Yglorangorff13

Page 1

y gloran HOLI JILL

Ers bron pymtheng mlynedd bu Jill Evans yn Aelod Seneddol Ewropeaidd. Yn ddiweddar cafodd ei dewis yn rhif 1 i ymladd y sedd gan Blaid Cymru a chafodd ei holi gan y cylchgrawn wythnosol, Golwg. Diolchwn i olygydd Golwg am ganiatâd i adargraffu'r sgwrs....

Beth fu'r uchafbwyntiau yn Senedd Ewrop hyd yma? Mae'r blynyddoedd yn y Senedd fel marathon yn hytrach na sbrint. Rwyf yn falch iawn, wrth gwrs, fy mod wedi llwyddo i gadw sedd y Blaid mewn tri etholiad. Roedd yn anrhydedd cael fy ethol yn llywydd grŵp Cynghrair Rydd Ewrop yn y Senedd yn 2009 ac roedd ennill

statws cyd-swyddogol i'r Gymraeg yn uchafbwynt. Y cam nesaf fydd statws swyddogol llawn i'r Gymraeg. Beth yw'r prif ddadleuon tros gadw Prydain yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd? O ran yr Undeb Ewropeaidd mae buddiannau cenedlaethol Cymru yn wahanol iawn i Brydain. Rydyn ni'n elwa yn ariannol o'n haelodaeth ac

20c

mae'r cronfeydd rhanbarthol a'r polisi amaethyddol yn hanfodol i'n heconomi. Beth bynnag sy'n digwydd gyda refferendwm, mae rhaid i bobol Cymru benderfynu ar ein dyfodol ni fel cenedl yn Ewrop. Pwy yw eich arwr gwleidyddol, a pham? Gwynfor Evans am ei egwyddorion cadarn a'i lais tawel, cryf. Hefyd yr

TEYRNGARWCH AELODAU'R CYNULLIAD

Almaenes, y ddiweddar Petra Kelly, menyw ifanc, gwleidydd ac ymgyrchydd dros heddwch. Cwrddais â hi unwaith a ches fy ysbrydoli'n llwyr ganddi. Beth ydych chi'n dipyn o arbenigwr ar ei wneud? Coginio cinio dydd Sul. Beth ydych chi fwyaf anobeithiol ar ei wneud? Ffindio fy ffordd o gwmpas - does dim synnwyr o gyfeiriad gen i o gwbl! Sut athro Cymraeg oedd Penri Jones yn Ysgol Tonypandy? Rwy'n ddwyieithog heddiw diolch iddo fe. Fel athro roedd Penri yn gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl Fe drefnodd weithgareddau yn yr ysgol ac fe es i Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf gyda fe a'i deulu yn y car. Roedd yn gefnogol iawn - ac yn amlwg yn athro da iawn hefyd. Parhad ar dudalen 3

Yn rhifyn Mehefin o'r Gloran buon ni'n trafod hynt a helynt Ysgol Gynradd y Pentre. Erbyn hyn mae ein Haelod Cynulliad, Leighton Andrews, oedd hefyd yn Weinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru, wedi gorfod ymddiswyddo gan ei fod wedi cefnogi rhieni'r ysgol oedd am ei chadw ar agor. Y cwestiwn sy'n codi yw i bwy mae teyrngarwch aelod, sydd hefyd yn weinidog yn y llywodraeth, yn ddyledus, ai i'r llywodraeth ynteu i'w etholwyr? Penderfynodd Mr Parhad drosodd


golygyddol l TEYRNGARWCH AELODAU'R CYNULLIAD parhad

Andrews taw cefnogi ei etholwyr oedd ei brif ddyletswydd, a byddem yn cytuno ag ef yn hynny o beth. Gwelodd fod gwrthdaro rhwng y gwŷs a roddodd ef ei hun i awdurdodau addysg lleol i gael gwared ar lefydd gwag yn ein hysgolion ac anghenion dybryd ei etholwyr yn Y Pentre. Safodd gyda'r rhieni'n gwbl agored ac mae'n haeddu clod am wneud hynny yn hytrach na dewis eu cefnogi o hyd braich. Y cwestiwn sy'n codi wedyn yw a ddylai e fod wedi ymddiswyddo o'r llywodraeth o gwbl. Oedd angen iddo wneud? Mewn cyfweliad

ar y teledu, awgrymodd y cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan fod rhyw amheuaeth ynglŷn â hyn gan ei fod yntau, tra yn Brif Weinidog, wedi dangos ei ochr ynglŷn â thynged ysgol yn ei etholaeth yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, credwn ni fod Leighton Andrews wedi gwneud y peth cywir wrth ymddiswyddo. Ac yntau'n Weinidog Addysg, ef oedd yn gyfrifol yn y pen draw am bolisiau addysg Llywodraeth Cymru, ac ef oedd wedi dweud wrth y 22 awdurdod addysg yng Nghymru fod rhaid iddynt leihau nifer y lleoedd gwag mewn ys-

y gloran

gorffennaf 2013

YN Y RHIFYN HWN golion. Ysgol y Pentre sydd â'r ganran uchaf o leoedd gwag yn Rhondda Cynon Taf a byddai Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud eu bod ond yn gweithredu ar sail y gorchymun a gawsant gan y Gweinidog. Pe na bai wedi ymddiswyddo byddai wedi ymddangos yn rhagrithiwr o'r radd flaenaf. Bydd colled ar ôl Leighton Andrews. Ef oedd aelod mwyaf blaenllaw a mwyaf egniol y Cabinet o bell ffordd. Gellid ei gyhuddo ar brydiau o fod yn rhy ymosodol ac am geisio newid gormod o bethau ar yr un pryd ym maes addysg. Rhaid cydnabod, fodd bynnag, fod angen ymateb pendant a chwyrn i safonau isel addysg Cymru o'u cymharu â chanlyniadau gwledydd eraill yn y Profion PISA. Hefyd, roedd ei gefnogaeth i'r iaith Gymraeg yn ddilys a chan fod y cyswllt

Holi Jill...1 Golygyddol.. Teyrngarwch Aelodau’r Cynulliad ...2 Holi Jill parhad...3 Dyn y Carpedi...4 Newyddion Lleol...5-8 ...8 ...9-10-11 Ysgolion...12

rhwng yr iaith ac addysg mor hanfodol bwysig, dyw rhannu'r ddau bortffolio ddim yn fanteisiol o gwbl. Ac yntau eisoes wedi pechu Carwyn Jones trwy ymgyrchu yn enw'r Blaid Lafur yn erbyn colli rhai gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, roedd protest Ysgol y Pentre'n un cam yn rhy bell. Gwrthododd y Prif Weinidog ei gefnogi pan gafodd gyfle a doedd ganddo ddim dewis wedyn ond mynd. Edrychwn ymlaen at weld beth fydd ei dacteg ar y meinciau cefn. Gallai'r sefyllfa fod yn ddiddorol iawn.

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

2

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


HOLI JILL

Beth ydych chi'n ei wneud i gadw'n heini? Dw i erioed wedi bod tu fewn i gym ond rwy'n garddio ac yn cerdded i'r Senedd bob dydd pan wyf ym Mrwsel. Rwy'n hoff iawn o nofio hefyd. Sut le yw eich cartref? Tŷ ar y stryd fawr yn Llwynypia yn y Rhondda. Hen fans a chyn-gartref fy rhieni. Mae golygfa hyfryd dros y mynyddoedd ac mae'n braf cael bod yn yr un gymdeithas lle ces i fy ngeni a'm magu. Tŷ cyfforddus a braidd yn anhrefnus. Tân coed. Tŷ gwydr. Gardd. Coeden magnolia gwych yn flodau i gyd ar y funud.

Pwy fyddech chi'n eu gwahodd i'ch pryd bwyd delfrydol a beth fyddai'r wledd? Y menywod i gyd aeth i Gomin Greenham dros y blynyddoedd. Byddai angen neuadd fawr! O ran bwyd, cawl a chaws Cymru - cawl heb gig oen i'r llyseuwyr. Beth sy'n eich gwylltio fwyaf am Gymru / y Cymry? Ein bod ni bob amser yn edrych tua'r dwyrain at Loegr. Mae Iwerddon yn wlad fach annibynnol i'r gorllewin sy'n gallu cynnig a dysgu llawer i ni. Beth yw'r parti gorau ichi fod ynddo? Parti pen-blwydd fy mam yn 80. Diwrnod twym a heulog a'm chwaer a minnau yn y gegin trwy'r prynhawn

yn brysur yn gwneud jygiau o Pimms ar gyfer y pensiynwyr oedd yn mwynhau eu hunain yn yr ardd! Pa bapurau newydd / gwefannau / blogs fyddwch chi'n mwynhau eu darllen? Rwyf yn ceisio dilyn yr hyn sydd yn y papurau newydd ym mhob rhan o Gymru, gan fod y wlad i gyd yn etholaeth i fi. Rwy'n hoffi darllen y Rhondda Leader i gael newyddion am bobol leol rwy'n nabod ac yn mwynhau'r Financial Times o ran hynt a helynt yr economi ym mhob rhan o Ewrop. Rwyf ym Mrwsel fel arfer o ddydd Llun i ddydd Iau ac felly mae blogs Cymru yn bwysig er mwyn cadw

mewn cysylltiad â'r drafodaeth wleidyddol. Twitter yn dda hefyd. Aeth deng mlynedd heibio ers Rhyfel Irac, ac mae'r wlad yn llanast. Ond beth fedrwn ni ei wneud i helpu? Rydym yn gweld pobol yn colli eu bywydau bob dydd yn Irac. Roedd y rhyfel yn anghyfreithlon ac anghyfiawn. Y peth gorau gallem ni ei wneud yng Nghymru yw sefydlu Academi Heddwch a fyddai'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar sut y gallem ni fel cenedl gyfrannu at heddwch a chyfiawnder yn y byd. Beth yw eich hoff air? Heddwch.

3


Clybiau Pêl-droed Ton Pentre a Rhydyfelin a Chlwb Rygbi Treherbert, heb sôn am ei gefnogaeth gyson i'r papur hwn.

DYN Y CARPEDI

Os byddwch yng nghanol Treorci ac am gael sgwrs hwyliog yn y Gymraeg, tarwch i mewn i siop Carpets & Carpets ac fe gewch chi groeso twymgalon a brwd gan y perchennog, Malcolm Thomas. Mae Mal yn ddiarhebol am ei haelioni a'i gefnogaeth i bob achos da yn yr ardal, gan gynnwys y Gymraeg. Cafodd ei eni yn Nhreherbert cyn symud i fyw i Dreorci ac yntaun 5 mlwydd oed. Ar ôl derbyn ei addysg gynnar yno, symudodd ymlaen i Ysgol Sir y Bechgyn, Y Porth ac oddi yno i Brifysgol Aberystwyth lle y graddiodd mewn daearyddiaeth.

4

Ei swydd gyntaf rhwng 1966 - 70 oedd fel swyddog cynllunio yng Nghasnewydd ond daeth tro ar fyd pan ymundd â chwmni Nairn o'r Alban a arbenigai mewn cynhyrchu lloriau meddal.

Arhosodd gyda'r cwmni hwn am 4 blynedd cyn ymuno â Roy Jones Cyf, cwmni a weithiai hefyd ym maes llorau, carpedi a theils. Arhosodd gyda'r cwmni hwn am 10 mlynedd ond yn 1984 aeth yn gynrychiolydd i gwmni Armstron. Er taw am ychydig fisoedd y bu yn y swydd, golygai deithio ledled Cymru ac yn y swydd hon dechreuodd ddod i gysylltiad â'r iaith Gymraeg. Roedd ieithoedd wedi bod o ddiddordeb iddo erioed a thra yn Ysgol y Porth, astudiodd Ffrangeg, Sbaeneg a Lladin oherwydd tybiai'r prifathro fod i'r ieithoedd hynny fwy o bri ar gyfer cael mynediad i brifysgol.

Roedd brawd Malcolm, Haydn wedi agor siop garpedi Carpets & Carpets yn Nhreorci beth amser ynghynt ond yn 1984 cafodd drawiad drwg ar y galon a bu

rhaid rhoi'r gorau i'w waith dros dro. Daeth Malcolm i'r adwy a chymryd y busnes drosodd a dyna ddechrau gyrfa newydd fel gwerthwr a ffitiwr carpedi.

Tyfodd y busnes yn gyson dros y blynyddoedd ac erbyn hyn cyflogir rhyw 15 o ddynion yn llawn amser ganddo. Mae darparu bywoliaeth ar gyfer 15 o deuluoedd ifanc yn dipyn o gamp ac yn gyfraniad sylweddol i economir dre. Ond teimla Malcolm hefyd fod ganddo ddyletswydd i fod yn gefn i fywyd diwylliannol yr ardal yn ystyr ehangaf y gair. O ganlyniad, derbyniodd nifer o gyrff nawdd hael gan gwmni Carpets & Carpets, gan gynnwys Clybiau Bechgyn a Merched yr ardal, Eisteddfod Treorci, Ymgyrch Canser y Prostad, Côr Meibion Treorci,

Yn blentyn âi i gapel Bethania, Treorci a dysgu yno i ganu emynau Cymraeg. Medrai eu darllen ond doedd e ddim yn deall ystyr y geiriau. Dros y blynyddoedd, teimlai gywilydd na fedrai'r iaith ac ryw ddeng mlynedd yn ôl, penderfynodd fynd ati o ddifrif i'w meistroli. Aeth i ddosbarth yng Ngholeg Llwynypia a chael arweiniad gwych i'r iaith gan yr athrawes Jane Davies o Tylorstown. Yn fuan, roedd Mal yn manteisio ar bob cyfle i'w siarad - gan y byddai'n cyfaddef ei fod wrth ei fodd yn sgwrsio! Erbyn hyn, mae'n bachu ar bob cyfle i ddefnyddio'r iaith yn ei fusnes, yn arbennig gyda thrafaelwyr a chwsmeriaid. Bydd e wrth ei fodd yn siarad â disgyblion o'r ysgolion Cymraeg tra bod eu rhieni'n dewis carped ac yn manteisio ar gymdogion y Stryd Illtyd i siarad yr iaith hefyd. Mae ei wyres, Holly, yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda a bellac mae cyfle o fewn y teulu i ymarfer. Cyfeddyf malcolm fod dysgu'r Gymraeg wedi ychwanegu dimensiaw newydd i'w fywyd, ond elwodd yr iaith hithau a diwylliant ardal gyfan o haelion'r gŵr rhadlon, hael hwn.


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Ar 8 Gorffennaf ymddangosodd twll mawr yn Heol Rhigos draw ar ochr Hirwaun ac oherwydd hynny bu rhaid cau'r hewl i drafnidiaeth am rai dyddiau a cheisio dod o hyd i achos y broblem. Roedd hyn wedi achosi tipyn o drafferth i'r bobl hynny sy'n gorfod defnyddio'r ffordd hon yn ddyddiol.

Ymddengys y bydd y cynllun i godi 24 o dai ym Mlaen-y-cwm yn mynd yn ei flaen gan fod arolygwr Llywodraeth Cymru wedi caniatau i'r cwmni datblygu ddefnyddio darn o'r tir a berthyn i grîn y pentref ger Stryd y Capel. Bydd y tir ychwanegol hwn yn galluogi'r adeiladwr ledu'r ffordd er mwyn cwrdd â gofynion y Cyngor.

Llongyfarchiadau i Carol a Ralph Upton a aeth yn ddiweddar ar wyliau i ynysoedd Jersey a Guernsey i ddathlu eu priodas ruddem. Roedd y dewis yn un priodol gan taw yno yr aethant ar eu mis mêl 40 mlynedd yn ôl! Mae'n flin iawn gennym gofnodi marwolaeth Mrs Carol Oliver, Stryd Herbert. Roedd Mrs Oliver

yn gymeriad hynod o boblogaidd yn yr ardal a bydd colled ar ei hôl. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i gŵr, John 'Nodge' a'r teulu i gyd yn eu profedigaeth.

TREORCI

Mae cynlluniau wedi eu cyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Rh.C.T. i droi Tafarn y Crown, Ynyswen yn chwe fflat. Caewyd y tafarn, sy'n adeilad trawiadol iawn, beth amser yn ôl. Dyma dafarn olaf y rhan hon o'r dre wedi i'r Royal Oak a'r Boar's Head gau eu drysau dro yn ôl. Pob dymuniad da i Danny ac Ann Evans, Tŷ Pengelli sydd heb fwynhau'r iechyd gorau yn ddiweddar. Mae eu ffrindiau yn dymuno adferiad buan i'r ddau.

Llongyfarchiadau i Mrs Denise Taylor, Stryd Luton, ar dderbyn MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines am ei gwaith gyda'r anabl. Ers gadael yr ysgol, mae Denise wedi gweithio yng nghwmni Remploy, lle mae ei gŵr Martin hefyd yn cael ei gyflogi. Oherwydd afiechyd pan oedd yn blentyn gadawodd Denise yr ysgol heb un-

rhyw gymwysterau ond ers hynny cafodd gyfle i hyfforddi pobl o bob rhan o Brydain a'u galluogi i fyw bywyd llawn a defnyddiol. Mae hi, ei gŵr a'u merch, Jordan yn edrych ymlaen at fynd i Lundain i dderbyn yr anrhydedd yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Yn nes ymlaen yn y flwyddyn bydd Fferm Wynt y Maerdy yn cynnig grantiau i gymdeithasau ac achosion da yn ardal Treorci. Mae 20 grant £250 a £500, 10 grant £1,000 ac 8 o rai £2,500 ar gael. Does ond rhaid llunio crynodeb ar un dudalen A4 o'ch cais. Ceir rhagor o fanylion ar treorchywindfund.co.uk

Bob dydd Gwener rhwng 10-12 o'r gloch mae Clwb Clebrab Cymraeg yn cael ei gynnal yn y Llyfrgell - cyfle i bawb, siaradwyr a dysgwyr, i ymarfer yr iaith. Piciwch i mewn am sgwrs. Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Mr Bob Webster, Y Stryd Fawr sydd bellach gartref ar ôl bod yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Nos Sadwrn, 22 Mehefin cafwyd disgo yng nghwmni Sound Sensation

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN yn y Clwb Rygbi i godi arian at Glwb Bechgyn a Merched Treorci.

Ddydd Gwener, 28 Mehefin cynhaliodd Ysgol Gynradd Treorci fete ac arwerthiant cist ceir yn iard yr ysgol.. Cafwyd amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau o bob math i blant ac oedolion. Nos Wener, 21 Mehefin, daeth nifer o'r cwmniau sy'n defnyddio Theatr y Parc a'r Dâr ynghyd i berfformio mewn dathliad, '100 Not Out' i gofnodi canmlwyddiant y theatr. Arweiniwyd y noson gan yr actores leol, Shelley Rees-Owen ac ymhlith y rhai oedd yn cymryd rhan oedd Cwmni Opera Selsig,

5


Players Anonymous, Spotlight, Band y Parc a'r Dâr a Chôr Meibion Treorci.

Maen flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Des Bartlett, Teras Troedyrhiw. Roedd Des yn aelod poblogaidd o'r gymuned ac yn bêldroediwr adnabyddus yn ei ieuenctid. Cydymdeimlwn â'i fab a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Ddydd Iau, 25 Gorff. dadorchuddir plac glas yn Llyfrgell Treorci i nodi bod y gwyddonydd a'r cyfrifiadurwr Donald Watts Davies wedi ei eni yn y dref. Ef, yn anad neb, sy'n gyfrifol am ddyfeisio'r dull o bacedu sy'n ein galluogi i anfon

6

negeseuau e-bost heddiw. Bydd Maer Rh.C.T. ac aelodau o deulu Donald Davies yn bresennol.

Mae'n bleser gweld neuadd Eglwys Sant Matthew ar ei newydd wedd ar ôl i'r systemau trydan a gwresogi gael eu hadnewyddu. Bydd popeth yn barod ar gyfer gweithgareddau'r hydref a'r gaeaf.

Dyma fydd man cyfarfod merched y WI, nos Iau, 4 Medi pan fydd tymor yr hydref yn dechrau gyda sgwrs gan Mrs Audrey Griffiths a fydd yn sôn am ei hen hen fodryb, Elizabeth Andrews o Don Pentre i wnaeth gymaint i hyrwyddo hawliau merched, addysg ac egwyddorion

sosialaeth yng Nghwm Rhondda ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

CWMPARC

Mae’n flin cyhoeddi marw David Morgan Vicarage Terrace ar ôl rhai misoedd o salwch fe adwaunwyd gan ei ffrindiau fel Dai Mountain. Cydymdeimlir â’i fab Paul, Gail a’r teulu ac â’i chwaer Annette a’i theulu yn eu colled. Llongyfarchiadau i Julia a Luke ar enedigaeth eu mab Jacob - ail ŵyr i Alun Foxhall a’r ail gorŵyr i Lyndsay a Megan Foxhall. Mae Eglwys San Siôr wedi derbyn £6214 gan archfarchnad Asda er mwyn gwella'r neuadd

gan gynnwys adnewyddu plastr, addurdo, cywiro'r gwres canolog ac adnewyddu'r gegin. Defnyddir y neuadd gan nifer fawr o grwpiau gan gynnwys yr Ysgol Sul, grŵp mamau a babanod, dosbarthiadau crefft a sesiynau disgo i blant. Y gobaith yw y bydd y neuadd ar ei newydd wedd yn cael ei defnyddio fwyfwy gan y gymuned. Cynhaliwyd Gŵyl Flodau San Siôr rhwng 5-7 Gorffennaf. Roedd yn gyfle i bawb ymweld â'r eglwys gwneud cyfraniad tuag at ei chynnal. Llongyfarchiadau i Lori Collins A Christopher John a briododd yn yr eglwys ddydd Sadwrn, 22 Mehefin. Mae eu holl ffrindiau a'r ddau deulu


yn dymuno iddynt 'Briodas Dda'. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr David Morgan, Vicarage Terrace. Roedd Mr Morgan yn aelod yng Nghapel Y Parc. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'r teulu. Cofiwn hefyd am deuluoedd y diweddar David John Kinsey, priod annwyl Val, a fu farw'n 82 oed, 4 Mehefin a Gwladys Griffiths Heol y Parc a hunodd 14 Mehefin yn 89 oed. Llongyfarchiadau i Daniel, mab Jeff Searle, Heol y Parc ac ŵyr i Mrs Mair Searle, Prospect Place ar ennill gradd 2.1 yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd. Pob llwyddiat iddo i'r dyfodol. Cynhaliwyd noson gwis lwyddiannus iawn yn Ysgol Gynradd y Parc. Cymerwyd rhan gan

nifer o dimau'n cynrychioli'r rhieni, yr athrawon a'r llywodraethwyr a llwyddwyd i godi £170 at offer chwarae newydd i'r iard. Yn ddiweddar mwynhaodd plant Ysgol y Parc wibdeithiau diwedd tymor. Ar 16 Mehefin aeth adran y babanod i Folly Farm yn Sir Benfro ac ar 19 Mehefin mentrodd yr adran iau draw i'r West Midland Safari Park. llongyfarchiadau arbennig i'r dirprwy brifathro, Mr Robert Taylor a aeth ar y ddwy daith a llwyddo i gyrraedd ei waith yn brydlon y bore wedyn! Bob dydd Iau rhwng 1012 o'r gloch, mae Job Club yn cael ei gynnal yn Neuadd y Parc. Galwch heibio os ydych am gymorth i ddod o hyd i waith neu help i lunio CV. Am ragor o wybo-

daeth, ffoniwch Daniel ar 777536.

Y PENTRE

Roedd preswylwyr Tŷ Siloh wrth eu bodd yn croesawu Margaret Morris, Fflat 1, adre o'r ysbyty lle y bu am beth amser yn dilyn cwymp. Da yw gweld ei bod yn llawer gwell erbyn hyn. Pen-blwydd Hapus iawn i Desmod Hughes, Fflat 15 yn y llys a oedd yn dathlu ar 3 Gorff. Dymuwn bob hapusrwydd a iechyd iddo i'r dyfodol. Tristwch i bawb yn yr ardal oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Ron Davies, Stryd Elizabeth. Roedd Ron, a fu'n gweithio am flynyddoedd yn Ffatri Polikoff yn adnabyddus ac yn uchel ei barch yn yr ardal. Cdymdeimlwn

å'i deulu yn eu colled. Ar 18 Gorffennaf roedd Major Stephen a Bernie o Fyddin yr Iachawdwriaeth yn dechrau yn eu swyddi newydd yn Abertawe ar øl gwasanaethu'r gymuned yma yn y Pentre am rai blynyddoedd. Er y siom o'u colli roedd pawb yn y Citadel yn edrych ymlaen at estyn croeso ddydd Sul, 28 o'r mis hwn i'r Major MariaRosa a Lefftenant Mark Kent a Julio a fydd yn dechrau ar ar eu gwaith yn yr ardal. Gobeithiwn y cånt bob cefnogaeth a chroeso cynnes Cwm Rhondda yn ein plith. Llongyfarchiadau i Alice Parry, sy'n perthyn i'r Fyddin ar raddio o Brifysgol Caergrawnt mewn Addysg Grefyddol ac Addysg. Dymunwn iddi rwydd hynt i'r dyfodol.

7


Cofiwch fod cyfarfodydd PACt yn cael eu cynnal ddydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 67pm yn Llys Nazareth. Cewch gyfle i drafod problemau lleol gyda'r Heddlu a hefyd gda'ch cynghorwyr lleol, Maureen Weaver a Shelley Rees-Owen. Os yw eich problem yn un breifat, mae stafell ar wahån i'w chael ar gyfer trafod. Bob dydd Mercher ym Mharc y Pentre rhwng 11 - 1pm cynhelir 'Chwarae Plant'. Cynigir

pob math o gemau a gweithgareddau awyr agored i blant a gaiff gyfle i chwarae'n ddiogel o dan gyfarwyddyd. Bydd y sesiynau hyn ar gael rhwng 24 Gorff. 28 Awst. Am ragor o fanylion, ffoniwch 493321.

Er bod Dr Anne Brooke yn treulio ei hamser yn Norfolk, Virginia ar hyn o bryd, mae hi'n dal i gyfrannu i dudalennau'r Gloran. Y mis hwn mae hi'n awgrymu i'n darllenwyr wibdaith draw i Loegr i weld un o'n hen berthnasau. Gol.

yr ailgreir ei fedd, fe welch chi weddillion yr 'Amesbury Archer' enwog. Dyna'r enw a roddwyd iddo gan yr archeolegydd Dr Andrew Fitzpatrick a ddaeth o hyd iddo ar hap o fewn tair milltir i Gôr y Cewri [Stonehenge] yng ngwanwyn 2002. Roedd hwn yn ddarganfyddiad syfrdanol a achosodd gryn dipyn o gyffro yn y cyfryngau ar y pryd. Ond pwy oedd y dyn yn y bedd? Wel, yn fras, gŵr 35 - 45 oed a oedd yn byw tua 2380 - 2290 CC a ddaeth i Brydain, yn ôl dadansoddiad o'r ocsigen yn ei ddannedd, o ganolbarth Ewrop. Mae'n debyg taw pennaeth ymhlith rhwydwaith o arloeswyr a elwir yn 'Bobol y Biceri

TON PENTRE A’R GELLI

Ac yntau'n 83 oed, bu farw Ron Davies, cyn-

GALWCH HEIBIO I WELD HEN BERTHYNAS - SYNIAD AM DRIP?

8

Yn ystod y gwyliau, beth am fynd am dro i Gaersallog [Salisbury] ar lan afon Avon? Cyn troi at y siopau dymunol, dylech ymweld ag Amgueddfa Caersallog a de Wiltshire yng nghlos yr eglwys gadeiriol hardd. Saif yr amgueddfa ychydig ymlaen o'r eglwys ar yr ochr dde. Pam dylech chi fynd i'r amgueddfa? Oherwydd yno, mewn cas gwydr lle

gadeirydd Clwb Pêldroed Ton Pentre ar 23 Mehefin. Bu Mr Davies yn dal swyddi cyfrifol yn y clwb am dros 60 mlynedd. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yng Nghartref Gofal Pentwyn lle y gofalwyd yn dyner drosto ar ôl iddo ddioddef strôc. Yn sgil ei farwolaeth, derbyniwyd llawer o negeseuau o gydymdeimlad o fyd pêldroed, gan gynnwys un gan ysgrifennydd Yndeb Pêl-droed Cymru. Tristwch i bawb oedd

derbyn y newyddion am farwolaeth un o drigolion mwyaf adnabyddus yr ardal, Mr George Vaughan a oedd yn 91 oed. Fe'i ganed yn Nhreorci ond symudodd i'r Gelli i gadw siop gigydd. Bu'n byw yno am flynyddoedd lawer cyn symud gyda'i wraig i Dŷ Ddewi


Cydlynydd Galwedigaethol / Asesydd Rhondda Cynon Taf Cyflog: NJC 21 £19,126 pro rata Oriau : i’w trafod Rydym yn chwilio am berson sydd wedi cymhwyso fel asesydd ac yn unol â gofynion CACHE i ddysgu’r cwrs Diploma Lefel 2/3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant.

Dyddiad cau: 19 Gorffennaf 2013 Am ragor o wybodaeth ewch i’n wefan www.meithrin.co.uk neu cysylltwch â 01970 639639.

www.meithrin.co.uk

Y GORNEL IAITH

Ydych chi'n gwybod pa arddodiad [preposition] a ddylai gael eu defnyddio yn y brawddegau hyn?

1. Ysgrifennais lythyr ..................................... Mrs Jones. 2. Anfonais y parsel ................................ Gaerdydd. 3. Roedd y lleidr yn cuddio ................................ yr heddlu. 4. Bydd y stori arswyd yn codi ofn ......................... y plant. 5. Maen nhw'n dweud bod Bob yn gas ....................... ei wraig. 6. Dydy rhai pobl ddim yn ymddiried ...................... y llywodraeth. 7. Mae rhywun wedi bod yn ymyrryd ....................... ffôn y swyddfa. 8. Roedd pawb yn syllu .......................... y dyn ar y llawr. ATEBION 1. at 2. i 3. rhag 4. ar 5. wrth / tuag at 6. yn 7. â 8. ar

neu'r Diodlestri' gan archeolegwyr. Cawsant yr enw o achos eu crochenwaith lliw coch nodweddiadol. Tybir eu bod wedi dod yn grwpiau eithaf bach o arbenigwyr mewn gwaith metel o'r cyfandir a gyflwynodd eu defnydd o gopr i Brydain ac Iwerddon rhwng 2400 2200 CC . Amlygir statws uchel y pennaeth gan ansawdd a nifer y gwrthrychau oedd yn ei feddrod. Yn eu plith cafwyd ychydig o rai copr ac aur hynod o brin, sy'n ei wneud y person mwyaf 'cyfoethog' o blith ei gyfoeswyr ym Mhrydain, ac efallai Ewrop. Dyna a welwch chi yn y cas gwydr o'ch blaen. Ond yn bwysicach na hyn oll i ymwelydd o Gymru yw'r ffaith bod ysgolheigion yn ystod y degawd diwethaf wedi atgyfodi'r hen ddamcaniaeth taw siaradwyr cyntaf yr iaith / ieithoedd proto-Gelteg oedd Pobl y Diodlestri hyn. Erbyn hyn mae rhai technegau newydd ar gael sydd wedi galluogi rhai archaeolegwyr a ieithyddion i anelu o leiaf at ryw fath o gonsensws yn y maes diddorol hwn. Os yw eu syniadau'n gywir, yna cyn-dad pob un o Wŷr y Gloran yw'r dyn hwn yn yr amgueddfa! Os felly, dyna ddigon o reswm dros bicio draw i ddweud 'Shw mae!' wrth un o'ch tylwyth yn ystod y gwyliau. Mwynhewch yr haf!

9


NOSON WOBRWYO CLYBIAU BECHGYN A MERCHED Y RHONDDA Cafwyd gwledd o noson yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad Rhondda pan gynhaliwyd y Noson Wobrwyo Flynyddol yno'n ddiweddar i gydnabod llwyddiant a thalent ieuenctid y cwm yn y campau. Sefydlwyd y noson nôl yn 1975 ac fe'i cynhaliwyd yn ddi-dor ers hynny.

10

Selwyn Davies gyflwynodd y noson ac roedd llywydd y mudiad, Mr Dewi Griffiths yn bresennol i gyflwyno'r gwobrau ariannol i un ar ddeg o glybiau'r cwm. Y gŵr gwadd ar y noson oedd yr hyfforddwr rygbi, Phil Davies. Mae'r mudiad hefyd yn ffodus iawn bod ganddo nod-

dwr hael iawn ym mherson un o gefnogwyr mawr Y Gloran a'r iaith Gymraeg, Mr Mal Thomas, Carpets & Carpets, Treorci. Y prif enillwyr eleni oedd:

Oed Iau Lewis Baldwin [tîm pêldroed Cymru dan 15]; Alan Somerhill [tim pêl droed Dinas Caerdydd]; Georgia Jones [tîm sboncen Cymru dan 19]; Rhys Edwards [ar ennill medal aur am focsio dros Brydain] a Charlotte Gallagher [ Clwb y Polar Bears - nofio i'r anabl]

Personoliaeth Chwaraeon Iau Jack Lewis [pencampwr bocsio clun y byd dan 14]

Gwobrau Timau Iau: Tîm Cambrian [Enillwyr pêl droed dan 14]; Tîm Rygbi dan 15 y Rhondda [enillwyr Cwpan Dewar am y 9fed tro]. Timau Hŷn Tîm Jujitsu'r Rhondda [pencampwyr cenedlaethol a rhyngwladol]; Tîm Rygbi Wattstown Gwobr y Rheolwr Gorau: Mr Dan Facey [Clwb Cambrian]

Yr Hyfforddwr Gorau: Mr Kieron Hopkins Enillwyr Hŷn Janet Jones, Kerry Harris, Kate Tyler ac Ann Morgan [Tîm hoci merched y Rhondda]; Steve Evans - Sboncen [enillydd dros 65]; Rhys Jones [rhedwr ym Magolgampau Paralympaidd Llundain 2012]; Steve Hughes [am wasanaeth i griced]

Enillwyd prif wobr y noson gan y paffiwr, Lewis Rees a enillodd dair gornest dros Gymru. Adroddiad Hillary Clayton


Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn NEGES ODDI WRTH MRS NICOLA GOULD PENNAETH YGG BRONLLWYN

Bore da, Hoffwn eich hysbysebu am wobr ddiweddaraf YGG Bronllwyn.

Yn flynyddol, rydyn ni yn cymryd rhan ym Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Eleni roedd Blwyddyn 5 wedi cymryd rhan yn y fenter gyda`r thema "Oes y Glo". Crewyd trailer ffilm ar yr ipad ac hefyd drama fach yn seiliedig ar y cyfnod. Drwy gyfrwng cyflwyniad dramatig arbennig adroddodd y disgyblion stori`r cwm yn suddo`r pwll glo cyntaf yn Ninas hyd at gau`r un olaf ym Maerdy yn yr 1980au. Seiliwyd eu cynhyrchiad ar amrywiaeth o ymchwil ar y we, yn y llyfrgell lleol, ymweliad ag Amgueddfa Dreftadaeth y Rhondda a chyfweliadau a glowyr lleol. Archwilion nhw adroddiadau`r bedwaredd ganrif ar ddeg a`r amodau byw bob dydd.

Cawsom wahoddiad i fynychu`r serDisgyblion Blwyddyn 5 gyda’i hathrawes emoni wobrwyo yn y Stadiwm Miss Mathias yn dangos eu gwaith Rygbi yng Nghaerdydd ar 28.6.13 cyhyd a 28 ysgol gynradd arall. 3 ysgol arall yr un gwobr o £1000, y wobr uchaf Aeth Miss Bethan Mathias, athrawes ddosbarth bl 5 oedd £1,150 a rhoddwyd i 2 ysgol. Gwnaeth yr a 6 / Arweinydd Hanes, finnau a 2 ddisgybl oedd ysgol yn arbennig o dda eto eleni. Da iawn i ddisgywedi gweithio ar y prosiect i`r seremoni. Cyflwynblion Blwyddyn 5 ac wrth gwrs i`w hathrawes Miss wyd wobr o £1000 gan Admiral Group plc. Cafodd Mathias.

11


Ysgol Gyfun Treorci

DATHLU DYDD GWYL DEWI YN DISNEYLAND PARIS 2013 Cafodd 44 o ddisgyblion blwyddyn 10, ynghŷd â 5 aelod o staff yr ysgol, benwythnos arbennig ym mharc Disneyland, Paris ar ddechrau mis Mawrth. Dyma’r pedwerydd dro i’r trip gael ei chynnal ac roedd hi’n hynod o lwyddiannus un-

waith eto. Roedd ymddygiad y disgyblion yn ganmoladwy trwy gydol y penwythnos. Mwynheuodd y disgyblion holl atyniadau’r parc yn ystod y dydd, fel Rock’n Roller Coaster, Space Mountain a Big Thunder Mountain. Yr atyniad mwyaf poblogaidd oedd Tower of Terror, sef atyniad mwyaf newydd y parc. Roedd y parc yn dathlu panblwydd yn ugain oed felly roedd digon o ddathlu i weld trwy’r penwythnos.

Uchafbwyntiau’r penwythnos i nifer oedd y pryd o fwyd yn Planet Hollywood, gwylio’r Monophonics yn chwarae yn Billy Bob’s, yr atyniadau, awyrgylch y parc ar Nos Sadwrn a chymdeithasu gyda ffrindiau. Gwelodd y disgyblion côr Cymraeg yn canu’r anthem genedlaethol a caneuon Disney yn Gymraeg ar y llwyfan. Pleser oedd cael gweld nifer o siaradwyr Cymraeg yn cymryd rhan ac yn cyfrannu at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Ar brynhawn Dydd Sadwrn roedd gorymdaith Cymreig ardderchog o gwmpas y parc. Cyfle ardderchog oedd hi i weld holl gymeriadau Disney ynghyd â Mickey a Minnie yn eu gwisgoedd Dydd Gŵyl Dewi. Daeth y trip i ben ar Nos Sadwrn gyda arddangosfa tan gwyllt bendigedig a phlant yr ysgol yn canu’r anthem genedlaethol cyn mynd yn ôl i’r gwesty. Roedd pob un wedi mwynhau’r trip yn fawr iawn, gan gynnwys y staff, ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf!

12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.