y gloran
1984 Streic Fawr 1984 - gweler tud 4
20c
golygyddol l Gobeithiwn y bydd pawb yn cefnogi ymgyrch ddiweddaraf Cyngor Rhondda Cynon Taf [RhCT] i gosbi perchenogion cŵn sy'n gwneud eu baw mewn mannau cyhoeddus ynghyd â rhai sy'n gollwng sbwriel a thipio'n anghyfreithlon. Penderfynodd y cyngor gyhoeddi lluniau troseddwyr ar y we er mwyn eu hadnabod ac yn barod cafwyd hyd i 10 ohonynt gyda nifer o rai eraill o dan amheuaeth. Bob blwyddyn mae'r bobl anystyriol hyn yn costio dros filiwn o bunnau i'r
2
Cyngor, arian a allai fod wedi cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus. Teitl y yr ymgyrch yw 'Pwy wnaeth e?' ac mae galeri o bobl dan amheuaeth i'w gweld ar wefan y Cyngor. Mae llwyddiant yr ymgyrch yn bwysig i ddelwedd gyffredinol yr ardal. Fel y dywedodd yr aelod cabinet, Ann Crimmings sy'n gyfrifol am yr ymgyrch, "Rwy'n annog y cyhoedd i roi unrhyw wybodaeth sy gyda nhw i'r tîm. Gyda'n gilydd, fe allwn ni wneud Rhondda Cynon Taf yn fwrdeistref sirol i ymfalchio ynddi - ac yn lle y bydd pawb eisiau
y gloran
tachwedd 2015 YN Y RHIFYN HWN
byw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef." Yn ogystal â'r gost ariannol o glirio ar ôl y bobl hyn, mae eu gweithredoedd yn gallu peryglu iechyd y cyhoedd. Gall plant, er enghraifft, godi afiechydon o'r baw cŵn yn ein parciau a'n meysydd chwarae ac mae gwaredu defnyddiau fel asbestos yn anghyfrifol yr un mor beryglus. Y broblem bennaf sy'n wynebu'r Cyngor yw cael hyd i dystiolaeth bendant am y troseddwyr am nad yw'r cyhoedd ar y cyfan yn barod i dystio yn eu herbyn. Yn y cwarter di-
1984...1-3 Golygyddol...-2-3 Vic Davies...3 Streic 1984...4-6-7 Newyddion Lleol...5-10 1984...-6 Byd Bob...-7 Cyngerdd Sul y Cofio/GymGym...10 Ysgolion..11-.12
wethaf, er enghraifft, er bod 735 hysbysiad cosb benodedig wedi eu cyflwyno a 472 o rybuddion, doedd dim un ohonynt am gŵn yn baeddu. I ddatrys y broblem fawr hon, mae angen help pob un ohonom ar y Cyngor.
drosodd
Ac yntau'n 98 mlwydd oed, bu farw Vic Davies, un o hoelion wyth Plaid Cymru yn y Rhondda, yng Nghartref Gofal Pentwyn, Treorci, ddydd Llun, 19 Hydref. Ganed Vic yn Nanteris ger y Cei Newydd, Ceredigion yn 1917, ond ar ôl cael ei fabwysiadu gan Mr a Mrs Tom Thickins, Ystrad Rhondda, cafodd ei fagu yn y cwm hwn. Talai deyrnged bob amser i'r gefnogaeth a'r cariad a dderbyniodd ar aelwyd ei rieni maeth ac yn ei flynyddoedd cynnar arddelai eu cyfenw, Thickins cyn troi nôl yn ddiweddarach at Davies, enw gwreiddiol y teulu. Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Ramadeg Tonypandy, ymunodd Vic â'r
golygyddol parhad Mae ymgyrch 'Pwy wnaeth e?' wedi ei dechrau rai wythnosau ar ôl i 38 o bobl ymddangos o flaen llys Ynadon Pontypridd am beidio â thalu eu Hysbysiadau Cosb Benodedig gwreiddiol. Cyfanswm eu dirwyon oedd £14,245 ac roedd rhaid i 27 ohonynt dalu £560 yr un gwers ddrud iawn! Yn ogystal â'r gosb sylweddol, bydd gan bob troseddwr gofnod troseddol ar ei record. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch hon, fydd hefyd yn cynnwys rhai sy'n taflu bonau sigarets, yn newid agwedd pobl at yr amgylchedd. Mae'r fideo yn trosglwyddo neges glir i bawb na allan nhw ddianc ac y bydd y Cyngor yn gweithredu'n llym yn erbyn pawb sy'n difwyno'r fwrdeistref. Ewch at y wefan, gwyliwch y fideo a gwnewch eich rhan i wneud y Rhondda'n lanach ac yn fwy diogel i bawb. Golygydd
VIC DAVIES
Llu Awyr ac yn ystod cyflawni ei wasanaeth milwrol y cyfarfu ag Irene, ei wraig, a hanai o Hull. Ar ddiwedd y rhyfel, cafodd nifer o swyddi gan gynnwys gweithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn [M.O.D], cynrychioli cwmni a gweithio fel mecanig mewn garej cyn cael ei benodi'n ddarlithydd yng Nghleg Technegol Rhydyfelin. Dechrau Gwleidydda Erbyn hyn roedd e wedi ymgartrefu yn Prospect Place, Treorci ac roedd ganddo dri o blant, John, y diweddar Peter ac Ann. Yn sosialydd i'r carn, dechreuodd gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth a gweithgareddau'r mudiad gwrthniwcliar, C.N.D. Ymunodd â Phlaid Cymru a chyn bo hir roedd yn ymladd etholiadau lleol ar ei rhan. Digon anodd a dilewyrch oedd pethau i'r Blaid yn y dyddiau hynny gyda gafael y Blaid Lafur yn gadarn ar lywodraeth leol, ond dyfalbarhaodd Vic heb golli ei ffydd
na'i wên. Ddiwedd 1966, bu farw Aelod Seneddol Gorllewin Rhondda, Iorwerth Thomas a chyhoeddwyd bod is-etholiad i'w gynnal ym mis Mawrth, 1967. Yn yr etholiad cyffredinol a gynhaliwyd ryw flwyddyn ynghynt, roedd Llafur wedi ennill 80% o'r bleidlais a phob ymgeisydd arall wedi colli ei ernes. Felly, doedd pethau ddim yn argoeli'n dda i Vic pan gafodd ei ddewis yn ymgeisydd Plaid Cymru. Yn wir, dywedodd George Gale, gohebydd y Daily Express, ar ddechrau'r ymgyrch fod ganddo fynydd i'w ddringo. Tyrrodd pobl o bob rhan o Gymru yma i helpu, gan gynnwys Dafydd Wigley, oedd yn gweithio i gwmni Mars yn Slough ar y pryd. Wrth i'r ymgyrch godi stêm newidiodd pethau'n ddramatig, a phan lanwyd y Parc a'r Dâr i'r ymylon ar gyfer rali y noson cyn yr etholiad, roedd George Gale yn ddigon hyderus i ddefnyddio'r penawd, 'The
Mountain is Moving' i'w erthygl yn yr Express. A'r gwir a ddywedodd, oherwydd torrwyd mwyafrif blaenorol Iorrie Thomas o 17,000 i 2,306! Roedd y canlyniad yn newyddion ledled Prydain, yn rhagflaenu canlyniadau tebyg yng Nghaerffili a Merthyr, ac yn cyhoeddi bod Plaid Cymru yn rym politicaidd yn y cymoedd. Yn wir, priodolai llawer o sylwebyddion y penderfyniad i leoli'r Mint Brenhinol yn Llantrisant i'r llwyddiant hwn. Dal Ati Ar ol yr etholiad, daliodd Vic ati i weithio'n ddyfal, yn ymladd etholiadau lleol yn aflwyddiannus ond yn gosod sylfeini llwyddiant y dyfodol. Doedd e ddim yn honni bod yn gymeriad lliwgar, carismataidd, ond trwy ei ddycnwch di-baid, ei argyhoeddiadau dwfn a'i gymeriad gonest, unplyg, enillodd edmygedd ei gyd-weithwyr, a pharch hyd yn oed gan ei elynion politicaidd. Roedd colli ei ail fab, Peter ac wedyn ei wraig, Irene yn ergydion trwm iawn iddo. ond llwyddodd i gadw'n brysur ac yn siriol gan ymddiddori ym mhopeth oedd yn digwydd yn y gymdeithas o'i gwmpas bron hyd y diwedd. Yn ystod ei flynyddoedd olaf, cafodd ofal a charedigrwydd mawr gan staff cartref gofal Pentwyn. Cydymdeimlwn â'r plant a'u teuluoedd yn eu colled gan ddiolch ar yr un pryd am gael cerdded rhan o'r ffordd yng nghwmni'r boneddwr ymroddedig a chymwynasgar hwn.
3
STREIC FAWR 1984
Tynnu lluniau yw un o brif ddiddordebau Brian Davies o Donypandy. Adeg Streic y Glowyr yn 1984, tynnodd e lawer o luniau sydd erbyn hyn o bwysigrwydd hanesyddol. Diolch iddo am y lluniau a'r erthygl. Aeth y glowyr ar streic yn 1984 yn erbyn bygythiad cau'r pyllau glo. Yr arweinwyr ar y pryd oedd, llywydd yr N.U.M Arthur Scargill , cadeirydd yr N.C.B, Ian MacGregor a’r Prif Weinidog, Margaret Thatcher.
Roedd y streic yma yn wahanol i’r streiciau yn 1972 a 1974 pan oedden nhw wedi mynd ar streic oherwydd bod y gweithwyr y rhai tlotaf ym Mhrydain ar y pryd.
Erbyn 1984 roedd agwedd pobl Prydain wedi newid. Roedd y rhan fwyaf wedi cael llond bol o ddadlau diwydiannol. Roedd llawer o bobl wedi meddwl bod Arthur Scargill ond eisiau ymladd â Margaret Thatcher tra bod eraill yn credu bod Margaret Thatcher eisiau dial achos bod y glowyr wedi dymchwel llywodraeth Edward Heath yn 1974.
Roedd y Cymoedd, gan gynnwys y Rhondda wedi newid hefyd. Nid yr N.C.B. oedd y prif gyflogwr, a hefyd roedd y pyllau glo oedd ar agor o hyd yn cyflogi dynion oedd yn dod o ardaloedd lle roedd y pwll glo wedi cau. Felly, doedd y pwll glo lleol dim yn cyflogi dynion
4
Parhad ar dud 6
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Ganol mis Tachwedd bydd rhannau o felinau gwynt fferm wynt Penycymoedd yn dechrau cyrraedd y safle ar ben y Rhigos. Byddant yn defnyddio mynedfa ger pwll glo'r Tŵr ond mae'n anochel y bydd trafferthion i drafnidiaeth sy'n defnyddio Ffordd y Rhigos. Gobeithir rhoi gwybodaeth am unrhyw rwystr ar raglenni Radio Cymru a Radio Wales yn ôl Cwmni Vattenfall. Gobeithir dechrau codi'r twrbeini yn Ionawr ac erbyn i'r prosiect gael ei orffen, bydd 76 melin dros 500 troedfedd o uchder ar y safle, y fferm wynt fwyaf ar y tir yn Ewrob.
Yn ddiweddar, cynhaliwyd cyfarfod yng nghlwb rygbi Treherbert i drafod y posibilrwydd o ailagor y pwll padlo yn y parc. Dangoswyd llawer o ddiddordeb yn y syniad a'r cam nesaf fydd sefydlu cwmni elusennol i fynd â'r fenter yn ei blaen. Ar 5 Rhagfyr bydd Phil Vickery yn cael ei ordeinio a'i sefydlu'n weinidog cysylltion yng nghapel Blaencwm. Ei rol fydd hyrwyddo gwahanol brosiectau yn y gymuned. Bydd yr oedfa
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD
Y Pentre: MELISSA WARREN yn dechrau am 3pm gyda'r Parch Arfon Jones o'r Eglwys Newydd, Caerdydd yn pregethu.
Ddydd Sul, 29 Tachwedd am 10.45am, bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yng nghapel Blaencwm i gofio'r rhai a fu farw yn ystod y flwyddyn. Cynhaliwyd oedfa debyg y llynedd a brofodd yn fendithiol i'r teuluoedd hynny a golloddd anwyliaid yn ystod y flwyddyn.
Pob dymuniad da i Mrs Maud Jones o Dŷ Saebren sydd yn Ysbyty Cwm Rhondda ar hyn o bryd. Mae Maud, sy yn ei nawdegau, yn hanu o Dreorci ond ers ymgartrefu yn Nhreherbert wedi bod yn aelod selog yng nghapel Blaencwm.
Mae'n siwr eich bod wedi sylwi ar y modd y mae hen dafarn y Castell
wedi newid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ar ei newydd wedd, dyma fydd cartref newydd Clwb y Ceidwadwyr. Mae'r hen glwb yn Heol yr Orsaf ar werth ond nid yw'n sicr eto pryd yr agorir y clwb newydd yn swyddogol. Diolch i Nerys Bowen am y llun. .
TREORCI
Cynhaliwyd parti i ddathlu Calan gaeaf gan aelodau Clwb Bechgyn a Merched Treorci nos Fercher, 28 Hydref. Cafodd pawb amser da.
Bydd Cylch Meithrin Treorci yn cynnal Ffair Nadolig yn Neuadd San Matthew, ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd rhwng 10am - 4pm. Bydd stondinau a gweithgareddau amrywiol a chyfle i gwrdd â Siôn Corn. Croeso i bawb.
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
Mae Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg yn cynnal Arwerthiant Celf y Gaeaf yn Neuadd Abergorci dros dri diwrnod rhwng 26 - 28 Tachwedd. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 10am - 4pm. Mynediad a lluniaeth yn rhad ac am ddim. Croeso i bawb. Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Marilyn Williams, Clos Tynybedw. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i gŵr, Keryl a'i meibion, Matthew ac Andrew yn eu colled.
Cynhaliodd Ysgol Gynradd Treorci eu Gwasanaeth Diolchgarwch yn eglwys Bethlehem ddydd Iau 16 Medi.
parhad ar dudalen 8
5
STREIC FAWR 1984parhadb
lleol ar y cyfan. Roedd y cysylltiad cryf rhwng y pwll glo a'r gymuned wedi diflannu. Felly, roedd y delwau o ddynion yn gadael eu tai a cherdded i bwll glo dan ganu wedi mynd am byth. Roedd agwedd wahanol gan rai o’r bobl yn y gymuned oedd dim yn dibynnu ar ennill eu bywoliaeth yn y diwydiannol mwyngloddio. Roedd y bobl oedd yn erbyn y streic yn gweld y glowr fel gwas sifil mewn gwisg frwnt. Roedden nhw yn cael cyfle i ennill arian , ond yn dewis mynd ar streic heb bleidlais gyfrinachol. Ond roedd pobl eraill yn gwneud eu gorau glas i helpu teuluoedd y glowyr gan roi arian i gronfa ac yn rhoi bwyd i fanciau wyd. Roeddwn i’n byw yng Nghwmclydach ar y pryd a chofiais fod plant y glöwr wedi cael cinio ysgol am ddim, ond cyn bo hir roedd dadl yn y gymuned. Roedd llawer o bobl oedd yn gweithio yn Porth Texiles wedi colli eu swydd pan gaeodd y ffatri yn Nhonypandy. “Pam dydy ein plant dim yn gallu cael cinio ysgol am ddim hefyd” ? medden nhw. Roedden nhw’n grac oherwydd na chawson nhw yr un gefnogaeth oddi wrth y gymuned fel y glowyr. Pan ymwelodd Arthur Scargill â’r Rhondda, cafodd e groeso enfawr. Arweiniodd e orymdaith trwy Dreorci gyda llawer o bobl yn cymryd rhan a phobl eraill, gan gynnwys fi oedd yn cefnogi'r achos yn y dyrfa. Mae'r lluniau yn dangos yr orymdaith ac wedyn yr areithiau ar gae’r Oval, ger gorsaf reilffordd Treorci.
6
BYD BOB
[Sôn am ymweliad diweddar â Llundan, lle y treuliodd rai blynyddoedd yn fyfyriwr, y mae Bob Eynon y mis hwn.]
Rai misoedd yn ôl, fe es i ar drip mewn bws i Lundain i weld parêd rhyngwladol Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Mall. Ar ôl y sioe, fe grwydrais i drwy strydoedd Mayfair ar fy ffordd i Sgwâr Trafalgar a fy hen goleg, King's, yn y Strand. Fe drawais i ar Sgwâr Berkeley yng nghanol y prynhawn, ond doedd dim eos yn canu yno, dim ond grŵp o blant bach yn taflu cerrig at fin sbwriel! Doedden nhw ddim yn poeni neb. A dweud y gwir, roedd yn dda gen i eu gweld, achos does dim
llawer o blant i'w gweld yn y West End fel arfer. Ar y ffyrdd o gwmpas y sgwâr roedd ceir Mercedes a Jaguar yn mynd heibio, ond roedd y plant yn chwarae gêm syml fel yn nyddiau Charles Dickens. Wrth gwrs, mae pethau wedi newid ers i fi fynychu'r brifysgol Es i lan Charing Cross i gael peint yn y dafarn lle roedden ni'r myfyrwyr yn yfed ar nos Sadwrn ar ein ffordd i'r ddawns yn y coleg. Dim siawns gan fod MacDonald's wedi
cymryd lle'r dafarn a doedd dim eisiau bwyd arna i! Felly, fe ddilynais i gamre Dylan Thomas a chael peint (drud iawn) yn ei hoff dafarn, y Salisbury, nid nepell o St Martin in the Fields. A sôn am eglwysi, fy hoff atgof am y trip oedd teithio yn y bws trwy'r cefn gwlad a gweld tyrau eglwysi'r pentrefi bach yn sefyll allan ar y gorwel. I fi, maen nhw'n cynrychioli calon ac ysbryd Lloegr yn well na Sgwâr Trafalgar a'r Mall. Maen nhw'n sefyll allan fel hoelion carreg sy'n cysylltu pentref ac awyr. Daear a Nef. *********** Roedd grŵp o dorwyr
beddau'n gweithio yn y fynwent pan welson nhw ddyn bach yn cerdded heibio. Doedd e ddim yn edrych yn dda o gwbl. "gadewch inni ei ddilyn e," awgrymodd un o'r gweithwyr, "rhag ofn ei fod e'n sâl." Dringodd y dyn bach y llwybr am sbel ac yna stopio wrth chr bedd. Yna, dechreuodd wylo a a dweud dro arôl tro, "O! pam roedd rhaid i ti farw? Pam? Pam?" Fe arhosodd y gweithwyr a'i wylio mewn distawrwydd. O'r diwedd, fe drodd e a mynd heibio iddyn nhw heb sylwi arnyn nhw. "Esgusodwch fi," ebe un o'r gweithwyr yn sydyn. "Pwy sy wedi ei gladdu yno ... eich gwraig chi?" "Nage," atebodd y dyn bach yn drist. "Ei gŵr cyntaf hi!"
7
Cafodd pawb bleser o glywed caneuon a llefaru'r plant a da oedd
8
clywed nifer o eitemau yn Gymraeg. Aeth y casgliad at Gronfa T天
Hafan. Diolchodd Mrs Reynolds, y brifathrawes i bawb am eu cefno-
gaeth.
Llongyfarchiadau i Mia
Price, disgybl yn Ysgol Gynradd Treorci sydd wedi cael ei dewis i chwarae pêl-droed dros dîm dan 9 oed Cymru. Pob lwc i ti ac i'r tîm, Mia!
Y siaradwr gwadd yn Seremoni Wobrwyo Ysgol Gyfun Treorci, nos Iau 22 Hydref, oedd y cyn-chwaraewr rygbi, wrestlwr ac athletwraig, Non Evans. Soniodd am rai o'i phrofiadau ym maes y campau ac anogodd y disgyblion i osod nod i'w hunain ac i helpu ei gilydd i gyrraedd eu hamcanion. Cafwyd adroddiad gan y prifathro, Mr Rhys Jones ac eitmau cerddorol gan bartion a chôr yr ysgol. Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion ar eu llwyddiant.
Mae staff a chwsmeriaid y Lion o dan arweiniad Adrian Emmett, y rheolwr, wedi codi digon o arian i sicrhau bod diffibriliwr ar gael yn y tafarn i'w ddefnyddio pe bai rhywun yn cae trawiad ar y galon. Eu gobaith nawr yw codi arian i brynu blwch priodol i'w gadw y tu fa's i'r adeilad er mwyn iddo fod ar gael i'r cyhoedd ar bob adeg o'r dydd a'r nos. Roedd yn flin gan bawb derbyn y newyddion am farwolaeth Mr Wayne Morgan, Clos Tynybedw ac yntau yn ŵr cymharol ifanc. Cydymdeimlwn â'i weddw, Lynette a'i feibion yn eu profedigaeth. Hefyd, bu farw Mr Alun Lewis, Stryd Regent, swyddog nawdd cymdeithasol cyn ei ymddeoliad. Cofiwn am ei wraig, Marilyn a'i fab, Rhodri yn eu colled.
Unwaith eto mae trafodaethau ar y gweill ynglŷn â dyfodol y ganolfan dosbarthu llythyron y tu ôl i Swyddfa Bost Treorci. Dywedir taw'r bwriad yw symd y gwaith i Gwm Clydach. Mae pryder yn yr ardal ynglŷn ag effaith bosib hyn ar ddyfodol y swyddfa bost ei hun ac ar ansawdd y gwasanaeth i bobl yr ardal.
Manteisiodd llawer o Gymry ar wasgar ar Gwpan Rygbi'r Byd i ddod adre. Un o'r rhain oedd Peter Smith, mab Ken a Hannah Smith, y Siop Dybaco gynt ar y Stryd Fawr sydd ers blynyddoedd yn byw yn Tasmania, Awstralia. Galwodd heibio i weld ei gyfnither, Margaret Beauchamp, Heol Glyncoli nad oedd wedi ei gweld ers hanner canrif.
Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Mairona Harcombe, Stryd Dumfries yn 85 oed. Roedd Mairona wedi bod yn brifathrawes ar Ysgol Fabanod Ton Pentre ac yn weithgar ar Bwyllgor Ymchwil i Gancr Treorci a chapel bethlehe. Cydymdeimlwn â' phriod, David, ei phlant, Catherine, Julia a Gareth a'u teuluoedd.
Cynhelir y gwasanaethau a ganlyn dros y Nadolig yn Eglwys San Matthew:- 24 Rhag., Stori'r Crud 2pm a Chymun Bendigaid am 8pm. Gweinyddir y Cymun Bendigaid fore'r Nadolig am 9am. Croeso i bawb.
CWMPARC
Bydd caffi Neuadd y Parc yn paratoi cinio Nadolig tri chwrs arbennig o 16 - 23 Rhagfyr rhwng 12 - 2 o'r gloch. Rhaid bwcio ymlaen llaw, ond gallwch wneud hyn trwy ffonio 772044.
Mae ei ffrindiau yn anfon pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mrs May Morgan, Stryd Treharne sydd yn Ysbyty Cwm Rhondda ar hyn o bryd. Mae Mrs Morgan yn aelod ffyddlon yng Nghapel y Parc.
Mae tymor y ffeiriau nadolig ar ddechrau. Bydd Ysgol y Parc yn cynnal ei ffair yn neuadd yr ysgol ddydd Mercher, 25 Tachwedd am 3pm ac os collwch chi honno bydd modd ichi fynychu ffair Eglwys Sant Siôr ddydd Gwener, 4 Rhagfyr rhwng 3.30 - 6 o'r gloch. Bydd yr Eglwys hefyd yn cynnal Gŵyl Coed Nadolig o 10 12 Rhagfyr. Cofiwch gefnogi'r achlysuron lleol hyn!
Drannoeth y Nadolig, 26 Rhagfyr, bydd y gantores leol Shellyann yn perfformio yn y Legion. Daw Shellyann o Gwmparc yn wreiddiol a'r llynedd ymddangosodd ar raglen y BBC 'Te Voice'. Mae tocynnau yn £7.50 ac am hynny cewch ddisgo yn ogystal.
Cynhelir y gwasanaethau a ganlyn yn Eglwys San Siôr dros gyfnod y Nadolig;- 24 Rhag. Stori'r Crud am 2pm a Chymun Bendigaid am 10pm; Dydd Nadolig, Cymun Bendigaid am 10.30am; Gŵyl San Steffan, 26 Rhag. - Cymun Bendigaid am 10am.
Y PENTRE
Lee Gilbert oedd yn croesawu pawb i noson o hwyl yng nghlwb Y Lleng Brydeinig i ddathlu Calan gaeaf ar 31 Hydref. Cafodd pawb amser da. Bydd aelodau dosbarthiadau crefft Lemon Blues yn arddangos eu gwaith yn Oriel Giles, Pontyclun o ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd. Maen nhw'n aelodau o www.madeinthevalleys.c om sy'n hyrwyddo datblygiad proffesiynol cynaladwy. Byddai'n werth ichi alw heibio i weld safon y gwaith ac efallai ddod o hyd i anrhegion Nadolig gwahanol. Mae croeso ichi hefyd alw heibio i Lemon Blues ei hun yn Stryd Llywelyn, ddydd Mercher 18 Tachwedd i weld arddangosfa o waith gweu. Bydd ar agor 10-12am y bore, 24pm y prynhawn a 6.308.30pm y nos. Coffi / te / diodydd ar gael. Elw i 9
Tŷ Hafan.
Cynhelir cyngerdd Nadolig Byddin yr Iachawdwriaeth am 7.30pm ar 3 a 4 Rhagfyr. Croeso i bawb. Yn gynharach yn y mis roedd yr aelodau yn anfon anrhegion at blant anghennus yn Rwmania.
TON PENTRE
Cafwyd noson ddiddorol iawn yng nghapel Hope, Y Gelli pan siaradodd
gweinidog y capel, Parch David Morgan am ei daith i Rio de Janero yn Brasil. Dyma'r drydedd waith i Mr a Mrs Morgan ymweld â Rio trwy eu cysylltiad â'r eglwys Gristnogol yno. Eleni, aethon nhw â'u hŵyrion gyda nhw ac ymweld ag ysgol mewn pentref tlawd iawn. Rhoddodd eu hwyrion anrhegion i'r plant. Mae llawer o bobl Brasil nad ydynt yn Gristnogion ac yn dal i gredu mewn vodoo, ffaith sy'n gwneud gwaith yr eglwys yn galed iawn yno. Mae Mr
CYNGERDD SUL Y COFIO
Cafodd cyngerdd Sul y Cofio ei chynnal eleni eto yn ôl yr arfer yng Nghanolfan Chwaraeon Ysrad Rhondda gyda Chôr Meibion Morlais a Chôr Meibion Cambrian yn cymryd rhan ynghyd â Band a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol. Cyflwynwyd yr eitemau gan arweinydd Côr Meibion Pendyrus, Craig Roberts a'r unawdydd oedd merch ifanc a chanddi enw addas iawn ar gyfer yr achlysur, Poppy Davies. Yn ddiweddar, perfformiodd Poppy gydag Owen Money yn 'Babes in the Wood'.
Morgan yn byw yn Resolfen ac mae ef a'i wraig yn weithgar iawn yn helpu'r digartref.
Pob dymuniad da i Mrs Betty Evans, Stryd Dewi Sant sydd yn yr ysbyty ar ôl torri ei choes. Mae ei ffrindiau yn Hebron yn gweld ei heisiau'n fawr ac yn dymuno gwellhad buan iddi.
Bu nifer o deuluoedd yr ardal mewn profedigaeth yn ddiweddar. Estynnwn ei cydymdeimlad cywiraf i deuluoedd y canlynol: Mr Lyn Jones,
Chapel St; Mr Michael Cool, Bailey St; Mr Colin Raby, Heol Maendy; Mrs Ann Owen, Gordon St a Mrs Marion Green, Bailey St. Cafodd aelodau Cameo amser diddorol a hwyliog y mis hwn pan gyfarfyddon nhw am bryd o fwyd gyda'i gilydd yn nhafarn Fagin Diolchwyd iddynt, ynghyd â phawb yn y gymuned, ar ran teulu Mrs Ann Owen am eu rhoddion er cof amdani i Ysbyty Felindre, Caerdydd.
Cafwyd anerchiad gan Faer Rh.C.T., y Cyng. Barry Stephens a chafodd y gynulleidfa gyfle i gyd-ganu rhai o ffefrynnau adeg y Rhyfel megis 'Pack up your Troubles', 'Mademoiselle from Armientieres' a "I's a long way to Tipperary'. Dilynwyd hyn gan wasanaeth coffa a arweiniwyd gan y Parch Haydn England-Simon a'r Parch Philip Leyshon. Diweddwyd y noson gyda'r pibydd, Dave McMinn yn rhoi datganiad o 'Flowers of the Forest' ac ar ôl i bawb ganu'r anthem, cafwyd Ymmadawiad yr Arweinwyr, yr Orymdaith a'r Corau. [Graham Davies John]
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI RHAGLEN 2015 - 2016
2015
Cynhelir y cyfarfodydd yn Hermon, Treorci, nos Iau am 7.15pm
24 Medi Heini Gruffudd [Abertawe] Yr Erlid - Hanes un teulu yn yr Holocaust. [Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2013]
29 Hydref Sioned Williams [Abertawe] 'Pleser a phoen adolygydd'
26 Tachwedd Vaughan Roderick [BBC] William Edwards - Dyn y Bont 10
2016
28 Ionawr Caryl Parry Jones a Geraint Cynan Noson o hwyl a cherdd 25 Chwefror Mererid Hopwood [Caerfyrddin] T.Llew Jones
17 Mawrth Mike Clubb [Pen-y-bont ar Ogwr] Arsenal Pen-y-bont adeg Rhyfel 1939-45
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
YMWELIAD Â’R SYNAGOG
Cafodd dosbarth Addysg Grefyddol Bl 10 gyfle arbennig i ymweld â synagog yn ddiweddar yn rhan o’i astudiaethau. Roedd yn brofiad cofiadwy iawn i’r disgyblion
LLONGYFARCHIADAU DIONNE ROSE - YMGEISYDD LLWYDDIANNUS MISS CYMRU 2016
!Llongyfarchiadau i Dione Rose, ein Dirpwy Brif Swyddog, sydd wedi ei dewis i gynrychioli tîm RhCT yn rownd derfynol cystadleuaeth Miss Cymru 2016! Yn dilyn cyfweliadau drwy gydol misoedd yr haf cafodd Dione ei dewis i gystadlu ar gyfer teitl Miss Cymru 2016. Mae Dione eisoes wedi dechrau ei thaith Miss Cymru trwy gynnal gweithgareddau codi arian ar gyfer yr elusen Miss World 'Beauty With A Purpose', elusen ar gyfer plant dan anfantais.
BLWYDDYN 11 YN CAEL BLAS AR RYDYCHEN Cafodd griw o ddisgyblion Blwyddyn 11 gyfle i ymweld â Choleg Iesu, Rhydychen ar Hydref 12fed. Yn ogystal â chwrdd â myfyrwyr presennol y coleg a chael taith o amgylch y coleg, cafodd y disgyblion gyfle i fynychu darlith hynod o ddiddorol.
CROESAWU BLWYDDYN 5 I’R CYMER Cynhaliwyd ein Noson Agored flynyddol i ddisgyblion Bl 5 ar nos Iau 8.10.15. Roedd yr ysgol yn fwrlwm o gyffro wrth i ddisgyblion ein 5 ysgol gynradd a’u rhieni ymweld ag adrannau’r ysgol a chwrdd â’r athrawon. Gobeithio i bawb fwynhau! Edrychwn ymlaen at groesawu Bl 5 yn ôl cyn hir!
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
TYLER’N SERENNU YN Y PWLL Llongyfarchiadau mawr i Tyler Collins, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 7, ar ei lwyddiant diweddar mewn gala nofio’r Sir – gwych Tyler!