y gloran
20c
GWLAD Y GAN AM BA HYD? ^
Yn aml iawn, cyfeirir at Gymru fel 'Gwlad y G芒n' ac yn wir gallwn ymfalchio yn ein hetifethiaeth gerddorol. Dros y blynyddoedd, cynhyrchon ni gantorion a chorau o fri yn ogystal ag offerynwyr
a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn y gorffennol, bu'r capeli anghydffurfiol a'r eisteddfod yn feithrinfeydd pwysig, ond wrth i'w dylanwad wanhau gydag enciliad anghydffurfiaeth a'r
lleihad yn nifer yt eisteddfodau lleol, daethpwyd i ddibynnu fwyfwy ar ein hysgolion. Gwnaeth llawer ohonynt gyfraniad clodwiw trwy roi cyfle i blant ddysgu i ddarllen cerddoriaeth a
pherfformio'n lleisiol ac yn offerynnol. Mae athrawon cerdd symudol Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf wedi meithrin cenhedlaeth ar 么l cenhedlaeth o blant i fwynhau cerddoriaeth o bob math o
drosodd
golygyddol l
gwneud hyn, mae toriadau yn anorfod. Yn barod, gwelsom lyfrgelloedd a theatrau yn cau a gwasanaethau yn cael eu cwtogi neu eu dileu yn llwyr. Yr awgrym nawr yw cael gwared ar y Gwasanaeth Cerdd er mwyn arbed £474,000. Yn ogystal â dysgu yn ein hysgolion, mae'r athrawon hyn yn cefnogi cerddorfeydd ieuenctid, cynnig hyfforddiant lleisiol ac offerynnol ac yn hyrwyddo llu o grwpiau ôl-ysgol, corau, ensembles a bandiau sy'n rhoi cyfle i bobl ifainc ddatblygu eu doniau y tu allan i'r dosbarth. Yn annhebyg i rai pynciau eraill, gall cerddoriaeth gynnig pleser am oes a mwynhad sy'n para ymhell ar ôl inni anghofio manylion pynciau eraill. Mae iddi werth addysgol, cymdeithasol ac economaidd ac fel pob sgil arall mae'n elwa o gael ei feithrin yn gynnar pan yw'r corff a'r meddwl yn fwyaf hyblyg. Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru Oherwydd Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison hyn, bydgyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN dai'n braf
ganu clasurol i ganu pop, o ddysgu canu offeryn cerdd i berfformio'n Tlleisiol ar lwyfan. I blant o gefndir difreintiedig, (ac yn anffodus, mae llawer o'r rhain yn y sir), efallai mai dyma eu hunig gyfle i feithrin eu sgiliau cerddorol am na allai eu rhieni fforddio talu am wersi preifat. Ceir enghreifftiau nodedig o ddisgyblion yn symud ymlaen o'n hysgolion i ennill eu bywoliaeth yn gerddorion proffesiynol, ond mae'n bosib na fydd hynny'n bosib yn y dyfodol os gwireddir bwriadau'r Cyngor. Yn ystod 2015 - 16 mae rhaid i Gyngor RhCT arbed £31 miliwn a £70 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Er mwyn
2
y gloran
chwefror2015 YN Y RHIFYN HWN
pe bai ein gwleidyddion yn dod o hyd i ffordd o arbed y gwasanaeth gwerthfawr hwn. Bydd rhieni cefnog ac ysgolion mawr yn dod o hyd i'r arian, ond o'i cholli'n gyffredinol, y rhai a amddifedir fwyaf fydd ein teuluoedd difreintiedig a thristwch y sefyllfa yw y bydd colli'r gwasanaeth yn lledu'r bwlch rhwng y tlawd a'r da eu byd yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn peryglu celfyddyd sydd wedi cyfrannu cymaint i'n bywydau fel Cymry. Yn ddiweddar bu ein haelod seneddol, Chris Bryant, yn cwyno bod cynnyrch ysgolion preswyl, fel y canwr, James Blunt yn dominyddu bywyd diwylliannol Prydain. Hyd yn oed os yw hyn yn wir, oni fydd cyngor Llafur, wrth ddileu'r gwasanaeth cerdd yn ein hysgolion ond yn gwaethygu'r sefyllfa. Ddydd Iau, 12 Chwefror bydd aelodau Cabinet RhCT yn trafod y mater ac mae sibrydion ar led eu bod wedi newid eu meddyliau i ryw raddau. Gobeithio bod hyn yn wir a'u bod yn gallu
Gwlad y Gan am ba hyd? Golygyddol...-2 Rhagor am Ddwrgwn...3 ... 4 Newyddion Lleol...5-10 Shelley Rees-Owen...-6 Byd Bob...-7 Enwau Strydoedd Ton Pentre Newyddion Menter RhCT Cofio’r Pedwardegau...11 Gostygiad ar Gledrau Caerdydd a’r Cymoedd..12
cynnig rhyw obaith i'r plant a'r athrawon sy'n gweithio'n galed i gynnal traddodiad gwych y sir yn y maes hwn. Os na lwyddir i wneud rhywbeth, bydd rhaid inni ofyn am ba mor hir bellach y byddwn yn gallu cyfeirio at rin gwlad fel 'Gwlad y Gân'? Golygydd
Sôn am ei brofiadau'n dod ar draws dwrgi neu ddau wrth bysgota mae Islwyn Jones y mis hwn. Fel y dywedais y tro diwethaf, mae nifer y dwrgwn wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd y bûm i'n pysgota. O'r herwydd, rych chi'n llawer mwy tebygol o'u cwrdd wrth lan yr afon. Ychydig flynyddoedd yn ôl, un noson rown i'n pysgota Afon Wysg ger Y Fenni. Rown i yng nghanol yr afon, yn anelu fy mhluen at y lan gyferbyn pan welais ddwrgi'n nofio yng nghanol yr afon ryw hanner canllath yn uwch i fyny. Es i ymlaen â'm pysgoto heb fecso gormod gan gyryd y byddai'r dwrgi'n siwr o fy ngweld a diflannu cyn iddo fy nghyrraedd. A dweud y gwir, ro'n i heb feddwl eilwaith amdano nes, yn sydyn, ffrwydrodd y dŵr ryw lathen oddi wrthyf wrth i'r dwrgi bron â'm taro. Baglais hi ma's o'r afon nerth fy nhraed gyda fy siaced yn wlyb diferu o'r trochion a dasgodd o'r ffrwydrad. Pan ddaeth i'r wyneb, sylweddolais nad ymosod arna i oedd y dwrgi, ond heb fy ngweld yn sefyll yn llonydd yno. Rwy'n siwr iddo gael cymaint o fraw a minnau - a diflannodd mor sydyn ag y daeth. Bûm i ddim yn hir iawn cyn diflannu y noson honno chwaith. Bachu Clamp o Bysgodyn! Er ichi eu gweld weithiau yn ystod y dydd, creaduriaid y nos, fel y
RHAGOR AM DDWRGWN dywedais eisoes, yw'r dwrgwn. Ond ryw dair blynedd yn ôl ro'n i'n pysgota yn un o fy hoff fannau ar Afon Teifi, sef Cwm Machwith ger Llandysul. Roedden ni wedi cael cryn dipyn o lwc a'r afon yn llifo'n uchel ond yn dechrau cwympo a chlirio - amodau delfrydol ar gyfer dal eogiaid neu sewin. Oherwydd uchder y dŵr, ro'n i'n pysgota â throellwr (spinner) - sef teclyn ryw bum modfwedd o hyd ar ffurf pysgodyn lliwgar wedi ei gysylltu â llinyn cryf. Roedd gen i wialen eithaf cryf oedd tua naw troedfedd o hyd ond yn sydyn des i'n ymwybodol o ddwrgi yn pysgota a r waelod y pwll tua deg llath ar hugain oddi wrthyf. Ceisiais wneud yn siwr na fyddwn yn tarfu arno gan fynd ymlaen i
bysgota ac mewn tipyn roedd y dwrgi wedi diflannu. Rhaid ei fod wedi dod o hyd i fan arall i hela, meddyliais. Gweithiais fy ffordd yn araf drwyr pwll, pan, yn sydyn, daeth plwc cryf ar fy llinyn. Sgrechiodd y rîl wrth i eog neu sewin mawr, yn ôl fy nhyb, wibio i lawr y pwll fel mellten. Plygodd y wialen fel bwa, a minnau'n sicr 'mod i wedi dal pysgodyn anferth. Ond wrth i'r 'pysgodyn' ddod i'r wyneb, dychmygwch fy mraw a'm syndod wrth i'r pysgodyn droi ma's i fod yn ddwrgi, a hwnnw'n treio rhyddhau'r troellwr oedd yn sownd yn ei geg. Rhedais ar hyd y lan gan ddilyn y creadur anffodus a phob math o bethau'n fflachio drwy fy mhen. Byddai'r creadur yn siwr o falu'r wialen ac yn dianc gyda'r troellwr
a hanner canllath o linyn yn ei geg! Sut ar y ddaear gallwn i ei ryddhau fe? Byddai'n rhaid galw'r RSPCA neu rywun tebyg. Tasg bron amhosib fyddai ei ddal e a byddai'n debygol o farw mewn ffordd boenus ac annynol. Yn sydyn, aeth y lein yn llac. Suddodd fy nghalon am eiliad. Roedd e wedi torri'r llinyn! Ond, na haleliwia - diolch byth, roedd e wedi llwyddo i dynnu'r bachyn yn rhydd. Riliais i'r troellwr nôl a chael bod ei fachau wedi eu plygu'n syth! Eisteddais ar y lan i gael dod ataf fy hun. Fel y dywedais, petai'r hyn a ofnwn wedi digwydd fe fyddwn i wedi colli nosweithiau o gwsg yn poeni am yr hen ddwrgi. Fel y digwyddodd, doedd e ddim gwaeth am ei brofiad gan i fi ei weld
drosodd 3
RHAGOR AM DDWRGWN yn ddiweddarach yn y dydd ryw ganllath i ffwrdd yn pysgota'n ddigon hapus. Yn dilyn y profiad hwn, fe adroddais i fy stori i lawer un, ond dw i'n amau a oedden nhw'n fy nghoelio gan fod yr holl beth mor anhygoel. Mae'n bosib eu bod nhw'n meddwl fy mod i wedi bod yn bwyta gormod o'r madarch od 'na y 'magic mushrooms'!
Eog da
Gostyngiad ar Gledrau Caerdydd a’r Cymoedd i bobl sy’n gallu teithio am ddim ar fysiau - manylion ar dudalen 12
4
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Mae'n ddrwg clywed bod Clwb Llafur Tynewydd wedi cau ei ddrysau unwaith eto. Mae pawb yn gobeithio taw dros dro yn unig y bydd hyn ond mae'r Gloran yn deall bod gan y clwb broblemau ariannol sylweddol. Ar un adeg, hwn oedd y clwb mwyaf yng Nghymru a byddai angen 60 o fysiau i gludo'r aelodau a'u teuluoedd ar y wibdaith flynyddol i'r Barri neu Borthcawl! Mae trigolon Bryn Henllan yn grac iawn nad yw'r ystad yn cael ei chynnwys yn rhaglen graeanu ffurdd RhCT. Mae bysys yn teithio i'r ystad ac mae'r ffordd ati yn serth iawn. Ar ôl lobio gan y cynghorwyr lleol, deallwn fod y Cyngor yn mynd i ailystyried y sefyllfa. Hen bryd hefyd o gofio taw dyma ystad uchaf RhCT a'i bod o'r herwydd yn fwy tebygol o ddioddef adeg rhew ac eira. Pob dymuniad da i'r busnes newydd sydd wedi agor yn hen siop Lynne Fursland. Gwerthir nwyddau trydan yno a hefyd nwyddau sydd ar fin cyrraedd diwedd eu hoes silff. Mae'n dda gweld mentrau newydd yn yr ardal i gadw ein stryd fawr yn
hyfyw. Fel arfer, bydd Clwb Rygbi Treherbert yn teithio i'r Alban i chwarae gêm yn sgil yr ornest ryngwladol rhwng Cymru a'r Alban. Gobeithio y bydd y clwb a'r wlad yn cael gwell lwc nag a gafwyd yn erbyn Lloegr!
TREORCI
Bu farw Marion Gardner, Heol Ynyswen, yn 79 oed. Roedd Marion, cyn ymddeol, yn brifathrawes ar Ysgol Bodringallt ac yn aelod selog yng nghapel Ainon. Dysgodd Gymraeg a chafodd lawer o bleser yn dilyn amrywiol gyrsiau a thrwy ymuno â theithiau Cymdeithas Edward Lluyd mewn gwahanol rannau o Gymru. Roedd ganddi ddiddordeb dwfn mewn byd natur, crefydd a'r Gymraeg. Cydymdeimlwn â'i brawd, Desmond a'i neiaint a'i nithoedd yn eu colled. Ar ôl cael ei ddirwyn i ben yn 2010 bydd tîm rygbi merched Clwb Rygbi Treorci yn cael ei adffurfio ac yn nhymor 2015 - 16 bydd yn cystadlu yn Adran 3 o gynghrair merched Undeb Rygbi Cymru. Pob dymuniad da iddynt! Yn 96 oed, bu farw Mrs Mary Lewis, gynt o
Brook St, ond a fu ers rhai blynyddoedd mewn cartref gofal yng Ngwlad yr Haf, yn agos i gartref ei diweddar fab, Austin a'i merch yng nghyfraith. Fe'i claddwyd yn Nhreorci gyda'i diweddar ŵr, Penry. Roedd y ddau yn aelodau ffyddlon yn eglwys Bethlehem. Cydymdeimlwn â'r teulu yn eu colled. Cafodd pawb foddhad mawr yn gwylio perfformiad Players Anonymous o'r gomedi 'Roar Like a Dove' yn y Parc a'r Dâr ddiwedd Ionawr. Rydym yn ffodus bod y cwmni hwn o dan gyfarwyddyd Gordon Thomas yn llwyfannu dramâu dair gwaith y flwyddyn ac yn rhoi cyfle inni weld amrywiaeth o gynhyrchiadau o gomedi i'r clasuron. Bydd Cymdeithas Ddinesig y Rhondda yn cynnal noson o 'Poems and Pints' ar 13 Mawrth. Tocynnau ar gael gan aelodau'r pwyllgor. Bydd Fforwm Canol y Dre hefyd yn trefnu achlysur gyda pherchnogion siopau Treorci i ddathlu Dydd y Mamau. Bydd cystadleuaeth addurno ffenestri a bydd rhai siopau'n cynnig disgownt ar nwyddau. Gobeithir denu pobl i ganol y dref. Cawn ragor o fanylion maes o law. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â Julie Lewis, Y Stryd Fawr ar
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN farwolaeth ei thad, Ken Lewis yn ddiweddar. Ar ôl gadael y fyddin, bu Ken yn gweithio am dipyn yn Swyddog Diogelwch ym Mhalas Buckingham cyn dychwelyd i Dreorci. Dymunwn yn dda i Ken Davies, Stryd Bute sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Mae Ken yn adnabyddus iawn yn yr ardal, yn gadeirydd ar y Fforwm 50+ ac yn weithgar iawn mewn sawl cylch. Brysied i wella. Llongyfarchiadau i dîm rygbi Treorci ar lwyddo i ennill pob un o'u gemau diweddar, rhediad sy'n golygu eu bod bellach yn 3ydd yn yr adran. Mae hyn yn dipyn o gamp o ystyried bod y bechgyn yn ifanc iawn a'u bod yn
parhad ar dudalen 8
5
SHELLEY REES - OWEN
Threorci. "Cof plentyn 10 oed oedd gen i o'r streic, ond rwy'n cofio Mam yn cyfrannu tuniau o fwyd a hefyd y ceginau cawl. Gan fod y ddrama'n ymwneud â hanes dau frawd, y naill ar streic a'r llall y flacleg, daeth holl brofiadau'r gwrthdaro yn ôl i fi'n fyw." Gobeithir teledu'r ddrama yn y dyfodol agos.
RHAN 3 TELEDU A IEUENCTID
Sôn am waith teledu yn y Gymraeg a'r Saesneg ynghyd â'i chysylltiad â Theatr Ieuenctid Pen-ybont y mae Shelley Rees-Owen y mis hwn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf o waith theatrig Shelley wedi bod ar y teledu. Cafodd bleser arbennig yn ymddangos yn nrama gyfres Siwan Jones, 'Alys' gan ei bod hi wrth ei bodd gyda'r sgriptio ac yn cael cyfle i bortreadu cymeriad hynod o ddiddorol. Profiad arall sy'n aros yn y cof oedd ymddangos yn 'Casualty', a'r gyfres yn cael ei ffilmio yn stiwdio newydd y BBC ym Mae Caerdydd. "Roedd y set yn anhygoel o realistig. Gallech chi dyngu eich bod mewn ysbyty go iawn, hyd yn oed lawr i'r fan lle y cyrhaeddai'r ambiwlansys." meddai. Profiad diddorol arall oedd mynd i Birmingham i gymryd rhan Sioned, Cymraes oedd â rhan yn yr opera sebon 'Doctors', sy'n cael ei dangos yn ystod y dydd.
ENWAU STRYDOEDD TON PENTRE
Roedd perchnogion tir Cwm Rhondda yn awyddus iawn i adael eu hôl ar y trefi ac un o'r pethau a wnaent oedd enwi strydoedd arô' aelodau eu teulu. Mae enghreifftiau nodedig o hyn yn Nhon Pentre. Y perchen tir yno
"Ces i sioc i dderbyn llu o negeseon yn sgil fy ymddangosiad. Doedd dim syniad gen i fod cymaint â'r amser i wylio yn y prynhawn!", meddai. Mae cwrdd â hen ffrindiau bob amser yn bleser i Shelley a chafodd dipyn o hwyl yn ddiweddar yn actio gyda chyd-ddisgybl iddi yn Ysgol Rhydfelen, Richard Harrington, yn y gyfres dditectif 'Y Gwyll'. Un o'r pethau diddorol a heriol am y gyfres hon oedd bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu saethu ochr yn ochr. O ganlyniad, roedd rhaid i'r
actorion ddysgu dwy sgript oedd yn wahanol iawn i'w gilydd ar brydiau. 'Ar ôl diwrnod o ffilmio rown i wedi blino'n lân ac yn sylweddoli 'mod i wedi gwneud diwrnod caled o waith. Roedd canolbwyntio ar ddwy sgript hollol wahanol ar gyfer yr un olygfa yn dipyn o dreth ar y corff a'r meddwl!" Profiad diddorol arall oedd ffilmio Pisyn Glo", adasiad y bardd, Gwyneth Lewis o nofel Saesnrg sy'n trafod streic y glowyr yn 1982 a braf oedd cael ffilmio nifer o'r golygfeydd yn y Rhondda - yn y Porth, Wattstown, Treherbert a
oedd Crawshaw Bailey, gŵr oedd wedi gwneud arian mawr yng ngweithiau haearn Merthyr a Nant-y-glo cyn symud i ddatblygu'r gwaith glo yn ardal Aberaman. Pan ymddeolodd, aeth i fyw yn Nhŷ Llanfoist, Sir Fynwy a chedwir cof o'r tŷ hwnnw hyd heddiw yn enw Stryd Llanfoist, Ton Pentre. Roedd e wedi prynu tir yn yr
ardal honno a ddaeth yn eiddo i'w fab oedd â'r un enw â'i dad. Priododd Crawshaw Bailey II ag Elizabeth, unig ferch Jean Baptiste, Cownt Matexa a dyna sut y cafodd un o strydoedd y pentre yr enw estronol hwnnw. Cafodd Crawshaw Bailey ac Elizabeth ddwy ferch, Clara ac Augusta a chafodd dwy arall o strydoedd yr ardal
Theatr Ieuenctid Pan oedd hi'n 17 oed, cyfarfu Shelley â Roger Burnell, athro drama ym Mhorthcawl ar y pryd, a sefydlodd gwmni theatr ieuenctid. Cafodd gryn lwyddiant ac ymhlith ei gyn-ddisgyblion gellir rhestru Ruth Jones, Rob Bryden ac Aneurin Bernard sydd i gyd wedi mynd ymlaen i wneud enw ym myd teledu a'r theatr. Tra yn yr ysgol, cafodd Shelley ran ganddo yn 'Guys and Dolls' a lwyfanwyd ym Mhafiliwn Porthcawl. Ers y dyddiau hynny, cadwodd Shelley mewn cysylltiad â Roger sydd erbyn hyn wedi sefydlu cwmni hyfforddi actorion 'It's My Shout'. Nod y cwmni yw helpu pobl ifainc sydd a'u bryd ar fod yn actorion a pherfformwyr ac mae'n drosodd eu henwi ar eu hôl. Ond aeth y tad ymhellach ac enwi dwy stryd arall ar ôl ei feibion yng nghyfraith. Gŵr Clara oedd William James Gordon Canning a phriododd Augusta â William Carne Curre. Felly, gwyddoch yn awr sut y cafodd Canning St a Carne St eu henwi!
BYD BOB
Pwy yw eich arwyr? Dyna yw pwnc Bob Eynon y mis hwn. Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn meddwl am y mawrion - y bobl rydyn ni'n eu hedmygu'n fwy na'r lleill i gyd. Mae llawer ohonyn nhw'n perthyn i'r gorffennol pell - Moses, Alecsander Fawr, Hannibal, Julius Caesar - achos bod treigl amser wedi chwyddo eu campau, efallai. Ond mae mawrion yn bodoli ym mhob oes, hyd yn oed y dyddiau hyn. Yn ddiweddar, rydw i wedi clywed pobl ar y radio yn sôn am Tony Blair, Gordon Brown a Neil Kinnock fel mawrion y Blaid Lafur. Wrth gwrs, mae pob barn yn bersonol, ond o ran mawredd, fe fyddwn i'n
SHELLEY - parhad
meithrin talentau ar draws Cymru gyfan. Yn ogystal â'i diddordebau eraill, mae Shelley yn gweithio fel Cyfarwyddwr Artistig i adran iau y cwmni. Yn ogystal ag actio, mae cyfle i'r disgyblion ddysgu am goluro, gwisgoedd, goleuo a'r holl feysydd sy'n gysylltiedig â'r theatr. Mae Lindsay Harris, un o'r cyn-ddisgyblion, er enghraifft, bellach yn ymwneud â gwisgoedd yn Hollywood a chaiff aelodau'r cwmni gyfle hefyd i ddatblygu ffilmiau byr. Mae tua 200 o bobl ifainc rhwng 3-23 oed yn perthyn i'r
rhoi Clement Attlee ac Aneurin Bevan yn uwch na Blair a'r lleill, o bell ffordd! Os ydyn ni'n cloriannu pobl eraill, mae'n anodd bod yn deg ac amhleidiol. Dyna pam y mwynheais i glywed ar y radio rai blynyddoedd yn ôl, y darlledwr, Kenneth Wolstenholme, yn dewis y ddau beldroediwr gorau roedd e wedi eu gweld yn ei fywyd. Er bod Wolstenholme yn Sais brwd [cofiwch ei eiriau ar ddiwedd Cwpan Pêldroed y Byd yn 1966, "They think it's all over.....It is now!"], enwodd e mo Sais o gwbl, ond y Cymro, John
Charles, a'r Archentwr, Alfredo di Stefano. Dyna degwch ichi. Felly, nawr rwyn mynd i geisio bod mor deg â fe wrth i fi ddewis tri dyn mwyaf yr oes fodern. Er nad ydw i erioed wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr, rwy'n dewis Winstone Churchill yn un o'r mawrion am iddo wrthwynebu Hitler, Mussolini a Tojo yn ystod blynyddoedd mwyaf tywyll yr Ail Ryfel Byd. Rwy'n enwi Mahatma Gandhi a Nelson Man-
cwmni- Cwmni Theatr Pen-y-bont. Dônt o ardal yn ymestyn o Gasnewydd i Gastell Nedd.
Ym mis Mai bydd y rhai dros 15 oed yn perfformio 'Jekyll and Hyde' tra bydd grŵp iau yn ll-
dela fel y ddau arall am eu harwriaeth a'u dylanwad heddychlon a thrugarog ar ein byd. Gyda llaw,pwy fyddech chi'n eu dewis? ******************** Roedd Dorothy a'r bwgan brain yn sgwrsio â'i gilydd ar fferm yn Kansas yn yr Unol Daleithiau. "Rwy'n dy bitïo di," ebe Dorothy. "Rwyt ti wastad mewn rhacs a does neb yn talu sylw iti." "Paid â phoeni amdana i," meddai'r bwgan brain. "Rwy'n disgwyl am ddyrchafiad cyn bo hir." "Dyrchafiad? ...Ti!" meddai Dorothy yn syn. "Ie," atebodd y bwgan brain yn falch. "Dim ond y bore 'ma, roedd y ffermwr yn dweud wrth ei wraig fy mod yn sefyll allan yn fy maes..." wyfannu sioe o dan gyfarwyddyd Shelley. Dywedodd Shelley, " Dw i wrth fy modd yn gwethio gyda phlant. Maen nhw mor naturiol, mor ddiniwed - yn llawn hwyl a sbri. Mae gweithio gyda nhw'n fy atgoffa bob dydd pam rwy wrth fy modd yn gweithio yn y theatr." Ond mae ochr arall i Shelley. Yn 2012 cafodd ei hethol yn gynghorydd dros Don Pentre a'r Pentre ac ers hynny mae wedi ymroi yn llwyr i'w dyletswyddau gwleidyddol - drama o fath arall. Cawn glywed tipyn am hynny y tro nesaf.
7
cystadlu yn erbyn timau sy'n talu eu chwaraewyr. Gwych iawn, fechgyn. Da yw gweld bod y cynGynghorydd Edward Hancoch nôl yn ei gartref ar ôl treulio peth amser yn gwella yng nghartref ei wyres, Elisabeth, yn Nhonyrefail. mae ei ffrindiau yng Nghlwb yr henoed yn gobeithio y bydd yn ôl yn eu plith yn fuan.
CWMPARC
Llongyfarchiadau i'r cefnderwyr Daisy Bowen a William Bowen, Heol Conwy, Cwmparc, a Lily Ashley, The Parade, Ton Pentre, sy wedi bod yn llwyddianus yn eu harholiadau dawns ym mis Rhagfyr. Derbynion nhw eu gwobr efydd gan ysgol ddawns RSD. Mae'r
8
plant yn mynychu'r dosbarth dawns bob dydd Gwener yn y Sports Yard, Ynyswen (hen safle'r ffatri Burberry). Mae RSD yn croesawu aelodau newydd. Cysylltwch a nhw trwy'r wefan: RSD-danceandcheer.com
Mae Ysgol y Parc wedi gosod paneli haul ar dô'r ysgol. Maen nhw wedi bod yno ers gwyliau'r haf, ac maen nhw'n creu 20kw. Mae bocs ar y wal yng nghyntedd yr ysgol sydd yn arddangos faint o bwer maen nhw'n ei greu a faint o garbon maen nhw wedi'i arbed. Mae'r plant yn cadw cofnodion a defnyddio eu sgiliau mathamateg i weithio ma's faint o bwer a wedi'i gynhyrchu, a faint o arian mae'r ysgol wedi ei arbed ac ennill.
Brysiwch yn wella yw ein neges i Glan Powell, Vicarage Terrace, sy wedi bod yn sâl yn ddiweddar. Mae e yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd. Dymuniadau gorau oddi wrth y teulu a'i ffrindiau.
Penblwydd hapus i Liz Bowen, Parc Crescent a fydd yn dathlu ei phen blwydd ar ddiwedd y mis. Bydd eglwys San Sior yn cynnal cinio wythnosol yn ystod cyfnod y Grawys. Bydd cawl ar gael bob dydd Mercher am 12:00, yn dechrau ar 18 Chwefror. Mae croeso cynnes i bawb yn y gymuned. Os hoffech chi fwcio lle ar gyfer ddydd Mercher, ffoniwch Denise Smith ar 772992.
Bydd newidiau i'r gwasanaethau Cristnogol yn y Rhondda Uchaf yn fuan, gyda'r gwasanaeth yn San Matthew ar ddydd Sul am 9:00, San Siôr ar 10:30, a Santes Fair 2:00. Yn ogystal, bydd gwasanath yn y Rhondda Uchaf bob dydd yn ystod yr wythnos: Dydd Llun 11:30 St. Matthew, Treorci; Dydd Mawrth 9:30 San Pedr, Y Pentre Dydd Mercher 10:15 Sant Ioan, Ton Pentre; Dydd Iau 10:00 St. Sior, Cwmparc. Dydd Gwener 18:30 St. Peter, Pentre Mwy o fanylion yn fuan. Bydd gwasanaeth dydd Mercher y Lludw yn San Matthew, Treorchy am 10:00 ac yn San Siôr, Cwmparc am 19:00 gyda ficer newydd y plwyf, y Tad Philip Leyshon.
Y PENTRE
Nos Sadwrn, 1 Mawrth bydd Shelley ReesOwen yn cyflwyno noson o gerddoriaeth yn Eglwys San Pedr i godi arian at gynnal yr eglwys. Ymhlith yr artistiaid fydd yn cymryd rhan mae grŵp o Gwmni Opera Selsig, Côr O2Five, Band Mawr Dave Barry, Lee Gilbert a Clare Hingot, Laura Mansel a Peter Karrie. Huw Evans fydd yn cyfeilio. Gallwch sicrhau tocynnau trwy ffonio 773150 neu 777866. Pob dymuniad da a llongyfarchiadau i Dennis Parlour, Tŷ'r Pentre, sy'n dathlu ei benblwydd y mis hwn a hefyd i Frank Rabbiotti, Llys Siloh sy'n cael ei
ben-blwydd. Pob dymuniad da i'r dyfodol i'r ddau. Mae Andrew Thomas, gynt o Gilgant y Parc, Treorci wedi symud i mewn i Lys Siloh. Gobeithio y bydd yn ymgartrefu'n hapus yno.
TON PENTRE
Pob dymuniad da i'n gohebydd lleol, Graham Davies John sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Bydd pawb yn Nhŷ Ddewi'n gweld eisiau Graham sy'n barod iawn ei gymwynas i'w gydbreswylwyr. Gobeithio y bydd nôl yn eu plith yn fuan. Un arall sydd yn Ysbyty
Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd yw Miss Dorothy Bennett, St David's St. Gwelir eisiau'r gyn-athrawes gan ei chymdogion a'i chydaelodau yn Hermon, Treorci syn dymuno gwellhad llwyr a buan iddi. Cafwyd llawer o hwyl yn Theatr y Ffenics pan berfformiwyd 'Cinderella' gan grŵp theatr ieuenctid Act 1. Cwmni yw hwn o bobl ifainc dan 18 oed sy'n cael ei arwain ai gyfarwyddo gan Mr Peter Radmore a Mr Rhys Williams. Rhaid eu canmol ar safon eu gwaith a'r cyfle a rodant i bobl ifainc i ddatblygu eu talentau. Trist yw cofnodi marwolaeth Mr Glanville
Lewis, gynt o Stryd Canning. Roedd Glan yn adnabyddus iawn yn yr ardal ac yn weithgar gyda chymdeithas Band yCory. Roedd hefyd yn aelod ffyddlon o gapel Hebron lle roedd yn drysorydd a hefyd yn ddiacon. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w blant, Hilary, Howard, Sharon a Julia yn eu profedigaeth. Un arall a fu farw'n ddiweddar yw Mrs Irene Woods, gweddw'r diweddar Mr Keith Woods, Cyfrifydd. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'r teulu oll yn eu hiraeth. Yn ddiweddar, cynhaliwyd cyngerdd fawreddog o dan y teitl, 'Lleisiau Plant Ifanc' yn
9
Theatr O2 yn Llundain. Roedd 7,500 o blant o bob rhan o Brydain yn cymryd rhan ac yno yn eu plith roedd côr o Ysgol Gynradd Tonyrefail. Da oedd gweld côr o'r Rhondda yn ein cynrychioli. Doedd diwedd Ionawr ddim yn llwyddiannus iawn i dîm pêl-droed Ton Pentre. Collodd y tîm hŷn, sy'n 11eg yn Adran 1 Cymru, o 2-0 i'r tîm sy ar frig yr adran, Prifys-
gol Feropolitan Caerdydd a'r un oedd ffawd y tîm ieuenctid a gollodd 4-0 i'r Bala mewn gêm gwpan. Ond pob clod i'r bechgyn ifanc am gyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth. Da yw gweld y Cyng. John Watts, Ystrad a'r Gelli, maer presennol RhCT nôl wrth ei waith ar ôl cyfnod o afiechyd. Pob dymuniad da iddo i'r dyfodol. Ym mis Ionawr, cynhali-
wyd cyfarfod cynt y flwyddyn newydd o'r Clwb Cameo yn yr Eglwys Gynulleidfaol Saesneg. Coesawyd pawb gan y llywydd, Rita Lewis, yn arbennig y siaradwr gwadd, Miss Gillian Thomas o Lyfrgell Treorci. Testun ei sgwrs oedd, 'Tears and Laughter - Tales from the Rhondda Leader. Ymhlith yr hanesion a drafodwyd, soniwyd am y trip Ysgol Sul
trychinebus i Aberafon ar Ddydd Mabon, 1893 pan foddwyd 24 o'r ardal hon, merched a phlant yn bennaf. Adroddwyd yr hanes mewn papurau ar draws y byd, gan gynnwys Seland Newydd ac Awstralia. Rhoddwyd pleidlais o ddiolch i'r siaradwr ar ran yr aelodau gan Rita Lewis a chyhoeddwyd y bydd y cyfarfod nesaf ar 4 Mawrth.
Staff newydd Hoffwn gyflwyno ein haelodau staff newydd, Michael Goode a Rian Watkins. Michael Goode yw ein pennaeth gwasanaethau plant. Ei waith ef bydd i gynllunio, trefnu a chynnal ein clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae sydd yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn. Mi fydd Rian yn gweithio fel swyddog datblygu fforymau yn cwrdd yn aml gyda phobl ifanc yr ardal er mwyn trefnu digwyddiadau Cymraeg. Croeso mawr i chi’ch dau a phob lwc!
dilyn llwyddiant Parti Ponty y gorffennol ond ychwanegu llawer mwy. Hwn fydd y Parti Ponty gorau erioed! Cadwch lygaid allan am fwy o fanylion yn ystod y misoedd nesaf.
y Bont Taf ac Elai. Mae hwn yn newyddion ardderchog i Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gynorthwyo a’r trefniadau gyda Einir Sion ein prifweithredwraig yn weithgar iawn ar y pwyllgor gwaith.
mawr I bawb! Ffoniwch y swyddfa am fanylion pellach neu ewch I wefan y Fenter:www.menteriaith.org
NEWYDDION MENTER RHONDDA CYNON TAF
Parti Ponty 2015 Dyddiad i’ch dyddiaduron…Dewch i Barc Ynysangharad Pontypridd ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 11eg eleni am ddiwrnod o hwyl i’r teulu cyfan. Mae pawb yn gyffrous iawn yma yn y Fenter gan fod ni yn y broses o drefnu’r Parti Ponty cyntaf ers 5 mlynedd. Rydym yn gobeithio 10
Eisteddfod yr Urdd 2017 Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai’r enw ar dalgylch Eisteddfod yr Urdd 2017 yw Eisteddfod yr Urdd Pen
Cynlluniau Chwarae Hanner tymor Chwefror / 16eg – 20fed Chwefror Cofiwch…Byddwn yn rhedeg cynlluniau chwarae i blant yn ystod y gwyliau ysgol. Cynllun Chwarae mynediad agored Bodringallt Ysgol Gynradd Bodringallt 10:00yb – 12:00yp *Cynta’ I’r felin Croeso
Gwirfoddolwyr trefnu digwyddiadau Clwb y Bont Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn chwilio am wirfoddolwyr 18 oed+ i ymuno a grŵp trefnu digwyddiadau Cymraeg yng Nghlwb y Bont, Pontypridd. Mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’i gilydd o dan arweiniad y Fenter er mwyn trefnu digwyddiadau Cymraeg yn y clwb. Ar hyn o bryd, rydym yn cwrdd bob wythnos yng Nghlwb y Bont. Croeso i bawb! Dysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl. Cyfle arbennig i ymarfer eich Cymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth a llawer o hwyl. Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin ar 01443 407570’
COFIO'R PEDWARDEGAU
Ivor Rees, Abertawe ond gynt o Dreherbert yn bwrw golwg yn ôl ar ddau ddigwyddiad nodedig yn y pedwardegau a wnaeth argraff arno ef a phawb arall sy'n eu cofio.
Digwyddiad yn 1945 gafodd ddylanwad mawr arnaf oedd yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin. Roeddwn eisoes yn dechrau ymddiddori mewn materion gwleidyddol, yn arbennig o dan ddylanwad Mam. Siom fawr felly i mi oedd y ffaith mai ond dau ymgeisydd ar dir mawr Prydain oedd wedi eu hailethol yn ddiwrthwynebiad, sef David Logan (Lerpwl, Exchange) a Will John, Gorllewin Rhondda, ac felly ni fyddai gennyf gyfle i brofi cynnwrf etholiad. Ond yr oedd Trealaw a’r Porth yn rhan o etholaeth Dwyrain Rhondda. Un bore, roedd rhaid i’n bws
aros yn Nhrealaw, gan fod car yn sefyll ar ein hochr ni a char arall yn dod i fyny'r cwm. Car mawr, ysblenydd, agored oedd o’n blaen. Daeth dyn allan ohono i gyfarch grŵp o fenywod a chusanu babi. Harry Pollitt oedd y dyn hwnnw, ymgeisydd y Blaid Gomiwnyddol. Car bach oedd yn dod heibio o’r Porth a chorn siarad anferth ar y tô a Kitchener Davies oedd wrth yr olwyn. Creodd y digwyddiad bach hwnnw ddiddordeb ynof mewn gwleidyddiaeth a’i bersonoliaethau sydd wedi para hyd heddiw. Cynhaliwyd etholiadau cyngor sir rywbryd yn ystod y flwyddyn ganlynol. Erys y cof o eistedd mewn ystafell ddosbarth yn Ysgol Penyrenglyn yn fy nghyfarfod gwleidyddol cyntaf dan nawdd y Blaid Gomiwnyddol, a’i hymgeisydd lleol, y George Thomas arall, yn
llefaru. Roedd George yn uchel iawn ei barch yn fy nghartref ac yn yr ardal ond doedd dim gobaith cneri ganddo i ennill. Yr Eira Mawr Nid anghofir gaeaf 194647 gan neb a’i profodd. Cafwyd eira mawr iawn a gwyntoedd llym. Weithiau byddai eira trwchws o flaen ein drws ffrynt ond ar adegau eraill roedd y palment yn glir gan fod y gwynt wedi creu llwchfeydd nes i lawr y stryd gan guddio rhan o ffenestri’r lloft. Am ysbaid bu popeth ar stop: y ffyrdd a’r rheilffordd. Gwynt llym o’r dwyrain oedd y broblem fwyaf. Amhosibl oedd cynneu tân yn y gegin gefn am ysbaid. Rhaid i ni gampio allan yn yr ystafell ganol am bron wythnos, gan wneud paratoi bwyd yn anodd i Mam. Roedd dod o hyd i fwyd yn broblem hefyd. Erbyn hyn roedd dogni bwyd yn llymach hyd yn oed nag yn ystod y rhyfel
ond roedd bwydydd eraill yn brin iawn. Modryb oedd yn siopa i Mam, gan fynd i’r Co-op yn fore iawn. Byddai’n dod atom a dweud bod pwys o datws ar gael mewn un siop a moron, er engraifft, mewn siop arall. Roedd rhaid i mi ruthro yno ar unwaith a sefyll ar balment llithrig am awr neu fwy cyn symud ymlaen at y siop arall a gwneud yr un peth eto. Ar ôl tuag wythnos, ailagorwyd y pyllau a’r ffactrioedd, gyda gwasanaeth wedi ei gwtogi a hwnnw gan fysiau un llawr yn unig, Roedd hi'n amhosibl torri beddau ym mynwent Treorci am ryw chwech wythnos ond ar ôl sbel, llwyddwyd i agor ffordd i’r fynwent a chadw’r eirch yn y capel. Roedd Ysgol Sir y Porth ar gau am chwech wythnos oherwydd prinder tanwydd a rhaid bod yr un peth yn wir am ysgolion eraill. Braf, yn wir, oedd gweld y gwanwyn yn cyrraedd o’r diwedd. 11
Gostyngiad ar Gledrau Caerdydd a’r Cymoedd i bobl sy’n gallu teithio am ddim ar fysiau
Mae Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, yn annog pobl sydd â phas i deithio am ddim ar fysiau i wneud yn fawr o’r cynllun newydd sy’n cynnig 34% o ostyngiad ar docynnau lleol ar rwydwaith Rheilffyrdd Caerdydd a’r Cymoedd. Mae Trenau Arriva Cymru yn cynnig gostyngiad ym mhris tocynnau i bobl sydd â phas bws am ddim. Bydd y trefniant hyn yn gymwys i’r bobl hynny pan fyddant yn teithio ar unrhyw drên sy’n gadael am 9:30 neu’n hwyrach ddydd Llun i ddydd Gwener, ac ar unrhyw adeg ddydd Sadwrn, dydd Sul ac ar Wyliau Banc. . Dywedodd Edwina Hart: “Ynghyd â thocynnau teithio am ddim ar y rhwydwaith bysiau yng Nghymru, gall y bobl sydd ag un o’r pasys bysiau hynny ddefnyddio’r pas hwnnw i deithio am ddim ar rai o lwybrau rheilffordd y Canolbarth a’r Gogledd. Rwy’n falch iawn fod Trenau Arriva Cymru bellach yn cynnig gostyngiad ar rwydwaith Rheilffyrdd Caerdydd a’r Cymoedd. Drwy hynny, bydd yn haws i’r henoed, yr anabl a phersonél y Lluoedd Arfog yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus”. Mae gan dros 720,000 o bobl basys i deithio am ddim ar fysiau yng Nghymru, gan gynnwys personél y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.
Mae gan y bobl hynny yr hawl i deithio am ddim ar drenau gydol y flwyddyn ar Reilffordd y Gororau a Rheilffordd Dyffryn Conwy, ac yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf bydd modd teithio am ddim ar Reilffordd Calon Cymru a Rheilffordd Arfordir y Cambrian.
Dywedodd Lynne Milligan, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Trenau Arriva Cymru: “Rwy’n gobeithio y bydd y cynnig safonedig newydd hwn ar draws rhwydwaith Caerdydd a’r Cymoedd yn fodd i sicrhau bod ein gwasanaethau trên yn denu cynulleidfa ehangach. Bydd hefyd yn ei gwneud yn rhwyddach ac yn fodd i gwsmeriaid ddefnyddio ein gwasanaethau trenau am bris gostyngol yn ystod yr adegau tawel.” Gellir cael manylion am y cynnig hwn ar wefan Trenau Arriva Cymru: http://www.arrivatrainswales.co.uk/valleysseniortravel/?langtype=1106
I gael mwy o wybodaeth ar sut y gallwch gael tocyn teithio am ddim, ewch i:
http://wales.gov.uk/topics/transport/public/concessionary/?skip=1&lang=cy