y gloran
CREADURIAID Y NOS Y mis hwn, mae Islwyn Jones yn sôn am rai o'r anifeiliaid y daw ar eu traws wrth bysgota gyda'r nos Y noson honno yn pysgota yng Nghwm Alltcafan, y soniais i amdani y tro diwethaf, oedd yr unig brofiad o’r goruwchnaturiol a gefais erioed, ond cafwyd digon o brofiadau o fywyd gwyllt tros y blynyddoedd.
20c
Mae ystlumod(bats) yn gallu bod yn broblem wrth iddi nosi, wrth iddyn nhw hedfan yn agos atoch,heb eich taro, oherwydd eu radar anghygoel. Yr hyn sy wedi digwydd ar sawl achlysur yw bod ystlum yn gafael yn y bluen wrth iddi lanio ar y dwr wrth iddynt ei chamsynied am bryfyn go iawn. Mae’r lein wedyn yn parhad ar dud 3
golygyddol l Weithiau mae rhywbeth yn digwydd yn y gymdeithas sy'n tynnu ein sylw at broblem mewn ffordd ddramatig iawn ac yn peri inni sylweddoli nad ydym wedi talu digon o sylw iddi na chodi hanner digon o sŵn yn ei chylch. Yn ystod gwasanaeth Nadolig yn yr ardal eleni, trawyd gwraig yn wael a bu'n rhaid gwneud galwad frys am ambiwlans. Gwnaed hynny am 7.15pm, ond erbyn 8 o'r gloch doedd dim sôn am un yn cyrraedd. Erbyn hynny, roedd pryder mawr yn-
ghylch cyflwr y wraig a sylweddolwyd bod rhaid cael help o rywle. Cofiodd rhywun fod meddyg ifanc sy'n aelod o staff un o'n hysbytai yn byw yn y cyffiniau ac efallai y byddai hi ar gael. Yn ffodus. roedd hi gartref a daeth hi ar unwaith i ofalu am y claf. Roedd hi'n 9.15 p.m. pan gyrhaeddodd yr ambiwlans o'r diwedd - ryw ddwy awr ar ôl yr alwad wreiddiol. Yn ôl y targed swyddogol y Llywodraeth yng Nghaerdydd, fe ddylai fod wedi cyrraedd o fewn 8 munud! Mae rhywbeth mawr o'i le ar y gwasanaeth. Er bod perfformiad y gwasanaeth ambiwlans ar draws Cymru'n wael, clywsom yn ddiweddar taw yn Rhondda Cynon Taf y mae Ariennir yn rhannol waethaf gan Lywodraeth Cymru ac o fewn Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison y sir hon, gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru ardal blaeCyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN nau'r 2
y gloran
ionawr2015
YN Y RHIFYN HWN
Creaduriaid Y Nos
Rhondda Fawr sy'n dioddef fwyaf. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, bu llawer o drafod ar ddyfodol ein hysbytai a mynegwyd pryder, wrth glywed bod rhai gwasanaethau'n cael eu symud ymhellach i ffwrdd, na fyddai'r gwasanaeth ambiwlans hollbwysig yn gallu ymateb yn effeithlon i'r galwadau ychwanegol am ei wasanaeth. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod gan y cyhoedd achos i ofidio ac mae digwyddiadau fel yr un a ddisgrifiwyd, yn ychwanegu at y gofidiau hynny. Ers y digwyddiad yn y Rhondda bu achosion tebyg yn y newyddion sy'n tanlinellu'r ffaith fod rhywbeth mawr o'i le ar y system bresennol. I bob un ohonom, mae gwella'r sefyllfa hon yn hanfodol bwysig a rhaid rhoi pwysau ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ein haelodau Cynylliad a'n haelodau Seneddol, ynghyd â'n cynghorwyr lleol i sicrhau gwasanaeth sy'n ddibynadwy ac yn atebol i'r galwadau am ei wasanaeth. Os na ellir ymateb o fewn amser rhesymol, rhaid ystyried unwaith yn rhagor y penderfyniad i symud rhai
Golygyddol...-2 Creaduriaid parhad...3 Parti Noson Llawen ... 4 Newyddion Lleol...5-10 Shelley Rees-Owen...-6 Byd Bob...-7 Ysgolion...11 Treorci a’r Cymer..12
Diolch i Fferm Wynt Treorci am roi i'r Gloran grant o £1000 a hefyd i bawb a bleidleisiodd dros y papur hwn.
triniaethau meddygol ymhellach i ffwrdd. Ar yr un pryd, rhaid addysgu pobl i beidio â chamddefnyddio'r gwasanaeth ambiwlans na'r gwasaneth 999 fel sy'n digwydd yn rhy aml ar hyn o bryd. Dyw hynny ond yn gwneud sefyllfa wael yn waeth.
Golygydd
CREADURIAID Y NOSparhad codi’n ddisymwth i’r awyr, sy'n brofiad eitha brawychus. Beth sy ddim yn llawer o hwyl chwaith yw ceisio rhyddhau y creadur anffodus, å’r bachyn yn sownd yn ei en. Mae ystlymod yn hollol ddiymadferth ar y tir, a rhaid ichi eu lansio i’r awyr fel awyren bapur er mwyn iddynt hedfan drachefn.
Mae tylluanod yn gallu codi braw arnoch chi hefyd, yn enwedig pan fônt yn bwydo cywion. Mae’r rheini’n gallu sgrechain yn arswydus ar brydiau a chodi braw ar y dewraf ohonon ni. Wedyn mae 'na foch daear (badgers). Mae’n nhw’n gallu dod o fewn troedfeddi ichi os yw’r gwynt yn chwythu i ffwrdd oddi wrthyn nhw. Bryd hynny allan nhw ddim eich gwynto, a chyda’i olwg mor sål, mae’r hen fochyn daear yn dod yn hynod o agos atoch. Maen nhw’n swnllyd tu hwnt, yn snwffian a chadw twrw. Heblaw am hynny, maen nhw’n ddigon diniwed. Ond, dwrgwn? Dyna i chi stori hollol wahanol! Dwrgwn Pan ddechreuais bysgota afonydd y gorllewin yn y saithdegau, pur anaml y byddech yn gweld dwrgi. Dros y blynyddoedd mae eu nifer wedi cynyddu. Rych chi’n debygol o weld un bob yn eildro wrth bysgota’r afon yn y nos. Llynedd fe welais ddwrgi yn Aberhonddu yn nofio i fyny canol yr afon yn y prynhawn. Roedd pobl yn cerdded eu cŵn ar hyd y lan ond dyna lle’r oedd y dwrgi yn nofio’n hapus braf. Dyna’r un mwyaf imi ei
Roedd Rob yn pysgota, yn sefyll hyd at ei ganol mewn dŵr, ac yn castio’i bluen i’r pwll islaw. Camai’n ofalus, gan gastio o’i flaen i’r tywyllwch. Daeth yn ymwybodol o ffurf dywyll yn nofio ar frys tuag ato, tan boeri a chwibanu - dwrgi-ac un mawr. Curodd Rob y dŵr â’i wialen gan weiddi’n uchel. Trodd y dwrgi’n ebrwydd a diflannu. ’Dyna ddiwedd arni’, meddyliodd Rob, ac aeth yn ei flaen â’r dasg o geisio dal sewin. Ond yn sydyn, dyma’r sŵn rhyfedda eto a’r dwrgi’n dod tuag ato eilwaith. Erbyn hyn, roedd y ci’n cyfarth ac yn gwylltu ar y lan. Trodd Rob ar ei sawdl a mynd mor gyflym ag y gallai yn ôl i fyny’r pwll i’r fan lle’r oedd y ci. Daeth Rob at y graean ond dal i ddod ar ei ôl wnaeth y dwrgi ond nid ar ôl Rob, ond Rosie druan. Aeth y dwrgi i fyny’r lancreadur ddwywaith maint Rosie, y ’Border Terrier, a cheisio ymosod arni. Bolltiodd Rosie a rhedeg
nerth ei choesau i mewn i’r cae ac yn ôl tuag at y car ryw chwarter milltir i ffwrdd. Pan ddiflanodd y ci, diflannodd y dwrgi yn ei ôl i’r afon. Roedd esboniad ar gyfer y fath ymddygiad. Amddiffyn ei ffau ar y geulan gyferbyn oedd yr hen ddwrgi. Yno roedd ei gymar a’r dwrgwn ifainc. Coeliwch fi ni fu Rob yn hir cyn mynd i ddarganfod Rosie druan yn crynu wrth ochor ei gar. Mae dwrgwn yn gallu trafaelu hyd at bbmtheg milltir i edrych am fwyd ar hyd yr afon. Maen nhw’n anifeiliaid prydferth- a braf yw eu gweld –ond gair i gall. Gwnewch yn siwr, da chi, nad ych chi’n sefyll rhyngddyn nhw a’u teulu bach. Un profiad yw hwn. Cewch glywed dro nesa am ragor o fy mhrofiadau i gyda dwrgwn. Hefyd cewch glywed am deirw, bustych a cheffylau. Pwy ar y ddaear ddwedodd bod pysgota yn ddiddordeb heddychlon a sidet?!!
weld erioed. Roedd bron yr un maint â labrador. Mae gan ddwrgwn enw fel creaduriaid mwyn ‘cuddly’ braidd. Falle ar ôl llyfrau megis ‘Tarka the Otter’ sy’n eu portreadu felly. Mae’r gwirionedd yn eu cylch dipyn yn wahanol yn fy mhrofiad i. Flynyddoedd yn ôl yn Nyffryn Teifi bydden nhw’n hela dwrgwn â chŵn. Byddai’r cymeriadau yn ardal Llandysul yn dweud straeon amdanynt yn gallu achosi anafiadau cas i’r sawl oedd yn eu hela-yn gŵn a phobl. Mae ganddynt ddannedd miniog tu hwnt ac os cewch chi frathiad wneiff dwrgi ddim gollwng gafael iddo glywed crac yr asgwrn o dan y cnawd. Byddai’r helwyr flynyddoedd yn ôl yn clymu cregyn cocos (cockle shells) o gwmpas eu coesau tra’n hela. Bryd hynny os caent frathiad byddai’r dwrgi yn gollwng ei afael wrth glywed CRAC y cregyn cocos! Yn fy mhrofiad i, mae’r hen ddwrgi CYFRIFYDDION CYFRIFYDDION yn meindio’i fusnes SIARTREDIG SIARTREDIG gan amla’ ond mae ARCHWILWYR ARCHWILWYR na rai adegau, yn COFRESTREDIG enwedig pan fo rhai COFRESTREDIG ifainc ‘da nhw, pan fod angen cadw o’u ffordd. Rai blynyddoedd yn ôl, roedd Rob fy mrawd yng nghyfraith yn pysgota un noson o haf ar ei ben ei hun yn 77 STRYD BUTE agos i Genarth ar TREORCI RHONDDA Afon Teifi. Doedd CF42 6AH e ddim yn hollol ar ei ben ei hun FFÔN: 01443 772225 chwaith achos FFACS: 01443 776928 roedd ei gi bach ffyddlon Rosie yn E-BOST: yandp@lineone.net gwmni iddo. Âi â hi ‘da fe i bobman.
YOUNG AND PHILLIPS
BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB 3
PARTI NOSON LAWEN
Derbynion ni'r llun hwn ynghyd â rhai enwau gan Euros Lewis Felinfach, Ceredigion a aned yn Nhreherbert pan oedd ei dad, Parch Stanley
Lewis, yn weinidog yn Horeb, Treherbert. Un o Baglan St oedd ei fam. Dyma a ddywed, 'Amgaeaf lun Parti’r Fran Wen (wedi’i dynnu ar dop Church Street, Treherbert, ar risiau’r eglwys gynt. (Roedd
Mans Horeb dri drws o ben ucha’r stryd – a chartref Defynnog gyferbyn, os cofiaf yn iawn. Dyma’r wynebau dwi’n eu nabod – Rhes gefn: Glyn James; fy nhad-cu (tad fy nhad) sy’n sefyll nesa at John Price. Rhes
Geraint Davies (Fferyllydd) BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB
59 Stryd Gwendoline, Treherbert 4
flaen: Ernest Pugh, Dai Williams (Dai Ffan ar lafar gwlad), fy nhad (Stanley) a Dic Rees (Tynewydd). Braf byddai gallu rhoi enw i’r wynebau eraill hefyd. Bu'r diweddar Illtyd Lewis, HMI, yn cyfrannu dipyn at nosweithi llawen Y Fran Wen hefyd – pan oedd yn lletya (gyda Mam-gu a Thad-cu yn Baglan Street, un adeg). Gofynnon ni i rai allen nhw enwi rhai o'r aelodau eraill. Yr unig enw arall a gafwyd gan Ivor Rees, Abertawe ond gynt o Ynysfeio, oedd Willie Williams [Carmel] - y cyntaf ar y chwith yn yr ail res. Os ydych chi'n nabod y lleill, cofiwch roi gwybod.
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Ar ôl bod ar agor am bron ugain mlynedd, mae siop baent a phapur wal Lynne a Roy Fursland wedi cau. Dymunwn ymddeoliad hir a hapus iddynt ill dau.
Bydd y Capten Ralph Upton gweinidog Capel Blaenycwm, Maria Marchl o Blaencwm Tce a Mim Ryan o Blaenrhondda Rd yn ymweld ag Ethiopia yng nghanol mis Ionawr . Mae elusen Ralph "Cymoedd Gobaith" yn gweithredu mewn carcharau, catrefi plant amddifad ac ysgolion yn y wlad. Un o'r projectau mwya llwyddianus yw'r ddarpariaeth o baneli solar sy'n galluogi plant i ddefnyddio cyfrifadirion mewn lleodd anghysbell sydd heb gyflenwad trydan confensiynol. Mae cymdeithas Twnel y Rhondda wedi ei ffurfio i edrych i mewn i'r posibilrwydd o agor y twnel rhwng Blaencwm a Blaengwynfi ar gyfer beicio a cherdded. Hwn yw'r twnel rheilffordd mwyaf yng Nghymru. Mae'r pwllgor yn gobeithio gwneud astudiaeth ddichonoldeb ac un syniad yw gofyn i Vatten-
nval, y cwmni sy'n gosod y melinau gwynt rhwng y ddau gwm, i noddi'r project. Mae calendr, sy'n dangos hen luniau o'r twnel a'r rheilffordd ar werth oddi wrth Steve ar 777200. Cynhelir y cyfarfod nesaf yng Ngwesty'r Twnel ym Mlaengwynfi ar ddydd Mawrth y 6 Ionawr am 6.30. Mae cyfeillion y twnel wedi dod o hyd i garreg a oedd yn sefyll wrth fynediad y twnel ym Mlaencwm ac ar hyn o bryd mae'n cael ei adfer. Bwriedir gosod y garreg yng ngorsaf Treherbert yn y dyfodol agos.
Llongyfarchiadau i Jason Coombes am ennill y wobr am y ffenest Nadoligaidd orau yn Nhreherbert yn ei siop trin gwallt. Derbyniodd ei wobr o £50 oddi wrth y Maer.
TREORCI
Dechreuodd taith Nadolig tîm Radio Cymru yn eglwys Bethlehem ddechrau wythnos y Nadolig. Bu Heledd Cynwal a Hywel Gwynfryn yn holi pobl leol a chanwyd carol yn hyfryd iawn gan gôr plant Ysgol Gymraeg Bronllwyn o dan arweiniad eu pri-
fathrawes, Mrs Nicola Gould. Bu farw David Jones, y barbwr, Stryd Bute, perchen uno fusnesau hynaf Treorci. O'r ysgol, dilynodd e ei dad i'r busnes teuluol a bu'n gwasanaethu to ar ôl to o gwsmeriaid ers hynny. Roedd David yn 77 oed ac yn ei ieuenctid yn hoff iawn o athletau. Fel llawer i farbwr arall, roedd yn ŵr cymdeithasol iawn oedd wrth ei fodd yn trin a thrafod materion yr ardal a'r byd gyda'i gwsmeriaid. Cydymdeimlwn âi wraig, Tegwen a'i fab, Damon yn eu hiraeth. Blin hefyd cofnodi marwolaeth Mrs Olwen Ball, gynt o Stryd Regent a fu farw mewn cartref gofal yng Nghaerdydd. Tan flwyddyn neu ddwy yn ôl, roedd Olwen a'i chwaer, Gwyneth Wright, yn derbyn gofal yn Ystradfechan ond symudon nhw i Gaerdydd er mwyn bod yn nes at fab Olwen, Dr Iwan Ball. Cydymdeimlwn ag ef a Gwyneth yn eu profedigaeth. Da oedd gweld aelodau o fand y Parc a'r Dâr yn perfformio cerddoriaeth Nadolig ar y stryd fawr y tu allan i'r Lion gan ddwyn peth o wir ysbryd y Nadolig i bawb oedd yn fisi wrthi'n siopa. Ychydig cyn y Nadolig derbyniwyd y newyd-
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN dion trist am farwolaeth Mr Barry Grimstead, Stryd Clark. Yn ŵr bonheddig i'r carn, roedd Barry yn beldroediwr talentog yn ei ieuenctid ac yn ŵyr i'r cymeriad lleol adnabyddus, Beni Baish. Cydymdeimlwn â'i wraig, Shirley, ei fab, a'r teulu oll yn eu hiraeth. Pob dymuniad da a llawer o ddiolch i PCSO Craig Knezevic sydd yn ein gadael er mwyn cael bod yn blismon. Gwelwn eisiau'r cawr hawddgar hwn sydd wedi bod yn ffigwr cyfarwydd ar ein strydoedd ers peth amser. Pob llwyddiant iddo yn ei swydd newydd a gobeithiwn y byddwn yn dal i'w weld o gwmpas Treorci.. Pen-blwydd Hapus iawn
parhad ar dudalen 8
5
SHELLEY REES-OWEN
sgrîn! Pe na bai modd recordio popeth rhag blaen, y bwriad oedd actio'r rhan honno'n fyw, ond trwy drugaredd, ni fu hynny'n angenrheidiol erioed. Yn ôl Shelley, POBOL CWM DERI 'Roedd yn gyfnod cyfSôn rhagor am fywyd yng frous, gyda 'Pobol y Nghwm Deri mae Shelley ReesCwm' yn arloesi yn y Owen y mis hwn. maes, ond golygai hyn waith caled. "Byddem yn Pan ymunodd Shelley â 'Pobol y ymarfer fore Sadwrn a Cwm' roedd rhai o'r cast gwreidthrwy'r dydd ar y Sul cyn diol yn dal i fod yno, rhai fel mynd ymlaen i recordio Maggie Post [Harriet Lewis] a bob dydd o'r wythnos. Mr Tushingham [Islwyn MorDal llygoden a'i bwyta y ris]. Atgof Shelley oedd bod ddechrau cyfeillgarwch sy wedi byddem mewn gwirionedd er Harriet am wybod popeth am para hyd heddiw. mwyn cadw pethau i fynd." dyhanes unrhyw aelod newydd o'r Teledu Cyfoes wedodd. cast. "Byddai hi'n holi a holi nes Un o'r pethau diddorol oedd yn Hwyl wrth weithio iddi wybod popeth amdanoch," digwydd oedd bod pob rhaglen Dywed Shelley fod cyfeillgarwch meddai, "yn union fel roedd hi'n yn cael ei ffilmio ar yr un diagos wedi datblygu rhwng aelocasglu'r holl glecs am drigolion wrnod ag yr ymddangosai ar y dau'r cast a gafodd, yn ogystal, Cwm Deri wrth gadw swyddfa'r teledu. Oherwydd hynny, gallai lawer o hwyl. "Rwy'n cofio un post." Roedd Islwyn Morris, ar y 'Pobol y Cwm' fod yn hollol gyachlysur pan oedd teulu Jones yn llaw arall, yn ymgorfforiad o' ŵr foes. Yn aml, byddai cymeriad eistedd o gwmpas bord y gegin bonheddig, yn garedig ac yn yn ymddangos oedd yn darllen yn trafod ailbaentio'r ystafell. gymwynasgar bob amser. copi o'r Western Mail o'r union Roedd rhaid i Cath [Sue Hughes] Yn ffodus iawn, roedd grŵp bach ddiwrnod hwnnw. Wrth gwrs, adrodd enwau rhes o wahanol lio actorion yn dechrau yn y gyfres doedd dim llawer o amser mewn wiau ac am ryw reswm, ar yr un pryd ac yn rhan o deulu'r llaw i gywiro unrhyw gamdechreuodd pawb chwerthin. Dro Jonesiaid. Ymhlith y rhain oedd gymeriadau a chofia Shelley Rhi- ar ôl tro rhoesom gynnig arni a Arwyn Davies [mab Ryan annon Rees, un o'r methu, a phawb yn chwerthin yn Davies] oedd yn chwarae Marc, cyfarwyddwyr [o Donypandy, afreolus. Wedi i hyn ddigwydd y bachgen drwg, a Siw Hughes a gyda llaw] yn dal i olgu ail ran y ryw bum gwaith, dyma'r cyfarfu'n ddylanwad mawr ar Shelley. rhaglen wrth i'r rhan gyntaf gael wyddwr yn colli amynedd, dod i Yn y cyfnod hwn, byddai toriad ei dangos ar y lawr o'r galeri, ein o ryw chwe wythnos symud oddi ar y set, yn y gyfres yn ystod a'n cael ni nôl fesul yr haf a manteisiwyd un er mwyn dweud ar y cyfle i saethu ein llinellau. Trwy nifer o olygfeydd lwc. roedd y golyoedd yn cynnwys y gydd yn gallu defnynewydd ddyfodiaid. ddio ei siswrn, ac Rhoddodd hyn gyfle erbyn i'r olygfa ymdi'r actorion newydd ddod i adnabod ei gilydd a dyna drosodd
BYD BOB
[Ystyried a myfyrio ar lan y môr mae Bob y mis hwn.] Mae llawer o sôn ar y radio a'r teledu y dyddiau hyn am ddatblygiad y ddaear trwy gydol yr oesoedd, ac yn enwedig am ddatblygiad yr hil ddynol a theyrnas yr anifeiliaid. Wrth gwrs, mae'r anifeiliaid wedi datblygu'n llawer mwy araf na ni. Mewn amser cymharol fyr rydyn ni wedi mynd o fod yn fwnciod mawr i ddynion modern a soffistigedig. Does dim un anifail yn gallu meddwl fel ni, dychmygu fel ni, newid ei amgylchedd fel ni. Rydyn ni'n gallu adeiladu dinasoedd a dinistrio natur ar yr un pryd. Rydyn ni'n estyn am y planedau a'r sêr a thynnu lluniau o leoedd mwyaf pell y bydysawd. Yn ddiweddar, dywedodd yr Athro Brian Cox fod ein gwyddonwyr ar fin deall pwrpas y greadigaeth
hyd yn oed! Yn ystod yr haf fe es i ar drip bws i Ddinbych y Pysgod. Roedd canol y dref yn brysur iawn gan fod y tywydd yn braf. Roedd y siopau'n gwerthu pob math o bethau losin, hufen iâ, hetiau, dillad, teganau ac ati. Roedd pob math o lager a chwrw ar gael yn y tafarnau a'r clybiau lle roedd jiwcbocsys lliwgar yn chwarae miwsig pop a setiau teledu anfertth yn dangos gemau pêl-droed a rygbi yn fyw o bob cornel o'r byd. Ond roedd y stŵr yn ormod i fi. Roeddwn i am ddianc o'r
dangos ar y teledu, doedd neb yn gallach!" Bu Shelley yn chwarae 'Stacey' am dair blynedd i ddechrau, wedyn, yn dilyn toriad, ailymafael yn y cymeriad am saith mlynedd ac wedyn cael ei hun yn ôl y llynedd i ddathlu 40fed blwyddyn y gyfres. Yr hyn sy'n rhyfedd, meddai, yw'r teimlad wrth fynd yn ôl, nad oedd hi wedi bod i ffwrdd gan mor agos
roedd y berthynas wedi datblygu rhwng yr actorion â'i gilydd. Teimla fod rhyw undod yno sy'n dal i ddod â nhw yn ôl at ei gilydd ar achlysuron o gydddathlu neu o gydalaru pan fydd un o'r cast yn marw, fel yn achos Huw Ceredig. Wrth edrych yn ôl, dywed Shelley, "Bu'r cyfnod yn aelod o gast 'Pobol y Cwm' yn fuddiol ac yn hapus. Ces i gyfle i ddysgu crefft actio mewn opera sebon, sy'n wahanol i bob math arall o actio. Mae'n dechnegol iawn a rhaid
strydoedd prysur a dod o hyd i dawelwch am sbel. Felly, fe es i eistedd ar fainc ar ben clogwyn yn edrych ar y môr. O'm blaen i roedd grŵp o bobl (hanner cant ohonyn nhw, efallai) yn cynnal rhyw fath o wasanaeth ar lan y môr. Doeddwn i ddim yn ddigon agos atyn nhw i weld popeth oedd yn digwydd, felly doeddwn i ddim yn siwr a oedden nhw'n bedyddio aelod newydd neu yn gwasgaru llwch aelod marw ar y dŵr. Ond roedd yn amlwg taw gwasanaeth crefyddol oedd e. Er bod y bobl 'na mewn gwisg fodern, roeddwn yn teimlo fy mod wedi mynd yn ôl i oes hirbell. Y tu ôl i fi roedd y dref fodern, brysur a swnllyd. O'm blaen i, dim ond yr awyr a'r môr tragwyddol - a grŵp o bobl oedd yn dathlu rhywbeth oedd yn ddirgelwch i fi. Ac yna fe sylweddolais fod yr hil ddynol ddim wedi newid cymaint â hynny wedi'r cwbl..... diolch byth! deall ochr dechnegol y busnes yn drylwyr i lwydd. A bues i'n ffodus i gael rhywun fel Siw Hughes yn gefn ac yn fentor imi ar hyd y daith. Ein nod oedd creu cymeriadau tri dimensiwn, credadwy ac mae hirhoedledd 'Pobol y Cwm' yn brawf ein bod wedi llwyddo i gadw cynulleidfa dros gyfnod hir. Braint oedd cymryd rhan yn y gyfres. Dim ond ar ôl gorffen gweithio arni y sylweddolais cymaint roeddwn i wedi ei ddysgu a chymaint o wir gyfeillgarwch y cyfranogais ohono yn ystod y cyfnod cyffrous hwnnw". Lluniau :Actorion Pobl y Cwm Tud 6: Arwyn Davies a Siw Davies Tud 7: Siw a Shelley
7
i Mrs Jessie Davies, Stryd Dumfries oedd yn 80 oed yn ddiweddar. Pob dymuniad da iddi i'r dyfodol oddi wrth ei ffrindiau. Trefnwyd cwis gan Anne Barrett i ddechrau ail ran tymor y WI ym mis Ionawr. Dilynwyd yr adloniant gan luniaeth ysgafn. Daeth aelodau Hermon ynghyd ar y Sul cyn y Nadolig i gynnal gwasanaeth o garolau a darlleniadau. Cymerwyd rhan gan nifer o bobl a chafwyd cyfle i gymdeithasu dros goffi a mins peis ar ôl yr oedfa. Cafwyd gwasanaeth tebyg hefyd yn Eglwys San Matthew. Wedyn, am 9.30 a.m. fore'r Nadolig arweiniwyd gwasanaeth ym Methlehem gan y Parch Cyril Llewellyn. Roedd yn flin gan bawb glywed bod Mrs Gweneira Lawthom, Stryd Regent wedi cwympo yn ei chartref
8
a'i bod o ganlyniad yn yr ysbyty. Pob dymuniad da iddi am wellhad llwyr a buan.
Cofion a phob dymuniad da i Miss Marian Gardner, Heol Ynyswen sydd yn Ysbyty'r Bwthyn, Pontypridd a hefyd i David a Mairona Harcombe, Stryd Dumfries a Colin Evans, Tan-y-fron sydd heb fod yn dda yn ddiweddar. Bydd Pwyllgor Canser UK Treorci yn cynnal cwis yn nhafarn Y RAFA, nos lun 16 Chwefror. Y cwisfeistr, fel arfer, bydd Mr Noel Henry, Ynyswen. Croeso i bawb. Nos Wener, 9 Ionawr, cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Fferm Wynt Treorci pan ddosbarthwyd grantiau i nifer o fudiadau ac ysgolion lleol. Arweiniwyd y seremoni gan y Cyng. Sêra Evans-Fear a chyflwynwyd y sieciau gan
Leighton Andrews A.C.
CWMPARC
Bydd y Tad Philip Leyshon yn cael eu sefydlu'n ficer Cwmparc a Threorci mewn gwasanaeth arbennig yn eglwys San Siôr ar 10 Chwefror. Croeso mawr iddo i'w ofalaeth newydd. Gobeithio y bydd ef a'i deulu'n hapus yn ein plith.
Mae twr yr eglwys wedi cael ei drwsio cyn i'r tywydd stormus gyrraedd, ac nawr, mae'r gwaith atgyweirio'r festri yn cychwyn. Rhwystrwyd traffig yng Nghwmparc yn ystod ail wythnos mis Ionawr, oherwydd bod y Cyngor yn torri coed peryglus ar Ffordd Pentwyn (Y Maindy). Roedd rhaid i
gerbydau yrru lawr Cwmparc at Westy'r Stag, lawr trwy'r Pentre, a nôl lan Y Maindy, er mwyn cyrraedd Ffordd y Bwlch. Mae Maggi Evans, Heol y Parc, yn ennill bywoliaeth trwy wneud arwyddion pren unigryw i'r cartref. Trwy gyfnod Y Grawys Aeaf, gwerthodd hi arwydd bob dydd ar ei thudalen Facebook, i godi arian at Cymorth i Fenywod RhCT. Roedd Maggi yn arfer gweithio i'r grwp, sydd yn helpu menywod a phlant sy wedi dioddefwyr trais yn y cartref. Erbyn y Nadolig, cododd hi £200. Mae'r grwp wastad yn falch o gyfraniadau, gan cynnwys pethau ymolchi, achos weithiau, mae'n rhaid i fenywod adael y cartref yn gyflym, heb fynd ag unrhywbeth o gwbl gyda nhw. Gweler y llun.
drew Thmas, Fflat 15. Gobeithio y cânt arhosiad hir a hapus yn ein mysg.
Dwy o Lys Siloh a fydd yn dathlu eu pen-blwydd y mis hwn yw Olwen Wliams a Margaret Morris. Pob dymuniad da i'r ddwy a chroeso nôl i Olwen Williams ar ôl iddi dreulio amser yn yr ysbyty yn ddiweddar.
Y PENTRE
Gwaith Maggie Evans Heol y Parc
Roedd preswylwyr Llys Siloh yn falch iawn o weld bod eu warden, Diane Wakeford wedi gwella a bellach yn ôl yn
ei gwaith. Pob dymuniad da iddi ar gyfer 2015. Mae'n dda gan y Llys groesawi dau denant newydd, sef Stephen Crawford, Fflat 5 ac An-
Mae gan y Village Cafe yn Stryd Llewellyn berchnogion newydd. Mae pawb yn falch o'i weld ar agor unwaith eto ac yn dymuno pob llwyddiant i'r fenter newydd. Roedd yn flin gennym dderbyn y newyddion
am farwolaeth Gerti Nicholas, gynt o Stryd Baglan a Ken Hughes o Stryd Llewellyn. Cofiwn am deuluoedd a ffrindiau'r rhain yn eu profedigaeth. Bydd tipyn o ddathlu yn Nhŷ'r Pentre y mis hwn wrth i Della Edwards, Rita Pittman, Blodwen Williams, daisy Davies, Elsie Melhuish a Margaret Davies i gyd ddathlu eu pen-blwyddi. Gobeithio y caiff pob un ohonynt ddiwrnod i'w gofio a phob hapusrwydd yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth am longyfarch Rebecca Mason a Michael ar eu
9
dyweddiad yn ystod mis Rhagfyr. Pob dymuniad da i'r dyfodol. Cofiwch fod cyfarfod PACT yr ardal yn cael ei gynnal ar y nos Fercher cyntaf o bob mis am 6pm yn Llys Nasareth. Cewch gyfle i holi eich plismon cynorthwyol lleol a hefyd eich cynghorwyr. Croeso i bawb. Os ydych am fanylion am drefniadau Chwarae
10
Plant ar Barc y Pentre, cysylltwch â Hannah 01443 493321 neu ar hannah@chwaraeplant.o rg.uk Bydd Ioan Towey, Margaret Morris, Janet Smith a Tracey Hocking i gyd yn dathlu penblwydd y mis hwn ac mae eu ffrindiau yn y Citadel am ddymuno Pen-blwydd Hapus Iawn iddyn nhw i gyd.
TON PENTRE A’R GELLI
Yn ystod mis Ionawr gallwch fwynhau ffilm, sgwrs a the neu goffi bob dydd Gwener am 1pm yn Theatr y Ffenics. Bydd tocynnau'n £3.50 i henoed a'r di-waith a £4 i bawb arall. Y ffilm ar 9 Ionawr fydd 'Before I go to Sleep,, gyda Nicole Kidman yn y brif ran a 'Frozen Sing-aLong' Disney fydd yn dilyn ar 16 Ionawr. Y bwriad yw dilyn y drefn hon bob wythnos gyda pha ffilm bynnag a fydd yn cael ei dangos yn y sinema. Cafwyd gwledd o fawl a chån yng nghapel Hope pan gyflwynodd plant yr Ysgol Syl ddrama'r geni. Da oedd gweld cynifer o blant yn mynychu'r capel ac yn barod i gymryd rhan. Dros yr Ŵyl, dathlwyd y
Nadolig hefyd gan gwmni drama plant o Ferndale yng nghwmni Côr Morlais yn Theatr y Ffenics. Cyflwynwyd y rhaglen gan Mrs Christine Tucket o Dreherbert a chafodd pawb fodd i fyw wrth fwynhau'r cyflwyniad. Daeth profedigaethau i ran rhai teuluoedd yn yr ardal dros gyfnod y Nadolig. Estynnwn ein cydymdeimlad yn abennig i deuluoedd Mr David Seage, Heol Alexandra a Mr Paul Hardy, Heol Avondale. Mae Canolfan Gymdeithasol Ton a'r Gelli yn Dinam Parc Avenue nawr ar gael at ddigwyddiadau cymdeithasol fel cyfarfodydd neu bartion pen blwydd. Cynhelir dosbarthiadau yno hefyd. Am fwy o fanylion ewch i www.tonandgellicommuntycentre.co.uk Gweler hanes y llun yma ar dudalen 11
CYMER YN CEFNOFI YMGYRCH ‘SAVE THE CHILDREN’ Dyma lun o rai o ddisgyblion yr ysgol ar ein diwrnod ‘Siwmperi Nadolig’ . Mae’r ysgol yn cefnogi ymgyrch ‘Save the Children’ yn flynyddol bellach, gyda phob disgybl yn cyfrannu £1 at yr elusen.
GWOBR DUG CAEREDIN
YGG YNYSWEN BRONLLWYN BODRINGALLT YG TREORCI CYMER RHONDDA
Llongyfarchiadau mawr i griw o fyfyrwyr Blwyddyn 11 sydd wedi cwblhau taith gerdded i Gronfa’r Maerdy fel rhan o Wobr Efydd Dug Caeredin. Y pump fu wrthi oedd Ffion Day, Sophie Gilder, Imogene Cousins, Elis Macmillan ac Alex Jones. Cododd y pump dros £200 i’r elusen Ymchwil Cancr yn ogystal.
Blwyddyn 8 ar y cae Pêl-droed Llongyfarchiadau mawr i fechgyn Bl 8 ar gyrraedd rownd yr 16 olaf yng Nghwpan Cymru! Gwych fechgyn!
YSGOLION
YSGOLION
BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Mae Ysgol Gyfun Treorci ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda gyda ni y mis yma
Llongyfarchiadau mawr i Dîm Rygbi Cyntaf yr ysgol ar ei berfformiad diweddar yn erbyn Ysgol Gyfun Treorci! O ganlyniad i’r fuddugoliaeth fawr hon, mae’r tîm wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf yng Nghyngrair Gogledd y Gleision. Ers cychwyn ei ymgyrch eleni, mae’r tîm wedi ennill 322 o bwyntiau ac heb golli un pwynt! Cymer 52 Treorci 0
11
Glan Llyn
Cafodd disgyblion sy’n astudio Cyrmaeg Ail Iaith Uwch Gyfrannol yn Ysgol Gyfun Treorci gyfle i fynychu cwrs prysur, tri diwrnod yng Nglan Llyn
YSGOL GYFUN TREORCI
Gêm Rygbi Gleision Caerdydd V Benetton Trevisio
Ar yr 28ain o fis Tachwedd, cafodd disgyblion
yng Ngogledd Cymru. Pwrpas y cwrs oedd gweld y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned fel iaith byw a modern yn ogystal â chael y cyfle i siarad Cymraeg pob dydd. Yn ystod y cwrs cafwyd y cyfle i ymweld â mannau sy’n gysylltiedig â’r cwrs Uwch Gyfrannol a aethpwyd i’r Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn. Yma cawsant y cyfle i glywed am ei fywyd a’i deulu gan ei nai, Gerald. Daeth y profiad yma â’r stori yn fyw iddynt, a phwysleisio’r ffaith mai stori wir ydyw profiad amhrisiadwy gan fod rhaid iddynt drafod y ffilm fel rhan o’u harholiad llafar. Mwynheuodd y disgyblion gweithdy idiomau gyda’r beat bocsiwr adnabyddus, Ed Holden, sydd yn cael ei adnabod fel Mr Phormula yn rhyngwladol. Gwelwyd sioe gan Theatr Arad Goch ‘Sxto’ a ysgrifennwyd gan awdures enwog i Gymru, Bethan Gwanas. Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i’w holi am y ddrama llwyddiannus. Roedd y cwrs yn llawn o weithdai, gweithgareddau, darlithoedd a siarad, cafwyd darlith ar ffilmiau gan Elain Price o Brifysgol Abertawe, cwrs newyddiadiraeth gan Owain Schiavone, sesiwn ffilmio gyda Eilir Pierce, gwneud cartŵnau gyda Huw Aaron a thwmpath gyda Mr Shurey. Mae’n sicr bod y disgyblion i gyd wedi mwynhau eu hamser yng Nglan Llyn, a bod eu gallu ieithyddol wedi gwella o ganlyniad i’w hymdrechion i fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r iaith ar bob cyfle.
YSGOL GYFUN TREORCI
Blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Treorci gyfle arbennig i fod yn rhan o dorf ym Mharc yr Arfau i weld gêm rygbi Gleision Caerdydd yn erbyn Benetton Treviso. Cyrhaeddodd y disgyblion llawn egni a chyffro ac roeddent yn frwdfrydig i weld y gêm. Braf oedd cael gweld rhai o’r bechgyn yn chwarae yn y crysau glas, yn ogystal â ffefrynnau’r disgyblion fel Lloyd Williams a Cory Allen. Cafodd y disgyblion brofiad arbennig a llawer o hwyl yng nghwmni’r staff yn y gêm yn canu caneuon rygbi gyda'r cefnogwyr eraill. Roedd y gêm yn wych ac o ganlyniad cipiodd y Gleision y pwyntiau, a'r sgôr oedd Gleision Caerdydd 17 – Benetton Trevisio 7. Aeth y disgyblion yn wyllt a gadawon nhw’n gwenu o glust i glust. Mwynheuodd pawb y noson yn fawr iawn, gan gynnwys y staff!