y gloran
'POBOL Y RHONDDA' YN ÔL AR S4C
i'r gyfres gynta'? Mae'r gyfres dal wedi selio ar ei theitl sef y bobl sydd yn gwneud y Rhondda. Yn y gyfres gyntaf 'nes i greu map newydd o'r Rhondda, a'i lenwi gyda chymeriadau'r Cwm. Y tro hwn dw i'n creu saith murlun, un ym mhob rhaglen, wedi'u selio ar themâu gwahanol sy'n sôn am fy ardal; ei hanes, ei cherddoriaeth, protestiadau sydd wedi digwydd yma a chymdeithas y Rhondda. Yn y rhaglen olaf byddaf yn creu un murlun mawr.
EIRA a SIÔN Bydd Siôn Tomos Owen yn mynd ar daith arall o amgylch ei filltir sgwâr nos Iau, 23 Mawrth am 21.30; wrth i gyfres newydd Pobol y Rhondda ddychwelyd i S4C. Bu'r Gloran yn cyfweld â'r cartwnydd 32oed o Dreorci. Sut mae'r gyfres hon yn wahanol
Ble fyddi di'n ymweld ag e y tro hwn? Bydda i'n ymweld â llefydd amrywiol yn y gyfres hon; o ddyn sy'n darlunio tatŵs i wneud Tae-chi, i ganu mewn 'big band' i daflu morthwyl. Bydda i hefyd yn tywys pobl o amgylch y caffis, siopau, siop sglodion, gweld celf yr ardal, a mwynhau golygfeydd y Cwm; ac wrth gwrs clywed am enwogion y Rhondda.
Pwy fyddi di'n siarad gyda nhw? Dwi'n cwrdd ag amryw o gymeriadau, rhai adnabyddus a rhai fyddech chi ddim wedi clywed amdanyn nhw. Dw i'n foi lleol sydd
20c eisiau dangos i weddill Cymru pa mor ddiddorol ydy fy ardal. Bydda i hefyd yn mynd adref at fy nheulu yng 'Nglyncoli' am sgyrsiau rownd y bwrdd eto.
Rwyt ti'n wreiddiol o Dreorci, ond ble rwyt ti'n byw rŵan? Os gwelodd pobol y gyfres gyntaf, fe symudais yn ôl i Dreorci o ben pella' Gelli (tua milltir lawr y lôn!) y llynedd a dw i'n dal yno.
Mae gen ti blentyn bach, Eira. Pa mor bwysig i ti yw magu dy blentyn yn Rhondda? Un o'r prif resymau symudon ni nôl i Dreorci oedd bod yn agos at ein teulu. Cafodd fy ngwraig a minnau ein magu yn Nhreorci, ac mae ein teuluoedd yn parhau i fyw yno hefyd. Mi fydd Eira yn gallu cerdded o'n tŷ ni i dŷ ei Nana a Grumpy, ac wedyn lan at fferm Nain a Thad-cu; ac yna 'nôl lawr at ei hen Gran. Mae pawb yn byw o fewn hanner milltir i'w gilydd. Bob bore Sadwrn dw i ac Eira yn mynd am dro trwy'r gwlis, lawr at y cigydd Parhad ar sydd wastad â dudalen 6 TIRLITHRIAD - GWELER NEWYDDION TREHERBERT
SIOPWYR CYMRAEG Y STRYD FAWR HIGH ST MEDIA, TREORCI
Mae Laura ParryWilliams, 32, yn dod o’r Pentre. Hi yw cyfarwyddwraig High Street Media, ac yn gyn-ddisgybl o YGG Ynyswen ac Ysgol Gyfun Y Cymer. Mae ei thri phlentyn yn mynychu ysgol Gymraeg, ac maen nhw i gyd yn siarad Cymraeg gartref. Mae hi’n credu bod y gallu i siarad y Gymraeg wedi bod o fudd i’w busnes. Mae High Street Media yn 2
gwneud llawer o waith ar gyfer ysgolion Cymraeg eu cyfrwng, lle bod angen gwefannau dwyieithog arnynt, yn ogystal ag arwyddion ac adnoddau. Mae hi’n dweud bod cael staff dwyieithog wedi bod yn werthfawr dros ben i’r busnes.
Hefyd yn gweithio yn High Street Media, mae Amelia Newman, a fynychodd YGG
Bronllwyn ac Ysgol Gyfun Treorci. Mae Amelia, 23, wrth ei bodd yn siarad Cymraeg â’i chwsmeriaid, ac â ffrindiau a theulu hefyd. Roedd ei sgiliau Cymraeg yn ffactor allweddol yn ei phenodaeth, gan fod y cwmni yn cyflenwi cymaint o waith yn y Gymraeg i’w cwsmeriaid.
y gloran
mawrth/ebrill 2017 Pobl y Rhondda/ Tirlithriad yn Nhreherbert...1
Siopwyr Cymraeg/...2 Golygyddol...3 David Lloyd / Ffrindiau Parc Treorci..4
Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Byd Bob...6 Pobl y Rhondda...7 Newyddion Lleol...8-9
YsgolionYmweliadau...10 Catherine Fisher gan Olivia Williams...11/12
mawrth/ebrill 2017
golygyddol Erbyn i'r rhifyn nesaf o'r Gloran ymddangos bydd yr etholiadau lleol wedi eu cynnal a chyngor newydd RhCT ar fin dechrau ar ei waith. Beth bynnag y bydd lliw'r blaid fydd yn rheoli, bydd rhaid iddi wynebu sawl her. Ar y llaw arall, bydd cyfleoedd yn cynnig eu huanin hefyd.
Un o'r prif faterion sy'n poeni pobl yw iechyd. Mae ein hysbytai o dan bwysau oherwydd prinder gwelyau a'r sefyllfa honno'n cael ei gwaethygu gan doriadau yng ngwasanaethau cymdeithasol ein cynghorau. O ganlyniad, mae pobl allai gael eu rhyd-
dhau o'r ysbyty yn gorfod aros yno am nad oes gofal ar gael iddynt yn eu cartrefi. Dyna ran o'r rheswm bod cleifion yn cael eu cadw ar drolïau am oriau maith nes bod gwely ar gael. Rydyn ni'n gweld eisiau yr hen ysbytai lleol fel Pentwyn, Treherbert a Thyntyle oedd yn gallu derbyn cleifion wrth iddynt ddod dros lawdriniaethau tra yn sicrhau bod gwelyau ar gael yn y prif ysbytai ar gyfer cleifion yn dioddef o afiechydon mwy difrifol. Ar y cyfan, mae'n well gan bobl fod yn eu cartrefi os ydynt yn ddigon da, ond rhaid wrth help. Un o heriau mwyaf Llywodraeth
Cymru fydd sicrhau digon o gyllid i ariannu eu hadrannau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn lleihau'r pwysau ar ein hysbytai.
Os yw iechyd yn her, mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfle. Mae 10 o awdurdodau yn ymestyn o Ben-y-bont ar Ogwr yn y gorllewin i Sir Fynwy yn y dwyrain wedi dod ynghyd i adfywio'r rhanbarth. Rhyngddynt mae ganddynt £1.2 biliwn o arian cyhoeddus, ynghyd a £4 biliwn o fuddsoddiad preifat i'w wario. Y gobaith yw y bydd y cynllun yn gwella trafnidiaeth trwy'r Metro, yn creu rhwydwaith digidol, yn esgor ar 25,000 o swyddi, yn adfywio'r economi ac yn gwella ansawdd a nifer ein tai. Mae hyn y gyf-
frous, ond bydd llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar ddadgyfeirio adnoddau i ymylon y rhanbarth yn ytrach na gweld y cwbl yn cael ei lyncu gan Gaerdydd. Wrth lunio ei Gynllun Datblygu Lleol, collodd RhCT gyfle i ddatblygu un Brif Dref yn y Rhondda. Byddai hyn wedi rhoi cyfle i sefydlu swyddi yn y cwm, ac yn fwy na hynny, wedi rhoi hwb seicolegol i ardal y mae ei phobl yn teimlo eu bod wedi eu hesgeuluso. Rhain i bwyslais y Fargen Ddinesig fod ar greu gwaith a chymunedau sefydlog yn ein cymoedd, yn hytrach na gorfodi ein pobl i deithio i ddod o hyd i waith. Mae'r Fargen yn gyfle i wneud hyn. Gobeithio y bydd ein gwleidyddion yn achub ar y cyfle.
Golygydd
3
DAVID LLOYD, CWMPARC
Collwyd un o gymwynaswyr mawr y Gloran a'r Gymraeg pan fu farw David Lloyd, Stryd Tallis, Cwmparc ddechrau Mawrth yn 88 oed. Addysgwyd David yn Ysgol y Bechgyn, Y Porth ac wedyn yng ngholegau Prifysgol Cymru, Abertawe a Chaerdydd lle yr enillodd gradd B.Sc. mewn cemeg. Ar ôl gwasanaeth milwrol yn y Llu Awyr, gweithiodd fel dadansoddwr yn labordy iechyd cyhoeddus Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Bu ef a'i chwaer, Elizabeth yn agos iawn a bu marwolaeth Elizabeth beth amser yn ôl yn ergyd drom iddo. Hoffai David gerddoriaeth yn fawr iawn. Chwaraeai'r organ yn Salem a Chapel y Parc a bu'n aelod selog o Gôr Cymysg Treorci. Cefnogai Gymdeithas Gymraeg Treorci ac Undeb y Bedyddwyr a gweithredai fel ysgrifennydd a thrysorydd yn eglwys Salem. Am nifer o flynyddoedd, David oedd yn gyfrifol am golofn newyddion Cwmparc yn y papur hwn ac ef hefyd a ddosbarthai'r Gloran yn y pentref tan yn ddiweddar. Roedd yn ŵr bonheddig, hoffus a oedd yn uchel ei barch gan bawb yn yr ardal. Diolchwn iddo am ei gyfraniad cyson i sawl agwedd ar fywyd cymdeithasol, crefyddol a diwylliannol yr ardal dros nifer o flynyddoedd.
TIRLITHRIAD YN NHREHERBERT
FFRINDIAU PARC TREORCI
Ffurfiwyd 'Ffrindiau Parc Treorci' gan grŵp o rieni ifanc y yr ardal sy'n awyddus i wella'r cyfleusterau yn y parc. Bu Treorci'n ffodus i etifeddu parc ardderchog a roddwyd gan gwmni'r Ocean ac a ddatblygwyd gan y Pwyllgor Lles lleol. Roedd pob math o gyfarpar yno, gan gynnwys 'switchback' ar un adeg, ond dros y blynyddoedd dirywiodd y parc.
Ddydd Sadwrn, 8 Ebrill bydd y Ffrindiau yn trefnu Helfa Wyau Pasg rhwng 11 -2pm gyda gorymdaith bonetau'r Pasg am 1.30 pm a'r raffl yn cael ei thynnu am 2pm. Bydd yno ddigon o weithgareddau i'r teulu i roi dechrau da i wyliau'r Pasg i blant a'u rhieni gan gynnwys peintio wynebau, ffug datŵs, castell sboncio, cerddoriaeth gan Radio Rhondda a hela wyau gydag offer GPS! Bydd mynediad yn rhad ac am ddim a bydd yr holl elw yn mynd at brynu offer newydd i'r parc.
Dywedodd Cadeirydd y Ffrindiau, Tim Green, Sefydlwyd Ffrindiau' Parc rai misoedd yn ôl yn dilyn cyfarfod â rhieni a gofalwyr yn y parc. Mae awydd mawr yn y gymuned i i godi arian er mwyn gwella cyfleusterau yn y parc ar gyfer plant o bob oed. Edrychwn ymlaen at groesawu trigolion lleol i'n digwyddiad cyntaf sy'n addo bod yn hwyl i'r holl deulu.'
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Friends of Treorci Park ar Weplyfr / Facebook neu e-bostiwch ttreorchypark@treorchyfestival.org 4
TIRLITHRIAD YN NHREHERBERT
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am Mrs Maud Jones yn 96 oed mewn cartref gofal ym Mhorthcawl. Yn frodor o Dreorci, ymgartrefodd Maud yn Nhynewydd a bu'n aelod ffyddlon yng nghapel Blaen-y-cwm. Cydymdeimlwn â'i mab Emyr a'r teulu yn eu profedigaeth.
Ar y 26ain o Chwefror digwyddodd tirlithriad rhwng Castleton Avenue ac Ysgol Pen Pych. Fel canlyniad, caewyd y llwybr tu ol i'r ysgol a gwarharddwyd plant rhag chwarae mewn un rhan o iard yr ysgol. Does dim bygythiad i'r ysgol neu i'r tai ar hyn o bryd ond mae rhaid i berchenog y tir( sy'n byw yng Nghaerdydd) wneud gwaith i sefydlogi'r llithriad.
Newyddion da i blant Treherbert a Blaenrhondda sy'n mynd i weld eu parciau yn cael eu hadnewyddu. Bydd y gwaith yn dechrau yn y misoedd nesaf. Bydd gwaith i gwblhau adnewyddu heol y Rhi-
gos yn ailddechrau.
Gosodir wyneb newydd ar heolydd Blaenrhondda Rd, Clyngwyn Rd a Terrace a Sryd Charles Hefyd rhoddir goleuadau newydd yn strydoedd Scott, George Eleanor a Charles. Bydd y gwaith i gyd yn dechrau yn y flwyddyn arianol nesaf.
Mae'n lin cofnodi marwolaeth Pam Lewis cynberchennog siop flodau y Flower Box, Gill Powell, cyn-nennaeth canolfan addysg Treherbert David John Jones o Victoria St a Keryl Davies o Brynhenllan. Cydymdeimlwn â'u teuleodd i gyd
Dymunwn wellhad buan i'r Parchedig Donald Wright Stryd Ninnian sydd ar hyn o bryd yn glaf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Croeso adref o'r ysbyty i Nyda Jeffreys o St Mary's Close. Mawr obeithiwn y bydd hi'n teimlo'n llawer gwell cyn bo hir.
TREORCI
Pob dymuniad da i Mr
David Howell, Stryd Howard, sydd wedi bod yn yr ysbyty yn sgil torri ei glun. Mae David, sy'n gyn-ddarlithydd yng Ngholeg Technegol Casnewydd, yn aelod yng nghapel Hermon. Mae'r aelodau yno yn anfon eu cofion gorau ato. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Pamela Lewis, Heol Ynyswen. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i phriod, Brian, ei chwaer Elisabeth Evans a'i brawd, Gareth. Y siaradwr yng nghyfarfod mis Chwefror o Fudiad y Merched [W.I.] oedd Dean Poole, y ffotograffydd o Benygraig. Cafodd y Mudiad swper Gŵyl Dewi ddechrau Mawrth gyda Dave Ritchie, Treherbert, a'i ferch Lucy yn gyfrifol am yr adloniant. Cafodd yr aelodau hwyl yn gwrando arynynt yn cyflwyno caneuon o'r 60au a'r sioeau cerdd. Diolch i'r pwyllgor am drefnu'r noson.
Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i un o wŷr busnes amlycaf Treorci, Mr Dereck Davies. Trawyd Mr
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN
Y Pentre: MELISSA BINETFAUFEL
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Davies yn wael yn sydyn ac aethpwyd ag ef i Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr. Deallwn ei fod bellach yn Ysbyty Cwm Rhondda. Nos Lun, 20 Chwefror cynhaliodd Pwyllgor Canser UK Treorci cwis yn nhafarn y White Dragon. Fel arfer, Noel Henry oedd y cwisfeistr a chafodd pawb noson wrth eu bodd. Llwyddwyd i godi swm sylweddol at yr achos da hwn.
Pob dymuniad da am adferiad buan i Alun Gwyrfai Jones, un o aelodau ffyddlon Bethlehem ac mae eu ffrindiau yn Her-
PARHAD ar dudalen 8
5
BYD BOB
Sôn am ei brofiadau wrth chwarae rygbi yn Lloegr a Ffrainc y mae Bob Eynon y mis hwn
Mae pob actor yn breuddwydio am ennill Oscar ryw ddiwrnod, ac mae pob chwaraewr rygbi yn breuddwydio am ennill cap rhyngwladol. Roedd Richard Burton yn chwarae rygbi'n dda yn ei ieuenctid ac roedd yn actor arbennig am weddill ei fywyd. Ond enillodd e ddim Oscar na chap rhyngwladol chwaith. Yn ôl ei hunangofiant, roedd Burton yn hiraethu am y cap yn
fwy na'r Oscar. Rydw i â golwg byr iawn. Dyna pam chwaraeais i ddim rygbi yn yr ysgol. Ond pan es i'r brifysgol yn Llundain, fe benderfynais i brynu pâr o lensys cyffwrdd. Roeddwn i'n rhy brysur gyda fy astudiaethau i chwaraegemau, ond ar ôl gorffen y cwrs, fe laniais i yn Bedford yn athro ifanc. Cyn hir,fe ddes i nabod bachgen oedd yn chwarae rygbi dros un o dimau bach y dref. Fe ymunais i â nhw, ac i ffwrdd â ni mewn bws i chwarae yn erbyn trydydd tîm Bury St Edmunds. Yn gynnar yn y gêm, fe ges i fy llorio gan ganolwr enfawr a benderfynodd redeg yn syth ata i, yn lle chwilio am ffordd o'm cwmpas. Dydw i ddim yn cofio gweddill y gêm. Rai dyddiau'n ddiweddarach, fe gwrddais i â chapten y
tîm cyntaf oedd wedi teithio ar yr un bws â ni. "Wyt ti'n mynd i chwarae'r wythnos nesaf?" gofynnodd e. "Dydw i ddim yn meddwl." atebais i. "Roeddwn i'n anobeithiol."
"Does dim ots," meddai. "Fe arweiniaist ti'r canu'n fendigedig ar y ffordd adref!"
Ar ôl gadael Bedford, fe ges i swydd yn ne Ffrainc lle y chwaraeais i yn ail dîm tref o'r enw Rodez. [Roeddwn i yn yr ail dim oherwydd doedd dim trydydd tîm gyda nhw...] Pryd hynny, roedd Rodez yn chwarae yn nhrydedd adran ranbarthol Ffrainc a doedd neb wedi clywed amdanyn nhw. Ond ugain mlynedd yn ddiweddarach, fel Treorci, fe gyflawnon nhw freud-
dwyd a chodi i adran gyntaf y wlad. Fe dreuliais i flwyddyn yn eu hail dîm, ond rwy'n rhy wylaidd i sôn am fy rhan yn eu llwyddiant nhw. Pan ddes i nôl i Brydain, fe symudais i Gaerwynt, ger Southampton. Fe fwynheais i chwarae rygbi yno. Rwy'n gwybod ei bod yn gas gan lawer o'm ffrindiau Cymraeg glywed 'Swing Low, Sweet Chariot', yn ystod gêm ryngwladol, ond mae'n dod ag atgofion melys i fi. [Beth bynnag, mae'n emyn bendigedig hefyd.]
Gyda llaw, mae rhan ohonof iyn aros yn Lloegr o hyd - sef un o'm lensys cyffwrdd a gollais tra'n chwarae ar gae rygbi Andover yn 1967!
'POBOL Y RHONDDA' YN ÔL AR S4C - parhad o dud. 1 chroeso cynnes. Mae mwy o bobol yn dweud helo wrth Eira nawr, nac i fi! Mae hyd yn oed y dynion bins yn 'wafio' ati drwy'r ffenest.
Pa mor bwysig i ti yw ein bod ni'n adlewyrchu 'Rhondda go iawn yn y gyfres? Mae gan bobl sydd yn gweld y Rhondda o bellter, a byth yn mentro i'r cwm ei hun, weithiau agwedd negyddol tuag at y lle, ac mae'n bwysig adlewyrchu'r 'Rhondda go iawn'. Pa mor gryf yw Cymreictod a'r Gymraeg yn y Rhondda? Mae e lot cryfach na beth mae pobl yn feddwl. Dw i
6
'di gweld cynnydd yn y Gymraeg yn yr ardal, a dw i'n clywed mwy o Gymraeg yn cael ei siarad ers i'r gyfres gael ei darlledu gyntaf. Dw i'n credu bod y gyfres wedi agor fy llygaid, a fy nghlustiau i faint o Gymry Cymraeg sydd yn ein plith. Dw i wedi dod ar draws perchnogion siopau, gweithwyr o ddydd i ddydd a staff mewn tafarndai sydd yn siarad Cymraeg 'da'u cwsmeriaid. Dw i hefyd 'di clywed rhieni yn newid i'r Gymraeg gyda'u plant wrth i mi eu pasio yn y stryd. Falle taw'r gyfres sydd wedi 'neud hynny ond mae pethau bach fel hyn yn dod a gwên i'r wyneb. Yn y gyfres rwyt t'n cael tatŵ. Pam benderfynais di
gael tatw? Ro' n i wastad eisiau tatŵ ond doeddwn i byth yn gallu penderfynu ar ddyluniad, ond ar ôl i Eira gael ei geni penderfynais gael un â chysylltiad â hi.
Oedd e'n brifo? Gei di un arall? Oherwydd steil dotio'r tatŵ a ble ces i'r tatŵ, doedd e ddim yn brifo. Os ca’ i fwy o blant bydd rhaid i mi gael mwy o datws o ran tegwch iddyn nhw, ond bydd rhaid i mi feddwl am enwau fyddai'n 'neud dyluniad tatŵ da! Enwau fel 'Fflam' neu 'Taran!'
Beth yw'r peth gorau am y Rhondda? Y bobl, a'r ffaith nad ydym ni fyth yn darged ar gyfer terfysgwyr.
Pwy fu'r dylanwad mwyaf arnat ti? Fy nheulu. Mam am ganu, Dad am gelf a rygbi,
Mam-gu am goginio. A Wali Thomos am roi gwên ar fy wyneb! Beth yw dy waith di? A be wyt ti'n ei wneud yn dy amser sbâr? Ar hyn o bryd mae gen i saith swydd! - Tiwtor gweithdai creadigol gyda fy nghwmni CreaSion - Caricaturist priodasau a phartïau - Artists comisiwn - Athro cyflenwi - Canwr - Awdur - Oh, a chyflwynwr cyfres deledu! - Pan ga' i amser sbâr dwi'n hoffi darllen, sgetsho myfyrwyr ar University Challenge a chwarae dwli 'da Eira!
7
mon am anfon pob dymuniad da hefyd at Mrs Menna Smith, Mrs Ann Evans, Miss Barbara Hickerton a Mrs Betty Rees sydd i gyd wedi bod yn dost yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Treorci a'r Ysgol Gyfun ar gael eu rhoi yn yr ail fand [Melyn] yn yr ymarfer bandio ysgolion diweddar.
Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Mrs Elaine Lewis, Heol Cadwgan sydd newydd dderbyn llawdriniaeth.
Trefnwyd dwy noson i ddathlu Gŵyl Dewi yn High St Social gyda'r actores a'r gantores, Siân James yn darparu'r adlo-
8
niant. Ar y nos Sadwrn, cafodd hi gwmni Siôn Owen a gyflwynodd ganeuon addas i'r achlysur.
Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Josie Williams, Heol Gethin yn dilyn cyfnod hir o afiechyd. Roedd Josie yn adnabyddus yn yr ardal lle roedd hi ynghlwm â nifer o fudiadau gan gynnwys Victim Support a PACT. Roedd hi'n aelod yn eglwys Bethlehem.Tan ymddeol, bu'n gweithio yn y Gwasanaeth Sifil. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i phriod, Ray a ofalodd yn dyner amdani yn ystod ei chystudd hir.
Bethlehem oeddyn gyfrifol am drefnu Cwrdd Gweddi Chwio-
rydd y Byd eleni. ar 3 Mawrth. Llywyddwyd gan Mrs Anne Davies a chyfeiliwyd gan Mrs Janice Harris. Cymerwyd rhan gan aelodau'r eglwysi Cymraeg a chafwyd anerchiad gan Miss Eirwen Richards, Pen-y-bont ar Ogwr.
CWMPARC
Mynychodd Ysgol y Parc dwrnamaint athletau-dan-do RhCT ym mis Chwefror. Dim ond blwyddyn 6 oedd yn cystadlu, tra bod blwyddyn 3 i flwyddyn 5 yn mwynhau hwyl a sbri anghystadleuol. Mae blwyddyn 6 wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mis
Mawrth. Mae’r staff yn falch iawn ohonynt, ac o’r ymddigiad ardderchog a ddangoswyd. Pob lwc i'r Parc!
Hefyd ym mis Chwefror, chwaraeodd Ysgol y Parc yng ngystadleuaeth bêl-droed y clwstwr. Enillodd y tim A 1-0 yn erbyn Penyrenglyn, a 7-0 yn erbyn Pen-pych. Pob clod i Harry Williams a sgoriodd 4 gol. Chwaraoedd y tim B yn dda yn erbyn tim cryf o Dreorci, ond colli 1-0.
Mae disgyblion Blwyddyn 1 a 2 Ysgol y Parc wedi cynnal ‘priodas’ yn eglwys San Sior, Cwmparc. Maent yn dysgu am briodasau yn yr ysgol, a chawson nhw wahoddiad gan y Tad Philip Leyshon i ymweld â’r
Pentre. Daeth nifer ynghyd i glywed am y gweithgareddau sy yn yr arfaeth ac i gynnig syniadau. Roedd aelodau o bwyllgor Cymunedau'n Gyntaf a nifer o gynghorwyr i gefnogi'r fenter ac i ddymuno'n dda iddi.
Tad Philip Leyshon a disgyblion Ysgol y Parc
eglwys a chynnal ‘priodas’ yno. Yn eu plith roedd priodfab, priodferch, morynion priodas a gwesteion. Mwynheuodd pawb yn fawr iawn.
Mae Ysgol y Parc wedi prynu diffibriliwr, a gyflwynwyd i’r ysgol ar 2 Mawrth gan gynrychiolwraig Calonnau Cymru, elusen y galon dros Gymru. Esboniodd pennaeth yr ysgol, David Williams, bod arian wedi ei godi gan rieni a phlant a ddringodd mynydd Pen-y-Fan ym mis Tachwedd. Mae’r ysgol yn ddiolchgar iawn i riant o’r enw David Williams, a gafodd y syniad a threfnu’r daith. Os bydd rhywun yn cael trawiad ar y galon, gall diffibrilwyr gynyddu'r gobaith o oroesi. Darperir hyfforddiant i staff a disgyblion yn fuan, a bydd y diffibriliwr ar gael i staff, plant, rhieni ac aelodau’r gymuned. Mae’r pennaeth yn awyddus i bawb rannu’r newyddion
ymhlith eu cymdogion, ffrindiau a theuluoedd, er mwyn i bawb cael gwybodaeth am y diffibriliwr, rhag ofn y bydd ei angen ar rywun.
Y PENTRE
Da yw gweld gweithgareddau'n datblygu yng Nghanolfan Pentre. Bob dydd Llun rhwng 4.30 6p cynhelir Clwb Wedi'r Ysgol. Croeso i bawb ond rhaid i blant o dan 5 oed fod yng ngofal rhieni. Cynhelir grŵp Mam a Phram fore dydd Iau rhwng 9.30 - 11.30 a rhwng 6 - 8pm mae'r Clwb Ieuenctid yn cwrdd ar gyfer plant dros 10 oed. Os am ragor o wybodaeth, ffoniwch 773835 neu e-bostio jonathan@ValleysKids. org Nos Iau, 9 Chwefror, cynhaliodd Cymunedau'n Gyntaf noson i lawnsio'i waith yn ardal
Cynhaliwyd Cwrdd Gweddi Chwiorydd y Byd eleni ym mhencadlys Byddin yr Iachawdwriaeth, Stryd Carne. Cymerwyd rhan gan wragedd o holl eglwysi'r ardal, gan gynnwys eglwysi San Pedr a Sant Ioan, Hebron a'r Annibynwyr Saesneg, Ton Pentre a chapel Hope, Y Gelli.
TON PENTRE A GELLI
Ddydd Sadwrn, 25 Chwefror, cynhaliwyd achlysur codi arian gan Glwb Pêl-droed Ton Pentre. Y gwŷr gwadd oedd Chris Coleman, rheolwr tîm Cymru, ei ddirprwy, Kit Simons ac Ian Gwyn Hughes o Undeb Pêl-droed Cymru. Roedd y ddau yn ateb cwestiynau a rhoddwyd gan y sylwebydd Ian Gwyn Hughes ac wedyn o'r gynulleidfa. Atebon nhw'r cwestiynau gydag onestrwydd a hiwmor ac roedd pawb wrth eu bodd. Siaradon nhw am yr ymgyrch lwyddianus yn Ffrainc dros yr haf ac am yr her sy'n eu
hwynebu eleni. Darparwyd bwyd gan Crispy Cod ac roedd adloniant gan gôr Tenovus Pontypridd.
Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ Ddewi trwy ddod ynghyd i fwynhau cawl Cymreig, bara brith a phicau ar y ma'n gyda cwis ar thema Cymru, wedi ei baratoi gan Graham Davies John yn dilyn. Cafodd pawb amser da amawr yw eu diolch i bawb a fu wrthi'n trefnu. Cafwyd gwledd o ganu a dawnsio yn theatr y Ffenics pan berfformiwyd y sioe Cinderella gan Gwmni Theatr y Rhondda. Llongyfarchiadau i bawb ar safon y cynhyrchiad.
Da yw deall bod Mr Ray Wiltshire, Maendy Grove adref bellach ac yn gwella ar ôl bod am gyfnod yn yr ysbyty. Pob dymuniad da iddo am adferiad llwyr a buan.
Cafwyd nifer o brofedigaethau yn yr ardal yn ddiweddar. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i deuluoedd y canlynol: Mr P Morgan, Maendy Grove, Mr D. Wescombe, Stryd Parry a Mr A. Jones, Ton Row.
9
YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
YSGOLION
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Cymer yn croesawu’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC a Borobi, Masgot Gemau’r Gymanwlad 2018
Roeddwm yn falch iawn o gael estyn croeso i Kirsty Williams , Borobi, ac aelodau o Dîm Cymru i’r Cymer ar fore’r 10fed o Fawrth. Mae Borobi wrthi yn teithio Prydain Fawr yn codi ymwybyddiaeth o Gemau’r Gymanwlad 2018 sydd i’w cynnal yn Awstralia. Braint oedd cael y cyfle i Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru estyn croeso cynnes Cymreig iddo ar ei daith! Braint hefyd oedd cael Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison cwmni’r Gwenidog Addysg yn ein gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru hysgol.
10
Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
YMWELIAD CATHERINE FISHER AG YSGOL CYMER RHONDDA
YSGOLION
Adolygiad Olivia Williams, disgybl ym Mlwyddyn 7 Catherine Fisher
Yr wythnos diwethaf daeth yr awdur ffuglen ffantasi Catherine Fisher i'n hysgol i siarad am ei llyfrau ac fe wnes i fwynhau gwrando arni. Mae Catherine Fisher wedi ysgrifennu 33 o lyfrau ond yn fy marn i fy hoff lyfr siaradodd Catherine amdano oedd ‘Obsidian Mirror’. Roedd dun mewn marchnad a ffeindiodd e drych du wedi creu allan o obsidian gyda
YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA llythrennau arian o’i gwympas. Ond, roedd y drych ddim yn drych chi’n arfer defnyddio roedd y drych yn beiriant amser!
Siaradodd Catherine am sut roedd ei bywyd cyn iddi ddod yn awdur enwog a ba mor hir gymrodd i gyhoeddi ei llyfryn cyntaf. Dwedodd hi wrthym ni fod hi’n caru'r theatr a hoff lyfr hi yw’r ‘Lord Of The Rings’. Roedd hi wedi cael ei ysbrydoli gan y llyfrau ‘Alice in Wonderland’ oherwydd y 11
Catherine yn siarad â’r dosbarth
cymeriadau doniol ac unigryw. Mae ganddi hi lais tawel a charedig. Mae ei wallt yn llwyd ac yn fyr ac mae ganddi ddychymyg ardderchog!
Dywedodd Katherine bod ganddi hi ystafell arbennig a dim ond hi sydd yn ei defnyddio i ysgrifennu. Mae ganddi hi ddesg a llawer o lyfrau ar y silffoedd. Mae’n swnio fel le hyfryd i mi! Olivia Williams Blwyddyn 7