y gloran
MEDDYGFA HOREB I GAU
20c
golygyddol l Sioc i lawer yn yr ardal oedd dihuno fore Gwener, 24 Mehefin a darganfod bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd o 52% i 48% gydag ond 5 o'r 22 ardal o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mynd gyda'r llif a wnaeth Rhondda Cynon Taf gyda'r canrannau'n 53.7% o blaid gadael a 43.3% am aros i mewn. Unwaith y gweithredir Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon, fydd ond dwy flynedd gennym i ddod i gytundeb ynglŷn â'n dyfodol cyn ymadael.
2
Un o'r prif resymau pobl leol dros dynnu ma's oedd yr awydd i reoli mewnfudo a hynny er taw ychydig o fewnfudwyr sy yn RhCT ac ond 2.6% ledled Cymru. Fodd bynnag, os ydym am gyfranogi o farchnadoedd Ewrop dywedwyd wrthym yn barod y bydd rhaid derbyn bod pobl yn gallu symud yn rhydd ar draws ffiniau. Mae RhCT, gan gynnwys yr ardal hon wedi elwa'n fawr ar arian Ewrob. Mae'r hewl newydd drwy'r Rhondda Fach yn dyst i hynny,
Cynllun gan High Street Media
2016
y gloran gorffennaf
YN Y RHIFYN HWN Meddygfa Horeb yn cau..1 Golygyddol...2 Llythyron...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Cymdeithas Gymraeg /Cartwn/Byd Bob ..6-7 Chloe/Tîm Pêl-Droed Cymru...10 Ysgolion...11-12
ond fel y dywedodd arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan, elwodd sawl maes arall ar y grantiau hyn. Mae cynlluniau pwysig fel y Metro a Datblygiad Caerdydd a'r Cyffiniau
yn dibynnu ar arian Ewrob ac mae'r bleidlais i adael nawr yn taflu cysgod dros ddyfodol y rheina. Dadl carfan Brexit oedd taw ein harian ni yn dod nôl oedd hyn yn y lle cyntaf, ac o adael byddai gennym lawer mwy i'w wario arnom ein hunain. Ond a oes sicrwydd y byddai llywodraeth Doriaidd asgell dde yn San Steffan mor barod i ariannu prosiectau yng nghymoedd de-Cymru? Fyddai ganddi ddim pleidleisiau i'w colli yma gan na chafodd yr Torïaid ein cefnogaeth erioed. Mae llawer o bethau eraill yn y fantol. Cawsom heddwch am 70 mlynedd a gwelsom wledydd a fu unwaith yn ymladd â'i gilydd bellach
yn cydweithredu. Cawsom gyfle i deithio'n ddilyffethair ar draws Ewrob a chafodd ein pobl ifainc, dan gynllun Erasmus, gyfle i ledu eu gorwelion trwy astudio ym mhrifysgolion y cyfandir a dod yn gyfarwydd ag ieithoedd a diwylliannau eraill. Yn barod, oherwydd yr ansicrwydd economaidd presennol a gwendid y bunt, mae diwydianwyr sy'n gorfod mewnforio defnyddiau yn cwyno bod eu costau wedi codi. Gan fod gwerth y bunt wedi gostwng yn erbyn y ddoler, bydd pris petrol yn siwr o godi a bydd hynny'n effeithio ar bob math o nwyddau eraill. Mae banc HSBC a chwmni Morgan Stanley yn y sector ariannol yn symud gweithwyr o Lundain i Baris a Frankfurt ac mae gofid na fydd y bleidlais i adael Ewrob yn help i'r ymgyrch i gadw gwaith dur Port Talbot. Ond pleidleisio dros adael a wnaeth poblogaeth Port Talbot fel gweddill Cymru ac mae hyn yn tanseilio gallu bargeinio Carwyn Jones. Pan drafodwyd canlyniad y refferendwm yn Senedd Ewrob ddydd Mawrth, 28 Mehefin, roedd cynrychiolwyr yr SNP yn gallu ymfalchio ym mhenderfyniad yr Alban i aros yn yr Undeb. Mae'n drist na allai Jill Evans a gweddill aelodau Cymru wneud yr un fath. Gobeithio na chawn fyw i edifaru. Golygydd
MEDDYGFA HOREB I GAU
Doedd dydd Llun, 13 Mehefin ddim yn ddyddiad lwcus i lawer o bobl yn ardal Treorci. Aeth si ar led bod Dr Koto, prif feddyg meddygfa Horeb wedi ymddiswyddo gan ei bod wedi methu 창 denu partner yn y practis a bod Syrjeri Horeb, o ganlyniad, yn mynd i gau. Er bod y cynghorwyr lleol wedi cysylltu 창'r Bwrdd Iechyd fore Llun, ac er gwaethaf galwadau cyson drwy'r dydd ac eto ar ddydd mawrth, ni chafwyd cadarnhad bod y stori'n wir tan 5 o'r gloch ddydd Mawrth pan ffoniodd Dr John Palmer o'r Bwrdd i ddweud y byddai'r practis yn cau ar 31 Gorffennaf a bod disgwyl i'r cleifion ymuno 창 meddygfeydd eraill yn yr ardal. Aed ati gan y pleidiau gwleidyddol i drefnu cyfarfodydd ar frys ond oherwydd trasiedi saeth'r aelod seneddol, Jo Cox, bu rhaid canslo cyfarfod a drefnwyd gan Chris Bryant AS ar gyfer nos Wener, 17 Mehefin. Fodd bynnag, nos Lun, 20 Mehefin, roedd Neuadd Eglwys San Matthew dan ei sang ar gyfer cyfarfod a drefnwyd gan Blaid Cymru, ac Aelod Cynulliad newydd y Rhondda, Leanne Wood yno i annerch. Barn y Bobol a'r Bwrdd Iechyd Dywedodd taw prif bwrpas y cyfarfod oedd casglu tystiolaeth i'w chyflwyno i gyfarfod o Fwrdd Iechyd Cwm Taf oedd i'w gynnal fore Mercher, 22 Mehefin. Siaradwyd yn hawdl gan nifer o bobl leol. Un o'u prif ofidiau oedd ein bod yn colli meddygfa effeithlon sydd wedi ei lleoli yng nghanol y dref ac y byddai cyrraedd y ddwy feddygfa arall, sef Forest View a Meddygfa Tynewydd yn Stryd Hermon yn drafferthus i lawer o bobl. Er enghraifft, byddai rhaid i gleifion o
Gwmparc oedd heb gar, newid bws ddwywaith, ac oherwydd ei lleoliad, gerdded cryn bellter wedyn i gyrraedd Forest View. Fel y dywedodd nifer o bol, does dim gwahaniaeth pa mor dda yw adnoddau meddygfa os na fedrwch ei chyrraedd yn hwylus. Roedd anfodlonrwydd wedyn nad oedd Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi ymgynghori ymlaen llaw a bod diffygion mawr yn eu gallu i gyfathrebu 창 phobl oedd yn colli gwasanaeth pwysig. Drannoeth aeth cynrychiolaeth gref i gyfarfod y Bwrdd yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad i wrando'n bennaf ar Brif Weithredydd y Bwrdd yn amddiffyn y penderfyniad. Roedd y Cadeirydd, Dr Chris Jones a Dr John Palmer, sy'n gyfrifol am iechyd yn y gymuned, hefyd yn bresennol i ateb cwestiynau. Roedd tua 150 yn bresennol a pharhaodd y cyfarfod am ryw dair awr. Er gwaethaf siarad plaen gan nifer fawr o bobl, daeth yn amlwg bod y penderfyniad wedi ei wneud. Roedd gan y Bwrdd dri dewis sef a) cymryd practis Horeb dan ei aden, fel y gwnaed yn achos Tynewydd b) gadael iddo weithredu dan oruchwyliaeth practis cyfagos, fel sy'n digwydd yn Stryd Hermon. c) rhannu'r cleifion rhwng meddygfeydd eraill yr ardal. Penderfynwyd gan y Bwrdd, heb ymgynghori, taw c) oedd yr unig ddewis. Colli gwasanaeth arall Erbyn yr hwyr, roedd Allison Williams a Dr Chris Jones mewn cyfarfod a drefnwyd gan Chris Bryant AS yng nghlwb rygbi Treorci ond gan fod y penderfyniad eisoes wedi ei wneud, yr unig benderfyniad oedd ceisio hwyluso'r drefn newydd trwy ofyn i Gyngor RhCT i ddarparu llwybr diogel at Forest View trwy Ystad Ddiwydiannol Abergorci a thrafod y posibilrwydd o gael gwasanaeth bysys i'r feddygfa. Rhwng popeth, roedd anfodlonrwydd mawr am y modd roedd Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi trafod yr holl fater a phobl yn teimlo bod yr ardal unwaith eto wedi colli gwasanaeth gwerthfawr. 3
LLYTHYRON “Maesymeini”, Druid’s Close, TREORCI, CF42 6LJ
30ain Mehefin 2016 At Olygydd Y Gloran Annwyl Olygydd,
Fe hoffwn i dynnu sylw’r darllenwyr at bolisi Awdurdod Cyngor Rhondda Cynon Tâf ynglŷn â thorri glaswellt yma ac acw yn yr ardal hon. Y canlyniad yw blerwch sy’n ddolur llygad a adlewyrcha’n wael ar agwedd yr Awdurdod tuag at ein cymunedau. Mae’n wahanol iawn i agwedd awdurdodau eraill sydd yn sicrháu bod glaswellt mewn mannau agored ac ar hyd ymylon y ffyrdd yn daclus ac yn bleser i’w gweld.
Mae’n siwr bod eich darllenwyr yn ymwybodol o’r ffaith i Eisteddfod Genedlaethol Cymru gael ei chynnal yn Nhreorci ym 1928, yr unig amser i Ŵyl o’r fath gael ei chynnal yng Nghwm Rhondda. Codwyd cylch o Gerrig yr Orsedd mewn cae wrth ochr Ffordd Pentwyn, cae a gafodd ei alw’n “Pony Field” 4
I b’le’r aeth y Maen Llog?
Edrych I’r dde – o’r car am flynyddoedd lawer am fod ceffylau o byllau glo’r Parc a Dâr yn cael eu cadw yno yn ystod gwyliau’r glowyr. Ac yno y saif y Meini hyd at heddiw gyda hanner cylch o dai’n edrych drostynt.
Rwy’n siwr y byddai’ch darllenwyr yn synnu wrth sylweddoli faint o bobl sy’n ymweld â’r llecyn, boed plant ysgolion yr ardal, aelodau cymdeithasau Cymraeg a
Hanesyddol, beicwyr lu’r dyddiau presennol, heb anghofio taw dyma un o’r golygfeydd cyntaf o Gwm Rhondda a gaiff ymwelwyr sy’n teithio dros y Bwlch. Parhad ar dud 9
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Ddydd Iau, 30 Mehefin, daeth 130 o ddisgyblion Ysgol Heol y Felin, Ystrad, ysgol i blant ag anghenion addysgol arbennig, ynghyd yng nghapel Carmel i ddathlu ffug-briodas. Lana Tangay oedd y briodferch a Kelan Hayes y priodfab. Pwrpas yr ymarfer oedd dysgu'r plant am werth a phwysigrwydd priodas. Roedd y seremoni â'i gwisgoedd lliwgar wrth fodd pawb oedd yn bresennol ac roedd yn braf gweld y plant yn mwynhau wrth ddysgi gwersi pwysig.
Cynhaliwyd bore coffi yng nghapel Carmel ar y 23ain o Fehefin i codi arian at elusen Macmillan.
Mae pobl Treherbert yn edrych ymlaen i weld Chloe Tutton o Don Pentre yn nofio yn yr Olympics eleni yn Rio. Roedd Chloe yn ymarfer yn gyson ym mwll Treherbert cyn caeodd y pwll yn 2009. Ar ol i'r pwll cloi dechreuodd gronfa i geisio ail agor ond ar ol i'r pwll cael ei dwmchwel rhanwyd yr arian ac roedd Chloe yn un a oedd yn elwa. Pob lwc iddi.
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE
TREORCI
Llongyfarchiadau i Riley Fisher, 11 oed, am basio ei Wregys Du 1st Dan yn Karate Tang Soo Do Traddodiadol. Cafodd ei anrhegu å Thystysgrif gan Master John Trudgil, sylfaenydd y Ffederasiwn Tang So. Mae Riley wedi bod yn ymarfer yn neuadd Abergorci, Treorci, am chwe blynedd a hanner. Mae e'n byw yn stryd Dumfries, Treherbert gyda'i fam a'i dad, Rhiannon a James a'i frawd ifanc, Kailan. Mae ei fam-gu a thadcu, Dwynwen a Raymond, Stryd Cardiff a'i fam-gu Val Fisher yn falch iawn ohono. Mae Riley yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg, Ynyswen ac mae e'n mynd i Ysgol Gyfun y Cymer ym mis Medi. Unwaith eto, llongyfarchiadau
Riley.
Mae'n flin gennym gyhoeddi marwolaeth Mrs Joan Thomas [nee Lewis], gynt o'r Stryd Fawr, ond ers blynyddoedd o Gynwil Elfed, Sir Går a hithau'n 89 oed. Bu Joan yn aelod o staff cwmni'r Ocean cyn priodi a'i diweddar ŵr, John, a symud o'r ardal. Cydymdeimlwn â'i mab, Anthony a'i briod, Jan, Teras Tynybedw. Pob dymuniad da i Mrs Mair Searle,un o gefnogwyr brwd Y Gloran, a gafodd niwed yn ddiweddar pan gwympodd ar y Stryd Fawr. Hefyd i Mr David Dunn sy wedi dod adre ar ôl derbyn triniaeth yn Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr. Brysiwch i wella. Mae pwyllgor Ymch-
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
wil Cancer UK Treorci am ddiolch i bawb a gyfrannodd i'w gasgliad stryd diweddar. Llwyddwyd i gasglu £950 ac mae aelodau'r pwyllgor am ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd mor hael. Nos Iau, 30 Mehefin cynhaliodd Côr Meibion Treorci o dan arweiniad Jeff Howard gyngerdd yn theatr y Savoy, Tonyrefail. Yn cymryd rhan hefyd roedd Côr Plant Cwm Elái. Mae gwaith yn dod i ben ar y clwstwr o fflatiau a godwyd gan Gymdeithas Dai Cynon Taf ar gynsafle'r Red Cow. Deallwn taw'r enw newydd ar y safle fydd Cwrt Mynydd. Mae trigolion Myrtle
PARHAD ar dudalen 8
5
ENGLYNION CWM RHONDDA - 1
CWM RHONDDA Cwm Rhondda, dyma gwm domog -cwm tarth Cwm twrw, cwm gorgreigiog; Cwm llun i sarff, cwm llawn so'g A chwm culach na cham ceiliog.
Thomas Evans [Telynog], 1840 - 1865, bardd o Aberdâr biau'r englyn enwog hwn. Yn frodor o dre Aberteifi, aeth i'r môr yn 11 oed ond gan nad oedd y bywyd hwnnw wrth ei fodd, dihangodd i Aberdâr i weithio mewn pwll glo. Bu farw'n ŵr ifanc, 23 oed o'r ddarfodedigaeth (TB). Doedd ei englyn ddim wrth fodd Gwŷr y Gloran gan ei fod yn ensynnu bod eu cwm yn hyll ac yn swnllyd [domog, tarth, twrw, gorgreigiog]. Mae 'llun y sarff' yn disgrifio siap y cwm i'r dim, ond mae gan y gair 'sarff' hefyd gysylltiadau drwg ac mewn cyfnod pan oedd dirwest yn ennill tir, roedd awgrymu bod y Rhondda'n 'llawn so'g' [sef gweddillion y brag wrth wneud cwrw] yn sarhaus iawn! Yr unig gysur i ni yn y Rhondda Fawr yw taw am y Rhondda Fach roedd e'n sôn yn ôl pob tebyg!
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI A'R CYLCH Bydd rhaglen 2016-17 y Gymdeithas yn agor nos Iau, 29 Medi gyda noson o hwyl a chân yng nghwmni Caryl Parry Jones a Geraint Cynan. Bu rhaid i Caryl ganslo ei hymweliad y llynedd ond edrychwn ymlaen at noson o ganu a digrifwch yn ei chwmni.
Testun trafod dyddiol yw'r tywydd a bydd Dyn Tywydd S4C, Chris Jones yn dod atom ym mis Hydref i son am ei waith yn ceisio rhagweld pa fath o dywydd i'w ddisgwyl. Daw hanner cyntaf y rhaglen i ben gydag ymweliad gan sylfaenydd elusen BanglaCymru, Wil Morus Jones. Elusen yw hon i helpu plant yn Bangladesh sy'n cael eu geni â gwefusau hollt [cleft lip]. Ffurfiwyd dolen rhwng Cymru a'r wlad honno ac mae arian a godir trwy BanglaCymru yn galluogi tîm o feddygon newid bywydau llawer o blant er gwell. 6
Gŵr o'r Ariannin, Walter Ariel Brooks sydd ar staff y Cyngor Prydeinig yng Nghaerdydd fydd y siaradwr gwadd ym mis Ionawr pan fydd yn trafod gwahanol agweddau ar fywyd Y Wladfa. Bydd yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd yn ei ddilyn ym mis Chwefror i olrhain hanes y gân boblogaidd a gysylltir â Llanelli, 'Sosban Fach'. I gloi'r tymor, cawn gwmni un o'n darlledwyr mwyaf profiadol ac adnabyddus, Nia Roberts. Bydd y tocynnau aelodaeth ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf. Y tâl am y tymor fydd £5 fel arfer ac maen nhw i'w cael trwy ffonio Ceri Llewelyn 773151 neu Cennard Davies 435563.
Trafod chwaeth gerddorol y Frenhines Elizabeth mae Bob y mis hwn a'r dylanwadau ar ei chwaeth bersonol yntau.
Eleni rydyn ni wedi clywed llawer am y Frenhines Elizabeth am ei bod wedi dathlu ei phen-bwydd yn 90 oed. Roedd yn dda geni gly-
BYD BOB
wed rhai o'i ffrindiau hi'n sôn am ei hoff ddarnau o gerddoriaeth. Rydw i erioed wedi wedi breuddwydio am ymddangos ar 'Desert Island Discs', felly roeddwn i'n hapus i gymharu fy chwaeth gerddorol â chwaeth Ei Mawrhydi.
Y sioc gyntaf oedd sylweddoli nad yw'r Frenhines yn ddeallusol iawn osafbwynt cerddoriaeth. Fel fi, mae hi'n hoffi ffilmiau a sioeau cerdd fel 'Oklahoma' a 'Carousel'. Mae'n siwr ei bod hi wedi eu gweld nhw mewn 'premiere' yn Sgwâr Leicester yn Llundain, tra 'mod i wedi eu gweld yn sinemâu'r Palace neu'r Gaiety yn Nhreherbert. Ond dydw i ddim yn eiddigeddus o gwb. Yn fwy diweddar, rydw i wedi gweld yr un math o sioe yn fyw yn theatr y Parc a'r Dâr. Pwy fydd yn anghofio John lewis yn chwarae rhan Billy Bigalow, Delyth Coleman yn cymryd rhan Calamity Jane neu Susan Evans fel Dorothy yn 'Wizard of Oz'? Ac mae talent newydd, leol yn ymddangos bob blwyddyn, artistiaid fe l Rachal Thomas o Gwmparc sy mor hapus ar lwyfan theatr ag mewn tafarn yn canu gyda grŵp roc.
Wrth gwrs, mae'r Frenhines yn cofio caneuon ei hieuenctid hefyd. Mae hi'n hoffi Vera Lynn a Fred Asraire, a hyd yn oed George Formby (un o'm ffefrynnau i). Rwy'n cofio eistedd gyda fy rhieni yn gwrando ar George Formby ar Variety Bandbox ar y radio bob nos Sadwrn. Roeddwn i'n chwerthin cymaint â nhw tra aedd e'n perfformio, er fy mod i'n bell o ddeall pob jôc ac ensyniad.
Dydy'r Frenhines ddim yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol. Yn anffodus, chafodd hi ddim cyfle i adnabod Ernie Oliver oedd yn cymryd gwersi gwerthfawrogi miwsig yng nghanolfan ieuenctid Treherbert yn y pumdegau. Fe flodeuodd fy niddordeb mewn miwsig clasurol yn llawn rai blynyddoedd wedyn, ond rwy'n siwr bod y gwreiddiau'n mynd yn ôl i hen beiriant chwarae recordiau Ernie oedd
mor frwd am y testun. Mae Ei Mawrhydi yn gwerthfawrogi emynau hefyd, fel fi. Fe dyfais i fel Pabydd, felly doeddwn i ddim yn gyfarwydd â'r emynau bendigedig oedd yn cael eu canu yng nghapeli Cymraeg y cymoedd ac ar hyd a lled CYmru. Yn hwyrach, pan oeddwn i'n mynychu cyrsiau Cymraeg yr haf fel dysgwr, bydden ni'n cwrdd mewn bar i ymlacio ar ddiwedd y gwersi a byddwn i'n gwrando mewn swyn ar ein hathrawon yn canu'r hen emynau gyda chalonnau a lleisiau oedd yn llawn o hwyl. Wrth gwrs, dydy Elizabeth yr Ail ddim yn gyfarwydd â cherddoriaeth grefyddol Cymru. Yn anffodus, y dyddiau hyn mae llawer ohonon ni mor anwybodus â hi! .
Row yn hapus i weld bod Cyngor Rh.C.T. o'r diwedd wedi adnewyddu'r palmentydd a rhoi wyneb newydd ar y stryd.
Y canwr adnabyddus, Jess Hooper oedd yr artist gwadd yng nghyfarfod diwethaf y Clwb Jazz, nos Fawrth, 12 Gorffennaf am 8pm. Cafodd pawb bleser mawr yn gwrando ar y canwr talentog hwn. Ddydd Llun, 27 Mehefin aeth Clwb Henoed Treorci ar wibdaith i Weston. Cawsant ddiwrnod wrth eu bodd er ei bod yn wyntogiawn. Diolch i bawb a drefnodd y daith. Llongyfarchiadau i Mrs Rene Evans, Stryd Howard ar ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed. I nodi'r achlysur, trefnodd y teulu barti yng Nghlwb Bowlio
8
Ystradfechan a chafodd pawb amser da.
CWMPARC
Dywedodd Cyngor RhCT y bydd rhaid cau'r bont ger tafarn y Pengelli am bythefnos yn ystod mis Awst er mwyn ei gwella a'i chryfhau oherwydd y twf tebygol yn nifer y disgyblion a fydd yn mynychu'r Ysgol Gyfun o fis Medi ymlaen pan ddisgwylir cynnydd yn nifer y disgyblion chweched dosbarth. Gobeithia'r contractwyr y byddan nhw'n gallu cydweithio â thrigolion lleol i beri cyn lleied o anghyfleustra iddynt ag sy'n bosib.
Y PENTRE
Da yw gweld bod Mrs Sheila Ellis, Stryd Albert gartre ac yn gwella ar øl treulio cyfnod yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr yn ddiweddar. Mae Sheila'n weithgar iawn yn Eglwys San Matthew, Treorci lle mae'n organydd a hefyd yn WI Treorci. Mae ei holl ffrindiau'n dymuno iddi wellhad llwyr a buan. Erbyn hyn mae llawer o weithgareddu ar gerdded yng Nghanolfan Pentre sydd newydd agor ar Stryd Llywelyn a'r rheiny'n amrywio o Glwb Ieuenctid i'r plant lleiaf ar ddydd Llun i sesiwn ar gyfer rhai sy'n dioddef o afiechyd meddwl. Mae grŵp 'Mamau a Phlant' bob dydd Iau rhwng 9.30 - 11.30a.m. ac mae croeso i bobl dros 50 alw heibio bryn-
hawn dydd Iau am ddysglaid o de a sgwrs. Trefnir sesiwn sgwrsio hefyd rhwng 10.30 12.30 fore dydd Gwener. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Terry Cox ar gael ei ordeinio'n gurad yn eglwys gadeiriol Llandaf gan Archesgob Cymru, barry morgan. Bu Terry yn ddiacon a darllenydd yn Eglwys San Pedr a nos Sul, 26 mehefin fe gymerodd ei wasanaeth cymundeb cyntaf llawn yno. Dymunwn iddo bob llwyddiant i'r dyfodol. Cyhoeddwyd yng nghyfarfod diwethaf PACT a gynhaliwyd yn Llys Nazareth na fydd cyfarfod yn cael ei gynnal ym mis Awst.
TON PENTRE
Pob dymuniad da i Graham John, Tŷ Ddewi, un o'n gohebwyr yn y Ton, sy heb fod yn dda iawn o ran ei iechyd yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau i'r Tad Terry Cox a gafodd ei ordeinio'n offeiriad mewn seremoni yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, ddydd Sadwrn, 26 Mai a gweinyddodd gymun am y tro cyntaf yn Eglwys San Pedr ar 26 Mai. Pregethwyd gan yr Esgob David Wilbourne. Pob bendith iddo yn ei barchus arswydus swydd. Bydd grŵp sy'n delio â phobl sy'n dioddef o ôleffeithiau o fod dan bwysau yn cynnal ei gy-
LLYTHYR Parhad o dudalen 4
Eleni, ‘dyw’r glaswellt ddim wedi cael ei dorri gan fechgyn y Cyngor. Yn ogystal â’r blerwch, mae uchder y glaswellt yn beryglus. Wrth geisio gyrru allan o’r Clos, rhaid cymryd amser a gofal mawr, nid yn unig oherwydd taldra’r glaswellt, ond hefyd oherwydd cyflymdra ceir a beiciau modur ar hyd Ffordd Pentwyn. Mae canran uchel o yrrwyr yn anwybyddu’r ffaith taw 30 milltir yr awr yw’r cyflymdra a ganiateir ar y ffordd honno! Ni allwn ond gobeithio y bydd y Cyngor
farfodydd yng Nghanolfan Gymunedol Gelli bob dydd Iau rhwng 10.30am - 1pm.
Da yw gweld busnesau newydd yn dod i'r Ton ar ôl colli Swyddfa'r Post o ganol y dref a'i symud i leoliad newydd yn Y Gelli. Mae siop gywiro cyfrifiaduron sy hefyd yn gwerthu anrhegion a defnyddiau crefftwaith a gwaith llaw wedi agor yn yr hen siop fwydydd wedi eu rhewi a gweithdy sy'n cynhyrchu potiau pridd o bob lliw wedi ei sefydlu y tu ôl i Eglwys Ioan Fedyddiwr. Ar ben hyn, mae busnes sy'n cywiro bwyleri dŵr a thanau wedi agor ar y stryd fawr. Dymunwn yn dda i bob un o'r mentrau
newydd hyn.
Tristwch yw cofnodi marwolaeth y Parch Clive Evans a fu cyn ymddeol yn weinidog yn y Gelli. Roedd Clive yn ŵr hynaws a charedig a bu'n fugail da ar ei eglwys. Roedd e'n byw yn Prospect Place, Treorci a chydymdeimlwn â'i weddw, June, y bu'n fawr ei ofal drosti a'r teulu oll yn eu profedigaeth.
Mae Capel Hope, Y Gelli yn gymdeithas weithgar iawn. Ar y Sul ceir gwasanaethau am 11am a 6pm gydag Ysgol Sul hefyd yn y bore. Ceir cyfle am ddysglaid o de
Edrych i’r chwith – o’r car
yn derbyn y cyfrifoldeb i sicrháu bod y llecyn hwn a mannau eraill tebyg
ledled yr ardal yn cael y gofal gorau, nid yn unig o safbwynt yr hanes, ond hefyd o
a sgwrs ar ôl oedfa'r hwyr ac ar ddiwedd bob
mis ceir te arbennig i ddathlu unrhyw benblwyddi. Trefni cwrdd gweddi ac astudiaeth Feiblaidd am 7pm nos Fawrth ac mae cyfarfod y gwragedd bob nos Fercher am 7pm. Yn ystod y tymor ysgol cynhelir Clwb ieuenctid ar nos iau. Un o'r gweithgareddau pwysicaf yn y gymuned yw cynnal banc bwyd i bobl anghennus bob prynhawn dydd Mawrth am 2.30pm
safbwynt diogelwch a harddwch y Cwm. Yn ddiffuant, Huw Williams 9
LLONGYFARCHIADAU A PHOB LWC I
CHLOE YN
!!! RIO !!! CROESO NÔL
10
Caerdydd 06/07/2016 - CROESO NÔL I DÎM PÊL-DROED CYMRU
CHLOE TUTTON cyn ddisgybl o Ysgol G G Bronllwyn ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda yn nofio dros Brydain ym Mabolgampau Olympaidd Rio.
Llun gan Rosa
Baik
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Cymer yn Cefnogi Hafal Disgyblion Bl 7,8 a 9 rhan mewn digwyddiad codi arian ar gyfer yr elusen iechyd meddwl 'Hafal'
Llongyfarchiadau mawr i fechgyn Blwyddyn 8 ar ennill cystadleuaeth Pêl-Droed Ysgolion RCT.
YSGOLION
Llongyfarchiadau i'r merched blwyddyn 8 a 9 wnaeth cystadlu yng nghystadleuaeth rygbi Tag i ferched Ysgolion RCT. Llwyddiant ysgubol gyda'r tîm cyntaf yn ennill y gystadleuaeth a'r ail tîm yn gorffen yn drydydd. Da iawn pawb!.
11
YSGOLION YSGOL GYFUN TREORCI YN SAIN FFAGAN Diwrnod Pontio i’w gofio Ym mis Mehefin 2016, aeth yr Adran Gymraeg o Ysgol Gyfun Treorci â 70 disgybl o’r ysgolion lleol i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Cafodd y disgyblion gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd a defnyddio’r iaith tu allan i
ffurfioldeb y dosbarth.
Yn Sain Ffagan, roedd y plant yn cwblhau cwis. Dechreuodd y grwpiau o wahanol fannau o amgylch yr amgueddfa ac yna, roedd rhaid iddynt deithio o amgylch yr
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12
adeiladau diddorol yn chwilio am atebion i’w cwestiynau Cymraeg. Roedd nifer yn gystadleuol iawn, yn enwedig Olivia Saye o Ysgol Gynradd Penpych a Blake Meredith o Ysgol Gynradd Bodringallt.
Mwynheuodd pawb y diwrnod llawn hwyl a sbri ac maent yn edrych ymlaen at ddechrau tymor newydd yn Ysgol Gyfun Treorci.
YSGOLION