y gloran papur bro blaenau’r rhondda fawr
MERCH O'R RHONDDA'N ARCHDDERWYDD NESAF CYMRU
Digwyddiad hanesyddol oedd dewis Christine James [Mumford gynt] o Donypandy yn Archdderwydd newydd Cymru, a hynny am ddau reswm. Hi yw'r ferch gyntaf i lenwi'r swydd a hefyd, hi yw'r ddysgwraig gyntaf i ymgymryd â'r swydd bwysig hon. Cafodd Christine ei magu yn Nhonypandy a derbyn ei haddysg yn Ysgol Sir y Merched, Y Porth. Yno, dysgodd y Gymraeg yn ail iaith a mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf a doethuriaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar hyn o bryd mae hi'n ddarlithydd yn Academi Hywel teifi ym Mhrifysgol Abertawe ond yn byw yn yr
Eglwys Newydd, Caerdydd.
Cafodd ei siomi ar yr ochr orau gan ymateb pobl ir cyhoeddiad am ei phenodiad gyda phawb yn croesawu'r ffaith bod dysgwraig o ferch yn cael yr anrhydedd. Dywed Christine, "Mewn gwirionedd, mae'r symudiad yma'n adlewyrchu'r symudiadau sydd wedi bod yn digwydd o fewn yr Eisteddfod, ac o fewn Cymru yn gyffredino. Dw i ond yn sumbol i'r hyn sydd ar waith yn barod. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o ferched wedi bod yn ennill y prif wobrau, er enghraifft. Ac mae dysgwyr y Gymraeg yn dod yn fwy
amlwg yn y Gymru gyfoes. Cynrychioli rhywbeth sydd ar waith yn barod ydw i."
Mae Christine yn aelod o'r Orsedd er 2002 ac yn 2005 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau gyda chasgliad o gerddi yn ymateb i luniau. Bydd yn cymryd at ei dyletswyddau newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf a'i nod yw llwyddo i arwain y prif seremoniau'n "gynnes ac mewn ffordd annwyl, ond yn bennaf oll, mewn ffordd a fydd yn rhoi sylw i'r enillwyr. Dathlu llwyddiannau pobol eraill fydd y nod." Bydd penodiad Christine James yn hwb syl-
20c
rhifyn 273 2il gyfrol
gorffennaf 12
weddol hefyd i ddysgwyr yn gyffredinol. Y Prifardd Robat Powell o Lyn Ebwy oedd y dysgwr cyntaf i gipio cadair y Genedlaethol a Christine oedd y gytaf i ennill y goron. "Dw i ddim yn ddysgwraig ragor, ond dw i wedi dysgu Cymraeg. Mae hynny yn bwynt pwysig. Dw i'n teimlo bod dysgwyr y Gymraeg yn gallu teimlo'n ddihyder, teimlo na fydden nhw byth yn cyrraedd, gweld y siaradwyr brodorol gymaint ar y blaen iddyn nhw. Dw i'n gobeithio bydd y ffaith fy mod i wedi fy ethol yn Archdderwydd yn hwb ac yn ysbrydoliaeth, yn dangos i ddysgwyr bod yna fodd dysgu Cymraeg i safon uchel ac mae drysau yn agor."
Fel y dywedodd y ddarlledwraig, Catrin Beard, "yn bwysicach na bod y fenyw gyntaf a'r dysgwr cyntaf, hi yw'r unigolyn mwyaf addas - doeth, pwyllog a chall. newyddion da iawn." Yn naturiol, mae pawb o'r ardal hon sy'n adnabod Christine yn ategu hynny, yn ymfalchio yn ei llwyddiant ac yn dymuno'n dda iddi wrth iddi ddechrau ar gyfnod newydd a chyffrous yn ei hanes.
golygyddol
y gloran
e-bost: ygloran@hotmail.com
MERCHED AR Y BLAEN
Un o'r newidiadau mwyaf a welwyd yn ystod yr hanner canrif a aeth heibio yw'r newid er gwell yn statws y ferch. Mae dwy stori yn y rhifyn hwn o'r Gloran yn adlewyrchu'r newid hwnnw - y naill yw hanes gwraig fusnes leol yn cipio gwobr genedlaethol bwysig, a'r llall yw'r newyddion am wraig o'r Rhondda yn cael ei dewis yn Archdderwydd Cymru. Dau hanesyn i'w croesawu'n galonnog. Er bod y fam draddodiadol yn un o eiconau bywyd y cymoedd, ac er ei bod yn cael ei hystyried yn frenhines ar ei haelwyd ei hun, digon cyfyng oedd ei chyfleoedd, tan yn ddiweddar, i ymestyn ei hadenydd yn y gymdeithas o'i chwmpas. Yn wir, roedd rhagfarn yn erbyn gwragedd yn rhemp, gydag athrawesau, er enghraifft, yn gorfod rhoi'r gorau i'w swyddi unwaith y byddent yn priodi. Câi gwragedd eu gwahardd rhag bod yn aelodau o rai clybiau a phrin y gwelid merch yn bresen2
nol ar lan y bedd mewn angladd. "Gwrywod yn unig" oedd y gorchymun, er bod un cyhoeddwr capel wedi cael ei lysenwi a'i anfarwoli am oes yn sgil cyhoeddi, "Gwiwerod yn unig"! Mae'n dda gweld bod y dyddiau hynny drosodd gan fod y rhagfarau hyn yn gwneud drwg i gymdeithas yn gyffredinol. Yn ein hysgolion mae canlyniadau arholiad merched yn tra rhagori ar rai'r bechgyn. Byddai anwybyddu'r ffaith hon yn ein hamddifadu o rai o dalentau gorau ein cymdeithas na allwn fforddio eu hanwybyddu. Nid bod y sefyllfa bresennol yn berffaith o bell ffordd gyda rhy ychydig o ferched i'w gweld mewn rhai meysydd, yn enwedig mewn byd busnes ac uchel swyddi'r gyfraith. Yn rhyfedd iawn, y corff sy ar hyn o bryd yn cael ei gollfarnu'n gyffredinol am anwybyddu hawliau merched yw'r eglwys gan gynnwys yr eglwys wladol a'r Pabyddion. Pryd gwelwn ni esgob neu archesgob o ferch? Prin y gellir amddiffyn yr agwedd hon gan gyrff sy'n cyhoeddi bod pob
y gloran BUSNESAU'R gorffennaf 2012 ARDAL YN Y RHIFYN HWN
Christine James -1 Golygyddol-2 Wonderstuff/Adfer Eisteddfod Treorci-3 Rhydwen -4 NEWYDDION TREHERBERT TREORCI CWMPARC Y PENTRE TON PENTRE/ Y GELLI/YSTRAD - 5-6-7-8-9 Aduniad Bechgyn Ysgol Sir Y Porth -10 Ysgolion/Prifysgolion -10-11-12
unigolyn yn gyfartal o flaen Duw! Mae'n gwestiwn a ddylen ni greu rhestrau byr o wragedd yn unig wrth benodi gan fod hynny hefyd yn awgrymu na all merched gystadlu â dynion. Ceir digon o enghreifftiau sy'n gwrthbrofi'r gred hon ond mae gofyn cymell mwy o wragedd i fentro i'r meysydd lle maent yn brin ar hyn o bryd. Allwn ni ond gobeithio y gwelwn ni gynnydd yn eu nifer ym mhob maes yn y dyfodol agos. Yn y cyfamser, gadewch inni ymfalchio yn llwyddiant ein merched lleol a dymuno rhwydd hynt iddynt i'r dyfodol.
Yn ddiweddar, cipiodd Alison Chapman, perchennog siop anrhegion 'Wonderstuff', Stryd Bute, Treorci wobr genedlaethol am Fenter. Erbyn y Noson Wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Royal Lancashire yn Llundain, roedd pump o siopau anrhegion o bob rhan o Brydain wedi cyrraedd y rhestr fer, ond y ferch o Dreorci a enillodd y brif wobr am ddangos menter a dychymyg wrth hybu ei busnes. Gwnaeth dyfeisgarwch Alison wrth deilwra ei chynnyrch i fanteisio ar achlysuron arbennig yn yr ardal hon argraff fawr ar y beirniaid. Yn ystod Gŵyl Gerdd Treorci y llynedd ac ymweliad y Fflam Olympaidd eleni, addaswyd ffenestri'r siop at yr achlysur ac arbrofwyd mewn dulliau o ddenu cwsmeriaid. Yr un fath adeg y Nadolig. Bob blwyddyn trefnir arddangosfeydd a chystadleuthau ganddi sy'n gweddu i'r achlysur ac mae lleoli caffi bach
drosodd
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISON gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru
Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
ALISON CHAPMAN WONDERSTUFF, TREORCI
yng nghefn ei busnes wedi bod yn gynllun craff gan fod llif cyson o gwsmeriaid yn gorfod cerdded trwy brif ran y siop i'w gyrraedd.
Cefndir Cafodd Alison ei magu yn Y Gelli ac aeth i Ysgol Gyfun Tonypandy cyn symud ymlaen i wneud gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Morgannwg. Er iddi dderbyn gradd Ll.B oddi yno, penderfynodd fentro i faes busnes, a phan symudodd i fyw i Dreorci yn 2000, agorodd siop anrhegion Wonderstuff ar y stryd fawr. Dywed, fodd bynnag, ei bod wedi elwa ar ddilyn cwrs gradd a chodi sgiliau defnyddiol iawn ar y ffordd. Mae'r sgiliau hynny bellach yn ei chynorthwyo i ddatblygu'n wraig fusnes fentrus a llwyddiannus. Does dim pall ar ei brwdfrydedd a'i syniadau.
Ar 21 Gorffennaf, er enghraifft, mae hi'n gobeithio trefnu Ffair Grefftau Traddodiadol / Vintage Craft Fair yn neuadd y Dderwen, Treorci fydd yn cynnig cyfle i fusnesau a chrefftwyr lleol arddangos a gwerthu eu nwyddau ac mae hi'n awyddus i ddatblygu, ar y cyd a busnesau eraill, raglen o achlysuron tebyg trwy gydol y flwyddyn. Ei gobaith yw denu mwy o gwsmeriaid i siopau'r ardal yn gyffredinol a thrwy hynny rhoi hwb i economi'r dref. Pob lwc iddi gyda'i menter. Wrth ddatblygu ei busnes, mae Alison wedi dangos brwdfrydedd, blaengaredd a dychymyg, rhinweddau a sicrhaodd iddi Brif Wobr Manwerthwyr Prydain, gwobr a ystyrir yn gyfwerth ag Oscar ymhlith manwerthwyr yr ynysoedd hyn.
ADFER EISTEDDFOD TREORCI
Ar y Sulgwyn yr arferid cynnal Eisteddfod 'SemiNational' flynyddol Treorci yn y Parc a'r D芒r. Cwmni'r Ocean, a'i ysgrifennydd gwladgarol, gweithgar, W.P.Thomas oedd y prif hyrwyddwyr dros y blynyddoedd ond, yn anffodus, daeth y traddodiad i ben yn y chwedegau. Eleni, fodd bynnag, mae gwraig ifanc o Dreorci am geisio ailgynnau'r fflam. Bwriad Rhiannon WilliamsHale yw cynnal eisteddfod undydd yn Ysgol Gynradd Treorci, ddydd Sadwrn, 30 Mehefin.
Gyrfa Amrywiol Cerddor yw Rhiannon sy'n hanu o'r Barri. Cafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Gynradd Gymraeg y dref cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd. Yn rhyfedd iawn, gwraig o Dreorci a ymsefydlodd yn y Barri, Marion Mallam [gynt Williams] fu un o'r dylanwadau mwyaf ar ei gyrfa gerddorol. Ganddi hi y cafodd Rhiannon wersi piano a'i galluogodd i ennill ysgoloriaeth i Academi Frenhinol Llundain. Aeth ymlaen i ennill sawl gradd a diploma yno a dod maes o law yn gyfeilydd i nifer o gorau meibion, gan gynnwys Treorci, Pen-y-bot ar Ogwr a Phontarddulais. Dros y blynyddoedd cafodd y fraint o gyfeilio i nifer o gantorion adnabyddus, gan gynnwys Rebecca Evans, Shan Cothi, Rhys Meirion, Elin Manahan-Thomas a Fflur Wyn. Flwyddyn yn 么l bu'n perfformio Requiem Brahms gyda Nicola Rose a'r English Baroque Choir yn Eglwys Sant Ioan yn Smith Square, Llundain.
Athrawes Gerdd Er 1995 bu'n gweithio fel athrawes gerdd breifat yn ei chartref, gan hyfforddi cantorion, pianyddion a dysgu theori. Cafodd gryn llwyddiant yn y maes. Ymhlith ei disgyblion mae Leanne Cody a aeth ymlaen i astudio'r piano yn Ysgol Gerdd Chetham, Manceinion cyn graddio yn y dosbarth cyntaf o Goleg Cerdd y Gogledd. Y mis diwethaf roedd Leanne yn perfformio yn Neuadd Wigmore, Llundain. Diddordeb arall sydd gan Rhiannon yw arwain. Bu'n arwain ac yn cyd-arwain nifer o gorau gan gynnwys C么r Merched Ynysybwl a Ch么r meibion Cwmbach a chwaraeodd ran yn
parhad ar dudalen 8 3
^
GWYR Y GLORAN RHYDWEN WILLIAMS LLENOR, DARLLEDWR A BARDD 1916 - 1997 Rhydwen Williams oedd un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar a diddorol i erioed gael ei eni yng Nghwm Rhondda. Fe'i ganed yn 1916 yn 41 Stryd Treharne, Y Pentre, yn fab i lowr a hanai o Sir y Fflint, Thomas Williams a'i wraig Margaret. Roedd y teulu'n aelodau selog ym Moriah, capel y Bedyddwyr a chafodd y gweinidog, Parch Robert Griffiths, gryn dylanwad ar y crwt ifanc. Oherwydd tlodi a chyni'r cyfnod, gorfodwyd y teulu i ymfudo i Christleton, Swydd Gaer [Cheshire] yn 1931 ac yno, yn ei arddegau cafodd Rhydwen nifer o fân swyddi distadl. Treuliodd beth amser yn dilyn cyrsiau yng ngholegau Bangor ac Abertawe, ac yntau'n wrthwynebydd cydwybodol, bu'n gwasanaethu gydag un o unedau dyngarol y Crynwyr yn Lerpwl ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Fodd bynnag, erbyn 1941 cafodd ei hun yn ôl yn y Rhondda, yn weinidog ar Ainon, Ynyshir. Yn 1943 priododd â Margaret Davies a flwyddyn yn ddiwed4
darach, ganed eu mab, yr arlunydd, Huw Rhydwen [1944 - 2006].
Dechrau barddoni Dyma'r adeg y dechreuodd ddatblygu'n fardd. Ymunai â chyfarfodydd Cylch Cadwgan yn y Pentre yng nghartref Gwyn a Kate Bosse-Griffiths a chymysgu gyda beirdd a llenorion eraill o gyffelyb bryd fel Pennar Davies, Kitchener Davies a Gareth Alban Davies. Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1946 enillodd y goron am ei gerdd 'Yr Arloeswr' a manteisiai llawer o raglenni'r BBC yn gyson ar ei lais llefaru soniarus a'i ddawn actio. Ymadawodd ag Ynyshir yn 1946 gan fynd yn weinidog i Resolfen yng Nghwm Nedd ac wedyn i Bontlliw ger Abertawe. Bu yno tan 1959 pan ddaeth yn aelod o staff Cwmni Teledu Granada, yn gyfrifol am raglenni Cymraeg. Yno cafodd gyfle i hogi ei ddoniau ysgrifennu sgriptiau a chynhyrchu a llwyddodd i ddenu llawer o bobl da-
lentog i gyfrannu i'w raglenni.
Byw i'r eithaf Roedd Rhydwen yn byw bywyd i'r ymylon. Hoffai win a bwyd da, ceir cyflym a holl rialtwch y theatr. Teithiai o gwmpas Cymru yn darllen gweithiau Daniel Owen a doedd arian yn golygu fawr ddim iddo ond ei fod yn gyfrwng iddo fwynhau. Wrth reswm, doedd y nodweddion hyn ddim wrth fodd awdurdodau'r Bedyddwyr a bu gwrthdaro o dro i dro tra oedd yn weinidog. Er hynny, fe'i hystyrid yn bregethwr dramatig a phwerus. Yn 1964, cipiodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith yn rhagor am ei gerdd boblogaidd 'Y Ffynhonnau' a ddarluniai adfywiad y Gymraeg yn y Rhondda, ond efallai taw ei waith pwysicaf oedd y 'nofel fywgraffyddol' "Cwm Hiraeth a gyhoeddwyd yn dair rhan, 'Y Briodas {1969}, 'Y Siôl Wen {1970) a 'Dyddiau Dyn' (1973}. Adrodd hanes ei deulu trwy gyfnod cythryblus o
hanes y Cwm a wnânt a gweld hwnnw trwy lygaid ei ewyrth Siôn, meddyliwr a bardd, a drodd yn erbyn syniadau'r capel a gwleidyddiaeth cymodlon Mabon gan droi at sosialaeth filwriaethus. Mae anhrefn ddiwydiannol ddechrau'r ganrif, gan gynnwys Terfysg Tonypandy, Streic 1926 a dirwasgiad y tridegau oll yn cael eu disgrifio ynghyd ag ymdrechion gwrol Cymry cyffredin i oroesi yn wyneb y fath gyni. Dyma'y ymgais fwyaf uchelgeisiol yn Gymraeg neu Saesneg i bortreadu'r cyfnod. Yn 1981, dioddefodd strôc, ond er gwaethaf popeth, daliodd i weithio gan olygu'r cylchgrawn 'Barn' yn llwyddiannus iawn rhwng 1980 - 1985. Yn 1991 ymddangosodd casgliad cyflawn o'i farddoniaeth. Erbyn hyn roedd yn byw yn Aberdâr a bu farw yn Ysbyty Merthyr yn 1997. Collodd Cymru awdur toreithiog a chollodd y Rhondda un o'i meibion mwyaf lliwgar a thalentog.
newyddion lleol
DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT Cynhelir arddangosfa yn llyfyrgell Treherbert i ddangos cynlluniau’r Cyngor i wella diogelwch y ffordd yn Stryd Bute. Bwriedir symud y groesfan ar waelod Treherbert lan at y banc a'r llall i fyny dipyn o’i safle presennol. Bydd y croesfannau newydd yn rhai “Puffin”. Hefyd bwriedir ymestyn y corneli yn Stryd Bute allan er mwyn rhoi gwell cyfle i yrwyr weld wrth ymuno â’r stryd fawr.
Mae aelodau capel Blaenycwm yn ymuno â chapeli bedyddwyr Cymanfa Dwyrain Morgannwg i gyflwyno gwaith gan Verina Matthews o Gaerdydd a fu farw ym mis Ebrill. Bydd dros 100 o gantorion yn perfformio “Duw’r Enfys” ar 7 Gorffennaf yn Soar Frwdamos, Penygraig. Diolch i Marc Jon Williams o Tabernacl Caerdydd sy wedi trefnu’r achlysur a hefyd yn arwain y côr. Mae hwn yn gyfle i’r capeli dalu teyrnged i’r
ddynes arbennig hon. Llongyfarchiadau i'r Parch a Mrs Ivor Rees, gynt o Benyrenglyn ond bellach o Abertawe, ar ddathlu eu Priodas Aur y mis hwn. Hefyd i'w merch Lythan, sydd yn weinidog yn Lloegr, ar ennill gradd MA mewn diwinyddiaeth fugeiliol yn ddiweddar. Yn fuan iawn ar ôl adnewyddu Heol y Rhigos mae wyneb y ffordd wedi treulio ar y troeon. Ym mis Gorffennaf mae’r cyngor yn mynd i ailraeanu’r rhannau diffygiol.
Llongyfarchiadau i Daniel a Medi Davies ar enedigaeth eu merch,Martha. Hefyd i Rhys a Laetitia Davies ar enedigaeth eu merch Louise. Cafodd y ddau frawd, gynt o Clos y Santes Fair, eu babanod newydd yn yr un wythnos. [Llongyfarchiadau hefyd i'w tad-cu a'u mam-gu balch, Geraint a Merryl Davies (Gol.)] Llongyfarchiadau i Henri Williams, gynt o Stryd Scott, ar achlysur ei ben-blwydd yn 100
mlwydd oed. Gadawodd Mr Williams Gymru yn y 40au i weithio yn Birmingham ond mae’n dal i siarad Cymraeg ac yn cadw cysylltiad â chapel Blaenycwm.
Cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch yn ei gapel yn Birmingham cyn cael parti arbennig. Teithiodd rhai o’i deulu a’i ffrindiau o Dreherbert i ymuno yn y dathliadau.
Roedd pawb yn falch o glywed am lwyddiant Rachel Stephens o Eileen Place a enillodd cystadleuaeth y gân o sioe gerdd yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar. Ar hyn o bryd mae Rachel yn astudio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Bydd nawr yn mynd ymlaen i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Tefel. llongyfarchiadau a phob llwyddiant iddi i'r dyfodol.
EICH GOHEBWYR LLEOL :
Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN
Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Cwmparc: D.G.LLOYD
Treorci MARY PRICE
Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a'r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
TREORCI Mae aelodau Bethlehem, Hermon, Providence ac Eglwys San Matthew am ddiolch o galon i bawb yn yr ardal a gyfrannodd mor hael yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol. Casglwyd cyfanswm o £2,510 at yr achos da hwn sy'n ceisio gwella bywydau tlodion y Trydydd Byd. Yn rhan o ymgyrch aelodau Hermon ar ran Cymorth Cristnogol, cynhaliwyd Noson Goffi yn y festri yng 5
nghwmni Côr Merched y WI o dan arweiniad Mary Price. Cafwyd amrywiol eitemau gan y côr ac adroddiadau gan Anna Brown a Kathleen Evans. Daeth cynulleidfa dda ynghyd i fwynhau'r noson a llwyddwyd i godi bron £350. Mae swyddogion y capel am ddiolch i bawb a gyfrannodd ac a wnaeth teisen ar gyfer y noson. Diflannodd Treorci o dan gwmwl o lwch ddydd Sul a dydd Llun 22 / 23 Mehefin wrth i'r Cyngor rhoi wyneb newydd ar y ffordd fawr trwy'r dref. Cafodd siopwyr a
Mal Witticase, Stryd Stuart sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty'r heath, Caerdydd, ar ôl derbyn llawdriniaeth. Dymunwn iddo bob cysur ac adferiad buan. Pob dymuniad da i Mrs Betty Jones, Tŷ Bethania ar ei phen-blwydd oddi wrth ei theulu, ei ffrindiau a'i chymdogion. Cynhaliodd aelodau Ddydd Sadwrn. 14 Gorff. bydd Cylch Mei- Eglwys Sant Matthew thrin Hermon yn cynnal Ffair Haf lwyddiannus iawn ddechrau Ffair Haf yn festri'r Mehefin. Trefnwyd capel. Disgwylir y stondinau amrywiol a bydd yno amrywiol stondinau a llu o weith- chystadleuthau a gareddau ar gyfer plant gemau ar gyfer pob oed yn ogystal â raffl. Aeth ac edolion. Cofiwch yr elw at gronfa'r gefnogi. eglwys. Diolch i bawb Pob dymuniad da i Mr
thrigolion y Stryd Fawr drafferth i gadw'r llwch draw ac effeithiwyd yn arbennig ar y rheiny oedd yn dioddef o anhwylderau'r frest. Llwyth o fân gerrig oedd heb gael ei olchi'n iawn gafodd y bai gan y Cyngor sy'n ymddiheuro am unrhyw anhwylustod a achoswyd.
a fu'n helpu ac a gefnogodd yr achlysur. Roedd yn flin gan bawb glywed bod Mrs Eirlys Davies, Stryd Ninian, wedi dioddef cwymp arall tra yn aros gyda'i mab, Howard, yn Llundain. Anfonwn ati bob dymuniad da am adferiad llwyr a buan. Mae Côr WI Treorci'n weithgar iawn yn yr ardal hon ond hefyd yn mentro i ardaloedd eraill o dro i dro. Y mis hwn byddant yn perfformio yng Ngilfach Goch. Dymunwn iddynt bob hwyl ar eu taith. Y gantores - bianydd, Daryl Sherman a'i band oedd yr artistiaid
CARPETS ʻNʼ CARPETS
117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349
6
Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni a dewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton, Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewch groeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.
Mesur cynllunio a phrisio am ddim Storio a chludiant am ddim Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa Credydd parod at £1,000 Gosodir eich carpet gan arbenigwy Gwarantir ansawdd Ol-wasanaeth am ddim Cyngor a chymorth ar gael bob amser Dewiswch eich carped yn eich cartref Gellir prynu a gosod yr un diwrnod Gosod unrhyw bryd Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol Carpedi llydan at 10ʼ5” Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad Y dewis mwyaf yn yr ardal Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop
50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYN o GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR MILOEDD o BATRYMAU a CHYNLLUNIAU yn ein HARDDANGOSFA DDEULAWR Dewch yma-Cewch werth eich arian
Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop os am fargen arbennig CARPETS ʻNʼ CARPETS Ar agor 6 diwrnod 8.30-5.30 Hefyd amser cinio ddydd Sul
gwadd yng Nghlwb Jazz y Rhondda pan gynhaliwyd sesiwn llwyddiannus iawn yng Nghlwb Rygbi Treorci, nod Fawrth. 3 Gorffennaf. Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Mrs Iris Thomas, Stryd Dumfries, sydd bellach gartref ar ôl derbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cynhaliodd Pwyllgor Cancer UK Treorci Noson Gaws a Gwin lwyddiannus yn Neuadd Eglwys Sant Matthew, nos Iau 17 Mehefin. Trefnwyd sesiwn o fingo ac adloniant yng ngofal Christine Tucket, Treherbert. llwyddwyd i godi £880 at yr achos da hwn.
Mae'r Pwyllgor am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a hefyd i bawb a gyfrannodd yn ystod y Casgliad Stryd pryd y llwyddwyd i godi £780. Mae'r pwyllgor hwn yn arbennig o weithgar a'r criw bach o bobl yn llwyddo'n rhyfeddol i godi arian yn flynyddol at Cancer Research UK. Ddydd Iau, 19 Gorffennaf, aeth aelodau Clwb Henoed Treorci ar wibdaith i Weston-superMare. Gobeithio iddynt gael amser da a thuwydd da yn ogytal! CWMPARC Daeth nifer fawr i angladd Mrs Lilian
Jenkins yn eglwys St Siôr ar 29 o Orffennaf i dalu teyrnged am aelod ffyddlon dros lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn 92 oed. Chydymdeilir â’i tri mab a’u teuluoedd yn eu colled.
Cydymdeimlir hefyd â theulu Ken Rees Spencer, Heol y Parc a fu farw diwedd Mehefin. Bu Ken yn aelod gweithgar o Blaid Cymru yn y Ward, yn drysorydd yn y gangen ac yn ymgeisydd mewn etholiadau lleol. Collodd ei wraig, Alice rai blynyddoedd yn ôl a threuliodd ei flynyddoedd olaf mewn cartref gofal yn Aberpennar. Er yn ddi-Gymraeg, roedd yn Gymro
i'r carn a gweithiodd yn galed dros y Blaid yn yr ardal. Cydymdeimlwn â'i ffrindiau a'i deulu yn eu colled. Mae’n ddrwg glywed bod Tad Brian Taylor yn dal yn dost ac yn anabl i wasanaethu. Ar y Sul 24ain o Fehefin gwasanaethwyd gan y Tad Thomas Watkins Stryd Tallis gynt.
Mae’n ddrwg glywed fod Barry Watkins Morgan Terrace wedi cwympo ac mae ar hyn o bryd yn yr ysbyty. Dymunnwn adferiad iddo yn fuan. Roedd yn flin gan bawb glywed am farwolaeth Mrs Beryl
7
Breeze, 18 Crown Avenue. Roedd Beryl yn hanu o Railway Terrace, Cwmparc ond wedi ymgartrefu ers tro yn Ynyswen. Bu'n weithgar iawn yn yr ymgyrch i gadw fflatiau Crown Avenue a gweithiai'n gyson yn codi arian at achosion da, yn enwedig Tŷ Hafan, trwy ei gwaith gwau. Bu'n adrodd ei hatgofion cynnar am y Nadolig i ddarllenwyr Y Gloran yn rhifyn Rhagfyr y llynedd. Coffa da amdani.
ADFER EISTEDDFOD TREORCI parhad o dud 3
llwyddiant diweddar Only Boys Aloud yng nghystadleuaeth Britain's Got Talent wrth iddi hyfforddi un adran o'r côr hwnnw. Yn dilyn marwolaeth sydyn John Jenkins cafodd ei phenodi'n arweinydd Côr Meibion Pen-y-bont, côr y bu'n cyfeilio iddo rhwng 2003 - 08. Gyda'r holl lwyddiant hwn y tu cefn iddi, gellir disgwyl y bydd ei menter ddiweddaraf o adfer Eisteddfod Treorci yn llwyddo, ond mae angen cefnogaeth y cyhoedd. Felly ar 30 Mehefin dewch yn llu i'r ysgol Gynradd, Heol Glyncoli. Cynhelir yr eisteddfod rhwng 9.15 a.m. - 5.45 p.m. a bydd gwledd o gerddoriaeth yn eich aros a chyfle i glywed talentau newydd lleol. Pris y tocynnau yw £2 oedolion a £1 i blant. Gobeithio taw eisteddfod eleni fydd y gyntaf o laweroedd.[O.N. 30 Mehefin: A barnu wrth nifer y bobl a fynychodd yr eisteddfod gyntaf, bu'n llwyddiant ysgubol. Cawn ragor o'r hanes yn rhifyn nesaf Y Gloran.] 8
Y PENTRE Dyw Des Hughes, Llys Siloh, ddim wedi bod yn dda yn ddiweddar ond mae ei holl gyfeillion yn falch ei fod yn gwella erbyn hyn ac yn gobeithio y cafodd e ddiwrnod i'r brenin pan fu'n dathlu ei ben-blwydd ddydd Mawrth, 2 Gorffennaf.
A sôn am ddiwrnod i'r brenin [neu'r frenhines efallai!], daeth pawb yn y Llys ynghyd i ddathlu Jiwbili Ddiemwnt y Frenhines. Fel y gwelch yn y llun ar dudalen 9, Major Westwood a'i wraig o Fyddin yr Iachawdwriaeth oedd y prif westeion. Cafwyd te parti rhagorol a chyfle i bawb ddangos eu gwybodaeth (neu anwybodaeth) wrth gystadlu mewn cwis. Mrs Westwood enillodd y wobr
gyntaf!
Cynhaliwyd Anifersari'r Bobol Ifainc sy'n perthyn i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn eu pencadlys yn Stryd Carne ddydd Sul, 17 Mehefin. Cymerwyd rhan gan nifer fawr o'r aelodau a chafodd pawb amser da iawn.
Ar ddydd Sadwrn, 14 Gorffennaf cnhaliwyd diwrnod gan y Fyddin yn dwyn y teitl, 'Sporting Chance'. Y pwrpas fydd dathlu dyfodiad y Gemau Olympaidd i Lundain ac i goroni'r cyfan caiff bawb gyfle i fwynhau te mefus a hufen! Pob dymuniad da i fam Tesni Powell, ein gohebydd yn y Pentre, sydd heb fod yn dda iawn yn ddiweddar. Dymunwn iddi bob cysur a rhwyddineb. [Gol.]
TON PENTRE Ar 24, Mehefin, daeth cynulleidfa o dros 100 ynghyd i ddathlu Jiwbili Arian cysegru Eglwys Ioan Fedyddiwr, Ton Pentre. Yr offeiriad a phregethwr oedd yr Y Parchedicaf Barry Morgan, Esgob Llandaf ac Archesgob Cymru. Arweiniwd y gwasanaeth gan y Tad haydn England - Simon S.S.C., offeiriad y plwyf a gafodd gymorth rhai o gyn-offeiriaid y
Pawb yn Llys Siloh, Y Pentre yn dathluʼr Jiwbili
plwyf, gan gynnwys y Tad Peter Coleman. Darllenwyd y llithoedd o'r Hen Destament [ill dwy o Lyfr Esaiah] gan Mr Graham John a ymddeolodd yn ddiweddar o fod yn Ysgrifennydd y Fywoliaeth.
Roedd yn dda gan bawb weld Mr Keith Thomas yn bresennol yn nathliadau'r eglwys o gofio gymaint o waith a wnaeth yng nghyfnod cynnar yr adeilad newydd. Bu Keith yn wael ers peth amser ac mae ei gyd-aelodau i gyd yn dymuno iddo bob cysur a
rhwyddineb i'r dyfodol. Yn ddiweddar, ymddeolodd Mr Stephen Pumford ar ôl gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol am 37 mlynedd. Stephen yw Darllenydd Plwy Ystradyfodwg a dymunir iddo ymddeoliad hir, iach a hapus gan ei holl gyfeillion.
Roedd yn ddrwg gan bawb glywed nad yw Mr Brian Morris, Uplands, Ystrad Rhondda yn dda o gwbl y dyddiau hyn. Bu Brian yn gaeth i'r ysbyty ers peth amser ac mae ei gyfeillion
yn dymuno iddo bob cysur a gofal.
helir cyfarfodydd PACT Y Pentre a'r Ton ar ddydd Mawrth Erbyn hyn, mae Clwb cyntaf pob mis yn Pêl-droed Ton Pentre Ystafell ddydd Llys wedi dod yn lleoliad Nazareth rhwng 6 poblogaidd ar gyfer 7pm. Bydd y Cyngh. cynnal po math o wei- Shelley Rees-Owen a thgareddau, hyd yn Maureen Weaver yn oed gan gyrff o bresennol i ymateb i ardaloedd eraill. unrhyw ymholiadau Ddydd Gwener, 13 gan etholwyr. Gorffennaf, er enghraifdft, roedd Dyna’n rhifyn olaf o Cyfeillion Ysgol Gy- Newyddion Lleol tan nradd Treorci yn cyn- mis Medi ond mae nal eu dawns Haf ebost Y Gloran yn yno. Gan dechrau am aros ar agor i’ch 7 o'r gloch, pris tolluniau a’ch pytiau, cynnau oedd £10. sylwadau neu Roedd y gerddoriaeth erthyglau trwy mis fyw a'r disgo o dan Awst. Mwynhewch y ofal Mark Langley. gwyliau a’r tywydd O hyn ymlaen, cynbraf!!! (AB) 9
ADUNIAD CYN-DDISGYBLION YSGOL SIR Y BECHGYN, Y PORTH
Yn ddiweddar, trefnodd 10 o gyn-ddisgyblion oedd wedi dechrau yn Nosbarth 1 yn Ysgol Sir y Bechgyn ym mis Medi 1942, 70 o flynyddoedd yn ôl, gwrdd ar 28 Mehefin yng Nghasgwent [Chepstow] i ddathlu'r achlysur. Doedd nifer ohonynt heb weld ei gilydd er 1948. Cawsant ddiwrnod wrth eu bodd yn hel atgofion am ddigwyddiadau, cyfoeswyr ac athrawon yn ogystal â thrafod eu hynt a'u helynt personol. Trefnwyd y diwrnod gan John Isaacs, cyn-brifathro Ysgol Gyfun Llanrhymni sy'n hanu o Lwynypia ond bellach yn byw yn Llandaf.
Yn y llun (o'r chwith i'r dde + eu hysgolion cynradd) – Doug Meredith (Ton Pentre), Graham Woosnam (Y Porth), John Isaacs (Llwynypia), Douglas Green (Penyrenglyn), John Evans (Ton Pentre), John Withey (Bodringallt), Roger Williams (Ton Pentre), Graham Lewis (Penyrenglyn), Ivor Rees (Penyrenglyn), Mal Jones (Bodringallt).
NEWYDDION YSGOL G G
NEWYDDION YSGOL G G
ysgolion a phrifysgolion BODRINGALLT
10
BRONLLWYN
NEWYDDION YSGOL G G
YNYSWEN
NEWYDDION NEWYDDION YSGOL GYFUN YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
TREORCI
Seren Bl 2 Yn y Parc Pam mae’n braf rwy’n hoffi mynd i’r parc. Rwy’n hoffi mynd ar y siglen. Weithiau fi mynd ar y bicyn i’r parc. rydw’i yn mynd ar y chwyrligwgan. Mae e’n mynd yn gyflym iawn iawn. Mae ci yn y parc.
NEWYDDION YSGOL G G
YNYSWEN
ysgolion a phrifysgolion
Mae plant meithrin Ynyswen wedi tyfu wniwns a letys.
Rydw’i yn hoffi mynd ar y si-so. Mae e’n mynd lan a lawr. Dyna hwyl a sbri!
Llun Olimpaidd gan Faith Plummer Bl 6
NEWYDDION YSGOL G G
YNYSWEN
11
HWYL EIN SADWRN PONTIO
Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 lawer o hwyl yn ystod ein Sadwrn Pontio ar Fehefin 25ain. Roedd cyfle iddynt gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gam gynnwys gweithdai Colur Theatrig
NEWYDDION YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA 12
Dyma luniau'r côr a'r côr merched o Ysgol y Cymer a enillodd yn Eisteddfod yr Urdd
, sgiliau Sycras, Graffiti a Drama. Edrychwn ymlaen at groesawu’r holl ddisgyblion i’r ysgol unwaith eto ar Orffennaf 3ydd! Diolch i E3 ac i’n Gweithwraig Ieuenctid, Sarah Stone am eu cefnogaeth i’r diwrnod, ac i holl arweinwyr y sesiynau.
LLWYDDIANT YSGUBOL EISTEDDFOD ERYRI 2012
Ar ôl misoedd o baratoi, teithiodd dros 80 o ddisgyblion, ynghŷd â staff a theuluoedd y disgyblion , yr holl ffordd o Gwm Rhondda i ardal Caernarfon i gystadlu mewn pedair ar bymtheg o gystadlaethau amrywiol iawn – o ddawnsio disgo, i gerdd dant a drama. Bu’n Eisteddfod hynod o wlyb a mwdlyd, ond bu hefyd yn Eisteddfod hynod lwyddiannus i’r Cymer wrth i’r ysgol gipio tair gwobr gyntaf a dwy drydedd wobr. Dyma’r canlyniadau – Parti Llefaru dan 15 – Cyntaf Parti Merched dan 15 – Cyntaf Monolog dan 19 – Sarah Louise Jones – Cyntaf Côr SATB dan 19 – Trydydd Dawns Stepio Unigol i Ferched dan 15 – Nia Rees – Trydydd Yn naturiol, rydym yn hynod falch o bob un disgybl a gynrychiolodd yr ysgol yn yr Eisteddfod arbennig hon ac ymfalchiwn yn y ffaith ein bod yn medru cyd-weithio gyda disgyblion mor dalentog ac ymroddgar. Dymunwn ddiolch yn ddidwyll hefyd i holl gefnogwyr ffyddlon Y Cymer am bob cefnogaeth – er gwaetha’r mwd a’r glaw! Yn ogystal, dymunwn longyfarch Adran Bro Tâf, Adran y Cwm ac Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt ar eu llwyddiant. Llongyfarchiadau anferth hefyd i un o gyn-ddisgyblion Y Cymer ar ei llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Enillodd Rachel Stevens, sydd newydd orffen ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, y wobr gyntaf yng nghystadlaeuath Unawd allan o Sioe Gerdd dan 25. Fe fydd Rachel nawr yn cystadlu yng nghystadleuaeth bwysig ‘Ysgoloriaeth Bryn Terfel’ yn yr Hydref. Llongyfarchiadau anferth i ti Rachel!Yn bendant, rhoddwyd talentau gorau Cwm Rhondda ar y map unwaith eto eleni!