y gloran
100 HEB FOD ALLAN
Ar 10 Hydref bydd Mrs May Jenkins, Heol Glyncoli, Treorci yn dathlu ei phen blwydd yn 100 oed. Mae hi'n dal i fyw ar ei phen ei hun yn y tŷ lle cafodd ei geni a lle mae ei theulu wedi byw er 1875. Hi oedd yr ifanca' o 10 o blant mewn teulu lle mae byw yn hen yn eithaf cyffredin. Newydd farw mae ei brawd Ben, oedd bron yn 102; bu farw ei chwaer Nance o fewn tair wythnos i gyrraedd 100 ac roedd ei mam yn 98 pan fu farw. Doedd magu 10 o blant mewn tŷ â thair stafell wely ddim yn hawdd a phrofodd y teulu dlodi mawr ar adegau. O'i dyddiau cynnar, roedd rhaid i May weithio. Yn 7 oed roedd yn dosbarthu papurau bob bore i siop Davies Bryncethin a phan oedd yn ei harddegau cynnar aeth i weithio fel morwyn fach i deulu bonheddig yn Bognor Regis. Ond nôl i Dreorci y daeth hi maes o law i helpu ei rhieni trwy agor siop fach y rŵm ffrynt y tŷ lle y gwerthai afalau taffi a losin. Ar adegau o ddiweithdra roedd rhaid
troi at y wladwriaeth am help ac mae hi'n dal i gofio un o swyddogion y 'means test' yn dweud wrthi fod yn ofynnol iddi gadw cownt o bob jelly baby a werthai yn y siop er mwyn iddo allu penderfynu faint o help y gallai'r teulu ei dderbyn!
Capel ac Ysgol Mae'r capel a chrefydd wedi bod yn bwysig i'r teulu parhad ar dud 3
20c
Chwilio am anrheg Nadolig gwahanol? Dyma gyfle i brynu copi DVD o unrhyw Eisteddfod Genedlaethol ers 1999, o gystadlaethau, seremoniau a chyngherddau'r Pafiliwn a gweithgareddau'r Babell Lên. Archebwch cyn ddiwedd Hydref i sicrhau copi erbyn y Nadolig. Pris cychwynnol – £15
01970 632 828 copi@llgc.org.uk archif.com/copi
Gweler tudalen 9 am hanes Eve a’i Gwenyn
golygyddol l
2
Mae Neuadd y Parc a wasanaethodd y gymdogaeth yng Nghwmparc ers dros ganrif mewn perygl o gau ddechrau'r flwyddyn nesaf, onobai bod y pwyllgor bach sy'n ei rheoli yn llwyddo i ddod o hyd i gefnogaeth ariannol i'w chynnal. Agorwyd y neuadd, oedd hefyd yn gweithredu fel llyfrgell, yn 1908. Talwyd amdani gan weithwyr pyllau glo'r pentref a gafodd gefnogaeth gan deulu David David Davies, Llandinam oedd yn gyfrifol am sefydlu Cwmni'r Ocean, prif cyflogwr yr ardal. Dros y blynyddoedd, cynhaliwyd pob math o weithgareddau yno, gan gynnwys eisteddfodau, wythnosau drama, operâu a chyfarfodydd gwleidyddol, ac, ynghyd â chapeli'r ardal, gweithredai fel canolfan gymdeithasol yn ogystal. Wrth gwrs, roedd y gymdeithas a wasanaethai yn wahanol iawn i'r hyn ydyw heddiw. Ar y pryd, roedd rhan helaeth o'r boblogaeth yn gweithio ac yn byw yn y pentref ac mewn cyfnod lle nad oedd na radio na theledu yn y cartref, edrychent am eu hadloniant y tu fa's i bedair wal y tŷ. Doedd ganddyn nhw ddim ceir, ac o ganlyniad
fe'u cyfyngid i raddau helaeth i'w milltir sgwâr. Roedd gan y neuadd swyddogaethgymdeithasol bwysig. Mor wahanol yw hi erbyn heddiw gyda'r rhai sydd mewn gwaith yn gorfod teithio i'w ffeindio a phawb yn berchen ar set deledu, radio a chyfrifiadur sy'n cynnig pob math adloniant iddynt heb orfod mynd i chwilio amdano. Ar ben hyn, mae cyflogau isel ac ansicrwydd parhâd swyddi yn ffactorau eraill sy'n peri i bobl aros gartref yn hytrach na mynd ma's i wario. Gwelwyd tafarnau'n dioddef ledled y wlad am union yr un rhesymau. Mae hyn oll wedi newid natur y gymdeithas sydd yn llawer llai clos nag ydoedd a chymdogion yn llawer llai cyfarwydd â'i gilydd nag oeddent slawer dydd. Lle roedd drysau'r tai ar agor led y pen trwy gydol y dydd, maen nhw bellach ynghau a llai o fynd a dod cymdogol. Cyfeirir at Neuadd y Parc erbyn hyn fel
y gloran
hydref2013
YN Y RHIFYN HWN
100 HEB FOD ALLAN...1 Golygyddol ...2
LIVE AT TREORCHY..3/4 Newyddion Lleol...5-8 EVE A’I GWENYN.. CORNEL IAITH.. LLYTHYR..9/10 Ysgolion...11/12
Canolfan Gymdeithasol glir inni i gyd. Naill ai a cheisiodd y pwyllgor bod rhaid inni ddefnyddrefnu pob math o weidio'r cyfleusterau hyn thgareddau a neu eu colli. Yr unig gwasanaethau at iws obaith i Gwmparc ac pobl leol i'w denu yno. ardaloedd tebyg yw ein Ceir yno ddosbarthiadau bod ni, y trigolion lleol, addysgol, cyfle i ddefny- yn gweld gwerth y ddio cyfarpar canolfannau hyn a'n bod cyfrifiadurol a champfa nid yn unig yn mynd i'n ymarfer corff, ond hyd pocedi i'w cefnogi ond yma nid ydynt wedi llhefyd yn cefnogi'r gweiwyddo i ddenu digon o thgareddau a gynigir bobl i'r lle dalu ffordd. ganddynt. Allwn ni ddim Mae hyn yn drueni mawr pasio'r cyfrifoldeb i gan fod swyddogaeth eraill, mae'n gorwedd yn bwysig i'r adeilad yn yr llwyr ar ein hysgwyddau ardal. Yn ddiweddar, ni. cynhaliwyd cyfarfod cy- Golygydd hoeddus i weld beth ellid ei wneud a daeth rhyw 50 o bobl ynghyd i rannu syniadau. Clywyd bod neuaddau tebyg ar draws de Cymru yn yr un picil a dywedwyd yn blaen bod eu dyfodol yn dibynnu'n llwyr ar gefnogaeth y Ariennir yn rhannol boblogaeth leol. gan Lywodraeth Cymru Mae'r Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison neges, gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN felly, yn
100 HEB FOD ALLAN parhad
erioed a digwyddiadau mewn perthynas â'r capel yw'r profiadau cyntaf sydd wedi aros yn y cof. " Rwy'n cofio mynd gyda 'Nhad i Hermon a ffoli gweld fy mrodyr hŷn, Ifan a Thomas John yn chwarae offerynnau yn yr orchestra yno," meddai. "Cofio'Nhad wedyn yn gosod mat bach ar lawr y festri cyn iddo benlinio i weddio yn y Cwrdd Gweddi a mynd law yn llaw ag ef ar nos Sadwrn i'w 'helpu' i fwydo'r tân ym mwylerdy'r capel er mwyn sicrhau gwres ar gyfer y Sul." Fel llawer cenhedlaeth wedyn, dechreuodd May ei gyrfa addysg yn 'tin shed' Ysgol Fabanod Treorci ac un peth sydd wedi
aros yn y cof oedd derbyn y newyddion fod ei hathrawes, Miss Mitchell wedi ei lladd yn ymyl y gatiau yn Ynyswen gan injan oedd yn tynnu tramiau o bwll glo Abergorci. Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf oedd hi, a chryn dlodi yn yr ardal. Roedd gwirfoddolion yn paratoi bwyd i'r plant ar iard yr ysgol, a'r rheiny yn gorfod aros mewn rhes â'u bowlenni aliwminiwm i dderbyn y cawl a wneid o esgyrn a darnau cig rhad a gyfrannwyd gan fasnachwyr y dre'. Roedd y dosbarthiadau yn fawr iawn, gyda 3 o blant yn gorfod rhannu pob desg. Ychydig iawn o Gymraeg a gafodd yn yr ysgol ac mae May yn cofio bod rhaid i blant drwg eistedd o flaen y dosbarth wrth ddesg yr athrawes.
Caledi a Gofid Er taw fel dyn crefyddol y cofia to hŷn yr ardal ei thad, Daniel Evans, nid felly y buodd e wastad,
yn ôl May. " Roedd 'Nhad yn yfed yn drwm ar un adeg a Mam yn cael amser caled iawn yn y cartref," meddai. "Ond daeth tro ar fyd. Cafodd 'Nhad droedigaeth ddechrau'r ganrif ddiwethaf a newidiodd yn llwyr. Y capel oedd popeth iddo fe a ninnau ar ôl hynny, ac yn wir, yn festri Hermon ar fore Sul y bu e farw." Fel yn hanes pob teulu, daeth profedigaethau yn eu tro. Roedd brawd May, William Defi, wedi gorfod ymuno â'r fyddin gan nad oedd unrhyw waith arall ar gael. Roedd yn focsiwr medrus iawn a ddaeth maes o law yn bencampwr ei gatrawd, sef y 2nd Welsh Regiment oedd ar y pryd yn Rawanpindi yn yr India. Fodd bynnag, wrth amddiffyn ei deitl, cafodd ei ladd gan ergyd i'w ben. Cafodd y golled hon effaith ofnadwy ar y fam a dyna pryd y daeth May adre i ofalu am ei rhieni.
Newidiadau Dros y blynyddoedd gwelodd lawer o newidiadau yn Nhreorci ond mae ganddi atgofion melys iawn. Cofio gorymdeithio y tu ôl i faner ysgol Sul Hermon i'r gymanfa ym Methania, gweld Miss Davies, Bryncethin yn ffasiwn i gyd yn cerdded i'r capel dan ei pharasôl a chael hwyl wrth weld Richard Thomas y fframiwr lluniau lleol, 'Dici Pwti', a fynnai wisgo sbats bob amser! Mae May Jenkins yn fodlon iawn ei byd yn ei chartref cyfforddus. Ei hunig gŵyn yw bod rhai pobl yn meddwl am ei bod yn hen nad yw hi'n effro ei meddwl. Mae hynny'n bell iawn o fod yn wir gan fod ei meddwl yn dal i fod mor chwim â'i thafod! Llongyfarchiadau calonnog iawn iddi ar gyrraedd 100 a dymunwn iddi bob cysur a rhwyddineb i'r dyfodol.
ROGER PRICE, MAX A 'LIVE AT TREORCHY'
Un a chwaraeodd ran flaenllaw yn trefnu cyngerdd enwog Max Boyce yng Nghlwb Rygbi Treorci oedd Roger Price. A Max yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed yn ddiweddar, mae Roger yn sôn wrth Y Gloran am hanes 'Live at Treorchy' Des i gysylltiad gyntaf â Max Boyce ychydig fisoedd cyn iddo recordio ei albwm 'Live at Treorchy'. Ar y pryd, fi oedd ysgrifennydd Cymdeithas Plant Awtistaidd Morgannwg, ac un
o aelodau gweithgar y pwyllgor hwnnw, Mrs Dwynwen Daly o Lanharan a dynnodd fy syw at ŵr ifanc, talentog o Lyn-nedd y gallwn ei wahodd i ddifyrru mewn noson 'Caws a Gwin' i
godi arian at yr achos. Ces i ei rif ffôn ganddi ac mae'r gweddill yn hanes! Ffoniais i Max a dywedodd e rywbeth tebg i "Alla' i ddim credu eich bod yn fy ffonio o
Dreorci. Dw i wrthi ar hyn o bryd yn trafod recordio albwm gydag EMI ac un o'r llefydd dan ystyriaeth yw Treorci. Ga' i bicio draw am sgwrs amdano?" parhad ar dud 5
3
O fewn ychydig ddyddiau, daeth draw i 'nghartre' yn Adare Terrace ac yn fuan des i'n ymwybodol ein bod wedi cwrdd ar drobwynt pwysig ym mywyd Max gan ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w swydd fel trydanwr yng nghwmni Metal Box ac am fentro ennill ei damaid fel diddanwr llawn-amser. Cyd-ddigwyddiad arall nad oedd e'n ymwybodol ohono oedd bod Clwb Cymdeithasol EMI ar waelod ein stryd. Felly, fe alwon ni draw i gael golwg o'r lle. Sicrhau cynulleidfa Gan fod Max yn teimlo ei bod hi'n angenrheidiol cael cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa cyn y
4
ROGER PRICE, MAX A 'LIVE AT TREORCHY'
recordiad go-iawn, gallai'r clwb hwn ateb ei bwrpas. Penderfynwyd taw dyna fyddai'r cynllun ac felly trefnwyd i logi'r clwb a fy nhasg i oedd treio sicrhau cynulleidfa deilwng. Doedd hyn ddim yn hawdd gan nad oedd enw Max Boyce yn adnabyddus o gwbl ar y pryd yn y Rhondda. Fodd bynnag, daeth cydddigwyddiad arall i'm hachub. Digwyddais s么n wrth gyd-weithiwr yng Nghyngor Ogwr a Garw, lle rown i'n gweithio, 'mod i wedi bod mewn cysylltiad 芒 chanwr ifanc o'r enw Max Boyce a
dweud beth oedd ein bwriad. Er mawr syndod, dywedodd, "Mae'r enw 'na'n canu cloch! Dw i'n siwr bod gen i LP ganddo a ges i'n anrheg ychydig yn 么l." A dyna sut i ces i afael ar 'Max Boyce in Session' a recordiwd yng Nghlwb Gwerin Pontardawe gan Gwmni Cambrian. Fe ffolais i ar yr albwm oedd yn cynnwys caneuon fel 'Hymns and Arias' a 'Duw it's Hard' a gofynnais iddo a gawn ei fenthyg am wythnos neu ddwy. Sicrheais fod y record yn cael ei chwarae'n gyson dros y tannoy yng nghlwb yr
parhad
EMI a dechreuais gnocio drysau yn yr ardal yn annog ffrindiau a chymdogion i ddod i gefnogi'r diddanwr ifanc, addawol hwn ar noson ei gyfle mawr yn y clwb. Y Noson Fawr Pan ddaeth y noson, roedd y lle dan ei sang a rhyw 150 o bobl yn bresennol. Cafodd pawb noson wrth eu boddau gydag Alun Williams o'r BBC yn cyflwyno a'r gr诺p hyfryd 'Triban' yn cefnogi. Un arall yn cymryd rhan oedd y basgitarydd, Derek Boote a laddwyd yn ddamweinparhad ar dud 8
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Roedd Mrs Eira Bundock, Stryd Bute, Treherbert yn dathlu ei phen-blwydd yn 95 oed ar 1af Hydref ac yn edrych ymlaen at ymweliad ei mab hynaf, John, o Canberra, Awstralia. Mae gan Eira 6 phlentyn, 11 o wyrion a 7 o wyrion. Dymunwn iddi bob hapusrwydd a chysur i'r dyfodol.
Cafodd cais cynllunio i adeiladu 43 o dai ar hen safle Ysbyty Treherbert, 'Y Cae Cerrig'. ei wrthod gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor. Y prif reswm am hyn oedd gwrthwynebiad Adran y Priffyrdd am fod y swyddogion yn poeni am ddiogelwch y cynllun. Cynhaliwyd Swper Diolchgarwch yng nghapel y Methodistiaid ar 30 Medi. Daeth nifer fawr ynghyd i roi diolch ac i fwynhau'r swper a'r aloniant oedd yn ei ddilyn.
Pob dymuniad da i Gareth Morgan Jones, Stryd Stuart sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Gobeithio y caiff adferiad iechyd llwyr a buan. Mae Parc Treherbert
wedi cael 4 clwyd garu newydd a fydd yn rhwystro cŵn rhag mynd i mewn a baeddu'r parc. Bydd modd i bobl anabl a rhai sy'n defnyddio cerbydau anabl gael allwedd gan y Cyngor i agor y clwydi'n lletach er mwyn hwyluso mynediad.
Llongyfarchiadau i Cari a Richard Jenkins, Ross Rise ar enedigaeth eu merch, Daisy a chwaer i Millie,
Erbyn hyn, mae Beenish Gill, sy'n hanu o Bacistan wedi gorffen ei gwasanaeth yng nghapel Blaen-y-cwm. Yn ystod ei chyfnod yn y capel, mae Beenish wedi llwyddo i sefydlu cylch meithrin i famau a phlant a bu hefyd yn gyfrifol am y Banc Bwyd. Mae aelodau'r capel a'r gymuned yn ddiolchgar iddi am ei holl waith. Ar hyn o bryd mae Beenish yn aros gyda'i brawd yn Coventry a'i gobaith yw cael caniatâd i ymsefydlu ym Mhrydain. Pob dymuniad da iddi!
Y mis hwn bydd Capel Blaen-y-cwm yn croesawu gweithiwr cymdeithasol newydd i weithio
gyda'r eglwys yn y gymuned. Mae Mr Phil Vickery, sy'n byw yn Aber-llydan [Broadhaven], Sir Benfro, yn mynd i dreulio 2/3 diwrnod yr wythnos yn gweithio ar wahanol brosiectau yn yr ardal. Mae Mr Vickery yn perthyn i Fudiad Gweinidogaeth Awch Cymru. Dymunwn bob llwyddiant iddo.
TREORCI
Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Iris Thomas, Stryd Dumfries. Am flynyddoedd bu Mrs Thomas yn gweithio yn fferyllfeydd yr ardal, yn Timothy White & Taylor i ddechrau ac wedi hynny yn siop Alun Evans ac Adrian Fraser Jones. Chwaraeodd ran flaenllaw yn sioeau'r RAFA a bu hi a Haydn, ei gŵr, yn gyfrifol am drefnu'r dawnsio yn y 'Con' am gyfnod hir. Cydymdeimlwn â Haydn a'i meibion, Colin a Keith yn eu colled. Mae Ysgol Ddawns RSD yn cynnal dosbarth dawnsio i blant yn Neuadd Les Ynyswen, bob dydd Gwener, 5:15 -
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN 6:15. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar www.rsd-danceandcheer.com
Y tenor operatig, Rhys Meirion, oedd yr unawdydd yng nghyngerdd flynyddol Côr Meibion Treorci a gynhaliwyd yn y Parc a'r Dâr, nos Iau, 3 Hydref. Dyma oedd cyngerdd gyntaf yr arweinydd newydd, Jeffrey Howard, yn y dref. Dymunwn iddo bob llwyddiant i'r dyfodol. Nos Sadwrn, 5 Hydref yn Nhafarn RAFA Treorci cynhaliodd Fforwm 50+ Rhondda Uchaf noson o adloniant gyda'r canwr, Carl Jones, yn diddanu. Roedd yr elw at
5
waith y Fforwm.
Cyflwynwyd drama enwog J.B.Priestley, "An Inspector Calls" gan gwmni proffesiynol yn theatr y Parc a'r D창r rhwng 13 - 15 Tachwedd. Croeso mawr i Gwyn a Val Evans sydd wedi symud o Don Pentre i Stryd Stuart. Bydd yn dda eu cael yn rhan o'r gymuned. Dymunwn iddynt bob hapusrwydd yn eu cartref newydd.
Nos Lun, 23 Medi, cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil Cancr UK gwis llwyddiannus yn nhafarn y RAFA. Y cwisfeistr oedd Noel Henry a ll-
6
wyddwyd i godi swm anrhydeddus o arian at yr achos da hwn. Mae'r Pwyllgor am ddiolch i bawb am eu haelioni a'u cefnogaeth arferol.
Pob dymuniad da am Ben-blwydd Hapus i Mrs Olwen Scott, Stryd Bute sydd yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed y mis hwn. Deallwn fod Mrs Enid Rosser, Stryd Herbert, wedi symud i gartref gofal ym Manceinion er mwyn bod yn nes at ei chwaer. Mae ei ffrindiau'n dymuno pob cysur a hapusrwydd iddi yn ei chartref newydd. Un arall sydd wedi symud i gartref gofal yw
Mr Roy Davies, Stryd Illtyd sydd wedi ymgartrefu bellach yng Nghartref Ystradfechan. Pob dymuniad da iddo yntau hefyd.
Llongyfarchiadau i Mrs Beryl Rowe, Heol y Fynwent sydd newydd ddod yn hen hen fodryb i dripledi ac wedi dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Mae Beryl yn un o hoelion wyth Clwb yr Henoed ac yn dal yn weithgar iawn yn eu mysg.
Anfonwn ein dymuniadau gorau am adferiad llwyr a buan i Kevin Townsend, Stryd Tynybedw sydd yn Ysbyty Brenhinol Morgan-
nwg ar hyn o bryd.
Y mis yma, bydd Claire a Paul Davies, Prospect Place, yn teithio gyda'u teulu i Rhodes yng Ngwlad Groeg lle y byddant yn priodi. Mae Claire yn wyres i Jessie Davies, Stryd Dumfries. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i'r dyfodol.
Cynhaliwyd bore coffi yn Neuadd St Matthew yn ddiweddar i godi arian at Nyrsys McMillan. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau at yr achos teilwng hwn. Y siaradwr yng nghyfarfod Sefydliad y Merched [WI} y mis hwn oedd
Mr Mike Jones, Y Gelli. 'Hen Rhondda' oedd testun Mr Jones ac wrth wylio ffilmiau o'r dyddiau gynt cafodd yr aelodau lawer o bleser ac ambell bwl o hiraeth wrth cael eu hatgoffa o'r Cwm fel y bu unwaith.
CWMPARC
Llongyfarchiadau i Amber Davies, blwyddyn 6 yn Ysgol y Parc. Mae hi wedi cael ei dewis i ddod yn aelod o gôr Only Kids Aloud. Aeth Amber trwy ddwy rownd o glyweliadau, a hi oedd un o grŵp bach o blant sy wedi cael eu dewis. Bydd y côr yn teithio i dde Affrig yn 2014 i berfformio mewn sawl cyngerdd.
Mae dwy ystafell ddosbarth newydd wedi cael eu creu yn Ysgol y Parc. Yn ystod gwyliau'r haf, cafodd hen stafell gotiau'r adran iau ei haddasu'n ddau le dysgu newydd. Defnyddir yr ystafelloedd i ddosbarthiadau cymorth llythrennedd a rhifedd i ddisgyblion yn yr ysgol. Cyn hynny, cafodd y plant eu dysgu mewn ardal lai. Doedd hynny ddim yn ddelfrydol, achos bod rhaid iddyn nhw gerdded trwy ddosbarth arall bob tro i'w chyrraedd. Roedd hyn yn aflonyddu ar y dosbarth arall.
Mae disgo dan 14 oed yn Neuadd Eglwys San Siôr, bob yn ail nos Fercher, 6 - 8. Mynediad £1. Bydd yr un nesaf ar 9 Hydref.
Llongyfarchiadau Mervin ac Olive Hosking, Heol Chepstow ar ddathlu eu priodas aur yn ddiweddar. Dymunwn iddynt iechyd a hapusrwydd i'r dyfodol.
Y PENTRE
RoMae hi'n braf cael Dr Anne Brooke nôl yn ein plith am ychydig wythnosau cyn y Nadolig. Methodd â dod am ei chyfnod arferol oherwydd afiechyd ei chwaer, Mary. Mae'n dda deall bod Mary dipyn yn well erbyn hyn ac edrychwn ymlaen at gael cwmni Anne unwaith yn rhagor. Mae preswylwyr Llys Siloh yn anfon eu dymuniadau gorau at Diane Collinson am benblwydd hapus iawn ar 21
Hydref i Diane Collinson a llawer ohonyn nhw i'r dyfodol. Casglodd Llys Siloh £46 ar gyfer apêl Nyrsys Macmillan a llwyddodd Byddin yr Iachawdwriaeth i gyfrannu £145 at yr un apêl. Erbyn hyn ma Macmillan wedi elwa o ychydig dros £4,000 o ganlyniad i ymdrechion clodwiw y Fyddin. Tristwch i drigolion Pleasant St oedd derbyn y newyddion am farwolaeth un o'i thrigolion hynaf, sef Janice Griffiths. Gwelir ei heisiau'n fawr gan ei theulu a'i ffrindiau. Anfonwn ein cydymdeimlad cywiraf atynt oll. Anfonwn ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau rhag blaen i bedair chwaer a fydd yn dathlu eu pen-blwydd
7
ym mis Tachwedd. Bydd Nichol Gillman, Stryd Pleasant yn dathlu ar yr 8fed. a'i chwaer, Tracy Edwards, Stryd Albert ar y 29fed. Wedyn mae dwy chwaer arall o Stryd Pleasant, Sharon a Lisa Hughes yn mynd i gydddathlu ar 16 Tachwedd. Mae Chwarae Plant yn dal i gael ei gynnal ar Barc y Pentre bob dydd Mercher rhwng 3.30 5.15pm. Croesewir plant o bob oedran ond argymhellir eu bod yn gwisgo hen ddillad ac esgidiau, yn enwedig os bydd y tywydd yn wlyb. Mae ei ffrindiau ym Myddin yr Iachawdwriaeth am longyfarch Eleri Sass ar ennill anrhydedd yn ei arholiad Gradd 1 ar y delyn. Llongyfarchiadau i Carys Browning a David Bond, eto o'r Fyddin, a briododd ar 5 Hydref. Pob dymuniad da i'r dyfodol. Mae nifer fawr o aelodau'r Fyddin yn dathlu pen-blwydd y mis hwn. Felly, pob dymuniad da i: Simon Richards, Kevin Payne, Anne Twohey, Eva Vincent, Jill Jones, Capten Lillian Phillips, Anne Browning, Ben John, Debbie Brian ac Edwina Sass. Llongyfarchiadau!
8
TON PENTRE A’R GELLI
Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Roy Meredith, Heol Alexandra gynt ond bellach o Gartref Gofal Ystradfechan. Peintiwr a phapurwr oedd Roy wrth ei alwedigaeth, ond daeth yn adnabyddus fel unawdydd baritôn gyda Chôr y Royal Welsh. Bu galw mawr am ei wasanaeth ar draws de Cymru. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu hiraeth. Mae aelodau Eglwys Ioan Sant a'r ffrindiau yn yr ardal i gyd yn anfon eu dymuniadau gorau at Stephen Pumford sy'n gwella ar hyn o bryd ar ôl cael llawdriniaeth lem ym Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae Stephen, sy'n Ddarllenydd yn yr eglwys, newydd ymddeol o'i waith yn y Gwasanaeth Iechyd. Mae pawb yn edrych ymlaen at ei groesawu nôl i'r eglwys pan fydd yn cryfhau. Mae Stephanie a Keith Thomas, dau o aelodau selog Eglwys Sant Ioan newydd ddathlu eu Priodas Aur. Llongyfarchiadau a phob bendith iddynt i'r dyfodol.
Ddydd Mercher, 30 Hydref bydd aelodau'r Clwb Cameo yn cynnal eu teparti blynyddol yn nhafarn Fagin. Yn dilyn y te bydd cwis dan ofal y cwis-feistr lleol Graham
Davies John. Cynhelir Noson Skittles Flynyddol Eglwys Sant Ioan, nos Fawrth, 29 Hydref yng Nghlwb Pêldroed Ton Pentre yn dilyn y Swper Diolchgarwch a gynhaliwyd nos Wener, 11 Hydref Bydd Fete Nadolig yr eglwys yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr. Felly, cadwch eich dyddiadur yn glir y
diwrnod hwnnw. Llongyfarchiadau i'r fferyllydd lleol poblogaidd, Masoud, a gwblhaodd Hanner Marathon Caerdydd yn llwyddiannus ar 6 Hydref. Llwyddodd, trwy wneud hynny, i godi swm sylweddol o arian at Ofal Canser MacMillan.
ROGER PRICE, MAX A 'LIVE AT TREORCHY'
parhad
iol yn fuan wedyn pan aeth ei wisg ar dân. Cafodd Max hwyl i'w ryfeddu pan ddaeth i'r llwyfan mewn cot 'Columbo' yn cario cenhinen anferth i gyfeiliant 'Sosban Fach'. Fel y gellid disgwyl, roedd yr 'oggie oggies' yn diasbedain drwy'r neuadd a phawb wedi cael modd i fyw yn y rhagflas hwn o beth oedd yn mynd i ddigwydd yn y Clwb Rygbi maeso law. Pan ddaeth yr amser i ddosbarthu tocynnau ar gyfer y recordiad go iawn, ceision ni gael wynebau newydd yn y gynulleidfa
ond roedd yn anodd gwrthod y rheiny oedd wedi cefnogi'r fenter wreiddiol mor frwd. Chwaraeodd aelodau Côr Meibion Treorci eu rhan yn nhrefniadau'r noson 'hanesyddol' trwy sicrhau cefnogaeth perthnasau a ffrindiau ond byddaf yn fythol ddyledus i'r rheiny a ddaeth i'r noson gyntaf honno yng nghlwb yr EMI ac i Dwynwen Daly, yn arbennig, am fy rhoi mewn cysylltiad â Max sydd wedi para'n ffrind arbennig dros y blynyddoedd.
EVE A'I GWENYN
Mae teulu Stoneman a ddaeth yma o Sir Benfro yn cadw siop ar Heol y Parc, Cwmparc. Yn eu siop maen nhw'n gwerthu mêl lleol. Dim byd anarferol am hynny basech chi'n meddwl. Wel, cafodd y mel yma ei gynhyrchu gan eu merch Eve, saith oed, neu ei gwenyn hi, i fod yn gywir! Ydy, mae Eve yn cadw gwenyn yng Nghwmparc!
Dywedodd Eve "Dechreuais i gadw gwenyn gan fod fy mamgu yn awgrymu efallai y byddwn yn hoffi gwneud cacen ar gyfer cystadleuaeth cacen fêl Gwenynwy Peny-Bont. Roeddwn i'n meddwl bod hyn yn syniad da iawn ac fe ges i ail wobr am fy nghacen. Yna, es i fyny at y cychod i helpu fy mam-gu, gweld sut roedd y gwenyn wedi dod ymlaen yn y gaeaf a rhoi bwyd iddyn nhw fel nad oeddent yn llwgu. Roedd y gwenyn yn dyner iawn ac yr wyf yn eu bwydo â surop siwgr. Yna dywedodd fy mam-gu byddai'n syniad da imi gael cwch o wenyn fy hun. Cyrhaeddodd fy ngwenyn ym Mis Mai ac roedd eu rhoi yn y cwch gwenyn yn gyffrous iawn. Yr wyf wedi edrych ar ôl y gwenyn drwy'r haf ac ym mis Awst roedden ni'n lwcus I cael mêl o fy nghwch gwenyn i. drosodd
9
EVE A'I GWENYNparhad
LLYTHYR
Yn ogystal â chadw gwenyn mae gan y teulu foch ac ieir. Mae Eve yn hoffi gofalu am yr holl anifeiliaid, ond gofalu am y gwenyn yw ei hoffter pennaf. Dywedodd hi "Pan fyddaf yn gadael yr ysgol, byddwn yn hoffi dechrau caffi a gwerthu mwy o'r pethau rydym yn gwneud ac yn tyfu.Y flwyddyn nesaf, yr wyf yn mynd i gael cwch gwenyn arall gan fy mod wrth fy modd yn gofalu am y gwenyn."
Er bod y prosiect yn un newydd, mae’n perthyn yn agos i Twf – sef y cynllun cenedlaethol sy’n cynghori rhieni ynghylch sut i gyflwyno’r Gymraeg i’w babanod. Yn wahanol i Twf fodd bynnag, fe fydda i, a fy nghyd-swyddogion yn ardaloedd Caerffili a Phen-y-Bont, yn gweithio gyda theuluoedd â phlant sydd rhwng 0 a 7 oed.
Mae Eve yn cynilo'r arian wnaiff o werthu mêl yn ei chyfrif cynilo yn yr Undeb Credyd, lle mae ei mam Christina yn gweithio. Felly, beth am eu gwaith nesaf? Dywedodd Christina "Ein gwaith nesa yw rhoi rhywfaint o feddyginiaeth i gael gwared ar y gwiddon varroa a all niweidio gwenyn. Yna byddwn yn rhoi bwyd arbennig iddynt ar gyfer y gaeaf er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn llwgu."
Nerys Bowen
CORNEL IAITH
Un gair sydd gan Saesneg yn golygu 'last'. Yn y Gymraeg, fodd bynnag, rydyn ni'n gwahaniaethu rhwng, 'The last time i saw him before he died' a 'I saw him lat week'. Yn y frawddeg gyntaf mae 'last' yn golygu 'terfynol, final' tra ei fod yn golygu ' last - previous' yn yr ail frawddeg. Y gair am 'last final' yw olaf a'r gair am 'last - previous' yw diwethaf. Os dywedwch, 'Collais y trên olaf', does dim amdani ond cysgu ar y platfform! Ar y llaw arall, mae'r cwestiwn, 'Am faint o'r gloch aeth y trên diwethaf?' yn golygu bod un arall yn mynd i ddod maes o law. Mae'n bwysig, felly, wahaniaethu rhwng y ddau. Wrth sôn am 'diwethaf', cofiwch hefyd ein bod yn dweud 'wythnos diwethaf' er nod 'wythnos yn enw benywaidd unigol. Dan amgylchiadau felly fe ddisgwyliech, wythnos ddiwethaf', ond fel yn achos 'Nos da!', mae'r 's' ar ddiwedd y gair yn caledu'r 'd' sy'n dilyn. On'd yw iaith yn rhyfedd - ac yn ein drysu weithiau!
ANRHEG NADOLIG
Pam na rowch chi danysgrifiad i'r Gloran am flwyddyn yn anrheg Nadolig i ffrind neu i aelod o'r teulu sy'n byw i ffwrdd? Gallwch wneud hyn am £10 trwy gysylltu â Susan Davies, 10 Woodland Terrace, Ynyswen, Treorci CF42 6EA neu ffonio 435563 - 776835. Sieciau'n daladwy i Y GLORAN. 10
Helo Bawb! Carwyn Hedd ydw i, a dwi newydd ddechrau ar fy swydd yn ardal Rhondda Cynon Taf. Fi yw Swyddog Maes yr ardal ar gyfer prosiect peilot newydd, Tyfu gyda’r Gymraeg, sy’n cael ei redeg gan gwmni IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ar ran y Llywodraeth.
Bydd prosiect Tyfu gyda’r Gymraeg yn canolbwyntio ar gyflwyno Cymraeg i deuluoedd mewn dau gyd-destun, sef ar yr aelwyd ac yn gymdeithasol. Byddwn ni’n trafod y manteision o roi dwy iaith i blant gyda rhieni a darpar rhieni. Byddwn ni hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad iddyn nhw ar sut mae’n bosibl gwneud hynny, ac yn eu helpu nhw i ddod o hyd i unrhyw wasanaethau a digwyddiadau cymdeithasol sy’n cael eu cynnal yn lleol er mwyn i’r plant gael clywed mwy o Gymraeg a dod yn gyfarwydd â hi.
Ar ddechrau’r prosiect, mae gofyn i ni gynnal grŵp ffocws gyda chriw bach o bobl i geisio darganfod beth sydd ar gael, neu ddim ar gael, yn lleol o ran gwasanaethau a digwyddiadau, felly mae’n siŵr y byddai’n cysylltu gyda rhai ohonoch chi eto yn y dyfodol agos i ofyn am help. Os oes gyda chi unrhyw wybodaeth am bethau sy’n digwydd yn lleol neu os ydych chi am roi eich barn am bethau Cymraeg yn eich ardal fel rhan o’r grŵp ffocws neu am gyfrannu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â fi ar y cyfeiriad e-bost isod. Mae modd i chi hefyd gysylltu â fi drwy Twitter – dilynwch @TyfuRhCT i gael gwybodaeth ddefnyddiol.
Enwau’r Swyddogion Maes eraill yw Sioned Stephens (yn ardal Pen-y-Bont) ac Emma Saunders (Caerffili). Os ydych chi am gysylltu â fi neu am gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i tyfu@iaith.eu gan roi ‘Rhondda Cynon Taf’ fel pwnc eich neges. Hwyl am y tro.
YSGOL GYFUN Y CYMER
YSGOLION
ETHOL CYNGOR YR YSGOL
YSGOL GYFUN Y CYMER
Mae’r wythnos ddiwethaf wedi bod yn un brysur iawn wrth i ni gynnal etholiadau ar gyfer dewis aelodau newydd i’n Cyngor Ysgol. Ar ddydd Iau, 26ain o Fedi, tro ymgeiswyr Blwyddyn 7 oedd hi i geisio ennill pleidleisiau. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi enwau’r aelodau newydd yr wythnos nesaf.
DATHLU DIWRNOD EWROPEAIDD 2013
Cafodd disgyblion Blwyddyn 8 hwyl wrth gymryd rhan yn niwrnod ewropeaidd arbennig a drefnwyd gan yr Adran Ieithoedd Tramor Modern ar ddydd Iau 26ain o Fedi. Yn ogystal â gwisgo yn ôl thema’r diwrnod, cawsant gyfle i fynychu amryw o weithgareddau yn ffocysu ar ddiwylliant ac ieithoedd Ewrop. 11
12
Mae’r disgyblion yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau a thrwy hynny, ennill cymhwyster arwain Lefel 1 a 2 mewn Dawns a Chwaraeon fel rhan o’u hastudiaethau CA4 a CA5. Fel rhan o’r hyfforddiant maent yn cael y cyfle i hyfforddi disgyblion ysgolion cynradd yr ardal drwy glybiau ar ôl ysgol yn ogystal â disgy-
Mae Ysgol Gyfun Treorci wedi cael ei dewis fel un o’r ysgolion cyntaf i gael ei chydnabod am ei gwaith caled a’i hymrwymiad i ddatblygu sgiliau arwain eu disgyblion. Mae’r amrywiaeth o gyrsiau arwain sy’n cael eu cynnig gan yr adran Ddawns a Chwaraeon wedi datblygu disgyblion positif a brwdfrydig sydd wedi‘u hysgogi i wirfoddoli yn y gymuned.
Llongyfarchiadau mawr i’r 65 disgybl a enillodd y cymhwyster eleni.
Bydd Sportleaders UK yn gweithio gyda’r adran Chwaraeon wrth iddynt ddatblygu’n ganolfan i ddatblygiad proffesiynol ac er mwyn iddynt rannu eu harfer sy’n arwain y sector gydag ysgolion eraill.
blion iau yr Ysgol Uwchradd. Mae’r Arweinwyr Chwaraeon a Dawns yma felly yn gosod esiampl dda i blant ifanc ac yn pwysleisio pwysigrwydd ymarfer corff i gadw’n heini ac iach.
Academi Arweinyddion Dawns a Chwaraeon cyntaf Cymru
YSGOL GYFUN TREORCI