y gloran
20c
Pobl y Rhondda
Cynhyrchydd y gyfres, Emyr Gruffydd a'r cyflwynydd, Sion Owen, yn son am y profiad o wneud y rhaglenni.
EMYR O holl gymoedd De Cymru, mae’n bosib
iawn mai’r Rhondda yw’r enwocaf. Mae’r enw wedi teithio i bedwar ban byd, ac mae gan bawb syniad yn eu pennau o sut le oedd o yn y gorffennol. Ond sut le
yw e heddiw, a lle yn union mae’r Rhondda? Wrth holi pobol o’r tu fas, mae rhywun yn sylweddoli nad yw nifer fawr yn siwr lle mae’r cwm, heb son am sut le yw e. A beth yw hyn am ddau gwm? Creu darlun o’r Rhondda i bobol o’r tu fas oedd ein bwriad cyntaf felly wrth fynd ati i gynhyrchu’r rhaglenni. Rhoi blas ar y lle, a chyfarfod rhai o’r bobl sy’n byw a
gweithio yno. Un o’r pethau wnaeth fy nharo i gyntaf am y ddau gwm oedd harddwch naturiol yr ardal , y mynyddoedd a’r golygfeydd trawiadol. Gallech daeru eich bod ynghanol y Swistir wrth edrych lan at Pen Pych a’r coedwigoedd ar noson o haf, ac roedd yn rhaid dangos hynny ochr yn ochr â’r delweddau mwy cyfarwydd. Ond sut oedd mynd ati i greu portread o ardal
parhad ar dud 3
golygyddol l Cafodd cymdogaethau blaenau'r Rhondda Fawr ergyd arall ddechrau'r flwyddyn pan gyhoeddodd HSBC eu bod yn mynd i gau eu cangen yn Nhreorci. Diffyg defnydd o fanciau traddodiadol a mwy o fancio ar lein yw'r rheswm dros y penderfyniad sy'n golygu taw cangen agosaf y banc i bobl y Rhondda fydd Pontypridd. O gofio bod cangen Treorci o HSBC yn gwasaaethu cymunedau Blaen-y-cwm a Blaenrhondda bydd hyn yn golygu siwrnai o 13.7 milltir i drigolion pen ucha'r cwm. Rhaid cofio bod pobl sy'n byw ym mhen uchaf Cwm Ogwr
2
hefyd yn defnyddio banciau Treorci ac fe fydd diflaniad y banc yn golled fawr i siopau'r ardal. Mae'r esgus na all HSBC fforddio cadw'r gangen hon a'r un yn y Porth ar agor yn chwerthinllyd o gofio i'r banc wneud elw o $13.6 biliwn yn hanner cyntaf 2015 yn unig! Y gwir yw bod gwasanaethau sy'n talu'n well o lawer na chynnal canghennau ar y stryd fawr. Nid yw ffyddlondeb a theyrngarwch cwsmeriaid dros gyfnod maith yn cyfrif dim i'r cyfalafgwn hyn! Er bod bancio dros y we yn tyfu'n boblogaidd
Cynllun gan High Street Media
y gloran chwefror 2016
YN Y RHIFYN HWN
Pobl y Rhondda...1-3 Golygyddol...2 Noson wobrwyo...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Daniel Evans/Byd Bob ..6-7 Ysgolion...10 Ysgolion...11-12
ymhlith pobl ganol oed ac ifanc, gwyddom fod llawer o rai hŷn yn yr ardal hon naill ai heb gyfrifiadur neu yn analluog i'w ddefnyddio. Mae eraill sy'n hoffi trafod eu
busnes â pherson dros gownter yn amau diogelwch y we yn sgil yr achosion o dwyll sy wedi cael sylw yn y wasg. Rhwng popeth, am wahanol resymau, bydd llawer yn colli allan. Trwy drugaredd, mae un banc ar ôl ar Stryd Fawr Treorci, ond am ba hyd? Yn y bôn, bydd trigolion lleol yn gweld hyn yn golled arall mewn rhes sydd wedi amddifadu'r ardal o wasanaethau a chyfleusterau amrywiol, gwerthfawr. A'r perygl yw bod hyn oll yn cyfleu neges negyddol i'n pobl ifainc yn enwedig. I sicrhau dyfodol llewyrchus i'r ardal, rhaid wrth waith, amgylchedd dymunol a sicrwydd bod y gwasanaethau a'r cyfleusterau a gysylltir â bywyd llawn a gwâr ar gael i bawb. Rhaid brwydro i'r eithaf i gadw'r pethau hyn. Gol.
sy’n gartref i 70,000 o bobol, a sut oedd dewis a dethol beth i’w gynnwys? Y man cychwyn oedd chwilio am rhywun o’r ardal i’m harwain. Gwelais a chlywais Sion Tomos Owen am y tro cyntaf ar fy ffôn, ar Twitter. Roedd ei gyfraniadau yn ddoniol, yn ddadleuol a phob amser yn ddiddorol. Penderfynais gysylltu ar ôl iddo gyfeirio at Ddeiniolen. Sut ar y ddaear oedd o’n adnabod y pentref y cefais i fy magu ynddo yn y Gogledd? Yr ateb wrth gwrs oedd Jeni, ei fam. A dyna fi wedi darganfod y cyflwynydd perffaith – hanner Gog! Mae Sion yn hoffi pobl, ac mae pobl yn eitha hoff ohono fe! Ac fel mae’r teitl yn awgrymu’n gryf, cyfres am bobol yw hi, gyda’r cwm yn gefndir. Ymhlith doniau creadigol Sion mae’r gallu i arlunio, felly dyma benderfynu y buasem yn gwneud defnydd o hynny trwy gael Sion i lunio map o’r ardal, a thynnu llun o bawb yr oedd yn sgwrsio gyda nhw. Roeddem am greu map fyddai’n dangos pob un o bentrefi’r Rhondda – dros dri deg ohonynt – a cheisio gweld rhywfaint o bob un ohonynt yn ystod y gyfres. Ond ar ddiwedd y dydd pobol sy’n ‘gwneud’ lle, felly dyma greu map arall sy’n llenwi’n raddol gyda’r bobol sydd yn y rhaglenni, ac erbyn diwedd y gyfres
roedd y map hwnnw’n cynnwys bron i 30 o’r trigolion. Cefais groeso brwd yn y Rhondda, a chyfle i ddod i adnabod y lle yn well. Erbyn hyn gallwn yrru o ben y Rhigos i lawr i Drehafod, ac o Gwm Clydach i Flaenllechau gyda’m llygaid ar gau – ond peidiwch â phoeni, dwi ddim yn bwriadu gwneud hynny! Ac mi wnes lot fawr o ffrindiau newydd. Diolch i Sion, ac i bawb arall am eu croeso. Pan ofynnais i un o’m cydweithwyr, nad oedd wedi bod yn Y Rhondda erioed, beth oedd o’n feddwl o’r rhaglen, ei sylw oedd – “Yr union math o le y buaswn yn hoffi byw ynddo”. Anodd meddwl am deyrnged gwell na hynny.
SION Fel bachgen sydd wedi byw yn y Rhondda trwy gydol fy mywyd, dwi wastad wedi bod yn angerddol am fy milltir sgwar, neu yn fwy manwl, fy neng milltir siap V. Dwi wedi trafod ein cwm gyda phobl dros y byd i gyd, a cheisio cyfleu darlun o baradwys
Pobl y Rhondda
garw ei golygfeydd, nodweddion hynod ein hacen a’n hiaith, ac yn bennaf, cynhesrwydd a hiwmor ein pobol. Dwi wedi dadlau digon o weithiau gyda Mrs Anwybodus a Mr Twp sydd yn defnyddio yr un hen ddywediad am “Danger Money” i fentro yn bellach i’r Gogledd na’r M4, heb wybod dim am y cymoedd cyfoes.
Felly, pan gysylltodd @Emyrgruffudd ar Trydar (Twitter) i ofyn am help llaw i ymchwilio i raglen deledu ar fy nghwm i, roeddwn i’n sicr am baentio’r lle fel dwi’n ei weld. Ar ôl cwrdd i drafod cymeriadau diddorol I’w portreadu yn y gyfres, sylweddolais fy mod i’n nabod y rhan fwyaf o’r bobl ac felly yn gallu bod yn gyswllt da i helpu creu'r rhaglen. Ffilmiais fideo byr ar fy ffôn yng Nghlwb Rygbi Treorci, lle roeddwn yn holi rhai o aelodau’r clwb am hanes fy nhad fel chwaraewr,
ac yn gorffen trwy ganu fy fersiwn bersonol i o ‘Calon Lân’, o flaen aelodau o’r côr meibion. Clywais nôl fod S4C eisiau creu cyfres llawn ar y Rhondda ac fe ofynnodd Emyr i mi ei chyflwyno! Oni bai am 3 rhaglen Uned 5 a wnes i yn 12 mlwydd oed, doedd dim profiad gen i o gyflwyno, ond tasech chi yn gofyn i mi gyflwyno rhywbeth, yna cyfres am Bobol y Rhondda fuasai fy newis cyntaf wedi bod!
Fe gytunais ar 3 amod. 1) Bysen ni’n dangos mwy na’r stereoteip arferol o hen byllau glo, corau meibion a rygbi, 2) Ein bod yn cyfweld pobl ifanc, a chlywed eu barn nhw, a 3) Na fysen ni’n dangos yr un hen ddarlun o ben mynydd Y Bwlch, sy’n cael ei ddangos pob un tro mae'r gair “Cwm” yn cael ei ddweud. Dwi wastad wedi dweud fod na gymaint mwy i Gwm Rhondda na beth sydd yn cael ei ddarlledu, a dwi môr browd ein bod ni wedi creu hysbyseb gyfoes, greadigol ac unigryw am y cwm dwi’n garu yn fwy nag unrhyw le arall yn y byd.
3
NOSON WOBRWYO CRONFA WYNT TREORCI
Nos Wener, 15 Ionawr, daeth cynulleidfa dda ynghyd i lolfa'r Parc a Dâr ar gyfer Noson Gyflwyno Cronfa Wynt Treorci. Cyflwynwyd y noson yn ddeheig gan y Cyng. Sera EvansFear a chyflwynwyd y sieciau ir mudiadau llwyddiannus gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. Yn ogystal â derbyn arian ar gyfer eleni, cafwyd adroddiadau gan gynrychiolwyr cymdeithasau llwyddiannus y llynedd yn amlinellu sut y gwariawy yr arian, Yn ei haraith, pwysleisiodd Leanne Wood mor bwysig 4
oedd gwaith yr holl gyrff oedd yn bresennol ac ar yr un pryd sôn am bwysigrwydd cynhyrchu egni gwyrdd er mwyn diogelu dyfodol y blaned. Diolchodd sawl un Richard Hadwin a Helen Bagwell, cynrychiolwyr y Fferm Wynt oedd wedi trefnu'r noson a darparu'r lluniaeth flasus. Dyma'r cyrff a dderbyniodd arian yn y pedwar dosbarth: £500 Clwb Bechgyn a Merched Treorci, Ysgol Gynradd y Parc, Byddin yr Iachawdwriaeth, Ysgol Gymraeg Ynyswen, Clwb
Jazz y Rhondda,Cylch Meithrin Treorci, Theatr Act 1. Cartref Gofal Tŷ Ross, Dylan's Den, Grŵp Cwiltio Treherbert, Clwb Tennis Cwm Rhondda, Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg, Clwb Gwyddbwyll Cwm Rhondda, Viva Cymru, Ysgol Gyfun Treorci. £1,000 Band Pres Rhondda Uchaf, Clwb Bechgyn a Merched Treorci, Ysgol Gynradd y Parc, Ysgol Gymraeg Ynyswen, 50+ Rhondda Uchaf, Y Gloran, Dylan's Den, Theatr Act 1, Cartref
Gofal Tŷ Ross, Clwb Tennis Cwm Rhondda. £2,500 Clwb Rygbi Treorci, Ysgol Gynradd y Parc, Clwb bechgyn a Merched Treorci, Cymdeithas Gymunedol Cwmparc, Ysgol Gymraeg Ynyswen. £5,000 Band Pres Rhondda Uchaf, Cymdeithas Twnnel Cwm Rhondda, Clwb Bechgyn a Merched Cwm Rhondda, Clwb Rygbi Treorci, Ysgol Gynradd y Parc.
Yn y lluniau Leanne Wood a Sera Evans Fear Mary Price yn derbyn gwobr
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Mae grŵp garddio Capel Blaenycwm wedi derbyn grant o £500 oddi wrth "Cadw Cymru'n Lân". Daeth yr arian o 5 ceiniogau gasglodd Tesco am eu bagiau plastig. Defnyddir yr arian i brynu planhigion ac offer i'r ardd. Mae gwirfoddolwyr, oedolion a phlant, dan arweiniad Maria Marcl o Blaencwm Tce, wedi trawsnewid darn o dir anniben tu ol i'r capel i fod yn ardd dawel gymunedol gyda choed, llwyni, blodau, dŵr a gardd fach lysiau. Os oes diddordeb gan unrhywun i helpu yn yr ardd, cysylltwch a Geraint Davies, ysgrifenydd y capel ar 07712656785
Dymunwn wellhad llwyr a buan i Stuart Dunn perchennog tacsis Dunnies sy wedi cael ei daro'n wael ac sy ar hyn o bryd yn Ysbyty'r Tywysog Charles
Mae llawer o rieni Tynewydd yn pryderu am y gost o anfon eu plant i Ysgol Gyfun Treorci ar ôl i'r Cyngor ymestyn y dalgylch lle mae rhaid talu o ddwy i dair milltir. Mae hyn yn golygu £285 y flwyddyn i bob plentyn.
Mae'n flin cofnodi marwolaeth Kerry Morgan o Brook St, Blaenrhondda ar ôl cystudd hir. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Blaenycwm dan arweiniad Capten Ralph Upton. Cydymdeimlwn â Rona, Jason, Carolyn a'r holl deulu
Roedd trigolion Treherbert wedi syfrdanu gan farwolaeth sydyn Sylvia Drew o Stryd DumfriesRoedd Sylvia yn wraig adnabyddus yn yr ardal. Cydymdeimlwn â'i gwr Graham a'r teulu i gyd.
Cynhelir cwrs am yr amgylchedd yng Nghapel Blaenycwm ar ddydd Llun, 15 Chwefror o 9 o'r gloch tan 3. Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar ddilliau gwahanol o astudio'r amgylchfyd lleol.
TREORCI
Da oedd gweld teulu Fferm y Fforch ar raglen 'Ffarmio' S4C yn ddiweddar yn sôn am eu menter yn macsu cwrw a'i werthu ar draws de Cymru. Bu Lyn Jones a'i blant, Gwawr, Caryl ac Arwel yn esbonio gwahanol agweddau ar y fenter a hefyd cafwyd gweld eu gyrr o dda hirgorn yr Alban sy'n gallu byw ma's drwy gydol y
gaeaf ar lethrau Moel Cadwgan a Tharen Eiddew. Y siaradwr yng nghyfarfod mis Chwefror o Fudiad y Merched [WI] oedd Mr Allan Powell, YGelli a sinioddyn ddiddorol iawn am ei deithiau ym Mheriw yn Ne America. Pob dymuniad da i Mrs Marion Jones, Stryd Dumfries sydd yn symud i Gartref Gofal Tŷ'r Pentre. Dymunwn iddi bob cysur a diddanwch yn ei chartref newydd. Rydym wedi dod mor gyfarwydd â chynhyrchiadau cyson Players Anonymous yn y Parc a Dâr nes ein bod yn eu cymryd yn ganiataol. Dros y blynyddoedd, mae'r cwmni hwn a'u cynhyrchydd, Gordon Thomas, wedi cyflwyno dramâu, o'r poblogaidd i'r clasuron ac rydyn ni'n drwm yn eu dyled. Eu cyflwyniad diweddaraf oedd 'Under Milk Wood' a gafodd groeso mawr gan gynulleidfaoedd niferus. Llongyfarchiadaua phob hwyl iddynt i'r dyfodol. Roedd yn ddrwg gennym ddeall fod nifer o dai yn Stryd Kenry, Ynyswen wedi dioddef o lifogydd yn ystod y tywydd mawr diweddar. Gorlifodd gwter yn y gwli y tu ôl i'r tai ac achosi difrod. Mae'r Cyngor yn edrych i mewn i'r digwyddiad. Pob dymuniad da i Mr David Halstead, un o ddarllenwyr cyson Y Gloran, a'i wraig Phyllis sydd, eu dau, wedi
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
cwrdd â damweiniau'n ddiweddar. Brysiwch i wella. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn y Clwb Rygbi, ddydd Sadwrn, 30 Ionawr etholwyd swyddogion newydd gan Is-lywyddion y Clwb. Y Cadeirydd newydd yw Mr Huw Morris, Sŵn-yrAfon a Phillip Roberts o'r un stryd a etholwyd yn ysgrifennydd. Bydd John Mallin, Stryd Colum yn parhau fel trysorydd. Mawr yw diolch yr aelodau i Islwyn Kinsey, yr ysgrifennydd gwreiddiol, sydd wedi ymddeol. Mae'n ddrwg gennym gofnodi marwolaeth Mrs Brenda Roberts,gynt o Heol Glyncoli, ond sydd ers rhai blynyddoedd wedi bod yng nhartref gofal Tŷ'r Porth. Roedd Brenda'n 94 oed a'r olaf
PARHAD ar dudalen 8
5
DANIEL EVANS YN NEWID SWYDD
6
Mae'r actor-gyfarwyddwr, Daniel Evans a aned ac a faged yng Nghwmparc, ers y saith mlynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfrifol am dair theatr yn Sheffield, gan gynwys theatr a chanolfan snwcer enwog y Crucible. Ym mis Rhagfyr, fodd bynnag, fe gafodd ei benodi i gyfarwyddo Theatr Gwŷl Chichester a bydd yn dechrau ar ei waith yno fis Gorffennaf nesaf. Wrth dderbyn y swydd bydd yn olynu nifer o rhagflaenwyr enwog iawn, gan gynnwys Syr Laurence Olivier a Derek Jacobi. Ar ôl derbyn ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen ac
Ysgol Gyfun Rhydfelen, lle y datblygwyd ei ddiddordeb ym myd y ddrama, aeth Daniel ymlaen i Goleg Cerdd a drama'r Guildhall, Llundain cyn ymuno â'r Royal Shakespeare Company. Yn ogystal â dramâu Shakespeare, cafodd Daniel brofiad amrywiol, gan gynnwys cymryd rhan yn nramâu arbrofol yn y Royal Court, chwarae'r brif ran yn 'Peter Pan' gyda Syr Ian McKellen a symud ymlaen i ymddangos mewn dramâu cerdd. Yn y maes hwn, cafodd lwyddiant arbennig yn 'Sunday in the Park" gan Stephen Sondheim pan gafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Olivier. Ynghyd ag actio ar y llwyfan, fe'i
gwelwyd yn aml ar y teledu yn cymryd yn 'Great Expectations' yn ogystal â 'Dr Who'. Cyfnod Sheffield Gyda'r holl brofiad hyn y tu cefn iddo, yn 2009 cafodd ei benodi', Gyfarwyddwr Creadigol theatrau Sheffield. Pan aeth e yno, roedd y brif theatr, y Crucible, wedi bod ar gau am ddwy flynedd yn cael ei gwella a'i hadnewyddu. Y dasg felly oedd ceisio ailddenu cynulleidfaoedd yn ôl. Llwyddodd yn rhyfeddol yn hyn o beth trwy ddatblygu rhaglen oedd yn cynnwys cynhyrchiadau safonol, poblogaidd ac arbrofol. Mae llunio arlwy o'r fath yn golygu troedio llinell denau iawn.
Mewn cyfweliad â'r cylchgrawn 'Golwg' dywedodd Daniel, "Er ei fod yn gwbl angenrheidiol i droedio'r fath linell, dyw e ddim yn beth rhwydd ei wneud. Fe ddaw y poblogaidd â'r bobol drwy'r drysau yn sicr. Ond does dim modd cynnal theatr ystyrlon trwy gynnig y poblogaidd yn unig. Datblygwyd cynhyrchiadau mwy beiddgar, arloesol ac yn y ddwy flynedd ddiwetha' yn benodol, mae wedi bod yn braf i weld cynulleidfa graidd cynyrchiadau newydd yn datblygu. Mae hynny'n rhoi cymaint o foddhad, os nad mwy, na gweld nifer cyffredinol y gynulleidfa'n cynyddu." Ymlaen i Chichester
Bydd symud o Sheffield i Chichester yn dipyn o gam. Dywedodd Daniel, "Byddaf yn gweld eisie Sheffield am ei bod yn ardal sydd mor debyg i Rhondda fy magwriaeth - pobol â'r un gwerthoedd, hiwmor, gonestrwydd a chynhesrwydd." Dywedodd ei rieni, Val a Gwyn Evans, Treorci y byddan nhw hefyd yn gweld eisiau ymweld â Sheffield lle y buon nhw'n aml iawn yn mwynhau sioeau a dramâu yn theatr y Crucible ond eu bod ar yr un pryd yn browd iawn o lwyddiant Daniel. Laurence Olivier oedd cyfarwyddwr cyntaf
BYD BOB
[ Ystyried y problemau sy'n wynebu pobl amlwg a chyhoeddus y mae Bob y mis hwn.] Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn meddwl am bobl bwysig y byd, pobl fel Barack Obama, er enghraifft. Pan ddaeth Obama'n Arlywydd Unol Daleithiau America, soniodd e'n gyson am reoli gwerthiant a pherchnogaeth arfau yn y wlad. Ond fel rydych chi'n gwybod, mae lladdfa newydd yn gallu digwydd yno o
Theatr Gŵyl Chichester ac mae Daniel yn gweld camu i'w esgidiau ef yn a'i debyg yn her fawr, ond hefyd yn sbardun. Bydd llawer mwy o gyfoeth yn ardal Chichester,
ond hefyd rhai ardaloedd difreintiedig, ac o ganlyniad bydd y gymdeithas yno yn fwy anghyfartal na Sheffield. Yn 42 oed, mae Daniel, yn barod, wedi cael gyrfa ddis-
glair a dymunwn iddo bob hwyl yn ei swydd newydd gan hyderu y bydd y llwyddiant eithriadol a gafodd ym mhob agwedd ar ei yrfa yn ei ddilyn i ddeddwyrain Lloegr.
ddydd i ddydd. Does neb yn ddiogel. Disgyblion, myfyrwyr a siopwyr yn cael eu saeth i lawr yn enw rhyddid. Achos mae'r Americanwyr â'r hawl i gadw arfau yn eu cartrefi - a dydw i ddim yn sôn am bistolau ond arfau awtomatig sy'n gallu lladd dwsinau o bobl mewn eiliadau. A beth am addewid arall Obama am wella sefylla'r Duon yn America? Bob wythnos rydyn ni'n darllen am ddyn du arall sy wedi ei saethu gan blismon gwyn heb fod rhaid i'r plismon esbonio pam. Wrth gwrs, mae Obama'n ddigon pwerus i anfon awyrennau i fomio pentrefi yn y Dwyrain Canol, ond pan mae e'n troi ei sylw yn ôl at broblemau dwfn America ei hun, mae e mor aneffeithiol â phawb arall. Siwr o fod, roedd Jeremy Corbyn yn teimlo'n gryf
ar ôl ennill etholiad arweiniad y Blaid Lafur. Roedd pawb yn gwybod ei fod yn sefyll ar adain chwith y blaid. Doedd e ddim yn cuddio dim byd - roedd e'n sosialydd ac yn wrthniwcia. Daeth miloedd o gefnogwyr y Blaid Lafur allan i beidleisio drost, ac fe enillodd e'r ornest â mwyafrif llethol. Ond nawr, pan fydd yn agor ei geg, mae'r papurau newydd, y radio, y teledu, a hyd yn oed ei gyd-aelodau yng Nghabinet yr Wrthlaid yn ei drin fel gwallgofddyn. Wrth gwrs, mae Corbyn yn sôn am wrando ar aelodau cyffredin y blaid, ac mae hynny'n gas gan ei gyd-aelodau seneddol. Ers dyddiau Blair a Brown yn Rhif 10, mae'r Blaid Lafur wedi gweithio fel peiriant esmwyth heb i'r aelodau cyffredin allu dylanwadu ar benderfy-
niadau eu harweinwyr o gwbl. Dyna pam rhoddwyd yr enw 'Llafur Newydd' ar y system. Nawr mae Corbyn yn sôn am bethau peryglus fel democratiaeth. Dim syndod bod ein gwleidyddion yn teimlo'n nerfus! A beth am bencampwr paffio'r byd, Tyson Fury? Pan ddywedodd e rai geiriau digri am ran gwragedd yn y gymdeithas, roedd ystorm o brotest a wnaeth iddo golli teitl 'British Sportsman of the Year'. efallai. Ond fe fwynheais i glywed merch ar y radio yn dweud fod Fury ddim wedi ei digio hi o gwbl. "A dweud y gwir, fe wnaeth i fi chwerthin," meddai hi. Dydw i ddim yn gwybod a oes graddau academaidd gan y ferch'na, od mae ganddi ddau beth mwy pwysig fyth - synnwyr cyffredin a synnwyr digrifwch.
o sylfaenwyr Pwyllgor Canser UK Treorci. Gwasanaethodd ar y pwyllgor hwnnw am flynyddoedd lawer a bu'n gefnogol i'r achos hyd y diwedd. Cydymdeimlwn â'i meibion John a Julian ynghyd â'u teuluoedd. Nos Sadwrn, 20 Chwef. bydd band adnabyddus Route 48 yn perfformio yn y Clwb Rygbi mewn cyngerdd i godi arian at glwb Bechgyn a Merched Treorci.
CWMPARC
Mae cais gerbron Pwyllgor Cynllunio RhCT i godi bar brechdanau ar safle hen siop drin gwallt Parc Cottages ar waelod Heol y Parc. Mae'r safle'n anniben iawn ar hyn o bryd a bydd yn dda ei weld yn cael ei ddatblygu. Dymuniadau gorau i Megan Foxhall, Ffordd y Parc, sy wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar yn dilyn damwain. Lluthrodd
8
Megan ar iâ, a thorodd ei choes. Brysiwch yn wella!
Bydd Cinio'r Grawys bob dydd Mercher yn neuadd Eglwys San Sior, Cwmparc. Byddan nhw'n rhedeg o'r 10fed Chwefror, hyd at y Pasg. Bob wythnos bydd amrywiaeth o gawl, caws a chracers, a the neu goffi. I fwcio lle, ffoniwch Denise ar 772992. Mae'n ddrwg gennym gyhoeddi marwolaethu Jaqueline Price, Lower Terrace. Cydymdeimlwn â'r teulu yn eu colled.
Cynhaliwyd noson 'Strictly Cymru Dancing' gan Blaid Cymru yn Neuadd y Parc, nos Sadwrn, 6 Chwef. Roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn cynwys Leanne Wood, Arwenydd Plaid Cymru, yr actor, Richard Elfyn a Glyn Wise.
Y PENTRE
Y siaradwr gwadd mewn achlysur i godi arian at achosion da a gynhaliwyd yng nghlwb y Lleng Brydeinig, nos Wener, 22 Ionawr oedd hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland. Roedd y neuadd dan ei sang a chafodd pawb noson wrth eu bodd.
TON PENTRE
Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Alun Wyn Evans, Parc Dinam sy wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Mae Alun yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun yr Eglwys Newydd, Caerdydd ac yn rhedwr brwd. Gobeithio y bydd yn ddigon ffit ac iach i redeg marathon, yn ôl ei arfer, cyn bo hir. Yng nghyfarfod misol Clwb Cameo a gynhali-
wyd yng nghapel yr Annibynwys Saesneg, cyfeiriwyd at yr aelodau oedd ddim yn gallu bod yn bresennol gan gynnwys Ruth Lewis a Mona Howells. Dymunwyd adferiad buan iddynt. Y siaradwraig oedd Christine Tucket, Treherbert a soniodd am rai o'i phrofiadau ym myd y theatr. Fel llawer eraill, dechreodd ei gyrfa yn y capel ac wedyn ymunodd â chwmni opera Madam Danford George. Bu'n rhan o'r cwmni hwnnw am 13 blynedd. Dychwelodd i'r Rhondda ar ôl cyfnod yn byw yn Swydd Bedford a chyn hir ymuno â grŵp arall ac ailafael yn ei gyrfa trwy ymddagos mewn nifer o sioeau cerdd. Ei rhan ddiweddaraf oedd yn 'Blithe Spirit' a deledwyd gan S4C. Bydd cyfarfod
nesaf Cameo ddydd Mercher 24 Chwef. Mae Age Connects Morgannwg wrthi'n trefnu prosiect 'Atgofion' gyda help plant o Ysgol Gynradd Gelli. Y gobaith yw y bydd trigolion hŷn Gelli a'r Ton yn rhannu eu hatgofion â'r genhedlaeth iau. Wrth ddysgu am y gorffennol y gobaith yw y bydd hyn yn help igynllunio at y dyfodol. Yn anffodus, mae Mr Adrian Jones, un o breswylwyr poblogaidd Tŷ Ddewi, yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Gobeithir na fydd ei arhosiad yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn rhy hir ac y bydd nôl yn ei gynefin cyn bo hir. Cafwyd wythnos o hwyl a sbri yn Theatr y Ffenics pan berfformiwyd y pantomeim, 'Jack and the Beanstalk' gan gwmni ieuenctid Act 1. Cwmni o bobl ifainc yr ardal yw hwn sy'n mwynhau canu a dawnsio ac sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ers ei sefydlu yn 2008. Cafwyd ganddynt nifer o gynhyrchiadau o ddramâu cerddorol a rhaid llongyfarch eu hyfforddwyr, Rhys Williams a Peter Radmore am eu gwaith ardderchog. Bu nifer o deuluoedd mewn profedigaeth yn ystod yr wythnosau a aeth heibio. Cofiwn yn arbennig am deuluoedd Mrs B. Trott, Stryd Parry, Mrs Teresa Kinsey, Stryd Krnnard a MrsJoan Margery, Stryd Upper Canning ac estynnwn iddynt ein cydymdeimlad cywiraf.
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
YSGOLION
LLWYDDIANT NOFIO Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu wrthi yng ngala nofio’r Urdd a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 23.1.16. Dyma lun o’r pedwar a fu wrthi yn y râs gyfnewid Bl 11 i fyny yn casglu eu medalau aur! Llongyfarchiadau i
fechgyn Bl 7 ac 8 a gipiodd y wobr efydd ac i Kennan Williams ar gipio’r drydydd safle yn ei gystadleuaeth unigol.
9
PHILIP CURTISEVANS YN CYNRYCHIOLI CYMRU
Llongyfarchiadau mawr i Phillip ar gael ei ddewis yn aelod o garfan 14 Cymru ym mhêl-fasged! Ardderchog!
PENCAMPWYR PÊLRWYDD
Llongyfarchiadau mawr i dîm cyntaf yr ysgol ar ennill cynghrair pêl rwyd yr ardal. Llwyddodd y tîm i ennill pob un o'u gemau yn ystod y tymor, sy'n gryn gamp. Yn ogystal â hyn llwyddodd y tîm i ddod yn ail yn nhwrnament yr ardal, lle roeddent yn anlwcus iawn i golli mewn gêm agos iawn yn y rownd derfynol. Enillydd Chwaraewraig y Twrnament oedd Dione Rose. Ardderchog!
10
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Diolch yn fawr i aelodau carfan pêl rwyd yr ysgol am gynorthwyo yn nhwrnament pêl-rwyd Cymoedd Morgannwg a drefnwyd gan yr Urdd i ysgolion cyn-
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
radd yr wythnos hon.
11
BRASIL A BLWYDDYN 8
Mae disgyblion Blwyddyn 8 wedi bod yn creu ffafelas dros yr wythnosau diwethaf fel rhan o'u hastudiaethau ar Frasil. Dyma lun i ddan-
gos 'Rocinha', ardal ffafelas ym Mrasil mae'r plant wedi'i hastudio. Roedd safon y gwaith yn arbennig o dda ac yn defnyddio ystod o dde-
NODYN GAN DDYLUNYDD Y GLORAN
unyddiau gan gynnwys Lego a defnydd. Ymhlith y gwaith gorau oedd gwaith -
Megan Fitzgerald - 8C Megan Evans - 8E Lili Gruffudd - 8R Da iawn chi!
Rwy'n lawn edmygedd o brosiect Blwyddyn 8 a'u favela. Mae’n dangos sut mae pynciau fel Daearyddiaeth a Chelf yn gallu ennill o gydweithio gyda’i gilydd - heb sôn am y wybodaeth bydd gyda’r disgyblion erbyn iddyn nhw wylio’r gemau yn Rio. Rwy’n dwli ar y manylu yn eu model - y ffenest gyda chloriau a ffenest arall gyda llenni pinc, y toeau gwahanol a’r ffordd mae tai yn amrywio yn eu steil ond y cyfan yn ffitio gyda’i gilydd. Gwaith hyfryd! Rwy’n cynnwys ffoto gan Leon Petrosyan, mathemategydd enwog sydd yn arbenigo mewn Theori Gemau. Ar hyn o bryd mae’n astudio sut mae Theori Gemau yn gallu helpu datrys problemau tlodi yn ein byd.
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12