
4 minute read
Fy nhaith ar draws America
EICH NEWYDDION STRAEON GAN BRESWYLWYR…
Jane Swinton - Fy nhaith ar draws America
MAE’R TEITHIWR BRWD JANE SWINTON YN UN O’N PRESWYLWYR YNG NGHYNLLUN GOFAL YCHWANEGOL LLYS RADDINGTON YN Y FFLINT, AC YN 2019 AETH AR DAITH AR EI PHEN EI HUN I UDA, GAN FYND O ARFORDIR I ARFORDIR AC YN ÔL AR Y TRÊN I DDATHLU EI PHEN-BLWYDD YN 70 OED.
Mae Jane wedi rhannu ei stori anhygoel gyda ni a sut roedd yn teimlo i fod yn annibynnol ac ymgymryd â her mor fawr a chyffrous!

Dyma stori Jane: Bu imi benderfynu, cyn Covid, i roi anrheg 70 mlwydd oed cynnar i fy hun a threfnu’r holl daith fy hun dros fy ffôn!
Bu imi archebu seti cysgu, sef ystafelloedd bychain, a mwynhau bwyd ar wasanaeth llestri arian yn y bwyty ar bob trên. Dechreuais fy nhaith drwy hedfan i Efrog Newydd ac yna dal y trên i Chicago gan deithio i fyny Afon Hudson, i’r de o ffin Canada, sy’n cymryd 19 awr. Dyma oedd rhan gyntaf fy nhaith, ac roedd yn wych cael cymysgu gyda phobl o bob cefndir yn yr adrannau uwch a’r lolfeydd gwylio ar y trenau deulawr Amtrak hyn.
EFROG NEWYDD
Bu imi yna dreulio pedwar diwrnod yn Chicago gan ymweld â Llyn Michigan a mynd ar wahanol deithiau. Dyma’r tro cyntaf imi ymweld â dinas mor hardd a buaswn i’n sicr yn mynd yno eto.
Es i ar y Californian Zephyr i San Francisco – mae gan y trenau mawr, pellter hir hyn enwau – ac roeddwn i arno am dri diwrnod, yn teithio o Chicago, gan groesi afon fawr Mississippi ac yna i Emeryville, reit drwy ganol America.
Bu imi weld caeau gwenith anferth Kansas, a mynd drwy dwnnel Moffat sy’n arwain i fyny at Denver, gan groesi’r gwahaniad cyfandirol ac afonydd Fraser a Colorado sy’n llifo i mewn i’r Môr Iwerydd a’r Tawelfor.
Unwaith imi gyrraedd San Francisco treuliais i bum diwrnod yno ac roedd hi’n boeth iawn. Roedd y ddinas fel darlun, a gan ei bod hi’n ’Wythnos y Llynges’ yno roedd y Llynges yno ym mhob man, ac roeddwn i’n ffodus iawn o gael gweld yr Angylion Gleision – fersiwn America o’r Saethau Cochion – yn hedfan uwch ben y ddinas yn perfformio eu harddangosfa arbennig. Archebais i daith o amgylch y Bae cyn dal hediad byr i LA lle bu imi ymuno â’r Southwest Chief, y trên fyddai’n fy nghludo yn ôl ar draws y wlad i Chicago unwaith eto ar siwrne gyffrous am dridiau arall.

YR HAFN FAWR
Ar y rhan yma o’r siwrne es i drwy Las Vegas ac o amgylch ymyl deheuol yr Hafn Fawr, ac yna drwy, Albuquerque, yn ôl i fyny drwy Colorado, Dinas Kansas, Iowa, Illinois ac yna i mewn i Chicago.
Mae’r wlad mor fawr gallwch chi eistedd am oriau yn mynd drwy gaeau o gnwd india-corn, gan hefyd weld y rhandiroedd. Fe es i hefyd drwy Utah a gweld y ffurfiadau cerrig tywod cochion, a hyd yn oed teithio heibio lle cafodd y ffilm ‘Thelma a Louise’ ei ffilmio, oedd yn wych. Yna, es i yn fy mlaen o Chicago at fy man cychwyn yn Efrog Newydd drwy’r mynyddoedd oedd wedi’u gorchuddio’n anhygoel gan blanhigion deiliant.
Roedd i gyd yn wirioneddol ryfeddol ac roeddwn i’n ffodus o gyfarfod â phobl mor ddiddorol – gyda nifer fawr ohonyn nhw’n mwynhau eu hymddeoliad yn teithio ar eu pennau eu hunain fel fi neu gyda ffrindiau.
Roedd pobl America mor gyfeillgar; roedden nhw’n rhannu eu hanes gyda mi ac â meddwl agored iawn. Y bobl, ehangder y wlad a sut roedd y golygfeydd yn gallu newid mor sydyn; o gadwyni o fynyddoedd uchel, ceunentydd dwfn, gwastatiroedd anferthol i fynyddoedd helaeth gyda’u lliwiau hydrefol, wnaeth yr holl daith imi. Mae gwrthgyferbyniadau anferth, ac roedd yn wlad anhygoel i’w higam-ogamu a gweld gymaint o amrywiaeth.
Bu imi weld gwahanol ddiwylliannau fel y bobl Amish yn y gorllewin-canol, a bywyd gwyllt fel heidiau anferth o geirw, a gwartheg yn rhedeg ochr yn ochr â’r trên ac eryr yn glanio yn afon Colorado i hela am eu cinio!
Daeth y byd i stop oherwydd Covid yn 2020 a petawn i wedi ei adael tan hynny, fuaswn i byth wedi mynd. Fy nghyngor i unrhyw un sy’n trefnu taith debyg ydy i fynd amdani! Bu imi deithio dros 8,000 milltir ac roedd yn werth pob ceiniog a phob milltir. Fel y dywedais i, roedd y bobl yn groesawgar iawn, yn holgar a chyfeillgar a buaswn i’n ei wneud i gyd eto yn syth!
LLONGYFARCHIADAU!

Llongyfarchiadau i’n preswylwyr, Liz ac Anita sydd wedi ennill tocyn siopa gwerth £20 yr un am rannu eu lluniau o ogledd Cymru

Elizabeth Barnes – Y Rhyl Anita Bromilow – Glannau Dyfrdwy £20
TOCYNNAU