Ygloran mai15

Page 1

y gloran

20c

BLYNYDDOEDD ‘PORTH COUNTY’ Ivor Rees, Abertawe, ond gynt o Dreherbert, yn cofio ei ddiwrnodau cyntaf yn Ysgol y Porth

O’r diwedd y cyrhaeddodd y bore tynghedfenol, y bu cymaint o ddisgwyl amdano a chymaint o arswyd rhagddo. Oni ddisgrifiodd Ken, y bachgen drws nesaf â aeth i’r ysgol sir y flwyddyn gynt, yr holl bethau drwg fyddai’n digwydd i fechgyn newydd yn ystod eu hwythnos gyntaf gyda manylder llawn a dramatig, megis cael ein taflu i ganol y “pickies” (mieri a drain) neu wthio

eich pen i lawr y toiled? Galwodd Ken amdanaf a cherddon ni i lawr i dafarn y Baglan i ddal ein bws. Ar y bws roedd nifer o fechgyn yn sefyll – roedd yn amlwg mai rhai ar eu diwrnod cyntaf oedd y rhai hyn. Ond, yr oedd yno hefyd un sedd wag, sef wrth ochr ‘Beefy’ Bennett, cawr o fachgen ar ei ail flwyddyn ac un o’r un giang â Ken. Edrychodd arnaf yn fanwl cyn iddo ddweud, “Fe wnei di’r

tro. Chymeri di fawr o le” a chefais y fraint o eistedd yn ddiolchgar. Ambell i dro, roedd yn werth bod yn fach, ond nid yn aml. Fi oedd y bachgen lleiaf yn yr ysgol newydd. Ar ddiwedd taith o ryw dri chwarter awr, arhosodd y bws ar waelod rhiw ac roedd rhaid i ni ddringo i fyny at ysgol y bechgyn, adeilad carreg gafodd ei chodi yn 1894. Cafodd y bechgyn newydd eu danfon i’r

“ranch” sef casgliad o ryw chwech ystafell â feranda o gwpas iard, gafodd eu codi dros dro yn 1910. Ymgasglodd y bechgyn yn yr iard a chyrhaeddodd athro mawr a llais cryf ganddo. Dechreuodd alw enwau bechgyn 1A yn ôl trefn canlyniadau’r ‘scholarship.’ Y tri cyntaf oedd bechgyn o ysgol Penyrenglyn – Graham Lewis, Alan Sussex a Lewis Thomas parhad ar dudalen 3


golygyddol l

bellgyrhaeddol ac yn hanfodol os yw ein cymdeithas i ffynnu. Yn y Rhondda, rydyn Yn anffodus, mae'r Gloran y mis hwn yn cofnodi colli nifer o bobl sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fywyd yr ardal, gan gyfoethogi ein bywydau oll. Yn ystod yr wythnosau diwethaf yng nghanol berw'r etholiad, mae ein sylw wedi ei hoelio ar wleidyddion gyda phob un bron yn honni taw gyda nhw mae'r ateb i wella safon ein bywydau. Er bod eu penderfyniadau yn y pen draw yn effeithio ar ein bywydau a'n safonau byw, rydyn ni'n llawer mwy ymwybodol o'r modd y mae pobl gyffredin o'n cwmpas yn gallu effeithio arnom yn eu hamrywiol ffyrdd. Yn wahanol i'r gwleidyddion, fydd eu henwau ddim yn adnabyddus i bawb ond mae dylanwad eu cyfraniad yn bellgyrhaeddol ac yn hanfodol os yw ein cymdeithas i ffynnu. Yn y Ariennir yn rhannol Rhondda, gan Lywodraeth Cymru rydyn Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison ni'n ffogyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru dus ein

Yn anffodus, mae'r Gloran y mis hwn yn cofnodi colli nifer o bobl sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fywyd yr ardal, gan gyfoethogi ein bywydau oll. Yn ystod yr wythnosau diwethaf yng nghanol berw'r etholiad, mae ein sylw wedi ei hoelio ar wleidyddion gyda phob un bron yn honni taw gyda nhw mae'r ateb i wella safon ein bywydau. Er bod eu penderfyniadau yn y pen draw yn effeithio ar ein bywydau a'n safonau byw, rydyn ni'n llawer mwy ymwybodol o'r modd y mae pobl gyffredin o'n cwmpas yn gallu effeithio arnom yn eu hamrywiol ffyrdd. Yn wahanol i'r gwleidyddion, fydd eu henwau ddim yn adnabyddus i bawb ond mae dylanwad eu cyfraniad yn

2

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

y gloran

mai 2015

YN Y RHIFYN HWN

Blynyddoedd Porth County

bod yn byw mewn cymdogaethau gofalgar ar y cyfan, gyda phob math o gymdeithasau a mudiadau yn cyfrannu at ansawdd ein bywydau. Mae pob un o'r rhain yn dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol unigolion, nad ydynt yn derbyn tâl am eu gwasanaeth, ond yn gwasanaethu am eu bod yn teimlo taw dyna yw eu dyletswydd a'u pleser. Yn aml cymerwn y bobl hyn yn ganiataol a thra eu bod gyda ni, prin y sylwn ar eu cyfraniad. Cofiaf rhywun yn sôn unwaith am yr adeg pan oedd hen bwll glo Tynybedw [Y Swamp] yn gweithio fel y byddai sŵn parhaus i'w glywed yn y tai o gwmpas y pwll - sŵn yr hwter yn galw'r dynion i'r gwaith, clindarddach y dramiau wrth iddynt fynd dros y cledrau a'r dirgryniadau ysgytwol wrth i'r caets godi a disgyn fesul sifft. Gofynnwyd i un oedd yn byw yn y cyffiniau a oedd yr holl sŵn yma'n tarfu ar ei gwsg. Atebodd yn syth nad oedd yn cael unrhyw effaith arno ond dywedodd na chys-

Golygyddol...-2 ...3 ... 4 Newyddion Lleol...5-10 Sue Davies Edward Hancock Eileen Long...-6 Byd Bob...-7 Ysgolion...11-12

godd winc am rai wythnosau ar ôl i'r pwll gau. Dyna'n union sy'n digwydd pan fydd y bobl hynny sy wedi rhoi cymaint i'n cymdeithas yn peidio â bod. Mae eu distawrwydd yn fyddarol a dim ond ar ôl iddynt ein gadael y sylweddolwn gymaint oedd eu gwaith a'u cyfraniad i'n bywydau. Yn y rhifyn hwn, ffarweliwn â rhai a gyfrannodd i'n bywyd gwleidyddol, crefyddol a diwylliannol, ond wrth deimlo'r tristwch o'u colli i'r byw, gobeithio hefyd ein bod yn sylweddoli mor ffodus oedden ni i gael cyfranogi o'u doniau amrywiol. Boed i'w hesiampl fod yn alwad ac yn her i eraill gamu i'r bwlch a adawyd ar eu hôl. Heb eples pobl o'u bath, bydd ffyniant ein cymdogaethau yn dioddef. Golygydd


Blynyddoedd Porth Countyparhad

ac ar eu hôl Douglas Green, Raymond Grant a minnau, gyda Kenneth Morgan, Ynyswen, yr olaf ohonom. Meddianwyd y rhes gefn gan fechgyn Penyrenglyn a chadwyd y sedd olaf i mi. Yn anffodus, cefais fy symud yn nes at y ffrynt mewn cwpwl o wythnosau wrth i Bill Owen, ein hathro Cymraeg, sylweddoli fy mod yn methu â gweld yr hyn oedd yn ysgrifenedig ar y bwrdd du.

Yr Athrawon Dros y dyddiau nesaf, cawsom ein hannerch gan lu o athrawon gwahanol. Cyflwynodd pob un ei bwnc, gan ddosbarthu gwerslyfrau a llyfrau ysgrifennu, gyda gorchymynion manwl ynglŷn â sut i’w trin. Dechreuodd y flwyddyn

academaidd newydd ym mis Medi 1942 ac oherwydd y rhyfel roedd llawer o’r staff naill yn agos at neu dros oedran ymddeol. Bu nifer yn y Rhyfel Fawr ac effeithiau rhyfel yn dal i'w blino. Casgliad diddorol o athrawon, neu felly yr ymddengys yn awr. Gwyddoniath a mathemateg oedd cyfrifoldeb ‘Nunkie’, sef y Cyrnol Cousins, dyn bach, tenau, penfoel, pennaeth yr Home Guard lleol. Cyflwynodd geometreg i ni trwy daflu pâr o dividers at y bwrdd du: “Nid ar gyfer hyn eu bwriadwyd,” meddai, “ond i fesur cylchoedd.” Ychydig o’i gwmni a gawsom gan iddo farw o drawiad ar y galon yn ei gar yn fuan wedyn ar ôl bod gyda’i gatrawd ar

ddyletswydd. Ffrangeg oedd testun ein hathro dosbarth, Mr. Cummings; ef hefyd oedd yn hyffordi tim criced yr ysgol. Bill Owen oedd yn gyfrifol am y Gymraeg. Roedd ganddo radd dosbarth cyntaf, hwyrach yr unig un yn yr ysgol, ond ychydig o glem ar ddysgu bechgyn ifanc oedd ganddo a chawsom yr un llyfr ag a gawsom yn ysgol Penyrenglyn – cwbl anobeithiol heb unrhyw eirfa yn y cefn. Nid rhyfedd i’r mwyafrif o’r bechgyn ddewis Ffrangeg yn yr ail flwyddyn. Dyn hyfryd a blaenor Methodus ond gogleddwr oedd yn gwbl amharod i gydnabod priodoldeb Cymraeg Morgannwg. I fod yn deg ag ef, roedd y cwrs fel eiddo pob iaith arall wedi ei gyfyngu i ramadeg ac yn aniddorol iawn. Problem y Gym-

raeg oedd bod y bechgyn wedi ei chlywed rhywle neu'i gilydd erioed tra bod Ffrangeg yn newydd a chyffrous. Yr angen oedd i wneud y Gymraeg yn llawer mwy atyniadol er mwyn denu’r bechgyn, ond roedd rhaid aros am genhedlaeth arall er mwyn i rywun wneud yr ymdrech. Mr. Pepperill oedd yn gyfrifol am Saesneg. Ei farn ef oedd mai camgymeriad oedd ein gorfodi i ddysgu barddoniaeth gan y byddai hynny yn lladd ein serch tuag ati. Roedd yn sicr y byddai’n hapusach mewn ysgol breswyl ragbaratoawl. Un bore cafodd ffit ar ganol y wers a llanwyd ni i gyd ag arswyd wrth iddo droi a throi ar ei hyd ar y llawr. Roedd un bachgen wedi cael ei rybud-

parhad drosodd

Parch 9.00 31 Mai Ffydd. Gobaith. Cariad. Cyfres ddrama newydd. #parch s4c.cymru

3


Blynyddoedd Porth Countyparhad

dio a rhedodd a allan i gael help (sef Gareth Hywel Jones (Meistr Coleg Trinity, Caergrawnt wedyn). I mewn y daeth Mr. George, oedd yn ychydig yn fwy na chorach, yn fyr iawn a chanddo gefn afluniaidd ond yn llydan o gorff. Cododd yr athro tal a thenau a’i gario allan. Gwelsom nifer o ffitiau wedyn dros y ddwy flynedd nesaf. Wrth arolygu arholiad yn ein hail flwyddyn, fe gododd y papur arholiad, ei dorri'n darnau a’u bwyta. “Papur neis iawn,” meddai wrth gnoi. Safodd wedyn wrth ochr bachgen â wnaeth yn rhyfeddol o dda yn y brifysgol ac yntau â llyfr agored ar ei liniau. Bu’r bachgen mewn dychryn, wrth gwrs, ond roedd yr athro ar ganol ffit arall. Y stori oedd bod Mr. Pepperill yn perthyn i arwyr Dunkirk, yn dioddef o shell-shock. Ond ni gafodd y sioc sioc o glywed mewn aduniad na fu’r athro sensitif yn y fyddin o gwbl am ei fod yn epileptig. Mr. George ddysgodd

ddaearyddiaeth i ni – brodor o Aberdaugleddau oedd yn hoff o sôn am yr harbwr yno fel “y finest natural harbour in the world.” Beth fyddai’n dweud, tybed, wrth weld yn awr bod rhywun wedi cymeryd sylw ohono? Wee Georgie Wood oedd llysenw’r bechgyn arno, sef enw cymeriad digri poblogaidd ar y radio. Ymhen flwyddyn dyma bachgen newydd yn ei gyfarch fel Mr. Wood. Adseinodd y glec trwy’r ddosbarth a chympodd y crwt bach yn erbyn y wal, wedi ei ddrysu’n llwyr. Bu farw Mr. George hefyd yn ystod y flwyddan ac yn ei le y daeth Limpy, sef Cuthbert Davies, pennaeth yr adran – roedd ganddo un goes bren!

Hanes, 'Gym' ac Athrawesau! Flynyddoedd wedyn y cefais y fraint o ail-gyfarfod a’n hathro hanes, sef yr Athro J. Gwyn Griffiths, Cymro mawr, sgolor a mab i weinidog

Bedyddwyr y Pentre. Y clasurau oedd ei faes, ac Eifftoleg – ond dysgodd i ni hanes yn ei ffordd arbennig ei hun – hanes y pentref o dan y Llyn Fawr a chyflwyniad i’r hen Aifft. Fel cyd-ddigwyddiad, ei fab Heini yw’n tiwtor ni yn ein dosbarth llenyddiaeth. Ein hathro mathemateg oedd John Lewis, brodor o Gwmparc, a mab ganddo yn ein dosbarth. Caem un wers y tu allan i’n dosbarth, sef addysg corfforol neu “gym.” Cyn is-swyddog [petty officer] yn y llynges oedd Bill Morris. Ni ddangosodd lawer o ddiddordeb yn ei waith. Roedd yn barod i waeddu ei orchymynion yn y gampfa ond pan aethom oddi yno ar gyfer chwaraeon o ryw fath, y cyfan a wnâi oedd cerdded o gwmpas y maes yn smygu un Woodbine ar ôl y llall. Roedd yna wers canu hefyd, mewn neuadd tin y tu allan i’r prif adeiladau [dyma’r cantîn yn nes ymlaen ar gyfer cinio ysgol]. Cafodd ein gwersi eu harwain gan gyfres o athrawon heb

Llun y clawr Staff Porth County 1946

gymwyster, fu’n rhoi gwersi piano yn eu cartrefi a chyfeilio i neu arwain corau. Druan a hwy! Cawsant amser ofnadwy gan un dosbarth ar ôl y llall gan fechgyn oedd yn teimlo’n rydd o ddisgyblaeth y dosbarth. Cafwyd chwyldroad yn Ysgol Bechgyn y Porth yn 1942. Cyrhaeddodd athrawes ac un hardd hefyd o Don Pentre. Gwnaeth y bechgyn ymateb yn ffafriol i’w gwersi ond rhaid bod angen llawer o gymorth arni gan fod sawl athro wedi dod i mewn i’r dosbarth i weld sut oedd pethau’n mynd ac i gynnig ei help. Chwarae teg! Cefais ganddi y marc gorau gefais erioed yn y pwnc “am fod y syniad yn dda!” Cyrhaeddodd dwy arall yn ein hail flwyddyn. Mrs. Davies, cemeg oedd un ohonynt, na fu’n athrawes arnom ond yn achlysurol. Roedd pawb yn ei hofni hi a hithau’n barod i roi detention i unrhyw grwt fyddai’n ei chyfarch fel “Miss”. Mrs. Davies oedd hi bob amser.

RHES CEFN

Mr GM Lewis Mr I Howells Mr WE Benson Mr OV Jones Mr GH Rochat Mr R Cummings Mr WA.Williams

RHES CANOL

Mr W Morris Mr W Owen Mr W Thomas Mr TS Davies Mr L Hughes Mr L Jones Mr NH Burnell Mr F Weaver

RHES BLAEN

Mr CH Davies Mr C Cole Mr TR Davies Mr WJ Howells Mr J Williams Mr J Lewis Mr L Thomas

4


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Bydd newid yn nhrefniadau oedfaon Capel Carmel o hyn ymlaen gyda'r oedfa nos Sul yn dechrau am 5 o'r gloch. Croeso i bawb.

Mae aelodau Carmel wedi bod yn cynnal bore coffi bob bore Mawrth rhwng 10.30 - 12 o'r gloch. Codwyd llawer o arian at wahanol elusennau. Fodd bynnag ar ddydd Gwener, 26 Mehefin, bydd bore coffi arbennig rhwng 10.30 - 1 p.m.i godi arian at gronfa Marie Curie. Dewch yn llu!

TREORCI

Pob dymuniad da i Elwyn Buckland, Heol Glyncoli a Danny Evans, Tŷ Pengelli, sydd, ill dau, yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Andrea Jarman, Stryd Dyfodwg ar ôl iddi ddioddef afiechyd yn ddewr am flynyddoedd. Cydymdeimlwn â'i mab, Kyle, ei mam, Margaret, ei chwaer, Helen yn eu profedigaeth. Deallwn fod perchno-

gion safle Ystad Ddiwydiannol y Cae Mawr wedi derbyn rhybudd gan Gyngor RhCT i gymoni'r safle a'i wneud yn fwy diogel. Rhaid cwblhau'r gwaith o fewn 90 diwrnod.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Sefydliad y Merched [W.I.] ddechrau mis Mai Etholwyd swyddogion am y flwyddyn a chynhaliwyd pleidlais ar nifer o benderfyniadau. Ar ddydd Mercher, 6 Mai aeth nifer o aelodau Sefydliad y Merched i gyfarfod o Gyngor Morgannwg ym Mhorth Talbot. Y gŵr gwadd eleni oedd John Craven, cyflwynydd poblogaidd y rhaglen deledu boblogaidd, 'Country File'.

Yn sydyn iawn, bu farw Mr Phillip Morgan, Stryd Dyfodwg. Roedd Phillip yn adnabyddus iawn yn yr ardal fel chwaraewr trombôn. Chwaraeai ym mand y Parc a'r Dâr a gyda Cherddorfa Simffoni'r Rhondda. Cydymdeimlwn â'i wraig Gill a'i feibion Jonathan a Timothy yn eu profedigaeth.

Pob dymuniad da i Joan Townsend, Stryd Tynybedw wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd a hwnnw yn un pwysig iawn yn ei hanes!

Trist oedd derbyn y newyddion am farwolaeth sydyn Mr Keith Homes, Heol Cadwgan. Cysylltir Keith â busnes bwydydd anifeiliaid y teulu lle y bu'n gweithio gyda'i dad a'i fam. Roedd hefyd yn chwaraewr rygbi brwd dros Dreorci. Cydydeimlwn â'i wraig, Barbara a'i ferch, Rosemary yn eu colled.

Blin hefyd oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Gweneira Lawthom, Stryd Regent. Roedd yn wraig hynaws, yn boblogaidd ymhlith ei chymdogion a phawb oedd yn ei nabod. Cydymdeimlwn â'i meibio, David a Stuart yn eu hiraeth. Cynhelir Noson Caws a Gwin gan Bwyllgor Canser UK Treorci ddydd Iau, 21 Mai. Yn ogystal â sesiwn Bingo bydd adloniant yng nghwmni'r digrifwr poblogaidd. Phil Howe [Barry Island]. Gellir prynu tocynnau £5 gan aelodau'r pwyllgor.

CWMPARC

Roedd gweithgareddau newydd ar gyfer plant yn dechrau yn Neuadd y Parc ar 26 Ebrill yn cyn-

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN nwys dodgeball, circuits, badminton, gweithgareddau dan do a tu fa's. Mae'r rhain yn cael eu cynnal bob dydd Iau, a'r gost fydd £1.50 y sesiwn. Mae'r gweithgareddau ar gyfer plant 5 - 8 oed, 4:00 - 5:00 a 9 11 oed, 5:00 - 6:00.

Mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol y Parc wedi treulio 3 diwrnod cyffrous yng Ngwersyll yr Urdd, Llangranog. Gwnaethon nhw nofio, tobogan, marchogaeth ceffylau, sgio, beiciau cwad, dawnsio gwerin a llawer mwy! Ro'n nhw'n ffodus iawn gyda'r tywydd, roedd hi'n heulog trwy gydol yr arhosiad. Ro'n

parhad ar dudalen 8

5


SUSAN DAVIES 1945 - 2015

Tristwch i bawb yn yr ardal oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Susan Davies, Ynyswen. Susan oedd trysorydd Y Gloran a hi hefyd a ofalai am gyllid cangen Treorci o Blaid Cymru, gwaith a gyflawnodd yn gwbl effeithiol a diffwdan dros nifer o flynyddoedd.

EDWARD HANCOCK 1923 - 2015

Yn 92 oed, bu farw Edward (Ted) Hancock, Stryd Bute, Treorci ar ôl oes hir, brysur a gwasanaethgar. Ganed Ted, yn fab i gigydd yn Nhreherbert yn 1923. O

Ganed Susan yn Oldham, Manceinion cyn symud yn blentyn ifanc i Sir Fôn lle y derbyniodd ei haddysg yn Llangefni cyn symud ymlaen i goleg hyfforddi athrawon yn Llundain. Yno, sylweddolodd yn fuan nad oedd hi am ddilyn gyrfa mewn addysg a symudodd yn ôl i Ynys Môn. Un o'i diddordebau oedd y theatr ac wrth weithio yn Theatr Fach Llangefni y cyfarfu â'i phriod, Huw oedd yn astudio ar y pryd ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl priodi, symudon nhw i Wlad yr Haf lle roedd Huw wedi cael swydd yn athro ond ymhen amser wedi iddo gael swydd yn ôl yn y Rhondda, ymgartrefodd

y ddau yn Nhreherbert cyn symud yn ddiweddarach i Ynys-wen. Yn y chwedegau, bu Susan yn weithgar iawn yn CND (Cymru) a safodd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Nhreherbert. Bu'n gweithio am beth amser yn y Swyddfa Les a hefyd yn fferyllfa Geraint Davies. Wedi geni ei merch, Nia, fodd bynnag, gofalu am y cartref oedd ei phrif ei dyletswydd. Roedd gan Susan gydwybod gymdeithasol gref ac er taw Saeson oedd ei rhieni, golygai'r iaith Gymraeg lawer iddi. Ymgymerodd â chadw cyfrifon Y Gloran ac adeg etholiadau lleol, hi oedd cynrychiolydd ymgeiswyr Y Blaid yn Nhreorci. Pa ddyletswyddau bynnag yr ymgymerai â nhw,

gwnâi hynny â graen ac arddeliad a bydd y bwlch ar ei hôl yn un anodd i'w lenwi. Yn sicr, bydd bywyd Cymraeg Rhondda Uchaf yn dlotach o'i cholli. Diolchwn am ei gwaith, am ei hargyhoeddiadau cadarn, am ei diwydrwydd tawel a'i hagwedd bositif hyd yn oed yn wyneb afiechyd blin. Er bod colled pawb ohonom yn fawr, mae'r golled ar yr aelwyd yn fwy ac estynnwn ei cydymdeimlad cywiraf i'w gŵr, Huw, i Nia a Kath, Mari a Math a rhown ddiolch am y fraint o gael cerdded rhan o ffordd fywyd yng nghwmni Susan. 'Mae'n well byd y man lle bot, - mae deunydd Fy holl lawenydd, fy nghyfaill, ynot.'

Ysgol Penyrenglyn ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Porth aeth ymlaen i Goleg y Drindod, Caerfyrddin lle yr ymgymhwysodd yn athro cynradd. Yn anffodus, torrodd y rhyfel ar draws ei gynlluniau ac yn 19 oed ymunodd â'r fyddin. Cafodd ei ddewis i ymgymhwyso'n swyddog ac erbyn diwedd y rhyfel roedd e'n Uchgapten [Major]. Dewisodd wasanaethu gyda Byddin India a gwelodd frwydro ffyrnig yn Burma, yn enwedig, gan gymryd rhan yng ngwarchae Imphal a'r frwydr i

gipio Rangoon. Ar ddiwedd y rhyfel, bu'n dysgu am ychydig yn Ysgol Albany Rd, Caerdydd cyn dilyn cwrs diploma mewn ymarfer corff yng ngholeg Dinas Caerdydd oedd yn arbenigo yn y pwnc. Oddi yno, ymunodd â staff Ysgol Fodern Bronllwyn, Y Gelli, cyn symud yn ôl iw hen ysgol yn y Porth, Yn fuan, adnabyddwyd ei ddawn fel athro a chafodd ei ddyrchafu'n drefnydd ymarfer corff dros y Rhondda i ddechrau ac wedyn dros Forgannwg Ganol. Ar ben ei ddyletswyddau proffesiynol, rywfodd neu'i gilydd, ffeindiodd Ted amser amser i raddio yn y celfyddydau yn y Brifysgol agored. Trwy gydol ei oes, bu Ted yn weithgar mewn pob math o fudiadau lleol gan gynnwys

Cymdeithas Swyddogion y Fyddin a'r Lleng Brydeinig, ond wedi iddo ymddeol, cynyddodd ei weithgarwch yn y cyfeiriad hwn. Roedd yn aelod selog o Gymdeithas henoed Treorci a'r Fforwm 50+ ac yn sgil ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru yn 1999 daeth yn llywodrathwr ar Ysgol Gynradd Treorci a'r Ysgol Gyfun. Roedd yn aelod gweithgar ac uchel ei barch o Gyngor RhCT, gan gadeirio'r Pwyllgor Archwilio o 1999 - 2012. Doedd dim pall ar ei egni a'i frwdfrydedd, hyd yn oed pan oedd yn ei 80au. Bu'n organydd yn Gosen a Bethlehem a bu'n gefnogwr selwg i rygbi ysgolion y Rhondda a Chlwb Rygbi Treorci. Bydd bwlch mawr yn yr ardal ar ôl Edward, ond diolchwn iddo am ei holl

+


BYD BOB

Y mis hwn mae Bob yn rhoi cynnig arbennig i chi. Gobeithio y bydd rhai ohonoch yn manteisio ar ei haelioni! Ydw i wedi sôn wrthoch chi am fy Ewyrth Dai o Dynewydd? Wel, roedd Dai yn filwr yn yr Ail Ryfel Byd ac ar ôl iddo fe adael y fyddin fe weithiodd fel mecanig mewn garej yn Nhreherbert. Un diwrnod, fe ddywedodd ei fam wrtho, "Edrycha, Dai, rwyt ti'n dod nol o'r gawith bob nos yn olew i gyd, ond dwyt ti ddim yn ennill llawer o arian o gwbl. pam dwyt ti ddim yn ceisio ymuno â chwmni olew fel BP neu Shell. Fe fyddi di'n gweld y byd ac efallai yn gwneud dy ffortiwn

MRS EILEEN LONG MBE

Yn dawel ar ddydd Sul Ebrill 19, bu farw Mrs Eileen Long MBE. Cynhaliwyd yr angladd yng nghapel Carmel Tre-

weithgarwch a'i frwdfrydedd heintus oedd yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom. Llwyddodd i heneiddio heb ymagweddu'n henaidd o gwbl.

hefyd." A dyna beth wnaeth Dai. Ymunodd e â chwmni mawr a theithio o faes olew i faes olew a chael ei ddyrchafu'n rheolaidd nes ei fod yn gwisgo siwt gostus, lwyd ac yn eistedd ar fwrdd cyfarwyddwyr y cwmni. Phriododd e ddim. Pan ymddeolodd, fe benderfynodd setlo i lawr ar ynysoedd y Seychelles (er mwyn osgoi talu trethi, efallai). Ond roedd e'n hiraethu am Gymru am weddill ei fywyd. Roedd ganddo dŷ enfawr ac fe ddaeth yn ôl i Lundain ar un achlysur ac archebu bwrdd snwcer i lenwi un o'i stafelloedd. Ond fe rodherbert ar 6 Mai. Talwyd teyrnged iddi ar ran y teulu gan Natasha Foster – swyddog heddlu yn y gymuned a hefyd gan Mr John Evans, trysorydd Carmel ar ran swyddogion ac aelodau’r capel.

Ganwyd a magwyd Eileen yn Nhreherbert a bu’n byw yno ar hyd ei hoes ar wahân i’r cyfnod pan aeth i Goleg Cartrefle, Wrecsam i hyfforddi i fod yn athrawes. Pan ddychwelodd i’r Rhondda, treuliodd ei gyrfa yn ysgol gynradd Dunraven, lle bu’n dysgu cenedlaethau o blant am 38 o flynyd-

dodd e orchmynion manwl am nweuthuriad y bwrdd. "Dydw i ddim eisiau bwrdd gwyrdd, ond bwrdd coch - er cof am Gymru." meddai wrthyn nhw. "A dydw i ddim eisiau peli crwn ond peli hirgrwn fel peli rygbi, fy hoff sbort. Ac rwy eisiau twmpath yng nghanol y bwrdd i f'atgoffa i am fynydd Pen-pych yng Nghwm Rhonddaq. O, a dydw i ddim eisiau pocedi o gwbl, achos yn

doedd. Ym 1995 enillodd hi’r MBE am ei gwasanaeth i addysg yn y Rhondda. Mae ei brawd, Ron yn cofio’r achlysur ym Mhalas Buckingham ac Eileen yn dweud “It was an experience I shall never forget and I will forever be grateful that I was given the opportunity to receive the medal on behalf of all the hard working teachers of the Rhondda.” Roedd hi’n briod â’r Parch Jeffrey Long am dros hanner cant o flynyddoedd, tan ei farwolaeth e ar ddechrau 2014.

Fel y dywedwyd yn y gwasanaeth angladdol, roedd Eileen yn Gristion yng ngwir ystyr y gair. Roedd hyn yn amlwg yn ei bywyd bob dydd. Roedd hi’n Gristion ymarferol – yn barod i helpu pawb ar bob achlysur. Roedd hi’n aelod o Gapel Carmel, Tre-

ystod fy ieuenctid yn y tridegau, roedd fy mhocedi wastad yn wag." Roedd Dai yn falch iawn o'i 'ffoledd', a byddai'n gwahodd ei ffrindiau i mewn i'w weld yn yn yr ystafell snwcer yng nghefn y tŷ. Bu farw fy ewyrth ar y cyntaf o Ebrill eleni yn naw deg mlwydd oed. Rydw i newydd glywed fy mod wedi etifeddu ei fwrdd snwcer ac ar hyn o bryd mae e ar ei ffordd i Brydain ar long. Yn anffodus, does dim lle 'da fi gartref i'w gadw e. Felly, annwyl ddarllenydd, os ydych chi'n nabod rhywun sydd eisiau prynu bwrdd snwcer coch heb bocedi, ond gyda pheli hirgrwn a thwmpath yn ei ganol, cysylltwch â golygydd Y GLORAN cyn gynted â phosib. herbert lle roedd hi’n organyddes ac yn ddiacon. Gwnaeth gyfraniad gwerthfawr i fywyd y capel. Bob nos Sul byddai’n dod gyda llond bocs o deisennau hyfryd i’r aelodau eu mwynhau ar ddiwedd yr oedfa. Roedd hi wrth ei bodd yn mynychu boreau coffi bob dydd Mawrth. Yn ogystal â hyn, roedd hi’n canu’r piano yn yr “English Congregational” yn Nhon Pentre bore Sul. Bu’n weithgar iawn yn y gymuned leol. Roedd hi’n aelod o’r WI yn Nhreherbert lle roedd yn arfer cyfeilio i’r côr. Bydd colled mawr ar ei hôl yng Ngharmel ac yn y gymuned leol. Rydym yn cydymdeimlo â’i brawd Ron a’r teulu i gyd yn eu galar. Sian Davies

7


llynedd, pan ddaeth e o hyd i fathodyn o oes y Celtiad. Ewch i www.raremdclub.co.uk i ffeindio ma's mwy am anturiaethau'r clwb.

nhw'n gallu cerdded o'r gwersyll i lawr i'r traeth, a threulio amser yno. Diolch i'r athrawon dewr, Mr Williams, Miss Lewis, Mr George a Mr Arthur am fynd gyda'r plant!

Mae Phil Wilde, Conway Road wedi dod o hyd i ddarn arian aur wrth

8

iddo fe ddefnyddio'i ganfodydd metel ym Mro Morgannwg. Mae'r darn arian yn dangos wyneb George IIII, gyda'r dyddiad "ANNO 1824" ar y cefn. Ffeindiodd Phil y darn ar fferm ar bwys Llancarfan ym mis Ionawr. Mae e'n aelod o Glwb RARE, sef Rhondda Artifacts and

Research Enthusiasts. Roedd Phil yn lwcus y

Cafodd plant Ysgol y Parc syrpreis hyfryd ar brynhawn 26 Mawth, pan ddaeth Shellyann Evans (The Voice, BBC1) i berfformio yn yr ysgol. Mae Shellyann yn dod o Gwmparc yn wreiddiol, ond mae hi'n byw yn Abertawe nawr. Mae ganddi hi disg sengl newydd ma's, 'Crazy', a


chanodd hi'r gân yn yr un neuadd lle roedd hi'n arfer eistedd yn blentyn! Mae Mr David Williams, y prifathro, yn cofio dysgu Shellyann pan oedd hi'n ddisgybl yn yr ysgol. Roedd yn brynhawn bythgofiadwy i bawb!

Llongyfarchiadau i Caitlin Williams (10) a William Bowen (9), Ffordd Conway, am gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerddor Ifanc Côr Meibion Treorci. Cynhaliwyd y noson yn neuadd Ysgol Gyfun Treorci ar 25 Mawrth. Roedd dau enillwr, Emily Richards, Ysgol Gynradd Tonyrefail, a oedd yn canu, a Grace Jones, Ysgol Gyn-

radd Oaklands, a oedd yn chwarae'r ffliwt.

Mae teulu Jayden Butler Roach eisiau dweud diolch i bawb am eu caredigrwydd a chyfraniadau iddo fe. Mae Jayden, 5 oed, yn cael triniaeth yn yr Ysbyty

Athrofaol Cymru am gancr hepatoblastoma, sy'n effeithio ar yr afu. Bydd e'n teithio i ysbyty yn Birmingham yn fuan, i gael profion, ac wedyn i aros am drawsblaniad. Mae Jayden yn ddisgybl yn YGG Ynyswen, lle mae ei frawd bach Jacob,

4 oed, yn mynd hefyd. Mae Mam Jayden, Eve Roach, wrth ei bodd gyda'r negeseuau dymuniadau gorau i'r teulu gan ffrindiau, yr ysgol, a'r gymuned letach. Mae Mam Eve, Beryl Jones, yn helpu ma's trwy ofaluam Jacob trwy'r cyfnod anodd hyn. Mae Jayden yn fab i Joshua Butler, ac yn ŵyr i Leighton a Liz Butler, Morgan Terrace. Dymuniadau gorau i ti Jayden, a brysia i wella.

Daethpwyd o hyd i hen olwyn o bwll glo'r Parc. Mae'r olwyn troeog wedi bod dan gofal dyn yng Nghwmparc. Yn ddiweddar, clywodd Steven Waite, Vicarage Terrace, am yr olwyn, ac mae e

9


wedi codi arian i roi'r olwyn ym maes chwarae Ysgol y Parc, fel cofeb i lowyr y pwll glo. Mae Steven yn credu bod e'n bwysig i blant yr ardal dysgu am eu hanes, a hanes Cwmparc. Yn y dyfodol, mae'r ysgol yn gobeithio cynnal seremoni fel rhan o brosiect hanes. Bydd mwy o fanylion nes ymlaen. Os dych chi'n nabod rhywun a oedd yn gweithio ym mhwll y Parc, neu os hoffech chi mynychu'r seremoni, rhowch gwybod i ni.

Mae sesiynau gym Mam a phlentyn ar gael yn Neuadd y Parc, bob dydd Iau, 6:00 - 8:00. Mae'n addas i blant 12oed+. Mae pob sesiwn yn £2 y plentyn, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddod gyda rhiant. Os nad yw'r rhiant yn aelod o'r gym bydd y sesiwn yn £3 iddyn nhw. (Mae aelodaeth misol y gym yn £15)

Mae aelodaeth gym ar gael nawr i blant 12oed+. Ffoniwch 772044 am wybodaeth.

Mae caffi Neuadd y Parc yn cael gegin newydd y mis 'ma. Mae'r caffi wedi bod yn boblogaidd iawn diolch i'r wirfoddolwyr, sy'n gweithio mor galed. Bydd lluniau'r caffi newydd mis nesaf.

10

TON PENTRE

Pob dymuniad da i Graham Davies John, Tŷ Ddewi, sy wedi bod nôl yn yr ysbyty'n ddiweddar yn derbyn triniaeth. [Gol.] Dathlwyd Diwrnod Gweddi Gwragedd y Byd yn Eglwys Sant Ioan eleni pan ddaeth aelodau capeli ac eglwysi'r cylch at ei gilydd i gynnal gwasanaeth. Cymerwyd rhan gan aelodau'r gwahanol gapeli.

Cafwyd gwledd o ganu a dawnsio yn Theatr y Ffenics pan gyflwynwyd perfformiadau o'r sioe gerdd 'Grease' gan Gwmni ieuenctid Act 1. llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.

Yng nghyfarfod mis Mawrth o'r Clwb Cameo, cafwyd y pleser o gwmni côr iau Ysgol Ton Pentre. Yr arweinydd oedd Mrs J. Jones gyda Mr J. Roberts yn cyfeilio. Cyflwynodd y plant raglen amrywiol a mwynhaodd yr aelodau luniaeth yn Nhafarn

Fagin's ar ôl y gyngerdd. Mwynhaodd pawb eu Te Gwanwyn a mawr yw eu diolch i'r plant a'u hathrawon am wneud yr achlysur yn un arbennig. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Carole Hussey, Maendy Crescent. Roedd Carole yn adnabyddus ian yn yr ardal am iddi weithio am flynddoedd yn siop fwydydd wedi rhewi Hutchings a hefyd yn aelod ffyddlon o Eglwys Sant Ioan. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w gŵr, Robert a'r teulu. Cofiwn hefyd am deulu Mrs June Raby, Heol Maendy a chydymdeimlo â nhw oll yn eu profedigaeth ddiweddar. Bydd Cwmni Theatr Max yn cyflwyno drama boblogaidd Noel Coward, 'Blythe Spirit' yn Theatr y Ffenics rhwng 8 - 11 Mehefin. Gellir sicrhau tocynnau, £8.50 trwy ffonio Trina ar 422202. Cyflwynir rhodd i Brosiect Ymchwil i Liwcemia o werthiant tocynnau sioe nos Lun. Yn anffodus, daeth record clwb pêl-droed Ton Pentre o beidio â cholli i ben pan chwaraesant yn erbyn tîm Hwlf-

fordd [Haverfordwest] sydd ar fin ennill dyrchafiad i'r Brif Adran. Y sgôr oedd 4-1 a Hwlffordd yn fuddugwyr teilwng iawn ar y dydd. Nodwch ddydd Sadwrn 11 Mehefin yn eich dyddiaduron, oherwydd dyna ddyddiad Garddwest Eglwys Ioan Fedyddiwr. Mae'r eglwys hefyd yn cefnogi prosiect i sicrhau 100 o diffibrilwyr [defibrillators] i Rondda Cynon Taf. Blin yw gorfod cofnodi marwolaeth dau o drigolion yr ardal sef, Mr Allan John, Parc Dinam a arferai ddarlithio ym Mhrifysgol Morgannwg amr Glanville Morris a oedd bellach yng Nghartref Gofal Llys Ben Bowen. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â theuluoedd y ddau.

Yn ddiweddar, aeth aelodau'r Clwb Cameo ar wibdaith i Lanelli. Cafwyd diwrnod wrth eu bodd gan bawb. Y siaradwr gwadd yn y cyfarfod nesaf fydd Mr Dennis Stallard.

Cydymdeimlwn yn gywir iawn â theuluoedd y canlynol a ymadawodd â ni yn ystod yr wythnosau diwethf: Mrs Sarah Bebb' Stryd Whitfield; Mrs June Neville, Stryd Smith a Mr Ronald Davies, Stryd Parry.


Ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol cynhaliwyd ein hystings blynyddol i ethol Prif Swyddogion yr ysgol ar gyfer 2015 – 2016. Yr ymgeiswyr yw –

Courtney Adams Dione Rose Nia Rees Chloe Wilson Megan Wenham Dafydd Carter Ryan Evans Elis James

yn oer iawn ond unwaith eto roedd hi’n braf. Yn ogystal a'r amrywiaeth helaeth o weithgareddau arferol, roedd y cwrs rhaffau uchel dal yn boblogaidd iawn ymysg pawb. Braf oedd gweld y plant yn ymuno ac yn llwyr ymroi i’r holl weithgareddu nos gan gynnwys bingo, cwis Cymru a dawnsio.

Diolch calonnog i’r staff am roi o’u hamser hamdden mor barod i fynychu’r penwythnos. Diolch hefyd i’r disgyblion am fod mor gwrtais a ddi ffwdan. Pleser oedd cael bod yn eu cwmni ac edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf.

ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi enwau’r pedwar sydd wedi’u hethol cyn bo hir. Pob hwyl i chi gyd!

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

CYMER YN PLEIDLEISIO

Cafodd ddisgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Treorci wledd o anturiaethau eleni eto yng ngwersyll Llangrannog. Aethon ni ar y 13eg o fis Chwefror gyda bysiau llawn disgyblion brwd a nifer o staff cyffrous. Roedd digon o fwrlwm i’w glywed dros y gwersyll drwy’r penwythnos. Roedd y tywydd

YSGOLION

YSGOL GYFUN TREORCI

Llangrannog llawn hwyl !

11


Llongyfarchiadau mawr i Emily Hoare o 7R ar ei llwyddiannau diweddar yn y pwll nofio. Enillodd Emily, sydd wedi bod yn nofio ers yn saith mlwydd oed, tair râs ym Mhencampwriaeth Nofio Cymru yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr Emily!

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Emily yn Serennu yn y pwll

Iestyn – Capten Cymru

Llongyfarchiadau mawr i Iestyn Harris, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 11, ar gael ei ddewis yn gapten tîm dan 16 Cymru yn erbyn Yr Alban mewn Gwyl Rygbi Ryngwladol yng ngholeg Wellington, Llundain a gynhaliwyd yn ystod Gwyliau’r Pasg. Dyma anrhydedd arbennig ac haeddiannol iawn i’r chwaraewr dawnus hwn!

Ysgol Gyfun Cymer Rhondda yn Cipio'r Dwbl

Cyn y gwyliau, bu timau rygbi merched blynyddoedd 7&8 a 9&10 yn cynrychioli'r ysgol mewn twrnament rygbi cyffwrdd Rhondda Cynon Taf. Dangoswyd sgil a dyfalbarhâd drwy gydol y dydd tra'n cystadlu yn erbyn pymtheg ysgol. Cafwyd buddugoliaeth gyfforddus i flynyddoedd 7&8 yn erbyn Ysgol Uwchradd Aberdar yn y rownd derfynol a bu brwydr hyd at y funud olaf yn erbyn Ysgol Porth i flynyddoedd 9&10. Llongyfarchiadau enfawr i'r merched i gyd!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.