1 minute read

Awgrymiadau Garddio

Mae un o’n preswylwyr o Benrhos, Pwllheli yn arddwr brwd ac wedi rhannu rhai awgrymiadau i’ch gardd ar gyfer yr haf

RHANNODD MR SOLEK, YCHYDIG O AWGRYMIADAU AR SUT ALLWCH CHI GREU ARDDANGOSFEYDD HYFRYD.

Plannwch blanhigion parhaol fel bod gennych chi flodau bob blwyddyn.

Defnyddiwch ddalwyr/potiau blodau i dyfu eich planhigion a blodau, mae hyn fel eich bod yn gallu eu symud o gwmpas i newid eich arddangosfeydd blodau.

Hefyd, fe allwch chi newid lle mae’r planhigion, e.e. yng ngolau’r haul, yn y cysgod, mewn llefydd tywyll, bydd hyn yn eu helpu i flodeuo ar eu gorau bosibl! AWGRYM DA GAN BRESWYLYDD ARALL AR SUT GALL CROEN OREN HELPU EICH GARDD.

Os ydy cathod yn difetha eich gardd, gallwch chi roi croen oren ar wlâu blodau lle dydych chi ddim eisiau iddyn nhw fynd, tydyn nhw ddim yn hoffi hyn felly byddant yn cadw i ffwrdd!

Gall croen oren hefyd helpu gydag unrhyw broblemau gyda gwlithod. Os torrwch chi oren yn ei hanner, tynnu’r cnawd (a’i fwyta) a rhoi’r hanner gwag ar wely blodau (bydd angen ichi osod y gromen am i fyny lle mae gennych chi broblem gyda gwlithod) ac erbyn y bore dylai bod gwlithod yno oddi tanodd. Casglwch nhw a chael gwared ohonyn nhw. Gadewch ycroen yno am ambell i ddiwrnod.

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau garddio hoffech chi eu rhannu, cysylltwch gyda Laura.Mckibbin@clwydalyn.co.uk

Hadau am ddim, cysylltwch gyda InfluenceUs@ClwydAlyn.co.uk i gael eich pecyn o hadau am ddim. Gall plant gymryd rhan hefyd. Cofiwch rannu eich lluniau garddio gyda ni.

This article is from: