y gloran
20c
Plismon oedd ei dad a gafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymwelodd Albert â'i fedd yng Ngwlad Belg rai blynyddoedd yn ôl. Ailbriododd ei fam ac ar ôl ymadael ag Ysgol Treorci, aeth Albert i weithio gyda'i lysdad yng nghwmni'r Ocean.Y swydd gyntaf a gafodd oedd peintio gwagenni glo ac, yn briodol iawn, i'w atgoffa am y cyfnod hwn, trefnodd staff Ystradfechan ei fod yn cael teisien pen blwydd ar ffurf wagen!
ALBERT YN CYRRAEDD CANT
Ganol Mai dathlodd Albert Stubbs ei ben blwydd yn 100 oed. Roedd Albert yn byw yn Stryd Dumfries, Treorci ond bellach yn preswylio yng Nghartref Ystradfechan, Treorci. Mae e'n dal yn sionc ac yn fyrlymus ei sgwrs ac mae ei gof mor fyw ag erioed.
Atgofion cynnar Mae e'n cofio'n dda am nifer o bethau o gyfnod ei ieuenctid. Yn 1927, aeth i Lundain i weld Dinas Caerdydd yn chwarae yn erbyn Arsenal yn rownd derfynol Cwpan Lloegr. Mawr oedd ei bleser o weld Caerdydd o dan gapteniaeth Fred Keenor yn ennill 1-0, yr unig dro i'r cwpan ymadael â Lloegr. Trwy gydol ei oes, bu'n dilyn Cardiff City a chofia fynd i Barc Ninian gyda'i ffrindiau ar adeg pan oedd yn gyffredin i gael 45,000 yn gwylio gemau. Ar ôl gêmau, yr antur oedd mentro i Tiger Bay am beint neu ddau ac mae e'n cofio clywed Shirley Bassey yn canu yno cyn iddi ddod yn seren ryngwladol. Roedd Tiger Bay yn ardal amlhiliol a lliwgar iawn yn y dyddiau hynny.
Y flwyddyn ddilynol, 1928, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Dreorci, yr unig dro yn ei hanes iddi ymweld â Chwm Rhondda. Roedd Cwmni'r Ocean yn ganolog i'r trefniadau a bu Abert, ymhlith eraill, wrthi am wythnosau yn peintio'r sied wagenni anferth er mwyn cynnal yr arddangosfa gelf a chrefft ynddi. Yn ystod wythnos yr eisteddfod, caewyd yr Ocean a bu'r holl staff ynhlwm â threfniadau'r Ŵyl a ddenodd nifer o enwogion, gan gynnwys y cynBrifweinidog, Lloyd George.
Adeg yr Ail Ryfel, ymunodd â'r ARP, y corff oedd yn gwarchod yr ardal adeg cyrchoedd awyr. Un noson, roedd ef ac ychydig eraill, gan gynnwys y Sarjant Gus Broughton ar y mynydd y tu ôl i fynwent Treorci pan sylwodd mewn un man fod y gwair a'r rhedyn wedi eu llosgi. Pan ddaethon nhw'n nes, gwelon nhw barasiwt a bom [land mine] ynghlwm ag ef. Doedd hi ddim wedi ffrwydro a maes o lawn daeth tîm o'r fyddin i'w datgymalu. Gwnaethpwyd hynparhad ar dud 3
golygyddol l
y gloran
mehefin 2013
YN Y RHIFYN HWN
Albert yn 100...1 Golygyddol.. Statws Ysbyty Brenhinol Morgannwg...2 Y Gornel Iaith...3 Elvira Henry ...4 Newyddion Lleol...5-8 Teulu yn ailfyw Trasiedi’r Rhyfel...8 ...9-10-11 Ysgolion...12
DIRADDIO STATWS YSBYTY BRENHINOL MORGANNWG, LLANTRISANT?
2
Yn ddiweddar, yn anad un pwnc arall, mae dyfodol y gwasanaeth iechyd yn ne-ddwyrain Cymru wedi bod o dan sylw. Y rheswm am hyn yw bod pedwar Bwrdd Iechyd y rhanbarth, ynghyd â Bwrdd Iechyd Powys a'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi bod yn ystyried pa wasanethau i'w cynnig yn y chwe ysbyty o dan eu gofal sef, Caerdydd, Treforys,Cwmbrân, Merthyr Tudful Pen-ybont ar Ogwr a Llantrisant.. Wrth iddynt ddechrau ymgynghori â'r cyhoedd, daethant i'r casgliad bod angen canolbwyntio rhai gwasanaethau arbenigol
mewn pump o'r chwe ysbyty a'u hawgrym ar hyn o bryd yw peidio â chynnig y gwasanaethau hyn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant. Golyga hyn na fydd gwasanaethau newyddanedig a mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol, gwasanaethau cleifion mewnol plant a meddygaeth frys ar gyfer pobl â'r salwch ac anafiadau mwyaf difrifol ar gael yn Llantrisant a bydd rhaid i gleifion yr ardal hon deithio i Gaerdydd, Merthyr neu Ben-y-bont i dderbyn triniaeth. Y ddadl o blaid hyn yw y bydd y newidiadau yn effeithio ar nifer fach yn unig o
maint y traffig arnynt. Gan fod derbyn triniaeth o fewn yr awr gyntaf yn hanfodol bwysig mewn achosion brys, teimlad llawer yw bod y cynllun hwn yn peryglu bywydau. Pa mor dda bynnag fydd y driniaeth, fydd hi fawr o werth os byddwn wedi marw ar y ffordd yno! Ychwanegir at ein pryder wrth inni sylweddoli bod record y Gwasanaeth Ambiwlans yn yr ardal hon am ymateb yn gyflym gyda'r gwaethaf yng Nghymru. Oherwydd ei hanes diwydiannol, mae mwy o afiechyd na'r cyffredin yn yr ardal ac ar ben hynny mae lefelau tlodi'n uwch. Mae hyn yn cyfyngu ar allu pobl i dalu am ymweliadau â'r ysbyty ac mae trafnidiaeth gyhoeddus i'r drosodd
gleifion tost iawn neu rai sydd wedi eu hanafu'n ddifrifol, ac y bydd gwell triniaeth ar gael iddynt ar ôl cyrraedd yr ysbyty. Mae pawb sy'n gwrthwynebu'r newidiadau hyn yn tynnu sylw at rai ffeithiau amlwg iawn. Rydyn ni'n byw mewn cwm, ac i gyrraedd Peny-bont neu Ferthyr rhaid teithio ar hyd hewlydd mynydd sydd ar brydiau yn y gaeaf ar gau. Ar ben hyn, nid yw'n hawdd cyrraedd Caerdydd Ariennir yn rhannol yn gyflym gan Lywodraeth Cymru oherwydd Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison cyflwr gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru gwael y ffyrdd a Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
ALBERT YN CYRRAEDD CANT parhad
ny'n llwyddiannus ond bythefnos ar ôl hynny cafodd y swyddog oedd yn gyfrifol am y gwaith ei ladd wrth ddirymu bom debyg yn Lloegr. Dywed Albert fod Treorci'n frith o gymeriadau lliwgar yn ei ddyddiau cynnar, gan gynnwys Wil Dwl, Wil y Chwip, Dai Sand y Môr a Beni Baish. Cofia'r Pentre yn ganolfan siopa lewyrchus gydag amrywiaeth o siopau mawr. Erbyn hyn, mae e wedi ymddeol ers 40 mlynedd ond
yn hapus iawn ei fyd yn Ystradfechan lle mae'n derbyn gofal ardderchog. Yn anffodus, bu farw ei wraig, Mari, rai blynyddoedd yn ôl ond mae ei ferch Elizabeth, ei gŵr, Bob a'i wyresau Sarah a Katie yn ymweld ag ef yn gyson. Cafodd ddiwrnod i'r brenin ar ddydd ei ben blwydd a derbyn cardiau oddi wrth y Frenhines, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a Gweinidog Cymru, David Jones. Ond ymfalchia Albert yn y ffaith fod ganddo lu o gyfeillion, llai enwog ond yn bwysig, serch hynny, ac mae'r 107 o gardiau a dderbyniodd yn dystiolaeth o'u hoffter ohono a'u parch ato! Dymunwn iddo bob cysur a diddanwch i'r dyfodol, a mawr yw ein diolch iddo am rannu ei atgofion â ni. Fe'i llongyfarchwn yn galonnog ar yr achlysur nodedig hwn yn ei hanes.
Y GORNEL IAITH
Pobl Gair sy'n peri llawer o drafferth i siaradwyr Cymraeg yw POBL. Enw benywaidd unigol ydyw yn y Gymraeg ac felly dywedwn 'y bobl' . Rhaid treiglo unrhyw ansoddair sy'n dilyn - y bobl bwysig; y bobl waethaf; y bobl ddrwg. Ar lafar yn aml mae tuedd i bobl ei drin fel enw lluosog a pheidio â threiglo - pobol da; pobol mawr etc ond defnydd ansafonol yw hyn. Cynt Gair bach od yw 'cynt'. Mae iddo ddau ystyr i) blaenorol, o'r blaen ii) yr hyn a fu, yr hen amser. Pan fydd yn golygu i) blaenorol [previous], does byth treiglad, hyd yn oed pan fydd yn dilyn enw benywaidd e.e. y flwyddyn cynt; yr wythnos cynt. Fodd bynnag, pan olyga 'yr hyn a fu' [of yore, a period / object of the past], treiglir bob amser - y dyddiau dedwydd gynt; yn ystod fy ieuenctid gynt. ysbytai fydd yn eingwasanaethu'n anghyfleus ac yn annibynadwy. Er y bydd gwasanaethau sylfaenol ar gael ym mhob ysbyty, teimlwn, oherwydd amgylchiadau cwbl unigryw yr ardal hon, fod rhaid cadw'r gwasanaethau arbenigol yn Llantrisant. Galwn felly ar bawb i fynegi eu barn yn glir ac yn groyw yn ystod y cyfnod o ymgynghori fydd yn para tan 19 Gorffennaf 2013. Gallwch wneud hyn trwy lenwi holiadur a gyhoeddir gan Opinion Research Services, datgan eich barn trwy ysgrifennu i Rhaglen De Cymru, Blwch Swyddfa Bost 4368, Caerdydd CF14 8JN neu yn y cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir ledled de Cymru a de Powys. Cofiwch wneud gan y gall y cynigion hyn effeithio ar bob un ohonom yn ddiwahân.
Statws Ysbyty parhad
3
CÔR YN ANRHYDEDDU ELVIRA HENRY
4
Mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn ddiweddar, cafodd Miss Elvira Henry, gynt o Dreherbert, ei derbyn yn Aelod Benywaidd Anrhydeddus o Gôr Meibion Treorci yn gydnabyddiaeth am ei chyfraniad i'r côr fel unawdydd ac adroddwraig. Dywedodd David Bebb, cadeirydd y côr, "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r côr wedi cydnabod cyfraniad arbennig merched i lwyddiant y côr trwy dderbyn yn Aelodau Er Anrhydedd rai cyn-gyfeilyddion, unawdwyr a chefnogwyr, ond, am ryw reswm neu'i gilydd, ni chynigiwyd yr anrhydedd honno i Elvira Henry. Trwy lwc, daeth
nith iddi atom ar ôl cyngerdd yn Amwythig [Shrewsbury] a'n hysbysu bod Elvira nawr yn byw ger Ystradgynlais ac yn dal i ymddiddori yn hynt a helynt y côr.
Yn gynharach eleni, dathlodd ei phen-blwydd yn 90 oed a bwriad rhai o aelodau'r côr oedd picio draw i'w chartref i ddymuno 'Pen-blwydd Hapus' iddi ar gân. Yn anffodus, oherwydd y tywydd drwg, fu hynny ddim yn bosib ac felly, heno cawn ddathliad dwbl trwy ei llongyfarch ar gyrraedd 90 i ddechrau, ac wedyn cydnabod ei chyfraniad i'r côr.
Ei chefndir Magwyd Elvira Henry yn Nhreherbert lle y dysgodd am gerddoriaeth yn ysgol Sul ei chapel lleol. Erbyn iddi gyrraedd ei harddegau daeth yn amlwg fod ganddi lais soprano arbennig a mawr oedd y galw am ei gwasanaeth yn yr ardal. Yn 1962 daeth i sylw John Haydn Davies, arweinydd Côr Meibion Treorci, a estynnodd wahoddiad iddi ganu fel unawdydd mewn cyngerdd yng Nghaerffili ar 1 Mai y flwyddyn honno. Dyna ddechrau ei chysylltiad â'r côr ac am y chwe blynedd nesaf ymddangosodd gyd nhw mewn cyngerddau ledled Cymru a thu hwnt. Perf-
formiodd mewn pymtheg o gyngherddau yn ystod y blynyddoedd hyn gan ddod yn ffefryn mawr.
Ymddeolodd yn fuan wedyn gan symud i Gwm Tawe lle mae'n dal i fyw. Cawsom ei chwmni yn 2010 pan ddaeth i seremoni dadorchuddio'r plac glas ar dafarn y Red Cow sy'n nodi sefydliad y côr yn 1883. Ers hynny, cadwodd mewn cysylltiad â ni a chyfrannu'n hael yn ariannol i'n gweithgareddau. Diolchwn iddi am hynny. Felly,. ar ran Côr Meibion Treorci, mae'n bleser cyflwyno Aelodaeth er Anrhydedd i Miss Elvira Henry."
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Mae'n flin gan bawb yn yr ardal bod y Coronation Delicatessen ar gornel Stryd Bute yn mynd i gau fel siop fara ar 14 Mehefin ar ôl blynyddoedd maith o wasanaethu'r gymuned. Ers i'r diweddar Cliff Doughty roi'r gorau i'w chadw, bu'r siop boblogaidd hon dan ofal David a Glenys Williams. Y newyddion da, fodd bynnag, yw y bydd y siop yn cael ei ailagor gan David a Glenys a fydd yn gwerthu dillad. Yn ogystal, maen nhw'n awyddus i hybu gwerthiant trwy'r we. Pob lwc iddynt yn eu menter newydd. Tristhawyd yr ardal gyfan o glywed y newyddion am farwolaeth sydyn Adrian Bury o Dynewydd ac yntau ond yn 43 oed. Cyn iddo ddechrau cymudo'n wythnosol i Middlesborough i weithio, cadwai Adrian y siop pysgod a sglodion ar sgwâr y Wyndham. Dangoswyd y parch mawr ato yn yr ardal gan y dyrfa fawr a ddaeth i'r gwasanaeth angladdol a gynhaliwyd yng nghapel Blaen-y-cwm. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â Shelley, ei weddw a Charlotte, ei ferch yn eu profedigaeth.
Bu dathlu mawr yng nghlwb rygbi Treherbert, nos Wener, 17 Mai, ar achlysur hanner can mlwyddiant sefydlu'r clwb yn hen stiwt Pwll Glo Tydraw yn Stryd Wyndham, Tynewydd. Roedd y neuadd dan ei sang gyda nifer o gyngapteiniaid y clwb yn bresennol. Roedd yn dda cael cwmni Dennis Gethin, Llywydd Undeb Rygbi Cymru a Des Barnett, aelod o'r Undeb a chwaraeodd dros Dreherbert. llywyddwyd y noson gan Neil Skym, cadeirydd y clwb a chafwyd anerchiad doniol a phwrpasol gan Phil Steele, aelod o dîm Scrum 5 y BBC.
TREORCI
Llongyfarchiadau i Mrs Mair John, Teras Troedyrhiw nawr ond gynt o Deras Tynybedw, ar ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Mae Mrs John yn aelod ffyddlon o Fethlehem a hefyd o Glwb Cameo, Ton Pentre. Mae pawb yn dymuno'n dda iddi i'r dyfodol. Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Peter Jones, Stryd Rees, a hynny ond pythefnos
ar ôl marwolaeth ei chwaer, Margaret Wilkins. Roedd Peter yn ŵr bonheddig a gafodd yrfa fel gwas sifil. Yn ei ieuenctid roedd yn beldroediwr talentog. Bu wedyn yn ysgrifennydd clwb pêl-droed Tonyrefail. Yn uchel ei barch gan bawb, mynychai wasanaethau Byddin yr Iachawdwriaeth yn selog. Cydymdeimlwn â'i briod, Marilyn a'i fab, Marc Tewdwr sy'n ddarlithydd prifysgol yn Llundain. Pob dymuniad da i Mr Bob Knape, Troedyrhiw, sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar. Mae ei ffrindiau'n gobeithio y caiff adferiad iechyd llwyr a buan. Cafodd cefnogwyr pwyllgor Ymchwil i Gancr UK Treorci noson gymdeithasol ddiddorol a buddiol iawn yng nghwmni'r darlledwr adnabyddus o Don Pentre, Dewi Griffiths, nos Iau 23 Mai. Soniodd Dewi am rai o'i brofiadau wrth weithio i'r BBC dros lawer o flynyddoedd a difyrru'r gynulleidfa luosog â'i storiau doniol a difrifol. Llwyddwyd i godi dros £500 at yr achos teilwng hwn a rhaid llongyfarch y pwyllgor gweithgar ar godi bron £10,000 eleni yn unig. Mae'r pwyllgor
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN yn ddiolchgar iawn i bobl y lle am eu cefnogaeth hael a chyson. Ddydd Sadwrn, 1 Mehefin o ganol dydd ymlaen cynhaliwyd y Big Gig ar yr Oval. Cafwyd perfformiadau gan nifer o fandiau lleol poblogaidd a chafodd pawb ddiwrnod i'r brenin yn eu sŵn. Ddydd Mercher, 29 Mai aeth llond bws o aelodau Clwb Henoed Treorci ar daith i Gaerfyrddin. Cafodd pawb hwyl yn ymweld â'r ganolfan siopa newydd a'r farchnad. Bydd y wibdaith nesaf ym mis Gorffennaf i Wlad yr Haf ac mae'r holl aelodau yn ddiolchgar iawn i Eira Richards a Joyce Morgan am ymgymryd â'r holl drefniadau.
5
Os teimlwch fod gennych dalent arbennig ac yn awyddus i'w harddangos, ewch i'r Parc a'r Dâr ar 29 Mehefin i gael clyweliad ar gyfer 'Treorci's Got Talent'. Efallai dyma eich cyfle mawr gwnewch y gorau ohono! Bu aelodau Bethlehem, Hermon, Providence ac Eglwys San Matthew wrthi yn casglu at Gymorth Cristnogol ym mis Mai. Maen nhw am ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr achos teilwng hwn. Cyhoeddir y cyfanswm a gasglwyd unwaith y bydd y trysorydd lleol wedi derbyn pob cyfraniad. Llongyfarchiadau i Wayne a Susan Thomas, Heol Gethin ar ddathlu eu priodas aud yn ddi-
6
weddar a phob dymuniad da iddynt i;r dyfodol. Rhwng 21 - 25 Mai, cyflwynwyd drama Shakespeare, 'Love's Labour's Lost' gan Players Anonymous yn Theatr y Parc a'r Dâr. Cafodd yr actorion hwyl arni o dan gyfarwyddyd Gordon Thomas. Rhaid rhoi clod arbennig i'r ifancaf ohonynt, William Buckland, oedd yn cymryd rhan y gwas bach, Mote. Cynhyrchiad nesaf y cwmni fydd 'Ladies in Retirement' gan Reginald Denham a lwyfennir ym mis Medi. Mae aelodau Côr WI Treorci yn anfon pob dymuniad da at un o'r aelodau, Nan Price, Prospect Place, sydd wedi bod yn gaeth i'r tŷ gan afiechyd ers tro. Mae Nan yn
aelod selog o'r côr ac mae pawb yn gweld ei heisiau'n fawr. Brysiwch i wella! Oherwydd yr atgyweiriadau a'r gwelliannau a wneir i Neuadd Eglwys Sant Matthew ar hyn o bryd, bydd y WI yn cwrdd dros dro yn Neuadd y Dderwen, Heol y Fynwent. Y siaradwr, nos Iau, 6 Mehefin oedd Jan Price a trafododd farddoniaeth ddigrif. Mae Tesco wedi ailgyflwyno cynlluniau i'r Cyngor ar gyfer codi archfarchnad ar y Cae Mawr. Cynhaliwyd arddangosfa yn Neuadd y Dderwen ddydd Gwener, 7 Mehefin er mwyn i bobl y lle wneud eu sylwadau. Disgwylir y bydd y cais yn cael ei ystyried
gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor yn yr hydref.
CWMPARC
Cafwyd perfformiad a gwasanaeth unwaith eto eleni gan ddisgyblion yr ysgol gynradd i goffau'r trigolion lleol a gollodd eu bywydau yn y blitz a ddigwyddodd 29 Ebrill. 1941. Cyflwynwyd rhai o ddigwyddiadau a chaneuon y cyfnod yn effeithiol iawn gan y plant a chwaraeodd y band pres yn arbennig o dda. Dilynwyd hyn gan wasanaeth yn yr ardd goffa. Roedd y Cyng. Doug Williams, maer RH.C.T. a'i wraig yn bresennol a chanwyd emynau priodol gan rai o
aelodau Côr Meibion Treorci. Llongyfarchiadau i'r ysgol ar drefnu'r achlysur. Trefnwyd ymgyrch casglu sbwriel yn y pentref gan Lisa Taylor, un o athrawesau'r ysgol, ddydd Sadwrn 25 Mai. O fewn dwy awr llwyddodd y plant a rhai o'r athrawon i lenwi 25 sach. Hefyd yn bresennol roedd Ceri Davies o Wasanaeth Gofal Strydoedd y Cyngor a'r Cyng. Emyr Webster. Yn goron ar y bore, cafodd y plant ymweliad gan Rhys Cycle y mascot ailgylchu sirol. Mae trefniadau ar droed ar gyfer Ffair Haf Eglwys San Siôr a gynhelir ddydd Sadwrn, 29 Mehefin rhwng 10.30 1p.m. Bydd stondinau amrywiol, lluniaeth ysgafn a raffl ar gael. Felly, dewch yn llu i gefnogi'r
eglwys. Fel arfer bydd bore coffi Cymraeg yn cael ei gynnal ar y bore Llun cyntaf o'r mis rhwng 10 - 11 a.m. Mae croeso bob amser i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. Rhowch wybod i'ch ffrindiau os ydych chi am fwynhau clonc a dysglaid! Nos Iau, 20 Mehefin cynhelir cwis yn neuadd Ysgol y Parc i godi arian at yr ysgol. Bydd y noson ar gyfer oedolion yn unig a rhaid ffonio'r ysgol ar 776601 i sicrhau bord. Y tâl mynediad yw £2 y pen ond ni chaniateir mwy na 6 mewn tîm. Trefnir lluniaeth ysgafn a raffl yn ogystal.
Y PENTRE
Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion
am farwolaeth Dr Tudor Edwards, Pleasant View. Addysgwyd Dr Edwards yn Ysgol Ramadeg y Pentre ac aeth ymlaen i raddio mewn gwyddoniaeth. Bu'n dysgu yn Ysgol Gyfun y Porth ac roedd yn aelod selog yn Eglwys San pedr lle yr ymddiddorai'n fawr mewn canu'r clychau. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu profedigaeth. Mae pawb yn Nhŷ'r Pentre yn dymuno 'Penblwydd Hapus Iawn' i Rene Davies oedd yn dathlu ar 18 Mehefin ac mae preswylwyr Llys Siloh yn anfon yr un neges at eu warden, Diane Wakeford a gafodd ei phen-blwydd ar y 12fed. Bydd yr wythnosau nesaf yn rhai prysur a chyffrous i aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth. Ar ddydd Sul, 7fed byd-
dant yn ffarwelio â Bernie a Stephen Westwood a diolch iddynt am eu gwasanaeth i'r ardal ond ddiwedd y mis estynnir croeso i'w holynwyr Major Maria-Rosa a'r Lefftenant Mark Kent. Mae pawb yn dymuno'n dda iddynt yn eu gofalaeth newydd. Tristwch i bawb yn Stryd Robert oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mari Beams. Cofiwn am ei theulu a'i ffrindiau oll yn eu hiraeth. Ar hyn o bryd mae deiseb wedi ei threfnu ar lein gan aelodau PACT y Pentre yn galw ar Lywodraeth Cymru a Senedd Ewrop i neilltuo arian ar gyfer adfywhau'r ardal. Cofiwch fynd ar y we i www.assembleywales.org i arwyddo. Cynhelir cyfarfodydd PACT yn Nhŷ Nazareth
7
am 6 o'r gloch ar nos Lun cyntaf y mis. Croeso i bawb ddod yno i gwrdd ag aelodau'r heddlu lleol a'r cynghorwyr. Cofiwch fod Chwarae Plant yn dal i ddigwydd bob dydd Mercher rhwng 3.30 - 5.15. Trefnir chwaraeon a gweithgareddau amrywiol ar gyfer plant o bob oed. Dewch i ymuno yn yr hwyl.
TON PENTRE A’R GELLI
Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mrs Marilyn Jordan, Maendy Croft sydd yn yr ysbyty ar ôl cwympo yn y tŷ a thorri ei choes. Gwelir ei heisiau'n fawr yng nghapel Hebron lle mae hi'n ddiacon. Llongyfarchiadau i'r Cynghorydd Shelley Rees-Owen ar gael ei
dewis gan Blaid Cymru yn ymgeisydd ar gyfer etholiadau Senedd Sant Steffan pryd y bydd yn herio'r Aelod Seneddol presennol, Chris Bryant. Llongyfarchiadau hefyd i Jill Evans A.S.E. ar gael ei dewis yn rhif 1 ar restr Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau i Senedd Ewrop y flwyddyn nesaf. Mae Jill wedi cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop er 1999. Roedd yn dristwch i bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth un o drigolion mwyaf adnabyddus yr ardal, Mr edward (Ted) Kyte, Stryd Canning Uchaf. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w deulu yn ei hiraeth. Llongyfarchiadau i David Cynan Jones, plant ac sathrawon Ysgol Gynradd y Gelli ar ennill cystadleuaeth a drefnwyd gan Ambassador Fire & Security Cyf. Y
wobr oedd I-pad Apple a fydd yn ychwanegiad gwerthfawr at offer cyfrifiadurol yr ysgol. Derbyniodd Mr Jones y wobr mewn cynhadledd prifathrawon a gynhaliwyd yn y Village Hotel, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
Wilson yn aelod o Sgwadron 79 un o'r Sgwadronau Eagle oedd wedi ei leoli ar Gomin Fairwood, Abertawe adeg y rhyfel a digwyddodd y ddamwain yn ystod taith ymarfer uwchben y Rhondda.
fynnodd Early Wilson a gelai ymuno â sgwadron oedd yn gwasanaeth mewn gwlad dwym ac roedd i fod i symud i'r India y mis Mawrth canlynol. Yn anffodus, daeth ei ddiwedd cyn iddo allu gwireddu ei ddymuniad.
Mae 10 aelod tîm snwcer y Clwb Pêl-droed lleol yn hyderus y byddant yn codi £2,000 o ganlyniad i'r snwcerthon a gynhaliwy unwaith eo eleni. Os digwydd hyn bydd y cyfanswm a godwyd yn ystod y 22 flynedd diwethaf yn cyrraedd £60,000 a'r cyfan yn mynd at elusen Nyrsys MacMillan. Llngyfarchiadau ar ymdrech arbennig o wych. Yn ddiweddar hefyd, cynhaliodd y Clwb Pêldroed ei noson wobrwyo. Y prif enillydd oedd Thomas Davies, un
TEULU'N AILFYW TRASIEDI'R RHYFEL Ym mis Medi 1941 lladdwyd Early Wilson, Americanwr o Texas, ar Fynydd y Rhigos, pan wrthdrawodd ei awyren â'r mynydd ac yntau'n ei hedfan mewn cymylau trwchus. Yn sydyn, cafodd ei hun yn is na chopa'r mynydd ac wrth geisio codi'r awyren, gwnaeth hynny'n rhy sydyn a thagodd yr injan. Disgynnodd yr Hawker Hurricane allan o reolaeth a lladdwyd y peilot ifanc, 22 oed. Roedd Early
8
Cafodd ei gladdu ym mynwent Cilâ [Killay], Abertawe gan nad oedd yn arfer anfon cyrff yn ôl i'w gwlad enedigol yn anterth y rhyfel. Ac yntau'n dod o Texas, go-
Cyfrinachedd Oherwydd sensoriaeth y Llu Awyr, ni ryddhawyd newyddion am y ddamwain a dim ond pobl oedd yn byw yn y cyffiniau cyfagos oedd
o amddiffynwyr y tîm, a enillodd 4 o'r 6 gwobr, sef Chwaraewr y Flwyddyn ym marn y rheolwr, Chwaraewr y Flwyddyn yn ôl ei gydchwaraewyr, Chwaraewr y Clwb y Flwyddyn a Chwaraewr y Flwyddyn yn nhyb y cefnogwyr. Tipyn o gamp! Jamie Wearne, prif sgoriwr y tîm, enillodd wobr Gôl y Flwyddyn. Cyflwynwyd y gwobrau gan Jill Evans, ASE, Ysgrifennydd Cynghrair Cymru, Mr Ken Tucker, y cynghorwyr lleol Maureen Weaver a Shelley ReesOwen ynghyd â John Bowen.
Pob lwc i'r First Step Shop yn Heol Gelli sydd wedi ychwanegu Caffi / Bwyty i'w busnes. Mawr obeithiwn y llwyddiff gan ei fod yn ychwanegiad diddorol i'r cyfleusterau a fwynheir gan drigolion yr ardal.
yn gwybod amdani. Un o'r rhain oedd Len Pearce oedd yn fachgen ysgol 11 oed ar y pryd. Wrth iddo ddod adre o'r ysgol y prynhawn Gwener hwnnw, daeth yn ymwybodol o awyren yn hedfan yn isel a sylweddoli ei bod mewn trafferth. Clywodd glec y gwrthdrawiad a gyda rhai o'i ffrindiau dringodd y mynydd i safle'r ddamwain a gweld darnau o'r Hurricane ar chwâl ar hyd y
lle. Cyn bo hir, cyrhaeddodd yr heddlu i warchod y safle a rhwystro pobl rhag ei gyrraedd.
Cofeb Mae 70 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y digwyddiad, ond yn ddiweddar, ymwelodd nith Early Wilson, Dolcie 'Dana' Ehlinger, 71 oed, â Threherbert a chael cyfle i ymweld â'r safle gyda Len Pearce, sydd bellach yn ei wythdegau. Er nad oedd Dolcie wedi ei geni pan ddigwyddodd y ddamwain, cymerodd ddiddordeb mawr yn hanes ei hewythr. Aeth ati i lunio cofiant iddo, 'Letters From My Son', wedi ei seilio ar gasgliad o lythyron yr anfonodd Early at ei fam o'r adeg pan oedd yn 10 oed tan ei farwolaeth. Yn ŵr ifanc, gweithiodd Early Wilson fel ffotograffydd a newyddiadurwr yn Efrog Newydd gan sgrifennu erthyglau am rai o sêr y sinema, gan gynnwys Audrey Hepburn. Gobaith y teulu yw codi arian i osod plac yn Nhreherbert i gofnodi'r digwyddiad hwn nad yw'n hysbys i'r rhan fwyaf o bobl yr ardal.
O LUNDAIN I DREORCI VIA ZAGREB - PORTREAD O'R DR KRYS WILLIAMS
Saesneg. Dywed ei bod wedi gwrthryfela yn erbyn hyn yn ei harddegau a gwrthod siarad yr iaith. Er i'w thad ddweud, "Bydd Pwyleg yn ddefnyddiol iti yn y dyfodol", chwerthin a wnaeth. Ond, erbyn hyn, yn ôl Krys, 'Mae fy nhad yn chwerthin yn y nefoedd!'
Krys yn dair blwydd oed, yn gwisgo mewn dillad traddodiadol o Krakow
Erbyn hyn, Dr. Krys Williams yw ysgrifennydd cangen Treorci o Blaid Cymru ac yma mae hi'n byw ac yn gweithio fel cyfieithydd dogfennau meddygol o sawl un o ieithoedd dwyrain Ewrop. Cafodd ei geni yn Llundain, yn ferch i deulu o ffoaduriaid o Wlad Pwyl a dywed ei bod yn bosib byw yn Ealing, lle cafodd ei magu, bron yn gyfan gwbl drwy'r Bwyleg. Âi i Ysgol Sadwrn Bwylaidd bob wythnos, Pwyleg oedd iaith ei changen hi o'r Girl Guides a dyna oedd iaith ei heglwys yn ogystal. Prynai'r teulu ei anghenion mewn siop Bwylaidd, 'Polski Skiep'. Yn naturiol, Pwyleg oedd iaith yr aelwyd ac aeth i'r ysgol heb wybod gair o
Y Teulu Enw ei thad oedd Leon Jablonski a'i mam oedd Urszula Jablonska. Ei henw bedydd hithau oedd Krystyna Franciszka Jablonska, enw tipyn yn fwy dieithr na Krys Williams, yr enw a ddewiswyd ganddi trwy weithred newid enw yn 2006 pan ddaeth i Gymru gyda'i phartner, Dr David Williams a hanai o Benygraig. 'Deuai fy mam o ddinas Lwow ac roedd 'nhad yn aelod o deulu Pwylaidd a drigai mewn pentref yn y gorllewin a oedd yn rhan o'r Almaen ar y pryd.' ebe Krys. 'Roedd 'Nhad yn gweithio ar y rheilffordd pan gafodd ei restio gan y
Leon Jablonski
Rwsiaid a phan oedd mam yn 14 oed cafodd ei thad, oedd yn blismon, ei saethu'n farw gan y Rwsiaid a chludwyd y teulu i wersyll cadw yn Rwsia. Fodd bynnag, pan ymunodd Rwsia yn y rhyfel yn erbyn y Natsiaid, sefydlwyd Byddin Rydd Pwyl a daeth fy 9
Urszula Jablonska
rhieni’n ‘Comms’ yn y fyddin honno. Mudon nhw i Irac, Yr Aifft, Monte Casino yn yr Eidal ac ymsefydlu yn y diwedd yn Lloegr. Pobl ddosbarth gweithiol oedd fy rhieni. Cafodd 'Nhad waith fel plymwr a pheirianydd gwres canolog gyda Wimpey tra bod Mam yn gweithio tu ôl i'r cownter yn Woolworth.'
Ar ôl mynychu Ysgol Gynradd Babyddol St Gregory yn Ealing, aeth Krys ymlaen i ysgol uwchradd i ferched yn Hammersmith a maes o law ennill gradd gyntaf mewn Patholeg Gellog a doethuriaeth mewn imiwnoleg ym Mhrifysgol Bryste. Priododd ei gŵr cyntaf oedd yn dod o Groatia a byw yn Zagreb yn y wlad honno am bum mlynedd. Dechreuodd weithio mewn labordy ond gan nad oedd yn mwynhau'r gwaith cafodd swydd fel llyfrgellydd yng Nghyfadran gwyddorau Chwaraeon a Hamdden ym Mhrifysgol Zagreb. Dyma'r adeg y dechreuodd hi gyfieithu o'r Groateg ac weithiau Slofeneg i'r Saesneg.
Gyda’i merched
Erbyn hyn, roedd ganddyn nhw ddwy ferch, Natasha ac Erika a maes o law, symudodd y teulu i Loegr. Ymgartrefon nhw ym Mryste i ddechrau ac wedyn i Sheffield lle gweithiai ei gŵr yn y brifysgol. Tra yno, gweithiodd am 15 mlynedd i FRAME [Fund for 10
the Replacing of Animals in Medical Experiments] sy'n elusen wyddonol. Roedd y gwaith yn ddiddorol ond yn galed iawn gan y golygai lawer o deithio. Meddai Krys, "Teimlwn fod pethau'n mynd yn drech na fi ond des i o hyd i wefan ar gyfer cyfieithwyr a dechrau cael syniadau am ailgyfeirio. Erbyn hyn, dw i'n gweithio fel cyfieithydd meddygol ar fy liwt fy hun yn cyfieithu dogfennau o bwyleg, Croateg, Serbeg, Slofeneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg i'r Saesneg."
Diddordebau Mae gan Krys ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth glasurol a gwerin. Mae hi'n canu'r ffidil gyda grŵp Bristol Harmony sy'n arbenigo yng ngherddoriaeth eglwysi pentrefol Lloegr rhwng 1700-1850 sy'n gymysgedd o'r clasurol a gwerin. Mae hi hefyd yn ymddiddori yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru ac yn dysgu i ganu'r delyn. Diddordeb arall yw dysgu am yr Hen Aifft ac ymwelodd â'r wlad honno bum gwaith. Ond ar hyn o bryd mae dysgu Cymraeg yn mynd â llawer o'i hamser. Ymgartrefodd yn Nhreorci gyda'i chymar David a fu farw, yn anffodus, yn 2010. "Des i gyda fe i weld yr ardal lle y ganed ef a meddwl fod y Rhondda mor hyfryd! Treulion ni rai dyddiau yn gyrru o gwmpas a dewis Treorci oherwydd y theatr, y siopau, yr orsaf a'r mynyddoedd. Dw i'n teimlo'n ddiogel iawn yma, mor wahanol i'r dinasoedd mawr. Bythefnos ar ôl marwolaeth David, rown i'n ymarfer gyda Chôr Cwm Rhondda ac wrth ganu yn Gymraeg, teimlo cyswllt cryf iawn. Wrth yrru adre, roedd y cwm yn euraidd yn y machlud ac rown i'n gwybod, er gwaethaf popeth, fy mod i wedi dod o hyd i fy nghartref."
Ysgol Gyfun Cymer Rhondda LLWYDDIANT YSGUBOL UNWAITH ETO YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
Mae disgyblion Ysgol Gyfun Cymer Rhondda wedi dychwelyd o Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro ar ôl sicrhau llu o fedalau eto eleni. Teithiodd dros 70 o ddisgyblion a’u teuluoedd i Sir Benfro yn ystod gwyliau’r Sulgwyn i gystadlu mewn deunaw o gystadlaethau. Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i bob un a gystadlodd ac a gynrychiolodd ein hysgol a’n cwm. Enillwyd 6 medal i gyd –
Gwobr 1af – Chloe Wilson a Nia Rees (Deuawd - 15) 2il wobr – Côr yr Ysgol 3ydd wobr – Côr Merched Bl 7, 8 a 9 Seren Hâf Macmillan (Llefaru Unigol +15) Sarah Louise Jones (Llefaru Unigol +19) Yn ogystal, dyfarnwyd y drydedd wobr yng nghystadleuaeth gelf yr Urdd i Jenny Page o Flwyddyn 7.
Mae’r llwyddiannau yma yn profi gallu ein disgyblion i sefyll ysgwydd yn ysgwydd â thalentau gorau’r wlad a thu hwnt. Meddai Pennaeth yr Ysgol, Ms Rhian Morgan Ellis – "Mae'n fraint bod yn rhan o gymuned yr ysgol hon. Mae ymrwymiad ein disgyblion a'n staff a chefnogaeth ddibendraw ein rhieni ac aelodau'n cymuned, yn sicrhau cyflawniad a llwyddiant rhagorol yn barhaus i'n plant. Mae Cymru gyfan yn gwybod amdanom. Diolch o galon i bawb."
11
Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
Cawson gyfle i ffarwelio gyda myfyrwyr hynaf yr Ysgol ar ddiwrnod olaf yr hanner tymor. Diolchwn iddynt am bob cyfraniad i fywyd yr Ysgol a dymunwn y gorau iddynt
wrth iddynt gychwyn ar gyfnod newydd yn eu bywydau. Gwn y byddant yn parhau yn genhadon gwych i’r Cymer!
Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
12
FFARWEL BLWYDDYN 13