Y Gloran Mawrth-Ebrill 2013

Page 1

BANERI YMHOBMAN

y gloran

20c

DYDD GWYL DDEWI YN NHREORCI ^


golygyddol l

y gloran

maw-ebr2013

YN Y RHIFYN HWN

Dydd Gwyl Ddewi...1 Golygyddol..2 Elwyn Thomas-Cymdeithas Gymraeg-Y Gornel Iaith...3-4 Newyddion Lleol...5-9 Cerdd/ed..10-11 Ysgolion..11-12

DYDD GŴYL DDEWI

Roedd llawer o bobl yn cwyno eleni nad oedd Caerdydd wedi manteisio ar Ddydd Gŵyl Ddewi i ddenu pobl i'r brifddinas. Er bod yr orymdaith drwy ganol y ddinas yn tyfu mewn poblogrwydd o flwyddyn i flwyddyn, doedd dim yn ardal y Bae i ddweud wrth ymwelwyr ei bod yn ddydd ein Nawddsant. Roedd yn dda, fodd bynnag, weld bod Siambr Fasnach Treorci wedi achub ar y cyfle i drefnu am y tro cyntaf raglen liwgar ac amrywiol i ddathlu'r achlysur a honno'n ymestyn dros ddau ddiwrnod. I ddechrau, aeth llawer o siopau ati i addurno eu ffenestri yn drawiadol o chwaethus a braf oedd gweld y Ddraig Goch yn cyhwfan yn falch uwchben nifer fawr ohonynt. Amlygwyd cynnyrch Cymraeig yn ffenestri'r siopau a sicrhaodd nifer o'r llefydd bwyta fod danteithion traddodiadol Gymreig ar gael.

Ar ddydd Sadwrn, 2 Mawrth cafwyd nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys ffair fach, marchnad dan do yng Nghlwb y Bechgyn a'r Merched a chôr o dan gyfarwyddyd Rhiannon Williams-Hale yn perfformio caneuon traddodiadol. Yn ogystal, roedd cyfle i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i alw heibio yn y Lion a'r Llyfrgell am sgwrs anffurfiol a bu tîm Radio Rhondda wrthi'n brysur drwy'r dydd yn ychwanegu at yr hwyl. Gan taw dyma'r flwyddyn gyntaf roedd lle i wella ar rai o'r trefniadau ond deuparth gwaith ei ddechrau ac rydym yn siwr y bydd modd elwa ar brofiad eleni wrth drefnu i'r dyfodol. Mae'r syniad o gynnal gŵyl o'r fath yn un gwych ac yn sicr o ddod â budd diwylliannol a masnachol i'r dref. Golygodd y cwbl gryn dipyn o waith i'r trefnwyr ac maen nhw'n haeddu clod mawr am eu hymdrechion. Does ond gobeithio y bydd y syniad yn cydio ac y bydd trefi eraill o fewn y sir yn mynd ati i efelychu menter lwyddiannus Treorci. Yn wir, mae'n esiampl i lawer o drefi ein gwlad gan ddangos bod gŵyl ddiwylliannol o'r fath yn gallu esgor ar ffyniant economaidd. Gol Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

2


ELWYN THOMAS ARLUNYDD

Cymdeithas Gymraeg Treorci

Ganed Elwyn Thomas yn Tylorstown yn 1932 ac ar ôl astudio celf yng Ngholeg Celf Caerdydd, bu’n

drosodd i dud 4

Y gwleidydd o Dori, Dr Felix Aubel oedd y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Mawrth o'r Gymdeithas, ond nid gwleidyddiaeth oedd maes ei ddarlith. Yn rhan gyntaf ei anerchiad soniodd am ei gefndir a'r dylanwadau a fu arno. Dechreuodd drwy sôn am ei enw a hanes diddorol ei dad a gafodd ei fagu o dan amgylchiadau anodd iawn yn Slofenia cyn dod yn ffoadur i Aberdâr maes o law. Aeth ymlaen i drafod dylanwadau'r capel, cymeriadau'r ardal, ei ysgolion a'i goleg cyn mynd ymlaen i sôn am rai o'i brofiadau yn weinidog yn Aberaeron a Threlech. Dywedodd sut y datblygodd ei ddiddordebmewn hanes yn Ysgol Rhydfelen ac wedyn ym Mhrifysgol Llambed a bod hynny wedi esgor ar ddiddordeb mewn hen greiriau ac antiques. Yn ail ran y noson bu wrthi'n trafod amrywiol wrthrychau yn perthyn i'r aelodau, gan gynnwys hen lestri, pistol a ffon. Soniodd am hanes ac awgrymu gwerth y gwrthrychau hynny ac adrodd nifer o hanesion diddorol am sut roedd gwerthwyr hen bethau yn gallu twyllo. Rhybuddiodd y gynulleidfa rhag gwerthu aur, er enghraifft, i brynwyr sy'n digwydd galw yn y cartref gan ddweud eu bod yn annhebygol iawn o dderbyn gwir werth yr antique ganddynt. Yn yr un modd, dywedodd ei bod yn ofynnol i fod yn ofalus iawn gyda diemwntau a gemau tebyg wrth roi modrwyau a thlysau i emyddion i'w trwsio. Roedd y noson o dan lywyddiaeth Parch Cyril Llewellyn yn un hynod lwyddiannus ac edrychir ymlaen at gyfarfod olaf y tymor, sef cyngerdd yn Hermon ar 28 Mawrth gan Barti'r Efail. Croeso i bawb.

Y GORNEL IAITH

P'un sy'n gywir - eu gilydd neu ei gilydd? Dim ond yr ail, dwi'n ofni. Camgymeriad cyffredin iawn yw 'sgrifennu, 'Gwelodd y ddau blentyn eu gilydd yn y dre'. Enw unigol yn golygu 'cyfaill, cydnabod, cydymaith' oedd 'cilydd yn wreiddiol. a dylai'r ffurf 3 pers. unigol 'ei' ei ragflaenu bob amser. Felly, dylid bod wedi 'sgrifennu, 'Gwelodd y ddau blentyn ei gilydd yn y dre'. Peidiwch BYTH â 'sgrifennu 'EU GILYDD'!

Pa dreiglad sy'n dilyn 'mor'? P'un sy'n gywir = mor lawn neu mor llawn? Ateb. Dilynnir 'mor' bob amser gan dreiglad meddal ond NI DREIGLIR 'll' a 'rh'. Felly, 'mor dda', 'mor wych' a 'mor garedig' ond 'mor rhad' a 'mor llawen''.

3


ELWYN THOMAS ARLUNYDD parhad

athro yng Nghaint cyn dod yn bennaeth ar yr Adran Gelf yn Ysgol Ramadeg Ferndale. Ar ôl ymddeol yn 1987, bu'n brysur iawn yn arlunio gan ddefnyddio acrilig yn brif gyfrwng er ei fod hefyd yn defnyddio dyfrlliw a chyfryngau cymysg o dro i dro. Hefyd, ar ôl ymddeol, aeth ati i ddysgu Cymraeg o ddifrif, ac erbyn hyn mae'n ei siarad yn rhugl ac yn helpu eraill i'w dysgu. Fel artistiaid eraill o'r ardal, megis Ernie Zobole a Charles Burton, sy'n gyfoeswyr iddo, cafodd Elwyn ei ysbrydoliaeth yma yn y cymoedd, fel yr esboniodd mewn cyfweliad â'r Gloran. "Balchder yn fy ngwreiddiau yng Nghwm Rhondda, ei phentrefi a’i thirwedd, a fu’n ffynhonnell gref, wedi fy ysbrydoli, yn anad dim, ym maes celf ers fy nyddiau cynnar fel cyw-athro hyd at heddiw.

Yn naturiol ddigon, ceir yma yng nghymoedd y Rhondda Fach a’r Fawr y nodweddion arferol sy’n diffinio cwm, sef bryniau serth, llethrau mynydd, heolydd cul a throellog ac, wrth reswm, resi o dai teras a chapeli. Gan amlaf, mae’r tir yn goruchafu tra bod yr awyr yn llai arwyddocaol yn fy ngwaith. Mae’r modd y nodweddion hyn yn gwau yn tanio’r dychymyg ac ysgogi syniadau a chyfleoedd di-ri i unrhyw arlunydd. Yn ogystal, mae’r elfen ddynol yn rhan bwysig yng ngwaith arlunydd ac o bryd i’w gi-

4

lydd rwyf yn cyflwyno’r elfen honno i ychwanegu bywiogrwydd at fy lluniau.

Wrth fy ngwaith nid wyf yn ymwybdol o arddull ond yn paentio yn y ffordd orau y gallaf. Yn bennaf, rwyf yn gweithio gydag acrylics ond weithiau defnyddio cymysgliw, pastel, inc, craeon a dyfrliw. Yn gyffredinol rwyf yn cyfyngu fy hun i dim ond ychydig o liwiau.

Fel athro celf am flynyddoedd lawer, a thu hwnt i’r dosbarth, fe gefais flas mawr ar gelf yn ei chyfanrwydd, yn enwedig celf sydd, yn ei hanfod, yn adlewyrchu’r cwm sydd yn annwyl i mi. Diau fod fy ymweliadau cyson a’r Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, gyda’m brawd a’m rhieni, pan yn ifanc oedd sail fy niddordeb mewn paentio. Cofiaf, yn arbennig, gweld lluniau Syr Kyffin Williams a Frank Brangwyn. Fy mrawd Mansel, sy’n byw yn Awstralia, yn mwynhau paentio o hyd er bod meddygyniaeth oedd ei lwybr gyrfa. Yn wir, mae arnaf ddyled fawr i’m rhieni." Mae gwaith Elwyn Thomas i'w weld yn gyson mewn nifer o orielau celf, gan gynnwys y Washington, Penarth, Oriel Heol Albany, Caerdydd, y Parc Treftadaeth, Trehafod ac Oriel Giles, Pontyclun. Gallwch hefyd weld ei waith ar y we ond ichi gwglo 'Elwyn Thomas, Rhondda Artist'.


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Llongyfarchiadau twymgalon i Mrs Eleanor Jones, gynt o Deras St. Albans sydd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 97 oed yn ddiweddar. Mae Mrs Jones yn ddiacon yng nghapel Blaen-ycwm ond ar hyn o bryd wedi ymgartrefu yng Nghartref Gofal Mill View, Ystrad Rhondda. Mae ei holl ffrindiau'n dymuno'n dda iddi i'r dyfodol.

Ddechrau'r mis cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan Gwmni Pwll Nofio Treherbert. Pwrpas y cyfarfod oedd rhoi adroddiad i'r gymuned ar gynlluniau'r Cwmni yn sgil y penderfyniad i ddymchwel y pwll nofio. Yn ei hadroddiad, cyhoeddodd y cadeirydd, Janet Todd-Jones fod y cyfarwyddwyr wedi penderfynu dirwyn y cwmni i ben. Byddant yn dosbarthu'r cyfan o'r arian sydd yn weddill i wahanol fudiadau yn yr ardal. Bydd y rhain yn cynnwys y chwe ysgol gynradd a iau, Clwb Bechgyn a Merched Treherbert. y mini-rygbi a chymdeithasau henoed Blaenrhondda a Threherbert. Yn ogystal, bydd rhodd yn cael ei gyflwyno i un o bencampwyr ifanc Cwm

Rhondda sy'n paratoi'n ddiwyd ar hyn o bryd ar gyfer Gemau'r Gymanwlad a gynhelir yng Nghaeredin, Yr Alban y flwyddyn nesaf.

Ar ddiwedd mis Mawrth, bydd CwmN, sef partneriaeth Cymunedau Cyntaf ward Treherbert yn dod i ben fel sefydliad cwbl annibynnol. Sefydlwyd CwmNi un mlynedd ar ddeg yn ôl a dros y blynyddoedd mae wedi bod yn gyfrifol am drefnu llawer o ddigwyddiadau er budd y gymuned a chynnig llawer o help i fudiadau ac uniglion lleol. Mae'r staff presennol a'u rhagflaenwyr yn haeddu clod a llawer o ddiolch am eu holl waith. Erbyn Ebrill bydd Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Treherbert yn ymuno â chlwstwr ym mlaenau'r Rhondda Fawr a fydd yn cynnwys wardiau Treherbert, Treorci (Cwmparc), Y Pentre ac Ystrad Rhondda.

Nos Iau, 28 Chwefror cynhaliwyd noson i ddathlu Gŵyl Ddewi yng nghapel y Wesleaid. Roedd y noson o dan lywyddiaeth Mr Michael Harris a chafwyd adloniant cerddorol gan Ann a Tony Kingsbury. Yn ôl yr arfer cafwyd cawl a

phice-ar-y-ma'n i orffen a chyfle i bawb gymdeithasu a chafodd pawb noson wrth eu bodd.

Ns Sul, 3 mawrth, eto yng nghapel y Wesleaid, cynhaliwyd gwasanaeth dan ofal y Brownies lleol gyda Mrs Beverly Fletcher yn arwain. Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i wrando ar ddarlleniadau o'r ysgrythur, darnau o farddoniaeth a chael cyfle i ganu detholiad o emynau cymraeg priodol ar gyfer adeg Gŵyl Ddewi.

TREORCI

Bu farw Wynne Vaughan, gynt o Stryd Caerdydd ond bellach o Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd Wynne yn gyfarwyddwr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf ac yn uchel iawn ei barch yno. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Da yw gweld y bydd Iceland yn agor eu siop newydd ar Sgwâr y Stag ar 20 Mawrth. Mae'r cwmni hwn a sefydlwyd yng ngogledd Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae pawb y dymuno'n dda ir fenter newydd yn Nhreorci.

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Pob dymniad da i Mr Elwyn Lewis, Woodland Vale, sydd yn Ysbyty Cwm Rhondda ar hyn o bryd ac i Mrs Clarice Lewis, Stryd Senghennydd sydd gartref bellach ar ôl treulio cyfnod yn yr un ysbyty.

Nos Iau , 21 Mawrth bydd Pwyllgor Cancer UK Treorci yn cynnal noson 'Dirgelwch y Llofruddiaeth' yn nhafarn y RAFA. Mae cynnal noson o'r fath lle mae'r gyulleidfa'n ceisio dod o hyd i'r 'llofrudd' yn fenter newydd i'r pwyllgor ond mae'r holl docynnau wedi eu gwerthu'n barod a phawb yn edrych ymlaen at noson gyffrous. Daw tymor llwyddian-

5


nus Cymdeithas Gymraeg Treorci i ben nos Iau, 28 Mawrth pan fydd Parti'r Efail yn cyflwyno cyngerdd. Arweinydd y Parti yw Menna Thomas, y mae ei mam, Gwenfydd Williams gynt, yn hanu o Dynewydd. Cafodd y parti hwyliog hwn lwyddiant mawr mewn eisteddfodau ac mae pawb yn edrych ymlaen at noson yn eu cwmni. Croeso i bawb. Mynediad yn rhad ac am ddim.

Blin oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Araul Taliesin Skym, Stryd Caerdydd, person adnabyddus iawn yn yr ardal. Cydymdeimlwn â'i weddw, Vera a Paul yn eu hiraeth. Cofiwn hefyd am

6

deulu Jean Gay, Stryd Fawr, yn enwedig ei phriod, Dennis.

Cynhaliwyd cyfarfod Dydd Gweddi Bydeang y Chwiorydd yn eglwys Bethlehem ar Ddydd Gŵyl Dewi. lluniwyd y gwasanaeth eleni gan chwiorydd o Ffraic ar y thema 'Bûm yn ddieithr a rhoesoch i mi groeso'. Y siaradwraig wadd oedd Mrs Gwen Emyr, Caerdydd ac arwiniwyd y gwasanaeth gan Mrs Ann Davies (Bethlehem) Roedd y trefniadau dan ofal Mrs Janice Harris. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Shirley Morgan, Stryd Tynybedw, yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd

yn ddewr a derbyn gofal cariadus gan ei gŵr , Ieuan. Cydymdeimlwn ag ef yn ei golled a hefyd â'i meibion, Greg a Kevin a'u teuluoedd. Llongyfarchiadau calonnog i Mr Tom Hughes, Stryd Dumfries ar ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed y mis diwethaf. Mae Tom yn dal i fod yn hynod o sionc ac yn mwynhau mynd am dro gyda'i wraig, Ellen, bob dydd. Mae ei holl ffrindiau yn dymuno iddo iechyd a hapusrwydd i'r dyfodol. Un arall sy'n cyrraedd carreg filltir nodedig yn fuan yw Mr Albert Stubbs, gynt o Stryd Dumfries ond bellach o gartref gofal Ystrad-

fechan, a fydd yn 100 y mis hwn. Mae meddwl Albert mor fyw ag erioed ac mae ei holl ffrindiau yn gobeithio y caiff ddiwrnod i'r brenin wrth ddathlu.

Yn ôl eu harfer, cynhaliodd aelodau Sefydliad y Merched swper i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Mwynhaodd pawb noson o adloniant dan ofal yr Adran Berfformio a rhaid diolch i bawb a weithiodd mor galed i sicrhau llwyddiant y noson. Llongyfarchiadau i Judith ac Alan James, Stryd Bute sy newydd ddathlu eu priodas aur. I ddathlu'r achlysur aeth y ddau i'r Gran Canaria a;n dymuniad ni oll yw y


cânt iechyd a phob hapusrwydd i'r dyfodol.

Llongyfarchiadau i Hannah Duncan, Stryd Regent ar ennill gradd 2.1 ym Mhrifysgol Morgannwg. Ar yr un pryd, dymunwn adferiad llwyr a buan i'w mam, Margaret sydd wedi torri ei bigwrn!

Yr un yw ein dymuniad, sef 'Brysiwch i Wella' i Marilyn Jones, Stryd Rees sydd newydd dderbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Da yw deall ei bod gartref erbyn hyn ac yn gwella.

CWMPARC

Mae David Williams a Beverley Jones, Heol Conway, wedi cael merch, Ruby Niamh Williams.  Cafodd hi ei

geni ar 14 Chwefror.  Chwaer fach i Caitlin (8), sy'n mynd i Ysgol Gynradd y Parc. Croeso i'r newydd-ddyfodiad a llongyfarchiadau i'r teulu..

Mae Cymdeithas Rieni Athrawon newydd yn dechrau yn Ysgol y Parc.  Mae'r rhieni'n gobeithio cydweithio â Mr. David Williams, prifathro, a'r staff er mwyn i codi arian ar gyfer yr ysgol.  Y flaenoriaeth gyntaf yw offer ar gyfer y maes chwarae.  Mae Mr. Williams eisiau prynu offer ar gyfer datblygu ymarfer corff i'r plant. Ar hyn o bryd, dydyn nhw ond yn chwarae pêl droed ar yr iard bob dydd. Roedd rhieni Dewi Kinsey, Heol Conway, yn sicr, wedi dewis enw pri-

odol iddo gan ei fod yn dathlu ei ben-blwydd ar ddydd Gwyl Dewi.  Mae Dewi, sy'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gymraeg Ynyswen, yn ddisgybl bellach yn Ysgol Gyfun Treorci. Pob hwyl iddo am fod ganddo reswm dwbl dros ddathlu ar ddydd ein nawddsant.

Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth un o drigolion hynaf yr ardal, sef Mr Roy Jeremiah, Stryd Tallis. Roedd yn ŵr siriol a chymdeithasgar y gwelir ei eisiau. Cyflwynwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w fab, Philip, ei ferch-yngnghyfraith, Pat a'i wyres, Abigail.

Y PENTRE

Llongyfarchiadau i'n gohebydd Dr Anne Brooke

ar ddathlu pen blwydd nodedig yn ddiweddar. Mae hi gartref yn Norfolk, Virginia ra hyn o bryd ac ar 21 Chwefror cafodd gyfle i ddathlu yng nghwmni ei dwy chwaer a'i brawd yng nghyfraith. Mae ei holl ffrindiau yn yr ardal hon, ynghyd ag aelodau Hermon, Treorci yn ei llongyfarch, yn dymuno'n dda iddi i'r dyfodol ac yn gobeithio y bydd nôl yn ein plith cyn bo hir.

Bu farw Michael Pugh, Stryd Volunteer, ac yntau'n 63 oed, yn dilyn salwch hir a ddioddefodd yn ddewr. Er iddo gael strôc wyth mlynedd yn ôl, llwyddodd Mike i gadw'n siriol a byw ei fywyd orau a fedrai. Roedd yn grefftwr medrus a weithiodd trwy gydol ei fywyd yn adran

7


amgylchedd y Gwasanaeth Sifil ac am gyfnod i CADW sy'n gofalu am adeiladau pwysicaf Cymru a Lloegr. Bu'n un o'r tîm weithiodd i adfer Castell Windsor yn dilyn tân rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn hoff iawn o rygbi ac yn un o gefnogwyr selog Clwb Treorci. Yn genedlaetholwr pybyr, safodd fel ymgeisydd dros Blaid Cymru yn y Pentre. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i weddw, Marilyn, ei ferch, Bronwen a'i gŵr, Gavin, ynghyd â'i wyresau Grace, Emily a Holly a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Deallwn fod Jessie Merrit o Dŷ'r Pentre ar hyn o bryd ac ynunwn â phawb yn y Tŷ a'i holl ffrindiau i ddymuno iddi adferiad buan. Brysiwch adre!

Roedd yn flin calon gan aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth a phawb yn y gymuned dderbyn y newyddion bod Major a Mrs Westwood yn symud o'r Pentre i ofalu am encadlys y Fyddin yn Abertawe. Mae pawb am ddiolch iddynt am yr holl waith a wnaethant yn y Pentre ac am eu harweiniad brwd. Dymunwn iddynt bob bendith a llwyddiant yn eu swydd newydd.

8

Cynhelir cyfarfod PACT yn gyson yn Llys Nazareth lle y trafodir problemau lleol. Er enghraifft, problem parcio ar hyd Stryd Llywelyn oedd y pwnc llosg. Mae'r cynghorwyr lleol, Mau-

reen Weaver a Shelley res-Owen bob amser yn bresennol ynghyd â'n Swyddog Heddlu Atodol, Stephen Pike. Am ragor o wybodaeth neu i godi unrhyw broblem, gallwch gysylltu â Stephen ar 07805301092.

Bob nos Fercher rhwng 3.30 - 7.15pm, cynhelir Chwarae Plant ar Barc y Pentre ac estynnir croeso i blant o bob oedran i gyfranogi o chwareaon amrywiol yn ôl eu diddordeb. Trefnir sesiynau arbennig adeg y Pasg, eto ar ddydd Mercher ond rhwng 11a.m. 1p.m. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy ffonio Ben Greenway ar

Mae preswylwyr Llys Siloh am ddymuno'n dda i'w Warden, Diane sy'n mynd i Tenali, India gyda thîm o Eglwys Oasis o dan arweiniad bgail yr eglwys, Jeff Evans. Byddant yn ymweld â chartref henoed yn Sekura, yn cenhadu yn y pentrefi, ac yn gweld ffynhonnau a noddwyd trwy arian a gasglwyd ar daith gerdded elusengar yr haf diwethaf. Byddant hefyd yn ymweld â phrosiectau REPA INDIA sy'n gwella safonau byw ac a gefnogir gan yr eglwys. Wrth fynd, mae Diane am ddiolch i breswylwyr y Llys a Chymdeithas Tai Aelwyd am gyfrannu dillad ac offer a hefyd i Siop Elusen y Pentre am anrheg hael o deganau meddal. Bydd rhain oll ynderbyn croeso mawr

gan rai o gymunedau tlota'r byd.

Llongyfarchiadau gwresog i Cyril a Meryl Hoskins, Stryd Carne oedd yn dathlu eu priodas ruddem ar 3 Mawrth. Ar ôl mwynhau 40 mlynedd o fywyd priodasol hapus, mae eu ffrindiau yn dymuno iddynt iechyd a hapusrwydd i'r dyfodol. Cafodd Meryl achos dwbl i ddathlu am fod ei phenblwydd ei hun y diwrnod cynt, 2 Mawrth. Dymunwn ben-blwydd hapus iawn i Sheila a Marie Bennet, Stryd Robert sydd, ill dwy, yn dathlu eu pen-blwydd y mis hwn. Pob dymuniad da iddynt i'r dyfodol. Dros gyfnod y Grawys cynhaliwyd bore cawl a bara bob dydd Gwener yn y Capel Cynulleidfaol. Paratowyd y lluniaeth gan wragedd yr eglwys gyda'r arian yn mynd at achos da.

Bu nifer o deuluoedd yn yr ardal mewn profedigaeth yn ystod yr wythnosau a aeth heibio. Cofiwn am y teuluoedd a ganlyn gan estyn iddynt ein cydymdeimlad cywiraf: Teuluoedd y diweddar John Williams, Stryd yr Eglwys, Jeff Brown, Maendy Rd ac Eirwen Kendall, King St. Roedd yn ddrwg iawn gan holl breswylwyr Tŷ Ddewi dderbyn y newyddion am far-

wolaeth Mrs Donna Hedditch ar 10 Chwefror. Yn frodor o'r Rhondda Fach, symudodd i Don Pentre rai blynyddoedd yn ôl. Yn 86 oed, Donna oedd un o breswylwyr hynaf Tŷ Ddewi, ond chwaraeodd ran lawn yng ngweithgareddau cymdeithasol y gymuned. Gwelir ei heisiau yn arbennig yn Eglwys Sant Ioan lle roedd yn aelod ffyddlon. Cydymdeimlwn â Paul, Geraint, Deborah a'r teulu oll yn eu colled.

Un arall o breswylwyr gweithgar Tŷ Ddewi yw Jean Vaughan sydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o ryd. Dymunwn iddi bob cysur ac adferiad buan. Mae Jean, hithau, yn aelod ffyddlon yn Eglwys Sant Ioan lle mae'n weithgar gydag Undeb y Mamau a hefyd yn y gangen leol o Sefydliad y Merched (WI). Cofiwn yn ogystal am ei gŵr, George, a fu am flynyddoedd yn gigydd yn Y Gelli, sydd ar hyn o bryd hefyd yn yr ysbyty. Am beth amser, bu trigolion yr ardal yn poeni am effaith cau gorsaf yr heddlu a bu aelodau o bob plaid yn cydweithio i drio gwella'r sefyllfa. Yn sgil yr holl brotestio cafwyd datganiad gan Alun Michael, Y Comisiynydd Heddlu a'r Prif Gwnstabl, Peter Vaughan yn dweud y bydd cymhorthfa leol yn cael ei chynnal bob bore Sadwrn rhwng 10 12a.m. lle y bydd modd


TON PENTRE A’R GELLI parhad i'r cyhoedd drafod problemau lleol â'r heddlu. Dywedodd y Cyng. Paul Cannon, sy'n gynblismon ei hun, y bydd

hyn yn mynd rhan or ffordd i ateb gofidiau pobl leol.

9


Cerdd/ed - Menter Gerddorol Newydd yn Nhreorci

Ers peth amser mae cyfansoddwr ifanc, Amble Skuse, sydd â'i gwreiddiau yn y Rhondda, wedi bod yn gweithio ar brosiect hanes lleol gyda disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen. Tŷ Cerdd sy'n noddi'r fenter sy'n ceisio cysylltu'r plant â'u cymuned leol a cheisio defnyddio cerddoriaeth i ddeall ei hanes. Y nod yw creu darn o gerddoriaeth wedi ei seilio ar hanesion am yr ardal a chael y plant wrth gerdded o gwmpas i werthfawrogi'r gwahanol synau

Amble Skuse

Er i Amble Skuse gael ei geni a'i magu yn Nyfnaint, daw teulu ei mam o Gwm Clydach yn y Rhondda. Derbyniodd ei haddysg gerddorol yng Ngholeg Celf Dartington a Phrifysgol Spa Caerfaddon lle yr arbenigodd ar ganu'r ffliwt a chyfansoddi. Ar hyn o bryd mae hi'n byw yng Nghaeredin yn yr Alban. Ei diddordeb mawr syniadol yw'r modd y daw'r gorffennol a'r dyfodol ynghyd i ffurfio'r presennol a'r cysylltiad rhwng iaith, hil a hunaniaeth. Bu'n gweithio gyda

a glywant a'u defnyddio'n rhan o'r cyfansoddiad gorffenedig. Bydd y darn gorffenedig ar gael yn rhan o daith gerdded a greir yn rhan o'r prosiect. Treorci yw lleoliad y prosiect cyntaf mewn cyfres o rai tebyg ledled Cymru ac mae Band y Cory yn mynd i gymryd rhan a gyda'r plant byddant yn perfformio darn fydd yn cael ei chwarae yn nathliadau canmlwyddiant Theatr y Parc a'r Dâr ar 8 Mehefin.

brodorion yn Hondiwras a Guatemala yn America Ganol yn datblygu'r syniadau hyn. I gyflawni ei gwaith yma yng Nghymru bu wrthi'n dysgu'r Gymraeg a dyna'r iaith mae hi wedi ei defnyddio gyda phlant Ynyswen. Gyda'i diddordeb mewn cerddoriaeth electronig, mae'r noson yn y Parc a'r Dâr yn argoeli fod yn un ddiddorol iawn a phawb yn edrych ymlaen ati.

!"#$%& (#)%)* ' +

,-.. /0123 892:*;042567 <=2>#" &)#62 )%&

4?;-;0 -6@

10


Plant Ynyswen yn mwynhau nodi’r sgôr cerddorol mewn ffurfiau graffeg

11


Ysgol Gyfun Cymer Rhondda

CYNGERDD GALA YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Roedd pawb yn mwynhau noson o dalent gorau Cwm Rhondda yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda ar nos Iau, 28ain o Chwefror. Yn gwmni i G么r y Cymer bydd C么r Meibion Pendyrus a'r unawdydd Mark Evans.

EISTEDDFOD 2013

Ar Fawrth 1af cynhaliwyd Eisteddfod fawreddog Y Cymer yng Nghanolfan Hamdden y Rhondda Fach a chafwyd gwledd o dalent ar y llwyfan. Enillydd Cadair yr Adran Gymraeg oedd Shauna Owen a Matthew Berry enillodd Cadair yr Adran Saesneg. Cipiodd Livia Jones Bl 9 y wobr am Gerddor yr Ysgol Isaf am y trydydd tro yn olynnol, ac Elis James o Flwyddyn 10 enillodd gwobr Cerddor yr Ysgol Uchaf. Llys Englyn oedd y llys buddugol y tro hwn. Diolch o galon i holl ddisgyblion yr ysgol am yr oriau o baratoi ac am rannu eu talentau lu!

Ysgol Gyfun Cymer Rhondda

12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.