Tachwedd13gloran

Page 1

y gloran TORIADAU? COLLEDION!

Canolfan Oriau Dydd y Pentre

Canolfan Addysg Treherbert

20c

Llyfrgell Ton Pentre

Llyfrgell Treherbert

Canolfan Oriau Dydd Treorci

gweler drosodd


golygyddol l

TORIADAU?

Y pwnc sy'n destun siarad gan bawb yn yr ardal y mis hwn yw'r toriadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Toriadau i'w hystyried ydynt ar hyn o bryd ond ar ddiwedd cyfnod yr ymgynghori â'r cyhoedd a ddechreuodd ar 4 Tachwedd, bydd rhaid i'r Cyngor ddod i benderfyniad. Does dim dadl na fydd rhaid i rai toriadau ddigwydd gan na fydd arian digonol ar gael i gynnal pethau fel y maent. Ar ôl talu am y gwasanaethau statudol y mae'n orfodol i gynghorau eu darparu, does ond £140 miliwn yn weddill yn y coffrau bob blwyddyn am y 4 blynedd nesaf. O'r swm hwn, dros y pedair blynedd nesaf rhaid dod o hyd i arbedion gwerth £70 miliwn - sy'n dipyn o dasg!

2

Y toriadau Y meysydd a glustnodwyd i'w cwtogi hyd yma, [gyda'r swm a arbedir rhwng cromfachau] yw addysg gynnar

[£4.52miliwn], prydau ar glud (Meals on Wheels) [£300,00], llyfrgelloedd [£800,000], gwasanaethau ieuenctid [£2.2 miliwn] a'r canolfannau dydd [£640,000]. Dechrau'r toriadau yn unig yw hyn. Os derbynnir argymhellion y Cyngor, yn ardal Y Gloran bydd llyfrgelloedd Ton Pentre a Threherbert yn cau, caeir yn ogystal glybiau ieuenctid Treorci a Threherbert ynghyd â chanolfannau dydd y Pentre a Threorci. Yn achos prydau ar glud a'r clybiau ieuenctid, gwneir ymdrech i geisio cadw rhyw lun ar wasanaeth er y bydd y gegin yn Nhreherbert sy'n paratoi'r bwyd yn cau. Bydd pobl yn dal i allu cael pryd o fwyd bob dydd, ond eu bod yn cael prydau wedi eu rhewi ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul. Golyga hyn na fydd neb yn galw ar bobl am ddau ddiwrnod, sy'n golled fawr i'r rheini sy'n byw ar eu pennau eu hunain.Er nad yw hyn yn ddelfrydol, mae rhyw ymgais i ateb y broblem.

y gloran

tachwedd 2013

YN Y RHIFYN HWN Yn yr un modd, darperir ar gyfer pobl ifainc dan ddarpariaeth E3 yn yr ysgolion cyfun. Efallai y collir cysylltiad â rhai ieuenctid sy ddim am fynd ar gyfyl ysgol dros eu crogi, ond dyna ran o'r pris a delir.

Toriadau...1 Golygyddol.. ...2 Diwedd Oes i’r hen Bantycelyn..3 Peter Ryder..4 Newyddion Lleol...5-8 ...8 Cwis Y Gloran...9 Cynllun Hyfforddi Mudiad Meithrin...10 Ysgolion...11 Ysgol y Cymer...12

Addysg gynnar Yr awgrym sydd wedi ei wrthwynebu fwyaf o bell ffordd yw'r bwriad i leihau addysg gynnar trwy gynnig 10 awr o addysg yr wythnos i blant o'r tymor yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed tan y tymor yn dilyn cyrraedd 5 oed. Felly, rhwng 3-5 oed, addysg ran-amser yn unig a geid. Bydd hyn 2011-12 fod safonau'r sir yn gwella ynghynt na'r hefyd yn effeithio ar cyfartaledd yng blant sydd eisoes yn Nghymru. Byddai cwmynychu'r ysgol yn llawn-amser. Mae'r pen- togi ar addysg gynnar yn sicr o danseilio gwaith derfyniad hwn yn peri da yr ysgolion. Yn ail, gofid am sawl rheswm. collir gafael ar blant ar Yn gyntaf, Rhondda adeg allCynon Taf yw'r ail awgweler weddol yn drosodd durdod gwaethaf o'r 22 yng Nghymru o safbwynt tlodi a'i ganlyniadau addysgol yn dioddef o'r herwydd. Serch hynny, o ganlyniad i ymdrechion glew athrawon a disgyAriennir yn rhannol blion, gan Lywodraeth Cymru dengys Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison canlynigyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru adau Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


golygyddol parhad

eu datblygiad. Rhwng 0-5 oed mae plant yn dablygu'n ddeallusol, yn gorfforol ac yn gymdeithasol yn fwy cyflym nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywydau. Mae'n gyfnod allweddol bwysig na ellir fforddio ei golli. Yn drydydd, bydd cynnig addysg ranamser yn effeithio'n economaidd ar rieni gan gynyddu tlodi teuluoedd - y ffactor sy'n effeithio fwyaf ar lwyddiant plant mewn addysg. Bydd y penderfyniad i beidio â thalu am gludiant a phrydau rhad yn bwrw'r ysgolion ffydd a'r ysgolion Cymraeg yn enwedig gan fod eu dalgylchoedd yn fwy na'r ysgolion eraill. Does dim rhyfedd taw'r penderfyniad hwn sydd wedi denu'r gwrthwynebiad mwyaf mewn gwrthdystiadau cyhoeddus ac ar y gwefannau cymdeithasol. Ond fel y dywedwyd, mae gennym gyfnod o ymgynghori yn dechrau ar 4 Tachwedd a chyfle i roi ein barn. Bydd holiadur ar gael ym mhob llyfrgell, Canolfan I-Bob-Un ac ysgol. Da chi, gwnewch yn siwr eich bod yn mynegi eich safbwynt yn glir ac yn groyw - a gobeithio y bydd y Cyngor yn gwrando!

golygydd

DIWEDD OES I’R HEN BANTYCELYN?

Mae Seren Haf MacMillan o Dreherbert yn gobeithio mynd i Brifysgol Aberystwyth y flwyddyn nesaf. Yma, mae hi'n ymateb i'r posibilrwydd y bydd Neuadd Pantycelyn yn cau.

Agorwyd Neuadd Pantycelyn ger campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth ym 1951 a daeth yn neuadd breswyl Gymraeg ym 1974. Mae’r brifysgol wrthi nawr yn adeiladu Neuadd Pantycelyn newydd tu ôl i Bentre Jane Morgan a’r gobaith yw y bydd yn barod erbyn Medi 2014. Bu’r hen Bantycelyn yn gartref i nifer o fyfyrwyr Cymraeg dros y blynyddoedd a mawr obeithiaf na fydd Cymreictod y lle yn dod i ben. Yn ôl Dr John Harries, Dirprwy IsGanghellor Prifysgol Aberystwyth: "Cam cyntaf yw'r ymgynghoriad a fydd yn ein galluogi i lunio cynllun ehangach i ddiweddaru ansawdd neuaddau'r brifysgol ac ymateb i ofynion myfyrwyr.” Mae mwy o fyfyrwyr nawr yn galw am lety hunan-arlwyo ac ‘en-suite’, ac felly wrth adeiladu’r Panty newydd, mae’r brifysgol yn gobeithio ehangu’r gymdeithas Gymraeg trwy wella ansawdd eu llety a’u nwyddau. Colli neuadd ymgynnull Bu sôn yn y wasg na fydd neuadd ymgynnull yn y llety newydd ac i nifer o bobl, mae hyn yn destun pryder gan fydd yr elfen o gymdeithasu trwy’r Gymraeg yn cael ei cholli maes o law. Er bod rhai pobl yn meddwl bod hyn yn gyfle gwych i

foderneiddio’r neuadd Gymraeg, ceir nifer helaeth sy’n gwrthwynebu a bu llawer o brotestio yn Aberystwyth i gadw’r hen neuadd draddodiadol yn fyw. Yn ôl Miss Rhian Morgan Ellis, pennaeth Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, “Mae tensiwn rhwng cadw’r hen neuadd a’r angen i’r byd symud ymlaen. Wrth beidio â chael neuadd ymgynnull, bydd hyn yn siŵr o gael effaith ar nifer fawr o bethau, oherwydd yn yr ymgynnull rydych yn creu perthnasoedd. Credaf fod lle heb neuadd ymgynnull yn destun pryder ac yn adeilad tlawd iawn. Byddai’n ddiddorol gwybod faint byddai wedi costio i addasu’r hen adeilad yn lle adeiladu un newydd”. Dywedodd Miss Ellis fod un atgof yn fyw ganddi o’i hamser ym Mhantycelyn, a hynny oedd y noson dorrodd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn rhydd rhag yr Undeb Saesneg (NUS). Ychwanegodd; “roedd yr awyrgylch yn un anhygoel gyda phob myfyriwr yn siarad Cymraeg”. Fy ngobeithion Oherwydd yr holl brotestio, cyhoeddwyd yn y wasg y byddent yn meddwl am gadw’r neuadd ar agor fel llety hyd at 2015. Ar ôl i mi dreulio deuddydd yn

neuadd Pantycelyn yn ddiweddar, mawr obeithiaf y bydd y neuadd draddodiadol yn dal ar agor er mwyn i fi ennill yr un profiad gwefreiddiol â Miss Ellis pan af i’r brifysgol ym Medi 2014. Yn ystod fy nghyfnod byr yno, y peth gorau i mi oedd cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a chwrdd â phobl fel fi, a oedd mor awyddus i fyw yn yr iaith. Yn wir, mae’r neuadd newydd yn edrych yn hynod grand a modern, ond wrth gau’r hen adeilad, pryderaf y bydd y traddodiad unigryw yn gwywo. Un arall a dreuliodd amser yn byw yn y neuadd yw Mrs Kathryn Gwyn, hefyd o’r Cymer. “I mi, yr atyniad mwyaf i Bantycelyn oedd cwrdd â phobl ifanc o ledled Cymru oedd yn rhannu’r un awydd â fi i fedru byw, astudio a mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg.” Mae’r adeilad wedi bodoli ers dros drigain mlynedd a’r bobl a fu’n byw yno wedi elwa o’r gymdeithas unigryw Gymreig. Pam felly yr angen i greu adeilad newydd yn hytrach nag adnewyddu’r neuadd draddodiadol ei hun? “Gwerth cynydd yw gwarth cenedl” Seren Hâf

MacMillan

3


PETER RYDER

RHEDWR MYNYDD TREHERBERT

Golygfa gyffredin i drigolion Treherbert a'r cylch yw gweld Peter Ryder yn rhedeg hyd yr hewlydd lleol, ond efallai nad yw pawb yn sylweddoli ei fod, yn ôl pob tebyg, ar y ffordd adre ar ôl bod yn rhedeg ar y mynydd Oherwydd rhedeg lan a lawr mynyddoedd yw hoff gamp Peter. Yn frodor o Sheffield, symudodd Peter gyda'i rieni i Dongwynlais pan oedd yn ifanc iawn ac yno y dechreuodd ymddiddori mewn rhedeg mynydd wrth weld ei dad yn rhedeg dros glwb Mynydd Du Cymru, clwb rhedeg mynydd lleol. Yn 10 oed, byddai'n cyd-redeg â'i dad ambell waith pan âi i gyfeiriad y mynydd. Wedi trosglwyddo i'r ysgol gyfun, byddai Pete yn cystadlu mewn rasys traws gwlad, ond ychydig o lwyddiant a gafodd. Atlanta'n Ysbrydoli Wrth wylio Gemau Olympaidd Atlanta yn 1996, fe'i symbylwyd i ymarfer yn fwy cyson ac ymunodd â Chlwb Athletau Caerdydd lle y derbyniodd hyfforddiant gan arbenigwyr. O ganlyniad, daeth i gynrychioli'r clwb mewn rasys traws gwlad ac ar yr hewl, yn ogystal ag ar y trac. Erbyn 1999, Pete oedd pencampwr dan 20 oed De Morgannwg - ei deitl cyntaf. Yn haf y flwyd4

dyn honno, cynrychiolodd Cymru ym mabolgampau'r Ysgolion Celtaidd, gan redeg yn y ras 2000m dros ffos a pherth. Yn ystod y flwyddyn brysur honno hefyd rhedodd Peter ei ras fynydd gyntaf ar Ben-y-fâl, Gwent a adnabyddir hefyd fel y Sugar Loaf. Y tro hwnnw, daeth yn ail mewn ras oedd yn rhagbrawf ar gyfer Pencampwriaeth Rasys Mynydd y Byd ac o ganlyniad cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Borneo. Mewn ras a gynhaliwyd ar y llethrau tonnog ar waelod Mynydd Kinabalu, y mynydd uchaf yn neddwyrain Asia, daeth 41fed, sef y safle gorau i aelod o dîm Cymru. Ym mis hydref yr un flwyddyn, cynrychiolodd Cymru yng nghystadleuaeth redeg mynydd Prydain ac Iwerddon gan ddod yn 11fed. Ef oedd y Cymro cyflymaf. Cymryd Hoe Ar ôl mynd i'r brifysgol yn 2000, cafodd Peter hoe o redeg ac yn y cyfamser cwrddodd ag Elisabeth Bryant, cynddisgybl o Ysgol Gymraeg Ynyswen a'r Cymer, a briododd maes o law. Erbyn 2005, roedden nhw'n byw yn Nhreherbert ac ailafaelodd Peter yn ei ddiddordeb mewn rhedeg. Wrth gwrs, roedd digon o fynyddoedd o'i gwmpas i'w herio. Aeth nôl i Ben-

y-fâl ar gyfer profion tîm Cymru, ond oherwydd ei ddiffyg ymarfer dros gyfnod hir, y tro hwnnw chafodd mo'i ddewis ar gyfer Pencampwriaethau'r Byd yn yr Eidal. Yn dilyn cyfnod o gystadlu ryw hanner o ddifrif, cafodd ei frawd yng nghyfraith [Rob Bryant, y deintydd o Dreorci] berswâd arno i gystadlu ym Marathon Llundain yn 2008 a llwyddodd i gwblhau'r cwrs mewn 2awr 52 munud. Aildaniodd hyn ei awydd i ymarfer o ddifrif ac i gystadlu. Gwellodd ei safon yn gyflym ac yn 2009 enillodd ei fest ryngwladol trwy gynrychioli tîm hŷn Cymru yn Ras yr Wyddfa. Golygai hyn redeg o waelod y mynydd yn Llanberis i gopa'r Wyddfa. Ymuno â'r tîm ar y funud olaf a wnaeth, o ganlyniad i

anaf i athletwr arall, ond Pete oedd yr ail Gymro i orffen y ras yn y degfed safle. Gwellodd ei berfformiadau'n gyflym yn 2010 ond, yn anffodus, anafodd ei droed yn ddrwg mewn damwain car. Oherwydd hynny, methodd ag ailymafael o ddifrif mewn ymarfer am dipyn, ond efallai bod yr egwyl wedi bod o les iddo gan iddo ennill Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd Cymru. Aeth nôl i Ras yr Wyddfa a gorffen yn 14eg ma's o dros 500 o gystadleuwyr - y 3ydd Cymro i orffen. Doedd amodau rhedeg ddim yn ffafriol gyda'r tymheredd yn cyrraedd cyn uched â 30°C. Fodd bynnag, bydd Pete yn cynrychioli Cymru y mis hwn eto yn Ras Gyfnewid Trofeo Vanoni yn yr Eidal. Mae uchelgais Pete yn y gamp yn cynnwys awydd i redeg drosodd


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Bydd Treherbert yn dioddef yn enbyd os derbynia Cyngor Rhondda Cynon Taf yr holl argymhellion ynglŷn a thoriadau mewn gwasanaethau sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd. Bydd y llyfrgell, y ganolfan addysg sy'n cynnwys y Clwb Ieuenctid a'r gegin sy'n paratoi prydau 'Pryd ar Glud' i gyd yn cau. Hefyd, fel pob ardal arall yn RhCT, fydd plant 3 oed ond yn derbyn addysg ranamser. Dyma'r neges a drosglwyddwyd mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Neuadd y Pensiynwyr i glywed y Cyng. Cennard Davies ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn amlinellu safbwynt Plaid Cymru. Er bod pobl yn temlo'n flin, roeddnaws y cyfarfod yn un adeiladol gyda llawer o gyfraniadau gwerthfawr o'r llawr. Dosbarthwyd ffurflenni i bobl ymateb i'r argymhellion a phenderfynwyd gofyn i'r

Cyngor ymestyn cyfnod yr ymgynghori tan i'r rownd nesaf o doriadau gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr. Llongyfarchiadau mawr i Natasha Foster ein swyddog heddlu cynorthwyol am ennill gwobr PCSO y Flwyddyn gan Heddlu De Cymru. Mae Natasha wedi gwasanaethu'r ardal hon am nifer fawr o flynyddoedd a dyma'r ail dro iddi gipio'r wobr. Mae hi'n haeddu ein clod a'n diolch. Ddechrau Tachwedd, lansiwyd cynllun 'Pub Watch' yn yr ardal. Ei amcan yw atal pobl rhag camymddwyn yn nhafarau Treherbert a'r cylch. Os bydd rhywun yn camfihafio mewn un tafarn, cânt eu gwahardd o'r lleill. Mae'n dda adrodd bod pob tafarn ond dau wedi ymuno yn y cynllun. Mae Cyngor RhCT wedi newid ei benderfyniad gwreiddiol i wrthod caniatâd cynllunio i godi tai ar hen safle Ysbyty

ym Marathn Virgin Llundain yn 2014. Felly, mae amser prysur yn wynebu'r gŵr ifanc sy'n gweithio fel rheolwr yn Sinema Showcase Nantgarw ac sy'n byw yn

John Bryant

PETER RYDER parhad

Nhreherbert gyda'i wraig, Lisi a'u tri phlentyn, Catrin ac Elis sy'n ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Ynyswen a Mali a fydd yn ymuno â nhw yno fis Medi nesaf.

Treherbert a Maes y Cerrig. Rhoddwyd caniatâd i godi 43 o dai er gwaethaf gwrthwynebiad yr Adran Drafnidiaeth a'r cynghorwyr lleol. Dywedodd y Cyng. Irene Pearce ei bod yn becso am ddiogelwch cerddwyr, yn enwedig plant, am nad oes pafin ar y safle a bod rhaid i gerbydau a cherddwyr rannu'r un lôn gul. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth un o drigolion mwyaf adnabyddus Treherbert, Gareth Morgan Jones, Stryd Stuart yn 72 oed. Roedd yn fab i'r diweddar Barch Emrys ac Eluned Jones a fu'n weinidog ar gapel Carmel am dros 40 mlynedd a bu Gareth ei hun yn ysgrifennydd y capel am gyfnod maith. Ef hefyd oedd ysgrifennydd Cyfeillion Ysbyty Treherbert a gwasanaethodd fel Ynad Heddwch am 38 o flynyddoedd. Cyn ymddeol roedd yn athro ymgynghorol ym Merthyr ac yn swyddog undeb gyda'r NASUWT. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yng Ngharmel o dan ofal y Parch Cyril Llewelyn a chymerwyd rhan gan Parchedigion Ivor Rees. Derwyn Morris Jones a Noel Davies. Talwyd teyrnged i Gareth gan

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN John Evans, trysorydd y capel a darllenwyd a gweddiwyd gan un arall o feibion Treherbert, Islwyn Jones.

TREORCI

Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Jennie Harris, Prospect Place a fu farw yn dilyn cystudd hir. Roedd Mrs Harris yn wraig urddasol, uchel ei pharch a oedd yn aelod selog yng nghapel Bethlehem ac yn gefnogol iawn i bob achos da yn yr ardal. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'r teulu oll yn eu colled. Pob dymuniad da i Gareth Evans, Penylan, Stryd Luton sydd 5


newydd ddod ma's o'r ysbyty ar ôl derbyn llawdriniaeth i'w glun. Cynhaliwyd noson goffi yn Neuadd Sant Matthew gan Bwyllgor Ymchwil i Gancr Treorci, nos Iau 14 Tachwedd. Cafwyd eitemau tymhorol gan Fand Rhondda Uchaf a llwyddwyd i godi swm anrhydeddus at yr achos teilwng hwn. Cynhaliwyd dathliadau Noson Guto Ffowc y Clwb Rygbi, nos Sul, 3 Tachwedd ar yr Oval. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Gary 'Star' Davies, Stryd Dumfries a oedd yn adnabyddus yn yr ardal fel saer a chrefftwr medrus. Cydymdeimlwn yn gywir iawn å'i weddw, Elizabeth a'i

6

ferched Sally ac Emma. Ddydd Iau, 10 Hydref, aeth llond bws o aelodau Clwb Henoed Treorci ar daith i Drefynwy. Cafwyd gwibdaith lwyddiannus iawn unwaith eto a mawr yw ein dyled i'r trefnyddion, Eira a Joyce. Gobeithir trefnu taith debyg ym mis Tachwedd i Cheltenham. Mae ceisiadau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Bwyllgor Cynllunio RhCT i droi tafarnau'r Crown, Ynyswen a'r Red Cow yn Nhreorci yn fflatiau, 6 yn y Crown a 12 yn y Cow. Cynhaliodd Ysgol Gynradd Treorci ei Chyngerdd Cynhaeaf ym Methlehem, ddydd Iau a dydd gwener, 17 a 18 Hydref. Cafodd pawb oedd yn bresennol fudd a

phleser yng nghwmni'r plant. Aeth y casgliad at elusen yn yr ardal. Dangoswyd parch pobl yr ardal at y diweddar Ray Mears, Troedyrhiw, gan y dorf fawr a ddaeth i'w wasanaeth angladdol a gynhaliwyd yng nghapel Bethlehem. Cydymdeimlwn å'i weddw, Norma ynghyd å'i fam sy mewn gwth o oedran a'i frawd Richard. Colled arall i'r ardal oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Colette Jones, merch David a Tegwen Jones, (y barbwr), Stryd Bute a hithau'n wraig ifanc. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w rhieni a'i brawd yn eu galar. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mrs Anne Barrett, Stryd

Dumfries sydd gartre bellach ar ôl cyfnod yn yr ysbyty yn dilyn cwymp yn ei chartref pan dorrodd ei chlun. Gwelir ei heisiau'n fawr yng nghapel Bethlehem ac yng nghôr y WI. Brysiwch i wella! Nos Wener, 25 Hydref, cynhaliwyd noson 'Pennill a Pheint' gan Gymdeithas Ddinesig Cwm Rhondda yn Nhafarn y RAFA. Cymerwyd rhan gan Tom Phelps, Christine Tuckett, Paul Young, Shelley Rees a Kathleen Evans ymhlith eraill. Cyflwynwyd y noson gan Cheryl Rees yn absenoldeb Anne Barrett sy'n gaeth i'w chartref ar hyn o bryd. Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch ym Methlehem, brynhawn Sul, 20


Hydref o dan arweiniad y Parch Carwyn Arthur. Aeth y casgliad at elusen y Gwahangleifion. Fore Sadwrn, 26 Hydref, cynhaliwyd Ffair Nadolig yn neuadd Eglwys Sant Matthew. Daeth nifer ynghyd i brynu o'r stondinau amrywiol ac i fwynhau sgwrs dros goffi a theisennod. Mae swyddogion yr eglwys am ddiolch i bawb a gefnogodd yr achlysur ac i aelodau Dosbarth Prynhawn Iau am drefnu'r cyfan. Ddydd Sul, 1 Rhagfyr cynhelir 'etholiad' i ddewis y ceisiadau fydd yn derbyn grantiau an gwmni Fferm Wynt y Maerdy. Mae gan bawb dros 16 oed sy'n byw yn y ward yr hawl i bleidleisio dros eu dewis gynllun ym mhob categori. Bydd y bwth pleidleisio ar agor tan 5pm

yn nghlwb Bechgyn a Merched Treorci. Cofiwch bleidleisio!

CWMPARC

Bu farw Mrs.Pat Rees, Heol Chepstow yn sydyn ar 1af Hydref. Roedd Pat wedi bod yn yr ysbyty ers mis Ionawr, yn gyntaf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac yn ddiweddar yn Ysbyty Dewi Sant. Roedd hi'n aelod ffyddlon o eglwys San Sior, ac yn aelod o gôr yr eglwys ac Undeb y Mamau hefyd.

Hefyd, ar 1 Hydref, bu farw Mrs.Jessie Thomas. Yn frodor o Felita [Malta], priododd â'r diweddar Stanley Thomas adeg y rhyfel ac ymgartrefu yn eu cartref 'Valetta' yn Parc Crescent. Roedd yn wraig fonheddi, uchel ei pharch yn y gymdo-

gaeth. Cydymdeimlwn â'i meibion a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Mae raffl newydd "Cwmparc Community Draw" wedi dechrau. Mae'n digwydd bob pythefnos. Enillwyr yr un gyntaf oedd - Sharon Jones (£100), Chris Webber (potelaid o wirod), Jim (potelaid o win). Tynnir y tocynnau nesaf ar 7 Tachwedd.

Yn eglwys San Sior cynhelir gwasanaeth Sul y Cofio fore dydd Sul, 10 Tachwedd am 10:50. Bydd Gŵyl y Goeden Nadolig rhwng 22 a 24 Tachwedd a chynhelir y Ffair Nadolig ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd.

Mae ficer y plwyf, Y Tad Brian Taylore, wedi ymddeol ar ol 16 mlynedd yng Nghwmparc. Mae e wedi symud

nol i'w "hometown" Y Bari. Gadawodd rhywun wely a dau hen fatras ar dir Eglwys San Siôr yn ddiweddar. Rywbryd yn ystod pryhawn dydd Sul, 6 Hydref, gadawodd rhywun y sbwriel. Roedd yn anghyfleus iawn oherwydd bod angladd yn yr eglwys yn ystod yr wythnos. Yn ffodus, symudodd y cyngor y sbwriel yn gyflym. Bydd Ffair Nadolig yn Ysgol y Parc ddydd Iau, 28 Tachwedd am 3 pm. Bydd Siôn Corn yn ei ogof, stondinau a lluniaeth ar gael.

Enillodd rhywun yn y gymuned £20,000 ar y Lotto yn ddiweddar, gan brynu tocyn o Swyddfa'r Post Cwmparc. Llongyfarchiadau a mwynhewch!

7


Un sy’n derbyn Y Gloran bob mis yw Marion Harries sydd wedi bod yn byw yn Cyncoed, Caerdydd am rhai blynyddoedd. Yr oedd yn byw yn Heol Ynyswen ac mae’n fyw adnabyddus fel Marion Whittaker. Ers dros wyth mlynedd mae wedi gwneud gwaith gwirfoddol yng Nghanolfan Cancr Felindre yn adran cleifion allanol. Dywedodd ei bod yn gwerthfawrogi y cyfle mewn lle mor rhyfeddol. I nodi ei hymrymiad fe’i henwebwyd i dderbyn Tysw yr Wythnos gan y South Wales Echo. Dywedodd yr enwebydd ei bod yn hapus i helpu a chanddi wên parod i bawb. Llongyfarchiadau mawr am ei gwaith yno.

Y PENTRE

Braf iawn yw bod gartref eto yn y Rhondda am sbel, er gwaethaf y tywydd od. Hyd yn oed yn Virginia, fy nghartref arall, fe welwn ni ddau 'gorwynt' o fewn wythnos braidd yn eithafol!

8

Calonogol oedd cael y Siop Gymunedol yn Stryd Llywelyn yr un mor brysur, llewyrchus a hael ag erioed. Ymhlith derbynwyr ei grantiau haf oedd band pres y Parc a'r Dâr, tîm pêldroed Ton Pentre a grŵp trwm eu clyw y Rhondda. Grantiau cymharol fach oedd y rhain gan taw prif nod y siop yw darparu nwyddau o safon am y pris isaf posib, yn ôl ei rheolwraig ddawnus, Gerda

Becker. Popeth yno yn FARGEN ANHYGOEL! Ar hyn o bryd mae tîm ffyddlon o wyth gwirfoddolwr yn medru cadw'r siop ar agor bedair gwaith yr wythnos sef, Mawrth, Iau, Gwener a Sadwrn Ond bydden nhw'n falch iawn o gael help achlysurol gan unrhyw un sy'n gallu troi i mewn am awr neu ddwy.

Yn anffodus, bu farw Marina, un o wirfoddolwyr mwyaf poblogaidd y siop, yn sydyn ym mis Awst. Mae'r cwsmeriaid i gyd yn gweld ei heisiau. Pe4n-blwydd Hapus iawn i Mansel Wakeford, gŵr warden Llys Siloh, Diane. Yn sicr, bydd y preswylwyr i gyd wrth eu boddau yn eu helpu nhw â'u dathliadau.

Dymuniadau gorau i Doreen Greenway, Cartref Ystrad Fechan (ond llys Siloh gynt) a ddathlodd ei phenblwydd yn 99 oed, 26 Hydref. Gan fod ganddi deulu mawr, sy'n cynnwys gor-gor-wyrion erbyn hyn, fe alwon nhw heibio mewn grwpiau bach trwy'r dydd i ymuno yn y dathlu.

Un arall sydd â phenblwydd yn y Llys yw ein gohebydd, Mike Powell. Felly, pob dymuniad da iddo fe a hefyd i'w wyres, Alexia sy'n cyrraedd ei dwyflwydd oed eleni.

Mae'n ddrwg gennym

ddeall bod tair o breswylwyr Tŷ Siloh yn yr ysbyty ar hyn o bryd, sef Margaret Morris, Phoebe Roberts a May Donovan. Mae eu ffrindiau yn eu hannog i frysio i wella a dod yn ôl cyn gynted ag y bo modd.

Aeth llond bws o Bentrefwyr 9yn cynnwys Val ac Ian Hardy, Stryd Baglan) a'u ffrindiau o Dreorci (yn cynnwys Eirlys ac Allan Lewis, Stryd Llywelyn gynt) bant ar eu gwyliau blynyddol yn ddiweddar. Eleni am y tro cyntaf, arhoson nhw yng Nghymru a chael amser diddorol a chyffrous gan gynnwys trip mewn tram i fyny Pen y Gogarth [Great Orme] ac ymweld â lleoedd newydd yn ardal Llandudno. Mae'r grŵp yn ddiolchgar iawn i Val am ymgymryd â'r trefniadau sylweddol unwaith yn rhagor. Mae tymor y Ffeiriau Nadolig wedi cyrraedd a phawb yn edrych ymlaen at wibdaith sy'n mynd r holl ffordd draw i i ffair Caerwrangon (Worcester) dros y ffin ganol y mis. Llawer o ddiolch i Ganolfan Dydd Stryd Llywelyn am wneud yr holl drefniadau. Cynhelir ffair Nadolig Eglwys Sant Pedr cyn bo hir hefyd. Diolch yn fawr iawn ymlaen llaw i bawb sy'n paratoi digwyddiad mor bleserus i'w cyd-bentrefwyr bob blwyddyn.

Rwy'n ddyledus iawn i Mike a Tesni Powell am fod mor barod i ofalu am newyddion Y Pentre yn ystod fy absenoldeb diweddar (cyfnod o 18 mis) DIOLCH YN FAWR IAWN i'r ddau ohonoch chi. Tra 'mod i bant eto dros y gaeaf byddaf yn edrych ymlaen yn arbennig at eich colofn bob mis, gan obeithio darllen bod pethau'n gwella rywfaint a bod ein Canolfan Dydd yn ddiogel wedi'r cwbl ac nad oes rhagor o gorwyntoedd! [Da oedd cael cyfraniad Dr Anne Brooke y mis hwn cyn iddi droi nôl i'r Amerig. Siwrnai dda a Nadolig Llawen iddi a gobeithio y'i gwelwn eto rywbryd yn y gwanwyn. Gol.]

TON PENTRE A’R GELLI

Cymysg fu'r ymateb yn Nhon Pentre i'r toriadau mewn gwasanaethau a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn ddiweddar. Y newyddion da yw y bydd Canolfan Dydd Brynmor Jones yn aros ar agor ond newyddion drwg yw'r ffaith y bydd ein llyfrgell yn cau. Does dim sôn yn y pecyn gwybodaeth a gafwyd gan y Cyngor am effaith hyn ar ein plant a'n henoed. Bydd y plant yn dra siomedig na fyddan nhw'n gallu defnyddio'r llyfrgell ar gyfer eu gwaith prosiect yn yr ysgol a bydd yr henoed sy'n ei defnyddio i gymdeithasu, darllen y papurau a chasglu eu


CWIS YYnGLORAN ei gwis y mis hwn,

mae Graham Davies John yn profi pa mor dda rydyn ni'n nabod ardal Ton Pentre, Pentre a'r Gelli. Rhowch gynnig ar ar ddod o hyd i'r canlynol yn yr ardal

Mae cwmni theatr Act 1 yn brysur ar hyn o bryd yn ymarfer ar gyfer pantomeim, 'Aladin' y bwriedir ei gyflwyno yn Theatr y Ffenics ddechrau'r flwyddyn newydd.

1. Enw un o brif gymeriadau nofel Charles Dickens, 'Oliver Twist'? 2. Adeilad oedd yn dwyn enw anthem Sefydliad y Merched (W.I.] 3. Enw sefydlydd yr eglwys Gristnogol. 4. Enw un o brif lysoedd Lloegr. 5. Enw tîm pêl droed enwog yn yr Alban.

Bu farw Mrs Joanne Evans, Styd Parry a Mrs Angelina Rees, Ton Row yn ystod y mis aeth heibio. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w teuluoedd a'u ffrindiau yn eu hiraeth. Trefnwyd te bwffe'n ddiweddar gan y Clwb Cameo. Cafwyd yn ogystal gwis o dan arweiniad Mr Graham Davies John, sy'n hael iawn ei wasanaeth i wahanol fudiadau'r ardal. Talwyd teyrnged i'r ddi6. Prifddinas talaith Arizona yn yr Unol Daleithiau. 7. Enw stryd sy'n adlais o enw cartref y diwydiannwr, David Davies. 8. Stryd a enwyd ar ôl rhai a ymladdodd yn Rhyfel y Boer yn Ne Affrica. 9. Stryd yn dwyn enw tywysog olaf Cymru.

weddar Joan Evans gan Rita Lewis a chafwyd munud o ddistawrwydd er cof amdani. Bydd y gymdeithas yn cynnal ei chinio Nadolig yn nhafarn Fagin am 1 pm, ddydd Mercher, 27 Tachwedd. Cynhelir ffair Nadolig Eglwys Ioan Fedyddiwr yn yr eglwys ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr. Cofiwch ddod yn llu i ddangos eich cefnogaeth.

10. Stryd a enwyd ar ôl senedd Llundain.

Atebion:

Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth sydyn Alun Williams, Fflatiau Tŷ Ddewi ac yntau'n 55 oed. Roedd Alun yn drwmpedwr dawnus a chwaraeodd yn unawdydd gyda Band Ysgol Gyfun Treorci a'r

Parc a'r Dâr. Cydymdeimlwn â'i dad, Glan Williams, sy'n wael ar hyn o bryd, ynghyd â'i frodyr a chwiorydd, Julie, Caryl, Mark a Glen a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

1. Fagin 2. Jerusalem (capel) 3. Sant Pedr (eglwys) 4. Stryd Bailey 5. Hibernian (clwb) 6. Phoenix (theatr) 7. Dinam Parc Avenue (Llandinam) 8. Volunteer St 9. Stryd Llywelyn 10. St Stephen's Avene (San Steffan)

llyfrau, llyfrau print bras a llyfrau llafar yn gweld eisiau'r gwasanaeth yn fawr. Prin y bydd Llyfrgell Treorci yn gyfleus i'r naill grŵp neu'r llall.

9


Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad Meithrin

Tybed a oes gan rai ohonoch ddiddordeb mewn ymgeisio i fynd ar gwrs gofal plant? Mae Mudiad Meithrin yn gweinyddu ei gynllun hyfforddi cenedlaethol ar draws Cymru trwy un o’i is-gwmnïau, Cam wrth Gam.

Mae lle i 200 o fyfyrwyr newydd ar y cwrs Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant a fydd yn dechrau fis Ebrill 2014. Mae’r cynllun hyfforddi yma wedi profi’n boblogaidd iawn gan ei fod yn cael ei gynnig mewn cylchoedd meithrin, meithrinfeydd dydd neu ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru. Ers ei sefydlu yn 2004 mae Cam wrth Gam wedi hyfforddi dros 1,400 o fyfyrwyr sy’n eu galluogi i weithio gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar (0 - 7 oed).

Mae’r cwrs yn para blwyddyn ac yn cael ei gynnal o fewn oriau ysgol (16 awr yr wythnos) ac yn ystod tymor ysgol yn unig (sy’n hynod o ddefnyddiol os oes gan fyfyrwyr blant ifanc oed ysgol!). Bydd y myfyrwyr yn cael eu hasesu yn y gweithle am ddwyawr bob mis gan aseswyr cymwys, a bydd dis10

gwyl iddynt fynd i 6 gweithdy yn ystod y flwyddyn.

Yn wahanol i lawer o gyrsiau, nid oes raid ichi dalu am fynychu’r cwrs yma a byddwch yn derbyn yr holl adnoddau addysgol e.e. llyfrau’r cwrs, dvd a.y.y.b am ddim. Byddwch yn derbyn grant hyfforddi o £3,000 y flwyddyn. Ar ôl llwyddo yn y cwrs a chymhwyso byddwch yn gymwys i ymgeisio am swyddi amrywiol gyda phlant ifanc e.e. arweinydd neu gynorthwy-ydd cylch meithrin, rheolwr, ddirprwy reolwr neu gynorthwy-ydd mewn meithrinfa ddydd, cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol gynradd, arweinydd neu gynorthwy-ydd clwb ar ôl ysgol, neu arweinydd cylch chwarae. Y dyddiad cau ar gyfer rhoi eich cais i mewn yw 24 Ionawr, 2014. Beth am roi cynnig arni?

Am wybodaeth bellach, ewch i’n gwefan www.camwrthgam.co.uk, neu ebostiwch post@camwrthgam.co.uk, neu ffoniwch 01970 639601.


TONYPANDEMONIUM

drwg, hapusrwydd a thristwch a llwyddodd i'n hargyhoeddi bob cynnig. Portreadwyd Danielle ar wahanol gyfnodau o'i bywyd gan dair actores, Tamara Brabon, Molly Elson a Sarah Williams. Roedd y sgwrsio rhwng y tair ar draws gwahanol gyfnodau eu datblygiad yn ddyfeisgar iawn - y Danielle ifanc oedd yn addoli ei mam, cyfnod casau ei harddegau a'r ferch hŷn oedd yn ceisio dod i delerau â'u perthynas. Fel y dywedodd yr awdur am ddatblygiad y syniad, 'Daeth mwy a mwy o olygfeydd, yn gyflym a heb unrhyw drefn, fel atgofion - rhyw fath o lithro nôl." Doedd y ddrama ddim yn dat-

blygu'n gronolegol, ond cyfosodwyd gwahanol gyfnodau'n gelfydd gan adael darlun argraffiadol cyfansawdd o berthynas y fam a'r fech ynghyd â'r gwahanol ddynion yn ei bywyd. Er taw merched oedd yn hawlio'r prif sylw, cafwyd perfformiadau argyhoeddiadol gan y gwŷr yn ogystal, Berwyn Pearce, Dean Rehman ac Adam Redmore. Cynhyrchiad trawiadol Codwyd llawr y theatr i lefel y llwyfan a pherfformiwyd y cyfan mewn cylch gyda rhai golygfeydd yn digwydd ymhlith y gynulleidfa. Fe weithiodd hyn yn dda ar y cyfan, er i'r llefaru ddioddef ambell waith wrth i actorion orfod troi

eu cefnau at rannau o'r gynulleidfa. Ond cafwyd cynhyrchiad slic, amrywiol a dyfeisgar a hoeliodd ein sylw o'r dechrau i'r diwedd. O'r digwyddiadau a gynhaliwd hyd yn hyn i gofnodi'r flwyddyn arbennig hon yn hanes y theatr, hwn yw'r gorau o ddigon. Mawr obeithiwn y gwelwn ragor o waith Rachel Tresize, sy'n berthnasol nid yn unig i'w hardal gynhenid ond i gynulleidfa lawer ehangach. Da oedd gweld cymaint o bobl ifainc yn y gynulleidfa a diolch i Theatr Genedlaethol Cymru am noson gofiadwy.

YSGOLION

Yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant Theatr y Parc a Dâr, cyflwynwyd drama lwyfan gyntaf y llenor o Gwmparc, Rachel Tresize gan Theatr Genedlaethol Cymru. Mae 'Tonypandemonium' yn olrhain y berthynas rhwng merch a'i mam benchwiban sy'n alcoholig. Er bod y thema ar y wyneb yn swnio'n drist, roedd hwmor achlysurol y sefyllfaoedd yn ei hachub rhag troi'n ddiflas ynghyd â pherfformiad cofiadwy iawn gan y prif gymeriad, Siwan Morris, sydd a'i gwreiddiau hithau yng Nghwmparc. Roedd hi ar y llwyfan bron trwy'r amser yn anwadalu rhwng sobrwydd a meddwdod, hwyliau da a

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Llwyddiant Pêl-Rwyd

Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i AmeliaDavies a Caitlyn Davies ar gael eu dewis yn aelodau o garfan -14 Cymoedd Morgannwg – camp anhygoel! 11


12

dros £400 ar gyfer elusen Macmillan.

Diolch yn fawr i fyfyrwyr y 6ed Dosbarth am drefnu bore coffi llwyddiannus iawn ar fore Gwener, 4ydd Hydref. Codwyd

YSGOLION

BORE COFFI I'W GOFIO!

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.