y gloran
20c
Hwyl y Ffair
Lee Cole ac Emyr Webster gyda chriw RADIO RHONDDA
Band Parc a Dâr o flaen y Lion
NADOLIG LLAWEN I’N
DARLLENWYR
golygyddol
Cyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Rh.C.T. y bydd £750,000 yn cael ei wario yn y flwyddyn newydd i hyrwyddo llif traffig trwy Dreorci ac i wella'r stryd fawr.
2
Ers blynyddoedd lawer, bu cynghorwyr lleol yn pwyso ar y Cyngor i wneud rywbeth i gael gwared ar y tagfeydd ar Sgwâr y Stag sy'n achosi cymaint o rwystredigaeth
i yrwyr. Yn aml, ar oriau brig, mae'r dagfa yn ymestyn yn ôl mor bell â'r Pentre a gyda chymaint o bobl yn gorfod cymudo o flaenau'r Rhondda Fawr i'w gwaith, does dim rhyfedd eu bod yn diflasu wrth gwrdd â rhwystr o'r fath wrth gyrraedd pen eu taith. Mae hyn nid yn unig yn effeithio ar Dreorci ei hun ond ar y cymunedau i'r gogledd fel Treherbert, Blaencwm a Blaenrhodda. Awgrymodd rhai taw'r ateb i'r broblem fyddai ffordd osgoi a fyddai'n arbed teithwyr rhag gorfod mynd trwy Sgwâr y Stag, ond er bod bras gynlluniau wedi eu crybwyll, ni fydd arian ar gael i dalu am gynllun uchelgeisiol o'r fath am flynyddoedd lawer. Ar ben hyn, nid yw perchnogion siopau yng nghanol Treorci yn
y gloran
rhagfyr 2015
YN Y RHIFYN HWN
Hwyl yr Wyl...1 Golygyddol/...2 Mwy o hwyl..4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Miss Tilly John...6 Byd Bob...7 Cwympo i Mewn...7 Newyddion...8-9 Ysgolion...10/11 Bronllwyn a Chymer...12.
gefnogol i'r syniad gan ofidio y bydden nhw'n colli cwsmeriaid. Mae'r hyn a drosodd ddigwyd-
RHAI O FFENESTRI SIOPAU TREORCI
GOLYGYDDOL parhad
dodd i ganol Tonypandy, medden nhw, yn enghraifft o'r effaith y gall ffordd osgoi ei chael ar fusnesau. Bydd arddangosfa yn cael ei chynnal yn y flwyddyn newydd i hysbysu'r cyhoedd o'r newidiadau a fwriedir ac addewir y bydd swyddogion y Cyngor yn ymgynghori â phobl leol cyn penderfynu ar fanylion terfynol. Er bod £750,000 yn swnio'n swm mawr o arian, dyw e ddim yn ddigon i dalu am newidiadau anferth megis dymchwel adeiladau yng nghanol y dref. Y farn gyffredinol felly yw y bydd yn cael ei ddefnyddio i wella perfformiad y goleuadau presennol ac i wella llif y traffig ar hyd Stryd Bute ond mae'n bosib y bydd ateb llawer mwy radical, gan gynnwys cael gwared ar y goleuadau yn gyfangwbl. Beth bynnag a wneir, mawr obeithiwn y gwelwn ni welliant yn y sefyllfa bresennol sy'n cael effaith ddrwg ar fywyd economaidd a chymdeithasol rhan uchaf y cwm. Clywsom am deuluoedd ifainc yn symud o'r ardal am fod teithio nôl ac ymlaen i'r gwaith yn gymaint o fwrn iddynt. Rhaid ceisio rhwystro hyn os dymunwn gadw cymunedau hyfyw ym mlaenau'r cwm. Mae llawer o'r bobl hyn yn hoffi byw yma ac yn dymuno aros ond mae anhwylustod y teithio dyddiol yn eu diflasu. Mawr obeithiwn, felly, y bydd cynlluniau arfaethedig y Cyngor yn hwyluso'u bywydau. I hyn ddigwydd, mae'n bwysig bod pawb ohonom yn datgan ein barn a bod y Cyngor hefyd yn gwrando ar farn pobl sy'n defnyddio ein ffyrdd yn ddyddiol.
Golygydd
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
Miss Tilly John yn 104 Gweler ei hatgoifion ar dudalen 6 3
YMA I’CH HELPU CHI N O I H C R A F CY
R O M Y TY LEANNE
leanne.wood@cynulliad.cymru 01443 681420
N O I H C R A F CY
R O M Y TY JILL
campaigns@jillevans.net 01443 441395
N O I H C R A F CY
R O M Y TY LEIGHTON
LEIGHTON.ANDREWS@cynulliad.cymru 01443 682550 4
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
St ers ei agor yn 1911. Ar ddydd Nadolig cyn- Er bod yr adeilad newydd yn llai, mae'n helir cinio Nadolig yng ngapel Blaenycwm.am 1 cynnwys 4 bar, ystafell o'r gloch Does dim rhaid snwcer a neuadd. Ar ô yl cael cysylltiad a'r capel i Nadolig bydd y clwb yn darparu prydau bwyd. ddod - bydd croeso Dymunwn bob llwyddicynnes i bawb. Os oes ant i'r fenter. diddordeb cysyllwch â'r Capten Ralph Upton ar Mae'r cynllun i sefydlu 776579. project hydro-electrig yng Nghwmsaebren yn Bydd gwasanaeth Nadolig i blant ac oedo- mynd ymlaen. Mae eisioes wedi cael canilion yng Nghapel atad cynllunio a nawr Blaenycwm ar ddydd Nadolig ar 10.45 y bore. mae nhw wedi derbyn cyllid o £170,000 i gwblCroeso cynnes i bawb. hau'r fenter. Bydd y Cynhaliwyd gwasanaeth gwaith yn dechrau yn y misoedd nesaf a gobeiordeinio a sefydlu Phil Vickery fel weinidog cy- thio bydd cwmniau a busnesau lleol yn derbyn sylltiedig yng nghapel Blaeny cwm ar 5 Rhag- trydan oddi wrth y fyr. Roedd y gwasanaeth prosiect am brys llai. dan ofal Arfon Jones cyfeithwr y beibl.net. a'r Da yw clywed bod Jean Lawrence o Blaencwm pregethwr oedd y Rd wedi dod ma's o'r ysParchedig Andrew byty. Dymunwn wellhad Davies o'r Mwmbls. llwyr a buan iddi. Cyflawnwyd y ddefod ordeinio gan Y Parchedig Denzil John TREORCI o'rTabernacl, Caerdydd a .Pob dymuniad da i Mr rhoddwyd hanes yr Alun Davies, Stryd Dyalwad gan weinidog y fodwg, sydd wedi dercapel Capten Ralph byn llawdriniaeth yn Upton a Geraint Davies, ddiweddar yn Ysbyty'r ysgrifennydd y capel. Ar Waun, Caerdydd. ôl y gwasanaeth cynhaliwyd buffet yn y festri lle Ddydd Sadwrn, 5 Rhagroedd cyfle i bawb fyr cynnwyd y gymdeithasu. goleuadau ar stryd fawr Treorci i gydfynd â'r Ar 14 Rhagfyr symuffair a'r ffair Nadolig a dodd Clwb Ceidwadwyr gynhaliwyd yr un diTreherbert o Station St wrnod mewn cydweii'w gatref newydd ar y thrediad â heol fawr yn Stryd y Chymunedau'n Gyntaf Bute - hen safle Y aFforwm Cano y Dref. Castell. Mae Clwb Cei- Daeth llawer o blant ysdwadwyr wedi bod yn y golion lleol ynghyd i Ninian Stuart yn Station orymdeithio a chyfra-
nogi o holl hwyl y ffair bleser. Wrth gwrs, roedd Siôn Corn yno yn ei grotto i anrhegu'r plan a bu Band Parc & Dâr a Radio Rhondda ar gael i ddarparu cerddoriaeth dymhorol.
Llongyfarchiadau i Mr a Mrs Anthony Rees, Stryd Regent ar enedigaeth eu hŵyr cyntaf, fab i'w merch Laura sy'n byw ger Bradford yn Swydd Efrog, a gor-ŵyr i Mrs Betty Rees, Stryd Regent. Cafodd aelodau Sefydliad y Merched [WI] Treorci noson o hwyl i ddathlu'r Nadolig, nos Iau, 4 Rhag gydag adloniant wedi ei baratoi gan yr aelodau a lluniaeth dymhorol yn dilyn.
Bu dau o aelodau ffyddlon y WI yn yr ysbyty yn ddiweddar, sef Mrs Linda Francis a Mrs Beryl Jones. Mae eu ffrindiau yn anfon eu dymuniadau am wellhad llwyr a buan i'r ddwy ohonynt a hefyd i Mrs Eirwen Savage, Stryd Regent sy'n gaeth i'w chartref ar hyn o bryd yn dilyn damwain.
Mae Ysgol Gynradd Treorci wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer y Nadolig. Cynhaliwyd Ffair nadolig ddechrau'r mis ac ar nos Fercher a nos Iau, 13 1 14 Rhag, cynhelir Cyngerdd nadolig yr ysgol yn Eglwys San Pedr, Y Pentre. mae hyn yn syniad da gan fod plant y Pentre
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN nawr yn mynychu Ysgol Treorci. Bydd Band y Parc & Dâr yn cynnal noson 'Gogoniant y Nadolig' yn Theatr y Parc & Dâr, nos Iau, 17 Rhagfyr am 7pm yng nghwmni côr hŷn yr Ysgol Gyfun a chôr Ysgol Gynradd Treorci. Yr unawdydd fydd Georgia Williams.
James Williams, y canwr jazz oedd yn perfformio i Glwb Jazz y Rhondda yn y Clwb Rygbi, nos Fawrth, 8 Rhag. llongyfarchiadau i'r Clwb ar eu llwyddiant yn ennill grant o £500 gan y Fferm Wynt. Bydd capel Hermon yn cynnal gwasanaeth o ddarlleniadau a charolau am 10.30am fore Sul, 20 Rhagfur. Croeso i bawb. Mae Côr Merched y WI
PARHAD ar dudalen 8
5
ANRHEG NADOLIG!
Bu cais Y Gloran i gronfa Fferm Wynt Treorci am £1000 i'n galluogi i argraffu rhai rhifynnau mewn lliw yn llwyddiannus. Diolchwn i'r Fferm Wynt am ei chefnogaeth ac i bawb ohonoch a fentrodd trwy'r gwynt a'r glaw i fwrw pleidlais drosom. O hyn ymlaen, bydd y bleidlais yn cael ei chynnal bob dwy flynedd yn hytrach nag yn flynyddol. Eleni rhannwyd £55,000 rhwng nifer o gymdeithasau, mudiadau ac ysgolion yn yr ardal. Mae rhestr lawn o'r ymgeiswyr llwyddiannus i'w gweld ar wefan Fferm Wynt Treorci.
ATGOFION GWRAIG HYNAF YR ARDAL
Miss Tilly John yw un o drigolion hynaf Cwm Rhondda, os nad yr hynaf un, a hithau'n tynnu am 105 mlwydd oed. Fe'i ganed cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a threuliodd oes gyfan yn Nhreorci. Bu'n byw yn ei chartref yn Stryd Dumfries, Treorci ar ei phen ei hunan tan oedd hi'n 100 oed, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu'n hapus yng nghartref Ystradfechan lle mae hi'n canmol y gofal. Er iddi golli ei golwg rai blynyddoedd yn ôl ynghyd â'i gallu i gerdded yn bell, mae ei chof mor fyw ag erioed ac mae hi wrth ei bodd yn sgwrsio. Un o'i phleserau mawr yw cerddoriaeth glasurol ac mae'n wrandawr brwd i orsaf radio Classic FM. Pan alwodd y Gloran heibio iddi'n ddiweddar, roedd rhywun wrthi'n trin a lliwio'i hewinedd gan fod edrych yn smart yn dal i fod yn bwysig iawn iddi. Pan ofynnwyd i Miss John am ei hatgofion am y Nadolig, dywedodd, "Amser i'r teulu oedd yr ŵyl ac rown i'n un o 6 o blant ar yr aelwyd yn 8 Stryd Dumfries. Doedd dim llawer o arian ar gael ar gyfer anrhegion ac alla' i ddim meddwl am unrhyw anrheg a arhosodd yn y cof, ond roedden ni'n bwyta'n dda. Roedd allotment gan bawb yn y stryd ac roedd llysiau'n dod yn ffres o'r ardd i'r bwrdd. Roedd eu blas yn ardderchog, lot yn wahanol i'n llysiau heddiw. Fel arfer, gŵydd oedd ar y ford ddydd Nadolig. Swyddog ym mhwll glo Abergorci oedd 'nhad, ac roedd
e'n cael gŵydd bob blwyddyn yn rhad ac am ddim gan y cwmni glo. Ro'n ni'n lwcus yn hynny o beth. Y capel oedd canolbwynt ein bywyd gan fod rhywbeth yn mynd ymlaen yn Ramah ar ben y stryd bob nos o'r wythnos. Byddai'r dosbarth gwnïo yno'n gwneud pethau ar gyfer y Nadolig a byddai cyrddau cystadleuol, cyngherddau a chyfarfodydd pobl ifanc yn rhan sefydlog o'r rhaglen. Edrychem ymlaen yn arbennig at y Cwrdd Chwarter gan fod un o'r diaconiaid, Gomer Jones, yn sicrhau pob math o eitemau i'n difyrru. Ac wedyn roedd y Nadolig yn adeg cyngherddau, yn enwedig yn Noddfa. Yr enwog John Hughes oedd y corfeistr yno ac yn ogystal â hyfforddi côr mawr, llwyddai i ddenu rhai o gantorion gorau Prydain i ganu yno. Pan ddes i'n henach ymunais â chôr enwog Côr Merched Brenhinol y Rhondda o dan arweiniad Jim Davies, Ton Pentre a chael cyfle i deithio i lawer o leoedd trwy hynny. Yn ei amser sbâr roedd 'nhad yn stiward yng Nghlwb y Gweithwyr yn Ynyswen, y clwb a ddaethon ni i'w nabod fel y Pig & Whistle ar ôl hynny. Mae'r adeilad wedi diflannu erbyn hyn, ond rwy'n cofio Dr Tribe yn byw yno. Buon ni'n byw yn Heol Ynyswen am sbel ac o'n llofft roedden ni'n gallu gweld i mewn i ardd Dr Tribe a synnu bod y teulu'n chwarae tennis ar y lawnt ac yn mwynhau te prynhawn yn yr awyr agored - rhywbeth dieithr iawn i bobl gyffredin yr ardal. Poni a thrap oedd gan y doctor i fynd o gwmpas yr ardal cyn bod sôn am geir. Ond nôl â ni i Dumfries St yn y pen draw a rhaid oedd cerdded i'r ysgol yn Ynyswen. Yr adeg honno roedd gatiau ar draws yr hewl yn ymyl Ramah ac oherwydd hynny roedd rhaid codi'n fore i sicrhau mynd heibio i'r gatiau cyn iddyn nhw gau. Os digwydd inni fod yn hwyr i'r ysgol, y gatiau oedd yr esgus bob cynnig pan holai'r prifathro beth oedd wedi ein rhwystro. rwy'n cofio un ferch fach yn cael ei lladd pan gafodd ei phen ei wasgu rhwng y glwyd a'r cilbost. Roedd hynny'n dristwch i bawb a'n rhieni'n ein siarsio i ofalu wrth aros i'r gatiau agor. Roedd stryd fawr Treorci bob amser yn brysur iawn, yn llawn o siopau amrywiol a'r brachis yn amlwg iawn yn eu plith."
BYD BOB
Elusennau yw pwnc Bob Eynon y mis hwn, profiadau'r gorffennol a thro doniol a gafodd yn ddiweddar wrth gasglu.
Os ydw i'n edrych yn ôl ar fy mhlentyndod, dydw i ddim yn cofio llawer o sôn am elusennau. Yr unig elusen sy'n sefyll allan yn fy nghof i yw'r PDSA. Roedd cŵn a chathod gyda ni yn y tŷ'n wastad (roedd
Rhagor o ‘Gwmpo Miwn!’ Mae'n ymddangos bod
Islwyn Jones yn giamstar ar gwympo i mewn i afonydd. Mae hynny'n ddigon drwg, ond os ydych chi'n colli clamp o bysgodyn yn y fargen, mae hynny'n drychineb!
fy mam yn dwli arnyn nhw), ac o bryd i'w gilydd byddai fy nhad a fi'n mynd agun ohonyn nhw i weld y milfeddyg oedd yn parcio ei fan wen yn Chapel St, neu Prince St efallai, yn Nhreorci unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Roedd yr anifeiliaid afiach yn cael eu trin am ddim,ond wrth i'r bobl adael y fan bydden nhw'n rhoi arian i mewn i focs y PDSA fel anrheg i ddweud diolch am y driniaeth. Roedd ein hanifeiliaid ni'n teithio mewn steil i weld y milfeddyg gan fod beic modur a seicar 'da ni yn Blaencwm Terrace, Tynewydd, tra oedd y mwyafrif o'n cymdogion ni'n gorfod cymryd y bws neu'r trên. Byddwn i'n eistedd yn y seicar ar y ffordd i lawr i Dreorci yn nyrsio'r anifail anwes mewn blanced ac yn gweddïo y byddai'r driniaeth yn
Soniais y tro dwetha’ am rai o’r helyntion a ddaeth i’m rhan wrth ‘gwmpo miwn’ i’r afon. Mae pethe o’r fath yn anochel os ych chi’n pysgota o ddifri. Fel arfer. mae cwympo i mewn yn ddamweiniol, ond galla' i gofio un achlysur pan es i mewn i’r afon yn fwriadol! Rhaid pwysleisio i hyn ddig-
llwyddiannus. Dychmygwch fy hapusrwydd ar y ffordd adref os oedden ni wedi cael newyddion da gan y milfeddyg, ond hefyd dychmygwch fy nheimladau pe baen ni fynd yn ôl at Mam yn waglaw! Ers yr adeg honno mae fan y PDSA wedi diflannu o strydoedd Cwm Rhondda, ond mae'r nifer o elusennau yn y wlad wedi tyfu'n gyflym dros y blynyddoedd. Bob mis Medi rwy'n cymryd rhan yng nghasgliad blynyddol Byddin yr Iachawdwriaeth. Weithiau mae pethau digri'n digwydd yn ystod y casgliad, fel pan gurais ar ddrws ffrynt tŷ yn Nhreherbert un noson. Fe ddaeth bachgen pump neu chwech oed i agor y drws. "Hylo," dywedais i, "rwy'n casglu arian at Fyddin yr Iachawdwriaeth. Ydy dy rieni i mewn?" Fe
wydd pan o’n i’n ddyn ifanc ffôl ac na fyddai’r fath beth yn debygol o ddigwydd nawr gan fy mod gymaint yn hynach a challach?(!!) Ryw flwyddyn wedi helynt y bath cynnar yn Llanbed a’m hymweliad a ‘Seconds Ahead’, ro’n i’n pysgota lawr yn Llandysul ychydig uwchben pwll enwog ar y Teifi o’r enw ‘Church Pool’. Unwaith eto,roedd na lif go dda yn yr afon,a phethe’n argoeli’n dda i ddal eog. O’n i’n pysgota gyda throellwr (spinner) yn y dŵr uchel ac yn sefyll mewn man digon lletchwith a dweud y gwir. Ryw bum llath islaw imi roedd 'na glawdd. Felly, pe baech chi'n bachu pysgodyn sylweddol byddai’n anodd ei lanio. Wrth daflu fy nhroellwr, dechreuais bendronni ynglŷn â’r hyn a wnawn
drodd e a gweiddi mewn llais uchel, "Mam-gu...' "Beth?" atebodd llais gwraig o'r gegin. "Mae dyn yma," meddai'r bachgen. "Mae e'n dweud ei fod yn mynd i dy saethu di." Roedd moment neu ddwy o ddistawrwydd. Yn y cyfamser roedd y bachgen bach wedi dechrau fy mhwnio yn fy mola. Yna, fe ymddangosodd y fam-gu gan edrych arna i'n ofalus, ac roedd rhaid i fi esbonio popeth unwaith eto. "O, mae'r bachgen yn niwsans," meddai gan roi arian yn y bocs. Roeddwn ar fy ffordd i'r tŷ nesaf yn meddwl pa mor ddrwg oedd y bachgen 'na a pha mor garedig oedd ei fam-gu, pan glywais hi'n dweud wrth fe, "Rhag dy gywilydd di, 'machgen i. Pryfocio hen ŵr druan fel fe!"
petawn i'n digwydd bachu eog. Yn aml, gyda physgodyn mawr, rhaid ei ddilyn lawr yr afon er mwyn ei lanio’n llwyddiannus. Gall eog mawr gymryd hyd at ganllath o’ch llinyn ac os yw’n penderfynu rhedeg mae’n amhosib trio‘i stopio. Mae 'na beryg iddo dorri’r llinyn a chwalu’r wialen yn y broses. Y Frwydr Nawr, does dim angen imi ddweud wrthoch chi beth ddigwyddodd nesa. Bachais eog mawr ar y troellwr a sgrechodd y rîl, a’r wialen yn plygu fel bwa, wrth iddo saethu i lawr i’r pwll islaw imi. Erbyn hyn roedd wedi cymeryd tua hanner canllath o lein ac allwn i ddim ei ddilyn o achos y clawdd. Os o’n i am ddal y pysgodyn, dim ond un peth oedd amdani - camu
wedi bod yn brysur yn difyrru cynulleidfaoedd yn yr ardal y mis hwn. Nos Fercher, 2 Rhagfyr, roedden nhw yng nghapel Hope, Y Gelli. Wedyn, nos Wener 4ydd roedd y côr yn cymryd rhan mewn gwasanaeth carolau yn Carmel, Treherbert a bydd eu gwasanaeth o ddarlleniadau a charolau blybyddol yn cael ei gynnal nos Iau 17 Rhagfyr yn Eglwys San Matthew, Treorci am 7pm. Croeso cynnes i bawb.
CWMPARC
Daeth y Nadolig yn gynnar i Ysgol y Parc wrth i'w cheisiadau am arian gan Fferm Wynt Treorci lwyddo ym mhob categri. Cawson nhw £500 am adnoddau chwaraeon allgyrsiol, £1000 am adnoddau i'r ystafell rhieni, £2,500 am ddillad chwaraeon a £5000 ar gyfer adnoddau i'r llyfrgell - cyfanswm o £9000.
8
Bu Cymdeithas Gymunedol Cwmparc hefyd yn llwyddiannus gan dderbyn £2500 i brynu cyfrifiaduron newydd at iws y cyhoedd. Llongyfarchiadau iddyn nhw a'r ysgol. Diolch hefyd i'r pwyllgor am ei holl waith yn rhoi'r neuadd ar ei thraed unwaith eto. Siom oedd gweld bod rhywrai wedi gwaredu pentwr anferth o sbwriel ar dir yn ymyl Tŷ Allison. Aeth un o loriau'r Cyngor yn sownd yn y mwd pan aeth i'w symud a bydd costau mawr ar drethdalwyr y sir i dalu am hyn oll. Os ydych yn gwybod pwy a adawodd y sbwriel yno, rhowch wybod i'r Cyngor neu eich cynghorwyr lleol.
Rhwng 10-12 Rhagfyr cynhelir Gŵyl y coed Nadolig yn Eglwys San Siôr a dilynir honno gan Ŵyl y Golau ar 14-17 yn Eglwys san Matthew,
Treorci.
Bydd plant Ysgol y Parc yn ymweldâ'r Coliseum, Aberdâr ddydd Mercher, 16 Rhagfyr i weld perfformiad o'r pantomeim 'Cinderella'. Mawr yw'r edrych ymlaen at y wibdaith hon.
Bydd Eglwys San Siôr yn brysur dros yr Ŵyl gyda Stori'r Crud am 4pm ar 24 Rhag, gwasanaeth y Cymun bendigaid fore'r Nadolig am 10.30am a Chymun eto ar ddydd San Steffan, sef 26 Rhag. am 10am.
Y PENTRE
Pob dymuniad da i Matthew Rhys Jones, Pleasant St wrth i busnes lddo sefydlu busnes fel plwmwr yn yr ardal. Enw'r cwmni yw Glyndŵr Plumbing [www.glyndwrplumbing.co.uk] a gallwch gysylltu â Matthew ar 07961 259903.
Cafodd trigolion y Pentre ragflas cynnar ar ysbryd y Nadolig wrth i gantorion Byddin yr Iachawdwriaeth gynnal dwy noson o garolau yn eu pencadlys yn Stryd Carne, nos Iau a nos Wener, 3 a 4 Rhagfyr.
Mae croeso ichi ymuno yng ngweithgareddau'r Fyddin sef: Gwasanaethau'r Sul am 10.15am a 4.30pm; sesiwn mam a Phlentyn 9.15 - 11am, ddydd Llun; Astudiaethau Beiblaidd, 6.15pm nos Fawrth ac Ysgol Gân y corau yr un noson; Bore Coffi 10-30 - 12 o'r gloch ddydd Iau. Arweinwyr y Ciadel yw Maria Rosa a Mark Kent. Croeso i bawb.
Cynhaliwyd Ffair Nadolig Eglwys San Pedr, ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd. Fel arfer, roedd yno amrywiaeth o stondinau a chafodd pawb a alwodd heibio amser da er gwaethaf y
tywydd cyfnewidiol.
TON PENTRE A GELLI
Blin oedd clywed am farwolaeth Mr David Pugh yn ddiweddar. Roedd David yn frodor o Dreorci ac wedi gweithio am flynyddoedd fel tocynnwr ar y bysys lleol. Bu hefyd yn gadeirydd ar glwb 'Smokey's'. Cydymdeimlwn â'i weddw a'i fab a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Deallwn fod Miss Dorothy Bennett, Stryd Dewi Sant bellach wedi dod adre o'r ysbyty. Dymunwn iddi bob cysur a gwellhad buan. Mae ei chyd-aelodau yn Hermon, Treorci yn dymuno pob bendith a chysur iddi. Cofiwn hefyd am Mrs Betty Evans o'r un stryd sy wedi bod yn yr ysbyty ers rhai wythnosau.
Cafwyd noson lwyddiannus o ganu carolau ar ddechrau tymor y Nadolig yng nghapel Hope, Y Gelli gyda chôr WI Treorci o dan arweiniad Mrs Mary Price a Mrs Sioned Lake yn cyfeilio. Diolchwyd yn gynnes iddynt an y gweinidog am noson yng ngwir ysbryd y tymor. Bydd Cymdeithas Cameo yn dathlu'r Nadolig eleni trwy gynnal cinio arbennig yn Fagin's. Mae'r aelodau am afon eu dymuniadau gorau am wellhad buan i'r Cadeirydd, Mrs Rita Lewis a hefyd i Mrs Mona Phillips.
Bu nifer o brofedigaethau yn yr ardal yn ystod y mis diwethaf. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â theuluoedd y rhai a ganlyn yn eu profedigaeth: Mrs Va-
lerie Dee, King St; Mrs Linda Jones, Ton Row; Mrs Jennifer Everett, St David's St; Mrs Joan Shallish, Princess St.; Mrs Pat Brooks, Ardwyn Tce.; Mr David Pugh, Gordon St a Mr Douglas Caudle, Avondale Rd. Bydd Clwb Pêl-droed Ton Pentre yn cynnal Ffair Nadolig ar 17 Rhag. Bydd amrywiaeth o stondinau, raffl fawr ac, wrth gwrs, ymweliad gan Siôn Corn. Nadolig yw tymor y panto, a bydd cyfle ichi weld cynhyrchiad o Aladin am 2.30pm, ddydd Gwener, 18 Rhagfyr yn Theatr y Ffenics, tocynnau £5. Dewch yn llu!
Mae Ymgyrch Diogelwch ar y Ffordd Fawr Ton Pentre a'r Cylch wedi profi'n llwyddiant gyda llawer yn mynychu'r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn Llys Nazareth, Tŷ Ddewi, Llys Ben Bowen, Eglwys San Pedr a Chanolfan Brynnar Jones, Y Gelli.
Mae Cyngor RhCT yn cynnal cyfres o gyfarfodydd i hyrwyddo cynllun SAFE, gwasanaeth dan nawdd Cartrefi RCT i bobl dros 55 oed. Y bwriad yw cynorthwyo pobl i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi. Gellir cael rhagor o fanylion trwy ffonio {01443) 485515. Trist yw gorfod adrodd am farwolaeth tri o bobl adnabyddus yr ardal. Roedd cynulleidfa fawr yn bresennol yng ngwasanaeth angladdol Mr Ritchie Bevan yn Eglawys San Pedr ar 27 Tachwedd. Gwasanaethodd Ritchie yn y lluoedd arfog yng ngogledd Iwerddon ac ê'
roedd hefyd ar fwrdd Sir Galahad yn Rhyfel y Malvinas / Falklands. Un arall a wasanaethodd yr ardal yn ffyddlon oedd Mrs Sylvia Pugh o'r Uplands, Ystrad Rhondda. Am flynyddoedd hi oedd warden poblogaidd Bronllwyn. Cydymdeimlwn â'i phriod Doug a'r teulu oll yn eu galar. Yn olaf, bu farw
un arall o drigolion Ystrad, sef Mr Brian Bees ar 26 Tachwedd. Brian oedd Cadeirydd Cynghrair Bêl-droed y Rhondda er 1987 ac ef hefyd oedd Cadeirydd tîm Ton Pentre. Yn wir,, dywedwyd ae fod 'wedi ymroi yn ddiarbed i hyrwyddo pêl-droed ar lawr gwlad.'
i mewn i’r dyfroedd oddi ar y silff. Plymiais i’r dyfnderau ac arnofio fel corcyn i’r ochor arall o’r clawdd-tra’n dal gafael yn y wialen. Trwy ryfedd wyrth roedd yr anghenfil yn dal ar ben arall y llinyn. Nawr,f el mae’n digwydd, roedd na hen foi yn eistedd ar y lan yn pysgota â mwydyn ryw ddecllath islaw y clawdd. Galwais arno i rilio i mewn. Edrychodd yn syn wrth glywed llais yn dod o gyfeiriad y dyfroedd a heb weld neb nes i’r gwallgofddyn ifanc arnofio heibio iddo. Syllodd yn gegagored heb ddweud yr un gair.Wrth glywed yr holl dwrw, rhedodd pysgotwr arall i fyny’r geulan.Erbyn hyn roeddwn yn agos at y lan wrth i lif y dwr dawelu rhyw ‘chydig. Ac yn bwysicach fyth roedd yr eog yn dal ar ben y llinyn, ond yn benderfynnol o ddychwelyd i Aberteifi a diogelwch y mor.Un peth sy’n rhaid i bysgotwr wneud wrth chwarae pysgodyn yw cadw’r llinyn yn dynn. Os rhowch lein lac i’r pysgodyn, mae’n rhwyddach iddo ddianc. Galwodd y pysgotwr imi roi’r wialen iddo er mwyn imi ddod mas o’r dwr. Wrth imi estyn y
wialen iddo fe wnaeth e gamgymeriad mawr. Gostyngodd flaen y wialen, a thrwy wneud hynny, roddodd linyn llac i’r pysgodyn. Llamodd un o’r eogiaid mwyaf a welais erioed allan o’r afon a phoeri’r troellwr allan o’i geg. Mewn fflach o arian a thasgiad o ewyn, daeth yn rhydd a diflannu nôl i ddiogelwch yr afon.Am rai eiliadau edrychodd y tri ohonom yn syfrdan.Treiglodd deigryn i lawr fy ngrudd wrth imi weld yr eog gorau a fachais erioed yn dianc. Sa i’n cofio’r hyn a ddywedwyd yn hollol yn dilyn y tawelwch.Teg dweud nad oedd yr iaith yn Church Pool yn weddus i unrhyw eglwys!! Digwyddodd yr helynt bron deugain mlynedd yn ôl ond rwy’n ei gofio fel petai wedi digwydd ddoe. Glaniais ddigon o samwn ers hynny, ond rhyfedd o beth, y rhai sy’n dianc sy’n aros yn y cof. Roeddwn yn ddigon tawedog ar y daith hir nôl i Flaenrhondda, ond o leia-yn dilyn helynt ‘Seconds Ahead’ y flwyddyn cynt, roedd gen i set o ddillad sych i’w gwisgo!
Rhagor o ‘Gwmpo Miwn!’ Islwyn Jones parhad
9
YSGOL GYNRADD GYMRAEG
BRONLLWYN
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Stori gan Rosina Roberts-Morgan, Blwyddyn 4
Gala’r Urdd 2015
Ar Ddydd Mercher, Tachwedd yr 11eg aeth nifer o ddisgyblion yr Adran Iau draw i bwll nofio Merthyr i gymryd rhan yng Ngala`r Urdd. Cystadlodd y disgyblion yn frwd a chawson nhw brofiadau arbennig o dda. Roedd rhai aelodau`r tîm wedi cynrychioli`r ysgol yng Gala`r Urdd yn y gorffennol ond roedd yna nifer oedd heb nofio mewn gala o gwbl! Gwnaeth pawb yn arbennig o dda, ein canlyniadau ‘ 10
ntaf bydd yn mynd trwyddo i`r Gala Cenedlaethol ym mis Ionawr ym mhwll nofio Caerdydd. Bydd gennym ni 6 chystadleuaeth yn y gala hwnnw : •Celyn Gowen Bl 3 a 4 25m Cefn •Tîm cyfnewid rhydd Bl 3 a 4 bechgyn –Jamie Rosser, Riley Richards, William Evans a Celyn Gowen •Lois Perham 1af Bl 5 a 6 merched 50m Broga •Lois Perham 1af Bl 5 a 6 Cymysg Unigol Merched •Tîm cyfnewid Rhydd Bl 5 a 6 merched 1af –Hannah Baker, Lois Perham, Lily Williams a Ffion Davies •Tîm cyfnewid cymysg Bl 5 a 6 merched 1af –Ffion Davies, Lily Williams, Lois Perham a Lexî Hill
G I L O D NA N
E W A L L
YSGOLION
‘ gorau erioed! Yn anffodus ond y plant ddaeth yn gy-
YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
Ymweliad Bongo Clive
Daeth Bongo Clive atom yn ddiweddar i gynnal gweithdy “Carnifal” gyda disgyblion Dosbarth 4 a 5. Cafodd pawb amser gwych yn chwarae`r gwahanol fathao o offerynnau. Thema`r dosbarthiadau yw`r “Carnifal” y tymor, a roedd awyrgylch y carnifal wedi cyrraedd YGG Bronllwyn y diwrnod hwnnw.
Gwobr IRIS Mae criw o fyfyrwyr Bl 13 wedi elwa llawer o weithio gyda chwmni Equiversal ar gynhyrchu ffilm gwrth-fwlian fer yn ystod y misoedd diwethaf. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn yr ysgol yr wythnos hon yn ystod seremno arbennig. Mawr yw ein diolch i Equiversal am y profiad arbennig hwn! Bydd linc i'r ffilm ar gael ar ein gwefan cyn hir!
High School Musical 2015
Roedd llwyfan theatr Y Parc a’r Dâr, unwaith eto eleni, yn fwrlwm o dalentau gorau Cwm Rhondda wrth i’n hysgol lwyfannu High School Musical. Cafwyd perfformiadau arbennig iawn a mawr yw ein diolch i’r holl staff a disgyblion oedd ynghlwm am eu hymrwymiad a’u gwaith caled. Diolch hefyd i staff y theatr ac i’n rhieni am eu cefnogaeth. Bydd mwy o luniau i’w gweld ar y wefan cyn hir! DEWAR SHIELD 2015-2016 Dyma ddisgyblion Blwyddyn 9 a 10 sy'n aelodau o garfan y Rhondda ar eu ffordd i ginio arbennig yn Holland House lle byddant cael eu henwi'n swydgogol yn aelodau carfan y Dewar Shield eleni. Da iawn chi fechgyn! Drosodd am y lluniau
‘
‘
Mae cyngor ysgol Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn wedi gweithio'n galed iawn i godi arian er cof athro, ffrind a chydweithiwr annwyl. Codwyd digon o arian i gael plac coffa ei greu er cof am Mr Carwyn Davies, a fu farw yn anffodus gan adael argraff ar yr ysgol. Mae gan y plac falchder o le ar ein wal ddringo oherwydd ei ddiddordeb mewn chwaraeon a phob gweithgaredd ffitrwydd.
11
PENCAMPWYR CYMRU – AM Y SEITHFED TRO MEWN DEGAWD!
Llongyfarchiadau mawr iawn i dîm Siarad Cyhoeddus Ysgol Gyfun Cymer Rhondda ar ei lwyddiant ysgubol yn rownd derfynol cystadleuaeth siarad cyhoeddus Cymru! Dyma’r seithfed tro i dîm o’r ysgol gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth bwysig hon a gynhelir yn flynyddol gan Glwb y Rotari. Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd, gydag wyth o ysgolion Cymraeg o Ganolbarth a De Cymru yn cystadlu am y brif wobr. Daisy Norton, Evie Connolly a Jenni Page fu’n cynrychioli’r ysgol eleni a mawr yw ein diolch i’r dair am eu holl waith paratoi gofalus. Llongyfarchiadau gwresog i chi!
DEWAR SHIELD AR LWYFAN Y PARC A’R DÂR