y gloran YSGOL Y PENTRE I GAU?
Cafodd pawb eu syfrdanu a'u siomi gan y newyddion bod Cabinet
Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ystyried cau'r ysgol gynradd leol a
throsglwyddo'r holl ddisgyblion i Ysgol Gynradd Treorci. Y rhesymau a roddir dros hyn yw'r gostyngiad yn nifer y disgyblion a chyflwr gwael yr adeilad a agorwyd yn 1874. Hon bellach yw'r ail ysgol hynaf yn y fwrdeistref. Mae'r penderfyniad hwn yn rhan o'r ymgyrch i gael llai o lefydd gwag mewn ysgolion trwy gau ysgolion bach fel y gwnaed yn barod yng Nghwm Clydach, Y Maerdy, Penrhiwfer ac Ynyshir. Ar hyn o bryd mae 73 o blant yn mynychu Ysgol
20c y Pentre ynghyd â 15 yn yr adran feithrin- a hynny mewn ysgol all 230 o ddisgyblion. Golyga hyn fod 63.9% o lefydd gwag y ganran uchaf yn y sir. Dadleuir bod 41 o blant sy'n byw yn nalgylch Ysgol y Pentre yn dewis mynd i Dreorci yn barod. Pan gynhaliwyd arolwg yn Y Pentre yn 2010, fe'i cafwyd yn brin gan y corff arolygu, Estyn. Pan ddychwelodd yr arolygwyr yn 2011 penderfynwyd nad oedd yr ysgol
Parhad ar dud 3
Mae antur yn aros amdanoch… Dewch i ddarganfod traethau ysblennydd, teithiau cerdded hyfryd a rhaglen weithgareddau yn llawn cyffro. Neu ymwelwch ag un o’n hatyniadau gwych i’r teulu cyfan: teithiwch yn ôl mewn amser a darganfod eich rhyfelwr mewnol yng Nghastell Henllys, ymunwch â’r hwyl ganoloesol yng Nghastell Caeriw, neu manteisiwch ar gyfle i fod yn artist yn Oriel y Parc. Cewch fwy o wybodaeth ar www.arfordirpenfro.org.uk.
Ymwelwch â’n stondin yn Eisteddfod yr Urdd i ddarganfod diwrnod allan gwych.
golygyddol l
y gloran
mai 2013
YN Y RHIFYN HWN
MELINAU GWYNT A'R GYMUNED
Mae pwnc melinau gwynt, yn ddiamau, yn un llosg. Bydd rhai yn honni eu bod yn ddrud, yn hyll ac yn aneffeithiol tra bo eraill o'r farn eu bod yn rhan hanfodol o'r ateb i'r cynhesu bydeang sy'n ein bygwth. Beth bynnag yw ein barn amdanynt, maen nhw yma ac mae'r cwmniau sy'n berchen arnynt yn dweud eu bod am helpu'r gymdeithas leol trwy gyfrwng eu cronfeydd ariannol cymunedol. Wrth i Gyngor Rhondda Cynon Taf ystyried ceisiadau cynllunio fesul un, mae perygl ein bod yn diystyrru'r darlun cyfan. Felly, beth yw'r sefyllfa ym mlaenau'r Rhondda? Hyd yma, codwyd 8 twrbein 76m o uchder ar Fynydd Tyntyle, Ystrad Rhondda, 8 sy'n 145m o uchder uwchben y Fforch, Treorci a maes o law bydd 76 o'r un uchder yn cael eu codi ar safle Pen y Cymoedd uwchben Blaenrhondda a Blaenycwm ynghyd â 9 ychydig yn llai ar Fynydd y Bwllfa gerllaw. Deallwn y bydd cais am 3 ychwanegol yn ymyl rhai'r Fforch yn cael ei gyflwyno cyn bo hir. Dyna gyfanswm o 104 ar dir RhCT heb sôn am y rhai ychydig y tu fa's i ffiniau'r fwrdeisdref 2
Ysgol Y Pentre i Gau?...1 Golygyddol..2 Darganfyddiad o Bwys...3 Llwyddiant Côr y Cwm -4
a fydd yn ymestyn draw i gyfeiriad Cwm Afan. Er bod llawer yn cytuno y dylem dderbyn ein cyfran o gyfrifoldeb am gynhyrchu ynni ad-
ohonynt. Mewnforir y tyrau a'r llafnau o'r cyfandir ac felly ychydig iawn o fudd a gaiff unrhyw fusnesau o Gymru. Yn
newyddol, teimlent ar yr un pryd ein bod wedi cael mwy na'n siâr deg. Yr ail gŵyn a glywir yw bod y cwmniau sy'n berchen ar y ffermydd yn gwneud elw mawr iawn ac eto ond yn rhoi ychydig iawn yn ôl i'r cymunedau sy'n gorfod dygymod â nhw. Er bod rhai o'r cronfeydd cymunedol yn ymddangos yn hael iawn ar yr wyneb, cynrychiolant ran fach y unig o'r elw a wneir gan gwmniau nad oes ganddynt gysylltiad â'r ardal. Yn wir, cwmniau tramor yw llawer
fyllfa debyg gyda'r diogystal, daw'r iswydiant glo yn y ganrif gontractwyr â'u pobl eu ddiwethaf pan gymerhunain i ymgymryd â'r wyd y deunydd crai, gwaith, ac o ganlyniad ni chreir swyddi i bobl leol. gadael y sbwriel a'r Er enghraifft, mae llawer iawn o'r gweithwyr ar safle'r Fforch ar hyn o bryd yn hanu o'r Alban. Efallai bod y ffermydd gwynt yn enghraifft bellach o bobl a thir Cymru'n cael Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison eu hecgyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru spoitio a'r Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN elw yn mynd allan o'r ardal. Oni welsom se-
Newyddion Lleol...5-9 Y Gornel Iaith ...9 Cân yr Adeilad...10 Ysgolion..11-12
DARGYNFYDDIAD O BWYS
Wrth fynd ati i osod sylfeini ar gyfer twrbeini gwynt ar y mynydd uwchben Fferm y Fforch, Treorci, darganfyddwyd darn o bren hynod wedi ei gladdu yn y mawn. Oherwydd pwysigrwydd archeolegol pen y mynydd roedd yn ofynnol i Sgurr Energy, y cwmni sy'n ymgymryd â gwaith codi Fferm Wynt y Maerdy gyflogi archeolegydd. Richard Jones yw'r per-
Golygyddol parhad
afiechydon a chymryd yr elw? Efallai y dylem fod wedi rhagweld y canlyniadau ac o gael melinau gwynt o'n cwmpas, sicrhau bod gennym reolaeth arnynt
son hwnnw a phan ddaeth un o'r gweithwyr y darn o bren iddo, synhwyrodd ei fod yn ddiddorol er nad oedd ganddo lawer o syniad o'i oed. Cafodd dipyn o sioc felly pan gafodd adroddiad o Gaer Efrog [York] lle y cafodd y pren ei anfon i'w ddyddio ei fod dros 6,000 oed a'i fod, yn ôl pob tebyg yn arwyddbost yn dynodi ffiniau tiriogaeth llwyth oedd yn byw ar
a'r holl elw yn aros o fewn y gymuned leol. Ond synnwyr trannoeth yw hynny, a rhaid bodloni bellach ar y briwsion a gynigir inni. Golygydd
ben y mynydd yn ystod y cyfnod pellenig hwnnw. Credir ar hyn o bryd bod y patrymau sydd wedi eu cerfio ar y postyn wedi eu gwneud gan berson yn hytrach na'u bod wedi digwydd oherwydd prosesau naturiol yn y ddaear, ond rhaid aros am yr adroddiad terfynol cyn y bydd sicrwydd. Os yw'r wybodaeth sydd i lawn yn gywir, golygir bod y postyn hwn yn hŷn na
phiramidiau'r Aifft a bod i'r darganfyddiad arwyddocad rhyngwladol. Er bod pawb yn synnu at hyn, efallai na ddylent o gofio am yr holl fflintiau a phennau bwyeill y cafwyd hyd iddynt pan blannwyd coed ar y mynydd flynyddoedd lawer yn ôl a bod celc hynod Llyn Fawr wedi ei ddarganfod nid nepell o'r fan hon.
YSGOL Y PENTRE I GAU?parhad
wedi gwneud cynnydd digonol ond erbyn 2012 cafwyd bod pethau'n gwella o dan arweiniad prifathrawes newydd. Y tro diwethaf i Dreorci gael arolwg oedd 2008 pryd yr oedd yn foddhaol.. Gwelliannau i Ysgol Treorci Er mwyn darparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y disgyblion bydd gofyn codi adeilad newydd yn Nhreorci ar gyfer 120 o blant ac addasu'r prif adeilad yn ogystal am gost o £1.5 miliwn. Gofid rhieni yno yw bydd hyn o raid yn cwtogi ar yr iard chwarae ac yn golygu colli dosbarth yn yr hen adeilad. Rhagwelir y bydd 407 o blant yn Nhreorci erbyn 2017. Gan fod y rhan fwyaf o'r Pentre o fewn 1.5 milltir i ysgo Treorci ni ragwelir y bydd rhaid i'r sir dalu am gludo llawer o blant i'r ysgol. Bydd RhCT y ymgynghori â'r cyhoedd rhwng 7 Mai - 21 Mehefin, 2013 ac adroddir nôl i'r cabinet ym mis Gorffennaf. Os derbynia'r cabinet yr argymhellion, cyhoeddir yr Hysbysiadau Statudol ym mis Medi ac am fis bydd hawl gan y cyhoedd i wrthwynebu neu gynnig sylwadau. Y cynnig fydd i gau Ysgol y Pentre 31 Awst, 2014 a'r plant yn cael eu trosglwyddo i Dreorci ar 1 Medi. Os bydd gwrthwynebiad, trosglwyddir yr achos i Lywodraeth Cymru i'w benderfynu. Gwelir y penderfyniad yn ergyd drom i gymuned y Pentre sydd eisoes wedi colli llu o gyfleusterau gan gynnwys y Swyddfa Bost, sinema, tafarnau, clybiau, capeli a Banc HSBC. Mae'n anodd gweld sut mae penderfyniad o'r fath yn dderbyniol i Gyngor sy'n honni yn ei Gynllun Datblgu Lleol ei fod am gadw cymunedau hyfyw ym mlaenau'r cymoedd. 3
LLWYDDIANT YSGUBOL CÔR Y CWM
Llongyfarchiadau calonnog i Gôr y Cwm ar ei lwyddiant yng nghystadleuaeth S4C 'Côr Cymru'. Cystadleuaeth yw hon a rennir yn adrannau corau merched, corau meibion, corau plant etc. a'r buddugol ym mhob adran yn cystadlu am wobr o £4,000 yn y rownd derfynol. Côr Iau Glanaethwy, Bangor oedd yn fuddugol yn adran corau plant ond gwnaeth Côr y Cwm gymaint o argraff nes i'r beirniaid fynnu eu bod yn ymdangos yn y rownd derfynol. O ganlyniad, cafwyd 6 o gorau yn hytrach na 5 yn ymgiprys am y brif wobr , sef CF1 [Caerdydd], Glanaethwy, Côr 4
Meibion y Rhos, Côr Męrched y Wiber [Ceredigion], Côr Aelwyd y Waun Ddyfal [Caerdydd] a Chôr y Cwm. Daw aelodau Côr y Cwm yn bennaf o Ysgol Gyfun Cymer Rhondda ynghyd â rhai aelodau o Ysgol Gyfun Treorci ac Ysgol Gynradd Llwyncelyn. Yr arweinydd yw Elin Llywelyn-Williams, sy'n athrawes yn Ysgol Gymraeg Bodringallt ac aelod o staff Llwyncelyn, Gafin Ashcroft yw'r cyfeilydd. Cynhaliwyd y rownd derfynol yng Nghanolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth ac aeth llawer o gefnogwyr y côr yno i ddangos eu hochr. Roedd tri beir-
niad o statws rhyngwladol yn tafoli'r corau, sef Andre van de Merwe, De'r Affrig, côrfeistr Cadeirlan St Paul's, Llundain, Dr Barry Rose a'r Gymraes fu'n arwain y BBC Singers a Chôr Menteverdi, Katie Thomas. Cafwyd canu ysbrydoledig gan bo un o'r corau. Ym marn y beirniaid answyddogol ar y teledu, Caryl Parry Jones a'r cyfansoddwr, Gareth Glyn, CF1 ddylai fod wedi ennill, er i Caryl ddweud bod ei chalon yn tueddu at Gôr y Cwm. Yn ogystal â'r dyfarniad swyddogol, roedd gan wylwyr S4C gyfle i bleidleisio dros eu ffefrynau. Er syndod i rai Côr Merched yWiber gipiodd
y brif wobr, ond er mawr foddhad i blant y Rhondda, y nhw gafodd gefnogaeth y gwylwyr. O ganlyniad, derbynion nhw wobr o £400 ynghyd â thlws. Ar ôl wythnosau o waith caled a chyffro felly, dychwelodd aelodau Côr y Cwm i'r Rhondda'n flinedig ond yn hynod o fodlon a hapus eu bod wedi derbyn cymaint o glod mewn cystadleuaeth o safon mor uchel. Gallwn ni i gyd fod yn falch iawn o'u camp a'u llongyfarch ar eu llwyddiant. Deallwn y bydd y côr yn cyhoeddi CD yn y dyfodol agos. Bachwch un - cewch chi fodd i fyw yn gwrando arnynt.
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Ar Ebrill 3ydd lawnsiwd y corff cyfun newydd Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mhrosiect Penyrenglyn Stryd Corbett, Treherbert. Mae’r corff newydd yn dod â'r Commisiwn Coedwigaeth. Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru at ei gilydd I sicrhau fod adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal. eu gwella a’u defyddio'n gynaliadwy. Anerchwyd y cyfarfod gan Alun Davies, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Llywodraeth Cymru a ddywedodd"Mae'r amgylchedd naturiol yn hanfodol i'n heconomi yma yng Nghymru, felly mae'n hollbwysig y caiff ei reoli yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posib. Ychwanegodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru,“Byddwn hefyd yn dechrau ailffurfio’r gwaith rydym yn ei wneud gydag agwedd ffres a chyfeiriad newydd – i gael yr amgylchedd i wneud rhagor i bobl, i economi ac i fywyd gwyllt Cymru." Siaradodd Ceri Nicholas o Brosiect Penyrenglyn am y gwahonol gweithgareddau amgylcheddol
sydd yn cael eu cynnal yn ardal Treherbert. Pwysleisiodd eu bod nid yn unig wedi gwella’r amgylchedd ond hefyd ffitrwydd ac iechyd y bobol leol sydd wedi cymryd rhan. Y gobaith I bobol leol yw ybydd ein hamgylchedd anhygoel ym mhen uchaf Cwm Rhondda yn gallu adnewyddu ein ardal a chreu swyddi sydd mor brin ar hyn o bryd. Dros yr wythnosau diwethaf, achoswyd llawer o drafferth i drigolion yr ardal gan ddefaid yn crwydro o gwmpas y strydoedd ar ôl dianc o'u cartref ar hen safle pwll Fernhill. Mae eu perchennog, Gordon Hill yn awyddus i'w gwerthu, ond yn y cyfamser bu rhaid gohirio gêm bêldroed ar Barc Blaenrhondda er mwyn cael gwared ar faw defaid cyn dechrau. Cafodd rhai eu dal a'u corlannu gan swyddogion y Cyngor, ond maen nhw'n dal i fod yn niwsans i bobl yr ardal. Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Colin Smith, Stryd y Capel, Blaencwm. Roedd Colin yn adnabyddus am gadw colomennod a'u rasio. Cynhaliwyd ei
wasanaeth angladdol yng Nghapel Blaen-y-cwm o dan ofal y Parch Davod Brownnutt. Cydymdeimlwn â'i weddw, Ruby, a'r teulu oll yn eu colled. Llongyfarchiadau i Steffan Davies, Clos St Mary ar gael ei benodi i swydd ymchwilydd gyda'r BBC ym Mangor. Bydd Steffan yn graddio o Aberystwyth eleni. Pob dymuniad da iddo i'r dyfodol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf gweddnewidiwyd Stryd Bute. Adnewyddwyd wyneb yr hewl ac mae'r gwaith o symud y mannau croesi a'r safle bysys wedi ei gwblhau. Mae pawb yn falch o weld bod y safleoedd parcio wedi ei dynodi'n fwy clir.. Yn sydyn iawn, bu farw Mrs Gwenda Culverhouse, Stryd Dumfries, un o aelodau amlycaf Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg. Gwelir ei heisiau'n fawr mewn sawl cylch. Cofiwn am ei gŵr, Graham a'i merched Ann ac Enfys yn eu hiraeth
TREORCI
Bu farw Mrs Yvonne Hopkins, Stryd Dumfries ganol mis Mawrth. Roedd Yvonne yn wraig
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN fusnes yn y dre, yn berchen ar y Laundrette yn Stryd Bute. Roedd Yvonne yn Gymraes frwd oedd wedi mynd ati i ddysgu'r iaith yn oedolyn ac yn gefnogol i bopeth yn gysylltedig â Chymru. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu profedigaeth. Nos Iau, 21 Mawrth cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil i Gancer UK Treorci noson Datrys Llofruddiaeth lwyddiannus iawn yn nhafarn y RAFA yng nghwmni rhai o actorion Players Anonymous. llwyddwyd i godi swm sylweddol o arian at yr achos teilwng hwn. Llongyfarchiadau i Anna Brown, Stryd Regent ar ddod yn fam-gu a hefyd i'w merch, Victoria a'i gŵr, John ar enedigaeth
5
eu plentyn cyntaf, merch fach, Amy Evan. Mae'r teulu ifanc yn byw yn Bournemouth lle bu Victoria'n gweithio ers blynyddoedd lawer. Yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr, bu farw Donald Rees, Stryd Regent. Derbyniodd bob gofal gan ei wraig, Betty a'i fab, Anthony. Roedd ef a'i wraig yn aelodau yn Hermon. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu profedigaeth. Daeth cynulleidfa luosog ynghyd yn Hermon, brynhawn Sul, 14 Ebrill pan fedyddiwyd Olivia Grace, merch Amy a Christopher Jones, Stryd Dumries mewn gwasanaeth dan ofal y Parch Cyril Llewelyn. Y darlledwr poblogaidd o Don Pentre, Dewi
6
Griffiths fydd y gŵr gwadd yn Noson Caws a Gwin Pwyllgor Ymchwil i Gancr a gynhelir yn Neuadd Sant Matthew, nos Iau 23 Mai. Pris y tocynnaU yw £5 gyda'r elw yn mynd i Cancer Reseach UK. Tristoedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mr Haydn Erasmus, Stryd Dumfries un o hoelion wyth Côr Meibion Treorci gynt. Cyrhaeddodd Haydn oedran teg ar ôl byw bywyd llawn. Canodd y Côr Meibion yn ei wasanaeth angladdol ym Methlehem. Gydymdeimlwn â'i wraig Jean, ei unig ferch, Julia, a'r teulu oll yn eu hiraeth. Cafodd pawb sioc o dderbyn y newyddion
am farwolaeth sydyn Mrs Margaret Wilkins, Styd Regent. Roedd Margaret yn aelod selog o'r WI a Chymdeithas yr Henoed a gwelir ei heisiau'n fawr yn y cylchoedd hynny. Cydymdeimlwn â'i mab. Robert a'r teulu ac â Peter a Marilyn, Stryd Rees, ei brawd a'i chwaer yng nghyfraith. Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Mrs Myra Davies, Stryd Bute, sydd wedi derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar. Cofiwn hefyd am Mrs Clarice Lewis, Stryd Senghennydd ac Elwyn Lewis, Woodland Vale sydd hefyd wedi bod yn yr ysbyty'n ddiweddar. Eleni, cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol WI'r ran-
barth ym Mhorthcawl ac aeth nifer o aelodau o'r gangen leol yno i fwynhau'r achlysur. Y siaradwr gwadd oedd Adam Hanson, y ffermwr adnabyddus o'r Corswolds. Siaradodd am ei waith ar y fferm y magu mathau prin o dda ac o foch. Cafwyd hefyd beth o'i hanes yn gyflwynydd ar y rhaglen deledu boblogaidd, Country File. Cafodd pawb ddiwrnod pleserus a buddiol. Y siaradwr yng nghfarfod mis Ebrill o Gymdeithas yr Henoed oedd y cyn-ŵr busnes lleol, Mario Bassini a draddododd sgwrs ddiddorol ar hanes ei deulu a ymfudodd o Bardi yn yr Eidal i Dreorci ac ymsefydlu yma.
Pob dymuniad da i Andrea Griffiths, Stryd Stuart sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Llandocahau. Brysiwch i wella, medd eich holl ffrindiau. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Dewi Morgan, Stryd Trevor. Bu am gyfnod yng nghartref Ystradfechan ar ôl dioddef cystudd hir.Cofiwn am ei unig ferch, Ann a'r teulu oll yn eu hiraeth. Cydymdeimlwn hefyd â theulu Maldwyn Sampson oedd yn cadw siop yn Stryd Bute ac a fu farw'n ddiweddar. Pob dymuniad da i Mr Albert Stubbs, Stryd Dumfries gynt a oedd y dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed ar 14 Mai. Bu Abert yn gweithio i Gwmni'r Ocean a hefyd gyda'r llu awyr yn Sain
Tathan. Gobeithio y caiff ddiwrnod i'w gofio a phob cysur i'r dyfodol. CWMPARC
CWMPARC
Estynnwn bob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Mrs Lillian Evans, Stryd Tallis a Mrs Pat Rees, Heol Chepstow sydd ill dwy wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty'n ddiweddar.
Mae India White, Stryd Tallis,(y baban sy'n dioddef o aplastic anaemia), wedi derbyn newyddion da. Maen nhw wedi dod o hyd i fenyw yn yr Almaen â'r un math o fêr esgyrn. Felly, y gobaith yw y bydd derbyn mêr o'r ffynhonnell honno yn gwella ei chyflwr. Mae ffordd hir o'i blaen, yn ôl ei rhieni, Ryan a Shelley,
ond mae pawb yng Nghwmparc yn falch iawn o glywed y newyddion da.
Mae 'gŵyl flodau' yn cael ei chynllunio yn Eglwys San Siôr. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros y penwythnos 5 - 7 Gorffennaf. Bydd yr eglwys yn cael ei haddurno â nifer o drefniadau blodau gwahanol, ar thema emynau gwahanol trwy'r flwyddyn eglwysig.
Mae blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Gynradd y Parc wedi bod ar wibdaeth i wersyll Llangrannog am dri diwrnod. Roedd cyfle i'r plant ymarfer eu Cymraeg a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau gwahanol. Mae dirprwy prifathro newydd yn dechrau yn
Ysgol y Parc ar ol y Pasg. Mae Robert Taylor yn dod o Drecelyn [Newbridge] yn wreiddiol, ond yn byw yng Nghwmparc. Roedd e'n arfer bod yn brifathro yn Ysgol Gynradd Tonyrefail. Mae e'n briod â merch o Gwmparc, Lisa, sy'n gweithio fel athrawes yn Ysgol Fabanod Ton Pentre. Mae Rob yn dad i James, 5 mis, a Frances, 6 oed, sydd yn mynd i Ysgol y Parc hefyd.
Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus iawn i Elizabeth Rose Bowen, Heol Conway Road oedd yn dathlu ei phenblwydd yn un oed ar 11 Ebrill. Mae Megan Gillard, disgybl yn Ysgol y Parc, wedi enill cystadleuath Cerddor Ifanc y Flawyd-
7
dyn a drefnwyd gan Gôr Meibion Treorci. Mae Megan ym mlwyddyn 6 yn yr ysgol ac yn canu'r cornet. Enillodd hi £200 a thlws, yn ogystal a thlws arall i'r ysgol. Mae Megan yn ferch i Christine a Richard Gillard.
8
Llongyfarchiadau i Nerys Bowen, Heol Conway ar ennill y Fedal Ryddiaith yn eisteddfod dysgwyr y sir a gynhaliwyd yng Nghanolfan Garthowg, 15 Mawrth. Roedd saith yn cystadlu, a Nerys a orfu. Y prifardd Cyril Jones oedd yn beirniadu. Hefyd enillodd 1af, 2l a 3ydd yn adran y gwaith cartref a chyflwyno stori ddoniol. Noson ardderchog o waith! Oherwydd y gwyliau, cynhaliwyd y bore coffi i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ar 8 Ebrill - ail ddydd Llun y mis.. Fel arfer, cynhelir y bore ar y bore Llun cyntaf am 10 a.m. Croeso i bawb. Croeso i Isaac Thomas Michael Williams a aned 4 Mawrth yn fab i Gavin a Victoria Williams, 3 Stryd Clifton ac yn frawd i Ioan, 3 oed. Mae dathlu dwbl i Sharon a Glyn Morris, Heol y Parc Road, wrth iddynt estyn croeso i ddwy wyres newydd. Cafodd Ellie Morris ei geni ar 17/1/13 i'w mab Lee a'i wraig Claire. Mae'n nhw'n byw yn Ystrad. Cafodd Taiomi Lloyd ei geni ar 13/3/13 i'w merch Melanie a'i gŵr Andrew. Mae'n nhw'n byw yn Stryd
Tallis.
Mae pobl newydd yn Mae Ysgol y Parc yn rhedeg y Siop Bapurau codi arian am gofeb i ar Heol y Parc . Mae lowyr pyllau'r Parc a'r Christina a Matthew Dâr. Cafodd cwpl o Stoneman yn rhedeg y Gwmparc olwyn o bwll busnes erbyn hyn. Mae glo'r Dâr, ac nawr maen Christina, sy'n siarad nhw eisiau ei rhoi i'r Cymraeg, yn wyneb ysgol i fod yn rhan o'r adnabyddus yn Nhreorci, gofeb. Mae PTA yr ysgol fel rheolwraig yr Uneb yn gobeithio rhoi'r olwyn Credyd. Pob lwc iddyn ar blatfform cerrig ar dir nhw yn eu menter yr ysgol. Os oes lluniau newydd! gennych neu hen storiau am y pyllau yng Nghwmparc, rhowch wybod Y PENTRE Cafodd pawb yn yr ardal i'r ysgol trwy e-bostio siom o ddeall bod Cynadmin.parcpri@rctedgor RhCT yn ystyried net.net cau'r ysgol gynradd leol a throsglwyddo'r holl Mae Mrs Pat Rees, Ffordd Chepstow, yn dal blant i Dreorci. Siaradodd y ddau gyngyn yr ysbyty ar ôl cael triniaeth ar ei chlun nifer horydd lleol yn erbyn y bwriad mewn cyfarfod o o wythnosau yn ôl. gabinet y Cyngor yn ddiBrysiwch yn wella. weddar a daeth nifer fawr o rieni i'r cyfarfod Mae Lynwen Lewis a'i i'w cefnogi. Bydd y cynmam, Mair Steadman, y ghorwyr a'r Gymdeithas ddwy o Stryd Tallis, yn sal ar hyn o bryd. ,ob dy- Rhieni Athrawon yn trefnu nifer o gyfarfodydd muniad da a brysiwch i protest yn ystod y flwydwella. dyn. Roedd pawb yn Llys Bu farw Mrs. Peggy Siloh yn falch iawn o Giles, Vicarage Terrace gael eu warden, Diane ar 26 Ebrill. Yn ôl y Wakeford yn ôl yn ddiocymdogion, hi oedd un gel yn eu plith yn diln ei o'r hynaf ac un o'r bobl thaith ddyngarol i India sydd wedi byw hiraf yn yn rhan o grŵp o Eglwys y stryd. Oasis ac yn edrych ymlaen at glywed ei hanes. Pen-blwydd Hapus i Llongyfarchiadau i Mike Lorraine Jones, Neuadd a Tesni Powell, eto o'r y Parc, sy'n dathlu penLlys, ar ddathlu 38 blwydd ar 4ydd Mai. mlynedd o fywyd priodasol ym mis Mawrth. Mae dosbarth newydd Pob dymuniad da iddynt "Kettle Bells" wedi i'r dyfodol. A phendechrau yn Neuadd y blwydd hapus iawn i Parc. Mae'r dosbarthiadau yn cael eu cynnal ar John Pearce, Fflat 8 a fydd yn dathlu ar 16 ddydd Llun a dydd Mai. Mercher, 7 - 8 yn y nos.
Mae ei gymdogion yn Llys Siloh yn dymuno adferiad llwyr a buan i Mr Viv Williams oedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddiwedd mis Mawrth ac yn dymuno'n dda i Olwyn Williams a Lilly Sheppard sydd newydd ddod ma's o'r ysbyty. Cofiwn hefyd am Mrs Margaret Whatley, Stryd Baglan sy'n gwella gartref ar hyn o bryd. Pob dymuniad da a llongyfarchiadau i'r canlynol o Dŷ'r Pentre oedd yn dathlu eu pen blwydd ym mis Ebrill: Mary Parry [6ed.], Gladys Buchby [17eg] a Charles Phipps [20fed]. Y mis hwn bydd Gwynwyn Clacy yn dathlu ar 18 Mai a bydd Dorothy Griffiths yn ei dilyn ar yr 20fed. Pob hwyl i'r ddwy. Mae preswylwyr Tŷ'r Pentre yn yn dymuno'n dda i Jessies Merrit sydd yn Ysbyty Cwm Rhondda ar hyn o bryd ac yn gobeithio y bydd yn gwella'n fuan. Mae croeso i blant o bob oedran ymuno yng ngweithgareddau 'Chwarae Plant' a gynhelir rhwng 3.30 - 5.15 bob prynhawn Mercher ar Barc y Pentre. Cânt gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon o dan gyfarwyddyd gofalwyr. Ond gwisgwch hen ddillad ac esgidiau addas pan yw'r tywydd yn wlyb. Yn anffodus, cafodd yr ardal nifer o golledion yn ddiweddar. Bu farw dau o hen drigolion Stryd y Frenhines, sef
John Jones a Derek Devonett a chollwyd Les Jones, Stryd Albert yn ogystal. Cofiwn am eu teuluoedd yn eu profedigaeth a dymuno pob cysur iddynt. Roedd aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth yn dathlu 23ain pen-blwydd agor eu neuadd ar 30 Ebrill ac yn edrych ymlaen at fynd i'r rali deuluol a drefnir gan y Fyddin ym Mhorthcawl ar 14 Mai. Dewch i Lys Nazareth am 6pm ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis i'r cyfarfod PACT. Yno cewch gyfle i drafod eich problemau gyda'ch cynghorwyr lleol ac â'r Heddlu a rhoi eich barn beth y dylid ei wneud i wella'r ardal.. Croeso i bawb.
TON PENTRE A’R GELLI
Llongyfarchiadau calonnog i'n gohebydd lleol Graham Davies John, Tŷ Ddewi ar ddathlu pen blwydd pwysig ar 17 Ebrill. Mae Graham yn weithgar iawn yn Nhŷ Ddewi ac yn yr eglwys ac mae ei holl ffrindiau'n dymuno'n dda iddo i'r dyfodol. Gobeithio hefyd y caiff hwyl ar ei drip i Brighton y mis 'ma. [Gol.] Cafodd pawb yn yr ardal eu syfrdanu gan farwolaeth Mr Alun Paul, Y Parêd. Roedd Alun yn aelod o deulu adnabyddus yn yr ardal a bu am flynyddoedd yn cynnal busnes fel adeiladydd.
Fel aelodau eraill o'r teulu, roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn chwaraeon a bu'n chwaraewr rygbi a golff brwd. Yn ŵr ifanc, chwaraeodd dros dimau rygbi Treherbert, Pontypridd a Phenarth a chafodd gap ieuenctid dros Gymru. Cydymdeimlwn â'i weddw, Helen a'i ddwy ferch Sally a Jenny ynghyd â'r teulu oll yn eu hiraeth. Colled arall i'r ardal yn dilyn cystudd creulon o hir oedd marwolaeth Mr John Gimson a fu gynt yn rheolwr y New Inn. Cyn hynny bu'n cadw y Treorchy Hotel. Daeth i amlgrwydd fel canwr poblogaidd a bu'n gyfrifol am drefnu llawer o gyngherddau yn y ddau dafarn. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w ferch, Larraine a fu'n gyn-faer yRhndda Cynon Taf ac i'r teulu oll yn eu hiraeth. Er gwaethaf nifer o brblemau mawr, bu cynhyrchiad Grŵp Theatr Act 1 o 'Grease' yn Theatr y Ffenics yn llwyddiannus iawn. Cafodd y cantorion a'r dawnswyr glod am eu gwaith ond cafodd pawb fraw wrth rihyrsio pan ddechreudd y llwyfan ddatgymalu o dan draed y perfformwyr. Trwy drugaredd, chafodd neb ei anafu a llwyddwyd i atgyweirio'r llwyfan mewn pryd ar gyfer y sioe agoriadol. Mae'r cwmni yn edrych ymlaen at gyflwyno 'The Phantom of the Opera' yn y Ffenics ym mis Awst. Os ydych am gymryd rhan,
cynhelir clyweliadau y mis hwn gan ddechrau ddydd Sadwrn, 4 Mai. Rhaid canmol Rhys Williams, cyfarwyddwr y cwmni a Peter Radmore, y cyfarwyddwr cerdd ar eu gwaith gwych yn hyfforddi bron 40 o bobl ifainc o dan 18 oed. Daeth tymor llwyddiannus arall yn hanes Clwb y Cameo i ben gyda'r holl aelodau yn mynd ar wibdaith i Gaerfyrddin, ddydd Mawrth, 28 Ebrill. Cafodd pawb amser da a bydd y Clwb yn ailddechrau ym mis Medi. Trefnir Noson Skittles ga aelodau Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, nos Iau, 23 Mai am 7pm yng Nghlwb Pêl-droed Ton Pentre. Maen nhw hefyd wrthi'n barod yn trefnu ar gyfer eu Garddwest Flynyddol a fydd yn digwydd ddydd Sadwrn, 6 Gorffennaf. Croeso i
bawb i'r ddau ddigwyddiad. Llongyfarchiadau i Laura Davies, merch Susan a'r diweddar Mansel Davies, Stryd Clara ar gael un o'r prif rannau yn y sioe gerdd 'Priscilla' sy'n cael ei llwyfannu ym Mryste ar hyn o bryd. Mae nifer o wibdeithiau wedi eu trefnu o'r ardal hon i'w gweld y serennu ochr yn ochr â Jason Donovon a dymunwn bob llwyddiant iddi yn ei gyrfa. Cafodd nifer o deuluoedd yr ardal brofedigaethau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cofiwn yn arbennig am deuluoedd y canlynol: Marion Pugh, Stryd Albion; Christabel Tapper, Dinam Park Avenue; Nancy Jones, Stryd Parry; Brian Clemett, Maindy Grove; Allan Hobbs, Heol Stanley a Nigel James, Stryd Canning.
Y GORNEL IAITH DAU AIR OD - MATH A GOLWG
Mae'r defnydd a wneir o'r geiriau hyn yn gallu peri trafferth.
Math Pan olyga 'math' deip, dosbarth neu rywiogaeth, mae bob amser yn wrywaidd. Felly ceir, y ddau fath; y math hwnnw o berson; y math drutaf o win. Fodd bynnag, pan y'i defnyddir yn ystyr 'y cyfryw, such a' fe'i treiglir ar ôl y fannod ynghyd âr enw sy'n ei ddilyn - y fath beth; y fath olwg.
Golwg Pan ddefnyddir golwg i sôn am ymddangosiad, sut mae rhywbeth yn edrych, bydd yn fenywaidd e.e. Roedd golwg flinedig arni; Doeddwn i ddim yn hoffi'r olwg arno. Ond pan gyfeiria at yr hyn rydyn ni'n ei weld, bydd yn wrywaidd e.e. Aeth y dyn o'r golwg; Gweidda pan ddaw'r car i'r golwg. 9
Cân yr Adeilad
10
Digon siomedig oedd achlysur cyntaf dathlu canmlwyddiant Theatr y Parc a'r Dâr, sef 'Cân yr Adeilad'. Gwaith y cyfansoddwr ifanc o Gasnewydd, Jack White, oedd hwn a'i fwriad oedd creu 'y tapestri hwn o lais a cherddoriaeth yn adlewyrchu hanes cyfoethog yr adeilad nodedig hwn, ei leoliad a'i bobl, gan ddal cysylltiad ystod o aelodau o'r gymuned, megis ysgolion, myfyrwyr, disgyblion ysgolion arbennig, offerynwyr a chantorion drwy gyfres o weithdai a sesiynau ymarfer agored ynglŷn â chreu a pherfformio'r gwaith hwn.'
Cymerwyd rhan gan Gôr Siambr Rh.C.T. ynghyd â Cherddorfa Ieuenctid Hŷn y Sir a oedd o dan gyfarwyddyd y cerddor profiadol ac adnabyddus, John Quirk. Canwyd hefyd gan gôr cyfun o ysgolion cynradd y Gelli, Pen-pych a Phenyrenglyn a chafwyd eitemau 'Cloddio am Lo' gan ddisgyblion Ysgol Arbennig Hen Felin Ystrad Rhondda. Yn ogystal, cafwyd unawd gan Kizzy Crawford ac unawd corned. Gwaith byr iawn oedd hwn gyda'r cyfan yn cymryd llai nag awr ond y diffyg mwyaf oedd y geirio aneglur ac esgeu-
lus gan yr unawdydd a'r corau. Yn rhyfedd iawn, cafwyd yr ynganu gorau pan ganwyd geiriau Cymraeg a hynny, mae'n debyg, gan fod y plant o'r ysgolion Saesneg wedi cael cyfarwyddiadau manwl sut i ynganu pob gair. Mae'n drueni na wnaed hyn gyda'r Saesneg yn ogystal gan taw bwriad y noson oedd adrodd stori'r adeilad. I gyflwyno gwaith o'r math hwn yn llwyddiannus, rhaid wrth gorau disgybledig ond yn anffodus, ni chafwyd hyn y tro hwn. Does ond gobeithio y bydd gweddill y rhaglen yn fwy llwyddiannus. Ar
y 14, 15 a 18 Mai cyflwynir Hedfa'r Dychymyg gan gast o dros 100 o ddawnswyr, cantorion a cherddorion ac ar 21 Mehefin llwyfennir cyngerdd y canmlwyddiant 'Yn 100 oed ac Yma o Hyd'. Dilynir hyn ym mis Medi gan Y Cystadleuwr gan Mal Pope a bydd cynhyrchiad o ddrama gyntaf yr awdur o Gwmparc, Rachel Tresize, 'Tonypandemonium'. Edrychwn ymlaen at y digwyddiadau hyn gan obeithio y byddant yn deilwng o draddodiad cyfoethog y Parc a'r Dâr.
Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
LLONGYFARCHIADAU AARON!
Mae gwaith caled ac ymroddiad un o’n myfyrwyr chweched dosbarth wedi’i gydnabod yn genedlaethol. Llwyddodd Aaron Fowler o Flwyddyn 12 i ennill Lleoliad Bwsari Gwyddoniaeth Nuffield, sef 5 wythnos o leoliad gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod yr haf eleni yn ymchwilio ym meysydd Bioleg a Geneteg. Mae’r gystadleuaeth yn gryf ar gyfer ennill lleoliad – 4 lle yn unig sydd. Dyma lwyddiant arbennig sy’n destament i holl waith caled Aaron hyd yma yn ei bynciau Uwch Gyfrannol. Diolch i’r Adran Fioleg a Dr Thomas am gynorthwyo Aaron gyda’i gais. Llongyfarchiadau mawr i ti Aaron – gwn y byddi’n genhadwr gwych!
Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
CWRDD AG ENWOGION CYMRU YN Y CYMER
Cawsom y fraint o wahodd yr actorion amryddawn Maureen Rhys a John Ogwen i’r ysgol ar ddydd Iau, Ebrill 11eg. Arweiniwyd gweithdy ar y ddrama ‘Siwan’ gan Saunders Lewis gan y ddau i fyfyrwyr ein Chweched Dosbarth a chawsant fodd i fyw yn gwylio’r ddau wrth eu crefft. Diolch didwyll i Maureen a John am eu hysbrydoliaeth.
LLWYDDIANT SEICLO
Llongyfarchiadau gwresog i Niamh Jones, sy’n ddisgybl yn 7R, ar ei llwyddiant anhygoel ym myd seiclo yn ddiweddar. Cipiodd Niamh yr ail wobr yn y râs 10 milltir ym Mhencampwriaeth Seiclo Ysgolion Cymru yn ystod y penwythnos. Mae Niamh, sy’n aelod o glwb seiclo ‘Newport Olympic’ a chlwb ‘Bike Doctor’ yn hyfforddi bum gwaith yr wythnos a gall seiclo hyd at 50 milltir ar y tro. Camp anhygoel Niamh – llongyfarchiadau mawr i ti! 11
LLWYDDIANT RYGBI 7
Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion a gynrychiolodd yr ysgol mewn Cystadleuaeth Rygbi 7 pob ochr Yr Urdd yr wythnos ddiwethaf, yn enwedig bechgyn y Tîm Cyntaf. Mewn cystadleuaeth lle roedd dros ddeugain o ysgolion a cholegau Cymru yn cystadlu, llwyddodd y bechgyn i guro ysgolion fel Ysgol Gyfun Glantâf, Ysgol Gyfun Y Pant ac Ysgol Howells i gyrraedd y rownd derfynol. Llwyddodd y bechgyn i ennill y gystadleuaeth ar ôl curo Ysgol Bro Morgannwg 35 - 31 yn y gem derfynol mewn gem hynod o agos. Llongyfarchiadau mawr i Bradley Tudor, Alex Judd, Sam Davies, Anthony Pearce, Callum Norris, Ashley John, Corey Sheppard, Carl Lewis, Jacob Lloyd, Ieuan Rees, Jordan Morgan a Luke Harris.
SMWDDIS YN CYRRAEDD Y CYMER!
Lawnsiwyd ein bar smwddi newydd ‘Xing’ yn yr ysgol yr wythnos ddiwethaf. Dyma fenter gyffrous gan rai o ddisgyblion yr ysgol ac fe fyddant yn gwerthu’u cynnyrch bob amser cinio. Dewch yn llu i flasu smwddi!
12