y gloran GWELER HANESION O’N LLUNIAU TU MEWN YN EIN HERTHYGLAU, EIN GOLYGYDDOL A NEWYDDION LLEOL ...
20c
100!
Mae Mrs Gladys Davies yn
LLONGYFARCHIADAU Diolch i Phyllis Davies, Vicky Davies a Julie Diane Jackson am y llun hyfryd hwn
golygyddol l ETHOLIAD Y CYNULLIAD
Leanne Wood [Plaid Cymru] 11,123 Leighton Andrews [Llafur] 8,432 Stephen Clee [UKIP] 2,203 Maria Hill [Ceiwadwyr] 528 Pat Matthews [Y Blaid Werdd] 259 Rhys Taylor [Rhyddfrydwyr] 173
Mwyafrif Plaid Cymru: 3,459 Gogwydd Llafur>Plaid Cymru: 24.19% Nifer a bleidleisiodd 24,486 [47.20%]
2
O holl ganlyniadau Cymru, yma yn y Rhondda y cafwyd sioc fwyaf etholiadau'r Cynulliad. Yn groes i bob disgwyl, cipiodd Leanne Wood y sedd oddi ar Lafur gan ddisodli Leighton Andrews, un o weinidogion mwyaf blaenllaw a gweithgar y blaid honno. Mae'n sicr bod y rhesymau dros y fuddugoliaeth yn gymhleth ac yn niferus, ond dyma rai. Yn y lle cyntaf, roedd Leanne yn byw yn yr etholaeth, yn nabod ei phobol ac yn gymeriad hoffus, agosatoch. Yn ail,
Cynllun gan High Street Media
y gloran mai 2016
YN Y RHIFYN HWN Ein Lluniau..1-3 Golygyddol...2 Llythyron...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10r Gavin Jones/ Thomas a’r Dysgwyr..6-7 Yr Athro Lewis/Byd Bob...10 Ysgolion...11-12
cafodd lawer o sylw ar y teledu a gan y wasg adeg yr etholiad cyffredinol. Yn drydydd, roedd ganddi lu o weithwyr brwd a thîm llywio galluog a trefnus oedd wedi deall na fyddai'r Blaid yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau ac o ganlyniad wedi mynd ati i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac i ganfasio o ddrws i ddrws dros fisoedd lawer
ymhob math o dywydd. Gan fod refferendwm Ewrop yn bwrw ei gysgod dros yr etholiad, ac o gofio'r diffyg sylw i wleidyddiaeth Cymru gan y cyfryngau torfol yn gyffredinol, siarad wyneb yn wyneb å'r etholwyr oedd yr unig ateb. Talodd hyn ar ei ganfed.
Roedd David Cameron, wrth fynnu cynnal refferendwm Ewrop mor agos at yr etholiad yn dangos diffyg parch at lywodraeth yr Alban a chynulliadau Cymru a Gogledd Iwerddon. Trwy wneud hyn hefyd, roedd yn rhoi mantais annheg i UKIP gynyddu ei phleidlais gan fod y radio, y teledu a'r wasg yn rhoi cymaint o sylw i bynciau megis mewnfudo a pholisi tramor nad oedd yn
Mae'r her i Leanne hefyd yn anferth wrth iddi arwain Plaid Cymru tra hefyd yn gorfod ymateb i alwadau lu ei hetholwyr. I lwyddo, bydd rhaid iddi gael trefniadaeth effeithlon ar lawr gwlad a chefnogaeth gadarn gan gynghorwyr ac aelodau ei phlaid. Mae Cwm Rhondda, trwy ei hethol, wedi galw am arweiniad a gweledigaeth newydd. Dymunwn bob l lwyddiant iddi wrth iddi wynebu'r her. Gol.
Geraint Davies yn dathlu’r canlyniad
gyfrifoldeb i'r Cynulliad. Ond, er gwaethaf hyn, ychydig iawn o lwyddiant a gafodd UKIP yn yr etholaeth hon.
Wrth ffarwelio å Leighton Andrews, rhaid cydnabod ei gyfraniad ers cael ei ethol gyntaf yn 2003. Ym maes addysg, safodd i fyny dros weithredu mewn ffordd Gymreig er gwaethaf bytheirio Michael Gove. Bu'n
LLYTHYRON
Annwyl Olygydd, Pleser mawr i mi oedd derbyn ôl-rifynnau o’ch Papur Bro Y Gloran, ac un rhifyn yn rhoi ystyron posibl i’r teitl. Dysgais mai cynffon yw Cloran, gair diethr iawn i mi, ac mae’r stori am y merlyn yn colli ei gwt yn ddifyr iawn. Derbyniais y rhifynnau gan Ron Williams, Trealaw, Tonypandy. Arferai Ron a’m gŵr Hywel fynd i’r Clwb Cymraeg pan oedd y ddau yn byw yn Llundain yn y 70au, a Ron yn aelod brwdfrydig o Gôr Cymry Llundain. Ond er fod Ron yn canu’n Gymraeg, Saesneg oedd ei iaith gyntaf. Daeth Ron i’n priodas a bu’n diddannu’r gwesteion yn y parti nos gyda’i lais swynol. Buom yn cyfarfod o dro i dro yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dwy flynedd yn ôl fe ffoniodd Ron tua’r Nadolig a bu’n sgwrs i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers dod yn ôl i fyw yn y Rhondda
gefnogol iawn i'r Gymraeg ym maes addysg, Cymraeg i Oedolion, diwygio'r Eisteddfod Genedlaethol a phapurau bro. Bu'n barod i gymryd penderfyniadau anodd ond yn aml iawn golygai hyn elyniaethu rhai carfanau fel athrawon a chynghorwyr (hyd yn oed llawer o'i blaid ei hun) wrth iddo geisio diwygio addysg ac ad-drefnu llywodraeth leol. Bydd ei golled i'r Blaid Lafur yn fawr, ond mae'n siwr y caiff gyfle i ddefnyddio ei dalent mewn maes arall. Dymunwn yn dda iddo.
mae wedi mynd ati o ddifri i ddysgu’r iaith a mynd i gapel Cymraeg ac mae i’w longyfarch yn fawr. Eleni roedd yn sôn am Y Gloran ac am yr hen dafodiaith, a’r canlyniad oedd iddo anfon copiau o’ch papur bro diddorol i ni. Rydym wedi mwynhau yn fawr y rhaglenni am y Rhondda fu ar S4C yn ddiweddar, yn arbennig rhaglenni Roy Noble. Pob dymuniad da i’r ymgyrch dysgu Cymraeg yn y fro a gobeithio y bydd sawl un yn llwyddo fel mae Ron Williams wedi ei wneud. Margaret a Hywel Roberts, Caernarfon
Annwyl Ddarllenydd, Mae RhCT wrthi’n casglu barn siaradwyr Cymraeg a beth hoffen nhw weld o ran gwasanaethau, gweithgareddau ayyb yn y Gymraeg gan y cyngor, a beth ddylai’r blaenoriaethau hynny fod sy’n cynorthwyo’r sir i lunio strategaeth 5 mlynedd yn 3
hybu’r Gymraeg yn unol gofynion y Safonau. Bydd sesiynau agored galw heibio er mwyn ymgynghori’n mellach, sef: 18fed Mai 3 – 7yh Canolfan Hamdden Sobell 23ain Mai 1.30 – 5.30 yp Canolfan Hamdden Ystrad 25ain Mai 3 – 7 yh Canolfan Hamdden Llantrisant Caroline Murphy Swyddog Iaith Cyngor Rhondda Cynon Taf 01443 744069 / 07717 432 325 Ebost / Email:caroline.m.murphy@rctcbc.gov.uk
Apêl am gyfraniadau i gofio hanes y genedl
Mae’n ganrif ers y Rhyfel Mawr ac mae gymaint o’n treftadaeth heddwch ac effaith y rhyfel ar Gymru eto i’w ddatgelu. Ond ni ddaw’r hanes yma i’r fei oni bai am ymdrechion unigolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol wrth wirfoddoli i ymchwilio a chyflwyno’r hanes. Yn aml ceir gwraidd hanes diddorol yn y papur bro neu gan y gymdeithas hanes lleol. Nawr dychmygwch werth yr ymdrech o gasglu’r holl ymchwil yma ynghyd fel cenedl, gan sicrhau ei fod ar gael yn ddigidol ar ffurf hanesion a delweddau (wedi eu sganio gyda chymorth Casgliad y Werin). Dyma’r ysgogiad tu ôl i brosiect Cymru dros Heddwch. Ond dim ond tair blynedd sydd gennym bellach i gasglu’r holl ‘hanesion cudd’ yma. Hanesion all fod yn gyfarwydd i chi efallai ond, heb gymorth gennych i chwilota ac i rannu, a allai fynd yn angof i’r cenedlaethau i ddod. Gall fod yn hanes 4
effaith rhyfeloedd y ganrif ddiwethaf ar eich cymuned, hanes gwrthwynebwyr cydwybodol lleol, cyfraniad eich bro i ŵyl neu ymgyrch heddwch, ymdrechion mudiadau lleol, neu lenyddiaeth a chelf yn dehongli agweddau o anghydfod/heddwch.gynnwys eich ymchwil yn y darlun mawr cenedlaethol, a fyddech mor garedig a chysylltu â www.cymrudrosheddwch.org neu hannahuws@wcia.org.uk am daflen ‘Hanesion Cudd/Hidden Histories’, neu galwch 01248 672104 os am sgwrs cyn dechrau arni. Cofion Hanna a Ffion Cydlynwyr Cymunedol Cymru dros Heddwch
Injan Y Pentre
Dyma hen lun o Waith Injan Y Pentre a dynnwyd gan un o ffotograffwyr cynnar y Rhondda, Stephen Timothy rywbryd rhwng 1891 ac 1895. Roedd gan Timothy stiwdio yn 155 Heol Ystrad a thynnwyd y llun hwn o gyfeiriad y Maendy. Rydym yn ddyledus i Mr Mike Ash, Pentre am anfon y llun hwn atom. Tybed oes rhywun yn nabod un o'r bobol? Rhowch wybod os oes.
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Mae'r Cyngor yn gwario £1.25 miliwn ar waith cynnal a chadw ar heol y Rhigos. Ar hyn o pryd adnewyddir y system draeniad ac yn yr haf maen nhw'n mynd i ailosod 4 kilometre o'r heol. Felly ym mis Awst bydd yr heol ar gau am tua phythefnos.
Erbyn diwedd yr haf bydd cwmni Vattenfall wedi cwblhau 'r gwaith o gludo bron 1000 o lwythi i'r safleoedd melinau gwynt ar y Rhigos ac mae'r gwaith gosod y tyrbinau wedi dechrau.
Cafodd capel Blaencwm ei fedydd cyntaf am 50 mlynedd eleni. Adnewyddwyd y fedyddfa gan aelodau eglwys Bethel ym Montyclun a bedyddiwyd Tracey Pick o Plas Horeb gan y Parchedig Phil Vickery mewn gwasanaeth arbennig ar ddydd Sul y Pasg. Roedd y capel yn llawn am y bedydd ac roedd pawb wedi aros i gymdeithasu yn y parti bach yn y festri wedyn. Llongyfarchiadau i
Daniel Davies gynt o Dreherbert a'i wraig Medi ar enedigaeth eu mab Gwion. Gwion yw enw nant ym Mlaencwm ac yn enw barddol ei hen dadcu, y diweddar John Haydn Davies, arweinydd Côr Meibion Treorci.
Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Tessa Phillips o Stryd Bute. Am flynyddoedd roedd Tessa'n cadw siop ddillad yn Nhreherbert. Cydymdeimlwn â'i meibion, John ac Alun.
Trist yw cofnodi marwolaeth un o drigolion hyna' Blaenrhondda, Leonard Hudson. Ar ôl gorffen gweithio dan ddaear roedd Mr Hudson yn ofalwr yn hen ysgol Blaenrhondda am nifer o flynyddoedd. Cydymdeimlwn â'i holl deulu yn eu profedigaeth
TREORCI
tLlongyfarchiadau i Mrs Gladys Davies, Llys Glanrhondda ar
ddathlu ei phenblwydd yn 100 oed ddechrau Ebrill. Ganed Mrs Davies yn Nhylecoch ond yn 18 oed aeth i wasanaethu yn Llundain cyn dychwelyd a magu teulu. Derbyniodd garden gan y Frenhines a hefyd oddi wrth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood a'i chynghhorwyr lleol a chael parti i nodi'r achlysur yng nghwmni ei theulu a'i ffrindiau.
Mae'n ddrwg gennym gofnodi marwolaeth Vivian Price, Stryd Regent, gŵr Mary a thad Marc, Ioan ac Alun. Bu Vivian yn gweithio yn ffatri Pollicoff cyn ymuno â'r fyddin a gwasanaethu dramor. Gweithiodd wedyn fel gwneuthurwr offer cyn dioddef afiechyd blin a'i cadwodd yn gaeth i'w gartref am flynyddoedd lawer le y cafodd ymgeledd tyner a gofalus gan ei deulu. Cydymdeimlwn â'i weddw, Mary a'r bechgyn a'u teuluoedd yn eu colled.
Llongyfarchiadau i Helen Thomas, merch Mr a Mrs Philip Roberts, Sŵn yr Afon, ar gael ei phenodi yn Llysgennad er Anrhydedd yng Nghaerdydd i lywodraeth yr Iseldiroedd. Wrth dderbyn y swydd, tyngodd lw o flaen Llysgennad yr
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
Iseldiroedd yn y DU, Simon Smits. Mae Helen yn bartner yn swyddfa'r cwmni cyfreithiol, Eversheds yng Nghaerdydd lle mae'n bennaeth ar yr adran drafnidiaeth ryngwladol a'r grŵp ystadau corfforaethol. Bydd Helen yn un o ddwsin o lysgenhadon er anrhydedd sydd gan yr Iseldiroedd mewn dinasoedd ledled Prydai. Bydd ei gwaith yn cynnwys datblygu rhwydweithiau economaidd rhanbarthol a chynnig help i bobl o'r Iseldiroedd sy'n cael eu hunain mewn trafferth yng Nghymru. Cafwyd hyd i beithon marw yn y llyn ar safle hen bwll glo Tynybedw [Y
PARHAD ar dudalen 8
5
GAVIN JONES - TATW-YDD TON PENTRE Mae stiwdio Gavin Jones 'Black Gold' yn sefyll yng ng-
Corea ac wedyn yn Taiwan. Maes o law, ffeindiodd ei hun
darach, er mwyn ennill profiad, teithiodd i ddinasoedd mor amrywiol â Hamburg, Amsterdam, Llundain a Tokyo - prawf ei fod yn cymryd ei grefft o ddifrif ac yn benderfynol o'i meistroli. Mae Gavin yn berffeithydd sy'n honni bod rhywbeth newydd i'w ddysgu bob dydd a bod rhaid ymroi yn llwyr wrth fwrw prentisiaeth gan sylwi'n fanwl ar bob agwedd ar ddulliau, arferion a bywyd yr athro. Nôl i'r Rhondda
hanol stryd fawr Ton Pentre. Yn wreiddiol o Dreorci, derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gymraeg Ynyswen, a mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Cymer Rhondda lle yr astudiodd gelf ar gyfer Safon A. Roedd ganddo ddiddordeb mewn tynnu lluniau o'i ddyddiau cynnar ac un o'i atgofion cynharaf oedd cael gwers gan ei dad tra ar wyliau yn Great Yarmouth ar sut i dynnu llun alarch. Roedd ei fam hefyd yn alluog mewn crefftwaith a bu hynny, mae'n amlwg, yn ddylanwad ar y mab.
6
Ar ôl cwblhau ei gwrs yn y Cymer, dilynodd Gavin gwrs sylfaen mewn celf yng Nglyntaf cyn symud ymlaen i Brifysgol Stafford. Celfyddyd gain oedd ei brif ddiddordeb, yn enwedig portreadu, a chafodd ei siomi bod pwyslais y cwrs yno ar agweddau eraill o'r maes. Gan nad oedd yn hawdd cael swydd yn ei briod faes, dechreuodd Gavin weithio i British Gas ond ar ôl sbel yno penderfynodd fynd i ddysgu Saesneg fel ail iaith yn Ne
nôl yn Llundain yn byw ymhlith cyfoeswyr oedd yn byw bywydau digyfeiriad a dibwrpas. Awgrymodd cyfaill iddo o Siapan y dylai fynd i'r wlad honno i ddysgu mwy am jiwdo, camp yr ymddiddorai ynddi'n fawr, a dyna sut y cafodd ei hun ymhen amser yn ninas Kyoto. Y Tatŵ Cyntaf
Dysgu Saesneg oedd ei waith, ac yno yn Kyoto y daeth ar draws tatŵs gyntaf. Roedd agwedd y Siapaneaid at tatŵs yn ddiddorol. Dynion tân, troseddwyr ac aelodau o'r maffia yn unig oedd yn eu defnyddio ac o ganlyniad cysylltid tatŵs â phobl ddrwg y dylid eu hosgoi. Ond roedd rhai artistiaid tatŵ arbennig o alluog yn y wlad ac yn Siapan y cafodd Gavin ei datŵ cyntaf. Wrth wylio'r tatwydd yn gweithio, penderfynodd taw dyna roedd e am ei wneud. Dywedodd, "Yr unig ffordd i ddysgu bod yn datwydd yw cael tatŵ eich hun gan arbenigwr a gwylio ei ddull o weithio - a dyna a wnes i." Yn ddiwed-
Yn y pen draw, nôl i Gymru ac i'r Rhondda y daeth Gavin. Mae e'n Gymro i'r carn sy'n ymfalchio yn ei Gymreictod a bellach, oherwydd safon ei waith, mae e'n denu cwsmeriaid o fannau mor bell â gogledd Cymru, Bryste, Stoke a Llundain. Dyw cael tatŵ ddim yn rhad am fod rhaid talu yn ôl yr amser a gymerir i wneud y gwaith. Gallai addurno braich gyfan, er enghraifft gostio cymaint â £3,000. Dywed Gavin, "Mae cyfrifoldeb mawr ynghlwm â fy ngwaith. Wedi'r cyfan, mae'r cwsmer yn benthyg ei groen imi weithio arno a rhaid sicrhau bod fy ngwaith yn gweddu i'w bersonoliaeth. Rhaid sicrhau hefyd y lefel uchaf o lanweithdra. Er bod cael tatŵ yn gallu bod yn boenus, ddylai ddim bod unrhyw sgil-effeithiau drwg. Mae cyfrifoldeb moesol arna' i yn ogystal. Dw i ddim yn barod i weithio ar rai rhannau o'r corff fel yr wyneb a'r gwddf ac rwyf bob amser yn gwrthod gwneud enw person am fod tatŵ yn barhaol tra bod perthynas, yn aml, ond dros dro." Does dim dwywaith nad yw Gavin yn cymryd ei grefft o ddifrif ac yn mabwysiadu'r safonau moesol ac amodau gwaith uchaf posib. Mae e'n haeddu llwyddo a dymunwn iddo bob ffyniant i'r dyfodol.
Thomas Tudor yn Ymweld â Dosbarth Cymraeg Llwynypia Mae’r llun yma yn dangos Thomas Tudor Jones, Rheolwr Cynhorthwyol Neuadd Parc a Dâr, a ddaeth i siarad â’r dosbarth am ei swydd e.
Y bobl eraill yn y llun ydy'r dysgwyr Cymraeg yn eu dosbarth nhw yng Ngholeg Llwynypia gyda'u tiwtor Mrs. Jane Davies. Roedd yn gyfle i Thomas esbonio, fel bachgen o Dreherbert, cymaint roedd e'n hoffi gweithio yn Nhreorci a hefyd pa mor bwysig ydy Neuadd Parc y Dâr ym mywyd diwylliannol y Rhondda.
Yn ychwanegol, wrth gwrs, roedd yn gyfle bendigedig i’r dysgwyr wrando ar siaradwr Cymraeg rhugl.
Mwynheuodd pawb ymweliad Thomas yn fawr iawn! Pat Pearce
(Dosbarth Cymraeg Jane Davies yng nghwmni Thomas Tudor)
Swamp]. Roedd y neidr yn 3 troedfedd o hyd ac yn ôl swyddog yr RSPCA roedd pobl yn honni bod cyrff dwy neidr arall wedi eu gweld yn y llyn hefyd. Fodd bynnag, ni chafwyd hyd iddynt. Perthyn i Africa mae'r nadroedd hyn sy'n gallu tyfu i 5 troedfedd o hyd a byw am 20 - 30 o flynyddoedd. Hyd yn hyn does neb yn gwybod pwy a'u rhoddodd yn y llyn.
Mae Neil Fitzpatrick, cyfansoddwr o Stryd Cardiff, Treorci sy wedi codi dros £26,500 at Ymchwil Cancr Uk gyda'i gân 'Apart' wedi ei enwebu ar restr fer i ymddangos gyda chyn-DJ Radio 1, Mike Read mewn cyfres newydd am gyfansoddwyr caneuon pop gorau Prydain. Mae ei gân a enillodd Gystadleuaeth Caneuon
8
Ryngwladol yn 2014 wedi ei dewis ar restr o 30 ac mae'n gobeitho cyrraedd y 12 olaf a fydd yn cystadlu ar sioe o'r enw Tin Pan Alley. Mae'r gân, a gyfansoddwyd gan Neil ar ôl i'w dad farw o ganser, hefyd wedi ei dewis ar gyfer Gŵyl South by South West yn Austin, Texas, un o wyliau mwyaf America sy'n denu dros 4000,000 o bobl. Dywedodd Rachel Speight-McGregor ar ran Cancer UK, "Mewn ychydig dan ddwy flynedd, mae Neil wedi codi dros £26,000 gyda'i gân ryfeddol, 'Apart' "
Ar ôl gwasanaethu ardal eang o flaenau'r Rhondda Fawr am lawer o flynyddoedd, trist yw gweld bod Banc H.S.B.C wedi cau a bod yr adeilad ar werth. Bellach does dim un gangen o H.S.B.C ar ôl yn y
Rhondda a bydd rhaid i gwsmeriaid deithio naill ai i Bontypridd neu Talbot Green i wneud unrhyw fusnes dros y cownter. (gweler’r llun ar y clawr)
CWMPARC
Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Catrin Purnell, Parc Road, a gafodd ddamwain ar safle'r 'tai wedi'u bomio', yn Parc Road. Roedd Catrin yn chwarae ar y glaswellt pan gamodd hi ar wydr. Cafodd hi driniaeth lwyddianus yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i dynnu'r gwydr ac mae hi'n gobeithio mynd yn ôl i'r ysgol cyn bo hir. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio'r bin sbwriel i waredu defnyddiau peryglus.
Llongyfarchiadau i Helen Harding a Ken Johnson, Ffordd Conway a briododd ar 29 Ebrill yn Nhŷ Bedwellte, Tredegar. Mae Ken, sy'n dysgu'r Gymraeg, yn dod o Durham yn wreiddiol, ac mae Helen yn dod o Sir Efrog. Maen nhw wedi bod yn Nghwmparc ers 3 blynedd. Dymuniadau gorau iddynt! Torrwyd y coed yn Stryd Tallis ar ddi-
wedd mis Ebrill. Gwnaethpwyd y gwaith dros ddau ddiwrnod, a chafodd plant yr ysgol hwyl a sbri yn y blawd llif!
Y PENTRE
Da oedd cael cyfle i groesawu'r Dr Anne Brooke yn ôl i'r ardal o Norfolk, Virginia ar ôl bwlch o ddwy flynedd. Gwelsom eisiau ei chyfraniadau cyson i'r Gloran a mawr yw ein diolch iddi am ei chyfraniad y mis hwn. Pob dymuniad da iddi wrth iddi droi a m adre eto cyn bo hir. [Gol.]
Roedd pen uchaf y Rhondda Fawr newydd golli tair
BYD BOB
Mae pobl yn dweud, 'Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun" ac rwy'n siwr bod hynny'n wir. Pan dwi'n gweld Tom
llyfrgel, canolfannau dydd a phwll nofio pan es i adre' i Virginia ddwy flynedd yn ôl trychineb enfawr inni i gyd. Ond wele! Beth ges i wrth gyrraedd yn ôl ond Canolfan newydd sbon ar Stryd Llywelyn sy'n cynnig llond y lle o weithgareddau i bobl o bob oed a hefyd yn sôn am drefnu llyfrgell arall cyn bo hir - gwaith gwyrthiol yn unman aral, ond dim ond i'w ddisgwyl ymhlith Gwŷr y Gloran! Ac wedyn, dyna ein Siop Gymuned ar Stryd Llywelyn gwyrth arall. Yn ystod y pedwar mis diwethaf, cyflwynwyd ei grantiau i amrywiaeth
Jones yn perfformio ar y teledu, rwy'n meddwl am y nifer o bobl sy wedi dweud wrtho i, "Fe ddaeth Tom Jones i ganu yn ein clwb ni pan oedd yn ei arddegau. Roedd e mor wael fel bod rhaid iddo roi'r ffidl yn y to ar ôl ei gân gyntaf."
Rydych chi'n gallu clywed yr un stori am Tom ym mhob clwb yn y cwm. Ac od ydych chi'n sôn am chwaraewr rygbi neu bêl-droed lleolsy wedi ennill cap rhyng-
o achosion teilwng, yn cynnwys Ysgol Gynradd y Parc, cylch meithrin Dylan's Den, World of Words, Clwb Rygbi Treorci ac adnewyddu tri chapel. Yn ôl y rheolwr, Gerda Becker, gall maint y grantiau amrywio o £100 - £300 a chodi i £500 mewn achosion eithriadol Dylech alw heibio i weld yr holl nwyddau braf sydd ar werth hefyd. A llyfrau i blant - Cymraeg a Saesneg yn rhad ac am ddim dyna ichi fargen.
TON PENTRE A’R GELLIT
Cafwyd gwledd o gerddoriaeth a dawnsio unwaith eto yn theatr y Ffeics pan berfformiwyd y sioe adnabyddus 'Wisard of Oz' gan gwmni pl ifainc Act 1. Dyma'r 19fed sioe i'r cwmni hwn ei pherfformio ac roedd aelodau'r cast i gyd o dan 18 oed. mae llawer o'r llwyddiant i'w briodoli i Rhys Williams a Peter Radmore a sefydlodd y cwmni yn 2008. Dymunwn iddynt bob ll-
wladol, fe fydd rhywun yn siwr o ddweud, "O, roedd e'n eitha' da, ond roedd ei frawd, Dai, yn well byth. Ond doedd Dai ddim yn uchelgeisiol."
A beth am y dyn busnes sy wedi ennill miliwn ac ... "O, roeddwn i yn yr un dosbarth â fe yn yr ysgol. Roedd e'n benwan. Doedd dim siap arno fe!" Y dydd o'r blaen, roeddwn i'n gwrando ar ar y
wyddiant i'r dyfodol.
Roedd yn ddrwg gennym dderbyn y newyddion am farwolaeth Miss Dorothy Bennett, Stryd Dewi Sant. Ar derbyn ei haddysg gynnar yn Ysgol Ton ac Ysgol y Merched, y Porth, aeth Dorothy ymlaen i ymgymhwyso'n athrawes yng ngholeg Fishponds, Bryste. Dychwelodd i'r Rhondda ar ôl cyfnod yn dysgu yn Llundain a bu'n athrawes yn Ysgol Gynradd Trealaw am rai blynyddoedd. Roedd hi'n hoff iawn o deithio ac ymwelodd hi a'i diweddar chwaer, Marion â gwledydd amrywiolar draws ypum cyfandir. Roedd yn aelod ffyddlon yn Hermon, Treorci lle y cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddi o dan arweiniad y Parch Cyril Llewelyn a'r Tad Haydn. Daeth cynulleidfa luosog ynghyd yng nghapel Hope, Y Gelli'n ddiweddar pan gafodd tri aelod newydd eu bedyddio.
rhaglen, 'A Point of View' ar Radio 4. Roedd menyw yn sôn am y dydd yn 1954 pan redodd Roger Bannister y filltir mewn pedair munud am y tro cyntaf a thorri record y byd gyda help dau o'i ffrindiau, Chris Chataway a Chris Brasher oedd yn rhedeg yn y ras gyda fe. Rwy'n cofio gweld y ras ar Pathé News yn y sinema wythnos nwu
drosodd
9
Yr Athro Ceri W. Lewis yn 1979 cafodd ei benodi'n Athro Gymraeg ac yn Bennaeth Adran yng Nghaedydd.
Gwasanaethu'r Brifysgol
Ar 30 Ebrill, yn 89 oed, bu farw'r Athro Ceri Lewis yng nghartref ei fab, Huw yng Nghaeredin ddydd. Ganed Ceri yn Nhreorci, yn fab i löwr, ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Porth cyn mynd ymlaen i Goleg y Brifysgol, Caerdydd lle y graddiodd yn uchel mewn Cymraeg a hanes. Cyn mynd i'r coleg bu, rhwng 1944 - 48, yn un o 'fechgyn Bevin' yn gweithio dan ddaear ym mhwll glo'r Parc. Yn 1953, wedi iddo raddio, cafodd ei benodi'n Ddarithydd Cynorthwyol yn adrannau Cymraeg a Hanes Prifysgol Caerdydd cyn symud ymlaen yn ddiweddarach i fod yn Ddarlithydd llawn yn Adran y Gymraeg. Fe'i dyrchafwyd yn Uwchddarlithydd yn 1965 ac yn Ddarllenydd yn 1973. Yn 1976, dyfarnwyd iddo Gadair Bersonol gan Brifysgol Cymru ac
BYD BOBparhad
bythefnos yn hwyrach. Rwy'n cofio hefyd gyffro a balchder Prydain am fod un o'n pobl ifanc yn sefyll ar ben byd mabolgampau. Roedd y fenyw oedd yn mynegi ei barn ar 'A Point of View' yn rhy ifanc i gofio'r dyddiau 'na, ond roedd hi'n awyddus i feirniadu Bannister a'i ffrindiau am fod gyda 10
nhw fanteision yn eu bywydau. Roedden nhw'n astudio yng Nghaergrawnt tra bod un o'r cystadleuwyr eraill yn gweithio mewn ffatri yn Derby. Ar ôl y ras, dywedodd y fenyw bod rhaid i'r bachgen o Derby, oedd wedi colli, fynd adref ar ei ben ei hun ar y trên, ond aeth y tri myfyriwr i Lundain, 'siwr o fod i ddatlu ac yfed
Gwasanaethodd Ceri Brifysgol Cymru mewn sawl maes. Bu'n aelod o'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd am dros ddeugain mlynedd gan weithredu'n Gadeirydd ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Iaith a Llên, yn Gadeirydd Bwrdd Golygyddol y Geiriadur, yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor Termau Technegol ac yn Ysgrifennydd Is-bwyllgor yr Orgraff ac yn Olygydd y cylchgrawn academaidd, Llên Cymru. Cafodd ei ethol yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafieithwyr [F.S.A] ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanes Frenhinol [F.R.Hist.S]. Yn ogystal, Cyhoeddodd lawer o erthyglau, adolygiadau a llyfrau yn ymwneud â'i iaith Gymraeg a'i llên gan gynnwys astudiaeth o waith Iolo Morgannwg a enillodd iddo Wobr Syr Ellis Griffith.
Er taw yng Nghaerdydd y gweithiodd trwy gydol ei yrfa, mynnodd fyw yn Nhreorci gan deithio'n ddyddiol i'w waith ar y trên. Bu ei ddiweddar wraig, Sali, yn gefn iddo yn ei holl ymdrechion a gofalodd ei fab, Huw, yn dyner amdano yn ystod ei flynyddoedd olaf. Diolchwn i Ceri am ei gyfraniad i'r Gymraeg yn genedlaethol ac yn lleol a chydymdeimlwn yn gywir iawn â Huw yn ei brofedigaeth. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Hermon, Treorci, ddydd Llun, 16 Mai o dan ofal y Parch Cyril Llewelyn a chymerwyd rhan hefyd gan gyn-ddisgyblion i Ceri sef yr Athro Ceri Davies, Abertawe a'r Athro John Gwynfor Jones, Caerdydd
siampên trwy'r nos."
Rydw i wedi darllen yn rhywle arall bod Roger Bannister wedi gorfod troi lan a gweithio fel meddyg dan hyfforddiant yn yr ysbyty yng Nghaergrawnt drannoeth. Rwy'n siwr hefyd nad oedd e wedi torri record y byd trwy yfed siampên. Fe aeth ei gydfyfyrwyr chataway a
Brasher ymlaen i dorri recordiau hefyd a chael gyrfaoedd campus ar y trac. Fydda' i byth yn anghofio eu henwau nhw.
Gyda llaw, rydw i wedi anghofio enw'r fenyw ar 'A Point of View' yn barod.
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
SEREN – Seren y Cae!
Llongyfarchiadau mawr i’r bêl-droedwraig Seren Farrup, o Flwyddyn 10, ar ennill ei chap cyntaf i Gymru. Roedd ei gêm ryngwladol gyntaf yn un gofiadwy iawn iddi – yn enwedig wrth iddynt ennill 5-0 yn erbyn Lloegr. Ry’n ni’n falch iawn ohonot, Seren!
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
LLONGYFARCHIADAU I OSIAN A BETHAN
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion Blwyddyn 11, Osian Poulton a Bethan Richards, ar gael eu henwebu'n Merch a Bachgen y Flwddyn yn ystod gwasanaeth dathlu Blwyddyn 11 yr wythnos hon! Mae'r ddau yn llwyr haeddu'r gydnabyddiaeth a'n diolch am eu brwdfrydedd a'u gwaith caled. Llongyfarchiadau mawr i chi a phob lwc i bawb yn eu harholiadau dros yr wythnosau nesaf.
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
11
Balchder Bodringallt
Hwyl, Sbri a Llwyddiant ar y Meysydd Chwaraeon
Cafwyd amser prysur a llwyddiannus iawn gan ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 ein hysgol yng Nghystadlaethau Chwaraeon yr Urdd a Rygbi Rhondda yn ddiweddar.
‘Ar ddydd Mercher y 20fed o Ebrill enillon ni dwrnamaint Pêl droed yr Urdd ar gyfer ysgolion y Cymoedd. Chwaraeon ni Ysgol Treorci yn y rownd derfynol. Chwaraeon ni yn arbennig o dda ac ennill 3 - 0. O ganlyniad byddwn yn cynrychioli ardal y Cymoedd yn rownd derfynol Pêl Droed yr Urdd yn Aberystwyth ym mis Mai.’ (Joseff Haig)
‘Yn ddiweddar chwaraeon ni yng nghystadleuaeth Rygbi’r Urdd a chystadleuaeth Rygbi’r Rhondda. Curon ni sawl tîm i gyrraedd y rowndiau terfynol yn y ddwy gystadleuaeth, ond yn anffodus collon ni’r ddau ffeinal. Serch hyn cafwyd llawer o hwyl ac rydym yn falch iawn o’n hymdrechion.’ (Cian Ashford)
Cywaith Celf Arbennig – Mosaic Mawreddog
Trwy gydol mis Ebrill bu i ni ddisgyblion Bodringallt gweithio’n frwd i gynllunio a chreu cywaith celf arbennig sy’n olrhain treftadaeth ein Cwm a hanes ein hysgol a’n hoff weithgareddau yn ein hysgol. Mae’r Mosaic mewn tri rhan a phob rhan yn ystyried cyfnod mewn amser: Gwaith yn y pwll glo; Yr ysgol ddoe a heddiw; ac ein Hoff weithgareddau. Cafwyd llawer o hwyl a dysgon ni lawer wrth gynllunio a chreu'r Mosaic sydd wedi lleoli ar wal yn iard yr ysgol. Hoffwn ni ddisgyblion yr ysgol diolch i Mr Mosaic a helpodd ni i greu y campwaith. (Y Cyngor Ysgol) 12