o deuluoedd eraill, denwyd teulu Wilshire o ardal Bryste i Gwm Rhondda gan y cyfle ffeindio gwaith ac ennill cyflog da yn sgil llwyddiant y diwydiant glo yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aeth George Wilshire i weithio yn y pwll glo i ddechrau, ond maes o law agorodd siop dybaconydd ar gornel Stryd Rees a Stryd Fawr Treorci, yn union gyferbyn â'r Red Cow. Cafodd e a'i wraig Charlotte ddwy ferch, Alice ac Ellen. Roedd Alice yn ferch hynod o ddeniadal, yn dal, yn olau ac yn brydferth. Ar ôl gadael yr ysgol bu'n forwyn yng nghartref cigydd lleol ac wedyn yn gweithio mewn golchdy [laundry] cyn penderfynu symud i Lundain i weithio yn y Carlton Club am gyflog o £12 y flwyddyn. Un o'r aelodau yno oedd Patrick Bowes Lyon, bargyfreithwr a dderbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt ac a fu'n uchel swyddog yn y llynges a'r fyddin. Mae stori ramantus iddo weld adlewyrchiad merch brydferth mewn drych yn y clwb a hithau wrthi'n gofalu am y tân ac iddo syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â hi. Alice Wilshire parhad ar dud 2
rhagfyr 11
GWRAGEDD Y GLORAN ALICE WILSHIRE, Y FERCH O DREORCI A YMUNODD Â'R TEULU BRENHINOL
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Page 2
golygyddol
y gloran
E-bost: ygloran@hotmail.com
Cyfnod gobaith yw'r Nadolig. I'r Cristion mae'n nodi'r adeg y daeth Duw i mewn i'r byd i blith dynion ar ffurff y Baban Iesu. Ie, baban - sumbol o fywyd newydd yn cynnig posibiliadau newydd i'r ddynoliaeth, ymgorfforiad o ddaioni, aberth ac ewyllys da. Erbyn hyn, er bod y mwyafrif yn ddi-hid o wir arwyddocâd yr Ŵyl, eto i gyd, i bawb mae'n gyfnod golau, hapus sy'n cyferbynnu â duwch diobaith y gaeaf ac yn cynnig gobaith am bethau gwell i ddod. Toc, bydd y dydd yn ymestyn gam ceiliog a gwelwn arwyddion o fywyd newydd y gwanwyn o'n cwmpas a gweld cyfle i fynd ati o'r newydd. Ydy, mae'n gyfnod o edrych yn ôl ac edrych ymlaen. Wrth fwrw golwg yn ôl, bydd llawer o bobl yn falch o ffarwelio â blwyddyn na fu'n garedig wrthynt. Bydd gweithwyr anabl Remploy yn y Porth yn ei chofio fel y flwyddyn y bygythiwyd eu dyfodol a llawer o weithwyr y Cyngor yn cofio sut y
2
gostyngwyd eu cyflogau prin er mwyn arbed arian tra ar yr un pryd yn cadw cyd-weithwyr a chynghorwyr gwell eu byd ar yr un lefel o gyflog. Bydd trigolion cartref Crown Avenue yn cofio hon fel y flwyddyn y penderfynwyd cau'r adeilad fu'n gartref iddynt a chwalu'r gymdeithas gynhaliol a dyfodd yno dros gyfnod hir. Gwelsom llawer o siopau'n cau yn yr ardal ynghyd â nifer o dafarndai a'r argyfwng ariannol a grewyd gan fancwyr barrus yn bygwth dyfodol canolfannau cymdeithasol ac adeiladau cyhoeddus. Ac efallai bydd trigolion blaenau'r cymoedd hefyd yn sylweddoli taw dyma'r flwyddyn olaf y byddant yn gweld y mynyddoedd ysblennydd o'u cwmpas yn eu ffurf bresennol cyn dyfodiad fforest o felinau gwynt anferth i'w hanharddu. Ond er hyn i gyd rhaid dal i obeithio yn ysbryd y tymor a dal i weithio ar bob ffrynt i sicrhau gwell byd i'n plant ac i'w plant hwythau. Yng
y gloran ALICE rhagfyr 2011 WILSHIRE YN Y RHIFYN HWN
Alice Wilshire -1 Golygyddol/ -2 Atgofion Nadolig -4 NEWYDDION TREHERBERT TREORCI CWMPARC Y PENTRE TON PENTRE/ Y GELLI/YSTRAD - 5-6-7-8 -9 Gair o’r Wladfa-10
Ysgolion/Prifysgolion Cwis Nadolig -11-12 ngeiriau Myrddin ap Dafydd,
GŴYL Y GENI Yma â'i obaith mae mebyd, - yn y gwair Y mae gwên ein bywyd; Mae'n nef ar ddaear hefyd A chawn o un bach wanwyn byd.
Hoffai Mrs Clarice Lewis a'r teulu, Stryd Senghennydd, Treorci, ddiolch o galon i bawb a ddangosodd gymaint o gydymdeimlad a chefnogaeth iddynt adeg marwolaeth ei gŵr, Meirion, ac am y rhoddion hael i Ysbyty George Thomas a'r Gymdeithas Alzheimer.
oedd y ferch honno. Pa mor wir bynnag oedd y stori, priododd y ddau yn 1893 mewn seremoni ysblennydd. Roedd gan y briodferch naw morwyn briodas ond doedd dim un o'i theulu'n bresennol!
Newid Byd Gan fod cymaint o agendor rhwng teulu siopwr a chyn-lowr o'r Rhondda a theulu Bowes Lyon a'u cysylltiadau agos â'r teulu brenhinol, roedd yn ofynnol i Patrick newid delwedd ei ddarpar wraig cyn mentro ei phriodi. Y peth cyntaf a wnaed oedd ei gwneud y ward i'r Capten Arthur Lister-Kaye a'i wraig a drigai mewn plasty ger Leamington Spa. Digwyddodd hyn yn 1890. Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd Alice yn derbyn hyfforddiant yn 'finishing school' Madam Marchione ym Mharis. Yno cafodd ei chyflwyno i'r addysg a weddai i ferch o uchel dras, a dechrau ymgodymu â sgiliau brodio, arlunio, cerddoriaeth a dysgu peth Ffrangeg - pethau oedd yn ddieithr iawn i ferch o gefndir gwerinol yn y cymoedd. Ar ôl derbyn
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISON gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru
Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Page 3
8-10pm LLUN-GWENER 8-8pm SADWRN 10-4pm SUL
CLUDIR NWYDDAU O'R SIOP I'R TY AM DDIM - NWYDDAU TRYDAN CYNNYRCH FFRES - BWYDYDD WEDI EU HOERI A'U RHEWI DIODYDD A LLAWER MWY - PARCIO AM DDIM
CROESO CYNNES I BAWB
DIOLCH AM EICH CEFNOGAETH YN YSTOD Y FLWYDDYN
hyfforddiant pellach yn Basle yn y Swistir, barnwyd ei bod yn barod i ymuno â theulu bonheddig ac yn 1893, fel y dywedwyd, fe'i hunwyd â Patrick Bowes Lyon mewn glân briodas. Er gwaethaf y gwahaniaethau mawr o ran cefndir, bu'r briodas a barodd am 53 blynedd yn un hapus a llwyddiannus. Yn ogystal â chartref yn Sgwâr Cadogan, Chelsea, roedd ganddynt ystad yn Westerham, Swydd Gaint a chawsant bedwar o blant, Gavi, Angus, Jean a Margaret Ann a gyrhaeddodd pan oedd Alice yn 39 oed. Cadw Cysylltiad Yn y cyfamser, roedd ei
chwaer Ellen wedi ymgymhwyso'n athrawes ac wedi priodi â Mr Williams, perchen County Stores ar Sgwâr y Stag, Treorci. Roedd hi a'i gŵr yn byw yn y tŷ olaf yn Stryd Tynybedw, y tu ôl i'r Swyddfa Bost bresennol, ac ati hi y byddai Alice yn dod pan fyddai'n ymweld â Threorci. Roedd ei brawd, Sam, yntau wedi agor siop yn y Pentre. Dywedid ei bod yn dod ar y trên o Gaerdydd gyda'r nos er mwyn osgoi tynnu sylw ati ei hun ac unwaith daeth â'r bechgyn gyda hi er mwyn iddynt weld lle y cafodd ei magu. Roedd y teulu'n hynod o ofalus i beidio â sôn wrth un-
rhyw un am hynt a helynt Alice rhag peryglu ei statws cymdeithasol ond byddai'n galw i weld ei hen gymdogion, fel y diweddar Hywel Rees oedd yn byw drws nesaf i'w chwaer. Trasiedi Wrth reswm, roedd hi'n troi mewn cylchoedd cymdeithasol tra gwahanol i'w theulu. Er enghraifft, roedd hi a Patrick ymhlith y gwesteion ym mhriodas Elizabeth Bowes Lyon [y Fam-frenhines wedi hynny] a Dug Efrog a ddaeth yn Siôr VI. Ond er bod ei phriodas yn un lwyddiannus daeth sawl trasiedi ar ei thraws cyn
diwedd ei hoes. Aeth y ddau fab i wasanaethu gyda'r lluoedd arfog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn anffodus, cafodd Gavin ei ladd yn 1917, ond er i Angus ddychwelyd adre'n ddiogel, cyflawnodd hunanladdiad pan gafodd ei siomi mewn cariad. Bydd llawer o ddarllenwyr y Gloran yn cofio siop degannau a beiciau Sam Wilshire, brawd Alice, yn Stryd Llywelyn, Y Pentre, ond tybed faint ohonynt sy'n gwybod hanes rhamantus a thrist ei ferch, Alice - y ferch gyffredin, ond anghyffredin o ddeniadol, o Dreorci a ddaeth yn aelod o'r teulu brenhinol?
3
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
ATGOFION CYNNAR AM Y NADOLIG Gofynnwyd i rai o
Page 4
blwyddyn - ond digon cyfyng o'dd hi arnon ni fel teulu."
ddarllenwyr hynaf Y Gloran am eu hatgofion cyntaf am y Nadolig. Wrth iddyn nhw adrodd eu profiadau yn y dauddegau, efallai y sylweddolwn nad yw pethau cynddrwg heddiw ag y tybiwn weithiau. Dyma rai o'r atebion a gafwyd.
Mrs Beryl Breese, 86 oed, Crown Avenue, Ynyswen,
"Whech o'd o'n i pan fu farw fy mam, ac o ganlyniad ces i fy magu gan fy Mam-gu yn Stryd Treharne, Cwmparc. Ro'dd naw ohonon ni'n rhannu tŷ dwy stafell ar y llofft, dwy ar y llawr a seler. Gorfod rhannu gwely hefyd o'n ni'r plant, gyda dau'n cysgu bob pen iddo. Ro'n ni'n dlawd iawn a dwi ddim yn cofio derbyn unrhyw anrhegion fel y cyfryw, dim ond ychydig losin a hosan Nadolig yn cynnwys afal, oren a chwpl o gnau. Ond r'on ni'n cael cinio deche gan fod 'Nhad-cu yn cadw ffowls lan ym Mhatagonia - rhan o Gwmparc lle roedd 'lotments. Dw i'n cofio gorfod helpu plufio'r ffowlyn bob
4
Mrs May Thomas, 96 oed, Stryd Dumfries, Treorci "Y cof cyntaf sy 'da fi yw cael dol fawr yn anrheg Nadolig pan o'n i obeutu whech oed. Arfer Mam oedd gadael cannwyll a matsys wrth erchwyn y gwely. Dw i'n cofio cynnau'r gannwyll yn oriau mân y bore a gweld bod clamp o ddol wedi cyrraedd. Codi a rhedeg i stafell Mam a 'Nhad i ddweud bod Santa wedi bod ac wedi rhoi anrheg wych i fi. Ond y Nadolig nesa' fe ges i siom ac i ddweud y gwir, sioc a dweud y gwir. Ro'dd gan chwaer fy mam yn y Rhondda Fach deulu mawr oedd yn byw mewn cryn dlodi ac am ryw reswm neu'i gilydd penderfynodd Mam 'mod i wedi cael digon o gwmni'r ddoli a'i rhoi i fy nghyfnither, Glenys, ym Mhontygwaith! Os do fe - ro'n i'n grac pan ganfyddais i beth oedd wedi digwydd. I roi halen ar y briw, roedd mam Glenys, Modryb Gwen
wedi rhoi doli fach ddu i fi er mwyn gwneud yn iawn am fy ngholled. Doli ddu! Ro'n i'n casau dolis du a dw i ddim yn credu imi ddod dros y cam a ges i'r flwyddyn honno hyd y dydd hwn!"
Vic Davies, 93 oed o Dŷ Pentwyn, Treorci "Ryw dri mis oed o'n i pan ges i a fy chwaer, Violet, ein mabwysiadu gan lowr o'r Rhondda, Tom Thickens a'i wraig. O ganlyniad, symudon ni o'n cartref yn Nant Eris ger y Cei Newydd yn Ngheredigioni Heol Tyntyla, Ystrad Rhondda. Gŵr o egwyddor oedd Tom a fu'n streicio'n gyson yn ystod y dauddegau. Doedd dim rhyfedd felly inni gael magwriaeth dlawd. Dw i'n cofio Nadolig 1923 am un rheswm yn arbennig oherwydd yr unig anrheg a ges i oedd un banana! Ro'n i bron â marw eisie trên trydan, ond doedd dim gobaith caneri 'da fi ac ro'dd Mam yn esgus bod yn grac 'mod i ddim yn ddiolchgar am y banana. "Rwyt ti'n lwcus dy fod yn cael banana!' meddai. Ac mae'n siŵr fy mod i gan fod llawer yn waeth
eu byd yr adeg honno. Wedi'r cyfan, bu rhaid i Violet fynd i wasanaeth yn Llundain pan nad oedd ond 15 oed.
Mrs Maud Jones, 91 oed, Treherbert. "Mae'r flwyddyn 1926 yn aros yn fyw yn y cof. Rown i'n 6 oed ar y pryd ond mae digwyddiadau cyn y Nadolig wedi gadael argraff ddofn arna' i. Bu 'Nhad farw yn ystod haf y flwyddyn honno pan oedd y Streic Fawr ar ei hanterth ac mae'n rhaid ei bod hi'n ddigon main ar Mam, Teras Troedyrhiw, Treorci oedd ein cartref ar y pryd a 'Nhad yn swyddog yn y pwll. Dw i'n cofio gweld plismyn â phigau mawr ar eu helmau yn cerdded i lawr hyd lan yr afon y tu ôl i Stryd Regent, yn ymyl Hermon a chodi ofn arnon ni'r plant. Roedd pethau'n digwydd yn Hermon adeg y Nadolig, siwr o fod, ond dibynnai llawer o'r teuluoedd ar y soup kitchen yn Bethlehem am eu bwyd. Dw i'n ofni bod digwyddiadau o fewn y teulu a'r gymdeithas wedi disodli unrhyw atgofion am y Nadolig y flwyddyn honno."
newyddion lleol
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Page 5
DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
Nos Lun, 12 Rhagfyr, daeth Côr Eglwys Corea, Caerdydd a chôr Ysgol Gynradd Pen-pych ynghyd yng nghapel Blaencwm i gynnal gwasanaeth arbennig. Dilinir y digwyddiad wn gan wasanaeth carolau dan olau canhwyllau yn yr un capel, nos Sul, 18 Pob dymuniad da i Gareth Rhagfyr am 6 o'r gloch. Morgan Jones, Stryd Stu- Bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei darparu ar ôl yr art am wellhad llwyr a oedfa. Croeso cynnes buan. Bu Gareth, sy'n iawn i bawb. adnabyddus iawn yn yr ardal, yn dost ers peth Mae clod mawr yn ddyleamser a gwelir ei eisiau mewn sawl cylch, yn en- dus i nifer o fechgyn ifainc Blaenrhondda sydd wedig yng nghapel Carmel sy mor agos at ei wedi defnyddio eu hamser hamdden i baentio pafilgalon. iwn Clwb Pêl-droed Mae cais o flaen Pwyllgor Blaenrhondda. Rhoddwyd y paent yn rhad ac am Cynllunio RhCT i godi hyd at 63 o dai ar y safle ddim gan gwmni Dulux ar waelod Heol y Rhigos ac erbyn hyn mae'r lle'n edrych yn ardderchog. lle mae'r Ysgol Farchogaeth i'r Anabl ar hyn o bryd. Er bod pryderon Dymunwn wellhad llwyr gan drigolion a chynghor- a buan i Howard wyr lleol am addasrwydd Williams, Blaenrhondda, y safle, am sawl rheswm, sydd ar hyn o bryd yn dermae swyddogion y Cyn- byn triniaeth yn Ysbyty gor yn argymell cymerad- Brenhinol Morgannwg. Gobeithio y bydd yn ôl yn wyo derbyn y cynllun. ein plith yn fuan. Yr un Bob bore dydd Iau rhwng yw ein dymuniad hefyd i 10 - 11 a.m, mae Natasha, Mrs Nida Jeffreys, Clos St Mary sydd newydd ddery swyddog heddlu cynorthwyol lleol ar gael byn llawdriniaeth yn Ysbyty'r Waun, Caerdydd. yn y Llyfrgell. Os oes gennych broblem, galwch Bydd Brownies Treheibio am sgwrs a dysherbert yn cyflwyno draglaid o de. ma'r geni, nos Sul, 18 Cynhaliwyd noson o ganu Rhagfyr am 6 o'r gloch yn Eglwys y Wesleaid, Stryd carolau nos Wener, 9 Dunraven. Mae croeso i Rhagfyr yng nghapel Carmel. Roedd holl elw'r bawb daro i mewn i noson yn mynd at elusen gyfranogi o ysbryd yr Ŵyl. Marie Curie. TREHERBERT Bu Cwmni Opera Selsig yn cyflwyno sioe 'Little Shop of Horrors' yn Theatr y Parc a'r Dâr rhwng 29 Tachwedd a 3 Rhagfyr. Cafodd pawb pleser wrth wylio'r cynhyrchiad graenus oedd yn arddangos llu o dalentau lleol.
Cafodd y gymdogaeth gyfan ei syfrdanu gan farwolaeth sydyn Catherine Meredith, Stryd Dunraven. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'r teulu oll yn eu colled. Un arall y gwelir ei heisiau'n fawr yw Tydfil Carpenter, Brook St, Blaenrhondda. Cydymdeimlwn â'i gŵr hithau, David a gweddill y teulu yn eu hiraeth. Dosbarth Alcido yn Gymraeg ar gael i blantNeuadd Les Ynyswen Shidoin Laura Williamsrhagor yn ein rhifyn nesa
TREORCI Nos Wener, 25 Tachwedd cynhaliodd Treorci ei
EICH GOHEBWYR LLEOL :
Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN
Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Cwmparc: D.G.LLOYD
Treorci MARY PRICE
Y Pentre: ANNE BROOKE TESNI POWELL
Ton Pentre a'r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
dinau yng Nghlwb y Bechgyn a Merched a Santa yn roi croeso i blant yr ardal yn ei groto. Yn ogystal, cafwyd eitemau gan Gôr Meibion Treorci. Nos Iau, 3 Tachwedd cynhaliodd Sefydliad y Merched [WI] noson arbennig i ddathlu ugain mlynedd ers sefydlu'r gangen yn Nhreorci. I nodi'r achlysur, penderfynodd yr holl aelodau ymwisgo mewn steil gyda digonedd o fling! Roedd y llywydd, Pauline Worman, a welir yn y llun, wrth ei bodd yn croesawu swyddogion y mudiad o Undeb Morgannwg a Chaerdydd, ynghyd Marchnad Nadolig ynå llywyddion canghennau ghyd â gorymdaith Pen-y-bont, Ferndale, Treâ llusernau trwy'r dre. Roedd amrywiaeth o ston- herbert a Thon Pentre.
5
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Page 6
Darparwyd adloniant gan wahanol adrannau'r gangen ac i ddilyn cafwyd swper bwffe. Mae ein diolch yn fawr i aelodau'r pwyllgor am weithio mor galed i sicrhau noson lwyddiannus a chofiadwy. Yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr, mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Gillian Waldin, Stryd Clark. Cydymdeimlwn yn gywir iawn å'i gŵr, Ken a'i merch, Donna, ynghyd å'r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Brysia i wella yw'r neges i Ian Reynolds, Heol y Fynwent yn dilyn ei ddamwain ddiweddar. Mae pawb yng Nghôr Meibion Treorci a'i ffrindiau yn yr ardal yn dymuno'n dda iddo ac yn gobeithio y caiff adferiad buan. Yr un yw'r neges i Mr a Mrs Brian Williams, Stryd Glynrhondda sydd, ill dau, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Gobeithio y byddant yn ôl gartref yn holliach cyn bo hir. Nos Iau, 8 Rhagfyr, perfformiodd Côr Cymysg Treorci am y tro olaf pan gyflwynwyd noson o gerddori-
Llongyfarchiadau i Anna HughesWilliams, merch Betty ac Elfed Hughes, Heol y Fynwent ar gael ei phenodi yn arweinydd Band Pres Ieuenctid St Helens yn Swydd Gaerhirfryn. Yn dilyn hyfforddiant dan Mr Ieuan Morgan, cafodd Anna ei dewis yn brif chwaraewr cornet bandiau ieuenctid Treorci a Chanol Morgannwg. Yn 17 oed bu'n unawdydd cornet ym Mand Pres Ieuenctid Cymru. Yn 1989, aeth i astudio ym Mhrifysgol Salford a dod yn aelod o Fand Cymdeithas Adeiladu Britannia a enillodd Pencampwriaeth Ewrop yn 1992. Mae hi'n dysgu cerddoriaeth yn ysgolion Bolton yn St Helens ac ers tair blynedd bu'n gyfrifol am arwain 40 - 50 o chwaraewyr ifanc rhwng 7 - 14 oed sy'n ffurfio Band Pres Iau Bolton. aeth y Nadolig yn dwyn y teitl, Dymunwn yn dda iddi yn ei swydd 'Ganed Plentyn' yn Eglwys Sant newydd. Matthew. Rhaid diolch i'r arweinydd, Mrs Janice Harris a'r can- Nos Fercher, 20 Rhagfyr, am 7 pm, bydd côr Sefydliad y Merched yn torion am eu gwaith dros y cynnal eu gwasanaeth Nadolig o blynyddoedd a dymuno'n dda idgarolau a darlleniadau yn Eglwys dynt.
CARPETS ʻNʼ CARPETS
117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349
6
Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni a dewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton, Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewch groeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.
Mesur cynllunio a phrisio am ddim Storio a chludiant am ddim Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa Credydd parod at £1,000 Gosodir eich carpet gan arbenigwy Gwarantir ansawdd Ol-wasanaeth am ddim Cyngor a chymorth ar gael bob amser Dewiswch eich carped yn eich cartref Gellir prynu a gosod yr un diwrnod Gosod unrhyw bryd Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol Carpedi llydan at 10ʼ5” Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad Y dewis mwyaf yn yr ardal Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop
50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYN o GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR MILOEDD o BATRYMAU a CHYNLLUNIAU yn ein HARDDANGOSFA DDEULAWR Dewch yma-Cewch werth eich arian
Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop os am fargen arbennig CARPETS ʻNʼ CARPETS Ar agor 6 diwrnod 8.30-5.30 Hefyd amser cinio ddydd Sul
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Sant Matthew. Croeso cynnes i bawb. Cafodd Pwyllgor Ymchwil i Gancr Treorci noson goffi lwyddiannus iawn, nos Iau, 24 Tachwedd yng nghwmni Band Arian Treherbert a'r Cylch. Fel arfer, llwyddwyd i godi swm sylweddol o arian at yr achos teilwng hwn ac mae'r pwyllgor am ddiolch i bobl yr ardal sydd bob amser mor barod i gefnogi'r achlysuron poblogaidd hyn. Cynhaliodd Ysgol Gynradd Treorci ei Ffair Nadolig, ddydd Sadwrn, 2 Rhagfyr. Cafwyd digon o hwyl a bu'r achlysur yn llwyddiannus iawn. Rhwng 29 - 31 Rhagfyr bydd pantomeim 'Cindrella' yn y Parc a'r Dâr. Bydd y cast yn cynnwys Frank Vickery a Gillian Elisa, un o sêr 'Pobol y Cwm' sydd wedi cael llwyddiant mawr yn ddi-
Page 7
weddar yn cymryd rhan yn y sioe gerdd 'Billy Elliot' yn y West End. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â chôr, mae croeso ichi bicio i mewn i Neuadd y Dderwen, Heol y Fynwent, unrhyw nos Wener rhwng 7 - 9 pm lle mae Côr Faith Hope & Charity nawr yn ymarfer. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 776195. Roedd Cwmni Opera Spotlight yn rhoi cychwyn i ddathliadau'r Nadolig, nos Sul, 11 Rhagfyr pan gyflwynon nhw raglen o eitemau Nadoligaidd yn nhafarn y RAFA. Ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd daeth dros 300 o bobl i weld sioe modelwyr rheilffyrdd yn y Parc a'r Dâr. Cafodd selogion y diddordeb hwn fodd i fyw yn edrych ar y mdelau oedd yn cael eu harddangos.
Wrth chwilio am anrhegion Nadolig, cafodd trigolion Treorci gyfle 1r 19, 25 a 26 Tachwedd gyfle i alw yn Neuadd Abergorci i brynu cynnyrch arlunwyr Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg. Roedd yno amrywiaeth fawr o luniau i'w dewis a hyd yn oed os nad oeddech am brynu, roedd yr arddangosfa'n wledd i'r llygad. Y trwmpedwr jazz adnabyddus, Ben Cummings, oedd y gŵr gwadd yng nghyfarfod mis Tachwedd o'r Clwb Jazz a gynhaliwyd nos Fawrth, 22 Tachwedd yng Nghlwb Rygbi Treorci. Mae croeso i bawb sy'n ymddiddori yn y math hwn o gerddoriaeth ymuno yn y sesiynau misol hyn a chael cyfle i glywed rhai o'r perfformwyr jazz gorau yn y wlad. Mae mynychwyr Canolfan Dydd Noddfa yn falch gweld ei bod wedi ailagor ar øl bod ar gau
am gyfnod er mwyn cwblhau gwaith adnewyddu. Bydd Pwyllgor Datblygu Rhondda Cynon Taf yn ystyried cais i godi tri thŷ ar safle adeiladau allan tafarn y Red Cow. Mae trigolion lleol yn poeni am yr effaith y caiff hyn ar symudiadau trafnidiaeth yn yr ardal ond mae swyddogion y Cyngor yn cymeradwyo'r cynllun. Roedd pawb yn flin clywed bod Mr Cliff Tucker, Stryd Dumfries wedi cwympo a thorri ei goes tra yn siopa yn Asda. Mae Cliff yn hynod o gymwynasgar, yn siopa dros henoed yr ardal ac mae pawb yn dymuno iddo wellhad llwyr a buan. CWMPARC Mae Pwyllgor Cynllunio Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cais am ganiatâd i ddymchwel Capel Bethel ac i godi
7
Cyfarchion y Tymor oddi wrth
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Page 8
Ein Cynrychiolwyr
Cyfarchion y Tymor oddi wrth Leanne
Cysylltwch am gyngor neu gymorth: Leanne wood AC 32 Heol Gelliwastad Pontypridd CF37 2BN 01443 480291▪ 029 2089 8256 e-bost: leanne.wood@cymru.gov.uk gwe: www.leannewood.org
Nadolig Llawen oddi wrth Jill Jill Evans ASE jill.evans@europarl. europa.eu 01443 441395
Nadolig Llawen oddi wrth Leighton
dau dŷ tair ystafell wely ar y safle. Cynhaliwyd ffair Nadolig eglwys st Siôr ar fore Sadwrn Tachwedd 26ain. unwaith eto eleni roedd y ffair yn llwyddiant a chodwyd swm teilwng eto er mae’n debyg na fu’r prynwyr ddim cymaint ag arfer. Mae’r eglwys yn cynnwys ffair haf hefyd ac mae’r arian a godir yn bwysig i gynnal yr eglwys ac glod i’r ymdrech a wneir gan yr aelodau. Ym Mharc Treftadaeth y Rhondda ar 22ain o Dachwedd cynhaliwyd Gwasanaeth Goffa am y rhai a fuont farw yng nglofa Lewis Merthyr ar
8
Leighton Andrews AC leighton.andrews@cymru. gov.uk 01443 685261
22 Tachwedd 1956 pan golloddnaw o ddynion eu bywydau. Daeth nifer teilwng ynghyd rhai ohonynt yn rhan o fudiad Ffrindiau’r Treftadaeth. Yr oedd y gwasanaeth o dan ofal y Parch David Brownnutt. Yn gyfeilio i’r emynau a ganwyd oedd Seindorf glofa Lewis Merthyr sydd yn dal mewn bodolaeth. Cymerwyd rhan gan wahanol rhai ac yn eu plith Ivor England oedd yn gweithio yn y pwll ar y diwrnod 55 o flynyddoedd yn ôl pan ddigwyddodd y danchwa Darllenodd hawys Glyn James ddarn dwys o farddoniaeth o’i gwaith hi ei
hun i nodi achlysur y drychineb.
Y PENTRE Dyma golofn olaf am y tro Dr Anne Brooke, sy'n troi am adre dros y Nadolig. Gobeithio y caiff hi a'r teulu amser da yn Norfolk, Virginia a diolch i Tesni Powell a fydd yn gyfrifol am y golofn yn ei habsenoldeb. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'r ddwy. Gol. Bob nos Iau at y Nadolig, bydd canolfan grefftau Lemon Blues yn Stryd Llywelyn ar agor rhwng 6 - 8 o'r gloch er mwyn i bobl
brynu anrhegion Nadolig o waith crefftwyr lleol. I ddynion sydd mewn penbleth beth i'w brynu i'w gwragedd, bydd cyngor parod ar gael a bydd diodydd a lluniaeth ysgafn ichi yn ogystal. Galwch i mewn i weld y crefftwaith arbennig. Chewch chi mo'ch siomi! Erbyn hyn mae pethau mynd ymlaen yn hwylus yn y Village Cafe sydd bellach yn gallu cynnig pysgod a sglodion a phrydau i'w cludo ymaith. Mae'r caffi'n prysur ddatblygu'n fan cyfarfod poblogaidd iawn yn yr ardal. Roedd Ffair Nadolig
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Eglwys San Pedr yn llwyddiant ysgubol. Llwyddwyd i godi £1,940 at yr achos. Codwyd £400 ar y stondin deisennau'n unig! Cafodd y plant fodd i fyw yng nghwmni Siôn Corn tra bod eu rhieni'n crwydro o gwmpas y stondinau amrywiol. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u haelioni. Bydd canolfan Byddin yr Iachawdwriaeth yn brysur dros y Nadolig Brynhawn Sul, 18 Rhagfyr am 4.30pm bydd y bobl ifainc yn cyflwyno gwasanaeth carolau ar y thema 'Pobl y Byd'. Wedyn, bydd y Cwmni Canu'n cynnal cyngerdd nos Iau, 22 Rhagfyr - tocynnau £4. Ar ddydd Nadolig ei hun ac ar ddydd Calan, bydd gwasanaeth am 10.30 am. Croeso i bawb. Llongyfarchiadau calonnog i Mike a Tesni Powell, Tŷ Siloh ar enedigaeth wyres arall, sef Alexia, ac i rieni'r ferch fach newydd, Owen a Kath Powell, Treherbert. Roedd ei brawd mawr Dylan yn falch iawn o gael cwmni hefyd! Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Joan Rossitter, Tŷ Siloh sy'n treulio cyfnod yn yr ysbyty yn derbyn llawdriniaeth. Bydd eich ffrindiau yn Nhŷ Siloh yn falch iawn o'ch gweld yn ôl yn eu plith. Ar drothwy'r Nadolig ar 23 Rhagfyr, bydd Mabel Matthews, Tŷ'r Pentre yn dathlu ei phen-blwydd ond bydd hi wedi cael parti cyn hynny oherwydd y bydd yr holl breswylwyr yn mwynhau eu parti nadolig ar 14 Rhagfyr ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr adloniant a gânt yng nghwmni'r canwr poblo-
Page 9
gaidd, Greg. Mae'n bosib ichi bostio eich cardiau trwy wasanaeth Post y Sgowtiaid mewn dwy siop yn y Pentre, sef Finishing Touches, gyferbyn â'r eglwys neu yn siop flodau Impressions. Fodd bynnag, rhaid eu postio cyn 3 Rhagfyr a phris stamp yw 15 ceiniog. Diolch i'r bechgyn, eu rhieni a'u harweinwyr am gynnig y gwasanaeth gwerthfawr hwn yn yr ardal. Mae rhai rhieni'n dal i helpu 10 mlynedd ar ôl i'w plant beidio â bod yn sgowtiaid! Nos Iau, 17 Tachwedd cynhaliodd aelodau Eglwys San Pedr noson gymdeithasol yng Nghlwb y Lleng Brydeinig. Cafwyd lluniaeth ac adloniant ac roedd elw'r noson yn mynd at Gronfa'r Eglwys. Roedd aelodau Clwb Henoed Stryd Llywelyn ar gerdded unwaith eto ddydd Mawrth,22 Tachwedd, pan drefnwyd gwibdaith i dref Llanelli. Gobeithio i bawb gael hwyl yn Nhre'r Sosban a chyfle i wneud ychydig o siopa Nadolig. Cafodd pawb sy'n hiraethu am gerddoriaeth roc yr wythdegau, gyfle i ailfyw profiadau'r cyfnod mewn Noson Deyrnged a gynhaliwyd yng Nghlwb y Lleng Brydeinig, nos Wener, 18 Tachwedd. TON PENTRE Mae'n flin gennym gofnodi marwolaethau Carol Stoddart, Stryd Kennard ac Idris Brian Walker, Stryd Clara. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â holl aelodau'r ddau deulu yn eu profedigaeth. Yn dawel mewn cartref gofal yn Sant Hilari ar 11 Tachwedd, yn 88 oed, bu
farw Mrs Iris Oram, gynt o Maindy Grove ond wedyn o Dŷ Ddewi. Bu Mrs Oram a'i diweddar ŵr, Dennis, yn cadw siop radio a theganau Oram & Smith yn Nhreorci cyn ymddeol i'r Ton. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Sant Ioan ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd o dan ofal y Tad Haydn. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w meibion, David a Jeffrey, ei hwyrion, Charlotte, Harriet ac Edward a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Yn ddiweddar, cafwyd noson o ganu carolau gan aelodau capel Hebron yng nghwmni aelodau o Fand Pres Treherbert. Dechrau da i Ŵyl y Nadolig! Yn Theatr y Ffenics, cynhaliwyd oson arbennig yn dathlu gwaith Dylan Thomas gan grŵp Theatr Lighthouse Rhoddwyd lle arbennig i gyflwyniad Richard Burton o'r stori 'Nadolig Plentyn yng Nghymru'. Llongyfarchiadau i Hilary a Cadfan Clayton. Maendy Grove, ar enedigaeth eu hwyres newydd Rhianydd, merch i Richard a Natalie a chwaer fach i Sophie a Charlotte. Roedd yn flin iawn gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Doug John, Teras Ardwyn. Pan oedd yn iau, chwaraeodd Doug ran flaenllaw yng nghlwb rygbi Treorci. Bu'n aelod o'r tîm am flynyddoedd ac yn aelod poblogaidd o'r clwb. Cydymdeimlwn â'i deulu oll yn eu hiraeth. Y siaradwr gwadd ym Mrawdoliaeth Eglwys Sant Ioan y mis hwn oedd Mr Paul Young, Penygraig. Ei bwnc oedd bywyd a gyrfa y pel-
droediwr a'r rheolwr pêldroed o'r Rhondda, Jimmy Seed. Dechreuodd Seed chwarae dros Ganol Rhondda yn 1919, yn syth ar ôl y Rhyfel ac aeth ymlaen i chwarae dros Tottenham Hotspur a Sheffield Wednesday. Arôl ymddeol o chwarae, bu'n rheolwr llwyddiannus ar Leyton Orient a Charlton Athletic lle mae, hyd heddiw, eisteddle sy'n dwyn ei enw. Cynhaliodd Ysgol Fabanod Ton Pentre Ffair Grefftau lwyddiannus iawn, ddydd Sadwrn, 3 Rhagfyr. Daeth nifer o grefftwyr lleol ynghyd i arddangos eu cynnyrch a chafodd pawb gyfle i brynu anrhegion Nadolig gwahanol i'r arfer. Y flwyddyn newydd yw tymor y pantomeim a chaiff trigolion yr ardal gyfle i weld perfformiadau o 'Snow White' yn Theatr y Ffenics rhwng 15-17 Chwefror. Cynhaliodd y Clwb Cameo eu cinio Nadolig yng Nghlwb Pêl-droed Ton Pentre, ddiwedd Tachwedd. Yn dilyn y wledd cafwyd eitemau cerddorol gan Gôr Connor o Ystrad Rhondda. Bydd y cyfarfod nesaf ar 25 Ionawr am 2pm yn festri'r Capel Cynulleidfaol Saesneg. Yn y cyfamser dymunir Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'r holl aelodau. Bu cyn-chwaraewyr pêldroed clybiau bechgyn Penygraig a Threorci yn cynnal eu haduniad blynyddol yng Nghlwb Pêl-droed Ton Pentre, nos Wener, 2 Rhagfyr. Eleni fydd y 25ain tro iddynt gyd-gyfarfod ac yn garreg filltir nodedig i ddau o'r trefnwyr, Clive Owens a Haydn Ivens sydd, ill dau, yn dathlu eu penblwydd yn 75 oed.
9
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
GAIR O'R WLADFA
Yn rhan o'n cyfres yn dilyn hynt a helynt Cymry mewn gwledydd tramor, y mis hwn mae Lois Dafydd, wyres Mrs Clarice Lewis a'r diweddar Meirion Lewis, Stryd Senghennydd, Treorci yn sôn am ei hanes yn gweithio ym Mhatagonia.
Mae’n anodd credu mai ond ychydig dros fis sydd ar ôl gen i ym Mhatagonia! Fis Mawrth diwethaf cyrhaeddais Ddyffryn Camwy fel Swyddog/Gweithiwr Maes gyda Menter Patagonia, er mwyn hyrwyddo a hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau. Yn y Gaiman dwi’n byw, ond hefyd yn gweithio yn Nhrelew, Dolavon, Porth Madryn a Comodoro. Dwi’n cynnal gwahanol ddosbarthiadau, gweithgareddau, a digwyddiadau ar gyfer ystod eang o oedrannau a safonau ieithyddol, yn ogystal â cheisio sicrhau fod y Gymraeg yn fwy gweledol yn y gymuned.
10
Page 10
Fis Mehefin sefydlais i bapur bro misol ar gyfer yr ardal o’r enw Clecs Camwy, sy’n cynnwys straeon lleol, lluniau, ryseitiau, posau ar gyfer plant ac oedolion, geirfa’r mis a chornel y dysgwyr. Mae’r papur am ddim er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd darllenwyr y tu hwnt i’r siaradwyr Cymraeg, a thrwy hynny godi ymwybyddiaeth o’r iaith. Mae Clecs Camwy wedi cael derbyniad da yma, ac mae’n bosib ei ddarllen ar wefan Menter Patagonia – www.menterpatagonia.org. Mae rhifyn mis Hydref ar fin mynd i’r wasg! Treorki Dwi wedi profi cymaint o groeso a chyfeillgarwch, a chefnogaeth i’r gwaith ers cyrraedd, nes mod i wedi teimlo’n gartrefol iawn ac yn rhan o’r gymuned yma ym Mhatagonia ers y cychwyn cyntaf. Mae’r ffaith y galla i siarad Cymraeg o ddydd i ddydd yn golygu fod y môr mawr sy’n gwahanu Cymru a’r Ariannin ond yn teimlo fel ffos fechan, heb sôn yr holl enwau Cymraeg sydd gan bobl a lleoedd yma – Bryn Gwyn, Lle Cul, Glan Alaw, Maes Teg, Bryn Crwn, Treorci... Pan gyrhaeddodd y Cymry i Batagonia yn 1865, rhannwyd y tir eang yn ffermydd lle’r ymsefydlodd nifer o deuluoedd. Ffurfiodd y ffermydd hyn wahanol ardaloedd Cymraeg eu henwau ac adeiladwyd capeli ym mhob un lle’r addolai’r teuluoedd. Enwyd un o’r ardaloedd hyn yn Treorci (neu Treorcki, neu Treorky, neu Treorki!), ac yng nghanol
y gwastadedd codwyd Capel Bethlehem yn 1908. Hyd yn oed cyn i mi gyrraedd Patagonia penderfynais y byddai’n rhaid i mi ymweld â’r ardal hon, a dwi wedi gwneud hynny ar dair achlysur gwahanol hyd yn hyn. Fel y gŵyr nifer ohonoch bu farw Tad-cu, Meirion Lewis, ym mis Mai, a thristwch eithriadol i mi oedd methu â mynychu’r angladd yng Nghapel y Parc. Felly treuliais fore’r angladd yn ymweld â Chapel Bethlehem, sy’n sefyll yn urddasol dawel ar ddarn anghysbell o dir yn Nhreorci. Doedd yr adeilad ddim ar agor, ond wrth fod yno teimlwn ryw agosrwydd rhyfedd a heddychlon gyda’r hyn a ddigwyddai mor bell i ffwrdd yn y Rhondda. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach mynychais oedfa Sul uniaith Sbaeneg yno, ac yn fwy diweddar bûm mewn Cymanfa Ganu dwyieithog yn y capel. Mae Cymdeithas Dewi Sant yn cynnal cymanfaoedd canu unwaith y mis yn y gwahanol gapeli Cymreig (mae rhyw 16 ohonyn nhw yn Nyffryn Camwy), a phrofais wir wefr o
ganu emynau Cymraeg a Sbaeneg gyda’r dorf oedd wedi ymgynnull yno. Un peth sy’n gwneud Capel Bethlehem Treorci yn wahanol i gapeli eraill y dyffryn yw mai dyma’r unig gapel sy’n cynnal te ar ôl yr oedfaon, a honno’n wledd o frechdanau a chacennau bob tro! Yr Eisteddfod Mae’r wyth mis diwethaf wedi bod yn fwrlwm o brofiadau a heriau newydd a chyffrous, a’r diweddaraf ohonyn nhw oedd Eisteddfod y Wladfa ddiwedd mis Hydref. Bûm yn cystadlu gyda gwahanol gorau, dawnsfeydd gwerin, cân actol, ac yn adrodd, a chefais y fraint o gael fy nerbyn i Orsedd y Wladfa mewn seremoni arbennig. Cefais wybod yn ddiweddar y bydda i’n dychwelyd yma’r flwyddyn nesaf i ailgydio yn y gwaith, a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at y profiadau sydd i ddod. Ond cyn hynny, dwi’n edrych ymlaen at dreulio’r Nadolig ac ychydig fisoedd gyda theulu a ffrindiau yng Nghymru, gydag ymweliad sicr â Threorci, Cwm Rhondda.
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Page 11
DATHLU LLWYDDIANT SYRFFIO Mae gennym ddisgyblion amryddawn iawn yn y Cymer! Yr wythnos hon, rydym yn dathlu llwyddiant un disgybl talentog ym Mlwyddyn 7 sydd wedi cyrraedd safon uchel iawn ym myd syrffio. Yn ddiweddar, cystadlodd Isobel Evans ym Mhencampwriaethau Syrffio Prydain a gynhaliwyd ar draethau Cei Newydd yng Nghernyw. Llwyddodd Isobel i gyrraedd y trydydd safle, gan guro sawl un a oedd llawer yn hyn. Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i Isobel!
ysgolion a phrifysgolion
PENCAMPWYR CYMRU - AM Y CHWECHED TRO! Llongyfarchiadau gwresog i dîm Siarad Cyhoeddus Ysgol y Cymer ar sicrhau'r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Rotari am y chweched tro! Teithiodd y tîm i Dy Hywel ym Mae Caerdydd ar ôl curo wyth ysgol yn rownd gyntaf y gystadleuaeth. Yno roedd wyth o dîmau o ar hyd a lled De a Gorllewin Cymru yn cystadlu yn rownd derfynol y gystadleuaeth. Yn dilyn cystadlu brwd, cyhoeddwyd mai'r Cymer oedd wedi cipio'r wobr gyntaf eto. Aelodau'r tîm eleni oedd Sarah Louise Jones sy'n fyfyrwraig Blwyddyn 13, Daniel Davies sy'n ddisgybl Blwyddyn 10, a Courtney Adams, aelod newydd y tîm a'r disgybl ieuengaf erioed i gystadlu yn y gystadleuaeth. Yn ogystal, derbyniodd Courtney y wobr am Gadeirydd gorau'r gystadleuaeth, tipyn o gamp i'r ferch dair ar ddeg mlwydd oed a oedd yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr bum mlynedd yn hyn! Aeth y wobr am Gynigydd gorau'r diwrnod i Daniel a fe hefyd aeth â'r wobr 'Prif Siaradwr y Gystadleuaeth'. Llongyfarchiadau mawr iawn i chi'ch tri a diolch am eich holl waith caled. GOFAL PLANT Cafodd grwp o fyfyrwyr Blwyddyn 10 sy'n astudio Iechyd a Gofal yn y Cymer gyfle i gymryd rhan mewn prosiect 'Babanod Realiti' yn ddiweddar. Mae'r prosiect, sy'n codi ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r gwaith mawr sydd ynghlwm â magu plant, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Treuliodd y 'babanod' dridiau gyda'u 'mamau' dros dro, a rhaid cyfaddef fod pob un o'r disgyblion yn falch iawn o allu rhoi'r babanod yn ôl ar ddiwedd y penwythnos!
NEWYDDION YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
MYFYRWYR YN CYNRYCHIOLI CYMRU AR Y CAE Mae ymroddiad a dyfalbarhad un o fyfyrwyr Blwyddyn 13, Chris Lacey wedi talu ar ei ganfed yr wythnos hon ar ôl iddo parhad drosod
11
rhag2011:Layout 1
30/11/11
11:23
Page 12
glywed ei fod wedi'i gynnwys yng ngharfan dan 18 'Welsh Academicals' Cymru. Mae'r sgwad yn cynnwys chwaraewyr sy'n parhau i fod yn fyfyrwyr llawn amser ond sydd â'u golygon ar fod yn aelodau o dîm cyntaf Cymru hefyd yn y dyfodol. Cafodd un arall o fyfyrwyr Blwyddyn 13, Callum Phillips, wybod hefyd ei fod yn eilydd i'r garfan. Dyma anrhydedd deilwng i ddau chwaraewr dawnus iawn a dymunwn bob hwyl iddynt yn eu gyrfaoedd - gan obeithio y byddant yn dilyn olion traed un arall o gyn-ddisgyblion Y Cymer, Macauley Cook, a oedd yn gapten Cymru dan 20 eleni. Gwych iawn fechgyn!
CWIS Y NADOLIG
Ein holi am yr Ŵyl a wna ein cwisfeistr sefydlog, Graham Davies John, y mis hwn 1. Ym mha goleg yng Nghaergrawnt [Cambridge] y cynhelir y gwasanaeth carolau a darlleniadau a ddarlledwyd yn flynyddol er 1947? 2. Am beth rydyn ni'n Dyma lun o dîm 6 pob ochr cofio wrth ddathlu dydd YGG Bodringallt a gŵyl Ystwyll [Epiphany] enillodd twrnament y ar 6 Ionawr? Community Challenge Cup. 3. Am ba sant rydyn ni'n cofio ar 26 Rhagfyr? 4. Pa fardd Saesnaeg sgrifennodd y gerdd enwog, 'The Journey of the Magi"? 5. O ba wlad y daeth y garol 'Tawel Nos'? 6. Ym mha flwyddyn y comisiynwyd a cardiau Nadolig masnachol cyntaf - a) 1926 b) 1843 c) 1886? 7. Beth yw enw cyffredin y blodyn 'Helleborus Niger'? 8. Pa wlad sy'n rhoi'r goeden Nadolig a welir yn Sgwâr Trafalgar bob blwyddyn? 9. Sawl ysbryd welodd Ebenezer Scrooge yn 'A Christmas Carol'? 10. Yn ôl traddodiad, p'un o'r gwŷr doeth roddodd Salsa – ‘Y Strictly Come Dancing’ Cymraeg! anrheg o aur i'r Iesu? Ar nos Wener, 4ydd o Dachwedd, aeth yr adran Gymraeg â grŵp o ddisgyblion o flynyd- 11. Pwy waharddodd doedd 10, 11 a 12 i’r Grand Pavilion ym Mhorthcawl i weld sioe Gymraeg newydd sbon dathlu'r Nadolig rhwng o’r enwSalsa. Dywedodd y cwmni theatr y byddai’r sioe yn ddigon da i gystadlu yn erbyn 1647 - 1660? Strictly Come Dancing a dylai pawb fynd ag esgidiau dawnsio yn barod am noson llawn 12. Beth yw ystyr yr enw hwyl a sbri. Roedd y sioe am bâr priod a oedd wedi colli diddordeb yn ei gilydd ac roedd Emanuel? y wraig, Rhian eisiau mynd i wersi dawnsio er mwyn iddyn nhw ddod i adnabod ei gilydd unwaith eto. Doedd y gŵr ddim yn hapus i fynd - roedd mwy o ddiddordeb ganddo edrych i’r awyr a gwylio’r sêr. Felly, aethon nhw i’r dosbarth ond pan ddaeth yr athrawes ddawnsio mewn - athrawes brydferth iawn, cwympodd Wayne mewn cariad yn syth. Cwympodd Rhian hefyd, ond i’r llawr! Doedd Rhian ddim yn gallu mynd rhagor felly dechreuodd Wayne ddweud celwydd wrthi hi - dywedodd ei fod yn mynd am dro ond roedd e am fynd i ddawnsio gyda’r athrawes ddawnsio- Adela Vegas. Darganfu Wayne yn syth bin ei fod e’n dda iawn yn dawnsio a gofynnodd Adela iddo fe ddawnsio gyda hi mewn cystadleuaeth ddawnsio. Ond….cawson nhw eu darganfod gan Rhian a doedd hi ddim yn hapus gan fod Wayne wedi mynd tu ôl i’w chefn. Wrth lwc, aeth Rhian i’r gystadleuaeth a gwelodd hi Wayne wrth ei fodd yn dawnsio a gadawon nhw gyda’i gilydd wedi cymodi. Roedd hi’n sioe hynod o ddoniol ac roedd pawb yn gwenu o glust i glust! Ar ôl i’r sioe orffen, cafodd y disgyblion y cyfle i fynd ar y llwyfan i ddangos eu sgiliau dawnsio nhw profiad bythgofiadwy yn wir!
NEWYDDION YSGOL GG
BODRINGALLT
NEWYDDION YSGOL GYFUN
TREORCI
Atebion: 1. Coleg y Brenin [King's] 2. Ymweliad y tri gŵr doeth â'r Baban Iesu. 3. Sant Steffan 4. T. S. Elliot 5. Awstria 6. 1843 yn Llundain gan Syr Henry Cole. 7. Rhosyn y Nadolig 8. Norwy 9. Pedwar peidiwch ag anghofio am Marley! 10. Melchior 11. Oliver Cromwell 12. Duw gyda ni.
12