y gloran
NADOLIG LLAWEN I’N
20c
DARLLENWYR
golygyddol l
Merthyr er bod barn trwch y cynghowyr yn erbyn yr uniad. Dadleir na ddylem fod ar ein colled wrth yn rhy fach i Un o'r pynciau trafod uno, naill ai o safbddarparu'r holl mawr yn ystod y mis wynt safon wasanaethau angenaeth heibio yw uno gwasanaethau na awdurdodau lleol. Mae rheidiol yn effeithiol threth y Cyngor. Yn ein AC lleol, Leighton ac y dylent, felly uno â ogystal â Merthyr, holbwrdeistref arall. Ar y Andrews, Gweinidog wyd siroedd cyfagos llaw arall, dywedir bod Gwasanaethau Cymegis Caerdydd, awdurdodau bach yn hoeddus y LlyCaerffili a Phen-y-bont nes at y bobl maen wodraeth, wedi a fyddai ganddynt nhw'n eu gwasanaethu cyhoeddi bod gormod ddiddordeb, ond negyo awdurdodau gennym ac o'r herwydd yn ddol oedd yr ymateb. gallu bod yn fwy effeiyng Nghymru a bod Y mwyaf a ddaeth thiol. Does dim prawf gofyn inni gwtogi eu allan o'r trafodaethau bod unedau mawr yn nifer i 12 neu lai. Yn hyn oedd parodrwydd i wir, dywedodd fod rhai fwy effeithiol a gydweithredu i aelodau o'r Blaid Lafur chyfeirir at y ffaith bod ddarparu rhai yn dymuno gweld cyn awdurdodau gwledydd gwasanaethau. Sandanafia, sydd gylleied â 6/7 yn y pen Un ddadl o blaid da'r mwyaf effeithiol draw. Dadl rhai yw ymuno â Merthyr yw bod Birmingham sydd yn y byd, yn llai o bod ffiniau'r ddwy sir â mwy o boblogaeth na dipyn ar gyfartaledd yn cyfateb i ffiniau na'n hawdurdodau ni. Chymru yn gallu Bwrdd Iechyd Cwm Bygythiad Leighton gwneud y tro ag un Taf a'r Heddlu. Ar y Andrews yw y bydd yn cyngor tra bod gan llaw arall gwelir nad gorfodi awdurdodau i Gymru 22 yn ogystal oes llawer i'w ennill uno oni fyddant yn â'r Senedd yng Ngtrwy uno dwy sir gwneud hynny'n haerdydd! Dadleua gymharol dlawd gyda eraill fod awdurdodau wirfoddol. Ymatebodd thrigolion RhCT yn fel Merthyr a Blaenau rhai cynghorwyr yn eigweld Treth y Cyngor thaf chwyrn i'r byGwent, er enghraifft, yn codi. Fel y trydydd gythiad gydag ambell awdurdod mwyaf yng cyngor wedi datgan yn Nghymru dadleuir y barod ei fod yn ddigon gallai RhCT gyfiawnmawr a chryf i sefyll ar hau sefyll ar ei phen ei ei draed ei hun. Yn hun ac y byddai rhaid achos Rhondda Cynon bod rhesymau econoTaf, penmaidd a threfniadol Ariennir yn rhannol derfyncryf i gyfiawnhau ungan Lywodraeth Cymru wyd rhyw newid yn y drefn ymgyngArgraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison bresennol. A dyna lle hori â gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru rydyn ni ar y funud Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 2
y gloran
rhagfyr 2014
YN Y RHIFYN HWN
Bore Coffi...1 Golygyddol/...2 Ysbrydion y Nos ...3 Shelley/Stacey...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Cyfarchion Ein Gwleidyddion...6 Byd Bob ...7 Newyddion...8-10 Ysgolion...11 Bronllwyn, Cwmparc a Treorci..12
Diolch i Fferm Wynt Treorci am roi i'r Gloran grant o £1000 a hefyd i bawb a bleidleisiodd dros y papur hwn.
rhwng cynghorau sy'n anfodlon ystyried colli eu hanibyniaeth a gweinidog sy'n mynnu taw plygu i'w ddewis drefn e y bydd rhaid iddynt yn y diwedd. Gellir rhagweld brwydr ffyrnig yn y dyfodol ond fydd dim yn digwydd cyn sefydlu llywodraeth newydd yng Nghaerdydd yn 2016. O un peth gallwn fod yn sicr fydd pethau ddim yn aros fel y maent! Golygydd
YSBRYD[ION] Y NOS! [Y mis hwn mae ISLWYN JONES yn sôn am ei brofiadau'n pysgota gyda'r nos.]
Bûm yn sôn wrthych chi am bysgota â phluen yn ystod y nos ar Afon Teifi. Dros y blynyddoedd rwyf wedi gwneud llawer ohono. Mae bod ar yr afon yng nghefn gwlad ym mherfeddion nos yn brofiad tra gwahanol i bysgota yn ystod y dydd. ’Pam pysgota yn y tywyllwch?’, clywaf chi’n gofyn. Pan fo’r afon yn isel ar ol cyfnod sych yn yr haf, os am ddal sewin - pysgod swil iawn, y ffordd fwyaf effeithiol i’w dal yw mynd allan wedi iddi nosi a physgota â phluen. Teg dweud nad yw’r math yma o bysgota at ddant pawb, ond rhaid
imi gyfadde taw dyma fy hoff ffordd i o bysgota. Er nad ych chi’n gallu gweld llawer, mae’ch synhwyrau eraill, megis clyw a theimlad, yn llawer mwy effro. Hefyd ar rai adegau mae’ch isymwybod yn gallu chwarae triciau â chi. Mae’r afon yn oriau’r tywyllwch yn fan hollol wahanol wedi’i phoblogi gan greaduriaid y nos, ystlumod, tylluanod, moch daear a dwrgwn.Mae’r anifeiliaid yma wedi codi ofn arnaf yn eu tro ar fwy nag un achlysur dros y blynyddoedd ac mae’r straeon rwy ar fin eu hadrodd ichi yn HOLLOL wir - coeliwch fi. Yr Hen Felin Mae’r teitl yn sôn am ysbrydion.Ydych chi’n credu mewn ysbrydion?
Chwedloniaeth lwyr!’, meddech chi. Yng nghanol nos fel y fagddu yng ngefn gwlad Cymru - Sai’n siwr? Gwrandewch ar y stori hon a dewch i'ch casgliad eich hunan. Af i â chi nôl at ddiwedd y saithdegau. Rob, fy mrawd yng nghyfraith a minnau’n pysgota mewn man digon anghysbell islaw i Landysul o’r enw Alltcafan.Nawr mae Alltcafan yn enwog am dri pheth, ei phont,ei hen felin wlân - y fwyaf yn Nyffryn Teifi ar un adeg, a’r geunant fawr(Gorge) lle mae’ afon Teifi’n disgyn drwy ddyffryn serth a chreigiog. Dyna roddodd yr ynnu i’r olwyn fawr a droai’r hen felin ers talwm. Mae 'na gerdd enwog gan T Llew Jones yn disgrifio prydferthwch y lle. Ar y noson dan sylw, roedd pethe
eraill da Rob a fi ar ein meddyliau. Roedd haig o sewin da yn y pwll mawr a safai wrth ben y geunant yn gyfagos i’r Hen Felin islaw'r bont. Bu’r Hen Felin yn cyflogi llawer o drigolion y fro, a dreuliai oriau hir a blin yno. .Lle digon annymunol ydoedd lle gweithiai pobol o bob oed llawer ohonynt yn wragedd a phlant - am ychydig geiniogau. Allech ddim dechrau dychmygu eu caledi a’u tlodi yn yr uffern hon a fodolai ymhlith holl brydferthwch natur. Roedd y lle wedi bod ynghau am ddeugain mlynedd a llawer ohono’n prysur ddadfeilio. Dyna lle’r oedd yr hen adfail a’i ffenestri gweigion uwch ein pennau yn syllu’n farwaidd
drosodd
Shelley ReesOwen a Stacey
Ymunodd Shelley ReesOwen â chast 'Pobol y Cwm' yn 1993 i gymryd rhan Stacey, merch ysgol oedd yn aelod o deulu anarferol iawn. Roedd brawd Stacey, Marc wedi ymuno â'r gyfres ryw 6 mis ynghynt a llwyddo i wneud enw i'w hunan fel bachgen drwg iawn. Ond chwarae teg i Marc, roedd e'n dod o'r stabal iawn gan fod ei dad, Duff wedi bod yn y carchar eisoes. Merch ysgol oedd Stacey ar y pryd ac oes taw Marc oedd dafad ddu'r teulu, hi oedd y ddafad wen! Er gwaethaf hanes anffodus nifer o aelodau'r teulu, cafodd Shelley ei hun yn
YSBRYD Y NOS
parhad ar yr afon a’r ddau bysgotwr islaw. Ysbrydion? Roedd y noson honno yn un arbennig o dywyll fel bola buwch. Roedd fflachdorch 'da ni ond prin y byddem yn ei ddefnyddio rhag ofn cynhyrfu’r sewin swil. Bu Rob a minnau’n pysgota mewn tawelwch llwyr am hanner awr. Doedd 'na ddim yn cyf4
aelod o deulu hapus yn y bôn a chafodd gyfle i gymryd rhan mewn nifer o sefyllfaoedd oedd yn newydd i operâu sebon ar y pryd. Er enghraifft, tra oedd hi yn yr ysgol, cafodd Stacey berthynas ag athro - thema newydd mewn cyfresi sebon. Parhaodd y stem hon o actio am dair blynedd a dod i ben pan aeth Stacey i'r coleg.
Nôl yng Nghwm Deri Cafodd Shelley 'wyliau' am dair blynedd, ond pan oedd hi'n disgwyl ei merch, Lowri, dyma hi'n cael cynnig i ailymuno â'r gyfres. Erbyn hyn, roedd Duff wedi ennill arian mawr ar y loteri ac wedi prynu'r Deri Arms a Stacey ei hun wedi
fro ar yr afon. Dim sôn o sewin yn neidio, y coed o’n cwmpas yn dawel popeth fel y bedd. Yna ceson ni’r teimlad anesmwyth bod rhywrai yn ein gwylio, ond pwy? Roedd hen ffenestri gwag y felin wlân uwch ein pennau, a ninnau’n sydyn yn ofni troi, gymaint o’dd yr arswyd ym mêr ein hesgyrn.Tybiem bod wynebau gwelw’r plant, a’r hen bobol garpiog a diddannedd fu’n trigo yno yn gwasgu at
penderfynu dilyn gyrfa mewn busnes ac wedi prynu hanner siâr mewn bragdy. Ond doedd dim gobaith iddi gael bywyd tawel. Roedd hi wedi priodi ei hathro, Hywel Llywelyn, yn ifanc ond tra yn y coleg wedi dechrau perthynas arall a ddistrywiodd eu priodas. Ac nawr roedd pethau'n digwydd yn gyflym! Bu farw Duff, ei thad, ac roedd hi yn y cyfamser wedi priodi a Dave Marshall, gwerthwr cyffuriau - dihiryn os buodd un erioed - a dechrau perthynas oedd wedi ei dynghedu i fethu. Doedd bywyd Stacey byth yn ddiflas a chyn bo hir dyma hi nôl yn briod â Hywel Llywelyn am yr ail waith!
taw dyna un o'r pethau mwyaf werth chweil a ddigwyddodd iddi tra yn aelod o gast 'Pobol y
wydr toredig y ffenestri gwag. Rhedodd ias oer i lawr fy nghefn.Ai sgrech oedd honna? Roedd Rob yn ymwybodol o’r un teimladau â fi?. Neu ai dychymyg llwyr o’dd y cyfan? Trois i a Rob, oedd ychydig lathenni i ffwrdd, heb yngan gair troesom ar ein sodlau, stryffaglu i fyny’r lan drwy grafangau’r drain a mieri a deimlai fel dwylo anweledig yn ceisio’n tynnu at y felin. Dihangom mewn ychydig
funudau, a deimlai fel oes, nôl i bont,yr hewl-a diogelwch y car. Fel y dwedais, bûm i a Rob yn pysgota’n y nos am flynyddoedd ond cheson ni erioed y teimlad o arswyd ag y profon ni y noson honno. Bellach, dymchwelwyd cyfran helaeth o’r Hen Felin – a’i hysbrydion real neu afreal. Ond fe ddwedaf un peth wrthych chi - dyna’r tro olaf imi bysgota yn y fan honno - a Rob hefyd, o ran hynny!
Rookwood Yn y cyfnod hwn, digwyddodd damwain mewn car a bu Stacey yn gaeth i wely ysbyty am gyfnod hir. Dyna pryd y sefydlodd Shelley berthynas agos â staff Ysbyty Rookwood, Caerdydd a llwyddo i ddod â'r gwaith gwych a wneir yno i sylw'r cyhoedd. Llwyddwyd yn ogystal i godi arian at yr ysbyty a theimla Shelley
Cwm'. Ond mae popeth da yn dod i ben a thynged Stacey yn y pen draw oedd ymfudo i Seland Newydd i ddysgu Saesneg. A dyna ddiwedd perthynas Shelley â Stacey - neu dyna beth oedd hi'n ei gredu!
Eleni roedd 'Pobol y Cwm' yn dathlu ei deugeinfed pen-blwydd ac er syndod i bawb, dyma Stacey yn ailymddangos. Erbyn hyn roedd hi'n graig o arian, yn berchen ar nifer o westai yn Llundain. Yn wir, cyrhaeddodd hi Gwm Deri mewn Rolls Royce ysblennydd! Ond nid dyna'r syndod mwyaf yn y dathliadau gan fod Marc, y credai pawb ei fod wedi marw, yn troi lan yn ei angladd ei hun! Dyna fyd 'Pobol y Cwm', cyfres y cafodd Shelley Rees-Owen y fraint o fod yn rhan ohoni dros gyfnod hir iawn a chael ei hadnabod cymaint fel Stacey ag fel Shelley. Y tro nesaf, caiff gyfle i sôn am rai o'r bobl liwgar y daeth hi ar eu traws wrth ddilyn ei gyrfa. Tan hynny, Nadolig llawen ichi i gyd.
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Cyn -fachwr Cymru Garin Jenkins oedd y gŵr gwadd ym mharti dathlu pen-blwydd Clwb Rygbi Treherbert yn 140 mlwydd oed. Rhoddodd anerchiad diddorol iawn a chafwyd llawer o drafodaeth o’r gynulleidfa ynglŷn â dirgelion y rheng flaen. Y prif bwynt a wnaed gan yr aelodau oedd yr angen i newid y rheolau presennol sydd yn arafu’r gem. Cafwyd anerchiad hefyd gan cyn lywydd yr Undeb Rygbi, Mr Des Barnet a amlinellodd hanes y clwb dros y 140 mlynedd. Hefyd yn siarad roedd ein Aelod Seneddol, Mr Chris Bryant a soniodd am ei brofiad o chwarae rygbi yn nhim Tŷ'r Cyffredin. Roedd y noson dan ofal llywydd y clwb, Mr Vic Townsend. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i adeiladu safle ailgylchu newydd wrth gae'r Baglan. Caewyd safle ailgylchu penuchaf y Cwm yn Fordd y Fynwent, Treorci yn ddisymwyth 5 mlynedd
yn ôl. Ers hynny bu rhaid trafaelu i safle Nant y Gwyddon, y Gelli, neu mor bell â Dinas am wasanath cynhwysfawr. Mae angen mawr am safle arall achos mae’r cyngor wedi methu cyrraedd ei dargedau ailgylchu am nifer o flynyddoedd Mae'n flin cofnodi mawolaeth Mrs Marilyn Morgan, gynt o Dynewydd, a oedd yn byw ers amser yn Adare Terrace Treorci. Dechreuodd Marilyn ei gyrfa fel triniwr gwallt yn siop drin gwallt Glenys Barrett yn Bute St Treherbert. Cynhaliwd y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Carmel a oedd dan ei sang. Cydymdeimlwn a’i gwr Gareth, ei mab Rhys a’r holl deulu yn eu profedigaith. Cynhelir gwasanaeth carolau dan olau canhwyllau yn nghapel Blaenycwm ar y 14ed o Rhagfyr am 6 o’r gloch. Bydd y gwasanaeth dan ofal y Capten Ralph Upton a bydd itemau gan ddisgyblion Ysgol Penpych.. Croeso cynnes i bawb. Mae siop pysgod a sglodion A Fish Called Rhondda Treherbert
wedi ei ailwampio a newid ei enw i Good Pie Mr Chips. Mae’r siop wedi ei throsglwyddo gan Leighton Jones i’w fab Gareth. Pob lwc iddo yn ei fenter.
TREORCI
Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Mairona Jones, Y Stryd Fawr a hithau'n 95 oed. Bu Mrs Jones yn weithgar yn yr ardal, yn aelod yn Hermon ac wedyn Bethlehem a hefyd yn weithgar gyda'r Pwyllgor Ymchwil i Ganser lleol. Cydymdeimlwn â'i meibion David a Huw a'u teuluoedd yn eu colled. Ddiwedd Tachwedd, aeth aelodau'r WI i Abbey Cwm Hir lle y claddwyd Llywelyn ap Gruffudd. Cafodd pawb ddiwrnod wrth eu bodd ac am ddiolch yn fawr i Anna Brown oedd wedi llwyddo i gael arian gan y loteri i dalu am y cyfan.
Nos Wener, 14 Tachwedd, cynhaliodd Plaid Cymru noson o adloniant yny Clwb Rygbi gyda nifer o aelodau ifainc a'u ffrindiau'n darparu'r ad-
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN loniant. Cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil i Ganser, Treorci noson goffi lwyddiannus yn Neuadd San Matthew, nos Iau 20 Tachwedd. Darparwyd yr adloniant gan gôr 'Croeso' o Aberdâr, ensemble o ddynion a gyflwynodd raglen amrywiol o gerddoriaeth. Mae'r Pwyllgor am ddiolch i bawb a gefnogodd yr achlysur am eu haelioni arferol a sicrhaodd elw o dros £600 at yr achos teilwng hwn. Ar ôl dioddef cystudd hir, roedd yn flin gan bawb glywed am farwolath David Roberts, Stryd Fawr. Roedd David yn adnabyddus ac yn boblogaidd yn y dref,
PARHAD ar dudalen 8
5
N O I H C R A F CY
R O M Y TY LEANNE
leanne.wood@cynulliad.cymru 0300 200 7202
N O I H C R A F CY
R O M Y TY JILL
campaigns@jillevans.net 01443 441395
N O I H C R A F CY
R O M Y TY LEIGHTON
LEIGHTON.ANDREWS@cynulliad.cymru 01443 682550
BYD BOB
[Oes arwyddion sy'n rhagfynegi ein ffawd? Dyna gwestiwn Bob y mis 'ma. A'i ateb? Wel, oes ac nac oes!]
Yn gynharach eleni, fe es i ar drip bws o dafarn y Griffin i Gaerfyrddin. Roedd rhai ar y bws yn mynd i weld y rasys ceffylau ond fe arhosais i yn y dref gyda dau ffrind, Jeff Davies a Phil Davies o'r Pentre. Yn y bore, fe ymwelon ni ag oriel
gelfyddyd ddiddorol. Mae Jeff a Phil yn dwli ar bethau fel 'na, ond fe dreuliais i ran o'r bore yn crwydro'r gerddi hyfryd o gwmpas yr oriel. Wedyn, fe aethon ni i mewn i'r hen abaty, sydd yn urddasol iawn. Yn y cyfamser, roeddwn i'n ysgrifennu cardiau post i'w hanfon at ffrindiau yng Nghaerdydd a Llundain. Roedd Phil yn awyddus i ddod o hyd i siop fetio, achos ei fod e wedi bod yn astudio'r ceffylau yn y papur newydd yn ystod y daith ar y bws. Ond roeddwn i am ddod o hyd i flwch post er mwyn anfon y cardiau i ffwrdd ar unwaith. "Fydda i ddim yn hir," dywedais i, ond roedd rhaid i Phil a Jeff fy nilyn i 'n么l ac ymlaen trwy strydoedd y dref am ugain munud o leiaf cyn dod o hyd i flwch post. Chwarae teg i'r ddau fachgen, chwynon nhw ddim, ond fe ruthrodd Phil i mewn i'r siop fetio jyst cyn i'r ras gyntaf ddechrau.
Yna, tra oedd Jeff a minnau'n disgwyl o flaen y siop, fe ddaeth dwy ferch bert iawn heibio gan siarad yn gyflym yn Sbaeneg neu Eidaleg. Fe ddaeth syniad i fi. "Jeff," dywedais i, "Rwy'n mynd i weld a oes ceffyl ag enw Sbaeneg neu Eidaleg yn rhedeg heddiw. Efallai bydd y ddwy ferch 'na yn dod 芒 lwc i fi." Roedd rhestrau o'r rasys ar bob wal yn y siop. Ar ben un o'r rhestrau, fe welais i'r enw RED PERDITA. "Mae yn arwydd!" meddyliais i, ac fe fetiais i bum punt ar y ceffyl heb betruso. Ar ddiwedd y prynhawn, fe aeth Phil i mewn i'r siop fetio eto i weld a oedd rhai o'i geffylau wedi ennill. Pan ddaeth e allan, fe ddywedodd wrtho i, "Fe gollodd RED PERDITA, Bob. Fe ddylet ti fod wedi edrych ar enwau'r ceffylau eraill yn y ras 'na. Enillydd y ras oedd ceffyl o'r enw PILLAR BOX..."
yn gymeriad lliwgar ym mhob ffordd oedd yn hoff o gynnal sgwrs â phawb. Hanai o deulu a adnabyddid fel Davies Aberaeron oedd yn enwog am wisgo'n smart bob amser. Cynhaliodd David y traddodiad hwnnw - bob amser yn drwsiadus ac yn lliwgar. Gweithiodd am flynyddoedd yn werthwr tai gyda chwmni John Thomas ac yn ei ieuenctid bu'n actio dipyn gyda chwmni drama Hermon a chwmni opera Madam Danford George. Cydymdeimlwn â'i weddw, Enid a'i blant Heather ac Andrew yn eu colled.
Trist hefyd oedd clywed am farwolaeth Sheila White, Stryd Stuart a Mrs Olive Jones, Stryd Dumfries.. Bu Sheila'n aelod selog o'r Eglwys Babyddol a hefyd Bwyllgor Ymchwil i Canser UK Treorci. Cydymdeimlwn â'i phedawr
8
plentyn a'i chwaer, Mrs Val Green, Stryd Dumfries. Roedd Mrs Jones yn weddw i'r diweddar Gynghorydd Haydn Jones ac yn aelod selog yn Eglwys San Matthew. Bu'n dioddef afiechyd am rai blynyddoedd. Cydymdeimlwn â'r teulu a'i ffrindiau yn eu profedigaeth. Anfown bob dymuniad da i Mrs Mariel Evans, Tan-y-fron sy'n dathlu pen-blwydd arbennig y mis hwn. llongyfarchiadau a phob hapusrwydd i'r dyfodol. Mae ei ffrindiau a'i gymdogion am anfon eu dymuniad am bob cysur a bendith i Tom Hughes, Stryd Dumfries sy'n gaeth i'w gartref a hefyd i'w briod, Ellen sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty yn dilyn cwymp.
Mae mis arbennig o brysur o flaen aelodau cør Sefydliad y Merched [W.I.] a fydd yn
cyflwyno rhaglen o garolau i breswylwyr cartrefi gofal Ystradfechan a Phentwyn. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn noson o ganu carolau yng Ngharmel, Treherbert, nos Wener, 6 Rhagfyr. Yn olaf, nos Fercher, 18 Rhagfyr am 7 p.m. bydd y cør yn cynnal gwasanaeth o garolau a darlleniadau yn Eglwys San Matthew. Croeso i bawb. Bydd Ysgol Gynradd Treorci yn cynnal ei chyngerdd Nadolig yn Eglwys San Pedr, Y Pentre, nos Fercher, 10 Rhagfyr am 7 p.m.
Ddydd Iau, 6 Rhagfyr, cafodd aelodau Clwb Henoed Treorci gyfle i ddechrau eu siopa Nadolig pan aethon nhw i Cheltenham am y diwrnod. Cafodd pawb amser da yno ac ar y dydd Llun canlynol cafwyd achlysur pleserus
arall wrth i bawb eistedd i lawr i fwynhau cinio Nadolig cynnar yn Neuadd y Dderwen.
CWMPARC
Pob dymuniad da i Mr a Mrs Anthony Forteath sy'n symud o Railway Terrace i South Shields i fod yn nes at dylwyth. Daeth y ddau yma o ddeddwyrain Lloegr rai blynyddoedd yn ôl ac wedi profi i fod yn gymdogion da yn eu cynefin newydd. Pob hapusrwydd iddynt yn eu cartref newydd. Roedd yn ddrwg gennym glywed am farwolaeth Mr Elwyn Jenkins, Heol y Parc. Roedd Elwyn, a drigai yn Stryd Regent, Treorci cyn symud i Gwmparc, yn athro wrth ei alwedigaeth. Ymddiddorai'n fawr yn y Gymraeg a dysgodd yr iaith yn oedolyn. Roedd yn ŵr addfwyn, bonheddig y
gwelir ei eisiau'n fawr. Cydymdeimlwn â'r teulu yn eu profedigaeth. Yn dilyn cystudd hir ac anodd, tristwch oedd clywed hefyn am farwolaeth Elisabeth Jones [Lloyd gynt], un a faged yn Stryd Tallis cyn symud i ardal Tonteg. Dysgodd Elisabeth yn Ysgol Gymraeg Ynyswen cyn mynd yn ddirprwy brifathrawes i Ysgol Gynradd Treorci. Cydymdeimlwn â'i gŵr, David a'i brawd David Lloyd yn eu colled. Bydd Gwyl Coed Nadolig yn Eglwys San Siôr o ddydd Llun, 15 Rhagfyr - dydd Mercher 17 Rhagfyr, rhwng 10a.m. - 4p.m. Bydd gwasanaeth arbennig ar y dydd Mercher am 6 o'r gloch, gydag Archesgob Cymru, Dr. Barry Mor-
gan. Mynediad £2 yr un, 50p plant - £5 i deuluoedd â phlant. Bydd lluniaeth ar gael.
Bydd cinio Nadolig ar gael yng Nghaffi Neuadd y Parc, Cwmparc rhwng 17 a 23 Rhagfyr. 1 cwrs £4.50, 2 gwrs, £5.50, 3 chwrs £7.50. Mae'r caffi yn boblogaidd iawn yn y pentref, felly rhaid bwcio ar 772044.
Cafodd grwp Henoed Cwmparc drêt ar y 12 Tachwedd, pan aeth band pres Ysgol y Parc i chwarae iddyn nhw yn neuadd Eglwys San Siôr. Cyflwynodd yr arweinydd, Tom Hutchinson, yr offer i'r gynulleidfa, gydag esboniaeth sut i chwythu a gwneud sŵn derbyniol ar bob offeryn.
Chwaraeodd y band sawl alaw a chwaraeodd Noah Pugh, 10 eod, The Last Post ar ei gornet (Gweler clawr cefn y papur am lun y band yn chwarae a chlawr blaen am lun Bore Coffi yn Neuadd y Parc)
Y PENTRE
Bydd Mabel Mathews a Hannah Phillips, Tŷ'r Pentre yn dathlu eu pen blwydd y mis hwn. Bydd Mabel yn 93 a Hannah yn 82. llongyfarchiadau a phob dymuniad da i'r dyfodol i'r ddwy. Roedd yn flin gan bawb yn Llys Nazareth dderbyn y newyddion am farwolaeth Jane Evans. Yn ddiweddar, dathlodd Jane ei phen blwydd yn 100 oed a gwelir ei heisiau'n fawr gan bawb oedd
yn ei hadnabod. Cydymdeimlwn â'i ffrindiau a'i theulu. Dau sy'n dathlu pen blwydd yn Llys Siloh y mis hwn yw Iris a Gareth Edwards. Gobeithio y cânt ddiwrnod i'w gofio a phob hapusrwydd yn y flwyddyn i ddod. Cofiwch y bydd gwasanaeth Nadolig yn y Citadel fore Nadolig am !0.30. Dewch i ddathlu'r Ŵyl yn y ffordd orau bosib. Croeso i bawb. Mae aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth am longyfarch Olivia Jones ar lwyddo yn ei haroliad piano gradd 3 gan ennill clod. Dalia ati, Olivia! Mae Co-op Bwyd yn cael ei gynnal yn y Citadel am 9.30 bob bore dydd Mercher. Galwch heibio os ydych chi eisiau help neu eisiau
9
helpu. Gallwch gael mwy o fanylion trwy ffonio 436833.
TON PENTRE A GELLI
Mae Canolfan Gymdeithasol Ton a'r Gelli yn Dinam Parc Avenue nawr ar gael at ddigwyddiadau cymdeithasol fel cyfarfodydd neu bartion pen blwydd. Cynhelir dosbarthiadau yno hefyd. Am fwy o fanylion ewch i www.tonandgellicommuntycentre.co.uk Cafodd preswylwyr Tŷ Ddewi gyngerdd o gerddoriaeth dymhorol yn ddiweddar yng nghwmni'r côr lleol, 'Faith, Hope and Harmony'. O dan arweiniad Faith Griffiths a gyda chyfeiliant Malcolm Picken, cyflwynwyd detholiad o garolau a oedd wrth fodd y gynulleidfa. Cafwyd eitemau yn ogystal ar y cornet gan Erin Goodwin. Mae preswylwyr Tŷ Ddewi yn ddyledus iawn i'r côr am eu hymweliadau cyson â'r cartref. Bu peth gofid yn ddiweddar y byddai'r Papur Llafar a gynhyrchir ar gyfer y deillion yn gorfod dod i ben oherwydd diffyg gwirfoddolwyr i gymryd at y gwaith recordio. Trwy dru10
garedd, mae'r sefyllfa wedi gwella a bydd y papur, sy'n cael ei gynhyrchu yn Theatr y Ffenics, yn dal i ymddangos yn y flwyddyn newydd. Bu'r papur yn ymddangos dros y 25 mlynedd diwethaf ac fe'i gwerthfawrogir yn fawr gan ddeillion yr ardal. Yn anffodus, bydd sylfaenydd y fenter, John Hingutt, sydd hefyn yn gweithredu fel cadeirydd, yn ymddeol eleni ond yn ôl llefarydd ar ran y fenter, Martin Nagle, mae'r aelodau yn hyderus y bydd y gwaith pwysig a ddechreuwyd gan John yn parhau i'r dyfodol.
NADOLIG
LLAWEN
Yn ddiweddar cynhaliodd cyn-aelodau clybiau bechgyn Treorci a Phenygraig eu haduniad blynyddol. Roedd pawb oedd yn bresennol yn flin bod un a oedd y ffyddlon i'r cy-
farfodydd, John Loney, wedi marw yn ystod y flwyddyn.
YSGOL GYNRADD GYMRAEG
BRONLLWYN
Cawsom gala gwych ar fore Dydd Mercher Tachwedd y 12fed, ein gala gorau erioed. Cystadlodd disgyblion yr Adran Iau yn wych Dyma ein canlyniadau : 1. Tyler Davies 2ail Bl 3 a 4 25m Rhydd 2. Rhys Jones 3ydd Bl 3 a 4 25m Rhydd 3. Ffion Davies 1af Bl 3 a 4 25m Rhydd 4. Lexî Hill 2ail Bl 3 a 4 25m Rhydd 5. Rhys Jones 2 ail Bl 3 a 4 25m Broga 6. Lily Williams 1af Bl 3 a 4 25m Broga 7. Tyler Davies 2ail
Bl 3 a 4 25m Cefn 8. Celyn Gowen 3ydd Bl 3 a 4 25m Cefn 9. Ffion Davies 1af Bl 3 a 4 25m Cefn 10. Lily Williams 1af Bl 3 a 4 25m Pili Pala 11. Lois Perham 3ydd Bl 5 a 6 50m Pili Pala 12. Lois Perham 1af Bl 5 a 6 50m Cymysg Unigol 13. Tim cyfnewid rhydd Bl 3 a 4 bechgyn 1af –Tyler Davies, Rhys Jones, Celyn Gowen ac Euan Harding. 14. Tim cyfnewid rhydd Bl 3 a 4 merched 1af –Lily Williams, Ffion Davies, Seren
YSGOLION
Jenkins a Lexî Hill 15. Tim cyfnewid cymysg Bl 3 a 4 bechgyn 2ail – Tyler Davies, Rhys Jones, Celyn Gowen ac Euan Harding. 16. Tim cyfnewid cymysg Bl 3 a 4 merched 1af – Lily Williams, Ffion Davies, Seren Jenkins a Lexî Hill. 17. Tim cyfnewid cymysg Bl 5 a 6 merched 3ydd –Hannah
YSGOLION
Llwyddiannau Gala’r Urdd
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Baker, Lowri Griffiths, Lois Perham a Celyn Jenkins Bydd 8 cystadleuaeth yn mynd trwyddo i`r rownd derfynol yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.
NADOLI G LLAWELING NADO
N E W A LL
11
YSGOL GYFUN TREORCI
SXTO gan Arad Goch
Ar y 12fed o fis Tachwedd, cafodd ddisgyblion blynyddoedd 9-13 sy’n astudio’r Gymraeg ar gyfer y cwrs Uwch, Uwch gyfrannol a TGAU yn Ysgol Gyfun Treorci y cyfle i weld y cynhyrchiad cyffrous SXTO gan gwmni Arad Goch. Cynhyrchiad the-
atrig ac heriol yn delio gydag effeithiau Sextio ymysg pobl ifanc. Mae danfon lluniau rhwng cariadon yn creu pob math o broblemau i un o’r cymeriadau, sef Lowri. Cafodd y lluniau eu dosbarthu a’u gwneud yn gyhoeddus ac arweinodd hyn at bob math o
fwlio a bychanu gan ffrindiau a chyd ddisgyblion. Mwynheuodd y disgyblion yn fawr iawn yn enwedig yr actio bywiog gan y pedwar actor ifanc. Roeddynt yn gallu uniaethu gyda’r testun yn y ddrama onest a chignoeth yma sy’n perthyn
yn llwyr i’r ganrif hon. Mae’r Adran yn hynod o ddiochgar i gwmni Arad Goch ac i Bethan Gwanas am ei sgriptio real. Braf oedd gweld cynifer o bobl ifanc o Dreorci a Llanishen yn llenwi’r Neuadd ac roeddynt yn amlwg wedi mwynhau’n fawr.
BAND PRES YSGOL GYNRADD Y PARC yn perfformio yn Neuadd yr Eglwys - gweler Newyddion Cwmparc