
1 minute read
Carbon Monocsid
Mae Carbon Monocsid (CO) yn nwy gwenwynig di-liw, diarogl a di-flas gaiff ei gynhyrchu wrth losgi yn anghyflawn tanwyddau sy’n seiliedig ar garbon fel nwy.
METHU EI WELD METHU EI AROGLI METHU EI GLYWED
Ni allwch chi ei weld, ei arogli na’i flasu, ond gall CO eich lladd yn sydyn heb rybudd. Hoffwn i rannu fy awgrymiadau gorau gyda phreswylwyr eraill: Bob blwyddyn mae tua 7 person yn marw o wenwyn CO wedi’i achosi gan ddyfeisiau nwy a chyrn simnai sydd heb eu gosod yn iawn, eu cynnal neu sy’n awyru’n wael.

I amddiffyn ein preswylwyr rhag y lladdwr cudd hwn rydym ni’n gosod larymau Carbon Monocsid ym mhob un o’n heiddo. Dyma rhai gwiriadau pwysig i gadw eich larymau mewn cyflwr da

• Profwch eich larymau bob wythnos, mae’n arfer da profi eich larymau tân/ gwres yr un pryd
• Cadwch eich larymau yn lân – gallwch chi lanhau tu allan y larymau gyda phig cul hwfer a’u sychu gyda chadach glân tamp
• Peidiwch â pheintio’r larymau. Gall hyn achosi camrybuddion, amharu ar berfformiad ac efallai gwneud difrod i’r rhannau tu mewn i’r larwm LARWM CARBON MONOCSID
GOLAU COCH BOTWM PROFI
LARWM GWRES / CARBBON MONOCSID
SYNHWYRYDD GWRES
BOTWM PROFI
FIRE CO
SYNHWYRYDD CO
