Y gloran gorffennaf 15

Page 1

y gloran

20c Mae teulu Lyn a Lorna Jones, Fferm Fforch Isaf, Treorci wedi mentro ar ddatblygu busnes newydd, sef macsu cwrw. Lyn gafodd y syniad gwreiddiol ar ôl diflasu ar y cwrw oedd ar werth yn ei dafarn lleol, ond cydiodd tri o'i blant, sef Arwel, Gwawr a Caryl yn y syniad a nhw sydd wrth y llyw yn hyrwyddo'r fenter o adeilad pwrpasol ar glos y fferm. Gwariwyd tua £30,000 yn barod ar brynu offer a chynhwysion ac addasu'r adeilad ond mae'r cwrw casgen wedi ymddangos yn barod yn rhai o'r tafarnau lleol, gan gynnwys y Dunraven

BRAGDY FFERM Y FFORCH

Lyn Jones,y ffermwr

Gwawr ac Arwel yn dechrau proses macsu

(Treherbert) a'r RAFA a'r Pengelli (Treorci). Ar hyn o bryd mae dau fath ar gael, sef cwrw tywyll o'r enw 'Shw' Mae, Byt!' ac un golau, 'Boyo". Arwel yw'r prif fragiwr, Gwawr sy'n gofalu am y gwaith papur a Caryl sy'n gyfrifol am lanweithdra a pheth o'r gwaith gweinyddol. Arwel, hefyd, sy'n dosbarthu'r cynnyrch i dafarnau mor amrywiol â'r Brynffynnon, Llanwynno, y Mochyn Du, Caerdydd a'r Plough & Harrow, Y Wig. Maen nhw hefyd wedi sicrhau dosbarthwr yn Aberystwyth wrth i'r Parhad ar dudalen 3


golygyddol l CLUDO DISGYBLION YSGOL

uchaf o dlodi ym Mhrydain y tu allan i Lundain. Ar y funud, mae'r Cyngor yn ymgynghori â'r Bu sicrhau addysg dda i cyhoedd ar y drefn bawb yng Nghwm Rhondda yn flaenoriaeth newydd a gynigir. O hyn ymlaen bydd plant 5-11 i'n cyngohorau lleol a oed yn dal i gael eu sirol ar hyd y blynydcludo am ddim os ydyn doedd a thrwy'r amser cafodd plant eu cludo i'r nhw'n byw 1yn bellach na 2 filltir o'r ysgol. ysgol yn rhad ac am Bydd cludiant ar gael i ddim. Mae hyn wedi blant o'r un oed sy'n byw para hyd heddiw ac ar hyn o bryd, mae Cyngor rhwng 1.5 a 2 filltir i ffwrdd ond disgwylir idRhCT yn sicrhau cludiant am ddim bob dydd i dynt dalu £1.75 y diwrnod. Bydd disgyblion 11,690 o ddisgyblion ar draws y fwrdeistref. Ond yn yr ysgolion uwchradd mae'n bosib y daw hyn i Cymraeg a Saesneg yn ben yn fuan oherwydd y dal i gael eu cludo am ddim os ydyn nhw'n byw toriadau fydd yn angendros 3 milltir i ffwrdd a rheidiol i arbed arian. Mae'r Cyngor yn cynnig chaiff y rhai sy'n byw rhwng 2 a 3 milltir gludicludiant i bob plentyn ant hefyd os talant £1.75. sy'n byw 1.5 milltir o'r Mae sefyllfa plant sy'n ysgol a chost hyn yw £11.4 miliwn. Mae'r tref- mynychu ysgolion ffydd niant hwn yn fwy hael na yn wahanol. Yn y sector cynradd, disgwylir i bob llawer o awdurdodau plentyn sy'n byw yn beleraill Cymru, ond rhaid lach na 1.5 milltir i cofio taw yn Rhondda ffwrdd dalu £1.75 yn Cynon Taf mae'r lefelau ddyddiol os oes ysgol amgen ar gael yn agosach, ond os yw'n byw dros 2 filltir o'r ysgol, a'r Cyngor yn ystyried mai'r ysgol ffydd honno yw ysgol addas Ariennir yn rhannol agosaf y gan Lywodraeth Cymru disgybl, Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison bydd yn gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru parhau i Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 2

y gloran

gorffennaf 2015

YN Y RHIFYN HWN

dderbyn cludiant am ddim. Bydd disgyblion cynradd sy'n byw rhwng 1.5 a 2 filltir o'r ysgol hefyd yn cael eu cludo, ond am gost o £1.75 gyda'r amod taw dyna'r ysgol addas agosaf. Yn y sector uwchradd, disgwylir i bob disgybl sy'n byw dros 2 filltir o'r ysgol dalu £1.75 y diwrnod gyd'r rheiny sy'n mynd i ysgolion ffydd ac yn byw dros 3 milltir oddi yno yn cael teithio am ddim. Ni fydd cludiant ar gael amser cinio i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn rhanamser. Bydd plant sy'n cael prydau ysgol am ddim ond yn talu £1 y diwrnod a bydd teuluoedd â mwy na 2 blentyn ond yn gorfod talu am ddau. Bydd rhieni'n croesawu'r ffaith bod y Cyngor yn dal i ddarparu cludiant lle nad yw'n ofynnol iddynt wneud, ond yn anhapus bod rhaid iddynt dalu. Gall talu, hyd yn oed £1 y diwrnod, fod yn anodd i rai teuluoedd a bydd casglu'r arian yn golygu costau gweinyddol ychwanegol i RCT. Gall rhai rhieni ddewis cludo plant eu hunain neu ddefnyddio cwmi preifat gan effeithio ar y cwmniau bysiau sy'n

Boyo a Shw’mae byt?...1-3 Golygyddol-Cludo Disgyblion Ysgol...-2 S4C...3 Angladd, Diwylliant a Diwedd y Rhyfel... 4-7 Newyddion Lleol...5-10 ...-6 Byd Bob...-7 Ysgol y Parc Gwasanaeth Cofio ...10-11 Fforymau Ieuentydd Menter RhCT...11 Ysgolion...12

cyflawni'r gwaith ar hyn o bryd.. Wyddwn ni ddim beth fydd effaith y polisi newydd ar bresenoldeb plant yn yr ysgol neu sut y bydd yn effeithio ar y dewis o ysgol. A fydd rhieni sy am ddewis ysgol ffydd neu ysgol Gymraeg yn gorfod ailystyried? Mae llawer o gwestiynau i'w gofyn ac amcangyfrifir y bydd 7,141 o ddisgyblion yn cael eu heffeithio. Mae gan rieni tan 28 Gorffennaf i fynegi eu barn. Gellir cael mwy o wybodaeth a holiadur ar lein os ewch i www.rctcbc.gov.uk/siale nscyllideb a bydd modd mynychu cyfres o gyfarfodydd yn yr ysgolion. Beth bynnag yw eich barn, mae'n bwysig ichi ei mynegi. Golygydd


Bragdy Fferm y Fforch parhad

busnes ehangu ac ar ôl cael cyfle i werthu eu cwrw ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni, y gobaith yw ymestyn yn ehangach fyth. Y broses Wrth ddysgu crefft macsu cwrw, bu Arwel yn darllen ac yn ymgynghori â'r we, ond cafwyd help a chyfawyddyd hefyd gan Rowland Elis Thomas o Cywain, cangen o 'Menter a Busnes' sy'n cefnogi mentrau amaethyddol. Un o fanteision mawr teulu'r Fforch yw bod ganddynt gyflenwad o ddŵr pur o ffynnon sydd wedi cyflenwi'r fferm ers canrifoedd ac sydd yn rhoi blas ac ansawdd arbennig i'r cwrw. Mae'r broses o facsu'n un hir a

Gwawr, Arwel a Caryl (o'r chwith) yn y bragdy

chymhleth. Y diwrnod cyn inni ymweld â'r fenter, roedden nhw wedi dechrau ar y gwaith am 8 o'r gloch y bore ac wedi bod wrthi trwy gydol y dydd tan 7 y nos yn paratoi 400 litr o gwrw. Yn y bragdy mae tair cerwyn sylweddol eu maint, y cyntaf yn berwi'r dŵr, cyn ychwanegu'r grawn at yr ail ac wedyn yr hopys. Ar ddiwedd y broses, arll-

wysir y cwrw i gasgenni 72 peint i'w ddosbarthu i'r tafarndai. Maes o law, gobeithir gwerthu'r cwrw mewn poteli a chyn bo hir, yn ogystal â Boyo a Shw Mae Byt!, byddwn yn gweld poteli'n dwyn y label Tommy Box, Miner's Cap, Pit Head a Now In A Minute ar silffoedd ein siopau. Arallgyfeirio Pan ddaeth Lyn a Lorna i ffermio'r Fforch gyntaf,

roedd yno braidd o 2,000 o ddefaid, ond daeth tro ar fyd ffermio, ac erbyn hyn, gyda phrisiau wŷn a defaidyn gostwng, does ond 300 yn pori'r llethrau o gwmpas y fferm. Yn ogystal, mae ganddyn nhw yrr o dda traddodiadol yr Alban rheiny â chyrn hir a welwch chi mewn lluniau o'r Ucheldiroedd - ond arallgyfeirio yw bwriad y plant gan obeithio y daw cwrw'r Fforch yn adnabyddus trwy Gymru gyfan a thu hwnt. Dymuniad eu rhieni yw y bydd y fenter yn fodd i'r tri ifancaf o'r teulu ennill bywoliaeth yma ac aros yn yr ardal. Pob hwyl i'r fenter. Mae eu brwdfrydedd a'u gwaith caled yn haeddu llwyddiant a mawr obeithiwn y bydd eu mentergarwch yn ysbrydoliaeth i eraill fentro yn yr un modd.

3


ANGLADD, DIWYLLIANT A DIWEDD Y RHYFEL Rhagor o atgofion Ivor Rees [Treherbert gynt] am fywyd crwt yn y Rhondda adeg Rhyfel 1939 - 45 Daeth trychineb ar ein teulu tua diwedd 1943. Wrth i mi ddringo’r rhiw adref, daeth fy nghyfnither Letty i gwrdd â mi, yn dal llaw Lyn, oedd newydd ddechrau cerdded. Nid oeddwn wedi gweld Letty a Lyn gyda’i gilydd erioed o’r blaen. Esboniodd Letty mewn llais tawel fod fy ewyrthr Eddie, brawd ieuengaf Mam, a thad Lyn, wedi cael ei ladd mewn damwain ym mhwll glo Fernhill. Roedd wrthi’n gwneud gwaith rhywun arall oedd wedi bod yn dost pan dorrodd rhaff drwchus a malu ei gorff. Yr eirioni oedd mai Mam-gu a’i orfododd i ddychwelyd o ffatri yn Redditch i Fernhill. Roedd ei frodyr Ivor a Tom eisoes yn y fyddin. “Maen nhw wedi mynd â dau o’m meibion. Ni chânt fynd â’r ifancaf! Rhaid i Eddie ddod adref!” Bu Ivor yng nghanol brwydrau yr India a Burma tra bod Tom wedi cael amser cysurus ar hyd y rhyfel yng ngwersyll Catraeth [Catterick]. Ni anghofiaf fyth angladd Eddie, yn uchel i fyny ym Mynwent Treorci. Roedd y teulu’n sefyll o gwmpas y bedd agored pan ddywedodd y Parch. Emrys Jones, Carmel, bod yn well i ni aros am ychydig o 4

funudau Edrychodd pawb i lawr y llethr a gweld torf o ddynion du eu hwynebau yn rhuthro i fyny atom. Er gwaethaf gorchymynion rheolwr Fernhill, fe ddaeth holl shifft y bore allan yn gynnar er mwyn dod i’r angladd.

Bywyd crwt ysgol Soniais am ddyfodiad cinio’r ysgol. Pedair hen geiniog y dydd oedd y pris. Profais hwy am ysbaid ond cefnu arnynt wedyn a dychwelyd at yr hen drefn o ddod a brechdanau i’r ysgol a’u bwyta yn y cantin gafodd ei redeg gan Mrs. Clark, gwraig gofalwr yr ysgol, “Nobby” Clark. Hen fwyty oedd hwn, yn rhan o dŷ’r gofalwr ar bwys clwydi’r ysgol. Roedd te a sgwash ar werth yno am geiniog. Bob hyn a hyn rhuthrai yr holl fechgyn i geisio prynu creision Smith’s gyda darn o bapur glas yn dal yr halen am ddwy

geiniog y pecyn. Nid oedd byth ddigon ar gael ond rhoddai'r Clarks flaenoriaeth i’w cwsmeriaid dyddiol ac ambell i dro fe gefais ail baced oddi tan y cownter nes ymlaen yn yr wythnos. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel rhan o bolisi’r llywodraeth oedd dod a diwylliant at y bobl. Un o ganlyniadau hynny oedd gorfodi’r ysgol gyfan i ddioddef ymweliadau rheolaidd pedwarawd llinynnol o fenywod hen a sedêt eu golwg i’n diddanu â’r clasuron mwyaf diflas. Yng Nghroniclau Scola yng nghylchgrawn blynyddol yr ysgol un flwyddyn, soniwyd am rai o’r dosbarthiadau hŷn mewn sinema yn y Porth ar gyfer performiad gan gwmni balet. Roedd un bachgen wrth ei fodd yn gwylio’r menywod ifanc yn eu gwisgoedd cwta gyda chymorth ei sbenglas. Rhuthrodd athro dig ato gan gymryd y

sbenglas oddi ar y pechadur ac eisteddodd yn llonydd am weddill y perfformiad â’r sbenglas yn sownd wrth ei lygaid! Digwyddodd un peth â gafodd ddylanwad arnaf gweddill fy mywyd. Aeth 4a gyda holl ysgolion gramadeg y Rhondda i’r Parc a Dâr un prynhawn i wrando ar Gerddorfa Linynnol Jacques, o dan arweiniad Dr. Reginald Jaques ein hunan. A minnau’n eistedd yn seddau gorau'r lloft, ni chlywais yr un sŵn ar wahan i’r miwsig nefolaidd o’r llwyfan ac un darn yn fy mwrw fel bollt, sef Eine Kleine Nacht Musik o waith Mozart. Yn sydyn iawn, trôdd Dr. Jacques i edrych i mewn i dywyllwch y neuadd, pwyntio rywle i gyfeiriad ochr arall i’r lloft a gwaeddu gyda llais awdurdodol, “That boy up there – come and see me after-

parhad ar dudalen 6


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Mae Treherbert yn un o dair ardal yn unig ym Mhrydain sy wedi ei dewis i gymryd rhan yng nghynllun 'Storiau am Newid'. Cynllun yw hwn sy'n ymwneud â'r ffordd mae ynni wedi newid dros y degawd diwethaf. Cynlluniwyd y prosiect gan y Brifysgol Agored a bydd cyfres o arddangosfeydd a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn hen Lyfrgell Treherbert dros y misoedd nesaf, gan ddechrau ar 25 Gorffennaf. Bydd sesiynau'n trafod sut mae ynni wedi newid o gyfnod glo i ynni adnewyddol ac yn ceisio rhagweld fel y bydd y Rhondda'n cynhyrchu ynni i'r dyfodol. Mae'r tîm yn awyddus i glywed barn pobl leol, felly cofiwch gefnogi'r cyfarfodydd pwysig hyn. Trefnodd Capel Blaencwm daith i godi arian at Nepal wedi i'r wlad honno ddioddef dau ddaeargryn difrifol yn ddiweddar. Dechreuwyd y daith ar ben Castleton Avenue, cerdded o gwmpas Penpych ac wedyn dros y mynydd i Gwmsaebren cyn gorffen ar orsaf Treherbert - taith o 11 milltir. Terry Nicholas o Valleys Kids oedd yr arweinydd a chafwyd

cefnogaeth gweithwyr cynllun Coed Lleol' yn ogystal. Y newyddion da yw bod £1681 wedi ei gasglu at yr achos pwysig hwn. Da yw gweld y cigydd, Colin Deans o Dynewydd yn ôl wrth ei waith a'i siop yn Nhynewydd ar agor unwaith eto. Cafodd Colin ddamwain ddifrifol pan gwympodd oddi ar ysgol ac o ganlyniad bu yn yr ysbyty am sawl wythnos. Mae e wedi gwella ar ôl sawl llawdriniaeth a dymunwn iechyd a phob llwyddiant iddo i'r dyfodol. Codwyd dros £250 at gronfa Marie Curie mewn bore coffi a drefnwyd gan aelodau Carmel fore Gwener, 26 Mehefin. Mae croeso i bawb ddod i'r boreau coffi a gynhelir bob bore Mawrth am 10.30 ac i'r gwasanaethau prynhawn Sul am 4 o'r gloch. Mae aelodau Carmel am anfon eu dymuniadau gorau at Mrs Mair Evas sydd yng nghartref gofal Pentwyn a Mrs Betty Todd-Jones sydd yn Ystradfechan.

TREORCI

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Tom Hughes, Stryd Dumfries,

yn 92 oed. Roedd Tom yn ŵr adnabyddus a phoblogaidd yn yr ardal, bob amser yn siriol ac yn gyfeillgar. Gwelir ei eisiau'n fawr. Cydydeimlwn â'i weddw, Ellen a'i ferched, Brenda, Patricia a Julia ynghyd â gweddill y teulu yn eu profedigaeth.

Llongyfarchiadau calonnog i frawd a chwaer o Stryd Dumfries, sef Robert a Deryth Jones ar raddio, ill dau, yn BSc, Robert o'r Brifysgol Agored a Deryth o Brifysgol Caerwysg (Exeter). Bu eu llwyddiant o falchder mawr i'r teulu, yn enwedig eu mam-gu, Linda Francis o Stryd Regent a oedd, yn ddiweddar yn dathlu pen-blwydd pwysig iawn yn ei hanes. Croeso adre i Luc, mab Mr a Mrs Gwyn Evans, Stryd Stuart sy'n ddeintydd yn Awstralia. Mae e nôl yn ei gynefin am dro ond fydd e ddim yn segur gan ei fod yn bwriadu cystadlu yn rhai o ornestau "Iron Man' yn Ninbych-y-pysgod. Pob lwc iddo.Cynhaliwyd eu Ffair Haf flynyddol gan aelodau Eglwys San Matthew ar ddydd Sadwrn, 20 Mehefin. Dioch yn fawr i bawb a weithiodd yn galed i sicrhau ei llwyddiant ac i'r cyhoedd am bob cefnogaeth.

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Mae Pwyllgor Cancr UK Treorci am ddiolch o galon i bawb a gefnogodd eu casgliad stryd yn ddiweddar. Llwyddwyd i godi £954 at yr achos teilwng hwn ac mae pawb nawr yn edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf, sef cwis ym mis Medi o dan ofal Noel Henry. Daeth eglwysi Treorci, sef Hermon, Bethlehem ac Eglwys Sant Matthew ynghyd i gasglu at Gymorth Cristnogol ddechrau Mai. Llwyddwyd i godi swm anrhydeddus ac maen nhw am ddiolch o galon i'r cyhoedd am eu cefnogaeth arferol. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Ann Thomas, Heol Conwy, oddi wrth ei holl

parhad ar dudalen 8

5


wards!” Trôdd yn ôl at ei gerddorfa a’u cerddoriaeth. Rhyw ddeng mlynedd ar hugain oddi ar hynny, euthum i alw ar un o’m haelodau. Roedd hi’n gwrando ar berfformiad radio o’r Eine Kleine Nacht! Adroddais fy stori am y Park and Dare. “Dyna beth rhyfedd,” meddai, “daeth Jacques at blant ysgol Glasgow tua’r un cyfnod a chefais innau hefyd un o brofiadau mawr fy mywyd wrth i mi glywed yr un darn am y tro cyntaf. Yn Glasgow 6

hefyd fe wnaeth yr arweinydd bwyntio i ganol y tywyllwch gan ddweud “That boy there, come and see me afterwards.” Diwedd y Rhyfel Yn y cyfamser, aeth y rhyfel ymlaen i mewn i’w bedwaredd flwyddyn

a phawb yn hir ddisgwyl am i rywbeth mawr ddigwydd. Aethom ar Fehefin 6, 1944, i wers yn y siop gwaith metal – dan ofal yr athro, Mr. Powell, Cymro Cymraeg annwyl iawn, sef tad y Barnwr Dewi Watkin Powell. Yn sydyn,

rhuthrodd Gareth Hywel Jones i mewn i neuadd yr ysgol gan waeddu bod D-Day wedi cyrraedd a bod radio’r ysgol wedi cyhoeddi bod byddinoedd y cynghreiriaid wedi glanio ar draethaunFfrainc, gan

parhad drosodd


BYD BOB

Dyfodol yr hil ddynol yw pwnc Bob Eynon y mis yma Er nad ydw i'n arwr, rwy'n edmygu pob math o arwriaeth - milwyr, pysgotwyr Môr y Gogledd, diffoddwyr tân. cenhadon, gwirfoddolwyr dramor ac ati. Felly, roedd yn flin 'da fi glywed rai misoedd yn ôl am farwolaeth y peilot a gafodd ei ladd pan syrthiodd roced ofod Virgin yn glec yng nghanol anialwch Mojave yn America. Trwy'r canrifoedd, mae pobl fel fe wedi mentro ru bywydau i archwilio gwledydd a moroedd, dringo mynyddoedd enfawr, profi ceir ac awyrennau newydd a thorri recordiau cyflymder. Ond mae'n ymddangos

bod yr oes antur yn dod i ben. Y dyddiau hyn, mae mwy o bol ar ben mynydd Everest yn yr Himalayas nac ar fynydd Caerffili. Cyn hir, bydd robotau'n gwneud y tasgau peryglus yn lle dynion a gwragedd. Ar yr un pryd, mae teithio wedi dod yn haws. Os oedd Cymry ifainc yn symud i weithio i Loegr yn y tridegau, nawr maen nhw'n setlo yn Awstralia, Seland Newydd a Hong Cong. Felly, mae'r byd yn mynd yn fach. Mae'n mynd yn dlotach hefyd, achos mae'r hil ddynol yn tyfu ac yn sathru ar fyd yr anifeiliaid. Mae natur yn colli tir bob blwyddyn a'r anifeiliaid

ychwanegu, “Fydd hi ddim yn hir nawr!” Fel bron pawb arall, buom yn dilyn y rhyfel ar raglenni newyddion yn y sinemâu a nawr dilyn yr ymladd ar draws Ewrop. Ymlaen yr aeth y rhyfel gan achosi distryw anhygoel a lladd llawer. Serch hynny, newidiodd yr awyrgylch wrth i bawb hiraethu o’r newydd am heddwch. Daeth y rhyfel yn Ewrop i ben ar Fai 8, 1945. Rhaid bod pawb oedd yn medru yn gwrando ar Winston Churchill yn cyhoeddi terfyn y frwydr yno. Llanwyd Diwrnod VE â chymysgedd o ollyndod a llawenydd.

Dim ofn bellach o gyrchoedd awyr, dim black out. Yn raddol daeth goleuadu llawn yn ôl i’n strydoedd. Cynhaliwyd parti stryd yn Ynysfeio Avenue, fel ymhob man arall. Benthycwyd byrddau tresti o rywle a’u gosod mewn rhes, gyda llieiniau drostynt. Rywsut llwyddodd gwragedd y stryd i baratoi gwledd er gwaethaf y prinder bwyd – brechdanau, teisennau ac, wrth gwrs, fasnau o jelly. Y fath wledd! O leoedd cudd yn y tai yr ymddangosodd llu o faneri – nifer ohonynt yn streipiau coch, gwyn a glas, a’r geiriau “Welcome Home” ar draws y canol gwyn. Cafodd y rhai hyn eu creu yn 1938 i groesawu adref y streicwyr arhosodd dan ddaear ym mwll Fernhill. Gosodwyd llinyn i

ANGLADD, DIWYLLIANT A DIWEDD Y RHYFEL

a phlanhigion yn diflannu o flaen ein hymosodiadau cyson. Os na fyddwn ni'n newid ein hagwedd tuag atyn nhw, byddwn ni ar ein pennau ein hunain ar y ddaear carcharorion mewn cawell concrit yn y gofod! ******************** Y mis o'r blaen, roeddwn i'n sôn am fy hen ffrind, Michael Crabb o Dreorci. Roeddwn i'n arfer teithio gyda fe yn ei lorri ar hyd a lled Lloegr pan oeddwn i'n ifancach.

fyny ar draws y stryd a dwy greadigaethd debyg i Guy Fawkes ac enwau Hitler a Mussolini wedi eu hysgrifennu arnynt mewn sialc. Wedi i’r dydd dywyllu, daeth trigolion yr Avenue ac Herbert Stret at eu gilydd ar darn o dir ar draws y ffordd o dŷ Mam-gu, Bu i nifer o ddynion baratoi coelcerth enfawr a thaflwyd “Hitler a Mussolini” i ganol y fflamau. Cafwyd wir ddathlu ar achlysur hapus iawn, os yn gryglyd ar adegau. Roedd yn amlwg i bawb fod rhai o’r dynion wedi treulio amser maith yn dathlu yn eu hoff dafarn. Fel adsain o garnifaliau’r tri degau, gwisgodd rhai ohynynt yn nillad eu gwragedd, gan ddawnsio’n wyllt o gwmpas y goelcerth. Daeth naws mwy prudd

Wel, fe wnaeth Mike bob math o waith cyn iddo ymddeol beth amser yn ôl. Fe ymunodd e â'r fyddin fel mecanig ac yna gweithiodd e ar y bysys yma yng Nghwm Rhondda am flynyddoedd fel gyrrwr a thocynnwr. Unwaith, roedd e'n gyrru trwy'r cwm pan ddechreuodd y bws symud o ochr i ochr heb rybudd. Stopiodd Mike y bws a mynd i ffonio'r depot yn y Porth. "Mike Crabb yma," meddai wrth y swyddog. "Rwy' wedi gorfod stopio. Mae rhywbeth o'i le ar y bws. Mae'n symud o ochr i ochr drwy'r amser." Meddyliodd y swyddog am foment, yna dweud, "Rwy'n deall, Mike," meddai dan chwerthin, "Fel cancr, ti'n golygu!" i’n sinemau yn fuan wedyn pan ddangoswyd lluniau brawychus o wersyll Belsen gydag ysgerbydau byw yn eu gwisgoedd nos rhengog a rhagor yn dilyn yn ystod yr wythnosau canlynol. Cawsom ein porthi hefyd â luniau o’r Almaen a dioddefaint enbyd ei phobl gyffredin, er mawr lawenydd i'n cynulleidfaoedd. Cefais fy mrifo yn y Park and Dare wrth i’r bobl o’m cwmpas gael sbri mawr wrth weld milwyr Prydeinig yn saethu hylif i fyni sgyrtiau menywod. Amhosibl oedd i neb gynnig maddeuant y pryd hynny gan fod dioddefaint mawr y cenhedloedd gafodd eu meddianu gan y Natsiaid yn real i ni oll, a hynny heb sôn am ein clwyfau ni ein hunain. 7


ffrindiau yn Sefydliad y Merched [W.I], yn enwedig ei chyd-aelodau yn yr adran Perfformio Creadigol. Bu Ann yn yr ysbyty'n ddiweddar ac mae pawb yn gweld ei heisiau'n fawr iawn. Brysiwch i wella. Cofion gorau at Vic Davies, Prospect Place gynt, sydd heb fod yn dda iawn yn ddiweddar yng nghartref gofal Pentwyn.Bu Vic, oedd yn aelod amlwg iawn o Blaid Cymru yn yr ardal, yn dathlu ei ben-blwydd yn 98 oed yn ddiweddar. Pob dymuniad da iddo. Croeso i Deri Cashel, plismon cynorthwyol [PCSO] newydd Cwmparc a gwaelod Treorci. Ei rif ff么n yw 07584 770944. Gobeithio y caiff e arhosiad hapus a heddychlon yn ein plith. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mr Alun Davies, Stryd Dyfodwg a gafodd niwed i'w fraich yn dilyn

8

cwymp tra yng Nghaerdydd.

CWMPARC

Llongyfarchiadau i Brendan Dimond, Stryd Clifton, am ennill y wobr gyntaf ym 25ain Cystadleuaeth Unawd a Phedwarawd Band Pres Bideford, ar 13eg Mehefin. Cystadlodd Brendan, 9 oed, yn yr adran "Slow Melody, 12 and under". Chwaraeodd e "Bless This House" ar y corned ac enillodd e Dlws J & C Pascoe Nawr, mae

ganddo fe darian i'w chadw am flwyddyn. Mae'n amlwg fod llawer o dalent yn ein hardal ni. Hefyd yn cystadlu roedd Zoe Gregory, Stryd Clifon, ac yn 2012 enillodd Eleri Kinsey (gynt o Ffordd Conway), a Cerwyn West (Stryd Illtyd, Treorci) yn 2006. Mae Brendan yn chwarae gyda Band Pres Rhondda Uchaf, Band Pres Cory, a Band Pres Ysgol y Parc. Da iawn Brendan! Llongyfarchiadau i Amy Fisher a Craig George, Ffordd Conway, ar enedigaeth Poppy, chwaer fach i Lola. Cafodd hi ei geni ar 11 Mehefin. Bydd Te Mefus yn neuadd eglwys San Si么r ar 15fed mis Gorffenaf,

3:00 - 5:00, i godi arian at elusen Breast Cancer Care. Bydd croeso cynnes i bawb.

Llongyfarchiadau i William Bowen, Ffordd Conway am ennill ei fathodyn nofio 1000m. Mae William yn mynychu gwersi nofio bob dydd Sadwrn yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad. Dalia ati William!

Roedd gwasanaeth coffa yn Ysgol y Parc ar 25 Mehefin. Mae'r ysgol wedi cynnal y gwasanaeth ers 10 mlynedd, er mwyn cofio'r pobl a fu farw ar noson 29 Ebrill 1941. Collodd 27 o bobl eu bywydau, gan gynnwys 3 faciwi, a ddaeth i Gwmparc i'w cadw'n saff yn


ystod y rhyfel. Perfformiodd plant Bl. 6 ddrama am y drychindeb, ac roedd gwasanaeth yn y iard dan ofal y Tad Philip Leyshon. Ymunodd y dirprwy brifathro Mr Robert Taylor ag aelod o'r Lleng Brydeinig Frenhinol, a chwaraeodd 'The Last Post'. Cynhaliwyd munud o ddistawrwydd, ac wedyn mwynheuodd pawb luniaeth ysgafn yn ôl yn yr ysgol. Mae'n ddrwg gennym gofnodi marwolaeth Rosemary Lloyd, Heol Conwy a fu farw yng nghartref gofal Glyncornel yn ddiweddar, yn dilyn cystudd hir a ddiodde-

fodd yn ddewr. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w gŵ®, Richard, ei merch, Sian a'i mab Cristopher ynghyd â'r teulu cyfan yn eu hiraeth.

Y PENTRE

Rydym yn dymuno'n dda i Ray Tutty sy'n symud ei fusnes o Stryd Llewellyn i Dreorci. Sefydlodd ei fusnes tatŵ yma ryw naw mlynedd yn ôl ac enillodd enw o fod yn datwydd o fri. Gwelir ei eisiau ef a'i gyd-weithiwr, Emyr Webster yn fawr iawn. Mae'n drist gweld busnes

arall yn cau. Cyn bo hir bydd Clwb Crefftau Lemon Blues yn dod i ben dros wyliau'r haf ond os oes gennych ddiddordeb ymuno ar gyfer y sesiwn newydd ym mis Medi, cewch fanylion ar Facebook neu trwy e-bostio melissa@melissawarren.co.uk Y tâl fydd £6 y sesiwn. Hefyd mae gennym sesiynau hyfforddi yn y defnydd o beiriannau gwnio ac ailgylchu neu ailddefnyddio defnyddiau gwastraff yn y cartref. Brynhawn Sul, 5 Gorff., trefnwyd achlysur yn Eglwys San Pedr i gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf, 'Pentre yn

Cofio'. Yn cymryd rhan roedd Band y Parc a'r Dâr a Chôr Meibion Treorci. Nos Wener, 26 Mehefin cynhaliwyd noson i ddathlu pen-blwydd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen yn 65 oed. Y gŵr gwadd oedd y chwaraewr rygbi adnabyddus, Phil Bennett, Llanelli a chodwyd arian ar gyfer Cymdeithas Rhieni'r ysgol.

TON PENTRE

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i bâr ifanc lleol, Jason Reeves a

9


Laura Gillard a briododd 27 Mehefin yng Nghofrestrfa Pontypridd. Ar ôl y neithior yng Nghlwb Pêl Droed Ton Pentre aethant ar eu mis mêl i Wlad Groeg. Bydd y ddau yn ymgartrefu yn Stryd Clarence ar ôl dychwelyd. Pen-blwydd Hapus iawn i Miss Irene Parlour, Tŷ Ddewi oddi wrth ei holl ffrindiau yno wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 97 oed ar 3 Gorffennaf. Mr Dennis Stallard oedd y gŵr gwadd yng nghyfarfod misol y Clwb Cameo a gynhaliwyd yn yr Eglwys Gynulleidfaol Saesneg. Cyflwynwyd y siaradwr gan y llywydd, Mrs Rita Lewis a chafodd pawb noson wrth eu bodd yn clywed am brofiadau Mr Stallard yn y theatr. Bu'r aelodau hefyd ar daith i Fae Bracelet, Y Mwmbwls a chael amser da yng nghwmni ei gilydd. Roedd pawb yn Nhŷ Ddewi wrth eu bodd i gael Mr Harry England yn ôl yn eu plith ar ôl iddo dreulio cyfnod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar. Brodor o gymoedd Gwent yw Harry, ond mae e wedi ymgartrefu'n llwyr yn ein plith erbyn hyn. Dymunwn iddo iechyd a phob cysur i'r dyfodol. Bu farw Mrs Elizabeth Best, St David's St a Mr Allan Evans, Ardwyn Terrace. Cofiwn am deu10

luoedd y ddau yn eu profedigaeth ac estyn ein cydymdeimlad cywiraf iddynt. Cynhaliwyd 41fed Noson Wobrwyo Clybiau Bechgyn a Merched Cwm Rhondda yng Nghynolfan Chwaraeon Ystrad o dan lywyddiaeth Mr Selwyn Jones. Y gŵr gwadd eleni oedd yr athletwr paralympaidd Aled Davies a gafodd y dasg o gyflwyno'r gwobrau i'r canlynol: Charlie Stoddart, 8 oed [Cicfocsio]; Megan Hamer Evans [ Canŵ Slalom - Pencampwr ifanc y byd]; Timau Rygbi - Treorci [dan 12] a thîm Ysgolion y Rhondda [dan15]; Tîm Hynaf - Ystrad Rhondda; Clwb y Flwyddyn Cambrian Cwm Clydach. Pencampwr y Noson oedd y rhedwr paralympaidd Rhys Jones a chafodd Brian Bees, Brian Jones a Margaret a Glyn Harris eu hanrhydeddu am eu gwaith dros fabolgampau yn y Cwm. Mewn cyfarfod o Fforwn Pobl Hŷn a gynhaliwyd yn Nhŷ Ddewi yn ddiweddar, cyflwynwyd yr aelodau i gynllun cardiau disgownt sy'n galluogi rhai dros 50 oed i gael gostyngiadau mewn siopau lleol os oes ganddynt garden. Gellir cael rhagor o fanylion gan Lynda Corre o Hafan Dawel, Shady Rd, Gelli neu trwy ffonio 438250.

YSGOL GYNRADD Y PARC

Yn ein rhifyn diwetha cyfrannodd Nerys Bowen erthygl a chyfres o luniau llawn hwyl a sbri o Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili eleni. Y tro ‘ma rhywbeth hollol wahanol - mae ei lluniau yn cofnodi’r wasanaeth a gynhaliwyd yn Ysgol y Parc i gofio’r rhai a gollwyd yn ‘blitz’ 29 Ebrill, 1941.

Fforymau Ieuenctid Menter RhCT

Am fis prysur! Yn yr wythnosau diwethaf mae fforymau Garth Olwg a Choleg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn trefnu trip i ddisgyblion y chweched a’r coleg. Ar ddydd Sadwrn 23ain o Fai roedd yr haul yn tywynnu ac aeth 23 o fyfyrwyr i Narbeth i gael hwyl a sbri yn Oakwood. Roedd ymddygiad a chwmni’r disgyblion yn wych, ac mi oedd yn bleser gwario’r diwrnod gyda nhw. Diolch yn fawr i fechgyn ‘Y Criw’ a merched ‘Y Fforwm Ffab’ am drefnu diwrnod mor llwyddiannus.

Trefnodd y Sgwod (Ysgol y Cymer) drip llwyddiannus iawn ar nos Wener y 5ed o Fehefin i Team Sport yng Nghaerdydd. Llwyddodd y merched i gael 22 o fyfyrwyr i fynychu’r daith er eu bod yng nghanol harholiadau; hoe fach haeddianol!

Ar ddydd Gwener roedd yr haul yn tywynnu a theithiodd 22 o fyfyrwyr rhwng 13 a 17 mlwydd oed i ganol y ddinas ar y trên – yn ffodus i ni cyrhaeddon ni yng Caerdydd cyn i dorfeydd One Direction a Manics cyrraedd! Roedd y staff yn groesawgar iawn a chawson ni aelod o staff Gymraeg. Cafodd pawb amser gwych yn rasio o amgylch y traciau, rhai yn fwy cystadleuol nag eraill! Ar ôl awr a hanner brysur o rasio o amgylch, roedd pawb ffansio rhywbeth i’w fwyta. Cerddon ni nol i Brewery Quarter am ‘cheeky’ Nandos.


YSGOL GYNRADD Y PARC - GWASANAETH COFIO Côr Meibion Treorci

Dirpwy Pennaeth Robert Taylor yn chwarae’r corned

Ymwelwyr gyda’r Maer

Ymwelwr a’r Ysgol

11


YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

SESIWN FATHEMATEG I FLWYDDYN 6 Roeddem yn falch iawn o groesawu rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 atom yr wythnos hon ar gyfer gweithdy Mathemateg. Roedd yn gyfle i’r disgyblion rannu eu sgiliau Mathemategol â rhai o athrawon yr Adran Fathemateg

CROESO NÔL BLWYDDYN 6! Roeddem yn falch iawn o groesawu disgyblion Bl 6 nôl atom ni yr wythnos hon ar gyfer ein diwrnod Pontio. Roedd yn gyfle i gwrdd â rhagor o ffrindiau newydd a chael blâs ar ddiwrnod ysgol yn Y Cymer. Edrychwn ymlaen at eich gweld yr wythnos nesaf ar gyfer ein dosbarthiadau meistr!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.