Ygloranmedi13

Page 1

y gloran

Brodor o Ddowlais, Merthyr yw'r Parch Haydn Simon-England a benodwyd i ofalaeth Eglwys San Pedr, Y Pentre yn 2001 ar ôl treulio cyfnodau cyn hynny'n gwasanaethu'r Eglwys yng Nghymru ym Merthyr a Chaerffili. Hyd yn oed cyn cael ei ordeinio, bu'r Tad Haydn yn weithgar fel lleygwr gan weithredu fel caplan i nifer o ysbytai yn ardal Merthyr. Bellach, yn ogystal â bod yn Ddeon Ardal y Rhondda ef yw caplan Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

Cafodd brofiad personol o bwysigrwydd y gwaith hwn pan gafodd ei daro'n wael yn ystod ei fachgendod a gorfod treulio cyfnodau maith yn Ysbyty Llandochau. "Gwelais yr adeg honno pa mor bwysig oedd derbyn cefnogaeth a chynhaliaeth a gwelaf hynny bob tro yr ymwelaf ag ysbyty yn sgil fy ngwaith. I mi, mae'r gaplaniaeth yn rhan hanfodol o wasanaeth a chenhadaeth yr eglwys. Cynigiwn gynhaliaeth i bobl yn eu gwendid, yn awr eu hangen mwyaf, yr adeg pan fo angen cefnogaeth ac anogaeth." Teimla'r Tad Haydn yr

Y PENTRE TRWY LYGAID OFFEIRIAD un mor gryf am bwysigrwydd sicrhau bod aelodau teulu cleifion yn gallu ymweld â nhw yn ddirwystr a dyna pam mae'n cefnogi'r ymgyrch i sicrhau bod Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cadw ei holl wasanaethau arbenigol.

Dywedodd, "Ces i brofiad personol o gael fy ngalw i weld claf oedd yn marw eleni, ac eira yn drwch ar y llawr. Chwarae teg i'r Bwrdd Iechyd, fe drefnon nhw fod cerbyd 4x4 ar gael i 'nghludo i yno. Fel arall, byddai wedi bod yn amhosibl. Meddiliwch tasai rhaid cyrraedd Merthyr neu Ben-y-bont

dros y Rhigos neu'r Bwlch! Rhaid cadw gwasanaethau Llantrisant - mae'n gwbl hanfodol bod y gwasanaethau hyn o fewn cyrraedd hwylus i gleifion a'u teuluoedd."

Yr Ysgol Ym marn y Tad Haydn, mae hi'r un mor bwysig i arbed Ysgol Gynradd y Pentre sydd mewn perygl o gael ei chau. Dywed fod cysylltiad agos rhwng yr ysgol a'r eglwys. Mae e ei hun yn aelod o Fwrdd Llywodraethol yr ysgol a thrysorydd yr eglwys yw'r cadeirydd.. Cynhelir gwasanaethau cyson yn yr eglwys i'r

20c plant ac mae ef yn ymweld â'r ysgol yn rheolaidd. "Mae addysg yn holl bwysig i ddyfodol ein plant. Meddyliwch gymaint o effaith a gafodd ar drigolion y cwm hwn a'r cyfraniad a wnaethant i'r byd mawr oddi allan. Byddai colli'r ysgol yn drychineb o'r safbwynt hwnnw ond hefyd yn cael effeith seicolegol andwyol ar y gymuned gyfan. Meddyliwch am werth tai, er enghraifft. Y cartref, yn aml iawn, yw'r peth mwyaf gwerthfawr sy gan deuluoedd sydd wedi aberthu llawer i'w brynu. O golli cyfleusterau lleol sylfaenol mae'n anorfod y bydd tai yn colli eu gwerth a phobl ifainc yn gadael yw ardal. Prin bod neb eisiau i hynny ddigwydd."

Anghytuna Haydn Simon England â'r rheiny sy'n mynnu na ddylid cymysgu crefydd a gwleidyddiaeth. Iddo ef, materion gwleidyddol yw addysg, iechyd, swyddi a'r economi. "Dyna'r union bethau oedd o bwys i Iesu Grist pan oedd ar y ddaear sicrhau bod pobl yn gall byw bywyd yn Parhad ar dudalen 3


golygyddol l A ninnau bellach yn perthyn i'r oes ddigidol, ymddengys fod pobl yn darllen llai ac mae llawer o bapurau newydd yn poeni am eu dyfodol. Erbyn hyn, mae llawer yn dibynnu ar y we fydeang a'r teledu am eu newyddion ac mae gwerthiant papurau dyddiol wedi dioddef yn sgil hynny. Aeth Y Gloran ati yn ddiweddar i holi perchnogion nifer o siopau papurau yn rhan ucha'r cwm a darganfod nifer o bethau diddorol. Y ddau bapur mwyaf poblogaidd o bell ffordd, fel trwy Brydain benbaladr, yw'r Sun a'r Daily Mirror. Papurau tabloid sy'n rhoi pwyslais ar hynt a helynt sêr y byd adloniant yw'r ddau ynghyd â storiau'n ymwneud â thrais a rhyw. Ychydig o ddadansoddi gwleidyddol cytbwys a wneir ond cynigir safbwyntiau 'du a gwyn' i'r darllenwyr. Ychydig iawn o sylw a roir i faterion Cymreig ac o ganlyniad rhaid i'w darllenwyr ddibynnu ar ffynonellau eraill am wybodaeth am eu gwlad eu hunain. Y trydydd papur mwyaf poblogaidd yw'r Daily Mail gyda'r Daily Ex-

2

press y dynn ar ei sodlau, ffaith ryfedd mewn ardal sy'n ystyried ei hun yn un sosialaidd o ran cefndir! Yn un o archfarchnadoedd Rhondda Uchaf, y Sun, Mirror, Mail ac Express yw'r unig bapurau a werthir. Nesaf atynt o ran poblogrwydd, daw'r Western Mail sy'n gwerthu'n dda, yn bennaf efallai am ei bwyslais ar newyddion lleol a chwaraeon, yn enwedig rygbi a hanes timau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe yn yr Uwch-Gynghrair. Y WM yw'r unig bapur boreol sy'n rhoi sylw i bynciau Cymreig, gan gynnwys gweithgareddau'r Senedd yng Nghaerdydd a gwleidyddiaeth Cymru. Cafwyd taw ychydig o werthu sydd i'r tri phapur 'trwm', sef y Times, Guardian ac Independent sy'n arbenigo ar drafod a dadansoddi materion y dydd a'r celfyddydau mewn dyfnder. Mae'r rhain dipyn yn ddrutach na'r papurau erail, rheswm arall dros lai o werthiant mewn ardal gymharol dlawd. Un o'r tueddiadau y cytunodd pob un o'r siopwyr yn ei

y gloran

medi2013

YN Y RHIFYN HWN Trwy Lygaid Offeiriad...1 Golygyddol.. ...2 Cymdeithas Gymraeg Treorci..3

gylch oedd y gostyngiad sylweddol yng ngwerthiant y Rhondda Leader. Y Ymddeoliad Marion..4 prif reswm am hyn, meddent oedd prinder Newyddion Lleol...5-8 newyddion lleol, y ffaith ei fod yn cwmpasu cylch Lluniau Bethel ...8 Sioe Arddio Ynyswen...9rhy eang a bod ynddo Cyfraniad ormod o lawer o hysbyGwyddonydd10 sebion. Oherwydd Cwis...11 prinder staff, ychydig o Ysgolion..-.12 sylw a gaiff digwyddiadau lleol megis cyfarfodydd y Cyngor ac yn anaml y ceir unrhyw ddadansoddiad o benderfyniadau'r corff hwnnw er eu bod yn effeithio'n uniongyrchol ar yn peri gofid, yn enwedig o gofio mai prin bron pob un ohonom. Mae'r duedd hon yn drist yw'r cyfryngau torfol eraill sy'n gwasanaethu gan fod pob cymdeithas iach yn dibynnu ar wasg ein gwlad trwy adrodd ei leol fywiog sy'n cofnodi stori. Dyma broblem rhaid mynd i'r afael â hi ei hynt a'i helynt. Yn er lles democratiaeth a'n olaf, cafwyd taw ychyhunaniaeth fel cenedl. dig iawn o bobl sy'n golygydd prynu'r cyhoeddiadau Cymraeg cenedlaethol fel Golwg a'r Cymro. Golyga hyn fod llawer mwy o bwysau ar bapurau bro fel Y Gloran i adlewyrchu bywyd y cymunedau yn deg ac yn gytbwys. Mae'r tueddiadau a Ariennir yn rhannol ddatgelgan Lywodraeth Cymru wyd gan Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison ein gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru harolwg Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


Y PENTRE TRWY LYGAID OFFEIRIADparhad

iechyd ac felly allwn ni ddim mynd o'r tu arall heibio pan fydd ohonyn nhw mewn perygl. Dyma rai o gonglfeini ein cymdeithas a'n cymuned a rhaid eu gwarchod."

helaethach. Wrth gwrs, thalai hi ddim i fi wthio syniadau unrhyw blaid arbennig. Ond mae'r pethau hyn i gyd o bwys

i'r eglwys ac yn rhan o'i chenhadaeth yn y byd. Mae cysylltiad agos iawn rhwng yr eglwys, y gwasanaethau iechyd ac

Hoffai'r Tad Haydn weld y gymuned yn gwneud mwy o ddefnydd o adeilad yr eglwys. Teimla y dylai fod ar gael i bawb yn ystod dyddiau gwaith yn ogystal ag ar y Sul. Ac er bod cynulleidfaoedd yn lleihau, mae e'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a

CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI

Mae Cymdeithas Gymraeg Treorci wedi cyhoeddi ei rhaglen am y tymor i ddod. Fel arfer, bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal dros y gaeaf yn Hermon Treorci ar nos Iau ola'r mis ac eithrio Rhagfyr. Agorir y tymor ar 26 Medi gan y gŵr sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad teledu Cymraeg, Euryn Ogwen Williams a fydd yn siarad ar 'Byw drwy'r sgrîn'. Fe'i dilynir ar 24 Hydref gan ohebydd Radio Cymru yn y cymoedd, Alun Thomas a fydd yn sôn am ei waith yn casglu newyddion a rhai o'r storiau y

Euryn Ogwen Williams

bu'n ymwneud â nhw. Y wraig sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu canolfan Gymraeg Soar, Merthyr Tudful, Lis McLean fydd yn cloi hanner cyntaf y tymor ar 28 Tachwedd. Mae'r gwleidydd Rhodri Glyn Thomas wedi penderfynu ymddeol o'i

swydd yn y Cynulliad lle mae'n cynrychioli dwyrain Caerfyrddin ond bydd yn dod i Dreorci i siarad am 'Gwleidydda dros Gymru' 30 Ionawr. Eleni yw canmlwyddiant trychineb pwll glo Senghennydd, y trychineb mwyaf o'i fath yn yr ynysoedd hyn pan lad-

gaiff gan gefnogwyr yr achos yn yr ardal, yn ogystal â'r mynychwyr selog. Teimla'n falch o weld rhai yn dod i'r Ffair Haf ac i'r gwasanaethau carolau adeg y Nadolig ac mae e am weld drysau'r eglwys yn agored i bawb. Iddo ef, rhan o'i genhadaeth yw gwarchod cyfleusterau'r ardal fel yr ysbyty a'r ysgol. Yn hynny o beth mae e'n ddigon hapus i wleidydda, ond bod hynny'n digwydd ag 'g' fach ac nid yn enw unrhyw blaid arbennig.

dwyd 439 o lowyr. Bydd yr hanesydd Dr Elin Jones, sy'n hanu o Gwm Rhymni, yn dod i sôn am y digwyddiad ofnadwy hwnnw 27 Chwefror a chloeir i tymor ar 28 Mawrth gyda chyngerdd gan Gôr Merched Cytgord, Aberdâr o dan arweiniad un sy'n gyfarwydd iawn i aelodau'r Gymdeithas, Janice Harris. Mae tocynnau am y tymor ond yn £5 a gallwch eu sicrhau trwy ffonio naill ai 773151 neu 435563.

3


PRIFATHRAWES YN YMDDEOL

Ar ôl bod wrth y llyw am bron ugain mlynedd, mae prifathrawes Ysgol Gymraeg Bodringallt, Mrs Marion Roerts, wedi ymddeol. Dyma'r ysgol yr aeth hi iddi yn blentyn, er taw ysgol cyfrwng Saesneg oedd hi yr adaeg honno. Oddi yno, aeth Mrs Roberts ymlaen i Ysgol Ramadeg Tonypandy lle y daeth hi'n drwm o dan ddylanwad athro Cymraeg ysbrydoledig, Penri Jones. Fel nifer o'i chyfoeswyr, megis Jill Evans AES a'r ddiweddar Dr. Kathryn Jenkins, daeth i siarad yr iaith yn rhugl a phenderfynu ei hastudio'n brif bwnc yng Ngholeg Addysg Caedydd. Ar ôl gorffen ei chyfnod yno cafodd ei phenodi i staff Ysgol Hendreforgan, Gilfach Goch lle y bu'n rhan o brosiect dysgu dwyieithog y Cyngor Ysgolion. Erbyn hyn roedd hi'n briod â'i gŵr, Brian, sy'n 4

hanu o Tylorstown a phan ddaeth ei merch, Cerian yn 1976, rhoddodd y gorau i'w swydd i ofalu amdani hi a'r efeilliaid, Bethan ac Eleri, a aned yn 1981.

Ond roedd dysgu yn y gwaed, ac yn fuan dechreuodd ymgymryd â gwaith cyflenwi mewn ysgolion lleol cyn cael ei phenodi'n llawn amser i staff Ysgol Gymraeg Llwyncelyn yn 1985. Symudodd i Fodringallt yn 1990 , cael ei phenodi'n ddirprwy brifathrawes yn 1994 ac erbyn 1995, Marian Roberts oedd prifathrawes yr ysgol honno.

Newidiadau Yn ystod y cyfnod hwn, gwelodd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn dod i rym a theimla nad oedd hynny'n dda i gyd. Yn ei barn hi, collodd athrawon yr hawl i ddewis

pwnc a'i dehongli yn eu dull unigryw ei hunan. Ar yr un pryd, wrth i'r cwricwlwm gael ei ehangu i gynnwys ystod eang o bynciau, dioddefodd y sgiliau sylfaenol, yn enwedig llythrennedd a rhifedd. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae hi dipyn yn hapusach wrth i Fframwaith llythrennedd a Rhifedd gael ei chyflwyno i'n hysgolion gan fod pob pwnc bellach yn llawforwyn i'r sgiliau hynod bwysig hynny. Yn ystod ei chyfnod ym Modringallt, gwelodd yr ysgol yn tyfu ac yn datblygu er bod galwadau'r Cyfnod Sylfaen wedi cyfyngu ar nifer y plant y gallai eu derbyn. Ymfalchia'n fawr yng nghymreictod yr ysgol, gyda'r iaith yn cael ei chlywed ar yr iard yn ogystal ag yn y dosbarth. Sylwyd ar y nodwedd hon gan yr arolygwyr sir a gynhaliodd adolygiad o'r ysgol ym mis Tachwedd, 2012. Yn eu hadroddiad, dywedon nhw fod ' y staff yn creu ethos arbennig a bod yr ysgol yn ynys o gymreictod.' Cafodd Mrs

Roberts foddhad mawr yn ei swydd a'r unig beth sy'n edifar ganddi yw cyflwr yr adeilad. Er gwaethaf hynny, sicrhaodd ei staff cydwybodol nad oedd safon addysg y plant yn dioddef mewn unrhyw fodd. Teimla fod rhyw arbenigedd yn perthyn i blant y Rhondda, rhyw anwyldeb agosatoch sy'n gwneud gwaith eu dysgu'n bleser.

Bydd Marion Roberts yn gweld eisiau hynny'n sicr, ond edrycha ymlaen at fedru mynd ar wyliau rhatach, yn ystod tymor yr ysgol, treulio mwy o amser gyda'i gŵr a chael mwy o gyfle i gael cwmni ei hwyrion ifainc Mabli a Thomas. Mae ganddi ddigon o ddiddordebau gan gynnwys gwaith llaw a choginio a bellach bydd ganddi fwy o gyfle i gadw'n heini. Ond yn sicr, fydd hi ddim yn torri i ffwrdd yn llwyr o fyd addysg, a chyda'i merch, Cerian, yn ei dilyn yn brifathrawes ar Ysgol Gymraeg Ynyswen, mae’n siwr y bydd digon o alw am ei barn a'i chyngor. Diochwn i Marian am ei sêl dros y Gymraeg a dymunwn iddi iechyd, hapusrwydd a phob rhwyddineb wrth iddi ymddeol. Llun:Marion Roberts, prifathrawes Ysgol Gymraeg Bodringallt


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Llongyfarchiadau i John Campbell Rees, Stryd Stuart sydd newydd gyhoeddi nofel yn dwyn y teitl 'Winter Squad'. Mae John, sydd yn fab i'r diweddar Gynghorydd a Mrs Gwyn Rees yn aelod o staff Llyfrgell Treorci. Mae Clwb Rygbi Treherbert wedi derbyn £120,000 gan gwmni Amgen i wella cyfleusterau yn yr adeilad. Bydd y rhain yn cynnwys tai bach newydd gan gynnwys un i'r anabl ac addasir mynedfeydd i gwrdd ag anghenion yr anabl yn ogystal. Deellir bod y clwb hefyd wedi gwneud cais i RhCT i gael ei gofrestru fel tafarn bellach yn hytrach na chlwb.

Cafodd trigolion yr ardal fraw yn ystod mis Awst pan fygythiwy pliswraig gynorthwyol Treherbert, Natasha Foster gan ddyn â gwn. Pan ymwelodd Natasha â'r gŵr hwn am fater ddigon dibwys, cafodd ei bygwth. Dihangodd y dyn, ond wedi i nifer o blismyn a hofrennydd gyrraedd fe'i daliwyd o'r diwedd er ei fod erbyn hynny wedi cyrraedd Cwm Afan! Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Billy

Waite, gynt o Stryd Dumfries ond a fu ers tro yng nghartref gofal Tŷ Ross. Roedd Mr Waite yn adnabyddus iawn yn yr ardal yn rhinwedd ei swydd yn ddyn ambiwlans. Hefyd bu farw Steve Hassel, Bryn Henllan yn sydyn iawn yn ddiweddar. Cydymdeimlwn â'i weddw, Lesley a hefyd a theulu a ffrindiau Billy Waite.

TREORCI

Llongyfarchiadau i Ann ac Alwyn Phillips, Teras Tynybedw ar achlysur dathlu eu priodas aur ym mis Awst. Pob dymuniad da i'r ddau, yn enwedig i Alwyn sydd wedi dioddef afiechyd ers misoedd ac i Ann sydd wedi torri ei swrn yn ddiweddar. Y siaradwr yng nghyfarfod misol Sefydliad y Merched oedd Mrs Audrey Griffiths. Testun Mrs Griffiths oedd bywyd a gwaith ei hen hen fodryb Elizabeth Andrews o Don Pentre a frwydrodd yn ddewr dros addysg, hawliau merched a gwerthoedd sosialaidd. Gwnaeth hynny mewn cyfnod pan nad arferai merched gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus y cymoedd glo. Cafodd pawb

bleser ac ysbrydoliaeth wrth wrando ar y sgwrs a mwynhau bod nôl yn Neuadd Sant Matthew ar ei newydd wedd. Y siaradwr yng nghyfarfod Medi fydd Matthew Davies, gynt ar staff Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Roedd yn flin calon gan bawb glywed am farwolaeth David Bembo, Stryd Tynybedw. Roedd David y un o hoelion wyth y Clwb Rygbi lle bu'n chwaraewr amlwg yn ei ieuenctid ac yn weithgar iawn fel pwyllgorddyn wedi hynny. Gweithiai fel plismon plant neu 'whipperin' yn y Rhondda ac roedd yn cael ei gydnabod yn gymeriad hawddgar a chymdeithasol y gwelir ei eisiau'n fawr. Cydymdeimlwn â'i fab, Geraint a'r teulu yn eu colled.

Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddiondros yr haf am farwolaeth Betty Jones, Treharne St a Tŷ Bethania. Roedd Betty yn wraig hynod o ddymunol ac yn aelod brwd o Sefydliad y Merched lle y bu'n cymryd rhan amlwg yn ei holl weithgareddau. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu colled. Llongyfarchiadau i Mr

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Len Davies, Bryn Rhodfa a ddathlodd ei ben-blwydd yn 95 oed ym mis Gorffennaf. Un arall oedd yn 95 ar 29 Gorffennaf oedd Mrs Clarice Lewis, Stryd Senghennydd. Roedd Mrs Lewis yn Ysbyty Cwm Rhondda ar y pryd. Llongyfachiadau i'r ddau a phob dymuniad da i'r dyfodol. Da yw clywed bod Mrs Jennie Harris, Prospect Place wedi dod adref o'r ysbyty ar ôl treulio cyfnod yno ar ôl iddi dorri ei chlun. Dymunwn iddi wellhad llwyr a buan. Yr unawdydd yng nghyngerdd flynyddol Côr Meibion Treorci nos Iau, 3 Hydref fydd y tenor adnabyddus, Rhys 5


Meirion. Cynhelir y gyngerdd fel arfer yn y Parc a'r Dâr a gellir sicrhau tocynnau yn y fan honno. Bydd Pwyllgor Cancr Treorci yn cynnal cwis yn nhafarn y RAFA nos Lun, 24 Medi. Y cwisfeistr, fel arfer, fydd Mr Noel Henry, Ynyswen sy'n rhoi o'i wasanaeth yn hael iawn i achosion da yn y cylch.

Pob dymniad da a llongyfarchiadau i John Cynan Jones, Stryd Hermon, cyn-arweinydd Côr Meibion a Chôr Cymysg Treorci a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed y mis hwn. Bydd Clwb Henoed Treorci yn mynd ar wibdaith y mis hwn i Farina Pe-

6

narth ac ar ôl mwynhau cinio yno byddant yn mynd ymlaen i siopa yn McArthur Glen, Pen-ybont ar Ogwr.

Llongyfarchiadau i Catherine Williams, merch Mrs Nan Price a'r diweddar Harry Price, Prospect Place ar gyrraedd rownd derfynol y cwis teledu, 'Pointless'. Roedd hi a'i ffrind yn hynod o anlwcus i beidio ag ennill y jacpot ond cawson nhw hwyl arbennig yn sgwrsio â'r cyflwynwyr Alexander Armstrong a Richard Osmond. Mae Catherine yn athrawes yn Ysgol Gynradd Mihangel Sant, Trefforest.

CWMPARC

Dros yr haf mae nifer o geir wedi cael eu difrodi ar Heol Conway. Yn ystod mis Mehrfin, cafodd tri char eu crafu a chwech arall yng Ngorffennaf. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiadau hyn dylent ffonio 101 er mwyn hysbysu'r heddlu sy'n ymchwilio i'r mater. Hefyd, mae trigolion y stryd yn poeni bod cerbydau'n teithio'n rhy gyflym drwy'r stryd er gwaethaf y rhwystrau a osodwyd ar draws yr hewl gan y Cyngor. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â theuluoedd Gareth Gower, Ffordd y Parc ac Ernest Staveley o Stryd Treharne a fu

farw'n ddiweddar. Cofiwn am eu teuluoedd yn eu profedigaeth.

Hefyd, trist oedd clywed am farwolaeth John Loney, Parc Crescent a fu farw fis Gorffennaf ar ôl bod yn dost am beth amser. Roedd John yn weithgar iawn yn hyrwyddo athletau a gwelir ei eisiau yn fawr yn y cylchoedd hynny. Cofiwn am ei weddw Elaine yn ei hiraeth.

Mae gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen yn Ysgol y Parc dros yr haf. Y bwriad yw creu mwy o stafelloedd dysgu ar gyfer y plant. Roedd tân mewn fflat yn Stanley Court ar 23 Gorffennaf. Cafodd neb ei frifo, ond gwnaed


difrod difrifol i'r adeilad.

Yn ystod yr haf, mcwtogwyd ar oriau agor Neuadd y Parc wedi Dydd Llun 12-4, Dydd Mercher & Iau 9-12. Roedd dosbarthiadau yn dal i redeg trwy'r haf, ond roedd y gym ar gau. Y newyddion da yw y bydd yn agor ym mis Medi.

Mae Capel Bethel wedi cael ei ddymchwel a bydd Cartrefi RhCT yn adeiladu dau dŷ ar y safle.

Llongyfachiadau calonnog i Julie Godfrey, Stryd Tallis ar lwyddo'n ardderchog yn ei arholiad Cymraeg Lefel Mynediad. Mae Julie'n gweithio yn Treorchy Pet Supplies ac wrth ei bodd yn cael cyfle i siarad â chwsmeriaid yn Gymraeg.

Y PENTRE

Roedd nifer o breswylwyr Llys Siloh yn dathlu eu penblwyddi yn ystod mis Awst. Felly, pob dymuniad da, os yn hwyr, i Mrs Ada May, Mrs Esme Holmes, Mrs Olwen Williams a Mr Viv Evans. Gwell hwyr na hwyrach, sbo! Dwy a fydd yn dathlu ym mis Medi yw Betty Cooper a Lilly Shepherd. Ein dymuniadau gorau iddynt i gyd. Cofiwn hefyd am un arall o breswylwyr Y Llys, Margaret Morris, sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dilyn cwymp. Gobeithiwn y bydd yn ôl yn ein plith yn fuan.

Datblygiad diddorol yn Llys Siloh yn ddiweddar oedd ffurfio grŵp garddio. Yn ogystal â hyr-

wyddo gweithgaredd yn yr awyr agored, gobeithir datblygu lle dymunol i ymlacio ynddo yn ystod tywydd teg yr haf.

hybu buddiannau'r mudiad hwnnw yn y cwm. Anfonwn ein cydymdeimlad cywiraf at John a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Shirley Slader, Stryd Llywelyn. Am flynyddoedd y bu hi a'i gŵr, John, yn cadw siop bapurau a bu'r ddau hefyd yn weithgar iawn yn cynnal grŵp sgowtiaid yr ardal yn ogystal â

Bydd cynllun Chwarae Plant RhCT yn parhau bob dydd Mercher yn y Parc. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 493321. Dyma gyfle gwych i'ch plant chwarae'n ddiogel o dan gyfarwyddyd.

Roedd pawb yn Nhŷ'r Pentre'n flin colli dau o'i breswylwyr yn ddiweddar pan fu farw Mrs Maria Bracchi a fu'n byw yn Nhon Pentre cyn symud i'r cartref a Mrs Dorothy [Dot] Williams oedd yn hanu'n wreiddiol o Dreherbert. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'r ddau deulu yn eu profedigaeth.

Dymunwn ben blwydd hapys iawn i Terry Hurst, Tŷ'r Pentre a Margaret Whatley, Stryd Baglan a fydd, ill dau, yn dathlu'r mis hwn. Mae aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth am longyfarch Jade Twohey ar ennill ei gradd mewn ysgrifennu creadigol a Megan Sass ar ennill rhagoriaeth yn ei arholiad Gradd 3 am chwarae'r cornet.

7


Bydd cyfarfodydd PACT yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis yn Llys Nazareth rhwng 6-7pm. Cewch gyfle i drafod unrhyw broblemau gyda'ch plismon cynorthwyol lleol a bydd Shelley Rees-Owen a Maureen Weaver eich cynghorwyr lleol hefyd yn bresennol i ddelio ag unrhyw faterion sy'n eich poeni. Cafodd dyn, 28 oed, o Berkshire ei daro i lawr gan gar nos Sul, 26 Awst yn Stryd Llywelyn. Derbyniodd e driniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a bu rhaid i yrrwr y car dderbyn driniaeth am sioc hefyd. Mae'r heddlu'n apelio am help gan unrhyw dystion.

TON PENTRE A’R GELLI

8

Llongyfarchiadau mawr i Nia Rowlands gynt o Maindy Grove ar ennill gwobr genedlaethol 'Athrawes Iiethoedd Modern y Flwyddyn'. Mae Nia'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Ynyswen lle y dylanwadodd Mr Meirion Lewis yn fawr arni yn ystod ei chyfnod yno. Bu'n dysgu ers 15 mlynedd gan ddechrau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhyd-y-waun, wedyn am bum mlynedd yn Ysgol Gyfun Gartholwg cyn ei phenodi'n arweinydd pwnc yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Blin gennym gofnodi

marwolaeth Mrs Maureen Davies [nee Murphy], Heol Stanley. Roedd Maureen yn adnabyddus yn yr ardal am drin gwallt ac am ei gwaith gyda chwmni yswiriant. Bu'n dioddef afiechyd ers rhai blynyddoedd. Roedd yn aelod ffyddlon yng nghapel Hope lle y bu'n athrawes ysgol Sul. Cydymdeimlwn â'i phlant, Katherine, Julian a Nigel ynghyd â'r teulu oll yn eu trallod. Cofiwn hefyd am deulu Mrs Maria Braachi, Maindy Croft a fu farw'n ddiweddar. Roedd yn berchen ar siop ddillad gyda'i merch, Dominica yn Heol Gelli. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i Dominica a'i chwaer, Giovanna. Cafodd yr ardal golled arall ym marwolaeth Mrs Valerie Gillard oedd bellach yn byw yng Nghartref Tŷ Ddewi. Roedd Valerie, oedd yn 70 oed, yn hynod o boblogaidd gan bawb oedd yn ei hadnabod. Cydymdeimlwn â'i meibion, Richard a Gary ynghyd â'i merch Wendy. Parch Cyril Llewelyn oedd yn gyfrifol am yr angladd. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mrs Gwen Evans, Stryd Whitfield sydd yn yr ysbyty ar ôl cwympo a thorri ei choes. Gobeithio y bydd hi'n gwella cystal â Mrs Maralyn Jordan a

dorrodd ei choes ychydig yn ôl ond sydd erbyn hyn yn well ac wedi dychwelyd i Hebron lle mae'n ddiacones. Trist yw gweld siop arall yn cau yn y Ton. Bu'r siop gerddoriaeth ar y stryd fawr ar agor ers rhyw ugain mlynedd, ond oherwydd afiechyd roedd rhaid i'r perchen, Mr Ceri Lewis roi'r gorau iddi. Dymunwn wellhad buan iddo. Bydd Plwyf Ystradyfodwg yn cynnal ei Ŵyl Flynyddol ar y tri dydd Llun cyntaf o Fedi ar y Thema 'Cynnau'r t˜a chynnal y fflam'. Y siaradwr ar 2 Medi oedd yr Esgob Cynorthwyol, y Gwir Barchedig David Wilbourne, ar y 9fed. Archddeacon Morgannwg, Yr Hybarch

Christopher Smith ac i gloi ar y 16fed., prifathro Coleg Diwinyddol Llandaf, y Parchedig Ganon Dr Peter Sedgwick Pob dymuniad da i Mrs Betty Jones [Barracks], Ton Row sydd wedi bod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dilyn cwymp. Gobeithio y bydd yn iach erbyn ei phen-blwydd yn 90 oed a fydd yn digwydd cyn bo hir!


Capel Bethel, Cwmparc yn y broses o gael ei ddymchwel. [Lluniau gan Nerys Bowen]

Y SIOE ARDDIO YNYSWEN

Huw Davies, Ynyswen yn edifar nad ef dyfodd y rhain!

Ian a Nan Jones, Treorci yn edmygu peth o gynnyrch sioe arddio Ynyswen

9


Aelodau Cymdeithas Hanes Cwm Gwendraeth yn siarad a Thomas Tudor Jones, Is-reolwr y Parc a'r Dâr tra ar ymweliad â Threorci yn ddiweddar.

CYDNABOD CYFRANIAD GWYDDONYDD

Ddydd Iau, 25 Gorff. fe ddadorchuddiwyd plac ar wal Llyfrgell Treorci i gydnabod cyfraniad aruthrol y ffisegydd, Donald Watts Davies i wyddoniaeth gyfrifiadurol. Ganed Davies yn un o efeilliaid yn Stryd Dumfries, Treorci yn 1924, yn fab i glerc yng nhwmni'r Ocean. Yn anffodus, bu farw'r tad yn fuan wedyn a phenderfynodd y fam fyn å'r teulu nôl i'w dinas enedigol, Portsmouth. Yno y derbyniodd ei addysg a dod yn drwm o dan ddylanwad prifathro o Gymro a oedd yn hen gyfaill i'w dad. Amlygai ddawn arbennig mewn ffiseg a mathemateg ac ymhen amser enillodd raddau disglair yng ng10

holeg Imperial, Llundain yn y ddau bwnc. Ar ôl gorffen yno bu'n ymchwilio i ddatblygu bom atomig ym Mhrifysgol Birmingham o dan gyfarwyddyd Klaus Fuchs a gafwyd yn euog o ysbio yn ddiweddarach ond symudodd ymlaen yn ddiweddarach i weithio yn y Labordy Ffiseg Cenedlaethol. Yno y dat-

blygodd ei ddiddordeb mewn cyfrifiadura ac esgor maes o law ar egwyddor 'packet switching' sy'n hanfodol i alluogi cyfrifiaduron i gyfathrebu â'i gilydd. Yr egwyddor yw torri negeseuon yn fân unedau, eu hanfon ar hyd llinellau ffôn a'u cyfannu y pen arall. Heb ddarganfyddiad Davies, fyddai hi

ddim yn bosib anfon ebyst, rhan hanfodol o'n diwylliant cyfoes. Er na chafodd y sylw dyladwy, cyfrifir Donald Watts Davies yn Dad y Rhyngrwyd gan lawer ac yn gyfrifol am un o ddarganfyddiadau pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Cydnabyddir ei gamp yn

drosodd


???CWIS Y GLORAN ???

Y mis hwn, mae ein cwisfeistr sefydlog, Graham Davies John yn ein herio i adnabod y Jonesiaid. Rhowch gynnig arni!

6. Pwy ysgrifennodd 'Off to Philadelphia in the Morning'?

2. Pa Jones gyrhaeddodd Rif 1 gyda'i gân, 'It's not unusual'?

8. Pa actores gafodd ei henw canol o long a ddociodd unwaith yn Abertawe?

1. Pa Jones gafodd lwyddiant yn canu 'Walking in the air'?

3. Pa Jones a aned ym Mae Colwyn yn 1942 oedd yn un o sêr 'Monty Python'?

4. Pwy oedd y Jones roddodd deitl i un o ffilmiau mwyaf adnabyddus yr actor Huw Griffith? 5. Pwy gerddodd bob cam i'r Bala i nôl Beibl? 1. Aled Jones 2. Tom Jones 3. Terry Jones 4. Tom Jones 5. Mari Jones 6. Jack Jones 7. Griff Rhys Jones 8. Catherine Zeta Jones 9. Cliff 10. Ken Jones

Atebion

Llun: John Watts, y Dirprwy Faer, gyda chwaer, nith a nai Donald Watts Davies arôl dadorchuddio'r plac ar Lyfrgell Treorci

yr USA Inventions Hall of Fame ac roedd yn hen bryd i'r proffwyd hwn dderbyn cydnabyddiaeth yn ei wlad ei hun. Daeth torf deilwng ynghyd i wylio dadorchuddio'r plac gan Ddirprwy Faer Rhondda Cynon Taf, y Cyngh. John Watts, Ystrad Rhondda. Roedd nifer o deulu Davies yn bresennol, gan gynnwys ei chwaer. Yn yr eitem a deledwyd i nodi'r achlysur, siaradodd Dr John Davies, yr hanesydd adnabyddus a aned hefyd yn Stryd Dumfries.

7. Pwy oedd partner teledu y digrifwr Mel Smith a fu farw'n ddiweddar?

9. Pa enw bedydd oedd yn gyffredin i ddau Jones, y naill yn faswr rhyngwladol a'r llall yn beldroediwr enwog a chwaraeodd dros Tottenham Hotspurs? 10. Pa Jones cystadlodd fel rhedwr yn y Gemau Olympaidd ac a chwaraeodd rygbi dros Gymru?

YSGOLION ARHOLIADAU

Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Ysgol Gyfun Cymer Rhondda ac Ysgol Gyfun Treorci ar eu llwyddiant mewn arholiadau dros yr haf. Llongyfarchiadau i'r Cymer ar sicrhau bod 99% o ymgeiswyr TGAU wedi ennill 5 Gradd A*-C o'i gymharu a chyfartaledd o 69% yn Rhondda Cynon Taf a 71% yng Nghymru. Roedd 97% o'r rhai a safodd yr arholiad ym Mlwyddyn 9, ddwy flynedd yn gynnar, hefyd wedi llwyddo i ennill graddau A*-C. O'r disgyblion oedd yn sefyll Safon A, llwyddodd pob un oedd am fynd i brifysgol sicrhau mynediad. Dyma a ddywedodd Rhian Morgan Elis, prifathrawes Y Cymer,

“R_y_d_y_m_ _m_o_r_ _f_a_l_c_h_ _i_ _h_o_l_l_ _w_a_i_t_h_ _c_a_l_e_d_ _e_i_n_ _d_i_s_g_y_b_l_i_o_n_,_ _y_n_g_h_y_d_ _a_g_ _a_r_w_e_i_n_i_a_d_ _e_i_n_ _s_t_a_f_f_ _a_ _c_h_e_f_n_o_g_a_e_t_h_ _e_i_n_ _r_h_e_i_n_i_,_ _g_a_e_l_ _e_i_ _g_y_d_n_a_b_o_d_,_ _u_n_w_a_i_t_h_ _e_t_o_ _e_l_e_n_i_._ _M_a_e_’r_ _C_y_m_e_r_ _y_n_ _y_m_f_a_l_c_h_i_o_’n_ _f_a_w_r_ _y_n_ _y_ _f_f_a_i_t_h_ _e_i_n_ _b_o_d_ _y_n_ _g_o_s_o_d_ _s_y_l_f_e_i_n_i_ _c_a_d_a_r_n_,_ _d_w_y_i_e_i_t_h_o_g_ _a_r_ _g_y_f_e_r_ _d_y_s_g_u_ _a_ _l_l_w_y_d_d_i_a_n_t_ _g_y_d_o_l_ _o_e_s_._” Ni dderbyniwd newyddion o Dreorci erbyn i'r rhifyn hwn fynd i'r wasg, ond gobeithiwn gynnwys adroddiad y tro nesaf.

11


Chelsie Humphreys a Daniel Davies a lwyddodd i ennill 24 Gradd A* ac A rhyngddynt

Lowri Mitchinson – 2 A*, 4 A, 3 B, 3 C Dylan Davies – 3 A*, 1 A, 2 B, 5 C Rebecca Williams – 2 A*, 2 A, 5 B, 3 C Ebony Bourne – 1 A*, 4 A, 2 B, 2C Callum Richards – 1 A*, 3 A, 3 B, 2 C Isabelle Davies – 1 A*, 1 A, 6 B, 3C Shannon Hughes – 1 A*, 4 A, 6 B

Rydym hefyd yn dathlu’r canlynol – 100% o holl ddisgyblion BlwydDisgyblion Bl. 9 yn dathlu ennill graddau ardderchog ddwy fly- nedd yn gynnar. dyn 11 yn llwyddo i ennill o leiaf 4 TGAU gradd A*- C 186 gradd A*- A 6 o adrannau’r ysgol yn dathlu 100% graddau A*-C Yn ogystal, am yr ail flwyddyn yn olynnol, mae holl ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi bod yn astudio ar gyfer un cymhwyster TGAU neu gyfatebol. Llwyddodd 97% ohonynt i ennill gradd A*-C – tipyn o gamp wrth ystyried eu hoedran! Llwyddodd y disgyblion hefyd i gasglu 25 gradd A*, mewn amrywiaeth o bynciau megis Technoleg Gwybodaeth, CANLYNIADAU GORAU ERIOED YN Celfyddydau Perfformio ac Hanes. HANES YR YSGOL! Meddai Pennaeth yr ysgol, Miss Rhian MorMae staff a disgyblion Ysgol Gyfun Cymer gan Ellis – Rhondda yn dathlu’r canlyniadau TGAU “Dyma benllanw 3 blynedd o gynllunio gogorau ers sefydlu’r ysgol union bum falus a gwaith caled gan bawb, ac ry’n ni’n mlynedd ar hugain yn ôl. Llwyddodd 99% o llongyfarch disgyblion, staff, rhieni a chyholl ddisgyblion Blwydyn 11 i ennill o leiaf 5 muned yr ysgol ar y canlyniadau gwych hyn. cymhwyster TGAU gradd A*-C neu gyfateMae llwyddiant yn magu llwyddiant, yn enbol – canran anhygoel sydd 28% yn uwch na wedig pan fo pawb yn prynu mewn i’r nod.” chyfartaledd Cymru yn 2012. Ymhlith ein canlyniadau gorau eleni mae – Chelsie Humphreys – 7 A*, 6 A, 1B, 1 C Daniel Davies – 4 A*, 7 A, 1 B Stephanie Pearce – 3 A*, 3 A, 3 B 2C Jonathon Colwill – 4 A*, 2 A, 2C 12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.