y gloran Dros y blynyddoedd bu'r Loteri Genedlaethol yn gefnogol iawn i'r Gloran ac i sefydliadau eraill sy'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda phwyslais Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio'r dulliau electronig diweddaraf i gysodi papurau bro, daeth yn ofynnol i bawb ohonom brynu'r offer angenrheidiol a'i adnewyddu o dro i dro gan fod y feddalwedd yn dyddio. Yn y cyswllt hwn, bu'r loteri'n gefn i'r Gloran a daeth i'r adwy dair gwaith a'n galluogi i gyhoeddi'r papur hwn yn ddi-dor o 1977 hyd heddiw. Ym mis Medi 2012, bu'n rhaid inni mynd ar ei gofyn unwaith yn rhagor am gymorth a gallwch ddychmyu'r siom a gawsom pan gawsom wybod bod ein cais, y tro hwn, wedi ei wrthod. Mwy o syndod, fodd bynnag, oedd deall y rheswm dros ei wrthod. Mewn llythyr atom, 15 Hydref, dywedwyd,
20c
Y GLORAN A'R LOTERI GENEDLAETHOL BUDDUGOLIAETH BWYSIG 'Roedd eich cais yn aflwyddiannus oherwydd y rhesymau a ganlyn: Disgwylir i brosiectau weithredu'n ddwyieithog er mwyn cwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg a Saesneg. Gan fod y papur bro'n cael ei gyhoeddi'n Gymraeg yn unig, nid yw eich prosiect yn cwrdd â'r gofyniad hwn.'
Oblygiadau Ehangach Os oedd polisi'r Loteri Genedlaethol wedi newid mor sylfaenol, roedd yn amlwg y byddai'n effeithio ar nifer o gyrff yng Nghymru. Nid mater o ddiddordeb i'r Gloran yn unig oedd hwn, ond un a oedd o bwys i Gymru gyfan. Os gwir ein dehongliad o'r dyfarniad, golygai na allai unrhyw gorff weithredu'n unieithog yn y Gymraeg neu, o ran hynny, yn Saesneg! Byddai rhaid i bob cyhoeddiad fod yn gwbl ddwyieithog ac yr oedd ymarferoldeb gwneud hynny o ran cost
yn unig yn ymddangos yn afresymol. Cysyllton ni'n syth â Mary Hughes, y Comisiynydd Iaith a thynnu ei sylw at y newid polisi. Yn anffodus, er cysylltu drachefn, chawson ni ddim ymateb ganddi. O ganlyniad, siaradon ni â Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr 'Golwg' a thrafodwyd y mater yn y cylchgrawn hwnnw ac ar wefan Golwg360. Cydiodd Radio Cymru ac S4C yn y stori yn ogystal a chawsom gyfle i gyflwyno ein hachos. Tro Pedol Yn dilyn yr holl sylw ar y cyfryngau, derbyniwd llythyr pellach ar 22 Hydref yn dweud, 'Yn dilyn yr adborth rydym wedi'i dderbyn oddi wrthych, rydym wedi penderfynu adolygu ein polisiau mewn perthynas â'r iaith Gymraeg. Fel y gwyddoch, mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn anelu at hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd
yr adolygiad yn ystyried ein safbwynt ar hyn o beth a sut y mae'n cael ei gyflwyno'n effeithiol ar draws ein holl raglenni ariannu.' Yn ffodus daeth yr adolygiad hwn i'r casgliad ei bod yn rhesymol i rai cyrff, gan gynnwys papurau bro, weithredu trwy gyfrwng un iaith yn unig a chawsom wybod ar 23 Tachwedd fod y Loteri wedi cynnig grant o £4,490 i'r Gloran at ddiweddaru ein hoffer. Golyga hyn y bydd modd i'r papur barhau i gael ei gyhoeddi a bydd ein newyddion da ni hefyd yn derbyn croeso gan lu o gyrff ar draws Cymru. Trwy'r holl broses o drafod, rhaid talu teyrnged i staff y Loteri Genedlaethol am drafod ac ailystyried ein cais mewn modd cwrtais a hollol broffesiynol ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny. Bydd hefyd yn dda gennym gydnabod y nawdd hwn ynghyd â nawdd Llywodraeth Cymru yn y papur.
golygyddol l
Dyfodol ein Hysbytai Angen Codi Llais
Y Bwrdd Iechyd sy'n gwasanaethu'r adral hon yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf, sydd, yn fras, yn gyfrifol am ardaloedd Merthyr a Rhondda Cynon Taf. Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn cydweithio â byrddau eraill ar draws de Cymru ac yn ymgynghori â'r cyhoedd i edrych ar y ddarpariaeth mewn rhai meysydd arbenigol a hefyd i benderfynu ble i'w lleoli. Y pum bwrdd sy'n cymryd rhan yn yr ymarfer yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Y meysydd dan sylw yw obstetreg (sef gofal y newydd anedig), pediatreg (gofal plant ifainc a'u clefydau), gofal y newydd-anedig a'r adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Mae'r Bwrdd yn pwysleisio taw lleiafrif o achosion difrifol yn y meysydd hyn fydd yn cael eu heffeithio ac y bydd y gwasanaethau arferol i 2
gyd ar gael o hyd yn ein prif ysbytai lleol. Dadleuir ei bod yn angenrheidiol i ganoli rhai triniaethau mewn llai o safleoedd oherwydd prinder staff â'r gallu arbenigol i'w trin. Os digwydd hyn, mae'n dilyn y bydd rhaid i rywrai deithio ymhellach nag y gwneir ar y funud i dderbyn y triniaethau hynny. A dyna yw gofid y cyhoedd ym mhob ardal. Yr prif ysbytai sy'n gwasanaethu de Cymru ar hyn o bryd yw Ysbyty Brenhinol Morgannwg (Llantrisant), Ysbyty'r Tywysog Siarl (Merthyr), Ysbyty Tywysoges Cymru (Pen-ybont ar Ogwr), Ysbyty Singleton (Abertawe) ynghyd â'r ysbyty newydd y bwriedir ei godi ger Cwmbrân a fydd yn disodli Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent. O weithredu'r bwriad o ganoli triniaethau arbenigol, y gred yw y bydd Abertawe, Caerdydd a Gwent yn sicr o gael eu dewis gan adael y tri lleoliad arall i ymladd rhyngddynt â'i gilydd am y gweddill. Y drafodaeth ar hyn o bryd yw pa fodel i'w ddewis, ai pedair canolfan neu bump. Gobaith pawb yw y bydd modd cynnal
y gloran
chwefror2013
YN Y RHIFYN HWN
Y Loteri..1 Golygyddol..2 Thomas Tudor..3-4 Cym Gymraeg-Y Rhigos Y Gornel Iaith..4-9 Newyddion Lleol.. 5-8 Pwt o’n hanes -Kate Roberts yng Nghwm Rhondda..9 Lluniau a Lyndsey..10 Ysgolion..11-12
pump gan y byddai hynny'n amddifadu llai o bobl o'r gwasanaethau pwysig hyn. Ond, ar y gorau, bydd rhaid siomi un ardal. O safbwynt y Rhondda, mae'n bwysig ein bod yn cadw Rhaid sicrhau nad esgus Llantrisant, yn enwedig yr Adran Damweiniau ac yw'r ymarfer presennol i gwtogi ar wasanaethau Achosion Brys. Gwelsom yn ystod mis Ionawr mwy sylfaenol maes o law. Mae'n hanfodol, na allwn ddibynnu ar y felly, bod pawb yn manffyrdd mynyddig ac y teisio ar y cyfnod ymgybyddai cyrraedd Merthyr nghori a fydd yn para tan neu Ben-y-bont ar adefis Mawrth i gyflwyno gau yn amhosibl. Da ein hachos, nid yn unig oedd deall bod Dr Chris trwy ein haelodau senedJones, Cyfarwyddwr Iechyd Bwrdd Cwm Taf, dol, aelodau'r Cynulliad a'n cynghorwyr lleol ond wedi dweud ar goedd mewn cyfarfod yn Nhre- hefyd fel aelodau o'r cyhoedd sy'n dibynnu ar orci nad yw'r adran ally gwasanaethau hyn. Da weddol hon mewn chi, mynegwch eich barn perygl o gau. Rhaid sicrhau ei fod yn cadw at yn gadarn ac yn ddi-ofn gan fod cymaint yn y ei air. Pwysleisir gan y fantol. Bwrdd Iechyd taw Golygydd sicrhau'r safonau gorau posibl yw'r cymhelliant y tu ôl i'r ad-drefnu, ond mae'r cyhoedd yn ymwybodol bod diffyg o £230m yng nghyllidebau 6 o 7 Bwrdd Iechyd Cymru eleni, a bod Bwrdd Cwm Taf Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison ei hun yn gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru £28.1m yn Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN y coch.
Ryngwladol a rhaid wedyn oedd chwilio am swydd. Yn ffodus, llwyddodd i ddod o hyd i waith yn ei fro enedigol, yn gynorthwy-ydd i Reolwr Theatr y Parc a'r Dâr, Simon Davey. O safbwynt y theatr, roedd yn dda gallu penodi rhywun oedd yn gyfarwydd iawn â'r ardal a hefyd yn Gymro Cymraeg. Pan yw'r Rheolwr absennol, mae holl gyfrifoldeb rhedeg y theatr yn syrthio ar Thomas. Ond mae e wrth ei fodd gyda phrysurdeb ac amrywiaeth y gwaith. Ar brydiau, rhaid gweithio oriau hir. Ar noson arferol pan yw ar ddyletswydd bydd yn gorffen tuag 8pm, ond os oes sioe ymlaen, gall fod yno tan hanner nos. Dathlu'r Canmlwyddiant Eleni bydd y theatr yn dathlu ei chanmlwyddiant ac oherwydd hynny bydd yn anarferol o brysur am y misoedd nesaf gyda nifer o gylluniau cyffrous ar y gweill. Ar hyn o bryd mae cyfansoddwr ifanc, Jack White yn gweithio ar gynllun uchelgeisiol, 'Cân yr Adeilad' y bydd grwpiau cerddorol lleol yn ei berfformio o dan ar-
PORTREAD - THOMAS TUDOR JONES
Mae gŵr ifanc o Dreherbert, Thomas Tudor Jones, wedi ei benodi'n Rheolwr Cynorthwyol yn Theatr y Parc a'r Dâr. Derbyniodd Thomas ei addysg gynnar yn Ysgol Gymraeg, Ynyswen, cyn symud oddi yno i Ysgol Gyfun Cymer Rhondda. Yno, chwaraeodd ran lawn ym mywyd cymdeithasol yr ysgol gan brofi cryn lwyddiant fel siaradwr cyhoeddus. Tua diwedd ei gyfnod yno, cafodd ei benodi'n Brif Fachgen yr ysgol ac ymddiddorodd hefyd mewn nifer o fudiadau ieuenctid yn y gymuned. Cafodd ei ethol i Fforwm Ieuenctid Rhondda Cynon Taf a bu'n aelod o Funky Dragon, sef cynulliad pobl ifainc wedi eu tynnu o Gymru gyfan. Gyda disgybl arall o'r sir bu'n gweithio ar Gynllun Sengl Fframwaith ar ran Llywodraeth Cymru gan
ganolbwyntio'n arbennig ar le'r Gymraeg yn y cynllun. Enynnodd y gweithgarwch hwn ddiddordeb Thomas mewn gwleidyddiaeth a phenderfynodd ar ddiwedd ei gyfnod yn y Cymer ei fod am arbenigo yn y maes hwnnw. Aberystwyth a nôl adre' Er mwyn gwireddu ei freuddwyd, aeth i Brifysgol Aberystwyth i ddilyn cwrs gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Roedd yn awyddus i fod mewn awyrgylch Cymraeg ac i ddilyn peth o'i gwrs trwy gyfrwng yr iaith. Oherwydd hynny, ymgartrefodd am y flwyddyn gyntaf yn neuadd Gymraeg Pantycelyn ond ar ddiwedd y flwyddyn honno, symudodd i fflat uwchben tafarn Y Llew Du a chael amser wrth ei fodd yno! Ymhen tair blynedd, graddiodd mewn Gwleidyddiaeth
weiniad John Quirk. Fydd y pensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r theatr, Jacob Rees, ddim yn cael ei anghofio chwaith gyda sioe ddawns 'Hedfa Dychymyg' wedi ei seilio ar ei weledigaeth. Cyflwyniad fydd hwn gan bum grŵp dawns a'i thema wedi ei seilio ar y ffaith bod Rees, ar un adeg, wedi cynllunio awyren. Cyfrennir at y dathlu gan National Theatr Wales a fydd yn perfformio 'Tonypanemonium' o waith yr awdures leol, Rachel Tresize ac mae Simon Davey wrthi'n trefnu prosiect ar ffilmiau a fu mor bwysig yn hanes y Parc a'r Dâr. Ar ben hyn oll bydd prosiect ffotograffiaeth a phermfformiadau gan nifer o'r cwmniau sy'n defnyddio'r adeilad yn gyson, fel Players Anonymous, Spotlight a'r Selsig. Yn sicr, bydd 2013 yn flwyddyn i'w chofio yn hanes y Parc a'r Dâr. Y Dyfodol Wrth drafod gyda Thomas sut y carai e weld y Parc a'r Dâr yn datblygu yn y dyfodol, dywedodd, "Yn sicr, mae eisiau ymestyn y llwyfan a gwella mynediad iddo yn ogystal. Ar hyn o bryd, mae rhaid i bob set ddod i mewn trwy'r fynedfa yn Station Rd. ac mae hynny'n drafferthus iawn. Byddai lifft i godi pethau i'r llwyfan, nid yn unig yn hwylso pethau i'r cwmniau ond
drosodd
3
TRAFFERTH AR HEWL MYNYDD Y RHIGOS
THOMASparhad
hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl anabl. Hefyd, carwn pe bai modd i bobl gyrraedd y bar yn haws nag ydyw ar y funud gan fod i'r ardal honno bwysigrwydd fel man cyfarfod a man trafod." Ers iddo gael ei benodi, mae Thomas wedi bod wrthi'n ddyfal yn sicrhau bod yr holl arwyddion yn ddwyieithog
ac mae e wedi synnu cymaint o blith y perfformwyr a'r bobl sy'n mynychu'r theatr sy'n siarad Cymraeg. Dymunwn iddo bob llwyddiant yn ei swydd newydd mewn adeilad sydd nid yn unig yn eicon yn y cymoedd ond hefyd yn ganolfan gymdeithasol a diwylliannol bwysig i ardal gyfan.
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI
Ailddechreuodd y Gymdeithas ar ôl gwyliau'r Nadolig pan gafwyd cwmni'r darlledwr a'r teledwr Arfon Haines Davies. Siaradodd yn ddiddorol iawn am ei fagwriaeth yn Aberystwyth ac yng Nghlwyd a'i yrfa yn athro, yn actor ac yn gyflwynydd teledu.
4
Bu Arfon ar staff HTV ac ITV am dros 35 mlynedd a chafodd y gynulleidfa luosog hwyl yn gwrando ar ei hanes, yn arbennig wrth iddo sôn am rai o'r troeon trwstan a ddigwyddodd iddo ar y ffordd. Roedd yn dda gweld rhai aelodau newydd yn bresen-
nol. Bydd y cyfarfod nesaf nos Iau, 28 Chwefror pan fydd y gwleidydd Felix Aubel yn annerch ond ei bwnc fydd creiriau [antiques]. Mae croeso ichi ddod ag unrhyw grair i'r cyfarfod os ydych am gael barn arbenigwr arno. Bydd y cyfarfod, fel arfer, yn Hermon, Treorci gan ddechrau am 7.15p.m. Faint o’r gloch yw hi, Ben? Maen nhw’n dechrau am 7.15
Yn ystod y misoedd nesaf bydd cyfyngiadau teithio ar hewl y Rhigos wrth i'r melinau gwynt y bwriedir eu gosod ar ben y mynydd gael eu cludo yno o borthladd Abertawe. Nôl ym mis Tachwedd 2012, cyhoeddodd Cyngor RH.C.T. y byddai'r cyfyngiadau hyn, a fyddai'n cael eu gweithredu tan 31 Mai 2013, yn golygu bor yr hewl ar gau i draffig arferol rhwng 10.15 11.15 a.m. a 1.30 - 2.30 p.m. ar y dyddiau y cludir y twrbeini anferth i'w safle. Dechreuodd y gwaith ddydd Llun, 4 Chwefror ac yn anffodus y bore hwnnw roedd angladd fawr yn mynd draw o Dreorci i Amlosgfa Llwydcoed. Pan gyrhaeddodd yr hers ben y mynydd, cafodd ei hatal. Fel sy'n hysbys, mae amserlen amlosgfeydd yn dynn iawn. Yn Llwyd-
Y GORNEL IAITH
coed caniateir 40 munud ar gyfer pob angladd - 10 munud i gyrraedd, 20 munud i'r gwasanaeth a 10 munud i wacau'r capel. Esboniodd y trefnydd angladdau ei broblem i'r heddlu oedd yno i dywys y traffig a chafodd yr hers a nifer o geir ganiatâd i fynd yn eu blaen. Yn anffodus, fodd bynnag, cafodd llawer o geir oedd yn cludo galarwyr eu hatal ac o ganlyniad methon nhw â chyrraedd yr amlosgfa mewn pryd. Cysylltodd y cynghorwyr lleol â'r Cyngor a Velocita/2020 Renewables, y cwmni o'r Alban sy'n gyfrifol am godi'r twrbeini er mwyn ceisio sicrhau na ddigwydd hyn eto. Mewn ateb a dderbyniwyd, ymddiheurwyd am yr hyn a ddigwyddodd a chynigwyd gwneud cyfraniad i elusen o ddewis teulu'r ymadawedig.
Tri gair sy'n cael eu camddefnyddio'n aml yn y Gymraeg yw CARTREF, GARTREF ac ADREF.
i) Y man lle rydyn ni'n byw yw ein CARTREF. Enw yw CARTREF. Mae ein cartref yn y Rhondda. Mae hi mewn cartref gofal. ii) Adferf yw GARTREF yn dweud lle rydych chi [at home] Wyt ti gartref heno? Roedd e gartref ar y pryd. iii) Adferf yw ADREF hefyd sydd bob amser yn dilyn berf neu ferfenw. Daw Tom adref yfory. Roedd rhaid inni gerdded adref o'r ysgol. Ar lafar weithiau, cymysgir ADREF a GARTREF ac fe glywch chi pobl yn dweud: Maen nhw adref heno.
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Llongyfarchiadau i'r Cyngh. Geraint Davies ar gael ei ethol yn Gadeirydd ar Grŵp Clwstwr y Rhondda Fawr o Gymunedau'n Gyntaf ac i Terry Lewis a etholwyd yn is-gadeirydd iddo. Bydd llwyddiant y rhaglen y byddant yn gyfrifol amdani, sy'n canolbwyntio ar dair thema - Ffyniant, Iechyd ac Addysg - yn bwysig iawn i'r Rhondda Uchaf a dymunwn bob rhwyddineb iddynt yn eu gwaith.
Roedd yn ddrwg gan bawb glywed am farwolaeth un o drigolion hynaf yr ardal, sef Mrs Sulwen Pritchard, Mountain View. Bu Mrs Pritchard, oedd yn 93 oed, yn byw yn yr ardal erioed. Cydymdeimlwn â'i brodyr, Haydn a Bryn a'r teulu oll yn eu colled. Y siaradwr, yng nghyfarfod mis Ionawr o'r W.I. oedd Cennard Davies, Treorci a siaradodd am rai o enwogion ardal Treherbert gan gynnwys teulu Edwards, Tynewydd a'r argraffydd a chyhoeddwr cerddoriaeth adnabyddus, Isaac Jones. Yn oriau mân y bore ar 31 Ionawr, galwyd y frigâd dân i gwt colomennod ym Mlaen-
rhondda lle roedd 300 o glomennod yn clwydo. Yn anffodus, lladdwyd dros hanner ohonyn nhw. Mae'r heddlu o'r farn bod y tân wedi ei gynnau'n fwriadol. mae'r perchennog, Mr Alun Smith, wedi bod yn cadw colomennod ers blynyddoedd ac wedi bod yn llwyddiannus iawn yn eu harddangos ac yn eu rasio. Yn naturiol, mae Mr Smith yn dorcalonnus wrth feddwl bod rhywun yn gallu bod mor greulon ac yn meddwl o ddifrif am roi'r gorau i fagu colomennod am byth..
Mae cwmni Russell a Glaister o Gaerdydd yn awyddus i godi 25 o dai y tu ôl i Deras Delwyn, Blaen-y-cwm. I'w galluogi i wneud hyn, maen nhw wedi gofyn i'r Cyngor newid statws 'Grîn' y Pentref' er hwyluso caniatâd cynllunio. Ym mis Ionawr daeth arolygwr o Adran Cynllunio llywodraeth Cymru i ystyried y cais. Disgwylir clywed canlyniad ei benderfyniad ymhen ychydig wythnosau. Mae'r gwaith o godi melinau gwynt ym mhen uchaf y cwm yn achosi problemau i drigolion yr ardal. Ar rai adegau mae'r hewl ar gau yn gyfangwbl a gyda loriau
enfawr yn yn teithio'n araf dros y mynydd, mae mynd heibio iddynt yn broblem Gofynnodd y cynghorwyr lleol i'r cwmni roi rhybudd rhag blaen i drefnwyr angladdau sydd eisoes wedi wynebu problemau wrth geisio cyrraedd Amlosgfa Llwydcoed.
Mae'n flin iawn gennym gofnodi marwolaeth un o gymeriadau amlycaf pen ucha'r cwm. Bu farw William John Rees (William John y Llaeth) yn Ysbyty Cwm Rhondda yn 95 oed. Brodor o resolfen oedd William John a ddaeth i i fyw ym Mlaenrhondda ar ôl priodi ei annwyl ddiweddar wraig, Gwyneth, a hanai o Dreboeth, Abertawe. I ddechrau, cafodd swydd yn fugail ar Fferm Blaenrhondda ond wedi dwy flynedd daeth cyfle i brynu rownd laeth yn y pentre. Roedd yn waith caled, codi'n gynnar bob bore a chyn dyddiau'r oergell a dim gwyliau o gwbl ar wahân i ddydd Nadolig. Ymddeolodd yn 62 oed a manteisiodd e a'i briod ar eu hamdden i fynd ar nifer o wyliau gyda Chymdeithas Henoed Blaenrhondda. Trwy gydol ei oes, bu William John yn aelod ffyddlon o'i gapel, Tabar-
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN nacl, Blaenrhondda. Wedi i hwnnw gau, mynychai capel y Wesleaid ac yn ddiweddar âi i Gapel Blaencwm lle y ffolai pawb wrth wrando ar ei lais tenor hyfryd. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng nghapel Blaenycwm o dan ofal Mrs Eileen Gardener. Bydd colled fawr ar ôl William John. Cydymdeimlwn â'i blant, David a Meryl, a'r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Syfrdanwyd yr ardal gyfan gan farwolaeth sydyn Mrs Nano Rees, Stryd yr Orsaf. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w gŵr, Phillip, Natalie, ei merch a'r holl deulu yn eu hiraeth. Coffa da amdani. 5
TREORCI
Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion trist am farwolaeth sydyn Alison Searle, Stryd Regent a hithau ond yn 47 oed. Bu Alison yn athrawes yn Ysgol Gynradd Treorci ac roedd yn fam i ddau o blant. Cydymdeimlwn â'i theulu oll yn eu profedigaeth.
Mae Mr a Mrs Leighton Wales, perchnogion siop bapurau Treorci News wedi trefnu deiseb i geisio cael caniatâd i werthu tocynnau'r Loteri Genedlaethol yn eu busnes. Gofynnant am gefnogaeth eu cwsmeriaid i'w cais. Pob dymuniad da i Mrs
6
Nabod y Stryd?
Iris Thomas, Stryd Dumfries sydd gartref ar ôl derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Tua 10 a.m. ddydd Mawrth, 22 Ionawr, yng nghanol storom eira, collodd dros fil o bobl yn Nhreorci eu cyflenwad trydan pan gwympodd coeden a thorri'r gwifrau trydan. Yn ffodus, llwyd-
dwyd i adfer y trydan mewn llai nag awr er mawr ryddhad i bawb. Bu'n amhosibl hefyd i ddosbarthu'r post i rai o'r strydoedd cefn am rai dyddiau. Mae'n ddrwg gennym gofnodi marwolaeth Mrs Gladys Jones, gweddw y diweddar Evan Jones,
gynt o Deras Tynybedw. Cydymdeimlwn â'i merch, Daphne, a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Cynhaliwyd cyfarfod yn Theatr y Parc a'r Dâr, nos Iau, 17 Ionawr, dan nawdd y Blaid Lafur i ystyried y newidiadau arfaethedig i drefniadau'r ysbytai lleol. Cafwyd sicrwydd gan Dr Chris Jones, prif swyddog Bwrdd Iechyd RCwm Taf na fydd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn colli ei hadran Damweiniau ac Achosion Brys. Llongyfarchiadau calonnog i'r cyn-Gynghorydd Edward Hancock ar ddathlu ei ben blwydd yn 90 oed ddechrau'r mis. Mae Ted yn dal yn weithgar iawn, yn en-
wedig yng Nghlwb yr Henoed ac yn y Fforwm 50+. Mae ei holl ffrindiau'n dymuno iddo iechyd a phob rhwyddineb i'r dyfodol.
Tristwch mawr i bawb yn yr ardal oedd derbyn y newyddion am farw Jo Chapman, Teras Tynybedw, a hithau'n wraig ifanc a chanddi ddau o blant yn eu harddegau. Roedd y nifer fawr o bobl a ddaeth i'w hangladd yn dystiolaeth o'i phoblogrwydd. Gwelir ei haeisiau gan lawer. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i theulu a'i ffrindiau.
Mae Cylch Meithrin Treorci'n cwrdd bob bore or wythnos yn festri Hermon, Treorci. Os ydych yn ystyried rhoi addysg ddwyieithog i'ch plentyn, mae croeso ichi alw
heibio am sgwrs gyda'r arweinydd, Melanie Meades unrhyw bryd rhwng 9-30 a 12.30 a.m. Cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil Cancr Treorci cwis llwyddiannus iawn yn nhafarn y RAFA nos Lun, 4 Chwefror pan godwyd bro £300 at Cancer Research UK. Y cwisfeistr, yn ôl yr arfer, oedd Noel Henry a chafodd pawb boson wrth eu bodd. Bydd y pwyllgor yn cynnal rhywbeth hollol wahanol ar pan fydd cwmni o actorion yn cyflwyno noson o ddatrys dirgelwch llofruddiaeth - Murder Mystery. yn y RAFA ar 21 Mawrth.
Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Myra Wilson, gynt o Stryd Regent. Bu Myra'n gweini yng nghantîn yr Ysgol Gyfun am flynyd-
doedd. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w theulu a'i ffrindiau. Y siaradwr yng nghyfarfod mis Chwefror o Sefydliad y Merched [W.I.] oedd Mr Tony Lynch. Cardiff Place. Mae Tony yn gyn-ddyfarnwr rygbi a gweinyddwr addysg. Bydd fferyllfa Sheppard [siop Geraint Davies gynt] yn symud o Stryd Bute lan i'r feddygfa ar ystad ddiwydiannol Ynyswen ar 1 Mawrth. Mae gwaith yn mynd yn ei flaen ar dafarn y Cardiff Arms i addasu stafelloedd a fydd yn eu galluogi i gynnig Gwely a Brecwast i ymwelwyr â'r ardal. Mae Clwb y Ceidwadwyr gyferbyn hefyd wedi ailagor o dan yr enw Tommy's Tavern.
CWMPARC
Diolch yn fawr i Lucy Baik, Heol y Parc, am ei help wrth baratoi rhifynnau diwethaf Y Gloran. Gan ein bod yn disgwyl offer newydd. bu rhaid i'w mam fanteisio ar ei arbenigedd yn y maes a llwyddodd pob rhifyn i weld golau dydd yn brydlon.
Pob dymuniad da i Mr Barrie Watkins, Morgans Terrace, sydd yng Nghartref Gofal Pentwyn ar hyn o bryd. Bu Barrie yn gefnogol iawn i'r Gloran, yn ei ddosbarthu yng Nghwmparc a hefyd yn gweithio'n selog dros y Gymraeg yn ei ffordd dawel ei hun.
Ar hyn o bryd mae India, merch ifanc Shelley a Ryan White, Stryd Tallis yn ddifrfol wael yn yr ysbyty. Yn y pen draw
7
bydd rhaid iddi gael trawsblaniad o fêr ei hesgyrn [bone marrow] ond yn dal i aros am yr union fath sydd ei angen. Mae'r teulu'n annog pawb i roi gwaed a hefyd i ymuno â'r rhestr y rhai sy'n barod i gynnig eu mêr. Ers tro bu trigolion Heol Chepstow yn gofyn i'r Cyngor ddarparu cylchdro ar ben uchaf y stryd i hwyluso troi cerbydau. Er gwaethaf pwyso gan gynghorwyr a thrigolion, does dim yn digwydd hyd yma.
Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth James Johnson Mackintosh, yn 89 oed. Daeth Jim i Gwmparc gyntaf yn aelod o Gatrawd yr Alban oedd yn derbyn hyfforddiant ar y bryniau o gwmpas y pentref, ond yn eironig, treuliodd y rhan fwyaf o'i wasanaeth milwrol yn yr Iseldiroedd! Yno, bu ei gatrawd yn allweddol yn y frwydr i ryddhau Arnhem. Fodd bynnag, dychwelodd Jim i Gwmparc i briodi ei ddiweddar wraig, Margaret ac yma y bu wedi hynny. Cafwyd gwasanaeth coffa iddo dan ofal y Tad Brian Taylor yn Eglwys San Siôr.
Croeso i Dexter. mab newydd Rhia a Jonathan Foxhall, Heol y Parc. Am iddo gyrraedd braidd yn gynnar mae Dexter yn dal yn yr ysbyty. Pob dymuniad da iddo ac i'w rieni ac edrychwn ymlaen at ei weld yng Nghwmparc cyn bo hir.
8
Collodd Eglwys San Siôr un o'i hen aelodau pan fu farw Len George, gynt o Heol Chepstow. Roedd Len wedi bod yn aelod yn yr eglwys ar hyd ei oes. Ymunodd â'r côr yn 7 oed a phara i ganu hyd i'w iechyd ballu. Aeth i mewn i gartref Ystradfechan bedair blynedd yn ôl a derbyn pob gafal yno. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu colled. Un arall a fu farw yn ddiweddar oedd Bobby Brooks, Lower Terrace. Roedd Bobby, oedd yn ŵr gweddw, yn gyn-lowr ac yn adnabyddus yn yr ardal. Am beth amser bellach bu'n derbyn gofal yng Nghatref Pentwyn. Cofiwn am ei deulu a'i ffrindiau yn eu profedigaeth. Cafwyd problemau yn Eglwys San Siôr ddiwedd Ionawr pan dorrwyd y cyflenwad dŵr wrth i'r Bwrdd Nwy gloddio yn Stryd Tallis. Bu'r neuadd heb ddŵr am dipyn gan achosi anhwylustod i'r grwpiau sy'n ei defnyddio, gan gynnwys y Cylch Mam a Phram.
Y PENTRE
Mae dau o drigolion Llys Siloh yn dathlu eu pen blwydd y mis hwn. Pob dymuniad da, felly, i Phoebe Roberts [14 Chwef.] a Frank Rabaiotti [21 Chwef.] gan obeithio y caiff y ddau ddiwrnod i'w gofio a iechyd a hapusrwydd yn y flwyddyn i ddod.
Llongyfarchiadau calonnog i Rhian a Scott, Heol y Pentre, ar enedigaeth eu merch fach, Eleri. Cafodd Eleri ei geni 18 Ionawr yn 8.11 pwys, anrheghyfryd ar ddechrau'r flwyddyn i'w mam-gu a'i thad-cu balch, Siân a Paul a'i modryb, Lowri.
dyn i ddod. Cofiwch fod cyfarfodydd PACT yn cael eu cynnal bob wythnos yn y Ganolfan Dydd, Stryd Llywelyn er bod yr amser yn amrywio. Yr amserau'r mis hwn yw dydd Mercher 13 Chwef. 12 - 1p.m. a'r 20 Chwefror, 3 - 4p.m. Mae croeso i bawb ddod yno i gwrdd â'ch Swyddog Ategol lleol ynghyd â'ch cynghorwyr, Shelley Rees-Owen a Maureen Weaver. Maen nhw i gyd yo i'ch helpu.
Roedd yn flin iawn gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Betty Thomas, Stryd Baglan. Gwelir ei heisiau'n fawr yn y gymdogaeth ac estynnir ein cydymdeimlad cywiraf i'w theulu a'i ffrindiau. Bydd dathl ym Mhencadlys Byddin yr Iachawdwriaeth ddydd Sadwrn a dydd Sul, 23 / 24 Chwefror pan fydd y sefydliad yn dathlu ei ben blwydd yn 134 oed. Mae'n dda gweld bod y Fyddin yn dal i fynd ac yn ffynnu ar ôl yr holl flynyddoedd hyn. Pob dymuniad da i'r dyfodol iddynt barau â'u gwaith clodwiw.
TON PENTRE A’R GELLI
Brysia i wella yw neges ei ffrindiau oll i Dorothy Paddon o Stryd Volunteer a gwympodd a thorri ei chlun yn ddiweddar. Mae hi'n gwella yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Bydd nifer o breswylwyr Tŷ'r Pentre yn dathlu pen blwydd y mis yma sef: Millie Logan [10fed.], Major Bernie Westwood [16eg], Chloe Fletcher [19eg.] a Robert Browning [20fed.] Ein dymuniadau gorau i bob un ohonynt ar gyfer y diwrnod mawr a'r flwyd-
Cafwyd gwledd o ganu a dawnsio yn Theatr y Ffenics pan berfformiwyd y sioe 'Sinderella' gan gwmni ifanc, talentog Act 1. Mae rhyw 30 o bobl ifainc o dan 18 oed yn y cwmni a da yw eu gweld yn mwynhau eu hunain wrth roi pleser i'r cynulleidfaoedd lluosog a aeth i'r tri pherfformiad. Llongyfarchiadau i Mr Rhys Williams a'i dîm sy'n eu hyfforddi. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at eu cynhyrchiad nesaf, 'Grease' a fydd yn cael ei lwyfannu ym mis Ebrill. Nos Iau, 21 Mawrth bydd 'Pawb a'i Farn' yn cael ei darlledu o Ganolfan Chwaraeon Ystrad Rhondda. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r gynulleidfa, ffoniwch Elise Jones, Ysgol Cymer Rhondda ar 680800. Cafodd y Canon Michael
PWT O'N HANES - KATE ROBERTS YNG NGHWM RHONDDA
nofel wedi ei Nhonypandy ac ymladlleoli yn y dodd Morris dri etholiad Rhondda yn ar ran y Blaid, heb adrodd hanes lwyddo i gael mwy na teulu o'r 600 o bleidleisiau yn yr gogledd oedd un ohonyn nhw! Roedd wedi ymgartrefu gany Dr Kate ddosbarth yma yn ystod nos Cymraeg a chafodd dirwasgiad hel- hwyl yn aelod o gwmni bulus dechrau'r drama Kitchener Davies ganrif, ond gan gymryd rhan yn ei ddaeth dim byd ddrama ddadleuol, 'Cwm ohoni. Fodd Glo'. bynnag, mae Tlodi Mae'r ddwy stori fer y Cwmni Theatr Pandy dwy stori fer Y llynedd, ymddanphriod wedi cael swydd adnabyddus, 'Gorymcyfeiriwyd atynt yn gosodd gofiant gan Alan yng nghwmni'r argrafdaith' a 'Buddugoliaeth adlewyrchu cyni a Llwyd i Kate Roberts, un fwyr Evans & Short. Alaw Jim' yn ei chyfrol thlodi'r cyfnod hwn yn o lenorion mwyaf Cyfnod Hapus 'Ffair Gaeaf' wedi eu hanes y Cwm a bu kate Cymru. Cafodd y gyfrol Mewn bywyd a brofodd seilio ar ei phrofiadau yn gweithio'n galed i gryn sylw, yn bennaf am fwy na'i siâr o dristwch, yma. Un o'r rhesymau liniaru trallod teuluoedd fod yr awdur yn trafod siom ac anhapusrwydd, pam nad ysgrifennodd ei hardal gan arddangos agweddau ar rywioldeb mae Kate Roberts yn lawer yn y cyfnod hwn y pryder hwnnw am yr awdures a'i gŵr, Mor- edrych yn ôl ar ei oedd bod cymaint arall eraill oedd yn gymaint ris Williams, ond un o'r chyfnod yn Nhonypandy i'w wneud. Roedd hi'n rhan o'i natur. Dywed pethau mwyaf diddorol i fel gwerddon o hapusrarholi ar ran y Cydmewn ysgrif sy'n trafod drigolion Cwm Rhondda wydd a phrysurdeb. Am bwyllgor Addysg ac yn ei dyddiau cynnar yma, yw ei ymdriniaeth â'i nad oedd ganddi swydd ymweld ag ysgolion le'Cefais i siawns arall i chyfnod yn byw yn Nho- fel y cyfryw, cafodd dled de Cymru wrth ddyfod i wybod am y nypandy. Y rheswm iddi gyfle i sgrifennu, gwlei- wneud hynny. Cymerai dioddef a'r tlodi. Dau ymgartrefu am bedair dydda a chyfranogi o ei gwaith ar ran Plaid Nadolig ar ôl ei gilydd blynedd rhwng Rhagfyr holl fwrlwm cymdeithas Cymru dipyn o'i hamser anfonodd myfyrwyr un o 1931 a Hydref 1935 yn 7 y tridegau. Un o'i hi a Morris. Roedd canneuaddau preswyl Coleg Stryd Kenry oedd bod ei bwriadau oedd llunio gen fach weithgar yn Aberystwyth i mi bentyrrau o ddillad plant wedi eu gwau eu hunain i'w Parhad o Newyddion Ton Pentre rhannu rhwng y teuluoedd mwyaf anghenus. BydShort groeso cynnes ar gyfer bechgyn a dwn yn cael gwybod trwy bobl y gellid dibynnu iawn gan gynulleidfa merched blynyddoedd arnynt pa rai oedd yr achosion mwyaf teilwng, a pha Eglwys Sant Ioan wrth 3,4,5 a 6. Cyfyngir nifer rai a wnai ddefnydd iawn o'r dillad. Un teulu yn byw iddo ddod i'r adwy i gyn- y rhai a dderbynnir i 25 a mewn dwy ystafell a chanddynt bedwar o blant; y nal gwasanaethau yno tra thâl ymaelodi yw £10. tad yn dioddef o glefyd llwch y garreg. Plentyn dall bod y Tad Haydn Simon- Er gwaethaf protestiadau mewn teulu arall; a'r tad yn mynnu mai tlodi oedd England ar ei wyliau yn gan gynghorwyr o bob achos y dallineb.' ystod y tair wythnos diplaid gwleidyddol, mae Ond er gwaethaf profiadau o'r fath, wrth edrych yn wethaf. Swyddfa Heddlu Ton ôl ar ei bywyd, mae Kate Roberts yn gweld y cyfnod Trefnwyd cyfarfod Pentre, yr un olaf yn y hwn yn un o'r hapusaf yn ei bywyd. Hi yw un o'r pwysig i drafod dyfodol Rhondda, wedi cau ei awduron gorau a gynhyrchodd Cymru mewn unrhyw Undeb y Mamau yn ddrysau. Y swyddfeydd iaith a chafodd rhagoriaeth ei gwaith gydnabyddiEglwys Sant Ioan yn heddlu agosaf erbyn hyn aeth rhyngwladol. Byddai'n braf gweld y Cyngor yn ddiweddar. yw'r un yn Abertawe a'r gosod plac glas ar 7 Kenry Street i nodi ei chysyllBob dydd Mercher pencadlys rhanbarthol tiad â'r Cwm. rhwng 3.30 - 4.30p.m. ym Mae Caerdydd! cynhelir dosbarth dawns
9
Moel Cadwgan dan eira
Cyfres Lyndsey Foxhall
Clwb Bechgyn Treorci 1951-2 P. Rees
J Broughton G. Jones M North E. Jones D. Benbow A. Thomas Sidoli E. Buckland J.Hughes P.Rees A. Hughes
Dadlau Chwyrn! Ar nos Lun y 5ed o Dachwedd cystadlodd tri disgybl o Ysgol Gyfun Treorci yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg y Rotari. Roeddynt yn dadlau o blaid ac yn erbyn y gosodiad ‘Cred y tŷ hwn taw gweithred anghyfrifol fyddai gadael i blant dan 13 oed gael cyfrifon Facebook. Catherine Lumby, ein prif
Rhes Cefn
10
Lluniau gan C Davies
David Thomas, Y Gelli yn mynd i fwydo'i ffowls
Rhes Blaen
E.M.Rees L.Foxhall G. Phillips P.D. Parry G. Hughes L Davies J.M.Jones D. Taylor D. Rees
Ysgol Gyfun Treorci
ferch a Sarjent yn ein cadetlu, oedd yn dadlau yn erbyn caniatau plant 12 oed i gael cyfrifon Facebook. Cafwyd pwyntiau dilys ganddi a oedd yn nodi peryglon gadael i blant ifanc ddefnyddio’r we. Disgybl o flwyddyn deuddeg a oedd yn dadlau yn erbyn y gosodiad. Aeth Manon Wigley ati i ddadlau ei bod hi’n hen bryd i ni ymddiried yn ygenhedlaeth nesaf ac i stopio ei lapio mewn gwlân cotwm.
ysgolion a phrifysgolion
Ysgol Gyfun Treorci
mewn gwlân cotwm. Yn cadw trefn ar y ddawy uchod oedd y cadeirydd Owen Kinsey o flwyddyn 11 a llwyddodd i aros yn wrthrychol a chadw rheolaeth ar y drafodaeth chwyrn. Roedd chwech Ysgol Gyfun Gymraeg yn cystadlu yn eu herbyn a gan ystyried mai nhw oedd yr unig ysgol Saesneg, braf oedd gweld y tîm ifanc a newydd yma yn cystadlu ar yr un safon â phawb arall. Yn anffodus ni lwyddwyd i gyrraedd y brig y tro hwn. Er na phrofwyd llwyddiant eleni, hoffwn longyfarch yr ysgolion buddugol a dymunwn
pob lwc iddynt yn y rownd nesaf. Mwynheuodd y disgyblion y profiad yn fawr ac edrychwn ymlaen at gystadlu eto y flwyddyn nesaf.
Gêm Rygbi Cymru V Samoa Ar yr 16eg o fis Tachwedd, cafodd ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Treorci gyfle i weld gêm rygbi rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Samoa. Cyrhaeddodd y disgyblion llawn egni a chyffro ac roeddent yn frwdfrydig i weld gêm ryngwladol. Braf oedd cael gweld y bechgyn yn
chwarae yng nghrys Cymru, yn ogystal â ffefrynnau’r disgyblion fel George North a Leigh Halfpenny. Cafodd y disgyblion brofiad arbennig a llawer o hwyl yng nghwmni’r staff yn y stadiwm yn canu caneuon rygbi gyda'r cefnogwyr eraill. Roedd y gêm yn agos iawn, ond yn y diwedd cipiodd Samoa’r pwyntiau, a'r sgôr oedd Samoa 26 – Cymru 19. Er hynny mwynheuodd pawb y noson yn fawr iawn, gan gynnwys y staff!
Hwyl yr Wŷl ! Ar yr 22ain o Dachwedd, fel rhan o weithgareddau pontio'r ysgol cafodd rai
o ddisgyblion Iaith Gyntaf Blwyddyn 6 y cylch wahoddiad i fynychu panto Cymraeg yn y Muni ym Mhontypridd. Roedd hwyl y Nadolig wedi treiddio i'r uwchradd hefyd gyda disgyblion Iaith Gyntaf Blynyddoedd 7 ac 8 yn awyddus i ymuno â nhw i wylio’r Panto “Sinderella”. Martyn Geraint oedd seren y sioe ac roedd y disgyblion i gyd yn llawn cyffro a bwrlwm wrth wylio’r cymeriadau yn perfformio ar lwyfan y Muni. Bu’r disgyblion a’r staff yn canu ac yn dawnsio a oedd yn sicrhau bod pawb wedi eu hudo gan hwyl ŵyl y 11
Nadolig, (er mai ond mis Tachwedd oedd hi!) Mwynheuodd pawb y daith ac edrychwn ymlaen at y sioe nesaf.
Dysgu Cymraeg yng Nglan Llyn Ar y 19eg o fis Tachwedd, aeth 13 o ddisgyblion Blwyddyn 12 gyda Miss Griffiths i fyny i wersyll yr Urdd yng Nglan Llyn. Ar ôl taith hir i fyny'r gogledd cyrhaeddodd y bws y Bala. Roedd y disgyblion i gyd yn awyddus i gymryd rhan yn y sesiynau iaith a chlywed y tiwtoriaid o wahanol brifysgolion o ar draws Cymru yn trafod y cyrsiau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol. Yn dilyn y daith hir, bwyd oedd y peth cyntaf ar feddwl pawb, cyn iddynt fynd ati i wrando ar yr awdur Ioan Kidd yn trafod eu straeon byrion. Cafwyd hefyd gyfle i ymgymryd â gweithdy iaith gydag Ifor ap Glyn, Predur Lynch ac Andrew Shurrey. Ar yr ail ddiwrnod cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau awyr agored fel canŵio, hwylio a bowlio deg. Yn y prynhawn ymwelon nhw â hen gartref y bardd Hedd Wyn a thŵr enwog Siwan. Daeth y diwrnod olaf yn sydyn ac roedd hi'n amser i’r disgyblion ffarwelio a'i ffrindiau newydd a theithio'n ôl i’r Rhondda. Er bod y disgyblion yn falch o fod gartref mi fyddan nhw'n cofio'r hwyl a sbri a gawson ar eu taith i'r Gogledd pell am byth.
12
Ysgol Gyfun Cymer Rhondda CYMER YN CROESAWU HUW EDWARDS Cawsom y fraint o wahodd y cyflwynydd Mr Huw Edwards ac aelodau o griw cynhyrchu Greenbay atom ar ddydd Gwener yr 8fed o Chwefror. Roedd y criw yn ffilmio ar gyfer rha-
glen newydd o’r enw ‘Creu Cymru Fodern’ a fydd yn cael ei darlledu cyn hir. Roedd 7R wrth eu bodd yn cwrdd â’r cyflwynydd enwog a chawsant wahoddiad gan Mr Edwards i ymweld â stiwdio darlledu’r BBC yn Llundain.