y gloran papur bro blaenau’r rhondda fawr
DATHLU’R FFLAM
YN Y RHONDDA
20c
rhifyn 272 2il gyfrol
mehefin 12
golygyddol
y gloran
e-bost: ygloran@hotmail.com
Daeth yn adeg y gwyliau, yr eisteddfodau a'r sioeau unwaith yn rhagor, a diolch amdanynt oll. Mae'n siwr bod llawer o ddisgyblion ysgol lleol wedi teithio i'r gogledd i gymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd ac wedi elwa'n ddiwylliannol o wneud hynny. Mae'n dda ein bod yn cael cyfle yn flynyddol i ddathlu ein hiaith a'n traddodiadau yn ein ffordd unigryw ein hunain yn hytrach na chael ein traflyncu gan y diwylliant masnachol Eingl-Americanaidd sy'n ein hamgylchynnu'n feunyddiol. Yn ddiau, mae'r Urdd wedi gwneud cyfraniad clodwiw yn y cyfeiriad hwn dros flynyddoedd lawer, ond fel pob mudiad arall, mae wedi gweld newidiadau mawr. N么l ym mhumdegau'r ganrif ddiwethaf roedd aelwydydd bywiog iawn yma yn y Rhondda gan gynnwys Treherbert, Treorci a'r Maerdy a'r gystadleuaeth rhyngddynt yn ffyrnig ar brydiau! Ychydig o'r gweithgarwch a ddibyn2
nai ar ysgolion, ond roedd athrawon a chynathrawon wrthi'n ddiwyd iawn yn cynnal y gwahanol aelwydydd yn ein trefi a'n pentrefi. Yn y dyddiau hynny, roedd gwaith gweinyddol athrawon dipyn yn llai a gallent ganolbwyntio ar eu prif dasgau o ddysgu a chywiro gwaith. Doedd dim s么n am yr asesu di-baid a geir heddiw na chwaith am reoliadau iechyd a diogelwch, ac o ganlyniad roedd mwy o ryddid, amser ac egni ganddynt, nid yn unig i ddysgu ond hefyd i gyfrannu i fywyd y gymdeithas y perthynent iddi ar 么l oriau ysgol. Nhw oedd arweinwyr y capeli, y cymdeithasau diwylliannol a'r aelwydydd. Fodd bynnag, nid pwysau gwaith yn unig sy'n eu rhwystro erbyn heddiw ond hefyd yr arfer cynyddol o fyw y tu allan i ddalgylch yr ysgol. Mae'n siwr bod hyn yn ddihangfa i lawer ond mae'n golled enfawr i'n cymunedau lleol. Rhaid canmol gwaith yr ysgolion a'r hyn a
y gloran
mehefin 2012 YN Y RHIFYN HWN
Y Fflam Olympaidd -1 Golygyddol-2 Y Fflam/Cynghorydd yn ymddeol -3 -4
NEWYDDION TREHERBERT TREORCI CWMPARC Y PENTRE TON PENTRE/ Y GELLI/YSTRAD - 5-6-7-8-9
Ysgolion/Prifysgolion -10-11-12
gyflewnir o dan amgylchiadau anodd ond o safbwynt y Gymraeg, mae perygl ei bod yn prysur ddatblygu'n iaith ysgol, heb iddi ddefnydd yn y byd mawr oddi allan. Yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf roedd y sefyllfa i'r gwrthwyneb. Saesneg oedd iaith yr ysgol a'r capeli ac aelwydydd yr Urdd yn ynysoedd o Gymreictod allan yn y gymdeithas. Cyfuniad o'r ddau fyddai'n ddelfrydol bellach
gan y byddai aelwydydd, cymdeithasau Cymraeg, papurau bro ac unrhyw weithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg yn ategu gwaith gwych yr ysgolion yn cynhyrchu to newydd o siaradwyr Cymraeg. Hon, mae'n siwr, fydd y frwydr fawr nesaf yn adferiad y Gymraeg - lledu'r iaith o'r ystafell ddosbarth i'r gymuned gan gynnig cyfle i bobl ifainc i ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd diddorol, adloniadol yn hytrach na'i hystyried yn iaith ysgol yn unig. Dim ond y pryd hynny y bydd plant anacademaidd yn gweld ei gwerth fel cyfrwng mwynhau a byw bywyd yn llawnach. Yn sicr, mae gan yr Urdd ran i'w chwarae mewn proses felly ond mae angen gwirfoddolwyr i gyflawni'r gwaith pwysig hwn. Yn y cyfamser rhaid diolch i'r mudiad am wneud cystal o dan amgylchiadau pur anodd ac i'r ysgolion am eu cefnogaeth er gwaethaf y pwysau mawr ar athrawon. Gol
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISON gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru
Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
Y FFLAM OLYMPAIDD LLUNIAUʼR CLAWR:
(Diolch i Alison Chapman a Gareth Evans am eu lluniau) Tu faʼs oʼr Cardiff Arms
Siop anifeiliaid - 2il wobr
Davies Drapers gwobr 1af
Tu mewn i Glwb Bechgyn a Merched
Siop Danish Bacon 3ydd gwobr
O flaen Clwb Bechgyn a Merched Sgwâr y Stag
Daeth y fflam Olympaidd drwy Treherbert a Threorci ddydd Sadwrn,
Nos Fawrth, 8 Mai yng Nghlwb Rygbi Treorci, daeth nifer fawr o aelodau cangen Treorci ynghyd i dalu teyrnged i'r Cynghorydd Edward (Ted) Hancock sy'n ymddeol ar ôl gwasanaethu'r ward am 13 blynedd. Roedd pawb yn falch gweld arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn bresennol a soniodd wrth annerch am ddycnwch, brwdfrydedd a thrylwyredd Ted ar hyd y blynyddoedd. Talwyd teyrngedau
26 Mai a daeth cannoedd allan ar y strydoedd i'w chroesawu.
Yn ffodus, cafwyd tywydd ardderchog ac roedd pawb wrth eu bodd yn chwifio baneri ac yn cymeradwyo'r rhedwyr wrth iddyn nhw fynd heibio. Cafodd y siopau, y tafarnau a'r caffis ddiwrnod i'r brenin ac aeth y dathlu ymlaen ymhell i'r nos. Ar ôl teithio trwy Treherbert, Ynyswen a stryd fawr Treorci aeth y fodurgad yn ei blaen i Gwm Ogwr. Er bod nifer o drigolion y Rhondda wedi eu dewis i gludo'r fflam, mynegwyd siom gan rai nad oedden nhw wedi cael y cyfle i wneud hynny yn eu cynefin yn hytrach nag mewn mannau eraill. Da oedd clywed bod y pentref Olympaidd ar faes parcio'r Coop yn Nhreorci wedi bod yn fwrlwm o weithgar-
CYNGHORYDD YN YMDDEOL
wch drwy'r dydd a bod nifer o fasnachwyr lleol wedi cael diwrnod prysur wrth gynnal eu stondinau yng Nghlwb y Bechgyn a'r Merched. Gyda'r Cyngor yn esgeuluso blaenau'r Rhondda, roedd yn dda gweld sut y gall achlysur fel hyn roi hwb i'r economi leol. Daeth llawer o bobl yma am y tro cyntaf a chael eu siomi ar yr ochr orau gyda safon ac amrywiaeth y siopau. Dywedodd nifer y bydden nhw'n dychwelyd ar ôl cael y fath agoriad llygaid. Rhaid ond gobeithio y bydd yr Ŵyl Gerdd arfaethedig a dathliadau'r Nadolig yr un mor llwyddiannus er mwyn gwneud 2012 yn flwyddyn i'w chofio i fasnachwyr yr ardal..
iddo gan Cennard Davies, Sêra Evans Fear, Geraint Davies a Gwyn Evans a llywyddwyd y cyfarfod yn ddeheig gan gadeirydd y gangen, Huw Davies. Yn ogystal â ffyddloniaid y Blaid yn yr ardal, roedd yn dda gweld nifer o aelodau newydd yn bresennol a phawb yn ymhyfrydu yn llwyddiant Plaid Cymru ym mlaenau'r Rhondda Fawr lle y llwyddwyd i gipio 3 sedd oddi ar Lafur.
drosodd 3
Ted gyda Leanne Wood a chynghorwyr lleol
CYNGHORYDD YN YMDDEOL PARHAD
Ymladdodd Edward Hancock ei etholiad cyntaf yn 1999 ac yntau'n sefyll am y tro cyntaf yn 76 oed! Ers hynny, cadwodd ei sedd yn 2004 a 2008 gan orffen ei dymor o wasanaeth yn 89 oed er bod pawb yn gwrthod credu taw dyna ei oedran! Yn ystod ei gyfnod ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, bu'n gadeirydd uchel ei barch ar y Pwyllgor Archwiliadau ac yn weithgar 4
mewn nifer o fudiadau yn yr ardal, gan gynnwys y Gymdeithas Henoed a'r Fforwm 50+. Fe'i ganed yn Nhreherbert ond ar ôl priodi daeth i fyw i Dreorci. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Porth a Choleg y Drindod, Caerfyrddin lle yr arbenigodd mewn ymarfer corff. Wedi treulio cyfnod yr Ail Ryfel Byd yn yr India a Burma dychwelodd i'r Rhondda yn
athro yn Ysgol Fodern Bronllwyn ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Porth. Daeth wedyn yn drefnydd ymarfer corff dros yr hen Sir Forgannwg. Bu'n amlwg yn hyrwyddo campau o bob math drwy'r sir ac mae ei ddiddordeb mewn chwaraeon o bob math wedi para. Mae e'n un o is-lywyddion Clwb Rygbi Treorci lle mae bellach yn cael pleser arbennig yn gwylio pob gêm gan fod ei ŵyr,
Andrew Mallin, yn un o hoelion wyth y tîm cyntaf. Mae pawb yn dymuno'n dda i Ted wrth iddo ymddeol gan wybod y bydd yn dal i ymwneud â phob agwedd ar fywyd yr ardal. Yn arwydd o ddiolch ei gyd-aelodau, cyflwynwyd anrheg iddo gan y Cyngh. Sêra Evans Fear.
newyddion lleol
DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT Syfrdanwyd trigolion Treherbert gan gyhoeddiad fod banc Barclays yn bwriadu cau ei gangen yn Nhreherbert yn mis Awst. Hwn yw’r banc olafyn y dre a bydd y weithred yn cael effaith andywol ar unigolion ac ar y dref. Bydd rhaid i bobl Treherbert deithio i Dreorci am wasanaeth banc ac mae hyn yn costio dros £3 o Dreherbert a thros £4 o Flaenrhondda a Blaenycwm ar y bws. Mae pobl yn gorfod aros yn hir yng nghangen Treorci yn barod a bydd y pendyrfyniad hwn ond yn gwaethygu’r sefyllfa. Bydd y penderfyniad yn cael effaith niweidiol ar fusnesau’r dre gyda llai o arian yn cael ei wario yn y siopiau. Daeth dros 100 a bobl i gyfarfod cyhoeddus yng Nghlwb Llafur Tynewydd i drafod y sefyllfa. Roeddent yn ddig iawn ynglŷn â’r penderfyniad yn enwedig wrth glywed am yr elw o £5.9 biliwn y llynedd a bod y prif
weithredwr, Bob Diamond, wedi cael bonws o £3 miliwn. Roedd cynrychiolwyr o'r gymuned yn cwrdd â swyddogion Banc Barclays ar 6 Mehefin ym Montypridd i geisio eu darbwyllo i newid eu penderfyniad.
Mae cynllun fferm wynt Pen Y Cymoedd wedi cael cyniatâd cynllunio gan Lywodraeth San Steffan. Bydd y penderfyniad yn golygu y bydd 76 melin wynt, 145 metr o uchder yn cael eu codi ar lwyfandir Coed Morgannwg. “Hon yw'r fferm wynt fwyaf yng Nghymru a Lloegr ac mae rhoi cyniatâd heb ymchwiliad cyhoeddus yn gywilyddus,” dywedodd y Cynghorydd Geraint Davies. “Mae llawer o ffactorau fel yr effaith ar ar y cymunedau, yr effaith ar y mawn a’r drainiad heb gael eu trafod yn ddigonol” ychwanegodd y Cynghorydd Davies. Mae hefyd yn warth fod pendyrfyniad o'r fath heb gael ei gymeryd gan lywodraeth Cymru. O
leia bydden nhw yn gwybod am yr ardal ac yn yn atebol i'w thrigolion. TREORCI Nos Wener. 11 Mai cynhaliwyd noson arbennig yng Nghlwb Rygbi Treorci i helpuu un o gyn-chwaraewyr y clwb a chynchwaraewr rhyngwladol, Paul Knight sy'n dioddef o MS ac yn gaeth i gadair olwynion. Daeth nifer o gyn-chwaraewyr ynghyd i'w gefnogi a ffurfio panel i ateb cwestiynau'r gynulleidfa luosog. Cafwyd adloniant yn ogystal yng nghwmni'r digrifwr o Ferndale, Phil Howe. Mae Paul bellach yn byw yn Nhreorci ac yn aelod selog o'r Côr Meibion. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol a defnyddir yr arian a godwyd i addasu ei gartref newydd at ei anghenion arbennig. Pob dymuniad da iddo. Diolch i bawb yn yr ardal a gyfrannodd at Gymorth Cristnogol
EICH GOHEBWYR LLEOL :
Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN
Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Cwmparc: D.G.LLOYD
Treorci MARY PRICE
Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a'r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
ddechrau mis Mai. Bu aelodau Providence, Bethlehem, Hermon ac Eglwys Sant Matthew wrthi'n casglu a gobeithir anfon swm anrhydeddus i'r elusen deilwng hon. Mrs Mary Price, Hermon oedd cydlynydd y casgliad a da oedd clywed bod disgyblion yr Ysgol Gyfun wedi cael cyfle yn ystod yr wythnos i glywed am waith Cymorth Cristnogol gan rhai o weithwyr yr elusen. Daeth cynulleidfa barchus ynghyd i 5
wasanaeth angladdol Mrs May Thomas, Stryd Dumfries a gynhaliwyd yn Hermon, 18 Mai gyda'r Parch Lona Roberts, Caerdydd yn arwain. Roedd Mrs Thomas wedi bod yn aelod gweithgar o'r eglwys yn Hermon a hefyd yn Ebenezer, Tynewydd, yn organyddes ac yn selog yn yr holl wasanaethau. Talwyd teyrnged iddi gan Mr Islwyn Jones, Blaenrhondda gynt a soniodd am ei hysbryd ieuanc er ei bod bellach yn 96 oed. Mae'r teulu'n arbennig o ddiolchgar am ofal a chymwynasgarwch ei chymdogion yn ystod y
blynyddoedd olaf hyn. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i meibion, Michael a Kelvin a'u teuluoedd yn eu profedigaeth.
Cynhaliodd Sefydliad y Merched noson arbennig iawn i ddathlu Jiwbili'r Frenhines yn Neuadd y Dderwen, nos Fercher, 23 Mai. Cyfrannodd pob adran o'r sefydliad i'r adloniant gan gynnwys dawnsio a chanu gan yr Adran Berfformiadau Celfyddydol, meim gan Beth Phillips, Sheila Ellis a Margaret Davies ac adroddiadau gan Kathleen Evans ac Anna Brown. Yn ogys-
tal, cafwyd eitemau gan y Band Cegin a'r Côr. Llywyddwyd y noson gan Judith Roedd yn ddrwg gan bawb glywed bod Mrs Eirwen Savage, Stryd Regent, wedi cwrdd â damwain tra yn ymweld â chartref ei merch, Linda, yn Lloegr y mis diwethaf. Pob dymuniad da am adferiad buan iddi.
Llongyfarchiadau i Deryth Jones, Stryd Dumfries ar ddathlu ei phen-blwydd yn 18 oed. I goroni'r achlysur, llwyddodd hefyd i basio ei phrawf gyrru! Pob llwyddiant iddi i'r
dyfodol. Roedd hi'n 'dŷ agored' yn Eglwys Sant Matthew ddydd Llun yr Ŵyl Banc pan wahoddwyd ffrindiau ac aelodau i alw heibio i ddathlu'r Jiwbili a chyfranogi o luniaeth ysgafn.
Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Les Millward, Tan-yFron. Cafodd Les gystudd hir a'i gadwodd am bedair blynedd yn Ysbyty Dewi sant. Cydymdeimlwn âi wraig Olwen a'r plant, Janet a David yn eu colled.
CARPETS ʻNʼ CARPETS
117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349
6
Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni a dewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton, Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewch groeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.
Mesur cynllunio a phrisio am ddim Storio a chludiant am ddim Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa Credydd parod at £1,000 Gosodir eich carpet gan arbenigwy Gwarantir ansawdd Ol-wasanaeth am ddim Cyngor a chymorth ar gael bob amser Dewiswch eich carped yn eich cartref Gellir prynu a gosod yr un diwrnod Gosod unrhyw bryd Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol Carpedi llydan at 10ʼ5” Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad Y dewis mwyaf yn yr ardal Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop
50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYN o GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR MILOEDD o BATRYMAU a CHYNLLUNIAU yn ein HARDDANGOSFA DDEULAWR Dewch yma-Cewch werth eich arian
Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop os am fargen arbennig CARPETS ʻNʼ CARPETS Ar agor 6 diwrnod 8.30-5.30 Hefyd amser cinio ddydd Sul
CWMPARC Mae’n drist cofnodi marw tair o drigolion Cwmparc yn ddiweddar a chydymdeimlir â’r teuluoedd yn eu colled.
Myrtle Jenkins, Castle Street - ei gŵr oedd Maurice Jenkins oedd yn chwarae pêldroed i Gwmparc Juniors gynt.
Doris Taylor, Chepstow Road a oedd yn briod a Ned Taylor. Bu hi mewn cartref am beth amser cyn ei marwolaeth. Hefyd Margaret Williams (Hamer gynt) Stryd Tallis a fu farw yn sydyn. Cydymdeimlir â’i dwy ferch a’i mab yn eu colled.
Cynhaliwyd Bore Goffi yng Nghanolfan y Parc i ddathlu Iwbili y frenhines. Mae prydiau bwyd eglwys St Siôr wedi ail ddechrau ar ôl ysbaid fer.
Y PENTRE Crys ffasiynol, sgert, siaced a sandalau. Dyna a wisgodd un cwsmer bodlon ar ei ffordd ma's o Siop Gymuned Stryd Llywelyn y dydd o'r blaen ar ôl talu ond £5 am y cwbl lot! Ac mae nifer o achosion da, yn cynnwys Ysbyty George Thomas, Barnardos a Shelter Cymru yn fodlon iawn ar gyfraniadau
diweddar y siop iddynt. Ond, yn anffodus, yn ôl y brif reolwraig, Gerta Becker, nid oes digon o wirfoddolwyr i gadw\r drysau ar agor yn ddiffael am 4 diwrnod ar hyn o bryd. Bydd croeso mawr, meddai hi, i unrhyw un all ymuno â nhw am 2/3 awr mewn wythnos neu'n achlysurol. Wedyn bydd pawb yn fodlon eu byd! Pan alwais i heibio i Lys Siloh yn ddiweddar, roedd y preswylwyr wrthi'n paratoi ar gyfer eu parti Jiwbili a gynhelir 1 Mehefin.Yn amlwg, roedd yna wledd i'w disgwyl a phawb yn edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur.
Roedd warden Llys Siloh, Diane Wakeford, hefyd yn edrych ymlaen at ddathlu ei phenblwydd yn ystod yr wythnos o wyliau. Mae pawb yn dymuni Diane ben-blwydd hapus a hamddenol.
Pob dymuniad da i Desmond Hughes, Llys Siloh, sydd newydd gael llawdriniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Yn ffodus, gall ei ffrindiau ddisgwyl ei groesawu nôl cyn bo hir. Gobeithir y caiff aelodau Canolfan Oriau Dydd Stryd Llywelyn a'u ffrindiau dywydd hafaidd ar eu gwibdaith i Weston-super-mare a fydd yn digwydd 13 Mehefin.
7
Sioc i bawb yn yr ardal oedd derbyn y newyddion am farwolaeth gynamserol David Knight, Stryd y Frenhines. Cydymdeimlwn yn fawr â'i wraig Mary a'r teulu oll yn eu colled annisgwyl. Tristwch hefyd yw cofnodi marwolaeth Mrs Margaret Mumford, Llys Siloh, yn ddiweddar. Deuai'n wreiddiol o'r Ystrad. Anfonwn ein cydymdeimlad cywiraf at ei thri mab a'u teuluoedd. Pob dymuniad da i Mrs Irene Davies, Tŷ'r Pentre a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 98 oed yn ystod y mis. Dymunwn iddi bob hapusrwydd a chysur. Bydd holl breswylwyr Tŷ'r Pentre yn falch o gael cwmni'r gantores Mandy Ann sy'n ffefryn ganddynt i'w diddanu unwaith eto yn ystod eu parti Jiwbili. Ddydd Sul, 3 Mehefin bydd aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth yn dod ynghyd yn eu pencadlys yn Stryd Carne i gynnal eu dathliadau Jiwbili. Llawer o ddiolch i breswylwyr Llys Siloh a Llys Nasareth am gyfrannu mor hael at achos teilwng Cymorth Cristnogol ddechrau mis Mai. Ynghyd â'r arian a gasglwyd mor ddiwyd gan Mary Prichard Jones gan ei chymdogion yn Stryd Llywelyn, roedd y cyfanswm yn £42.40 swm anrhydeddus iawn. 8
TON PENTRE Roedd aelodau'r Capel Cynulleidfaol Saesneg wrth eu bodd yn estyn croeso i Mr Ken Martin, Trewiliam i'w pulpud yn ddiweddar. Yn anffodus, bu Mr Martin, oedd yn aelod yn Saron, Ynyshir, cyn i'r capel gau, yn dost am gyfnod hir. Da oedd cael ei gwmni unwaith yn rhagor ac roedd pawb yn dymuno'n dda iddo i'r dyfodol.
Mae staff, disgyblion a rhieni Ysgol Gymraeg Bronllwyn yn ddiolchgar iawn i weithwyr Coop Treorci nid yn unig am godi £300 at brynu paent i baentio wal yr ysgol ond hefyd am roi o'u hamser i wneud y gwaith a chymodi'r iard yn gyffredinol. Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Mrs Doris Edwards, Y Parade sydd wedi dod adref erbyn hyn ar øl treulio cyfnod yn yr ysbyty ar ôl torri ei choes. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Joan Davies, Heol Avondale, Y Gelli. Roedd Joan yn adnabyddus iawn yn yr ardal fel cyn-berchennog Swyddfa Bost Y Gelli. Cydymdeimlwn â'i chwaer Enid a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Bu farw Mr Steve Canale, Maindy Grove yn sydyn iawn yn ddiweddar. Roedd Steve a'i wraig, Lena, yn berchnogion y Festival Cafe yn Nhreorci ac yn adnabyddus iawn ledled yr ardal am ei hufen iâ
ardderchog. Estynnwn ein cydymdeimlad i Lena, eu mab, Mario a'r teulu oll yn eu hiraeth.
Am y 38fed blwyddyn yn ei hanes, cynhaliwyd Noson Wobrwyo Cymdeithas Apêl Clybiau Bechgyn a Merched y Rhondda yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad Rhondda. Dros y blynyddoedd, codwyd £150,00 at yr achos arbennig hwn a mawr yw diolch y Pwyllgor i'w brif noddwr, Mr Malcom Thomas, Carpedi a Charpedi, Treorci. Cyflwynwyd y noson gan Mr Selwyn Davies a'r gŵr gwadd oedd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Gareth Williams. Yr enillwyr oedd: Adran Gynradd Gareth Thomas [Pêl rwyd]; Kelsey Johns [Pêl Foli]; Alicia Davies, Angharad Chow, Lexy Clayton a Jenna Evans [tîm pêl-droed Valleys United]; Christopher Evans a Connor Evans [Tennis Bwrdd]; Cole Swalleck [Mabolgampwr] a Morgan Ricards {Slalom Kayak]. Aeth y brif wobr am ragoriaeth mewn mabolgampau para-olympaidd i Rees Jones ac enillwyr Cwpan Dewar, sef tîm Ysgolion Rhondda dan 15 a enillodd wobr y tîm gorau. Yn yr adran hŷn, tîm pêl-droed Cambrian oedd y buddugwyr. Keith Jenkins, Clwb Cambrian gafodd y wobr am brif weinydd mabolgampau'r Cwm a
chafodd tîm bowlio Ystradfech, Treorci, enillwyr tîm triphlyg Prydain, glod am eu camp hwythau. Prif enillydd y noson oedd Simon Carpenter, pencampwr Tang Su Du y Byd.
Ar 30 Mai bu aelodau'r Clwb Cameo wrthi'n dathlu Jiwbili'r Frenhines trwy gynnal te arbennig yn nodweddiadol o'r pumdegau yn Nhafarn Fagins. Roedd yr estyniad wedi ei addurno'n briodol a chyflwynwyd mwg a choronig i bob un o'r aelodau i gofio'r achlysur. Diolchwyd yn galonnog iawn i'r pwyllgor am drefnu'r fath achlysur. Bydd yr aelodau yn mynd ar wibdaith i Gaerfaddon [Bath], ddydd Mercher, 27 Mehefin.
Roedd pawb yn falch clywed bod Mrs Elaine Walters, llyfrgellydd Ton Pentre adre o'r ysbyty erbyn hyn ar ôl derbyn triniaeth yno a'i bod yn gobeithio bod yn ôl yn ei gwaith cyn bo hir. Pob dymuniad da iddi. Llongyfarchiadau i ymgeiswyr Plaid Cymru, Shelley ReesOwen a Maureen Weaver ar gael eu hethol yn gynghorwyr ar y ward. Gellir cysylltu â Shelley ar 440788 / 07855 490582 ac â Maureen ar 434558 / 07568 063165. Cofiwch nodi yn eich dyddiaduron y bydd Eglwys Ioan Fedyddiwr
yn cynnal ei Garddwest Haf flynyddol ddydd Sadwrn, 7 Gorffennaf. Dewch i fwynhau'r hwyl a bach bargen yn ogystal!
Peter a Llinos
Dewch i ymuno â/Come join
Brodyr Gregory
yn canu am/singing about Y Tywydd aʼr Tymhorau/ Weather and Seasons
Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur a chyffrous i deulu Pat Griffin, Maindy Crescent. Llongyfarchiadau yn y lle cyntaf i'w mab, Peter ar ei briodas â Llinos Eleri Williams yn Llanarmon yn Iâl ar y 5ed o Fai. Treulion nhw eu mis mêl yn y Gogledd ac erbyn hyn maen nhw wedi ymgartrefu yn Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Llongyfarchiadau hefyd i
Louise (Griffin) a Toby Maxwell-Lyte ar enidigaeth eu mab Efan Gruffudd ar 18 Ebrill. Mae e'n frawd bach i Carys Mai ac yn ail ŵyr i Pat Griffin. Mae Louise ar staff Ysgol Gyfun Cymer Rhondda lle mae'n dysgu daearyddiaeth. Llongyfarchiadau i Owen a Lauren Hathway, Tonypandy ar enidigaeth eu mab Gryff Lloyd ar 26ain o Ebrill. Wyres gyntaf i Hilary a Phil Hathway, Llwynypia.
Ym Mharc Gwledig Aberdâr CF44 7RG At Aberdare Country Park 21/6/2012 & 22/6/2012 amseroedd/times 10:00 11:00 12:30 1:30
ysgolion a phrifysgolion
Stondinau/Stands: Stondinau Cylchoedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr, Urdd, Cymraeg i Oedolion, S4C, Menter Iaith, Llyfrau Cymraeg, Crempogau, Tlysau, Y Popty Designed to Smile ac Injan Dan! Dewch a stondin am £10 y dydd/ Bring a stand for £10 per day
Teleri Jones Mudiad Meithrin Swyddog Datblygu Rhondda Taf Development officer Teleri.Jones@meithrin.co.uk 07800 540316
9
Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd
ysgolion a phrifysgolion
Cafwyd cystadlu brwd gan yr ysgol yn Eisteddfod Sir yr Urdd wrth i’r ysgol deithio i Ysgol Gyfun Gymraeg y Cymer ar Fawrth y 22ain eleni. Cystadlodd yr adran Gymraeg yng nghystadlaeth grwp llefaru 7-9 i ddysgwyr yn llefaru'r darn 'Gubernatrix Cristata' gan Nesta Wyn Jones. Dyma’r trydydd tro i’r grwp gys-
NEWYDDION YSGOL GYFUN
TREORCI 10
tadlu a chawsant lwyddiant eto eleni ac felly mi fyddant yn mynd ymlaen i’r Genedlaethol ym mis Mehefin. Cystadlodd yr Adran mewn dwy gystadleuaeth newydd eleni, gyda Shayla Walsh o Flwyddyn saith yn ennill yr adrodd unigol gyda “Beth wnest ti yn yr ysgol heddiw?” gan Myrddin ap Dafydd yn yr adran i ddysgwyr. Perfformiodd grŵp o flwyddyn 8 iaith gyntaf yn yr Ymgom eleni. Cafodd y perfformiad ymateb dda iawn gan y gynulleidfa ond yn anffodus dimond ail safle a ennillwyd eleni. Serch hynny, cafwyd canmoliaeth am eu dehongliad o'r darn gan Bethan Gwanas ac maen nhw’n edrych ymlaen i gystadlu eto blwyddyn nesaf. Llwyddodd yr adran Gerddoriaeth mewn dwy gystadleuaeth hefyd, gyda Charlotte Lewis o Flwyddyn 8 yn derbyn y wobr 1af yn
yr Unawd Pres a Nia Glyn Thomas o Flwyd-
dawns Blwyddyn 7-9 i ennill y drydedd wobr.
dyn 12 yn ennill yr Unawd Piano. Enillodd grwp dawnsio disgo hwn yr ysgol hefyd a llwyddodd grwp
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gystadlodd, a phob lwc iddynt yng Nghaernarfon ym mis Mehefin.
Caradog yn ennill Eisteddfod 2012
Cafodd ddisgyblion blynyddoedd 7,8 a 9 wledd o wrando ar gystadlu o safon uchel yn ystod eu heisteddfod blynyddol ar y 5ed o Ebrill. Yn ystod y dydd cafwyd cystadlu brwd rhwng y cantorion a'r offerynnwyr, tra bod yr adroddwyr Cymraeg a'r dramáu yn cadw pawb i chwerthin. Cafwyd arddanngosfa wych o ddawnsio egniol a lliwgar gan y dawnswyr
FFARWELIO AG ENILLWYR
Daeth y tymor rygbi i ben gyda chanlyniad teilwng iawn – tîm rygbi cyntaf Y Cymer yn cyrraedd brig Cynghrair y Dwyrain. Mae’r tîm yn cynnwys criw o fy-
disgo. Ar ganiad y corn gwlad gan Charlotte Lewis, safodd Catherine Edwards yn fuddugol yn y gystadleuaeth Fedal Gerddoriaeth, a chadeiriwyd Kira Hardy am ei gwaith creadigol yn y Gymraeg. Ennillydd y Fedal Ddrama oedd Keiron Evans. Enillodd Molly Griffiths a Callum Smith o Flwyddyn 7, Callum Howells a Jessica Berry o Flwyddyn 8, a Melissa English a Jo Sendall o Flwyddyn
9 wobrau am yr unigolion gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau. Cyhoeddwyd Caradog fel y tŷ buddugol gyda 342 o bwyntiau. Braf oedd gweld yr ysgolion Cynradd yn cymryd rhan am y tro cyntaf eleni gyda grwpaiu ac unigolion o ysgolion, Bodringallt, Gelli, Penyrenglyn, Ton Pentre, Pentre, Penpych a Threorci. Llongyfarchiadau i bawb â gyfranodd at lwyddiant yr Eisteddfod eto eleni a diolch o galon i Made-
fyrwyr ymroddgar o Flwyddyn 13 sydd wedi cynrychioli’r ysgol ar nifer fawr o achlysuron yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf. Mae’r dynion ifanc yma wedi ysbrydoli a dylanwadu’n fawr ar nifer o ddisgyblion iau yr ysgol,
ac wrth i’w cyfnod yn yr ysgol ddirwyn i ben, dymunwn ddiolch yn ddidwyll i Chris, Cameron, Garyn, Luc, Rhys a Daniel am eu cyfraniadau lu ar y cae rygbi a thu hwnt. Dymunwn bob llwyddiant i chi.
line Lewis, Bob Eynon, Sophie Angell Jones a Claire Davies am eu beirniadu teg. Diolch hefyd i’r adran Gerddoriaeth a Mr Jonathan Davies am eu gwaith caled. Lluniau: Cyd-adrodd ail-iaith Molly Elson a Maxim Rees Kira Hardy
NEWYDDION YSGOL GYFUN
TREORCI
NEWYDDION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
11
NEWYDDION YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
Llongyfarchiadau mawr i Amelia Davies o Flwyddyn 7, ar gael ei henwi yn Chwaraewraig y Twrnament yn nhwrnament pêl-rwyd rhyng-ysgolion yn ddiweddar. Gwych Amelia!
LLWYDDIANT COLE Llongyfarchiadau mawr i athletwr talentog iawn o Flwyddyn 8, Cole Swannack, ar gael ei enwebu ar gyfer ‘Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Rhondda’. Gwych iawn Cole!
LLONGYFARCHIADAU MAWR I KELSEY! Estynwn ein llongyfrachiadau gwresog i Kelsey Johns, sy'n ddisgybl ym Mlwyddyn 10, ar gael ei henwebu ar gyfer cystadleuaeth 'Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Rhondda 2012' mewn seremoni ar Fai 19eg. Mae hyn un gydnabyddiaeth deilwng iawn i Kelsey, sy'n aelod o dîm pêl-foli Cymru. Dyma lun o Kelsey ac un o hyfforddwyr y tîm, ac aelod o'n hadran Fathemateg, Mr Peter Howell, yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr Kelsey - rydym yn falch iawn ohonot.
12