
4 minute read
Croeso i’ch Cartref Newydd
EICH CYMUNED I’CH CARTREF NEWYDD!I’CH CARTREF NEWYDD I’CH CARTREF NEWYDD
ROSE
“Roedd angen imi symud i rywle llai a doedd dim lle parcio yn lle’r oeddwn i’n byw ac roedd yn anodd iawn gan fod angen imi fynd â’m merch i’r ysbyty yn rheolaidd. Felly mae arna’ i angen rhywle i barcio fy nghar yn agos i’r tŷ.
“ Mae’n galonogol gwybod bod eich cartref yn effeithlon, rydw i’n un sy’n ailgylchu ac rydw i’n edrych ymlaen at fyw mewn cartref gyda phaneli solar a system wresogi wyrddach. Alla’ i dal ddim credu’r peth a dweud y gwir, rydw i’n edrych ymlaen a bydd fy merch wedi gwirioni, a tydy fy mam sy’n 91 oed heb allu dod i’m tŷ ers saith mlynedd oherwydd doedd dim mynediad addas iddi. Hwn fydd y tro cyntaf bydd hi’n gallu dod i gael paned gyda mi ers blynyddoedd sy’n neis iawn. “ Tydych chi ddim yn sylweddoli pa mor anodd ydy mynediad tan nad oes gennych chi o. Mae dyfodol fy merch gyda ffibrosis systig yn un prin, a bob rhyw ychydig flynyddoedd mae rhywbeth gwahanol yn digwydd. Felly mae gwybod bod gen i fynediad i gadair olwyn, ystafell ymolchi lawr grisiau a gwybod fod pethau mewn lle i’r dyfodol petai unrhyw beth yn newid gyda hi yn anhygoel. Mae gwaith saernïol hyd yn oed wedi’i wneud yn yr ystafell fyw ar gyfer lifft o’r llawr i’r to os bydd angen inni fyth ei addasu yn y dyfodol, sy’n wych. Tydw i dal heb wirioneddol fewnoli popeth eto.”
LIZZIE
“Fe wnaethon ni achub ar y cyfle i symud yma gan fod cynllun y cartref yn fwy agored na’r hyn sydd gennym ni rŵan a gan fod gennym ni ddau o blant bach, ac mae gan y tŷ hwn ardd enfawr o’i chymharu â’r hyn sydd gennym ni. Doedden nhw heb orffen addasu’r cefn lle’r ydym ni rŵan ers llawer, ac roedden nhw wedi troi ein patio yn lle parcio a rhoi drysau dwbl i fynd i mewn i’r ardd.
“ Mae cymaint mwy o le yma ac mae’n hawdd symud o gwmpas.
Yma mae’r holl drothwyon wedi’u gwneud felly mae mynediad hawdd yma, mae’r coridor a’r drysau yn llydan, mae gardd fawr, ystafell ymolchi lawr grisiau ac rydym ni’n symud ein lifft grisiau i mewn heddiw.
Mae fy mhlentyn bach dwy oed yn llawn egni felly bydd y tŷ hwn yn wych. Mae cael drysau dwbl i fynd i mewn i’r ardd yn wych gan fy mod i’n gallu mynd allan i’r ardd yn hawdd iawn yma. “ Lle’r ydym ni’n byw rŵan mae’r parcio yn ofnadwy, ac mae pawb yn parcio ar yr ymylon gwastad a’r palmant felly alla’ i ddim mynd oddi ar y ffordd neu fynd heibio yn fy nghadair. Mae hyn yn dda fod gennym ni le parcio y tu allan ac mae ein lle ni ydy o, ni all unrhyw un arall barcio yma oni bai amdanom ni sy’n golygu y bydda i’n gallu mynd a dod yn llawer haws.”

Llongyfarchiadau i’n preswylwyr sydd wedi symud i’w cartrefi newydd yn Glasdir, Rhuthun, Sir Ddinbych! Gyda rhan un wedi’i chwblhau, bu i 18 preswylydd symud i’w cartrefi newydd ar ddechrau mis Gorffennaf. Bydd y 63 cartref i gyd wedi’u cwblhau erbyn gwanwyn 2023 EICH CYMUNED
CHARLOTTE
“ Yn syth ar ôl imi glywed y newyddion roeddwn i wedi cyffroi yn lân yn arbennig gan ei fod yn newydd sbon. A dweud y gwir roeddwn i wedi dechrau cael llond bol. Roeddwn i ar restr y cyngor erstalwm, ac roedden nhw fwy neu lai wedi dweud wrtha’ i am fynd yn breifat gan nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth imi ac yna bu imi newid fy rhif ffôn y llynedd. Ond pan ddaeth y rhain i’r amlwg daeth Sharon ar fy ôl i, ac ar fy ôl i, ac ar fy ôl i… ei chynnig olaf oedd iddi ddod o hyd i fy nghyfeiriad e-bost ar un o fy ffurflenni a bu iddi lwyddo i gael gafael arna’ i drwy hynny, fel arall fuaswn i ddim wedi ei gael.
ANSAWDD ARDDERCHOG


Petai hi heb barhau, ni fuaswn i yma rŵan. Buasai llawer o bobl wedi rhoi’r gorau iddi ond nid Sharon, bu iddi ddal ati a thrio ei gorau glas ac rydw i’n hynod ddiolchgar. Roeddwn i’n gallu dewis pa loriau oeddwn i eu heisiau ac mae’n hyfryd cael dewis o liw. Dw i wrth fy modd gydag o. “Mae fy mhlant yn mynd i’r ysgol dros y ffordd ac maent wedi gwirioni hefyd. Dw i’n siŵr eu bod nhw’n edrych trwy’r ffenestr rŵan wrth inni symud i mewn, tydyn nhw methu aros i ddod adref nes ymlaen.”
SAMMI A CALLUM
“ Rydym ni wedi cyffroi yn lân, doedden ni methu credu’r peth pan gawsom ni’r newyddion ein bod ni am ei gael, mae ein tŷ ni mor fach. Mae gennym ni ddwy o genod bach ac mae un ohonyn nhw’n dechrau yn yr ysgol dros y ffordd y flwyddyn nesaf.
ARDAL HYFRYD
Gan ddymuno pob hapusrwydd ichi yn eich cartref newydd
Rydym ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael dewis y carpedi, aethom ni am liw llwyd ac maen nhw’n neis iawn, rydym ni wedi gwirioni.”