y gloran
20c
SBWRIEL SBWRIEL SBWRIEL
Tynnwyd y lluniau ar y 21 Rhagfyr 2015
GWAREDU SBWRIEL YN ANGHYFREITHLON
Er mwyn osgoi talu am ei waredu'n gyfreithlon, mae rhai pobl anghyfrifol yn gwaredu sbwriel ar lethrau'r cwm neu wrth ochry rhai o'n hewlydd mynydd. Dros y gwyliau, anfonwyd lluniau atom gan un o'n darllenwyr yn dangos llwyth o sbwriel wedi ei adael ar ymyl yr hewl sy'n rhedeg o ben Bwlch y Clawdd i gyfeiriad Blaengwynfi. Roedd peth o'r sbwriel wedi parhad ar dud 3
golygyddol y gloran
GOBEITHION 2016
A ninnau ar drothwy 2016, beth yw ein gobeithion am y flwyddyn i ddod? Bydd gan bob un ohonom ei obeithion personol a'i obeithion teuluol a chenedlaethol, ond yn sicr, dylai fod gennym ryw weledigaeth ar gyfer ein cymdogaeth a'n hardal yn ogystal. Lansiwyd rhai syniadau yn 2015 y gobeithir eu gweld yn dwyn ffrwyth yn ystod 2016. Un prosiect cyffrous a fydd yn effeithio ar bawb ohonom yw hwnnw i hwyluso teithio trwy
ganol Treorci trwy gael gwared ar y goleuadau ar Sgâr y Stag. Bu'r tagfeydd yn boendod i bawb sy'n gorfod teithio trwy'r cwm ac yn rheswm pam mae llawer sy'n gorfod teithio i'w gwaith yn symud o'r ardal. Buont hefyd yn rhwystr i hyrwyddo busnes a masnach ym mlaenau'r Rhondda Fawr. Bydd llwyddiant y cynllun newydd yn dibynnu ar ewyllys da gyrwyr a cherddwyr ond fe'n temtir i ddweud bod unrhywbeth bron yn well
y gloran
ionawr2016
YN Y RHIFYN HWN
na beth sy 'da ni ar y funud. Gobeithio felly y bydd pobl yn rhoi cyfle i'r system newydd weithio. Yn ystod 2015 gwelsom ddirywiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac oherwydd diffyg adnoddau bu'r Cyngor yn gorfod trosglwyddo rhai o'i ddyletswyddau i'r sector gwirfoddol. Ar hyd a lled y sir, gwelwyd grwpiau'n derbyn cyfrifoldeb am redeg llyfrgelloedd, pyllau padlo a theatrau a gwelwn gynnydd yn y
Gwaredu Sbwriel...1 Golygyddol...-2 Golygyddol parhad...3 Peter George ... 4 Newyddion Lleol...5-10 Peter George parhad...-6 Byd Bob...-7 Terry Jones Ysgolion...11 .12
BLWYDDYN NEWYDD DDA
math yma o weithgaredd yn ystod 2016. Mae grŵp yn cael ei sefydlu
yn Nhreherbert ar hyn o bryd i geisio ailagor y pwll padlo yn y parc lleol a dymunwn yn dda iddyn nhw. Dylai llwyddiant pwyllgorau Neuadd y Parc, Cwmparc a Chlwb Bechgyn a Merched Ton Pentre yn adfer bywiogrwydd y sefydliadau hynny fod yn ysbrydoliaeth i bawb sy'n ymdrechu yn y maes hwn. Mae canol tref Treorci yn eithaf llewyrchus o'i gymharu â mannau eraill yn y cymoedd ac mae hynny i'w briodoli'n bennaf i fenter nifer o bobl ifainc sy wedi sefydlu busnesau llwyddiannus yno yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mawr obeithiwn y bydd rhai tebyg yn dangos yr un ffydd a menter yn nhrefi eraill yr ardal yn ystod 2016. Un cynllun a lwyddodd i danio dychymyg pobl yn ystod 2014 yw'r un i ailagor twnnel Blaen-y-cwm. Yn ogystal â denu cefnogaeth sylweddol o blith
trigolion Cwm Rhondda a Chwm Afan, cafwyd cefnogaeth gan wleidyddion ar draws y pleidiau ac yn sgil hynny, cafwyd nawdd ariannol. Bydd y bwriad o greu llwybr ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn sicr o ddenu twristiaid i'r ardal fydd yn eu tro yn esgor ar gyfleoedd i greu rhagor o swyddi yn yr ardal. Y fenter fawr arall a welwn ni yn ystod 2016 yw fferm wynt anferth Pen y Cymoedd rhwng Blaenrhondda a Glyncor-
GWAREDU SBWRIEL parhad
ei daflu dros ymyl Craig Fach oedd yn ei wneud yn anodd ac yn beryglus i weithwyr
y Cyngor ei gasglu. Craig Fach a Chraig Fawr yw'r peiranau neu gymoedd iâ mwyaf deheuol Prydain ac oherwydd hynny'n nodweddion pwysig o dirlun Cwm Rhondda, heb son am fod yn fannau prydferth na ddylid eu llygru a'u hagru. Digwyddodd dympio tebyg yng Nghwmparc ddechrau mis Rhagfyr ar dir rhwng Tŷ Allison a Railway Terrace. Os gwyddoch chi pwy oedd yn gyfrifol am unrhyw un o'r gweithredoedd hyn, da chi, rhowch wybod i'r heddlu neu Gyngor Rh.C.T, Gallwch wneud hynny'n ddienw os dyna yw eich dewis.
rwg. Cyn diwedd y flwyddyn bydd 76 o dwrbeini gwynt wedi eu gosod yn eu lle gan gwmni Vattenfall, y fferm wynt fwyaf ar dir mawr Prydain. Cafwyd gwrthwynebiad i'r cynllun o sawl cyfeiriad, ond oherwydd ei faint, gwleidyddion San Steffan, ac nid rhai Rhondda Cynon Taf neu'r Cynulliad a gafodd y gair olaf. Beth bynnag oedd ein barn, bydd y fferm wynt yma am y 25 mlynedd nesaf a rhaid gwneud y gorau
CYFRIFYDDION SIARTREDIG ARCHWILWYR COFRESTREDIG
ohoni! Mae'r cwmni'n addo budd ariannol mawr i'r ardaloedd yr effeithir arnynt gan y datblygiad a sefydlwyd pwyllgor annibynnol i benderfynu pa gynlluniau a gefnogir. Cyhoeddir enwau aelodau'r pwyllgor hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Gobeithir y bydd yr aelodau yn wirioneddol annibynnol ac yn meddu ar y sgiliau busnes fydd yn sicrhau bod ein cymunedau'n elwa i'r eithaf ar y cyfle arbennig hwn. Rhwng popeth, mae 2016 yn addo bod yn flwyddyn gyffrous, gydag etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai a'r datblygiadau uchod yn cynnig cyfle arbennig inni adfywio economi a bywyd cymdeithasol yr ardal. Gadewch inni i gyd edrych ymlaen yn hyderus at 2016 gan obeithio y bydd hi'n Flwyddyn Newydd Dda i bawb ohonom.
Golygydd
CYFRIFYDDION SIARTREDIG ARCHWILWYR COFRESTREDIG
YOUNG AND PHILLIPS
77 STRYD BUTE TREORCI RHONDDA CF42 6AH FFÔN: 01443 772225 FFACS: 01443 776928 E-BOST: enquiriestreorchy@young-phillips.co.uk
BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB 3
DR STRANGELOVE A'R AWDUR O DREORCI
Dyw enw Peter Bryan George ddim yn un cyfarwydd i lawer erbyn hyn ond yn y chwedegau daeth y gŵr a fagwyd yn Nhreorci yn adnabyddus fel cyd-awdur sgript un o ffilmiau cwlt y cyfnod, 'Dr Strangelove or How I learnt to stop worrying and Love the Bomb'.
Ganed Peter George yn 10 Bute St, Treorci ar 26 Mawrth, 1924 yn fab i
athrawon. Deuai ei dad, Maurice George yn wreiddiol o Gwmparc lle y trigai yn 'Dovey Fryn', 265 Parc Rd a'i fam, Gwenllian, o Ferndale. Derbyniodd hi ei haddysg yng ngholeg Avery Hill, Llundain a rhwng 1912 - 1914 bu'n athrawes mewn nifer o ysgolion babanod yn y Rhondda Fach gan gynnwys Maerdy, Hendrefadog a'r Dyffryn tra
bod Maurice wedi ei benodi'n athro yn Ysgol Gynradd y Bechgyn, Treorci yn 2012. Yn 1922-23 roedd Maurice yn byw ar ei ben ei hun yn 10 Bute St ond erbyn 1924 roedd Gwenllian wedi ymuno â fe yno ac yn y flwyddyn honno y ganed eu mab, Peter. Yn 1929 gwyddom fod Peter yn ddisgybl yn Ysgol Treorci ond erbyn 1931 roedd y teulu wedi symd
Geraint Davies (Fferyllydd) BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB
59 Stryd Gwendoline, Treherbert 4
o'u cartref yn Bute St.
Y Llu Awyr Ymunodd Peter â'r RAF ac yn ystod gyrfa a barhaodd nes iddo ymddeol yn 1961 bu'n awyrlefftenant ac awyr-lywiwr [navigator]. Yn 1946, priododd â Margaret Joan Brennan yn Romford, Essex a chawsant 3 o blant. Dechreuodd sgrifennu nofelau ac yn y cyfnod rhwng 1952 - 61, cyhoeddodd naw gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ymdrin â phroblemau'r oes niwcliar a gallu dyn i ddinistrio'r ddaear. Weithiau sgrifennai dan ei enw ei hun ac weithiau o dan amrywiadau arno, fel Peter Bryant neu Bryan Peters. Erbyn hyn, does dim un o'r teitlau'n adnabyddus ac yn wir,
onibai i'r cyfarwyddwr ffilmiau Americanaidd, Parhad ar dud 6
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Daeth rhyw 28 o bobl ynhyd yng nghapel Blaencwm i fwynhau cinio ar ddydd Nadolig. Paratowyd pryd blasus gan Phil Vickery a chafodd pawb amser da yn mwynhau'r gwmniaeth a'r adloniant. Llongyfarchiadau i Paul a Tara Waite, Stryd Cwm saebren sy'n dathlu genedigaeth eu hŵyr cyntaf. Ganwyd Ollie i Shauna a Richard sy'n byw yn y Gelli. Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwoaeth Mrs Jean Evans, Stryd Dumfries yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr. Cydymdeimlwn yn gywir iaw âi phriod Malcolm a'i merch Allison yn eu profedigaeth. Pob dymuniad da i David a Janet Brownnutt a fydd yn ymweld â'u mab a'i deulu yn Hong Kong yn ystod yr wythnosau nesaf. Siwrnai dda a phob dymuniad am daith bleserus. Siomedig iawn oedd yr adroddiad a gafodd Ysgol Gynradd Penyrenglyn gan ESTYN ddiwedd 2015. Daeth yr arolygwyr i'r casgliad bod angen gwella'r ysgol yn symweddol. Gofynnir i'r ysgol lunio cynllun
gweithredu fydd yn dangos sut mae'r ysgol yn bwriadu rhoi argymhellion yr arolwg mewn grym. Bydd ESTYN yn cadw golwg pellach ar y cynnydd a wnaed ymhen blwyddyn. Mae'n flin 'da ni gofnodi marwolaeth Maureen Husband, Park Place. Roedd yn wraig adnabyddus, uchel ei pharch gan bawb a gwelir ei heisiau'n fawr gan ei ffrindiau a'i chymdogion. Cofiwn am y teulu yn eu hiraeth. Ddydd Calan eleni, aeth 30 o gerddwyr ac ymdrochwyr ar daith gerdded a drefnwyd gan Actif Woods i godi arian at elusennau lleol. Copa Pen-pych oedd eu nod ac ar y ffordd i lawr cafodd 12 o'r grŵp gyfle i ymdrochi yn y pwll dan Sgwd Nant Gwion. Codwyd £180 at Glwb Ieuenctid Capel blaencwm a'r elusen 'Llamau' sy'n helpu'r digartref. Dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r digwyddiad hwn gael ei gynnal ond mae Actif Woods yn trefnu teithiau cerdded cyson bob bore dydd Mawrth a dydd Iau gan ddechrau am 11 o'r gloch o orsaf Treherbert. Croeso i bawb. Cynahliwyd noson garolau yng Ngharmel ar 4 Rhagfyr. Mae’r gyn-
gerdd elusennol wedi bod yn mynd ers sawl blwyddyn nawr. Daeth cynulleidfa dda ynghyd i fwynhau’r noson. Cafwyd eitemau gan Gôr Seydliad y Merched, Treorci, côr plant Ysgol Penyreglyn, Kathleen Evans (Stryd Luton) a Sam (Stryd Windsor) sydd yn canu gydag Only Boys Aloud. Bwriad y noson oedd casglu arian tuag at Ysbyty Velindre - yr elusen roedd Carmel wedi dewis ar gyfer 2015. Bu aelodau a ffrindiau’r capel yn brysur drwy’r flwyddyn yn codi arian trwy gynnal boreau coffi ac ati. Ar y noson cyflwynwyd siec am £450 i Wayne Griffiths, llysgennad Velindre. Roedd y capel eisoes wedi cyfrannu mil o bunnoedd tuag at daith Carolyn Hitt (Western Mail) i Patagonia i godi arian tuag at Velindre. Mae gan Wayne gysylltiadau a’r Rhondda - mae e’n briod a merch Mary a John Evans (Cwmparc a Thon Pentre gynt) Siaradodd e o brofiad personol, am y gwahaniaeth mae pob cyfraniad yn ei wneud i’r elusen gan ei fod wedi colli ei ferch i ganser sawl blwyddyn yn ôl. Bydd Carolyn Hitt yn dod i Garmel yn y dy-
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD
Y Pentre: MELANIE WARREN T on Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
fodol agos i sôn am ei thaith i’r Wladfa a bydd Wayne yn dychwelyd i egluro mwy am waith elusen Velindre.
TREORCI
Nos Iau, 19 Rhagfyr roedd eglwys San Matthew dan ei sang ar gyfer gwasanaeth o garolau a darlleniadau a drefnwyd gan gôr Sefydliad y Merched. Casglwyd dros £200 at gronfa'r eglwys ac wedi'r oedfa cafodd pawb gyfle i gymdeithasu dros dysglaid o de a mins pei. Cynhaliwyd gwasanaeth ar fore'r Nadolig yng nghapel Bethlehem o dan arweiniad Parch Cyril Llewelyn. Y gitarydd jazz ifanc addawol, Remi Harris oedd
parhad ar dudalen 8
5
DR STRANGELOVE A'R AWDUR O DREORCI
Stanley Kubrick brynu'r hawliau ar ei nofel 'Two Hours to Doom' [neu 'Red Alert' - y teitl yn UDA] a seilio ei ffilm 'Dr Strangelove' arni, prin y byddai wedi cael mwy o sylw na'i nofelau eraill. Hanes cadfridog sy'n gwybod ei fod yn marw ac sy'n casau comiwnyddiaeth i eithafion yw sail y nofel ac oherwydd y drefn oedd ohoni mae'n gallu penderfynu, ar ei liwt ei hun, heb ymgynghori 창'r Arlywydd, i ymosod ar Rwsia. Ras i'w rwystro rhag dechrau rhyfel niwcliar yw sylfaen y stori gyda'r naratif yn symud rhwng pencadlys y cadfridog, y Pentagon a'r awyren sy'n cludo'r bom tyngedfenol. Nofel iasoer yw hi, ond yn y ffilm fe'i trowyd yn gomedi ddu gan Kubrick gyda Peter Sellars yn chwarae tair o'r rhannau ei hun, gan gynnwys Dr Stranelove. Cymysg fu'r ymateb i'r ffilm i ddechrau gyda Bosley Crowther, beirniad y New York Times yn ei chondemnio fel, 'the most shattering sick joke I've ever come across.' Ond
gasglodd yn ystod ei yrfa yn yn y Llu Awyr. Wrth gynhyrchu 'Dr Strangelove', cafwyd trafferth gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn am fod y creadigaethau dychmygol yn y ffilm mor realistig, ac am yr un rheswm, roedd swyddog o Adran Amddiffyn UDA wedi anfon copi o 'Red Alert' at bob aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol Taflegrau Balistig y Pentagon! Digon trist oedd Obsesiwn yn lladd? diwedd Peter George, a'i wraig Roedd canlyniadau erchyll rhyfel niwcliar wedi troi yn ob- yn ei ddarganfod yn farw yn sesiwn gan George. Amlygwyd eistedd yn ei ei gadair 창 dryll yn gorwedd rhwng ei goesau hyn yn ei holl waith creadigol, un o ganlyniadau posib effaith ond ni sylweddolwyd cymaint y Rhyfel Oer a ddaeth i'w anroedd hyn oll yn effeithio terth adeg Argyfwng Ciwba yn arno'n bersonol. Yn ei nofel olaf 'Commander-1' [1965] mae 1962, a'r rhyfel niwcliar a ofnai Peter George bron 창 digwydd. e'n disgrifio'r prif gymeriad o Mae llawer rhagor i'w ddweud dan bwysau meddyliol yn saethu ei hun, weithred oedd yn am y nofelydd o Dreorci nad yw cymaint o bobl yr ardal yn ddrych o'r hyn a wnaeth ef ei ymwybodol ohono, ond yn sicr hun wrth gyflawni hunanladyn un sy'n haeddu cael ei gofio. diad yn 1966 yn ei gartref ger Hastings. Roedd Peter George wedi seilio byd dychmygol ei nofelau ar y Llun - Peter Sellers wybodaeth dechnegol, fanwl a erbyn hyn mae'n cael ei chyfrif yn glasur o gomedi a Sefydliau Ffilmiau America yn ei dewis y drydedd ffilm gomedi orau erioed. Cafodd Peter George ei enwebu am Academy Award fel un o gyd-awduron y sgript. Mae hyn yn eironig braidd o gofio nad oedd ef yn cytuno ag ymdriniaeth Kubrick o'i nofel!
BYD BOB
yr arwyr yn lladd dwsinau o elynion heb orfod ail-lenwi eu Edrych nôl at ymweliadau â'r drylliau ac roedd eu ceffylau'n sinema yn ystod ei blentyncarlamu am filltiroedd heb dod y mae Bob y mis hwn ac flino. Rydych chi'n gallu dyy nodi'r newidiadau mawr a chmygu pam doedd gan sêr y welodd yn ystod ei fywyd. sgrîn fawr fel Cary Grant, Glenn Ford neu Jean SimTra oeddwn i'n tyfu lan yn y mons ddim diddordeb mewn pedwardegau a'r pumdegau, ymddangos mewn ffilmiau o'r roeddwn i'n mwynhau mynd fath. pryd y byddai bechyn y stryd i'r sinema gyda fy rhieni o [Blaencwm Terrace] yn mynd Y dyddiau hyn, does dim leiaf unwaith yr wythnos. Y rhaid ichi fynychu sinema ar i'r Palas heb ein rhieni. Fel 'Palace' yn Nhynewydd oedd fore dydd sadwrn os ydych chi ein sinema leol, a phalas edd e arfer, byddai plant hŷn y stryd am weld ffilmiau ar gyfer i fi am ein bod ni'n byw mewn yn mynd gyda ni. Roedd ein rhieni'n bwybod y bydden ni'n plant. Maen nhw'n ymddangos tŷ gyda charpedi coconut a ddiogel gyda Charles Ellis neu ar y teledu neu yn y sinema leino ar y llawr. Wrth gwrs, bob nos. Ond nawr, mae enw roedd carped go iawn gyda ni 'Tubbo' jenkins yn gofalu am- newydd 'da nhw - Blockdanon ni.. A dweud y gwir, yn ystafell ffrynt y tŷ, ond bustera, sef anturiaethau anhyroedd Charles a 'Tubbo', fel roedden ni'n defnyddio'r penaethiaid y giang, yn eithaf goel a phlentynnaidd sy'n ystafell honno ond unwaith y llenwi seddau'r sinema ac yn tebygol o'n harwain i mewn i flwyddyn, dros y Nadolig, ac gwneud ffortiwn i'r cwmniau anturiaethau amheus ar y weithiau os oedd ymwelwyr ffilmiau. Yn yr hen ddyddiau, ffordd adref o'r sinema, ond, pwysig gyda ni. byddai actorion o ddifrif yn Ond roedd gan sinema'r Palas wrth gwrs, doedd ein rhieni ddim yn gwybod dim byd am cadw bant o'r fath sothach ond len goch, drwchus a seddau nawr maen nhw'n rhuthro i cyfforddus a doedd dim rhaid hynny. A dweud y gwir, roedd ffilmi- gymryd rhan. Fel ein gwleidyi chi gadw'n agos at dân ddion a llawer o bobl amlwg y agored yn y grat er mwyn cael au'r bore'n hollol wahanol i wlad, mae ein hactorion ni'n ffilmiaur nos. Doedd dim acgwres fel yn y tŷ, gan fod y hapus iawn i ostwng eu sasinema'n llawn rheiddiaduron torion da ynddyn nhw ac fonau er mwyn llenwi eu roedd y plotiau'n syml iawn. poeth. Roedd popeth yn digwydd yn waledi! Roedd bore dydd Sadwrn yn gyflym ac yn swnllyd. Roedd arbennig i ni'r plant. Dyna
GYRRWR BWS POBLOGAIDD YN YMDDEOL
fach Goch. roedd ei fam yn arfer poeni amdano fe. Felly er mwyn cadw llygad Mae Terry Jones wedi arno rhag ofn i ryw ymddeol ar ôl 46 ddynion oedd wedi blynedd yn gweithio ar meddwi achosi trafy bysiau. Dechreuodd ferth ar y bws olaf, Terry weithio i roedd Mrs Jones yn dal “Rhondda Transport” y bws yn Garden City yn 1969 fel tocynnwr. ac yn teithio o gwmpas Roedd e’n dod o’r Gilfach Goch gyda fe. Gilfach Goch yn Ei hoff deithiau oedd y wreiddiol, ond mae e'n rhai oedd yn rhedeg yn 'byw yn Nhrealaw y Rhondda. Yn y llun erbyn hyn. gwelir Terry yn cael Un stori ddiddorol am- hoe fach ym dano fe cyn iddo fe Mlaencwm cyn gyrru briodi ac yntau'n gwei- yn ôl i thio ar y sifft prynhawn Bontypridd. ar y gwasanaeth i GilBrian Davies
7
yr artist gwadd yng nghyfarfod mis Ionawr o'r Clwb Jazz nos Fawrth, 19 Ionawr yng Nghlwb Rygbi Treorci. Mae'n dda clywed bod Miss Betty Rees, Stryd Regent wedi dod adre ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty. Pob dymuniad da iddi am wellhad buan. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Allan Jones, Stryd Regent. Allan oedd perchennog siop Touchwood ar y stryd fawr lle roedd yn adfer hen gelfi. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i bartner, Ria a'i ferched, Carly ac Emma yn eu profedigaeth. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i'r dyfodol oddi wrth ei ffrindiau i Mrs Sheila Phelps, Clos Glyncoli a oedd yn dathlu pen-blwydd pwysig iawn yn ddiweddar. Roedd yn ddrwg gennym glywed bod Mr Stan Jones, Stryd Regent
8
wedi cwympo yn ei gartref yn ddiweddar ac o ganlyniad yn gorfod mynd i'r ysbyty. Pob dymuniad da i Stan am wellhad llwyr a buan. Un arall a dreuliodd gyfnod yn yr ysbyty'n ddiweddar yw Mr David Bowen, Stryd Tynybedw. Da yw deall ei fod yn ôl gartre' erbyn hyn a gobeithiwn ei fod yn teimlo'n well o lawer erbyn hyn. Cyfnod hapus iawn oedd y Nadolig i Mrs Betty Luscombe, Stryd Rees gan fod ei merch Ann a'i theulu wedi dod adref o Ganeda dros yr Ŵyl. Da oedd ei gweld hi a llawer o blant yr ardal sydd ar wasgar erbyn hyn yn ôl yn Nhreorci dros y Nadolig. Roedd yn flin gan bawb glywed am farwolaeth Mr Ken Waldin, Stryd Clark. Roedd Ken, a hanai o ardal Maesteg yn blismon yn yr ardal am flynyddoedd cyn ymd-
deol, wedi bod yn dioddef afiechyd ers amser. Cydymdeimlwn â'i blant, Donna a Ralph a'r teulu oll yn eu colled.
CWMPARC
Penblwydd hapus i Mrs Elizabeth Bowen, Parc Cresent, ar gyfer 24 Chwefror. Bydd "Liz" yn 92 oed. Dymuniadau gorau oddi wrth eich cymdogion a'ch ffrindiau yn Eglwys San Sior.
Llongyfarchiadau i Leanne Fear a Craig Grant, ar enedigaeth eu hefeilliaid Tilly Grace a Tegan Jane, chwiorydd i Tristan a Toby. Cafodd y merched bach eu geni ar 15 Rhagfyr. Mae rhieni plant Ysgol y Parc yn ddiolchgar am welliannau i'r ysgol, sef lloches rhag y glaw, tu
fa's i'r adeiliad. Mae plant yr adran fabanod yn gorffen yr ysgol am 3:00, ond dyw'r plant yr adran iau ddim yn gorffen tan 3:10. Mae'n rhaid i'r rhieni a'r plant ifancach aros yn y glaw weithiau. (Mwy na weithiau yn ddiweddar!) Nawr, maen nhw'n gallu aros yn sych o dan y lloches.
Llongyfarchiadau i'r chwiorydd Daisy Bowen (11) ac Elizabeth Bowen (3) o Heol Conway, am eu llwyddiant yn eu harholiadau dawns. Derbyniodd Elizabeth ei rhosglwm cyntaf, ac mae Daisy, a wedi derbyn yr holl rosglymau ac wedi cyflawni Lefel Arian. Mae'r merched yn mynychu dosbarth gydag ysgol ddawns RSD yn y Sportsyard, Ynyswen. Diolch i Jenny, Victoria
a Georgia, yr athrawon.
PENTRE
Nos Sadwrn, 23 Ionawr bydd Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn cynnal noson 'Nôl i'r Chwedegau' yn Neuadd y Legion. Pris y tocynnau fydd £5 a'r elw'n mynd at y Gymdeithas. Yn barod, cynhaliwyd nosweithiau llwyddiannus yn edrych yn ôl ar y 70au a'r 80au. Croeso i bawb. Pob dymuniad da i Matthew Rhys Jones, Pleasant St wrth lddo sefydlu busnes fel plwmwr
yn yr ardal. Enw'r cwmni yw Glyndŵr Plumbing [www.glyndwrplumbing.co.uk] a gallwch gysylltu â Matthew ar 07961 259903. Mae croeso ichi alw heibio i Lys Nazareth, Stryd Llewellyn rhwng 1o - 12am ar fore dydd Mawrth am dost a dysglaid o de. Bydd cyfle i gymdeithasu a chael sgwrs.
TON PENTRE A’R GELLI
Agorwyd Swyddfa Bost newydd yr ardal ar 4 Ionawr. Mae'r swyddfa
YSGOL Y PARC
YSGOLION
CYNORTHWYO TEULUOEDD YN YSGOL Y PARC
Crewyd rol newydd yn Ysgol y Parc, Cwmparc, er mwyn cryfhau cysylltiadau rhwng teuluoedd a’r ysgol. Mae Christian George yn Swyddog Cyswllt Teulu yr ysgol, ac mae e’n gweithio gyda phlant yr ysgol a rhieni i gyfeirio at unrhyw problemau sydd gyda nhw. Mae’r ysgol wedi creu ystafell newydd groesawgar, gyda soffeydd a thegell. Does dim enw gan yr ystafell hon eto, ond mae Mr. George yn ymddibynnu ar gymorth y disgyblion i’w enwi. Trwy’r rol ‘ma newydd, mae’r ysgol hefyd yn cynnig dosbarthiadu addysg i oedolion a gwasanaeth
newydd a fydd yn gwasanaethu Ton Pentre a'r Gelli wedi ei lleoli yn Siop / Gaffi Matthews yn Y Gelli. Bydd y gwasanaeth a ddarperir yn union yr un fath ag a fu yn Nhon Pentre. Pob dymuniad da i Miss Dorothy Bennett, Stryd Dewi sant, sydd wedi ymgartrefu dros dro yn Nhŷ'r Porth. Gobeithio ei bod yn teimlo'n well erbyn hyn. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth un o breswylwyr Tŷ Ddewi, Mr Harry England. Hanai Harry o Sir Fynwy ond roedd e wedi ymgartrefu yn Nhŷ Ddewi ers tro ac wedi
gwneud llawer o ffrindiau yno. Cydymdeimlwn â'i fab a gweddill y teulu. Bydd cyfarfod cyntaf y flwyddyn o'r Clwb Cameo'n digwydd ar 27 Ionawr. Y siaradwr gwadd fydd Mrs Christine Tucket ac estynnir gwahoddiad cynnes iawn i bawb, yn hen ac ifanc, i ymuno â'r clwb. Mae croeso i bawb hefyd alw heibio i neuadd capel Hope, Y Gelli bob prynhawn Mercher gan ddechrau 12 Ionawr ar gyfer clonc a dysglaid o de. Cynhelir y cyfarfodydd rhwng 2 3.30pm.
galw heibio i blant a rieni. Yn ol Mr. George, mae’r gwaith hyn wedi bod yn llwyddianus mewn ysgolion eraill clwster y Rhondda Uchaf, ac mae’r gwaith yn cryfhau cysylltiadau rhyngddyn nhw fel ysgolion, a gyda’r gymuned ehangach. “Hyd at hyn, rydyn ni wedi derbyn adborth cadarnhaol gan y plant a’r rhieni o ran ein ymdrechion. Er enghraifft, mae’n Gweithdai Caffi wedi bod yn boblogaidd iawn. Mae’r gweithdai yn cael ei rhedeg yn neuadd yr ysgol yn wythnosol, a dros baned, gall rhieni yn dysgu beth mae eu plant yn dysgu yn y dosbarth, a sut i’w cefnogi. Yn ail haner y sesiwn, mae’r plant yn ymuno a’r rhieni, neu famgu a thadcu, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n defnyddio eu sgiliau. Mae’n bwysig i ni wneud amser i deuluoedd a’i plant, ac mae’r gweithdai’n ffordd ardderchog o gyflawni hyn, a dysgu gyda’n gilydd yr un pryd.” Yn y dyfodol, mae’r ysgol eisiau creu Cymdeithas Rhieni ac Athrawon newydd, ac ychwanegi darpariaeth y Gweithy Caffi hyd at Blwyddyn 6. Nerys Bowen
Christian George - Swyddog Cyswllt Teulu
9
DIWRNOD PONTIO I’W COFIO
Ym mis Medi, fel gwobr am eu gwaith caled yn ystod eu gwersi Cymraeg, gwahoddwyd 131 o ddisgyblion Blwyddyn 6 yr ardal a thu hwnt i Ysgol Gyfun Treorci am y diwrnod i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gyda’r Adran Gymraeg. Rhoddodd y
GLEISION YN ERBYN CONNACHT
10
YG TREORCI
YG CWMPARC/YGG YNYSWEN/ BRONLLWYN/BODRINGALLT/ YG TREORCI/ YGG CYMER RHONDDA
Ar y 4ydd o fis Rhagfyr, cafodd disgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Treorci gyfle i weld gêm rygbi ym Marc yr Arfau yng Nghaerdydd, y Gleision yn erbyn Connacht. Cyrhaeddodd y disgyblion yn llawn egni a chyffro ac roeddent yn frwdfrydig i weld gêm fyrlymus ar y cae. Braf oedd cael gweld y bechgyn yn chwarae mewn crysiau gleision, yn ogystal â ffefrynnau’r disgyblion fel Alex Cuthburt a Lloyd Williams. Cafodd y disgyblion brofiad arbennig a llawer o hwyl
diwrnod yma gyfle i’r disgyglion wneud ffrindiau newydd yn ogystal â chyfle i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i ffurfioldeb y dosbarth. Ar hyn o bryd mae dwy athrawes yn ymweld â’r ysgolion lleol ac yn dysgu’r iaith i flwyddyn pump a chwech. Mwynheuodd y disgyblion chwaraeon gyda Mrs Roberts, drama gyda Miss Griffiths, coginio gyda Miss Howell, dawnsio gwerin gyda Mrs. Von Bodegom a chwis gyda Mrs Hargreaves. Profodd y bwyd o’r ffreutur ym mloc un yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion hefyd! Gweithiodd myfyrwyr y chweched yn galed yn helpu’r staff a’r disgyblion i fwynhau’r diwrnod. Roedd Blwyddyn 6 yn glod i’w hysgolion ac iddyn nhw eu hunain ac edrychwn ymlaen at groesawu mwy o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn y dyfodol agos. Bethan Williams
yng nghwmni’r staff yn y stadiwm yn canu caneuon rygbi gyda'r cefnogwyr eraill. Roedd y gêm yn agos iawn, ond yn y diwedd cipiodd y Gleision y pwyntiau, a'r sgôr oedd Gleision 20 – 16 i Connacht. Mwynheuodd pawb y noson yn fawr iawn, a chafodd pawb fwy o hwyl a sbri wrth redeg ar y cae er mwyn chwarae gêm rygbi eu hunain i orffen noson wych!
GLAN LLYN
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
YSGOLION
Mae Ysgol Gynradd Cwmparc Ysgol Gyfun Treorci ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda gyda ni y mis yma
YG TREORCI
YSGOLION
Cafodd disgyblion sy’n astudio Cymraeg Ail Iaith Uwch Gyfrannol gyfle i fynychu cwrs prysur, tri diwrnod yng Nglan Llyn yng Ngogledd Cymru. Pwrpas y cwrs oedd i ddod ynghyd i gael gwledd o drafodaethau ar y mesydd a’r materion sy’n berthnasol i’w cyrsiau Cymraeg. Cafwyd cyfle i ddysgu mwy, i gymdeithasu, i fwynhau ac i siarad Cymraeg bob dydd. Yn ystod y cwrs cawsant y cyfle i ymweld â mannau sy’n gysylltiedig â’r cwrs Uwch Gyfrannol ac aethant i’r Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn. Yna cawsant y cyfle i glywed am ei fywyd a’i deulu gan ei nai, Gerald. Daeth y profiad yma â’r stori yn fyw iddynt, a phwysleisio’r ffaith mai stori wir ydyw profiad amhrisiadwy gan fod rhaid iddynt drafod y ffilm fel rhan o’u harholiad llafar. Roedd y cwrs yn llawn o weithdai, gweithgareddau, darlithoedd a siarad, cafwyd darlith ar ffilmiau gan Elain Price o Brifysgol Abertawe, gweithdy ysgrifennu Llên Meicro gan Heledd Jones, sgwrs fideo linc gyda’r awdur Ioan Kidd a chreu cartŵnau idiomau gyda Huw Aaron. Gwelwyd gig Cymraeg gwefreiddiol gyda’r beat bocsiwr adnabyddus, Ed Holden, sydd yn cael ei adnabod fel Mr Phormula yn fyd eang a'r band llwyddiannus Mellt sydd wedi perfformio sawl gwaith ym Maes B. Cafwyd cyfle i ymweld â stiwdio C2 BBC radio Cymru a recordio ambell i gyfweliad. Gwelwyd sioe gan Theatr Arad Goch ‘Sxto’ a ysgrifennwyd gan awdures enwog i Gymru, Bethan Gwanas. Mae’n sicr bod yr holl ddisgyblion wedi mwynhau eu hamser yng Nglan Llyn, a bod y cwrs wedi llwyddo i danio brwdfrydedd y disgyblion i ddefnyddio’r iaith ar bob cyfle.
11
DIWEDD CYFNOD I GRIW MISS ROWLANDS
Cawsom gyfle ar fore Iau, 17eg o Ragfyr i ddiolch i ddisgyblion grwp targed Miss Hannah Rowlands am eu gwaith a'u hymdrechion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dechreuodd Miss Rowlands weithio gyda'r disgyblion a'u teuluoedd pan oeddynt ym Mlwyddyn 6 ac ma'r cynllun, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau disgyblion, wedi para blwyddyn. Cynhaliwyd seremoni i gydnabod cynnydd y disgyblion ac i ddiolch iddynt hwy a'u teuluoedd am eu cefnogaeth. Diolch hefyd i Miss Rowlands am ei gwaith yn cyd-lynu'r prosiect eleni.
Bydd Miss Rowlands yn ail-ymuno â disgyblion Blwyddyn 6 y cynradd ym mis Ionawr.
CROESO NOL I’N CYN-DDISGYBLION
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
Roeddem yn falch iawn o groesawu rhai o’n cyn-ddisgyblion yn ôl i’r ysgol ar gyfer seremeni wobrwyo i gydnabod eu llwyddiannau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol a’u llwyddiannau ehangach tra’n ddisgyblion yma ar ddydd Iau 17eg o Ragfyr. Braf oedd clywed eu hanes a’u profiadau ym myd addysg uwch neu’n eu gyrfa dewisol. Llongyfarchiadau i chi gyd!
YG CYMER RHONDDA