y gloran
20c
YR ETHOLIADAU LLEOL A CHYFFREDINOL BRANWEN CENNARD - PLAID CYMRU CHRIS BRYANT - PLAID LAFUR
Wrth i'r Gloran fynd i'r wasg, daeth canlyniadau'r etholiadau lleol a gynhaliwyd ar 4 Mai. Daliodd Llafur ei gafael ar gyngor Rhondda Cynon Taf yn yr etholiadau er gwaethaf problemau'r blaid mewn rhannau eraill o Brydain. Bydd y cyngor newydd yn cynnwys Llafur 47, Plaid Cymru 18, Toriaid 4, Rhyddfryd-
wyr 1 a Phlaid Cwm Cynon 1. Mwyafrif o 23, felly, fydd gan y blaid lywodraethol. Roedd y darlun yng Nghwm Rhondda dipyn yn wahanol i weddill y sir gyda Phlaid Cymru'n ennill 14 o seddau gan gynnwys pob sedd o fewn dalgylch Y Gloran. Yr ymgeiswyr llwyddiannus yn y seddau hynny oedd: Treherbert - Geraint
Davies a Wil Jones; Treorci - Alison Chapman, Sêra Evans-Fear ac Emyr Webster; Pentre Shelley Rees-Owen a Maureen Weaver; Ystrad Rhondda Larraine Jones ac Elyn Stephens. Golyga hyn fod gan Blaid Cymru o fewn y Rhondda 14 o gynghorwyr o'i gymharu â 10 y Blaid Lafur ac mae hyn yn argoeli y
bydd gornest yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin yn un gyffrous gydag ymgeisydd Plaid Cymru, y cynhyrchydd teledu, Branwen Cennard yn herio'r aelod presennol, Chris Bryant, Llafur. Ar y funud, ni ddaeth gwybodaeth i law pwy fydd yn cynrychioli unrhyw un o'r pleidiau eraill.
NEWYDDION YMGEISWYR RHYDFRYDWYR - KAREN ROBERTS; DIWETHAF - PLEIDIAU ERAILL TORIAID - VIRGINIA CROSBY; UKIP - JANET KENRICK
TREORCI - PENCAMPWYR ADRAN I
Ceri Llewelyn sy'n bwrw golwg dros dymor hynod lwyddiannus Clwb Rygbi Treorci Record Y TymorChwarae 22; Ennill 18; Cyfartal 2; Colli 2; Pwyntiau Bonws 16; Pwyntiau 92. Ar bnawn Sadwrn Ebrill 8fed roedd tîm rygbi Treorci yn chwarae yn erbyn Tredelerch yn nwyrain Caerdydd. Y sgôr ar yr hanner oedd 21-0 o blaid y tîm o Gwm Rhondda. Yn ystod yr ail hanner roedd Treorci yn gobeithio sgorio un cais arall er mwyn sicrhau pwynt bonws. Hanner ffordd trwy’r ail hanner ,a’r sgôr heb newid, clywodd ambell un o gefnogwyr Treorci y newyddion bod Ystrad Rhondda, y tîm yn yr ail safle yn Adran 1af Cynghrair Principality, yn colli yn erbyn Dowlais. Yn fuan, trosglwyddwyd y newyddion o’r dorf ymlaen i’r chwaraewyr ar y cae. Cyflymodd y blaenwyr dempo’r gêm ac yn fuan sgoriwyd tri chais arall, un ar ôl y llall, gan Wil Griffiths, Peter Hutchins a Steffan Jones ac fe’u troswyd gan Jordan Lloyd. Enillodd Dowlais. Collodd Ystrad. Golygai hyn fod Treorci yn ennill pump pwynt a oedd yn ei gwneud hi’n amhosib i Ystrad ei dal ar ben y gynghrair. Pan ganodd y chwiban olaf rhedodd Tîm Ieuenctid Treorci i’r maes i gofleidio’r tîm cyntaf. Roedd hyn yn briodol gan eu bod nhw wedi ennill Bowlen Ieuenctid Undeb Rygbi 2
Cymru yn erbyn tîm Athletig Penybont ym Mharc Yr Arfau y bore hwnnw, o dan arweiniad Ian Greenslade a Carl Hammans. Roedd Clwb Rygbi Tredelerch yn hael eu canmoliaeth, gan eu bod nhw yn gwybod cymaint yw’r gamp o ennill cynghrair mor galed a chystadleuol, ac yn fuan dechreuodd y dathlu. Ennill mewn Steil Llwyddodd Treorci i ennill y bencampwriaeth mewn steil yn chwarae gêm ddeinamig, gyflym. Y blaenwyr a’r olwyr yn cyd-chwarae wrth symud y bêl yn gyflym trwy’r dwylo. Chwaraewyd rygbi eang gyda’r chwaraewyr yn chwilio am wagle, gan symud tîmau llawer iawn trymach o amgylch y cae. Pan oedd galw i’r blaenwyr gario’r bêl yn gadarn ac yn syth ar y llwybr tarw, roedd mwy nag un ohonynt yn medru gwneud, fel yn ystod y gêm gartref yn erbyn Rhiwbeina. Un o’r gêmau prin lle na lwyddwyd i ennill pwynt bonws. Dim ond dau dîm yn y chwech ar hugian o gynghreiriau Principality a sgoriodd fwy o bwyntiau bonws na Threorci. Rhaid cofio cryfder y sgrym a’r sgarmes symudol, yn enwedig yn ystod y gêm gartref yn erbyn St.Josephs pan sgoriwyd pedwar cais cosb. Roedd y tîm yn ffodus i gael hyfforddiant Kevin Jones ac Ian Evans, y cyn-Lew,
i’w trwytho yn yr elfen yma o’r gêm. Cofir y gêm yn erbyn Aberpennar pan chwalwyd sgym y gwrthwynebwyr, a ystyriwyd cyn hynnu fel y pac cryfa yn y gynghrair. Rhaid nodi cyfraniadau Chris John, Robert Jones, Garyn Daniel, Kieron Jenkins, Simon Collins a Josh King yn yr agweddau tyn. Yn ogystal, gellir gweld cyfraniad Ian Evans i lwyddiant y linell. Llwyddodd y bachwyr i ganfod Ben Williams, Josh Lewis, a Dewi Walden dro ar ôl tro gan alluogi Rhys Gillard, Dewi Morris, Wil Griffiths, Wayne Davies , Scott Meredith, Gethin Pugh a Liam Phillips i gymryd y bêl at y gwrthwynebwyr. Gwledd o Bwyntiau Sgoriodd Treorci tri deg neu fwy o bwyntiau mewn deuddeg gêm yn ystod y tymor, pedwar deg neu fwy mewn pump gêm a phum deg neu fwy mewn tair gêm. Nhw oedd un o’r ychydig dîmau yn y gynghrair oedd yn gyffyrddus yn symud y bêl ar hyd y llinell ac ar draws y cae. Ar adegau roedd chwarae’r olwyr yn wefreiddol. Rhedeg hudolus Jacob Lloyd, pasio athrylithgar Lloyd Williams yn cyfuno’n wych â rhedeg cryf Cory Dunn, Tristan Lazarus, Peter Hutchins, Alex Green, Ryan Evans a Curtis Hughes. Nid oes modd pwysleisio pwysigrwydd yr haneri yn rhe-
oli’r gêmau. Bu Steffan Jones, Liam Stacy a Celyn Ashton yn bwysig yn yr agwedd yma ond rhaid nodi cyfraniadau allweddol Owen Williams fel mewnwr a Jordan Lloyd fel maswr a phrif giciwyr y tîm. Gellir gweld ôl hyfforddiant a gwaith diflino’r prif hyfforddwr, Andrew Bishop, yn chwarae’r olwyr. Ar ddechrau’r tymor roedd yr hyfforddwyr, y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn gobeithio am dymor llwyddianus, cyffrous, ac felly y bu. Ar ddiwedd y gêm yn Nredelerch, pan gipiwyd y
y gloran
mai 2017
Yr Etholiadau...1
Clwb Rygbi Treorci...2/3 Tîm Cwmparc..4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10
Ymweliad y Swyddog Cymraeg/Byd Bob...6 /Cartŵn...7
Newyddion Lleol...8-9 Leanne Wood yn canmol Tafarn Pencelli Ysgolion...11/12
mai 2017
gynghrair, roedd y chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn awyddus i ddiolch i’r garfan gref o gefnogwyr sydd yn cefnogi’r tîm ym mhob gêm ac ym mhob tywydd. Pan mae Treorci yn chwarae oddi cartref mae trysoryddion y clybiau cartref yn wên o
glust i glust wrth weld nifer y cefnogwyr sy’n dilyn y tîm. Hwb mawr i’w coffrau ariannol. Mae nifer o’r chwaraewyr yn tyngu bod presenoldeb cymaint o’r cefnogwyr yn eu helpu yn y gêmau caled oddi cartref. Mae ennill y gynghrair
yn golygu y bydd rhaid chwarae dwy gêm yn erbyn enillwyr cynghrair Adran 1af Y Dwyrain er mwyn esgyn i’r Bencampwriaeth. Beth bynnag fydd yn digwydd mae cefnogwyr Clwb Rygbi Treorci wedi mwynhau gwledd o rygbi mentrus, anturus a chyffrous.
Bydd y gêmau diwedd y tymor yn galed, ond bydd un tîm yn ennill ac mae gan Treorci cystal siawns ag unrhyw dîm. Record Y TymorChwarae 22; Ennill 18; Cyfartal 2; Colli 2; Pwyntiau Bonws 16; Pwyntiau 92.
3
HEN LUN - CWMPARC JUNIORS AFC
Cawsom y llun diddorol hwn gan Mr Roy Thomas, Teras Pencae, Treorci. Cafodd e'r llun, a dynnwyd adeg yr Ail Ryfel Byd, oddi wrth Mr Tom Williams, 92 oed, o Stryd Treharne Cwmparc [3ydd o'r dde yn yr ail res o'r cefn]. Roedd y flwyddyn 1943-44 yn un
4
llwyddiannus i'r clwb wrth iddynt orffen ar frig Adran 2, ennill y 'Knock Out Cup' a Chwpan Vaunghton a cholli yn rownd derfynol y Cwpan Her. Dyma'r bobl sy yn y llun: [rhes gefn o'r chwith]
Ken Jones, Doug Lewis, Ned Edwards, Les Davies, Ron Jones, David Watkins, David Fox, Reg Edwards, Tom Evans. [3edd res} Tommy Weeks, George Williams, Donald Davies, John Jones, Doug Pearce, Tom
Thomas, Glan Powell, Tom Williams, Will Evans, Glan Jones. [Ail res] Jackie Hughes (Ysg.), Ron Dowling, Mansel Samuel, Morris Jenkins (Capten), Cliff Evans, John Williams. [Yn y blaen] John Lawry a Fred (Curly) Thomas.
Stad Brynhenllan gyda meinciau newydd Cadw Cymru’n Daclus - gweler Newyddion Treherbert
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Mae Cymdeithas Croeso i’r Goedwig wedi derbyn grant o bron £ I.2 miliwn dros saith mlynedd er mwyn datblygu ei gwaith yn y gymuned. Mae’r mudiad yn mynd i ddatblygu’r ffyrdd newydd o gysylltu pobl a’r amgylchedd er mwyn gwella iechyd meddwl a chorfforol . Maen nhw’n hefyd bwriadu cynnig hyfforddiant i drigolion yr ardal. Gweler y llun. Mae Clwb Bowlio Treherbert, Cymdeithas Twnnel y Rhondda a Chlwb Hen Bensiynwyr Treherbert wedi bod yn llwyddiannus yn eu cynigion ac wedi derbyn arian oddi wrth Gronfa Pen y Cymoedd Mae’r Cyngor wedi rhoi caniatâd cynllunio unwaith eto i adeiladu 33 o dai ar ben uchaf Blaenycwm tu ôl i Derwyn Terrace. Mae’r cwmni Glaister Russell Developments Ltd eisiau adeiladu byngalos o 2, 3 a 4 ystafell wely ar dir yr hen reilffordd a phwll
glo. Mae’r cais yn cael ei rhoi o flaen y cyngor yn rheolaidd er mwyn cadw’r caniatâd yn
fyw. Daeth dros 40 o blant i ardd Capel Blaenycwm ar ddydd Sadwrn
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN
Y Pentre: MELISSA BINETFAUFEL
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
Yn ddiweddar, priododd Lisa Edwards, un o actorion 'Pobol y Cwm' â Keith Parsons yn Hermon, Treorci. Magwyd Lisa yn Stryd Bute, Treherbert, yn ferch i Mr a Mrs Des Edwards. Bydd y pâr priod yn ymgartrefu yn Y Bont Faen.
y Pasg am brynhawn o grefft a chwilio am wyau Pasg. Cafodd bawb brynhawn llawn hwyl a sbri. Mae Cadw Cymru’n Daclus wedi gosod meinciau a byrddau picnic yng nghanol stad Brynhenllan. Maen nhw wedi troi darn o dir gwastraff i mewn i le deniadol ble mae'r gymuned yn gallu dod at ei gilydd (gweler y llun) Llongyfarchiadau i Glwb Pêl Droed Blaenrhondda ar ennill cynghrair y Rhondda. Aeth y tîm yr holl dymor heb golli gêm. Mae’n flin cofnodi marwolaeth Nyda Jef-
PARHAD ar dudalen 8
5
Rydym eisoes wedi dategelu bod dros 50 o siaradwyr Cymraeg yn siopau Treorci, gyda mwy yn dod i’r amlwg. Ar ôl darganfod bod cynifer ohonynt, rhoddais wahoddiad i Swyddog Cymraeg yn y Gweithle Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg i gwrdd â rhai ohonynt a chael sgwrs. Daeth Annalie Price, sy’n diwtor Cymraeg
hefyd, i gwrdd â fi yng nghaffi High Street Social, Treorci. Mae rheolwr y caffi, Aneira yn siarad Cymraeg, felly dechreuon ni ein bore mewn cwmni da! Ymunodd Cennard Davies â ni, ac wrth i ni siarad, clywodd cwsmeriaid eraill y Gymraeg a dechreuodd sgwrs ehangach. Syndod mawr oedd cael dyn o Aberplym (Plymouth) yn dod
atom a dechrau siarad Cymraeg. Cyflwynodd Matt Spry ei hun, a dweud ei fod e’n byw ym Mhenarth, gweithio yng Nghaerdydd, a dysgu Cymraeg ers 2015. Roedd yn falch cael cyfle i ymarfer siarad y tu fa’s i’r dosbarth, ac roeddem mor falch i glywed Cymraeg o safon uchel o ddyn o Loegr! Ymlaen i'r Principality
Roedd ein hymweliad cyntaf â cḩymdeithas Adeiladu'r Principality i gwrdd â Sarah Evans. Dim ond ers rhai mis mae Sarah yn gweithio yn y gangen, ond clywais sibrwd ei bod yn siarad Cymraeg. Cawson sgwrs fywiog am hynt a helynt dysgu’r Gymraeg, a rhoddodd Annalie gyngor i Sarah am foddau o ddatblygu ei defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
Yn 1967 roeddwn i'n byw ac yn gweithio mewn ysgol yn Lille yng ngogleddFfrainc. Roed-
danolfan ddiwinyddol yn wreiddiol. Fe ddes i 'nabod un o'r offeiriaid yn iawn. Dyn oedd e yn ei bmdegau, efallai. Doedd e ddim yn siarad Saesneg ond roedd e'n hoff iawn o Brydain a Phrydeinwyr a byddai'n aros bob amser i gael gair â fi pan fydden ni'n cwrdd yn yr iard neu yn y coridor. "Roeddwn i newydd orffen fy astudiaethau i fod yn offeiriad pan gyrhaeddodd byddin yr Almaen Lille ym mil naw pedwar deg," meddai wrtho i. "Roedden ni i gyd yn teimlo'n aneffeithiol a digymorth. Roedd milwyr Ffrainc a Phrydain yn encilio i Dunkirk. Roedd tanciau a cherbydau milwrol yr Almaen yn rheoli strydoedd y ddinas. Fe arhosodd y gelyn yma
am bedair blynedd. Roedden ni wedi colli ein rhyddid." Byddai e'n tynnu ar ei sigaret cyn mynd ymlaen, "O, roedd yr Almaenwyr yn gwrtais. Pe baen ni'n ymddwyn yn barchus tuag atyn nhw, doedd dim problem. Ond, siwr o fod, Bob, rwyt ti wedi clywed hefyd sut roedden nhw'n arfer saethu pobl oedd yn achosi problemau iddyn nhw." Fe fyddwn i'n nodio fy mhen. "Fe ymunais i â'r Résistance," meddai. "O, doeddwn i ddim yn ddewr. Fel offeiriad roeddwn i'n gallu galw i mewn i weld plwyfolion Roedd rhai ohonyn nhw'n perthyn i'r Résistance gweithredol ac roeddwn i'n cario negesau iddyn nhw. Doeddwn i ddim mewn perygl - os nad oedd neb yn
agor ei geg i'r Almaenwyr. Doedden ni ddim yn hyderus am ennill y rhyfel ac yn meddwl bod yr Almaenwyr yn rhy gryf. Ond yna, glaniodd milwyr Prydain ac America yn Ffrainc, a thro'r Almaenwyr oedd e i ffoi. Roedden ni wedi eu gweld yn dod mewn tanciau, ond nawr roedden nhw'n seiclo, rhedeg a cherdded i ffwrdd." Ar ddiwedd y rhyfel, ymddangosodd arweinwyr y Trydedd Reich o flaen llys Nuremburg fel troseddwyr rhyfel - Goering, Hess Ribbentrop. Cyn hir, fe fydd milwyr Prydain yn ymddangos o flaen y llys ac yn cael eu cyhuddo fel troseddwyr rhyfel hefyd am eu rhan yng ngoresgyniad Irac. Ond os ydych chi'n disgwyl gweld rhai o'n harweinwyr yn eu mysg, meddyliwch eto.
BYD BOB
dwn i'n dysgu Saesneg i fechgyn rhwng pymtheg a deunaw oed. Roedd ysgrifennydd yr ysgol wedi dod o hyd i ystafell i fi mewn hostel oedd yn llawn o fyfyrwyr oeddyn astudio yn y brifysgol. Yn ychwanegol, roedd rhyw ddwsin o offeiriaid yn byw yno am fod yr adeilad wedi bod yn 6
YMWELIAD SWYDDOG CYMRAEG YN Y GWEITHLE Â THREORCI Mae Sarah yn gwisgo bathodyn sy’n dangos ei bod yn siarad Cymraeg, felly awgrymodd Annalie y gallai ddechrau pob sgwrs gyda “Bore da”, neu “Allaf i eich helpu?”. Bydd hyn yn dangos i siaradwyr Cymraeg yr ardal bod gwasanaeth ddwyieithog ar gael. Mae Sarah, sy’n dod o Fynwent y Crynwyr, yn dysgu Cymraeg yng Ngholeg Ystrad Mynach. Mae’n mwynhau ei hastudiaethau ac yn ddigon parod i sgwrsio gyda’i chwsmeriaid yn Gymraeg. Gadawon ni Sarah gyda phob dymuniad da
ar gyfer ei dosbarthiadau. Symud eto O fewn tafliad carreg i'r Principality, mae Treorchy Pet and Garden Supplies. Mae Julie Godfrey, sy’n gweithio yno, wedi dod yn adnabyddus yn y gymuned gyda'i hymdrech ardderchog i ddysgu Cymraeg. Yn ei hamser sbâr, mae hi’n gwirfoddoli i ddosbarthu Y Gloran ledled Cwmparc. Mae Julie yn mynychu gwersi Cymraeg yn wythnosol yn swyddfa Cymunedau’n Gyntaf ( gynt CwmNi) yn Nhreherbert. Dy-
NERYS BOWEN sy'n adrodd hanes ymweliad ANNALIE PRICE â Threorci'n ddiweddar wedith Julie nad oes llawer o gyfle iddi ymarfer Cymraeg rhwng gwersi, felly mae’n manteisio ar bob cyfle i siarad â’i chwsmeriaid yn Gymraeg. Mae Julie yn gwisgo ei bathodyn oren sy’n arwydd i gwsmeriaid ei bod yn siarad Cymraeg.
Diwedd y daith Ein stop olaf oedd yn Co-operative Travel (Thomas Cook) i ddweud helo wrth Charlotte Gibbs. Mae llun Charlotte wedi bod yn Y Gloran eisoes, ac mae hi’n falch iawn cael siarad Cymraeg â phobl
sy’n chwilio am wyliau. Mae hi hefyd yn gwisgo bathodyn oren, felly cadwch lygad ma’s wrth i chi siopa yn Nhreorci, efallai bydd siaradwr Cymraeg yn eich gweini.
Mwynheuodd Annalie ei hymweliad i Dreorci’n fawr iawn. “Mae rhaid gyfaddau nad ydw i wedi bod lan i Dreorci ers amser maith, (dw i’n byw yn y Gilfach Goch ac mae Llantrisant yn llawer mwy cyfleus i mi), OND ces i groeso hyfryd ym mhob siop y ymwelais i â nhw a rhywbeth gwell byth – cyfle i siarad Cymraeg!”
7
freys o St Mary’s Close. Roedd Nyda yn gweithio fel nyrs ardal cyn cael dyrchafiad i fod yn Swyddog Nyrsys Ardal. Gorffenodd ei gyrfa nysio fel Prif Swyddog Gwasanaeithiau Nyrsio y Rhondda. Ar ôl ymddeol aeth Nyda i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd yn y Gymraeg. Daeth hi’n aelod o’r Orsedd lle'r oedd hi’n cymryd yr enw Nyda Cwm Saerbren ar ôl y mynydd oedd yn wynebu ei thŷ yn Nhreherbert. Roedd Nyda yn weithgar iawn yn y gymuned a bydd colled fawr ar ei hôl Cydymdeimlwn a’i phlant Susan, Lynfa a Gari a’i holl deulu.
8
TREORCI
nos Iau, 25 Mai. Y Llongyfarchiadau i Mr canwr lleol, Kieron Bailey fydd yn gyfrifol Haydn Thomas, Stryd Dumfries ar ddathlu ei am yr adloniant. Toben-blwydd yn 90 oed cynnau £5 gan aelodau'r pwyllgor. yn ddiweddar a phob Pob dymuniad da i'r Dr dymuniad da iddo i'r Krys Williams, Teras dyfodol. Tynybedw, sy'n symud Mae dirprwy reolwr i fyw i Abertawe lle theatr y Parc a Dâr, mae''n dilyn cwrs Thomas Tudor Jones, y mewn Eifftoleg yn y brifysgol. Ers dod i ymadael â'i swydd ac Dreorci mae Krys, sy'n yn ymuno ag Uned Bwyles o ran tras, Gyfieithu Cyngor wedi dysgu Cymraeg, Rh.C.T. ymaelodi yn y Bydd pawb yn gweld Gymdeithas Gymraeg eisiau'r Cymro Cymac ymgymryd ag ysraeg hawddgar hwn grifenyddiaeth y ganen leol o Blaid Cymru. ond yn dymuno iddo Bu farw un o drigolion bob llwyddiant a hapusrwydd yn ei swydd hynaf Treorci, Mrs Gladys Mears yn 101 newydd. oed y mis diwethaf. Bydd Pwyllgor Cancer Cydymdeimlwn å'i UK Treorci yn cynnal mab Richard oedd yn noson i godi arian yn fawr ei ofal amdani yn Neuadd San Matthew, ystod ei blynyddoedd
olaf. Pob dymuniad da i Mr William A Bobbett, Stryd Glynrhondda sydd wedi bod yn ddifrifol wael ar ôl cwympo i lawr siambr archwilio agored ar Ystad Ddiwydiannol Abergorci tra yn mynd â'i gi am dro. Mae e yn Ysbyty Treforus ar hyn o bryd. Yn y gyngerdd Dydd Gwener y Groglith traddodiadol yn y Parc a Dâr, da oedd gweld Anna Williams (gynt Hughes) yn chwaraewr gwadd ym mand y P&D. Mae Anna yn hyfforddwraig offerynnau pres ym Manceinion ac yn ddiweddar enillodd Wobr Syr Harry Mortimer am ei gwaith gda phobl ifainc yn enwedig y rheiny ag anghenion arbennig. Llongy-
Rosalie'n ddirprwybrifathrawes yn Ysgol y Merched, Y Porth. Dymuniadau gorau hefyd i Denise Smith, Parc Crescent, sy’n gwella ar ôl cael llawdriniaeth yn ddiweddar. Mae eich ffrindiau yn Eglwys San Sior ac yn y gymuned ehangach yn meddwl amdanoch. Llongyfarchiadau i bob disgybl Band Pres Ysgol y Parc am eich llwyddiant yn eich arholiadau Gradd 1, a diolch yn fawr i’r staff, yn enwedig Mr. Tom Hutchinson.
Y PENTRE
Mrs T. Pomeroy, Stryd Smith. Cydymdeimlwn Da ywBydd Eglwys yn gywir iawn â'u teuSan Pedr yn cynnal ei Ffair Gwanwyn ddydd luoedd yn eu profedigaeth. Sadwrn 13 Mai ar dir Yn anffodus, doedd yr eglwys. Bydd yno and Cory ddim yn stondinau o bob math ac mae pawb yn gwed- gallu ailadrodd eu llwyddiant y llynedd dio am dywydd teg! yng nghystadleuaeth Band y Flwyddyn a gynhaliwyd yn Ostend yn ddiweddar. Yn y diwedd, cawsant y trydydd safle, ddau bwynt TON PENTRE A GELLI y tu ôl i'r enillwyr, sef Cafwyd cyflwyniad lli- band o Norwy a wgar a swynol o'r sioe gafodd 193 pwynt o'i gymharu â 191 y Cory. gerdd 'Madagascar' Da yw clywed na fydd gan gwmni dawnus Act 1 yn theatry Ffen- yr hen swyddfa bost yn ics. Ers iddo gael ei se- Heol yr Eglwys yn Llongyfarchiadau i wag am lawer rhagor o fydlu yn 2008, Morgan Stoddart am amser oherwydd bydd cyflwynodd y cwmni ennill Gwobr Gyntaf siop drin gwallt, dros ugain o sioeau o (Canu) yng nhgys"Mane Attractions' yn dan gyfarwyddyd Mr tadleuaeth Cerddor agor yno'n fuan. Pob Peter Radmore. Mae'r Ifanc Cor Meibion Tre- bobl ifanc i gyd o dan llwyddiant i'r fenter orci. Canodd Morgan newydd. 18 oed a chafodd llu “Pulled” o “The AdBu dau o breswylwyr ohonynt gyfle i fwyndams Family”, yn Ty Ddewi'n gleifion yn hau a datblygu eu dogwisgo gwisg Wednes- niau wrth gymryd rhan Ysbyty Brenhinol day Addams o’r ffilm! dros y blynyddoedd. Morgannwg yn ddiMwynheuodd pawb ei Bydd cwmni Theatr weddar. Erbyn hyn, pherfformiad arddermae Mrs Crinllys mask yn cyflwyno chog, sy’n dilyn llwyd- noson gerddorol yn Davies wedi dychwediant disgybl arall lyd adre ar ôl treulio theatr y Ffenics nos Ysgol y Parc, sef amser yn yr ysbyty yn Sadwrn, 20 Mai. Frances Taylor, y Cyflwynir y noson gan dilyn llynedd. Mae’n amlwg yr actores leol, Shelley cwymp, ond mae Mrs bod digon o dalent yng Rees-Owen. Gellir Sylvia Griffiths yn dal Nhwmparc. Daliwch sicrhau tocynnau, pris yno ar ôl cael clun ati blant! £8, o swyddfa'r theatr. newydd. Dymunwn (Gweler llun Morgan adferiad llwyr a buan Bu nifer o deuluoedd ar dudalen 12) yr ardal mewn profedi- i'r ddwy. Bydd Garddwest gaeth yn ystod yr Pen blwydd hapus i Eglwys Ioan Fedydwythnosau a aeth Mrs Lilian Evans, diwr yn cael ei chynnal CWMPARC heibio. Cofiwn am Stryd Tallis, a fydd yn deuluoedd a ffrindiau'r ddydd Sadwrn, 10 Pob dymuniad da am Mehefin ar dir yr wellhad llwyr a buan i 88 blwydd oed ar 14 rhai a ganlyn: Mr E. Mai. Mrs Rosalie Jones, Hopkins, Heol Ystrad, eglwys. Gobeithiwn am dywydd da ac y Tan-y-fron sydd wedi Mr T. Jones, Stryd bydd yr arddwest mor derbyn llawdriniaeth ar Smith, Mrs B. Lloyd, llwyddiannus ag arfer. ei chlun yn ddiweddar. Clos Nantgwyddon a Cyn ymddeol,roedd farchiadau i Anna sy'n ferch i Mr a Mrs Elfed Hughes, Heol y Fynwent. Enillwyd y gystadleuaeth am y fonet Basgorau yn swper Pasg y W.I. gan Christine Jones, Stryd Regent. Llongyfarchiadau iddi. Hefyd aeth yr aelodau ar wibdaith addysgol i Lancaiach Fawr, Nelson yn ddiweddar a chael amser diddorol yno. Diolch yn fawr i Anna Brown am drefnu'r cyfan. Pob dymuniad da i Elaine Lewis, Heol Cadwgan, David Davies, Stryd Illtyd aWendy Thomas, Stryd Reent sydd ill tri wedi cael triniaeth lawfeddygol yn ddiweddar. Roedd aelodau Bethlehem yn fli iawn debyn y newyddion am farwolaeth Mr Alun Gwyrfai Jones, Tonypandy oedd yn aelod ffyddlon yno. Bu Alun yn bennaeth ar yr adran Saesneg yn Ysgolion Uwchradd Coed-y-lan a Hawthorne, Pontypridd cyn ymddeol. Cydymdeimlwn â'i weddw, Dilys a'r teulu oll yn ei brofedigaeth.
9
Leanne Wood yn Canmol Tafarn am Ennill Gwobr
Mae AC Cwm Rhondda, Leanne Wood, wedi canmol tafarn leol sydd wedi ennill dwy wobr bwysig yn y diwydiant. Dyfarnwyd tafarn y Pencelli, Treorci yn 'Tafarn y Flwyddyn 2017' ym Morgannwg Ganol gan CAMRA [Yr Ymgyrch dros Gwrw Go-Iawn]. Ar ben hyn, enillon nhw wobr y sir am Dafarn Seidr a Pherai'r Flwyddyn 2017. Nid dyma'r tro cyntaf i'r
dafarn, sy'n cael ei rhedeg gan Neil a Mary Fisher, gael ei gwobrwyo gan CAMRA. Y llynedd, ond 18 mis ar ôl ailagor, hon oedd y dafarn gyntaf yn y Rhondda i'w henwi'n Dafarn y Flwyddyn yn y sir gan CAMRA. Dywedodd Ms Wood, sy'n aelod o CAMRA, "Mae'r wobr hon yn gwbl haeddiannol o gofio'r gwaith caled a
wnaed gan Neil, Mary a'u holl deulu i adfer busnes y Pencelli. Maen nhw wedi creu awyrgylch cynnes, croesawgar yn y dafarn sy wedi tyfu'n ganolfan bwysig i'r gymuned.
Tystiolaeth amlwg i hyn yw'r ffaith bod criw da o bobl yn cwrdd yno fel arfer. Fel un sy'n hoff iawn o gwrw go iawn, rwyf bob amser yn edrych ymlaen at weld
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
10
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
pa ddewis o gwrw sydd ar gael. Yn aml, cewch rywbeth lleol, fel cwrw gwych Cwm Rhondda a gynhyrchir ar fferm Y Fforch, Treorci. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r teulu i'r dyfodol. Rwy'n siwr y daw mwy o wobrau i'w rhan ond iddynt bara ar yr un llwybr."
Disgyblion Blwyddyn 8 a 9 yn cymryd rhan yn weithdai wedi eu rhoi gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Cyfle unigryw i ddefnyddio cyfarpar meddygol Coleg Feddygon Brenhinol Cymru.
YSGOLION
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
YSGOLION
Ein bechgyn ni yn chwarae dros y Rhondda yn Nhe Affrica.
YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
Plant y Cymer yn mwynhau cymryd rhan yn broject 'Mission Discovery' yn Ngholeg y Cymoedd Nantgarw.
YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
11
Llongyfarchiadau i Morgan Stoddart am ennill Gwobr Gyntaf (Canu) yng nhgystadleuaeth Cerddor Ifanc Cor Meibion Treorci. Canodd Morgan “Pulled” o “The Addams Family”, yn gwisgo gwisg Wednesday Addams o’r ffilm! Mwynheuodd pawb ei pherfformiad ardderchog.
YSGOL GYNRADD
PARC
YSGOL GYNRADD
PARC