Ygloran hydref15

Page 1

y gloran

20c

SOLDERHAM AC OVERWOOD Pan ymddeolodd Michael Harris, Treorci, o fod yn athro yn Ysgol Gynradd Ton Pentre yn 2009, penderfynodd fod rhaid iddo ddod o hyd i rywbeth i'w wneud yn ystod y gaeaf a dyna pryd y trawodd e ar y syniad o greu rheilffordd fodel. Ar ôl chwe blynedd o waith caled mae'r prosiect wedi ei orffen a gorsafoedd Solderham ac Overwood bellach yn barod i'w cludo'n rhannau i rai o sioeau rheilffyrdd model blaenaf y wlad. I gyflawni'r gwaith bu rhaid i Mike feistroli nifer o sgiliau gan gynnwys gwaith coed a thrydan, yn ogystal â dysgu sut i gynllunio ffugdirlun sy'n gredadwy ac yn chwaethus. Erbyn hyn gellir defnyddio'r trac i redeg trenau trydan a stêm

yn erbyn cefndir diwydiannol sy'n cynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys iard adeiladydd, caffi awyr agored a meysydd parcio. Yn wir ar y safle mae 35 adeilad, dros 200 o gerbydau o bob math a mwy na 400 o ffigyrau. Mae'r amrywiaeth a'r manylder yn syfrdanol. Ceir biniau sbwriel gorlawn â darnau o bapur ar y llawr, hysbysebion cyfarwydd, platfform yn llawn pobol, cerddor pen stryd, coed o wahanol fathau - popeth yn wir a welech o gwmpas gorsaf brysur go iawn. Mae hyd yn oed ymddangosiad pob car a fan wedi cael ei addasu'n unigol i ddwyn enwau cwmniau cyfarwydd.

Parhad ar dudalen 3


golygyddol l Cyn bo hir, bydd llawer o rieni plant sydd ar hyn o bryd yn cael eu cludo i'r ysgol yn rhad ac am ddim yn gorfod talu os caiff argymhellion Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf eu derbyn. Bydd y penderfyniad yn effeithio'n arbennig ar ddisgyblion ysgol cynradd sy'n byw rhwng 1.5 - 2 filltir o'r ysgol a disgyblion ysgolion uwchradd sy'n byw rhwng 2-3 milltir i ffwrdd. Bydd y Cyngor yn dal i ddarparu cludiant i'r

2

rhain ond disgwylir tâl dyddiol o £1.50 a 50c i ddisgyblion sy'n derbyn cinio am ddim. Golyga hyn y bydd rhaid i rieni dalu £7.50 yr wythnos, neu £285 y flwyddyn, am bob plentyn sy'n defnyddio'r bws ysgol oni bai eu bod yn byw dros 2 filltir (cynradd) a 3 milltir (uwchradd) o'r ysgol. Y gofid pennaf yw'r effaith a gaiff y polisi newydd ar ysgolion Cymraeg ac ysgolion ffydd gan fod dalgylchoedd yr ysgo-

y gloran

hydref 2015

YN Y RHIFYN HWN lion hynny gymaint yn fwy na rhai'r ysgolion lleol arferol. Yn y pen draw, gall y polisi newydd fod yn fygythiad i ddyfodol rhai o'r ysgolion hynny a chyfyngu mynediad iddynt i blant o deuluoedd cefnog, datblygiad na fyddai unrhyw un call yn ei groesawu. Yn y sector cynradd mae 357 o blant yn cael eu cludo, ond o'r rhain, 2 yn unig sy' cael eu cludo i ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae'r gweddill yn mynychu

Solderham ac Overwood...1-3 Golygyddol...-2-3 WI yn 100 ... 4-6 Newyddion Lleol...5-10 WI...-6 Byd Bob/GymGym...-7 Newyddion...10-11 Ysgolion..11-.12

ysgolion ac unedau Cymraeg [does dim ystadegau ar gael ar gyfer yr ysgolion ffydd] ac mae hyn yn dangos yn glir bod arbedion y Cyngor ar draul rhieni disgyblion yr ysgolion hyn.

drosodd


golygyddol parhad

Bob wythnos, tra bydd rhaid i rieni sy'n dewis addysg Saesneg i’w plant dalu cyfanswm o £15 drwy'r sir, disgwylir i rieni'r ysgolion Cymraeg dalu £2,512. Prin y gellir dadlau bod hyn yn deg. Gan taw sôn am yr ysgolion cynradd yn unig yr ydym yma, hawdd gweld yr effaith ddrwg a gaiff hyn ar dwf y 4 ysgol uwchradd y sir yn y pen draw. Gobaith rhieni yw y bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn ymyrryd gan fod y penderfyniad hwn yn ymddangos yn groes i ddeddfau sy'n mynnu ymdrin â'r ddwy iaith yn gyfartal ac yn mynnu

Apêl at y glust a'r llygad gwarchod hawl rhieni i ddewis addysg Gymraeg i'w plant. Gofid ychwanegol yw y bydd pawb sy'n dilyn cyrsiau ôl-16 oed yn gorfod talu am gludiant. Gan taw bwriad y Cyngor ar gyfer y Rhondda yw canoli addysg dosbarth 6 yn Nhreorci, bydd rhaid i'r mwyafrif llethol o ddisgyblion sy'n dilyn cyrsiau Safon A dalu. Bydd hyn eto yn effeithio fwyaf ar y tlotaf trwy eu hamddifadu o'u harf cryfaf i wella eu sefyllfa - sef addysg. Golygydd

Yn ogystal â gweld. gyda'r rheilffordd hon rydych chi hefyd yn clywed cyhoeddiadau ar uchel seinydd, sŵn y trenau'n mynd a dod, cerddoriaeth o hyrdigyrdi a'r holl synau sy'n gysylltiedig â gorsafoedd ac mae Michael yn gallu rheoli'r cyfan o'i gaban canolog. Mae pob lamp, hysbyseb ac arwydd wedi eu goleuo. Yn wir, rhwng popeth, mae dros 300 o fylbiau yn cael eu defnyddio ac mae effaith hyn, yn enwedig ar ôl iddi 'nosi', yn effeithiol dros ben. Wrth gwrs, mae hyn oll wedi costio ond cafodd Michael ei fod yn gallu lleihau ei gostau'n sylweddol trwy brynu dros y we yn Asia. O ganlyniad, mae llawer o'r offer wedi ei brynu o Tsieina a Hong Kong. Erbyn hyn mae'r cyfan yn barod ac wedi ei adeiladu'n ddarnau y gellir eu datgysylltu'n hawdd i'w cludo'n hawdd. Ond mae un broblem fach ar ôl i'w datrys, sef dyfeisio ôl-gerbyd addas i'r gwaith. A dyna fydd tasg Michael y gaeaf nesaf, adeiladu trelar ond mae'r crefftwr dyfeisgar hwn yn edrych ymlaen at yr her. Ond pam enwi'r gorsafoedd yn Solderham a Overwood, gofynnais iddo cyn ymadael. Atebodd taw damwain oedd hynny. Wrth iddo ddechrau ar y gwaith, gofynnodd ei ddiweddar gefnder, Norman Harris, iddo sut y byddai'n sicrhau na fyddai'r traciau, y ffigurau a'r cerbydau'n symud wrth eu cludo. "I'll solder 'em" oedd ateb Michael a gan fod y cyfan yn sownd wrth sylfaen pren, dyna esbonio 'Overwood' yn ogystal! 3


Parhad ar dudalen 7 4

Y WI YN DATHLU

I nodi canmlwyddiant sefydlu Mudiad y Merched [WI] yn Sir Fôn yn 1915, cynhaliwyd cyngerdd arbennig gan Gangen Treorci ar 23 Medi yn Neuadd y Dderwen. Cymerwyd rhan gan y côr, y band cegin, yr adran Berfformio Creadigol ynghyd â nifer o unigolion. Cafodd y côr hwyl wrth ganu amrywiaeth o eitemau o'r sioeau cerdd o dan arweiniad Mary Price tra bod Band y Gegin wedi cyflwyno darnau amrywiol o gerddoriaeth o dan gyfarwyddid Anita Bound. Roedd yr aelodau yn edrych yn drawiadol iawn wedi eu gwisgo fel band gorymdeithio Americanaidd. Un o ganeuon y grŵp, Abba, 'We are Siamese', oedd cyfraniad agoriadol yr adran Berfformio Creadigol sydd o dan ofal Pauline Worman. Ond nid eitemau cerddorol yn unig a gafwyd gan fod Anna Brown, Kathleen Evans, Beth Roberts a Judith James, ill tair, wedi cyflwyno darnau o farddoniaeth amrywiol. Cafodd pawb oedd yn bresennol fodd i fyw a chytunwyd bod safon y perfformiadau wedi bod yn deilwng o'r achlysur nodedig hwn. Mae'r gangen hon o'r WI yn un weithgar a bywiog a rhaid canmol yr holl aelodau ar eu cyfraniad sylweddol i fywyd diwylliannol a chymdeithasol yr ardal.

Y WI YN DATHLU


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda wedi dathlu ei phen-blwydd cyntaf . Daeth nifer fawr i ddathlu'r achlysur yn y White Dragon yn Nhreorci . Cafwyd areithiau yn llongyfarch y gymdeithas gan Leighton Andrews AC, Leanne Wood AC, a'r cynghorwyr lleol Cennard Davies a Geraint Davies. Mae'r gymdeithas wedi cael blwydddyn lwyddianus iawn a mae cais wedi cael ei gyflwyno i gronfa Treftadaeth y Loteri am £7.5 miliwn i ariannu'r cynllun. Hefyd mae'r gymdeithas wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru am astudiaeth dichonoldeb (feasability) Ar ddechrau mis Hydref daeth llawer ynghyd am 'Noson o'r 70au' yn y Pentre Legion. Roedd cwis raffl,gemau a disgo i godi arian at y gymdeithas a hefyd at blant â chlefyd y swgwr Ar ddiwedd mis Medi cynhaliwyd swper cynhaeaf yng ngapel Blaenycwm. Roedd un o aelodau'r capel, Gill Ryan, wedi paratoi cinio arbennig ac yn dilyn y wledd dangoswyd hen luniau o Dreherbert.

Roedd pawb wedi cael amser da.

Mae perchnogion siop pysgod a sglodion Sharon yn agor siop fwyd "Premier" yn Stryd Bute Treherbert ar y 9 fed o Hydref. Dymunwn iddynt bob llwyddiant.

Yn drychinebus, bu farw gŵr ifanc, Joseph Jones, mab Paula a Ken Jones o Stryd Stuart. Graddiodd Joseph mewn ffilm a'r cyfryngau yn Llundain cyn symud i fyw i Barcelona. Cydymdeimlwn â'r holl deulu yn ei golled.

Mae "Pub Watch" eisiau codi £10,000 i brynu difibulators ar gyfer Treherbert a Threorci. Mae un yn barod yng nghlwb rygbi Treherbert. Y syniad yw i leoli'r peiriannau mewn caets tu allan i adeiladau fel ysgolion a thafarnau. Pryd bydd angen eu defnyddio bydd rhaid ffonio'r gwasanaeth ambiwlans i gael y cod i'w hagor. Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyforddi i ddefnyddio'r cyfarpar achub bywyd hwn. Yn y misoedd nesa bydd gwahanol dafarnau a chlybiau yn cynnal gweithgareddau er mwyn codi arian i gyrraedd y nod ariannol.

TREORCI

Pob dymuniad da i Mrs Gwladys Gray, Stryd Tynybedw a gwympodd a thorri ei chlun wrth ddod o gyngerdd canmlwyddiant y WI yn Neuadd y Dderwen. Mrs Gray, sy'n 98 oed, yw aelod hynaf y Band Cegin, ond mae hi bob amser yn sionc ac yn hapus. Deallwn ei bod mewn hwyliau da yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a dymunwn iddi adferiad llwyr a buan.

Cafwyd agoriad rhagorol i dymor y Gymdeithas Gymraeg pan ddaeth Heini Gruffudd i sôn am helyntion teulu ei fam adeg y rhyfel yn yr Almaen. Cafodd ei fam, Kate Bosse- Griffiths, loches ym Mhrydain a hithau'n Iddewes oedd yn briod â'r Athro J Gwyn Griffiths a gafodd ei fagu yn y Pentre. Doedd aelodau eraill ei theulu ddim mor ffodus ac adroddwyd ei hanes yn gelfydd gan Heini, hanes oedd yn sail i'w gyfrol, 'Yr Erlid' a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012. Roedd yn dda gweld cynulleidfa luosog yn bresennol. Y beirniad teledu,, Sioned Williams fydd yn annerch y cyfarfod nesaf, nos Iau, 29 Hydref yn festri Hermon am 7.15 o'r gloch. Croeso i bawb.

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD

Y Pentre: MELISSA WARREN Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN

Cynhaliodd pwyllgor Cancr UK gwis llwyddiannus iawn yn nhafarn y Ddraig Wen [Y Con] ddiwedd mis Medi. Y cwisfeistr oedd Noel Henry a chafodd pawb noson wrth eu bodd. Llwyddwyd i godi bron £400 at yr achos teilwng hwn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth hael.

Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Mairona Harcombe, Stryd Dumfries yn dilyn cystudd hir. Cyn ymddeol, roedd Mairona'n brifathrawes Ysgol Fabanod Ton Pentre a bu'n weithgar mewn sawl maes gan gynnwys Pwyllgor Cancr UK Treorci a chapel Bethlehem. Cydymdeimlwn â'i gŵr,

parhad ar dudalen 8

5


BYD BOB

Fe glywais i Symffoni Rhif 6 gan Beethoven, 'Y Fugeilgerdd' am y tro cyntaf ym mis Hydref 1959. Roeddwn i newydd ddechrau cwrs ieithoedd ym Mhrifysgol Llundain ac yn rhannu ystafell gyda bachgen o Portsmouth mewn tŷ yn Balham. Alex oedd enw'r bachgen ac roedd ganddo hen beiriant Danzette a hanner dwsin o recordiau clasurol. Fe ddes i nabod y recordiau yna'n dda, ac yn enwedig y Fugeilgerdd. Roedd ei hail symudiad 'Y Nant' yn fy swyno am fod y miwsig mor felys a thyner. Roeddwn i'n dychmygu fy mod yn ôl ar lan un o nentydd Blaencwm neu Gwmparc lle roeddwn i wedi treulio cymaint o ddyddiau hapus yn ystod fy arddegau. Ar y pryd, roedd y pyllau glo yn dal i weithio ac roedd Afon

6

Rhondda'n frwnt ac yn llawn llwch glo. Ond roedd nentydd bach y mynyddoedd yn lân ac yn glir, ac roeddech chi'n gallu nofio ynddyn nhw ar ddiwrnod poeth pe bai'r dŵr yn ddigon dwfn. Y dyddiau hyn, rwy'n gwrando ar y Fugeilgerdd ar 'Youtube' ar y we. Tra bod y miwsig yn canu, dw i'n gallu dilyn cyfres o luniau ar y sgrîn sydd i fod i'm helpu i ddeall yr awyrgylch a deall ysbrydoliaeth Beethoven. Ond yn anffodus, yn y lluniau 'na mae'r nant fach wedi troi i mewn i afon lydan

gyda rhaeadrau uchel a llynnoedd enfawr. Yn lle bod yn help i fy nychmyg, mae'r lluniau'n rhwystr iddo ac mae rhaid i fi gau fy llygaid achos dydyn nhw ddim yn siwtio'r miwsig o gwbl. Tybed pam ydyn ni'n gwerthfawrogi popeth sydd yn fawreddog ac anarferol a dirmygu popeth sydd yn fach a chyffredin? Mae dŵr nentydd Blaencwm a Blaenrhondda yn dod i ben yn y môr yn ogystal â dŵr afon Nîl a Mississippi; mae coed y Pentre yn gartref i deuluoedd o anifeiliaid ac adar, yn ogystal â choed afon Amazon, a chofiwch fod mwy o greaduriaid byw i'w gweld dan feicrosgop bach na thrwy delesgop radio enfawr! ****************

Y dydd o'r blaen, roeddwn i'n eistedd wrth ochr llyn bach mewn parc natur ger Treharris, yn gwylio hwyaid yn nofio yn y dŵr a boda yn gwneud cylchoedd yn yr awyr las uwch fy mheni. Fe ddaeth gŵr, gwraig a merch fach ar hyd y llwybr y tu ôl i fi. Wrth iddyn nhw gerdded heibio, dywedodd y dyn mewn llais uchel, "How are you today?'. "Fine, thank you," atebais i. Pan droiais i rownd, fe welais i fod y wraig a'r ferch yn edrych arna i fel pe bawn wedi drysu. Yn y cyfamser, fe aeth y dyn ar ei ffordd heb sylwi arna i. Roedd e'n siarad ar ei ffôn boced, a doedd yr hwyaid, y boda, yr awyr las a minnau [ac efallai ei wraig a'i ferch fach hefyd] ddim yn golygu dim iddo fe o gwbl!


Y WI YN DATHLUparhad

7


David, ei mab, Gareth a'i dwy ferch, Julia a Catherine. a'u teuluoedd

8

yn eu profedigaeth.

Cydymdeimlwn hefyd 창

theuluoedd Robert Pearce, Heol Ynyswen a Roydwyn Davies, Stryd

Illtyd. Dioddefodd Robert afiechyd blin yn ddewr. Yn ei ieuenctid,


chwaraeai dros dîm rygbi Treorci Cydymdeimlwn â'i wraig, Milwyn a'i blant Natalie a Matthew. Roedd Roy a oedd wedi ymgartrefu yng nghatref gofal Ystradfechan ers tro yn aelod ffyddlon yn Bethlehem. Cofiwn am ei ferch Marilyn a'i fabyng-nghyfraith, John a'r teulu oll yn eu colled.

Y gymdeithas leol ddiweddaraf i elwa ar gronfa gymunedol cynghorwyr Plaid Cymru Treorci yw Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg a dderbyniodd £500 tuag at eu harddangosfa flynyddol. Gwrthododd y cynghorwyr dderbyn codiad o 5% yn eu cyflog a rhoi'r arian i helpu mudiadau lleol.

Y siaradwr yng nghyfarfod y WI y mis hwn oedd Mr Paul Young, Penygraig a roddodd sgwrs hynod ddiddorol ar David Davies, Llandinam a therfysg Tonypandy yn 1910.

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Mrs Gwladys Mears, Stryd Tynybedw ar ddathlu ei phen-blwydd yn 100 y mis hwn. Mae hi'n dal i fyw yn ei chartref ei hun gyda'i mab, Richard. Pob bendith a chysur iddi i'r dyfodol.

Cafodd Iestyn Jones groeso mawr gan ei famgu a'i dad-cu, Nan a Wyn Jones, Stryd Dumfries pan ddaeth atynt yn ddiweddar am dair wythnos o wyliau o Perth, Awstralia. Bydd iestyn yn dathlu ei ben-blwydd yn 14 oed tra yn Nhreorci. Y tro diwethaf y daeth e

yma oedd 5 mlynedd yn ôl a gwnaeth y gwlis a'r rhesi hir o dai gryn argraff arno. Gobeithio y caiff e amser da yn ystod ei ymweliad a dymunwn iddo siwrnai ddiogel nôl i Awstralia.

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Vivian Lloyd, heol y Fynwent. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i wraig,Beryl a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

CWMPARC

Yn y rhifyn diwethaf, dwedon ni llongyfarchiadau i William Bowen, Stryd Conway, am nofio 1000m. Ers hynny, mae William, 9 oed, wedi ennill ei fathodyn am nofio milltir, sef 1609 metr. Da iawn William, a diolch i'w athrawes, Michelle English. Cyhaliwyd noson cymdeithasol yn neuadd San Sior ar 24ain Medi yng nghwmni'r Esgob David Wilbourne. Mae'r

NEWIDIADAU AR EIN STRYDOEDD

Hen gapel Tabernacl yn Stryd Dumfries (Chwefror 2014)

Tai newydd (Medi 2015) Lluniau gan Nerys Bowen

Esgob David yn dod o

Sir Efrog yn wreiddiol,

9


bapurau ar y stryd fawr am flynyddoedd ac roedd y ddau yn weithgar iawn mewn sawl cylch. Y Sgowtiaid oedd un o ddiddordebau mawr John a gwasanaethodd y mudiad hwnnw yn ffyddlon. Bydd llawer o ieuenctid yr ardal yn teimlo'n ddyledus iddo am roi o'i amser i'w hyfforddi. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'r teulu yn eu profedigaeth.

Yr Esgob David a Denise

ac roedd ganddo fe nifer o storiau adloniadol am ei fywyd, ac am archesgobion ac esgobion eraill. Mwynheuodd pawb ei straeon, yn arbennig stori am un esgob a oedd yn gaplan ar llong morladron! Gan gwerthu ei lyfr "The Helmsley Chronicles" ar y noson, codwyd £100 tuag at garafan Undeb y Mamau, Porthcawl. Mae'r carafan yn darparu gwyliau i unigolion neu deuluoedd, a fasai ddim yn gallu cael gwyliau heb y cynnig hyn. Mae Brandon Thomas, Ysgol y Parc, wedi cael ei dewis i chwarae pel droed dros y Rhondda dan 11 oed. Mae Brandon yn un o 31 disgybl yn y tim. Cafodd 97 ysgol iau wahoddiad i enwebu eu chwaraewyr 10

TON PENTRE gorau. Llongyfarchiau Brandon a phob lwc i ti a'r tim!

Y PENTRE

Nos Wener, 2 Hydref, cynhaliodd Cymdeithas Twnnel y Rhondda noson o adloniant yn Neuadd y Lleng Brydeinig. Cafwyd cwis a disgo gyda llawer o'r aelodau'n dod mewn gwisg ffansi. Roedd yr holl elw yn mynd at gronfa'r gymdeithas sydd â'i bryd ar ailagor y twnnel sy'n cysylltu cymoedd Afan a'r Rhondda.

Roedd Melissa Warren yn arddangos ei chynnyrch ddechrau mis Hydref yn 'Craft in the Bay', Caerdydd yn rhan o Wythnos Dathlu Gwlan. Os oes gennych chi

ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau gweu a gwnio neu unrhyw grefft berthnasol, mae croeso ichi ymuno â'r Clwb Crefftau sy'n cwrdd yng ngweithdy Melissa yn Stryd Llewellyn bob bore dydd Mercher. Y tâl yw £6 y sesiwn.

Mae hi bob amser yn dda gweld busnesau newydd yn ymsefydlu yn y Pentre a fu gynt yn gymaint o ganolfan siopa yn y Rhondda. Croeso felly i fusnes torri gwallt 'Four Boys' a dymunwn bob llwyddiant yn ogystal i fwyty Curly's Diner. Yn sydyn iawn, bu farw Mr John Slader, Stryd Llewellyn, gŵr cymwynasgar oedd yn adnabyddus iawn yn yr ardal. Bu ef a'i ddiweddar wrag yn cadw siop

Pob dymuniad da i Miss Dorothy Bennett, Stryd Dewi Sant a aeth i mewn i'r ysbyty am driniaeth ddechrau'r mis ar ôl bod yn gaeth i'w chartref am beth amser.

Llongyfarchiadau i Meinir Harris, Gelli Fron ar ei phriodas yn ddiweddar â Mr Graham Gooch. Mae Meinir sy'n ferch i Janice a'r diweddar Norman Harris ar staff y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Cafwyd gwledd o ganu a dawnsio yn Theatr y Ffenics yn ddiweddar pan gafwyd perfformiad nodedig o'r sioe gerdd, 'Barnham' gan gwmni ifanc Act 1. Mae'r bobl ifainc dawnus hyn yn cael eu hyfforddi gan Mr peter Radmore a Mr Rhys Williams. Dyma'r bymthegfed sioe i'r cwmni ei chyflwyno ers ei sefydlu yn 2008.


Mrs Clark sgwrs ddiddorol ar waith amrywiol y mudiad sy'n cynnwys cynnal cleifion wedi iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn lleol a chyflenwi cadeiriau olwynion pan fydd galw. mae hyn ar ben y gwaith dyngarol ar raddfa fydeang y clywn ni amdano yn y cyfryngau. Diolchwyd i'r siaradwraig ar ran yr aelodau gan Mrs Thelma Hughes.

Yn ddiweddar, cafodd aelodau Capel Hope y pleser o groesawu grŵp o bobl o Frasil i'w Llongyfarchiadau i Graham a Meinir hoedfa a chael modd i Llongyfarchiadau iddynt a llawer fyw yn gwrando arnynt yn canu a o ddiolch i'r hyfforddwyr sy'n rhoi chyfle i gymdeithasu â nhw o'u hamser i feithrin y doniau wedyn. Diolch i'r gweinidog am ifainc hyn. drefnu popeth. Y siaradwr yng nghyfarfod misol y Clwb Cameo oedd Mrs Sam Clark o'r Groes Goch. Rhoddodd

Rhyddhad i drigolion Ton a Gelli oedd cael ar ddeall bod eu Swyddfa Bost sydd i fod i gau ym

mis Tachwedd yn mynd i symud i ran o Gaffi Morgan yn Heol y Gelli gerllaw. Er y gwelir eisiau'r hen adeilad, mae'n dda bod y gwasanaeth pwysig hwn i barhau.

Siom i bawb yn yr ardal oedd gweld ein llyfrgell leol yn cau, ond erbyn hyn fe'i haddaswyd yn ddwy fflat sy'n dwyn yr enwau addas 'Tŷ Llyfr' a'r 'Hen Lyfrgell'! Dyna un ffordd o ddiogelu rhan o hanes yr ardal.

Tristwch i bawb yn Nhŷ Ddewi yw cofnodi marwolaeth Mrs Betty Evans a fu'n preswylio yno ers i'r lle agor. Ar yr adeg drist hon yn eu hanes, cofiwn yn garedig am y teulu, yn enwedig ei merch, Susan. Ar y llaw arall, roedd yn dda gan bawb yn Nhŷ Ddewi weld Adrian Jones, un sy'n uchel iawn ei barch yno, yn dychwelyd i'w plith ar ôl treulio cyfnod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mawr obeithiwn y bydd ei iechyd wedi ei adfer yn llwyr yn fuan.

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA KEIRA A MEGAN YN CYNRYCHIOLI CYMRU

Llongyfarchiadau mawr i Keira Davies a Megan Waite o Flwyddyn 8 ar gynrychioli Cymru yn ystod Pencampwriaeth a gynhaliwyd yn yr Iseldiroedd ym mis Awst – arbennig iawn!

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com

11


SGILIAU ASTUDIO Croesawyd cwmni Learning Performance yn ôl atom am y deuddegfed gwaith yn ddiweddar. Gweithiodd y cwmni gyda disgyblion Bl 7 ac 11 er mwyn datblygu sgiliau dysgu ac adolygu ein disgyblion. Cynhaliwyd sesiwn lwyddiannus i rieni gyda’r hwyr yn ogystal. BANGLA CYMRU A’R

CYMER Cafodd disgyblion Blwyddyn 7 gyfle i gwrdd â chyfeillion ein hysgol mewn gwasanaeth arbennig yn ddiweddar. Mae Dr Jishu a Mr Wil Morus Jones wedi ymweld â’r ysgol sawl gwaith am ein bod yn cefnogi elusen bwysig iawn a sefydlwyd gan Mr Jones, ‘Bangla Cymru’ – elusen sy’n darparu triniaethau meddygol i bobl ym Mangladesh. Roeddem yn falch iawn o groesawu’r ddau yn ôl atom.

Roedd Blwyddyn 12 a 13 yn ffodus iawn i glywed cyflwyniad arbennig gan Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru ar fore Llun 21.9.15. Diolch yn fawr iddi am ymweld! Diolch i'r myfyrwyr hefyd am eu cwestiynau aeddfed a'u gwrandawiad astud

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.