Ygloranmawrthebrill

Page 1

y gloran

Sefydlwyd Caffi'r Stag, Treorci gan deulu Carpanini ar ôl y rhyfel a bu aelodau o'r teulu hwnnw ynghlwm wrth y busnes tan iddynt ei werth ryw flwyddyn neu fwy yn ôl. Y perchen newydd yw Geraint Hughes, brodor o Dreorci, sy'n fab i Meurig a Susan Hughes, Stryd Tynybedw. Mae Geraint yn gyfreithiwr llwyddiannus iawn, ond er ei fod yn byw yn Singapore, dyw e ddim wedi anghofio ei wreiddiau yn y Rhondda. Yn barod, mae e wedi sefydlu dwy ysgoloriaeth yn Ysgol Gyfun Treorci lle y derbyniodd ei addysg cyn mynd ymlaen i Brifysgol Llundain. Mae'r naill ysgoloriaeth ar gyfer y disgybl â'r canlyniadau Safon A gorau, a'r llall yn cael ei dyfarnu i'r disgybl a wnaeth y cyfraniad cyffredinol i fywyd yr ysgol.

Prynu'r Caffi Ar un o'i ymweliadau cyson â'r ardal, gwelodd Geraint a'i wraig fod Caffi'r Stag ar werth a phenderfynu ei brynu. Gan fod cysylltiadau agos gan y teulu â Threfdraeth [Newport], Sir Benfro, daeth a thîm o seiri medrus iawn o'r ardal honno i weithio ar y fenter newydd. Ers blwyddyn, bu tîm o bedwar o Gymry Cymraeg Sir Benfro a Sir Aberteifi wrthi'n trawsnewid y caffi. Mae eu creftwaith o safon arbennig a phan orffenir y cwbl, bydd yn werth ei weld. Bwriedir iddo adlewyrchu hanes yr ardal ac un o'i brif nodweddion yw'r lluniau sy'n

20c

CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD WEDD

dangos gwahanol agweddau ar ddiwylliant a diwydiant y Rhondda sy'n addurno'r welydd. Ar un wal mae hen hysbyseb anferth oedd yn eiddo i gwmni pop Thomas & Evans. Yn ryfedd iawn, mae'r ifancaf o'r gweithwyr sy wedi bod wrthi yn y caffi yn hanu o deulu Wiliam Evans, y gŵr mentrus hwnnw a ddaeth i'r Rhondda o Sir Benfro a sefydlu cwmni ewog Corona.

Creu Swyddi Mae Geraint Hughes yn awyddus i greu gwaith yn yr ardal. Ei fwriad yw agor caffi a fydd yn cyn-

nig bwyd safonol ac a fydd yn datblygu'n ganolfan gymdeithasol yn ogystal. Bydd y caffi hefyd yn darparu cyfleusterau gwely a brecwast a bydd tair ystafell chwaethus en suite ar gael ar gyfer gwesteion. Mae hyn yn rhywbeth y mae ei angen yn fawr ar yr ardal a bydd yn gaffaeliad i Dreorci.

Un peth arall sy'n bwysig i'r perchnogion newydd yw creu naws Gymreig a Chymraeg ac oherwydd hynny, maen nhw am ddenu staff sy'n medru'r iaith. Mae Geraint yn pwysleisio

nad oes angen profiad blaenorol ac felly, os ydych chi'n egniol, yn ddwyieithog, yn gyfeillgar ac yn hoffi ymwneud â phobl, mae croeso ichi gynnig am swydd. Dylid anfon eich CV at catherine.hughes@mac. com

Yn y llun mae Geraint Hughes yn sefyll ar y chwith yn y cefn gyda Jason Davies [Trefdraeth]. Yn y rhes flaen [o'r chwith] Dyfed Wlliams [Trefdraeth], Joseff Thomas [Llanrhian] ac Aldwyn Griffiths [Plwmp a Threfdraeth]


golygyddol l YR ECONOMI A PHROBLEMAU PARCIO

Un o broblemau mwyaf trefi a phentrefi'r cymoedd hyn yw parcio. Gyda'r nos mae pob stryd yn orlawn o geir, a phobl, mewn rhai achoson, yn ffraeo dros lefydd parcio. Oherwydd diffyg swyddi ym mlaenau'r cymoedd, rhaid i'r mwyafrif deithio i'w gwaith ac nid yw'n anarferol i deuluoedd orfod cael tri neu bedwar car er mwyn caniatáu i rieni a phlant ddal i weithio. Gan nad yw'r Cyngor yn gallu mabwysiadu pob

2

gwli, nid yw'n bosib i drigolion bob amser barcio y tu ôl i'w tai, hyd yn oed os oes garej neu fan parcio ar gael, ac o ganlyniad does dim dewis ond parcio ar y stryd. Rydyn ni'n ffodus yn Nhreorci a Threherbert bod llawer o'r strydoedd yn llydan oherwydd cynllunio gofalus ystad teulu Bute. Ond hyd yn oed wedyn gall fod yn anodd i gerbyd mawr fel injan dân, lori ludw neu ambiwlans weu ei ffordd rhwng dwy res o geir yn ein strydoedd. Mewn rhai ardaloedd mae'r Cyngor yn gwei-

Cynllun gan High Street Media

2016 y gloran mawrth/ebrill

YN Y RHIFYN HWN

Caffi Stag..1-3 Golygyddol...2 Alun Hughes Davies...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Swyddfa Post/Byd Bob ..6-7 Plentyndod...10 Ysgolion...11-12

thredu system o werthu trwyddedau parcio i breswylwyr, ond nid yw'r system honno heb ei phroblemau. Gan fod pawb sy'n gwneud cais yn gallu hawlio trwydded, yn aml gwerthir mwy o drwyddedau nag sydd o lefydd parcio. Mae hyn yn gallu arwain at anghydfod rhwng cymdogion. I wneud pethau'n waeth, mae rhai

yn gwrthod talu am drwydded ond yn dal i barcio o flaen eu tai. Y canlyniad yw bod y rheiny sy wedi talu am drwydded yn cwyno eu bod yn cael eu trin yn annheg ac yn galw ar y Cyngor i gosbi'r troseddwyr. Gall hyn, wrth gwrs, arwain at wrthdaro rhwng cymdogion - sy'n bris mawr i'w dalu. Erbyn hyn mae swyddogion traffig Rh.C.T. a'r heddlu'n cydweithio i ddal pobl sy'n anwybyddu'r rheolau a deddf gwlad. Pris trwydded yw £10 y flwyddyn, ond os delir rhywun yn parcio'n anghyfreithiol bydd rhaid talu dirwy o £70. Yn yr achos hwn, mae'n amlwg ei bod yn talu i fod yn onest! Mae'n anodd gwybod beth yw'r ateb gan fod cymaint, os nad mwy o broblemau'n codi yn y


strydoedd lle mae system o trwyddedu mewn grym ag yn y rhai hebddi. Byddai gwella'r gwasanaeth bysys yn help, fel y byddai mabwysiadu mwy o gwlis i alluogi pobl i godi garejys yn eu gerddi cefn - ond breuddwyd gwrach yw hynny yn y tymor byr. Yr ateb gorau fyddai darparu mwy o swyddi'n lleol fel na fyddai rhaid teithio, ond hyd yma does dim un o'r pleidiau wedi llwyddo i wneud hyn. Gydag etholiad y Cynlulliad a refferendwm Ewrop yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf, dylem ystyried yn ddwys beth fydd effaith ein pleidlais ar yr economi leol gan y gallai datrys y broblem honno ein helpu i ddatrys nifer o broblemau lleol eraill gan gynnwys parcio yn ein strydoedd.. Gol.

Stryd Tynybedw Treorci

Heol Bronllwyn Y Gelli

3


oedd yn gefnogwr brwd o dîm rygbi Treorci, ac wrth gwrs, dîm cenedlaethol Cymru - a gallai fod yn feirniadol iawn os nad oeddent yn ennill. Yr oedd yn hoff o ganu. Bu'n aelod o Gymdeithas Gorawl Treorci a'r Cylch o'r cychwyn, a bu'n ysgrifennydd diwyd arni am flynyddoedd lawer. Yr oedd ganddo lais baswr cyfoethog ac roedd ei lais melodaidd yn cyfoethogi nid yn unig y côr ond hefyd caniadaeth y cysegr yn ei gapel. Codwyd Alun yng nghapel Bethlehem, nid nepell o'i gartref yn Prospect Place a bu'n aelod ffyddlon yno ar hyd ei fywyd. Etholwyd ef yn flaenor yn yr eglwys yn1974 a bu'n drysorydd am flynyddoedd. Rhoddodd wasanaeth clodwiw i'r eglwys, yr oedd ei ffyddlondeb yn ddiarhebol arhoddodd ei gefnogaeth lwyr i bob gweinidog. Meddai ar argyhoeddiadau Cristionogol pendant ac roedd ganddo ffydd ddiysgog yn Iesu Grist a'i cariodd trwy stormydd bywyd. Colled enbyd oedd marwolaeth Karan eu merch, yn wraig ifanc. Ei ffydd a'i cynhaliodd yn ei hiraeth. Trwy drugaredd, byr oedd ei gystudd. Cafodd bob gofal posibl gan Margaret, ei briod annwyl a holl aelodau'r teulu. Bu farw'n dawel yn ei gartref ar 4 Chwefror yng nghwmni ei deulu. Cynhaliwyd yr angladd yng nghapel Bethlehem ar 16 Anodd yw gwybod lle i ddechrau sôn am Chwefror. Arweiniwyd y gwasanaeth gan ei Alun, cymaint oedd ei ddoniau, ei ddidweinidog a chymerwyd rhan, yn ôl dymudordebau a'i gyfraniad i'w fro ei hun. niad Alun, gan Ceri Llewelyn a Harri MorDaeth allan o Goleg Normal Bangor gyda ris, ei gyd-flaenoriaid, Emily, ei wyres a Thystysgrif Dysgu Gradd A. Ar ôlcyflawni John Cynan Jones, ffrind a chydweithiwr, ei Wasanaeth Cenedlaethol milwrol, cychwrth yr organ. Chwaraeodd John hoff gerdwynnodd ar ei yrfa dysguyn Ystrad Mynach doriaeth Alun o'r oratorios gan orffen gyda cyn symud i Ysgol Eilradd Treorci, Ysgol Chorws Haleliwia Handel - teyrnged deilRamadeg Pentre ac yna i Ysgol Gyfun Trewng John i Alun. orci. Yr oedd yn athro brwdfrydig ac ysbryYr oedd Alun yn ŵr bonheddig, yn annwyl doledig gyda dawn anghyffredin i adrodd gan bawb, yn barod bob amser ei stori i gadw sylw a diddordeb ei ddisgygymwynas, ei wên siriol a'i gyfarchiad blion. Yr oedd yn gyfathrebwr arbennig. Hir llawen yn codi ein calonnau. Y mae ein cygofir am ei wasanaethau boreol yn yr ysgol. dymdeimlad llwyraf gyda'r teulu yn eu hiEi nod pennaf fel athro oedd gwneud ei orau raeth. Yr ydym bawb yn dlotach o golli i roi'r addysg orau i'w ddisgyblion i'w paraAlun ond yn gyfoethocach o' gael yn ffrind toi i fod yn ddiasyddion da. dros gymaint o flynyddoedd. Hoffai chwaraeon o bob math. Bu'n aelod o W. Cyril Llewelyn dîm pêl droed Clwb Bechgyn Treorci ac o'r Coleg Normal tra oedd yn fyfyriwr yno. Yr

ALUN HUGHES DAVIES

4


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Agorodd safle ailgylchu Treherbert ar 29 Chwefror ger cae y Baglan ac ar bwys ffatri Everest. Mae’r safle yn derbyn pob math o nwyddau yn cynnwys offer trydanol, oergelloedd ac olew. Ar hyn o bryd mae’r cyfleustra ar gyfer trigolion yn unig ond yn y dyfodol bwriedir darparu gwasanaeth ar gyfer busnesau. Mae’r cynghorwyr Treherbert a Threorci wedi bod yn brwydro dros y cyfleustra yma ers caewyd y safle ailgylchu ar bwys y fynwent yn Nhreorci.

Llongyfarchiadau mawr i Eleanor Jones o Tyn y Waun Stores yn St Albans Rd oedd yn 100 oed ar y 9fed o Fawrth. Ers rhai flynyddoedd mae Eleanor wedi ymgatrefiu yng nghatref nyrsio Mill View yn Ystrad lle roedd hi’n dathlu ei phenblwydd arbennig gyda’i ffrindiau a’i theulu. Mae Eleanor yn dal i fod yn aelod yng nghapel Blaenycwm.

Mae'n flin cofnodi marwolaeth Hayden

(Bunny) Bryant a oedd yn byw yn Tŷ Ross ers rhai blynyddoedd. Roedd Bunny yn adnabyddus iawn yn Nhreherbeet ac am ddegawdau roedd e’n cadw siop bapurau yn Bute St. Cydymdeimlwn â’i ferch Janice a’r holl deulu.

Bu colledion eraill yn yr ardal yn ystod y mis gyda marwolaeth Maureen Jenkins o Wyndham St Cydymdeimlwn â’i meibion, Russell a John a’r holl deulu. Hefyd, bu farw Michael Sullivan o Abertonllwyd St. Cyn ei ymddeoliad roedd Michael yn gyrru loriau i Baileys. Cydymdeimlwn â’i wraig Margaret a’r teulu i gyd.

Cynhaliwyd arddangosfa yng nghapel Blaen-y-cwm ar 9 Mawrth i dynnu sylw at gais cynllunio ar gyfer uned hidlo y bwriedir ei hagor yng ngronfa ddŵr Tynywaun. Bydd hyn yn sicrhau bod ansawdd y dŵr yn yr ardal yn gwella, rhywbeth y bydd trigolion Treherbert yn ei groesawu'n fawr.

Mae trigolion Stryd Margaret, Tynewydd yn cwyno nad yw'r goleuadau LED newydd a osodwyd gan Gyngor Rh.C.T. yn y stryd yn rhoi digon o olau a'u bod wedi achosi rhai damweiniau. Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor fod y goleuadau yn cyrraedd y safon statudol angenrheidiol.

Bydd tafarn y Royal Oak yn cael ei werthu mewn arwerthiant a gynhelir yn ddiweddarach ym mis Mawrth. Bu'r tafarn ar gau ers peth amser ellach a bydd yn ddiddorol gweld beth fydd bwriadau'r perchnogion newydd.

TREORCI

Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion trist am farwolaeth Malcolm a Sue Wilkinson a arferai gadw'r Siop Iechyd ar y Stryd Fawr. Rai blynyddoedd yn ôl symudodd y ddau i Brora yn ymyl Inverness yn yr Alban lle y prynon nhw dyddyn ond cadwon nhw mewn cysylltiad â ffrindiau yn

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN

y Rhondda a dal i gefnogi rhai achosion yma oedd yn agos at eu calonau. Deallwn fod Sue wedi dioddef strôc anferth a bod Malcom wedi marw'n fuan ar ei hôl. Cyflwynwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w mab a'u merch. Yr artist oedd yn difyrru aelodau'r Clwb Jazz, nos Fawrth, 23 Chwef. yng Nghlwb Rygbi Treorci oedd yr actores-gantores boblogaidd, Clare Hingott. Mae talentau Clare yn gyfarwydd iawn i aelodau'r Clwb a phob amser mae hi'n cael croeso mawr i'w plith.

Y siaradwr gwadd yng nghwrdd Dydd Gweddi Bydeang y Chwiorydd a gynhali-

PARHAD ar dudalen 8

5


NEWYDDION DA AM SWYDDFA BOST TREORCI

Yn ddiweddar, bu llawer yn gofidio am ddyfodol Swyddfa Bost Treorci. Ers tro, bu trafodaethau ar y gweill yngl킹n 창 dyfodol yr Adran Ddidoli a Dosbarthu a leolir yng nghefn yr adeilad yn y Stryd Fawr gan fod posibilrwydd y bydd yr adran honno'n cael ei symud i Gwm Clydach. Hyd yn hyn, does dim penderfyniad terfynol wedi ei wneud ac mae ansicrwydd a fydd yr adran hon yn aros yn Nhreorci. Pryderai llawer y byddai colli'r adran yn peryglu dyfodol Swyddfa'r Post ei hun gan y byddai colli'r gwaith hwnnw yn gadael rhan fawr o'r adeilad yn wag ac yn achosi gostyngiad yn yr incwm i'w gynnal. 6

Fodd bynnag, mae'r cynghorwyr lleol wedi derbyn sicrwydd y bydd y swyddfa nid yn unig yn parhau ond y bydd yn cael ei chlustnodi'n un o'r prif ganghennau ffasiwnnewydd sydd i'w sefydlu gan Swyddfa'r Post. Mae'r newid hwn yn rhan o raglen bwysig o foderneiddio ar draws rhwydwaith Swyddfa'r Post, sef y mwyaf yn hanes Swyddfa'r Post Cyf. Bydd y rhaglen, sydd yn dibynnu'n helaeth ar fuddsoddiad gan y llywodraeth, yn moderneiddio 8,000 o ganghennau a cheir buddsoddiad ychwanegol mewn dros 3,000 o ganghennau cymunedol ac allgymorth (outreach). Y nod yw creu profiad siopa

mwy modern a hwylus i gwsmeriaid a fydd yn cynnwys oriau agor hirach. Beth fydd hyn yn ei olygu i gwsmeriaid? Yn y lle cyntaf, caiff y gangen ei hadnewyddu gan gynnig awyrgylch cynllun-agored modern i gwsmeriaid. Cynigir yr un cynhyrchion a gwasanaethau ond bydd yr oriau agor yn cael eu hestyn. Bwriedir agor y swyddfa ar ei newydd wedd yn y lleoliad presennol ddydd Llun 25 Ebrill 2016 am 12.30p.m. Er mwyn gwneud y gwaith adnewyddu hwn, bydd angen cau'r gangen o ddydd Sadwrn, 9 Ebrill am 12.30. tan ddydd Llun, 25 Ebrill. Os bydd rhaid newid y dyddiadau hyn, am resy-

mau na ellir eu rhagweld ar hyn o bryd, bydd posteri'n cael eu gosod yn y gangen er mwyn rhoi gwybod i gwsmeriaid am y newid. Tra bod cangen Treorci ar gau bydd rhaid defnyddio swyddfeydd eraill yr ardal. Am y cyfnod byr y bydd ar gau, bydd rhaid defnyddio swyddfa Tonypandy ar gyfer gwasanaethau megis treth y car a gwirio ac anfon pasbort. Er y bydd y newid hwn yn peri peth anghyfleustra am bythefnos, rydyn ni'n siwr y bydd pawb yn croesawu'r newyddion da bod dyfodol y gangen bwysig hon wedi ei sicrhau.


YSTYR ENW'R GLORAN

Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Mr Mike Ash, Y Pentre am anfon y darn diddorol hwn atom. Ymddangosodd mewn rhifyn o'r 'Weekly Mail' yn 1884, yn un o nifer o geisiadau i esbonio'r llysenw. Dyw'r gwirionedd ddim hanner mor lliwgar. Gan fod Ystradyfodwg yn dechrau â'r llythyren 'Y', roedd yn anorfod bod yr enw yn dod ar waelod unrhyw restr o blwyfi Morgannwg gan adel gwŷr Cwm Rhondda bob amser yn olar - ar ddiwedd y gwt! Yn y dafodiaih leol roedd yn natuiol i 'clorne' droi'n 'gloran'.

Ers cyn cof, cafodd brodorion Ystradyfodwg eu llysenwi'n 'Gwŷr y Gloren' (pobol y gwt neu gynffon). Pa gwt? Cwt pwy? Bydd y darllenydd wedi sylwi ar y fannod 'y' - y gwt a ddywedir. Mae'n amlwg felly taw cwt neu gynffon arbennig sy mewn golwg. Tra 'mod i ar Fynydd Pen-rhys, man a man i fi esbonio hanes y gwt sy wedi achosi aml i ffrwgwd mewn pentrefi tawel, am fod trigolion Ystradyfodwg, o'r hynafgwr barfog i'r sprigyn ifancaf, unwaith, os nad ar hyn o bryd, yn barod i roi crasfa i unrhyw un sy'n beiddio cyfeirio atynt fel 'Y Gloren'.

Hanes yr enw, fel y'i cefais flynyddoedd yn ôl gan un o'r hen drigolion oedd fel a ganlyn:- Sawl cenhedlaeth yn ôl, prynodd rhywun o gyffiniau Aberdâr ferlyn gan rhywun o Ystradyfodwg. Cododd dadl yn-

BYD BOB

Ein perthynas rhyfedd â chymeriadau operâu sebon sydd dan sylw gan Bob Eynon y mis hwn Ym mis Medi 1963 fe es i weithio fel athro mewn ysgol breifat yn Bedford. Doeddwn i ddim yn gyrru car ar y pryd ond roedd gyda fi hen feic Raleigh. Wrth lwc, fe ddes i o hyd i ystafell i'w rhentu nid nepell o'r ysgol. Doedd dimrhaid i fi ddefnyddio'r beic i gyrraedd yr ysgol. Roeddwn i'n gallu cerdded yr holl ffordd mewn llai

nadeng munud. Ond roedd y beic yn ddefnyddiol iawn rai misoedd yn hwyrach pan gwrddais i â merch o'r enw Rose oedd yn byw tua milltir tu allan i'r dref. Bron pob nos a ol marcio gwaith cartref y plant byddwn yn seiclo i'w gweld hi yn nhŷ ei rhieni. Doedd dim teledu gyda fi yn fy ystafell, felly doeddwn i ddim yn gyfarwydd â rhaglenni poblogaidd y dydd. Un noson pan gyrhaeddais i'r tŷ, dywedodd Rose wrtho fi, "Bob, wnei di ffafr â fi?" 'Pa ffafr?' gofynnais. "Paid â dod mor gynnar bob nos. Rwy'n colli rhan o 'Coronation Street'!" Doeddwn i erioed wedi clywed am y stryd oedd newydd ddod yn enwog ar hyd a lled y wlad. Hyd yn oed nawr dydw i ddim yn gwylio sioeau

ghylch yr anifail a gwrthododd y perchen ei drosglwyddo i'r prynwr. Un noson daeth y gŵr o Aberdâr a nifer o'i gyfeillion dros y mynyddoedd, ac ar ôl dod o hyd i'r merlyn, roedden nhw ar fin mynd â fe'n fuddugoliaethus adre dros y mynydd, pan ymddangosodd nifer o wŷr Ystradyfodwg a dechrau ymladd â gwŷr Cwm Cynon dros y merlyn. Cydiodd gŵr ifanc o Ystradyfodwg, oedd yn enwog am ei nerth corfforol, yng nghwt neu 'gloren' y merlyn a daeth ei gyfeillion i'w helpu. Cydiodd gwŷr Aberdâr ym mlaen y merlyn a thynnodd y ddwy garfan hyd eithaf eu gallu gan ddefnyddio'r merlyn druan am y tro fel polyn bedw a ddefnyddid i brofi nerth trigolion y gwahanol blwyfi mewn cystadleuthau. Gellid clywed gwaeddiadau'r ddwy garfan yn y cwm islaw, ond aeth y frwydr yn ei blaen. Yn sydyn, torrodd cwt neu gloren y merlyn yn rhydd, a rhowliodd gwŷr Ystradyfodwg i lawr y llethr â'r gynffon yn llaw'r llanc cryf. Aeth gwŷr Aberdâr yn fuddugoliaethus ar eu hynt gyda'r merlyn gan adael ond ei gwt yn Ystradyfodwg. O'r adeg honno hyd heddiw cafodd y brodorion eu galw'n watwarus yn 'Wŷr y Gloran' Ral blynyddoedd yn ôl dangoswyd bedd imi ger y wal ar ochr chwith porth Eglwys Plwyf Ystradyfodwg lle y gorwedd y llanc cydnerth hwnnw a gipiodd y gynffon ar yr achlysur cofiadwy a ddisgrifiwyd. sebon fel Corie neu Eastenders. Dyna pam rwy'n synnu clywed pobl yn protestio pan fydd cymeriad yn diflannu o un o'r cyfresi. A phan mae cymeriad yn 'marw', maemiloedd flodau'n cyrraedd y stiwdio fel pe bai rhywun wedi marw mewn gwirionedd. Ydych chi'n gallu dychmygu'r fath beth? Sut maepobl yn gallu bod mor dwp? Ond rai blynyddoedd yn ôl, dechreuais i wylio'r gyfres dditectif "Morse" bob wythnos. Doeddwn iddim yn hoff iawn o Morse ei hun, ond roeddwn in empatheiddio â'r Siarsiant Lewis. Roedd y Prif Arolygydd Morse braidd yn dynn, ac roedd e wastad yn disgwyl i'w siarsiant dalu am y cwrw pan oedden nhw'n trafod achos yn un o dafarnau Rhydychen. Yna, bu farw'r actor John Thaw (Morse) ac yn y

gyfres newydd 'Lewis' roedd y siarsiant wedi cael ei ddyrchafu ac roedd siarsiant newydd, Hathaway, wedi dod yn bartner iddo yn ei dro. Ar ddiwedd rhaglen olaf y gyfres, hedfanodd Lewis a'i gariad i Seland Newydd i ymweld â'i theulu hi ac arhosodd Hathaway yn lolfa'e maes awyr ar ôl dweud ffarwel iddyn nhw. Doedden ni ddimyn gwybod a fydden ni'n gweld Lewis eto. Pan ddaeth y rhaglen i ben gyda Siarsiant Hathaway yn cerdded ar ei ben ei hunan yn ôl i'w gar, fe deimlais i ddeigryn yn rhedeg i lawr fy moch. Fel Hathaway, roeddwn i'n dweud ffarwel wrth hen ffrindiau hefyd ac roedd fy nghalon i'n drwm. O bryd i'w gilydd, mae'n dda sylweddoli dy fod di mor dwp â phawb arall, on'd yw hi?


wyd yng nghapel Bethlehem, ddydd Gwener, 4 Mawrth oedd Mrs Eirlys Davies, Gwaelod-ygarth. Ei thestun oedd, 'Derbyniwch blant, derbyniwch fi. Aelodau Hermon oedd ynbennaf cyfrifol eleni o dan arweiniad Mary Price gyda Mary Cennard yn cyfeilio. Cafwyd cyfarfod Saesneg cyfatebol yr un diwrnod yn eglwys San Matthew. Cynhaliodd Pwyllgor Cancr UK gwis llwyddiannus iawn yn nhafarn y Ddraig Wen ddechrau mis Chwefror. Y cwisfeistr oedd Noel Henry a chafodd pawb noson wrth eu bodd. llwyddwyd i godi dros £400 at yr achos teilwng hwn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth hael. Roedd hi'n drist derbyn y newyddion am farwolaeth Mr David Halstead, Woodland

8

Vale a oedd yn aelod ffyddlon a gweithgar yn eglwys San Matthew amflynyddoedd lawer. Roedd David yn uchelei barch gan bawb a gwelir ei eisiau mewn sawl cylch. Roedd yn derbyn Y Gloran yn gyson ac weithiau yn anfon erthyglau atom, yn enwedig ar hanes lleol. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i wraig, Phyllis yn ei cholled..

Nos Iau, 3 Mawrth daeth aelodau Sefydliad y Merched [W.I.] ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Cafwyd eitemau gyda lluniaeth yn dilyn a chafodd pawb noson hynod ddymunol yng nghwmni ei gilydd.

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs June Vincent, Stryd Rees yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr. Cy-

dymdeimlwn yn gywir â'i phriod, Ken ei merched, Leanne a Susan a'i mab, Greg yn eu profedigaeth. Llongyfarchiadau i Gary Crudge, Siop Sglodion y Red Cow ar ennill gwobr am ei fwyd. Dyfarnwyd brecwast Gary y trydydd gorau ledled Cymru. Gyda'r Lion yn cael ei enwi'r tafarn cymunedol gorau yng Nghymru, mae pethau'n edrych lan yn Nhreorci.

Yn sgil y sylw a gafodd y rhaglen deledu 'Pobol y Rhondda', mae'r cyflwynydd Sion Owen, Stryd Windsor, wedi ymddangos ar raglen radio Sian Cothi ar Radio Cymru ac ar y rhaglen gylchgrawn deledu, 'Heno'. Pob llwyddiant iddo i'r dyfodol.

CWMPARC

Ddydd Sul, 28 Chwefror cafodd y frgâd dân ei galw ma's i ddiffodd tân mynydd y tu ôl i Deras Vicarage. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers misoedd ac mae'n siom i'r Gwasanaeth Tân sydd wedi ceisio addysgu pobl am berygl a chost tannau o'r fath. Cynhaliodd eglwysi Cwmparc Ddydd Gweddi Chwiorydd y Byd yn Eglwys San Siôr, ddydd Gwener, 4 Mawrth. Anerchwyd gan Mrs Barbara Thomas Thonypandy. Yr organydd oedd John Cynan Jones. Mae caffi Neuadd y Parc yn dal yn brysur gyda mwy o bobl hefyd yn archebu bwyd i'w gludo i'w cartrefu. Mae'r gwasanaeth hwn yn profi'n boblogaidd gyda galwad ffôn yn eich galluogi i gael pryd yn ffres o'r gegin


yn eich cartref. Hefyd, mae campfa'r neuadd wedi cael rhagor o offer. Os ydych am gadw'n heiny, gallwch wneud hynny gyda help hyfforddwr am £2 y sesiwn - pris rhesymol iawn.

Roedd hi'n drist derbyn y newyddion am farwoaeth un o gyndrigolion Cwmparc, Peter Elson, oedd wedi byw ers rhai blynyddoedd bellach yn Notais, Porthcawl. Bu Peter yn adnabyddus fel peldroediwr dawnus yn ei ddydd gan chwarae dros Gwmparc a Chwb Bechgyn Treorci. Collodd ei wraig, Mair [gynt Thorner o'r Gelli] a'i ferch, Bethan rai blynyddoedd yn ôl. Cydymdeimlwn â'i wyres, Ffion yn ei phrofedigaeth.

Llongyfarchiadau i Eirlys a Robert Grenter, Lower Terrace ar enedigaeth eu hwyres gyntaf, Freya. Cafodd hi ei geni ar 3 Mawrth, yng Nghaerloyw. Llongyfarchiadau i'r rhieni, Beth ac Ian Hempshall.

Y PENTRE

Nos Sul, 28 Chwefror, cynhaliwyd cyngerdd i ddathu Gŵyl Ddewi yn eglwys San Pedr. Arweiniwyd y noson

yn fedrus gan Shelley Rees-Owen ac ymddangosodd nifer o artistiaid, gan gynnwys Côr y Cwm a Band Mawr D>B. ynghyd a'r unawdwyr Lee Gilbert., Amy Combes a Jonathan Radford Yn 84 oed, bu farw un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Pentre, sef Len Davies, Stryd Volunteer, mab y diweddar Mr a Mrs Ifan Davies. Er yn ifanc, ymddiddorai Len mewn pêl-droed, ac er na allai chwarae ei hun, bu'n selog yn helpu a chefnogi ieuenctid Clwb y Bechgyn, Treorci, yn enwedig yng nghwmni ei ffrind, y diweddar Albert Nicholas. Roedd pawb yn yr ardal yn nabod Len ac yn ei gyfarch wrth iddo eistedd bob dydd yn ymyl tafarn y Griffin. Gofalwyd amdano'n dyner gan ei nith yn ystod ei fisoedd olaf a chydymdeimlwn â hi a gweddill y teulu yn eu hiraeth ar ôl un a gadwodd ei sirioldeb trwy gydol ei oes, er gwaethaf ei anabledd.

Os ydych yn chwilio am blwmwr, cofiwch am Matthew Rhys Jones, Pleasant St sydd newydd sefydlu busnes fel plwmwr yn yr ardal. Enw'r cwmni yw Glyndŵr Plumbing [www.glyndwrplumbing.co.uk] a gallwch gysylltu â Matthew ar 07961 259903.

TON PENTRE

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Joan Marjory, Stryd Upper Canning. Roedd Joan yn adnabyddus iawn yn yr ardal, yn weithgar iawn ym mudiad y WI a'r côr yn ogystal ag yn y Clwb Cameo. Roedd hi hefyd yn aelod ffyddlon iaen yn y Capel Saesneg lle y gwelir ei heisiau'n fawr iawn. Cydymdeimlwn â'r plant, David a Lyn a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Cofiwn hefyd amdeuluoedd y canlynol a fu farw yn ystod yr wythnosau a aeth heibio: Mrs Katerine Harris, Stryd Whitefield a Mrs Barbara Sherlock, Ton Row.

Bydd cwmni theatr ACT 1 yn cyflwyno ei gynhyrchiad o'r 'Wizard of Oz' yn y FFenics rhwng dydd Mercher a dydd Gwener, 16 - 19 Mawrth am 7 o'r gloch. Bydd maine ychwanegol am 3 p.m. ar brynhawn dydd Sadwrn. Tocynnau £9 a £10. Roedd pawb yn Nhŷ Ddewi'n drist o dderbyn y newyddion bod Mrs Gillian Jones wedi gorfod mynd i'r

ysbyty. Dim ond yn ddiweddar y rhyddhawyd ei gŵr, Adrian o Ysbyy Brenhinol Morgannwg ar ôl treulio cyfnod yno. Mae pawb yn gobeithio y bydd Gillian, sy'n boblogaidd iawn ymhlith ei chydbreswylwyr, yn ôl yn eu plith cyn bo hir gan fod pawb yn gweld ei heisiau'n fawr.

Fel arfer, dathlodd Cymdeithas Cameo ddydd Gŵyl Dewi a chawsant y pleser o gwmni côr plant Ysgol Gynradd Ton Pentre. Gyda Mr Roberts a Mrs Roberts [dim perthynas] yn arwain, cyflwynodd y plant raglen o ganeuon Cymraeg oedd yn taro'r achlysur i'r dim. Diolchwyd iddynt ar ran Cameo gan y llywydd, Rita Lewis a chyhoeddwyd taw'r cyfarfod nesaf fydd y Te Gwanwyn a gynhelir yn nhafarn Fagin, ddydd Mercher, 30 Mawrth am 1.30 p.m. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ar Sul y Mamau yng nghapel Hope ac ar ddiwedd yr oedfa cyflwynwyd blodau i'r gwragedd gan blant yr ysgol Sul.

9


ATGOFION PLENTYNDOD YN Y CYMOEDD Mae hanes cythryblus cymoedd de Cymru yn thema ganolog i’r stori hwn o blentyndod a hanes teulu gaiff ei adrodd drwy lygaid a chof awdur a golygydd o fri. Mae Where the Stream Ran Red yn adrodd hanes un man ac un teulu ond eto mae’r hanes yr un mor wir am sawl teulu ar draws meysydd glo de Cymru y cyfnod. Olrheinir hanes o dde Cymru at India’r Gorllewin yng nghyfnod caethwasiaeth, môr mawr Singapore ac hyd yn

oed i bellafion Wcrain.

Dyma ddechrau hanes Gilfach Goch fel cwm glofaol.

‘Cefais fy nghymell i sgwennu gan deimlad o fethiant o’m rhan i i holi fy rhieni, fy chwiorydd ac eraill, oedd yn dyst i ddigwyddiadau cyn i mi gael fy ngeni ac yn ystod blynyddoedd cynnar fy mhlentyndod, am eu profiadau nhw yn y ddau ryfel byd ac am flynyddoedd y streiciau ac am yr iselder rhyngddynt’ eglurodd yr awdur, Sam Adams.

‘Ym mlynyddoedd fy ieuenctid fe gofiaf y pyllau yn brysur dydd a nos, gyda phob dyn abl – a nifer o ferched hefyd, yn cael eu cyflogi. Roedd gan bawb lyfrau dogni. Roedd teuluoedd yn gorfod dioddef y golled a’r galar o farwolaeth eu anwyliaid yn y rhyfel, roedd salwch yn bla, ond roedd pobl yn bwrw ymlaen, yn y cymoedd ac mewn mannau eraill.’

Fel nifer yn ne Cymru, mae gwreiddiau teulu’r awdur wedi lledaenu yn eang iawn – o Ddinbych i Wlad yr Haf, i Aberteifi, Caerfyrddin a Bannau Brycheiniog ac mae straeon am darddiad wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Cafodd yr awdur a’r

10

golygydd Sam Adams ei eni a’i fagu yn y Gilfach Goch ym Morgannwg, pan oedd yn gwm lofaol prysur. Wedi astudio Saesneg yng Ngoleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fe gyfunodd yrfa mewn addysg gyda’i waith fel awdur a golygydd.

Mae ei gerddi a’i ysgrifau beirniadol wedi ymddangos yn yr holl gylchgronau Saesneg Cymreig yng Nghymru. Ymhlith ei waith golygyddol ceir ‘Collected Poems’ a ‘Collected Stories’ gan Roland Mathias ac ymhlith ei gyhoeddiadau eraill ceir tri monograff yng nghyfres Writers of Wales, tair casgliad o gerddi a’r nofel Prichard’s Nose (Y Lolfa, 2010). Mae Where the Stream Ran Red – Memories and Histories of a Welsh Mining Valley gan Sam Adams (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.


YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com

CHLOE YN HEDFAN BANER CYMRU YN EFROG NEWYDD Mae prif ferch yr ysgol, Chloe Wilson o Flwyddyn 13, wedi cael cynnig lle i astudio yn yr academi fyd-enwog ‘ The American Academy of Dramatic Arts’ yn Efrog Newydd! Mae cyn-fyfyrwyr yr academi yn cynnwys Danny DeVito ac Anne Hathaway. Cwblhaodd Chloe broses

glyweliad maeth – a oedd yn cynnwys clyweliad canu ac actio. Rydym mor falch i dalentau Chloe gael eu cydnabod ar lwyfan rhyngwladol. Mae Chloe yn llysgennad arbennig i’n hysgol ni ac i Gymru gyfan a dymunwn bob llwyddiant iddi!

11


YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

GWERSI O AUSCHWITZ

Fel rhan o weithgareddau'r Holocaust Education Trust, cymerodd Keira Wedlake ac Elinor Rees o Flwyddyn 13eg rhan ym mhrosiect 'Lessons From Auschwitz' yn ystod mis Chwefor 2016. Fe fynychodd y ddwy weithdai ar yr Holocaust yng Nghaerdydd lle cawsant y profiad anhygoel o glywed hanes Eva Clarke a gafodd ei geni yng ngwersyll Auschwitz. Yna, teithiodd y ddwy i wlad Pwyl i ymweld 창 gwersylloedd Auschwitz 1 ac Auschwitz-Birkenau. Roedd yn brofiad anhygoel ac emosiynol a fydd yn aros gyda'r ddwy am byth.

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.