
2 minute read
Diweddariad Cymunedol
EICH CYMUNED DIWEDDARIAD CYMUNEDOL
Tydy cymuned erioed wedi bod mor bwysig, felly mae’n dda cael tynnu sylw at ychydig o’r gwaith gwych mae ein staff a’n preswylwyr yn ei wneud yn ein cymunedau. Os hoffech chi rannu stori neu ddigwyddiad, anfonwch o at communications@clwydalyn.co.uk
GLANHAU’R AFON
Gawn ni roi bloedd fawr i’n tîm o staff wnaeth gymryd rhan yng ngwaith glanhau’r afon o gwmpas Llys Alarch yn ddiweddar. Bu i’r tîm o wirfoddolwyr gasglu llawer o sbwriel o’r afon, cael gwared ar rywogaethau nad oeddynt yn frodorol o lan yr afon (cadarnhaodd y Cyngor eu bod yn rhywogaethau ymledol) a chasglu sbwriel o gwmpas Llys Alarch. Tom ddaeth o hyd i’r peth mwyaf gwallgof – sef coeden Nadolig!

Bydd yr holl sbwriel yn mynd i gael ei sortio a’i ailgylchu lle bo’n bosibl gan Travis Perkins.
Y gwirfoddolwyr arbennig oedd Jennifer Toner, Erin O’Donnell, Ami Jones a’i merch, Andy Frazer, James Howsam, Tom Boome, Ellen Wharton ac Amu Teodorescu.
Da iawn a diolch yn fawr ichi gyd!!
DA IAWN BAWB

TACLUSO TRAETH TALACRE
Mae’r haf wedi cyrraedd o’r diwedd ac wrth inni groesawu’r tywydd braf bu i Cameron Hughes o’r prosiect Quay a staff ClwydAlyn fynd ati unwaith eto a helpu i gael gwared ar hen lwyni o’r morlin.
Bydd ein tenantiaid hefyd yn mynd i Dalacre unwaith y mis tan dymor yr Hydref i helpu’r amgylchedd, dysgu am natur a chyfarfod ag eraill sy’n angerddol dros natur.
Diolch ichi am eich holl waith caled!
CYSTADLEUAETH Y FFLINT
Bu i Carol Quinn, aelod o’r pwyllgor preswylwyr, gynnal cystadleuaeth lliwio ar un o’n stadau yn y Fflint.
Bu i’r holl blant wnaeth gymryd rhan ennill Ŵy Pasg yr un a bu i’r ddau enillydd hefyd ennill tocyn rhodd Amazon. Cafodd yr holl luniau eu harddangos yn ein cynllun Gofal Ychwanegol Llys Raddington
Kael Badger 11 Maddie Edwards 7
PASG
Bu i lawer o’n cynlluniau ddathlu’r Pasg drwy ddod at ei gilydd i fwynhau cystadlaethau Pasg, rafflau, a phartïon Pasg.
DIGON O HWYL
Bu i breswylwyr yn Llys y Waun hefyd fwynhau ychydig o weithgareddau’r Pasg. Edrychwch ar yr hetiau Pasg arbennig hyn!
CYFRANIADAU WCRÁIN
Rydym ni wedi bod yn casglu cyfraniadau i helpu ffoaduriaid Wcráin sydd mewn angen. Mae’n wych gweld faint o bobl sy’n helpu ac rydym ni’n sicr bydd yr holl eitemau sydd wedi’u rhoi yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr!
DA IAWN BAWB
BETH SY’N DIGWYDD YNG NGOGLEDD CYMRU
Mae rhywbeth i’w fwynhau bob tro yma yng ngogledd Cymru, ac mae gan Go North Wales galendr lle gallwch chi weld yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd yn ninasoedd, trefi a phentrefi gogledd Cymru, gyda rhai hyd yn oed yn digwydd yn ein cestyll hanesyddol neu ar ein gwahanol draethau arbennig! Cymerwch gipolwg arno yma www.gonorthwales.co.uk/whats-on
TPAS CYMRU
Ar ddechrau mis Gorffennaf aeth staff ac aelodau’r pwyllgor preswylwyr i Gynhadledd a Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru. Roedd hi’n ddiwrnod gwych inni, lle bu inni rannu syniadau gyda landlordiaid eraill ac arddangos ychydig o’r gwaith arbennig rydym ni’n ei wneud yma yn ClwydAlyn.
