Ygloranmehefin16

Page 1

y gloran

20c DDOE A HEDDIW CANMLWYDDIANT RHYDWEN LLUNIAU STEPHEN TIMOTHY

Plant Ysgol y Parc yn barod gyda menig, ffônau casglu sbwriel a bagiau i lanhau ein strydoedd gweler Newyddion Cwmparc Llun gan Nerys Bowen

Hanes Stephen Timothy a’i luniau gan Mike Ash Llun gan Stephen Timothy

CYFANSODDWR NEIL FITZPATRICK CANLYNIADAU’R URDD 2016


golygyddol l OEDIAD CYNLLUN SGWÂR Y STAG

Ym mis Ionawr eleni, cynhaliwyd ymgynghoriad ac arddangosfa yn theatr y Parc a Dâr i drafod cynlluniau i wella llif y traffig ar Sgwâr y ßtag, Treorci. Er bod pawb yn cytuno bod y tagfeydd traffig yng nghanol y dre yn annerbyniol ac yn effeithio ar y Rhondda Uchaf yn gyffredinol, roedd y rhai o blaid ac yn erbyn yr hyn a gynigiwyd wedi eu

2

rhannu bron yn gyfartal. Y gofid mwyaf oedd gallu pobl anabl, deillion, henoed a phlant i groesi'r hewl. Mae'n debyg bod gofidiau o'r fath yn gyffredin i gynlluniau tebyg mewn sawl ardal ac mae'r Adran Drafnidiaeth, Sefydliad Peirianwyr Ffyrdd a Sefydliad Siartredig Ffyrdd a Thrafnidiaeth wrthi ar yn cydweithio ar hyn o bryd i ddadansoddi'r canlyniadau o gynlluniau tebyg sydd eisoes mewn

Cynllun gan High Street Media

2016

y gloran mehefin

YN Y RHIFYN HWN Heddiw a Ddoe..1 Golygyddol...2 Timothy...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Rhydwen/Neil Fitzpatrick/Byd Bob ..6-7 Eisteddfod yr Urdd...10 Ysgolion...11-12

bodolaeth er mwyn cynnig arweiniad i awdurdodau lleol yn sgil gofidiau a godwyd mewn perthynas â'r cynlluniau hyn mewn adroddiad gan yr Arglwydd Holmes. O ganlyniad, mae Cyngor

Rh.C.T. wedi penderfynu gohirio symud ymlaen hyd nes i'r adroddiad gaelei gyhoeddi er mwyn ystyried ei oblygiadau i gynllun Treorci. Serch hynny, penderfynwyd bod rhai gwelliannau tymor byr y gellir eu gweithred gan gynnwys y canlynol: * Gwahardd llwytho a dadlwytho ar y Stryd Fawr yn ystod oriau brig. *Symud yr arhosfan bysys i lawr o dafarn y Prince i Swyddfa'r Post. *Cau'r fynedfa i Chapel St a chael palmant di-dor ar hyd y Stryd Fawr ar yr ochr ogleddol [ochr HSBC] Cyn gweithredu'r gwelliannau hyn, bydd rhaid wrth ymgynghoriad cyhoeddus pellach.


Addawodd y Cyngor y byddant yn hysbysu trigolion a pherchnogion busnesau'r ardal o ddatblygiadau. Mae'r oedi yn peri rhwystredigaeth ond mae'n well cael popeth yn ei le'n iawn cyn dechrau. Byddai gweithredu fel arall yn wastraff amser ac arian.

Golygydd

STEPHEN TIMOTHY - FFOTOGRAFFYDD

Mike Ash, Pentre sy'n mynd ar drywydd arloeswr ym maes ffotograffiaeth yn y Rhondda

Ganed Stephen Timothy yn 1858 yn Sir Aberteifi, y chweched o blant Thomas Timothy ac Elizabeth Reynolds. Saer coed oedd y tad ond erbyn 1881 roedd Stephen, ynghyd â nifer o'i frodyr, wedi symud i'r Pentre ac yn 1886 priododd â Mary Aubrey. Fel ei dad o'i flaen, saer oedd Stephen wrth ei grefft, ond yn fuan mentrodd i faes hollol wahanol, sef ffotograffiaeth. Roedd ef a'i wraig yn byw yn 155 Heol Ystrad i ddechrau ond yn nes ymlaen symudon nhw i 12 Stryd Bailey, Ton Pentre. Bu'n cynnal ei fusnes o nifer o gyfeiriadau yn Heol Ystrad hyd nes iddo ymddeol yn 1921, yn dilyn marwolaeth ei wraig. Gweld cyfle Pan ddechreuodd Stephen ar ei fenter newydd, roedd pobl yn dylifo i mewn i Gwm Rhondda o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae un o dribanwyr y cwm yn disgrifio'r sefyllfa fel hyn: Dylifa bechgyn ffolion I'r cwm o hyd yn gyson O wlad yr Haf hwy ddônt yn sgryd Fel ynfyd haid o ladron. Beth bynnag oedd y bobl hyn o ran tras a chefndir, roedden nhw'n awyddus i roi rhyw syniad i'w perthnasau o fath le oedd y cwm lle roeddynt bellach yn byw ac yn gweithio. Roedd cardiau post yn ateb y 3


Ystrad Rd - nodwch y llinellau tram

galw i'r dim gan eu bod yn rhad ac ond yn costio ½c dimai i'w postio. Creodd Stephen Timothy un o'r casgliadau mwyaf o gardiau post oedd ar gael ar y pryd ac, wrth

ynddynt, fel y llun o Baden Powell yn cyrraedd gorsaf Ystrad [Ton Pentre erbyn hyn] yn 1907. Enillodd enw iddo'i hun fel ffotograffydd golygfeydd 'dan

anarferol a'r trawiadol fel y cnepyn anferth hwn o lo a gloddiwyd yn y Gelli ond a anfonwyd i Unol Daleithiau America.

enw Lillian a mab, Aubrey a aeth yn ei flaen i gynnal traddodiad y teulu trwy ddod yn ffotograffydd ei hun.Bu James, brawd hŷn Stephen yn byw yn Saw Mill Villa, sy nawr yn rhan o bencadlys tîm pêl-dred Ton Pentre. Ef oedd perchennog y felin goed a arferai fod yno. Gof oedd ei frawd iau, James a ddatblygodd fusnes beiciau ac a fu hefyd yn llogi sinema'r Pictorium ar waelod Stryd Albion, Y Gelli. Wrth roi ei ddwy gyfrol nodedig o luniau'r Rhondda at ei gilydd, mae'r diweddar Cyril Batstone yn talu teyrnged i waith arloesol Stephen Timothy ym maes ffotograffiaeth. Bu farw Timothy yn 87

Y Pentre

gwrs, ymatebai i'r galw cynyddol am bortreadau a chomisiynau preifat. Pan ddatblygodd papurau newydd y gallu i atgynhyrchu ffotograffau, gwelid ei waith yn aml

4

ddaear', er bod y rhain wedi eu ffugio yn ôl pob tebyg, gan na fyddai technoleg y dydd yn caniatau iddo dynnu lluniau o dan y ddaear. Roedd gan Timothy lygad am yr

Y teulu Roedd gan Stephen ddau o blant, merch o'r

oed yn 1945. Eglwys San Pedr


newyddion lleol

CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Llongyfarchiadau i Clive a Christine Sheradin o Stryd Dumfries am dderbyn gwobr Dinesyddion Da gan y maer. Am nifer o flynyddoedd mae Clive a Christine wedi plannu blodau o gwmpas Treherbert ,yn cynnwys Sgwâr y Bute a maes parcio'r Dunraven. Hefyd mae Clive yn ysgrifennydd clwb bolio Treherbert ac wedi rhoi ei amser i hyfforddi cannoedd o blant o'r ysgolion lleol. Diolch yn fawr i'r ddau am eu gweithgaredd.

Llongyfarchiadau i Seren Haf Macmillan am ddod yn drydedd yng nghystadleuaeth llefaru dan 25 yn eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd yn Y Fflint.

Daeth nifer o aelodau PACT Treherbert at ei gilydd am noson o gymdeithasu ac am bryd o fwyd yn yr Hendrewen ym Mlaenycwm ar y 6ed o Fehefin

Cyflwynodd Ralph Upton, gweinidog Blaenycwm, ddarlith am ei ymweliad ag Ethiopia yn y capel ym mis Mai. Aeth i ymweld â llwyth yr Afa sy'n byw yn yr anialwch yn nwyrain y wlad. Ar hyn o bryd mae sychder mawr yn yr ardal ac fel canly-

niad mae prinder bwyd. Trwy ei elysen, Cwm Gobaith, rhoddodd fwyd a dillad i bobl yr ardal.

Ynddi, mae'n disgrifio fel y cafodd ei ddal â gwerth £90,000 o ganabis yn ei feddiant a chael ei hun yng ngharchar Los Rosales Alan Dogs Jones

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Llongyfarchiadau i Glen Bowen o Halifax Terrace am gael ei apwntio i bwyllgor Vattenval. Cadeirydd y pwyllgor yw Marc Phillips cyn-drefnydd Plant Mewn Angen Cymru a gwaith y pwyllgor bydd penderfynnu sut i wario yr arian cymunedol o'r melinau gwynt

Llongyfarchiadau i Sarah a Delme Griffiths gynt o Dynewydd ar enedigaeth eu mab Ifan Islwyn Peter, brawd i Sophia.

Mae cyn-smygler cyffuriau o Dreherbert, Alan 'Dogs' Jones newydd gyhoedd hanes ei anturiaethau mewn cyfrol yn dwyn y teitl 'No Half Measures' gyda'i gydawdur, Anita Hughes.

yn ninas Ceuta, Morroco. Cafodd ei guro'n ddidrugaredd gan swyddogion y carchar pan geisiodd e a 10 arall ddianc a threuliodd 7 mlynedd mewn carchardai yn Sbaen yn gosb am ei gamweddau. Argraffwyd y llyfr gan Amazon ac mae e ar werth am £12.99. Gyda llaw, cafodd ei lysenwi'n 'Dogs' oherwydd ei berthynas agos â'i ddaeargi Sealyham, 'Dylan'!! Gweler y llun.

TREORCI

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Elwyn Buckland, Heol Glyncoli oedd yn dathlu pen-blwydd pwysig iawn y mis diwethaf.

Tristwch oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Mary Price, gynt o Deras Adare ond nawr o Ben-y-bont ar Ogwr ar 20fed Mai. Roedd Mary, oedd yn briod â Roger Price, un o'r cyfranwyr cyson i'r Gloran, yn arfer gweithio i'r gwasanaeth llyfrgelloedd ac yn adnabyddus yn yr ardal hon. Cydymdeimlwn â Roger, Siwan, ei merch, a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Cafodd un o ddarllenwyr cyson Y Gloran. Mrs Menna Smith ei phen-blwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Mae ei chyd-aelodau yn Hermon, lle mae hi'n addoli'n gyson,

PARHAD ar dudalen 8

5


CANMLWYDDIANT RHYDWEN

Eleni yw canmlwyddiant geni Rhydwen Williams, y bardd a nofelydd a aned yn Stryd Treharne, Pentre yn 1916 i rieni a symudodd i'r Rhondda o Sir y Fflint. Enillodd Rhydwen goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn Aberpennar [1946] ac am ei bryddest adnabyddus, 'Ffynhonnau' yn Abertawe [1964]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pentre ac wedyn yn yr ysgol uwchradd yno, ond pan oedd yn 15 oed, a'r dirwasgiad yn ei anterth

6

yng Nghwm Rhondda, symudodd y teulu i Christleton, Swydd Gaer [Cheshire]. Treuliodd beth amser yn astudio ym mhrifysgolion Abertawe a a Bangor cyn i'r rhyfel dorri ar draws ei ei yrfa. Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol ac ymunodd ag un o griwiau ambiwlans y Crynwyr. Er iddo ymadael â'r Rhondda yn ei arddegau, mae dylanwad y cwm yn drwm iawn ar ei waith creadigol. Mae elfennau hunangofiannol cryf yn 'Ffynhonnau' sy'n dathlu adfywiad y Gymraeg yn yr ardal gyda sefydlu ysgolion Cymraeg Ynyswen a Phnt-ygwaith, ond ei gamp fwyaf oedd ei dair nofel 'Y Briodas' [1969], 'Y Siôl Wen' [1970] a 'Dyddiau Dyn' [1973] sydd mewn gwirionedd yn ddilyniant mewn tair rhan sy'n dwyn y teitl 'Cwm Hiraeth'. Yn y gwaith hwn, mae'n olrhain hanes ei deulu

drwy blynyddoedd caled y dirwasgiad ac yn cofnodi llawer o agweddau ar fywyd y Rhondda yn anterth y diwydiant glo gan roi inni ddarluniau byw o rai o gymeriadau blaenllaw yr ardal. Yn y pedwardegau, dychwelodd Rhydwen Williams yn weinidog ar Ainon, capel y Bedyddwyr, Ynyshir ac yn y cyfnod hwn cafodd gwmni nifer o lenorion eraill fel Kitchener Davies, J Gwyn Griffiths, Pennar Davies a Gareth Alban Davies a ffurfiodd Gylch Cadwgan a gyfarfyddai yng ngharterf Gwyn a'i briod, Kate Bosse Griffiths yn St Stephen's Avenue, Y Pentre. Yn dilyn cyfnodau'n weinidog yn Resolfen a Phont-lliw, ymunodd Rhydwen Williams â chwmni teledu Granada ac arloesi yno wrth i raglenni teledu ymddangos am y tro cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Roedd ganddo lais llefaru arbennig a chafodd lwyddiant yn teithio Cymru

yn cyflwyno gwaith Daniel Owen yn yr un modd ag y gwnaeth ei berthynas enwog o actor, Emlyn Williams yn achos Charles Dickens. Dioddefodd strôc yn 1981 a effeithiodd arno am weddill ei oes, ond roedd y cymoedd diwydiannol yn dal i'w ddenu a threuliodd ran olaf ei fywyd prysur a chynhyrchiol yn Aberdâr lle y by farw ar 2 Awst, 1997 yn 81 oed. Bydd ein chwaer-bapur Clochdar yn trefnu achlysuron i gofio canmlwyddiant ei eni ym mis Hydref eleni, gan gynnwys darlith a thaith arbennig o gwmpas ei gynefin. Mae'n hen bryd i ninnau yn y Rhondda hefyd roi plac ar y tŷ lle y cafodd ei eni yn y Pentre i gofio am lenor o bwys, actor ac adroddwr dawnus ac arian byw o ddyn a wnath fwy nag anad neb i gofnodi hynt a helynt ein cymdeithas.


Mae Neil Fitzpatrick, cyfansoddwr caneuon o Stryd Cardiff, Treorci sy wedi codi dros £26,500 at Ymchwil Canser Uk gyda'i gân emosiynol 'Apart' wedi ei enwebu ar restr fer i ymddangos gyda chyn-DJ Radio 1, Mike Read mewn cyfres newydd am gyfansoddwyr caneuon pop gorau Prydain. Mae ei gân a enillodd Gystadleuaeth Caneuon Ryngwladol yn 2014 wedi ei ddewis ar restr o 30 ac mae'n gobeitho cyrraedd y 12 olaf a fydd yn cystadlu ar sioe o'r enw Tin Pan Alley. Dywedodd Neil, "Mae hyn yn newyddion arbennig, er yn annisgwyl. Golyga y byddaf yn cyrraedd cynulleidfa ehangach o lawer a bydd Cancer Uk yn

fe benderfynodd fy rhieni fynd am dro ar y clogwyni uwchben y gwersyl. Roeddwn i am fynd gyda nhw ond roeddwn i am brynu bar o siocled hefyd. "O'r gorau," meddai Mam, "Dyma arian i ti. Paid â bod yn hir. Fe awn ni ymlaen yn araf." Erbyn i fi gyrraedd siop y gwersyll roedd yr arian wedi syrthio trwy Mae'n gas 'da fi golli dwll ym mhoced fy pethau, hyd yn oed nhrowsus. Fe gerddais i pethau bach. Fel arfer, yn ôl ac ymlaen ar hyd y rydw i'n ofalus iawn, ond cae yn chwilio amdano'n mae Homer yn hepian o ofer, heb sylwi bod yr bryd i'w gilydd. amser yn mynd heibio. Pan oeddwn yn blentyn, Roedd rhaid i fy rhieni byddai fy rhieni'n mynd droi'n ôl. Fe ddywedon â fi i Lanilltud Fawr unnhw'r drefn wrtho i, nid waith bob blwyddyn. Fe oherwydd yr arian ond fydden ni'n gwersylla achos eu bod yn ofni fy mewn pabell gloch am mod i wedi syrthio i lawr bythefnos mewn cae ar y clogwyn. lan y môr. Un prynhawn Ar achlysur arall, pan

BYD BOB

CYFANSODDWR LLWYDDIANNUS YN GOBEITHIO CYRRAEDD Y BRIG

elwa trwy ddenu mwy o werthiant." Mae'r gân, a gyfansoddwyd gan Neil ar ôl i'w dad farw o ganser, hefyd wedi ei dewis ar gyfer Gŵyl South by South West yn Austin, Texas, un o wyliau mwyaf America sy'n denu dros 4000,000 o bobl. Dywedodd Rachel Speight-McGregor ar ran Cancer UK, "Mewn ychydig dan ddwy flynedd, mae Neil wedi codi dros £26,000 gyda'i gân ryfeddol, 'Apart' ac ame'n cynyddu bob dydd. Gallwch brynu 'Apart' ar www.apartsong.co.uk ac ar iTunes, Spotify, Amazon a Google Play. Cancer Research UK sy'n cael yr holl elw. Gallwch hefyd gyfrannu at Prosiect Apart trwy decstio APAR50 £1 (neu £2, £3, £4, £5, £10) i 70070.

oeddwn i'n mynychu Ysgol Gynradd Dunraven, fe ddes i o hyd i fedal roedd fy nhad wedi ei hennill mewn cystadleuaeth billiards yn Llundain yn y tridegau. "O, Dad," dywedais i. "Gaf i ei gwisgo ar fy mhwlofer?" Doedd fy nhad ddim yn fodlon. "Rwyt ti'n siwr o'i cholli hi," meddai. Ond roedd fy mam yn anghytuno. Felly, dyna fi'n troi lan yn yr aysgol yn gwisgo'r fedal yn falch. Y diwrnod hwnnw, fe siaradodd ein hathro â ni am sut i wneud briciau clai. Ar y ffordd adre o'r ysgol, fe ddisgynais i'r grisiau sy'n cysylltu hen ysgol Dunraven ac ysgol newydd Pen-pych. Roedd clwt clai wrth ochr y grisiau ar fin y coed. (Mae yno o hyd.)

Fe gyrhaeddais i adref yn cario bric clai yn fy mreichiau, ond, wrth gwrs, roeddwn i wedi colli medal fy nhad. Rwy'n mynd yn ôl i Lanilltud Fawr o bryd i'w gilydd, ond dydw i byth yn meddwl am yr arian coll. Ond bob tro i fi ddringo neu ddisgyn y grisiau 'na ym Mlaenrhondd, rwy'n cadw llygad ar agor ac rwy'n teimlo rhyw dristwch yn fy nghalon. Mae'n gas colli rhywbeth sy'n perthyn i chi, ond mae'n waeth byth colli rhywbeth sy'n perthyn i rywun arall. .


am ei llongyfarch a dymuno iddi iechyd a phob cysur i'r dyfodol. Er ei bod yn byw yn Nhal-y-garn,mae hi'n ffyddlon iawn i'r achos yn Hermon.

Mae aelodau Bethlehem, Eglwys San Matthew a Hermon am ddiolch i bawb a gyfrannodd at gronfa Wythnos Cymorth Cristnogol yn yr ardal. Diolch yn fawr am eich rhoddion hael.

Y siaradwr yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Drefol y Rhondda oedd llywydd y gymdeithas, Athro Dai Smith a siaradodd am y Rhondda a'i gysylltiadau â'r cwm. Cynhaliwyd y cyfarfod yn Neuadd y Dderwen, Treorci. Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion bod Mrs Ann Phillips, Teras

8

Tynybedw wedi torri chlun yn dilyn cwymp ar y Stryd Fawr. Mae Ann y aelod ffyddlon o'r WI ac mae pawb yno yn dymuno adferiad buan iddi.

Cafodd pawb noson wrth eu bodd yn Neuadd San Matthew pan gynhaliodd Cancer UK ei noson gaws a gwin blynyddol. Cafwyd sesiwn bingo gyda Pauline Warman yn galw'r rhifau a dilynwyd hyn gan sgwrs hynod ddiddorol gan Christine Tucket a soniodd yn ddoniol iawn am ei phrofiadau fel actores. Llwyddwyd i godi swm sylweddol o arian at yr achos da hwn ac mae'r pwyllgor am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth. Y siaradwr yng nghyfarfod misol y WI oedd Carl Llywelyn a gyflwynodd sgwrs yn dwyn y teitl 'Dysglaid neis o de' Olrheiniodd

hanes te yn dod i Brydain a chafodd pawb fudd a phleser yn ei gwmni.

Dymunwn bob cysur i Colin Lecrass, Heol Glyncoli, sydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth. Bu Colin yn wael ers tro ac mae ei gyfeillion i gyd am gael eu cofio ato.

Pob dymuniad da i Mrs Ellen Hughes, Stryd Dumfries a hithau'n gwella ar ôl torri ei chlun. Pawb am gael eu cofio atoch ac yn dymuno ichi adferiad buan. Da yw gweld y gwaith ar y Red Cow yn dod i ben. mae pawb yn canmol yr adeilad ar ei newydd wedd ac yn gobeithio y bydd y fenter gan Gymdeithas Dai Cynon Taf i droi'r hen dafarn yn fflatiau yn llwyddiant.

Bydd y Dreamers yn perfformio yn y Parc a'r Dâr, nos Iau, 16 Mehefin gan fynd â ni nôl i holl fwrlwm y byd pop yn y chwedegau.

Pob dymuniad da i Miss Jill Thomas, llyfrgellydd ymchwil Llyfrgell Treorci, sydd wedi ymddeol ar ôl gwasanaethu'r ardal am lawer o flynyddoedd. Llawer o ddiolch iddi a phob hwyl i'r dyfodol.

CWMPARC

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Anna Roberts, athrawes gerddoriaeth yn Stryd Treharne, am eu canlyniadau arholiadau ardderchog. Ymhlith disgyblion Anna, pasiodd ei disgyblion o Gwmparc ,Nathaniel Roberts Radd Un piano gyda chlod, a William Bowen,


Ysgol y Parc cyn ac ar ôl casglu sbwriel

Gradd Un piano gyda rhagoriaeth. Da iawn bawb, a diolch i Anna. Mae lle ar gael gydag Anna, pe hoffech chi ddysgu'r piano, viola, mandolin, soddgrwth neu ffidl. Hefyd, mae Anna yn dysgu theori cerddoriaeth at saon TGAU a Safon A. Ffoniwch 773427, neu chwiliwch ar Facebook am Anna Music Teacher. Ddydd Mawrth, 7 Mehefin roedd dosbarth o Ysgol y Parc allan o dan gyfarwyddyd athro a swyddogion Adran Ofal

Strydoedd Rh.C.T. yn codi sbwriel o gwmpas y pentref. Mae hyn yn rhan o gynlluniau'r awdurdod i addysgu pobl ifainc am warchod yr amgylchedd. Yn ôl eu harfer yr adeg hon o'r flwyddyn bydd yr ysgol yn cynnal gwasanaeth i gofio'r rhai a gafodd eu lladd yng Nghwmparc yn ystod blitz 1941. Gweler y llun.

Mae staff Neuadd y Parc wrthi'n dosbarthu Cylchlythyr Gwanwyn y ganolfan. Ynddo, tynnir sylw at weithgareddau amrywiol a

gynhelir yno, gan gynnwys campfa, dosbarthiadau cadw'n heini a'r fenter Ffrwythau a Llysiau Gydweithredol wythnosol. Mae'r Ganolfan yn awyddus i ddenu rhagor o wirfoddolion i'w helpu i gadw'r neuadd ar agor. Os oes gennych ddiddordeb, ffoniwch 772044. Hefyd, os ydych am logi ystafell i gynnal parti neu gyfarfod, gallwch wneud hynny am £7.50 yr awr.

Bydd Ian, hyfforddwr cadw'n heiny Neuadd y Parc, nawr ar gael am 30 awr yr wythnos i'ch helpu i gadw'n ffit. Dyma'i amserlen: Dydd Mawrth 8am 4pm; Dydd Mercher ac Iau 11am - 8pm. Cyn hir hefyd bydd ardal hwyl a ffitrwydd ar gael ar gyfer plant yn cael ei hagor.

(Lluniau gan Nerys Bowen)

Y PENTRE

Ddiwedd mis Mai, bu farw Mr Gareth Griffiths, Stryd Carne. Bu Gareth yn athro daearyddiaeth am flynyddoedd lawer yn Ysgol Gyfun Treorci ac yn ffigwr adnabyddus yn yr ardal, bob amser yn fonheddig ei ymddygiad ac yn drwsiadus ei wisg. Cofiwn am ei weddw yn ei hiraeth.

Pob dymuniad da i Mrs Sheila Ellis, Stryd Albert am wellhad llwyr a buan. Mae Sheila newydd ddod adre ar ôl treulio cyfnod yn Tsbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr ac mae ei ffrindiau yn WI Treorci yn gweld ei heisiau. Brysiwch i wella yw eu neges iddi.

TON PENTRE

Pob dymuniad da i'n gohebydd Graham Davies John sydd wedi bod yn yr ysbyty'n ddiweddar. Roedd pawb yn Nhŷ Ddewi yn gweld ei eisiau. Gol 9


Cynhaliwyd cinio blynyddol Cameo ddiwedd Mawrth yn nhafarn Fagin ac aeth yr aelodau ar wibdaith i Gaerfyrddin ar 27 Ebrill. O hyn allan bydd y cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal yn Fagin's ar ddydd Mercher cyntaf y mis am 2 o'r gloch. Croeso cynnes i aelodau newydd.

P.C.S.O. 54375, Stuart Pike yw'r plismon cymunedol yma yn y Ton. Gallwch chi gysylltu ag ef trwy ffonio

07805 301092 neu mae croeso ichi godi unrhyw broblem gyda fe pan welwch e o gwmpas yr ardal.

Bydd preswylwyr Tŷ Ddewi a'u ffrindiau yn yr ardal yn falch o glywed bod Jan a Peter Wells wedi ymgartrefu erbyn hyn yn eu cynefin newydd yng Nghaerloyw [Gloucester]. Pob dymuniad da a phob hapusrwydd iddynt yn eu cartref newydd. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig

yn ddiweddar yng nghapel Hope, Y Gelli pan benderfynodd tri o'r aelodau ddod at ei gilydd i gael eu bedyddio. Fodd bynnag, ar y bore Sul penodedig cafwyd tipyn o sioc pan ddarganfu'r aelodau fod twll yn y fedyddfa a'r dŵr wedi gollwng yn llwyr. Ond roedd help wrth law pan redodd cymydog ei bibell ddŵr i mewn i'r capel ac ail-lenwi'r fedyddfa erbyn y gwasanaeth nos. Felly, mewn gwasanaeth gorfoleddus o dan ofal

eu gweinidog, Parch David Morgan, a'r capel yn orlawn, fe fedyddiwyd Mr Colin Smith, Mrs Marie Taylor a Mrs Nicola Evans. Braf yw clywed newyddion da y dyddiau hyn. Llongyfarchiadau i'r Parch Jonathan Jenkins a'i briod, Mercy ar enedigaeth eu plentyn cyntaf, merch fach a fydd yn wyres i'r cynGynghorydd Emlyn Jenkins a'i wraig, Jackie.

LLWYDDIANT YN EISTEDDFOD YR URDD, Y FFLINT 2016

Llongyfarchiadau i'r canlynol a fu'n llwyddiannus yng nghystadleuthau llwyfan Eisteddfod yr Urdd.

10

YSGOLION

Parti Unsain Blwyddyn 6: YGG Llwyncelyn - 3ydd. Ymgom Bl. 6: YGG Bronllwyn - 2il. Côr Bl. 6: YGG Llwyncelyn - 2il. Parti Merched Bl. 7-9: Ysgol Gyfun Cymer Rhondda - 2il. Côr S&A Bl. 7-9: Ysgol Gyfun Cymer Rhondda - 2il. Llefaru Unigol Bl.10: Carys Wooley, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda - 2il. Deuawd Bl. 10 dan 19: Nia a Chloe, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda - 3ydd. Côr S,A,T+B: Ysgol Gyfun Cymer Rhondda - 1af Llefaru 19 - 25: Seren Haf MacMillan, Treherbert.


YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd 2016

Teithiodd dros 90 o ddisgyblion a staff yr ysgol, ynghyd â’n holl gefnogwyr, i Sir Fflint yn ystod y Sulgwyn er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Llwyddodd yr ysgol i gyrraedd y llwyfan mewn pump o gystadlaethau, gan gipio’r gwobrau canlynol – 1af – Côr SATB 2il – Côr 7, 8 a 9 2il – Côr Merched 7, 8 a 9 2il – Llefaru Unigol ( Carys Woolley) 3ydd – Deuad (Chloe Wilson a Nia Rees) Fel ysgol, ymfalchiwn yn nhalentau rhagorol ein disgyblion a diolchwn iddynt hwy, a’u teuluoedd am eu cefnogaeth barod.

Llongyfarchiadau anferth i chi gyd!

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com


Côr y Merched

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA EISTEDDFOD YR URDD 2016 Deuawd Chloe Wilson a Nia Rees

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.