y gloran
20c
NADOLIG LLAWEN I’N DARLLENWYR
golygyddol Yn ystod y cyfnod diweddar, mae arwyddocâd y Nadolig wedi newid yn sylfaenol i'r rhan fwyaf o bobl. Mae'r Ŵyl i ddathlu geni Iesu Grist wedi troi yn esgus i loddesta a siopa ar raddfa enfawr. Dyma'r adeg o'r flwyddyn y bydd yr archfarchnadoedd, y siopau a'r cwmnïau sy'n masnachu ar y We i gyd yn gobeithio gwneud elw mawr a bydd llwyddiant ariannol eu blwyddyn yn dibynnu i raddau helaeth ar werthiant cyfnod y Nadolig. Am wahanol resymau, gwelsom nifer y siopau
2
bach a nodweddai ein prif strydoedd yn y Rhondda yn lleihau gan golli allan i'r archfarchnadoedd a'r We. O ganlyniad, mae canol ein trefi yn llai llewyrchus ac yn llai lliwgar a diddorol. Wrth gwrs, mae ambell eithriad. Llwyddodd Treorci i gadw stryd fawr amrywiol a ffyniannus hyd yn hyn, a hir y parhaer hynny. Da hefyd yw gallu adrodd am bobl ifanc yn mentro ar agor busnesau newydd, fel y gwnawn yn y rhifyn hwn, ond mae llwyddiant eu mentrau yn dibynnu'n llwyr ar ein cefnogaeth ni, y
cyhoedd. Mae hi mor hawdd picio i mewn i archfarchnad lle y gallwch brynu eich holl anghenion o dan yr un to heb orfod talu am barcio, neu gallwch bwyso botwm ar eich cyfrifiadur a chael nwyddau i'ch cartref heb orfod symud o'r fan. Ond os na chefnogwn ein busnesau lleol byddwn i gyd ar ei colled yn y pen draw ac yn llwyr ar drugaredd cwmnïau mawr rhyngwladol nad ydynt yn cyfrannu fawr ddim i'n cymunedau lleol. Felly, y Nadolig hwn, wrth brynu bwyd, cardiau ac anrhegion, da chi, cofiwch am eich siopau lleol. Mae'r cyfnod hwn o siopa gwyllt yn gyfle i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod yr ardal, y crefftwyr a'u busnesau bychain a'r siopau lleol sy'n gorfod cystadlu am gwsmeriaid yn erbyn y sefydliadau
y gloran
rhagfyr 2016
YN Y RHIFYN HWN
Nadolig ar y ffordd...1 Golygyddol/...2 Elizabeth a Catherine...3 Leanne a Jill..4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Englynion...6 Byd Bob...7 Neges y Nadolig...7 Newyddion...8-9 Ysgolion...10/11 Bois y Lion yn codi’r Goeden...12.
masnachol mwy dinesig ac â'r We. Wrth ofyn am eich cefnogaeth ymarferol, dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda a thangnefeddus i'n holl ddarllenwyr a 2017 lwyddiannus i Gwm Rhondda..
Golygydd
BLODAU! BLODAU! BLODAU!
MENTER NEWYDD YN Y PENTRE
Elizabeth Bowen, 4 oed, Heol Conwy, Cwmparc gyda Siôn Corn yn Ffair Nadolig Eglwys San Siôr, Cwmparc.
Ers dechrau mis Tachwedd, Catherine Greenslade o Dreherbert yw perchennog newydd siop flodau Expressions yn Heol Ystrad, Pentre. Roedd Catherine, sy'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gymraeg Ynyswen, yn athrawes gynorthwyol yn ysgol Penpych, Blaenrhondda ond penderfynodd gael newid. Bu ganddi ddiddordeb mawr erioed mewn blodau a phan welodd fod siop Expressions ar werth daeth awydd arni i fentro i faes newydd. Mae hi'n dal i weld eisiau'r plant ond yn graddol ymgartrefu yn ei byd newydd. Am rai wythnosau o fis Medi ymlaen cafodd gyfle i weithio gyda Carol Thatcher, cynberchennog y siop a dysgu mwy am y busnes. Oddi ar ddechrau mis Tachwedd, hi yn unig sy wedi bod â gofal y siop er ei bod yn cael help yn ôl y galw gan ei mam a'i merch, Emily sy'n gorffen cwrs gradd mewn Cymraeg ac Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd eleni. Yn ogystal â blodau, mae modd prynu amrywiaeth o anrhegion yn Expressions, ac, wrth gwrs, gallwch archebu blodau ar gyfer pob math o achlysuron teuluol fel partïon, penblwyddi a phriodasau. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar weplyfr (facebook), dan Expressions-Florist ac ar Instagram dan Expressionsf. Y rhif ffôn yw (01443) 442566. Yn barod, cynhaliwyd noson agored i ddathlu agor y busnes newydd a galwodd ein Haelod Cynulliad, Leanne Wood, heibio, ynghyd â'r cynghorwyr lleol, Shelley Rees-Owen a Maureen Weaver i ddymuno'n dda i fenter newydd Catherine. Mae'r Gloran hefyd yn dymuno pob llwyddiant iddi i'r dyfodol. Da yw gweld Cymry ifanc yn mentro i faes busnes.
3
YMA I’CH HELPU CHI N O I H C R A F CY OR
M Y T Y
LEANNE
JILL
leanne.wood@cynulliad.cymru 01443 681420
campaigns@jillevans.net 01443 441395
4
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Os oes gennych £150,000 i'w sbario, pam na phrynwch chi hen safle pwll glo Fernhill. Bydd y safle 206 erw y cael ei werthu ar 14 Rhag yn y Village Hotel, Caerdydd. Caewyd pwll Fernhill yn 1982 ac ers hynny bu sawl ymdrech i'w ddatblygu gan gynnwys parc cowbois.
Nos Wener,2 Rhagfyr cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yn Carmel gyda'r elw yn mynd at Dŷ Hafan. Cymerwyd rhan gan Gôr WI Treorci, Côr Ysgol Penyrenglyn a chafwyd eitemau a darlleniadau gan nifer o unigolion.
TREORCI
Mae ei ffrindiau yn y WI yn dymuno gwellhad llwyr a buan i Mrs Margaret Harries, Heol Ynyswen a gwympodd a thorri ei hysgwydd yn
ddiweddar.
Pob dymuniad da i Mrs Margaret Haskins, Y Stryd Fawr, sydd wedi ymgartrefu yng nghartref gofal Pentwyn ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty.
Nos Iau, 1 Rhagfyr, roedd aelodau WI Treorci yn dathlu 25 mlynedd er sefydlu'r gangen trwy gynnal bwffe arbennig yn Neuadd y Dderwen. Cafwyd adloniant cerddorol yng nghwmni'r Four Just Men.
Bydd côr y WI o dan arweiniad Mary Price yn brysur iawn dros gyfnod yr Ŵyl. Yn ogystal â difyrru cleifion Ysbyty George Thomas byddan nhw hefyd yn ymddangos yn Carmel, Treherbert, Eglwys San Mattew, Treorci a chapel Hope, Y Gelli.
Ddiwedd mis Tachwedd, cynhaliodd Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg arwerthiant o waith yr aelodau yn eu pencadlys, Neuadd Abergorci. Mae'n siwr y bydd rhywrai yn derbyn anrhegion Nadolig gwerth eu cael.
Pob dymuniad da am wellhad buan i Mrs Betty Hughes, Heol y Fynwent sydd ddim wedi bod yn dda iawn yn ddiweddar. Longyfarchiadau i John Griffiths, Heol Gethin, sydd newydd dathlu penblwydd arbennig. Mae John yn gyn-brifathro Ysgol Penyrenglyn ac yn weithgar iawn yn eglwys y Brodyr Plymouth. Pob dymuniad da iddo i'r dyfodol. Y gitarydd adnabyddus o'r Alban, Jim Mullen oedd yr artist gwadd yng nghyfarfod mis Tachwedd o Rhondda Jazz, nos Fawrth, 15 Tach.. Cafodd pawb amser da yn ei gwmni.
Cynhaliodd Menter Rhondda Cynon Taf Barti Nadolid brynhawn dydd Sul, 4 Rhagfyr yn y Lion. Roedd Siøn Corn yno yn ei ogof yn anrhegu plant ac roedd gwahanol fathau o adloniant ar gael i hen ac ifanc yn ddiwahân rhagflas ardderchog o hwyl yr Ŵyl. Ddydd Llun, 12 Rhagfyr bydd Radio Rhondda yn
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN
Y Pentre: MELISSA BINETFAUFEL
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN cynnal dawns a bwffe yng Nghlwb Rygbi Treorci rhwng 2-6pm. Dewch i fwynhau prynhawn o gymdeithasu a hwyl.
Y siaradwr yng nghyfarfod mis Tachwedd o'r Gymdeithas Gymraeg oedd Wil Morus Jones (Pontypridd), sylfaenydd mudiad BanglaCymru. Pwrpas y mudiad hwn yw helpu plant tlawd Bangladesh sy'n dioddef o wefus hollt a thaflod hollt i gael llawdriniaeth. Dangoswyd lluniau o'r plant hyn cyn ac ar ôl derbyn llawdriniaeth a gwelwyd bod y gwahaniaeth a wnaed i'w bywydau'n anferth.
PARHAD ar dudalen 8
5
ENGLYNION CWM RHONDDA - 5
Gŵr o'r Rhondda a ddylanwadodd yn fawr ar ffurf yr englyn yn y ganrif ddiwethaf oedd T. Arfon Williams [1935 98]. Daeth â ffresni i hen ffurf trwy ddatblygu englynion un frawddeg a lifai'n llyfn o'r dechrau i'r diwedd. Fe'i ganed yn Nhreherbert aderbyniodd
ei addysg yn Ysgol y Bechgyn, Y Porth cyn mynd ymlaen i ymgymhwyso'n ddeintydd yn Llundain. Dychwelodd i'r Rhondda yn y chwedegau yn ddeintydd ysgolion ac ymgartrefodd yn Nhreorci gyda'i wraig, Einir. Roedd ei ffydd Gristnogol yn
bwysig iddo a chafodd ei ethol yn llywydd Undeb yr Annibynwyr. Does dim rhyfedd felly iddo gyfansoddi llawer o englynion crefyddol gan gynnwys y rhai hyfryd i'r nadolig a gyhoeddir yn y rhifyn hwn o'r Gloran.
YMSON MAIR WRTH Y CRUD Heno datgelwyd i minnau - paham Mor fwyn ydyw'r wên ar wyneb ein Duw; Y mae pen y bryniau Mae'n dalp o anwyldeb, Oll yn oll yn llawenhau Yn gariad er nad oes neb Mae'r achos yn fy mreichiau. Yn brysio at ei breseb.
Gyda'n cartrefi'n ganolbwynt y Nadolig i'r rhan fwyaf ohonom, dyma feddyliau'r Parch Ivor Rees a ninnau ar drothwy'r Ŵyl. Bûm mewn darlith am hoff ganeuon un o deuluoedd tirfeddiannol Gŵyr yn ddiweddar. Yn ystod y ddarlith cawsom gyfle i wrando ar Madam Patti yn canu “There’s no place like home” a’i neges
6
NEGES Y NADOLIG
yn debyg i’r gân Gymraeg, “’Does unman yn debyg i gartref.” Mae’r Nadolig wrth y drws. Bydd llawer o bobl yn mynd at eu teulu i gadw’r ŵyl: plant at eu rhieni, ac yn nes ymlaen, rhieni yn mynd at eu plant a’u hwyrion. Pawb am fynd adref adeg y Nadolig ond llawer, wrth gwrs, yn methu. Pan oeddwn yn gaplan ysbyty yn Llundain, aethom fel
teulu o gwmpas pob ward ar ôl gwasanaeth y bore a’r rhai mewn gwely yn falch o weld plant bach ar fore’r Nadolig. Rhaid oedd edmygu aelodau’r staff oedd yn barod i weithio y diwrnod hwnnw er mwyn y cleifion – carcharorion a ffoaduriaid, naill ai
wedi dianc o’u mamwlad neu wedi eu troi allan ac mor aml heb groeso mewn unman arall. Mae cartref yn bwysig. “Mae’n dibynnu ar beth y’ch chi’n ei feddwl wrth ‘cartref’, medd y
G I L O D NA
N E W A LL
BYD BOB
Y newid mawr yn ein hagwedd at berygl yw pwnc BOB EYNON y mis hwn. Flynyddoedd maith yn ôl, pan oeddwn i yn fy arddegau cynnar, rwy'n cofio dau ffrind yn galw arna' i un bore a gofyn a oeddwn i am fynd am dro gyda nhw ar y mynydd. Ian Macloud a Haydn Strading oedd eu henwau ac roedden nhw'n bwriadu cyrraedd
bardd Americanaidd, Robert Frost yn ei gerdd The death of the Hired Man (1914). Dyma ddiffiniad Mary yn y gerdd honno: “Cartef yw’r lle, pan fydd rhaid i chwi fynd yno, bydd
cronfa Maerdy erbyn canol dydd a cherdded yn ôl i Dynewydd yn y pnawn. Ar ôl dweud wrth fy mam fydden ni ddim yn hwyr, fe gychwynnon ni ar ein taith. Pan gyrhaeddon ni'r gronfa, soniodd Haydn am fodryb oedd yn byw ym mhentre Cwmdâr. "Ble mae Cwmdâr?" gofynnais i. Doeddwn i erioed wedi clywed am y lle. "Fan acw," meddai gan godi ei law. "Dyw e ddim yn bell." 'Wel, gadewch i ni fynd dipyn ymhellach," awgrymodd Ian, oedd yn fwy mentrus na fi. Cyn hir roedden ni'n edrych i lawr ar fasn llawn coed gyda rhesi o dai yn eu mysg. Roedd yr olygfa yn hyfryd. Roedd y cwm yn ddwfn, ond pan ddywedodd
Haydn ei fod eisiau mynd i lawr ac ymweld â'i fodryb, wnes i ddim protestio. Doedd e ddim wedi ei gweld hi ers talwm. Chwarae teg i'w hen fodryb, roedd hi mor hapus i weld ei nai, fe wnaeth hi de bendigedig inni.Fe fwytais i ormod, fel arfer, ac roedd rhaid i Ian a Haydn fy nhynnu i fyny llethrau'r mynydd, neu fe fyddwn i yno o hyd! Roedd hi'n hwyr iawn pan gyrhaeddais i adref. Roedd hi wedi mynd yn dywyll ac roedd fy mam ar bigau'r drain. Roedd hi'n siŵr fy mod i wedi syrthio i mewn i agen neu wedi cael fy mrathu gan wiber! Yn ddiweddar, fe es i nôl i Gwmdâr, ond yn y car ytro 'ma a gyda chi o'r enw Lady yn gwmni.
rhaid iddynt eich derbyn i mewn.” Diddorol mai Mair yw enw’r ferch yn y gerdd. Daw’r geiriau hyn i’m meddwl bron pob Nadolig gyda geiriau eraill: “At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.” (Ioan 1.11). Cafodd y baban Iesu ei eni ym Methlehem
a Mair a Joseph, y ddau, o linach Dafydd. Rhaid bod bron pawb yn y dref fechan yn perthyn iddynt ,ond ni chafwyd lle iddynt, hyd yn oed yn y gwesty ar gyfer pobl ddieithr. Rhyfeddod y stori yw, wrth gwrs, iddo ddod i alw ato’i hun bob un o’i chwiorydd a brodyr afradlon, boed eu bod yn gorwedd mewn gwter neu bod yn bileri cvmdeithas a
NADOLI G
LLAWEN
Mae Cwmdâr yn barc gwledig nawr, gyda llynnoedd bach. adar, caffi, a llawer o bobl yn mynd â'u plant a chŵn am dro ar hyd llwybrau'r coed. Roedd bws-mini'r Variety Club yn y maed parcio a hefyd bws mawr oedd wedi dod â phlant ysgol gynradd i gymryd rhan mewn ras draws gwlad. Roedd yn dda gweld cymaint o blant yn mwynhau eu hunain yn y cefn gwlad. Y dyddiau hyn, mae rhieni'n dychmygu pob math o berygl i'w plant yn y caeau a'r mynyddoedd. Ond pan rwy'n gweld ceir yn rasi'n wyllt ar ein ffyrdd a delwyr cyffuriau'n gwertheu gwenwyn ar strydoedd Cwm Rhondda, rwy'n hapus i gymryd fy siawns gydag agen neu wiber!
chrefydd – fel y ddau frawd afradlon yn y ddameg – i fod yn deulu iddo lle mae’n creu cartref, nid yn unig yn nes ymlaen ond yn awr ar y ddaear trwy ddrws agored croesawgar ei Eglwys. Neges y Nadolig yw mai yn Nuw y cawn gartref parhaol yma a thu draw i’r bedd. “Mae’r drws agored trwyddo ef....” Nadolig Llawn Bendithion! 7
NADOLI G
Brysiwch i wella!
Nos Wener, 9 Rhagfyr cynhaliodd Band Pres y Parc a'r Dâr eu cyngerdd flynyddol 'Gogoniant y Nadolig' yn y Parc a'r Dâr yng nghwmni Cantorion Richard Williams, côr Ysgol Gyfun Treorci a chôr Ysgol Gymraeg Ynyswen.
LLAWEN
Codwyd £190 at yr achos ar y noson a gadeiriwyd gan Huw T. Williams.
Mae ei ffrindiau yn dymuno'n dda i Elizabeth Evans, Heol Ynyswen sydd newydd ddychwelyd adref o'r ysbyty ar ôl derbyn llawdriniaeth.
8
Bu farw un o drigolion
hynaf Treorci, Mrs Olwen Scott, Stryd Bute, yn 93 oed yn dilyn cystudd byr. Yn Gymraes i'r carn, cadwodd Olwen yn sionc ac yn weithgar hyd y diwedd. Gwelir ei heisiau'n fawr gan bawb oedd yn ei hadnabod. Cydymdeimlwn â'i merch, Nan a'r teulu oll yn eu profedigaeth.
CWMPARC Bydd Gŵyl Coed Nadolig yn Eglwys San Siôr o ddydd Llun 12 Rhagfyr i ddydd Mercher 14 Rhagfyr, 10:00 – 4:00. Cofiwch alw heibio.
Yn ogystal i hynny, bydd gwasanaeth carolau a naw gwers nos Lun. 12fed am 7:00pm, Gwasanaeth Coffa Golau Cariad ar 13fed, eto am 7:00pm a chyngerdd ar 14fed, 6:00pm. Bydd
croeso cynnes i bawb.
Llongyfarchiadau i rieni Ysgol y Parc a ddringodd Pen y Fan er mwyn codi arian i’r ysgol. Gyda'r arian a godwyd prynnir meinciau efeillio ‘buddy benches’ i’r iard, lle byddai’r plant yn eistedd petasen nhw eisiau i rywun chwarae gyda nhw
Y PENTRE
Bu farw Richard Woodward, Stryd Albert, Roy Leyshon,Brook Place, Bessie Spear, Windsor St, Ann Cessily Thomas. Hillside ac Yvonne Price, Stryd Carne. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'u teuluoedd yn eu colled. Ddydd Llun, 14 Tach. cynhaliodd Melissa Warren ddiwrnod agored yn ei chanolfan crefftau, Lemon Blues yn Stryd LLywelyn. Yn ogystal â
gweld amrywiaeth ddiddorol o nwyddau ac anrhegion Nadolig, roedd ymwelwyr yn cael lluniaeth ysgafn. Roedd elw'r achlysur yn mynd at gronfa Tŷ Hafan.
Ddydd Sadwrn, 26 Tachwedd, cynhaliodd eglwys San Pedr eu Marchnad Nadolig ac mae'r aelodau am ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad blynyddol hwn. Roedd yr elw yn mynd at gronfa cynnal yr eglwys. Os ydych am gysylltu â'ch plismon cynorthwyol lleol, PCSO Viv Mumford, ei rif ffôn yw 07584770819
Bob bore Mercher rhwng 8.45 - 9.30pm mae modd ichi archebu amrywiaeth o ffrwythau , llysiau a salad yng Nghanolfan Pentre am bris rhesymol. Galwch heibio i weld beth sy ar gael.
Cafodd henoed y Pentre gyfle i wneud eu siopa Nadolig yn ddiweddar pan drefnwyd trip iddynt i Gwmbran Diolch i bawb a wnaeth y trefniadau. Nos Sul 11 Rhagfyr cynhaliwyd cyngerdd Ys-
bryd y Nadolig yn Eglwys San Pedr gyda Bobby Gilbert yn cyflwyno Côr y Cwm a nifer o artistiaid gan gynnwys Sophie Evans a Clare Hingot. Os ydych chi am helpu'r digartref dros y Nadolig, mae Canolfan Pentre, Stryd Llywelyn yn casglu nwyddau o bob math gan gynnwys dillad cynnes, esgidiau, defnyddiau ymolchi a glanhau dannedd, sachau cysgu a bwyd. Gallwch adael eich cyfraniadau yn y Ganolfan
G I L O NAD N
E W A L L
TON PENTRE A GELLI
Nos Wener, 18 Tachwedd, cynhaliodd Clwb Bocsio Amatur y Rhondda noson o ornestau yng nghlwb pêldroed Ton Pentre. Da oedd gweld bod y cwm yn dal i feithrin talentau
yn y gamp.
newydd
Nos Wener, 14 Rhagfyr bydd Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn cynnal noson i godi arian at yr achos yng nghlwb pêldroed Ton Pentre. Yn cymryd rhan bydd y digrifwr a'r darlledwr, Owen Money a'i fand, The Trevelling Wrinklies.
Ar 5 Rhagfyr dangoswyd y ffilm 'Proud Valley' yn theatr y Ffenics gyda'r enwog Paul Robeson yn rhan o'r cast. Gyda'r ffilm cafwyd adloniant gan gôr Ysgol Gymraeg Ynyswen. Cnhaliwyd Ffair Nadolig Clwb Pêl-droed Ton Pentre nos Fawrth, 13 Rhagfyr. Roedd yno stondinau o bob math a chafwyd ymweliad arbennig gan Siôn Corn.
9
YSGOL GYFUN
YSGOLION
TREORCI
10
Mwynheuodd y disgyblion chwaraeon gyda Mrs Roberts, drama gyda Miss Griffiths, cyfeiriadu gyda Mr Morgan, cwis gyda Mrs. Van Bodegom a dawnsio gwerin gyda Mrs Hargreaves. Profodd y bwyd o’r ffreutur ym mloc un yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion hefyd! Gweithiodd myfyrwyr y chweched yn galed yn helpu’r staff a’r disgyblion i fwynhau’r diwrnod. Roedd Blwyddyn 6 yn glod i’w ysgolion ac iddyn nhw eu hunain ac edrychwn ymlaen at groesawu mwy o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn y dyfodol agos.
Dadlau Chwyrn! Ar Ddydd Llun y 7fed o Dachwedd cystadlodd tri disgybl o Ysgol Gyfun Treorci yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg y Rotari. Roeddynt yn dadlau o blaid ac yn erbyn y gosodiad Cred y tŷ hwn y dylid defnyddio proffilio hiliol fel rhan o gwiriadau diogelwch mewn meysydd awyr. Megan Wenham oedd yn dadlau o blaid defnyddio proffilio hiliol a chafwyd pwyntiau dilys ganddi a oedd yn nodi mai diogelwch y cyhoedd yw’r nod ac nid hiliaeth. Max Rees, ein dirprwy prif - fachgen a aeth ati i ddadlau yn erbyn Megan gan nodi na ddylen ni ail-adrodd camgymeriadau ein gorffennol ac aberthu cydraddoldeb ein cymdeithas yn enw diogelwch. Yn cadw trefn ar y ddau uchod oedd y cadeirydd Gabrielle Horwood, ein prif-ferch a llwyddodd i aros yn wrthrychol a chadw rheolaeth ar y drafodaeth chwyrn. Roedd chwech Ysgol Gyfun Gymraeg yn cystadlu yn eu herbyn a gan ystyried mai nhw oedd yr unig ysgol Saesneg, braf oedd gweld y tîm yma yn cystadlu ar yr un safon â phawb arall. Yn anffodus ni lwyddwyd i gyrraedd y brig y tro hwn serch hynny enillodd Max Rees y wobr am wrthwynebydd gorau’r dydd gyda’r beirniad yn nodi y byddai’n gwleidydd da yn y dyfodol! Hoffwn longyfarch yr ysgolion buddugol a dymunwn pob lwc iddynt yn y rownd nesaf. Roedd yn brofiad amhrisiadwy i’r disgyblion ac mi fydd y sgiliau yma yn sicr o fudd iddynt yn y dyfodol.
CYMER YN CYNRYCHIOLI RHONDDA Llongyfarchiadau 'r 16 disgybl o flynyddoedd 9 a 10 sydd wdi eu dewis yn aelodau o garfan rygbi Tarian Dewar Ysgolion Rhondda eleni - bron hanner y garfan! Estynnwn ein dymuniadau gorau i bob un ohonynt ac i weddill y garfan ar eu hymgyrch eleni.
AGORIAD EIN SIOP GOFFI NEWYDD Llongyfarchiadau i ddisgyblion dosbarth 7W ar ennill y fraint o fod yn gwsmeriaid cyntaf ein siop goffi newydd yn dilyn casglu'r swm mwyaf o arian ar gyfer elusen Plant Mewn Angen yn ddiweddar. Da iawn chi!
G I L O D NA N
E W A L L
YSGOLION
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
YSGOLION 11
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Staff Y Lion yn gweithio’n galed i godi coeden Nadolig y tu fa’s i’r dafarn.
DIOLCH I NERYS BOWEN AM EI LLUNIAU ar dud/au 1,3,12
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN