
2 minute read
Eich awgrymiadau gorau ar gyfer arbed arian

Dewch i gwrdd â’n Tîm Hawliau Lles a gweld sut allan nhw eich helpu chi gyda’ch arian.
JOANNE ARKSEY
•Yn flaenorol yn Swyddog Hawliau Lles am bum mlynedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yna RNIB cyn ymuno gyda ClwydAlyn wyth mlynedd yn ôl • Profiad helaeth o fudd-daliadau etifeddol a budddaliadau anabledd
•Y darn gorau am y swydd ydy gwella ansawdd bywyd pobl fel eu bod yn gallu parhau i fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a bod yn llais i’r rhai mwyaf bregus wrth chwilio’r ffordd drwy ein system les gymhleth
LISA BEST
•Yn flaenorol yn Swyddog Cefnogi Tenantiaeth gyda
ClwydAlwyn a chyn hynny yn swyddog tai am 28 mlynedd. • Profiad helaeth o asiantaethau allanol arbenigol • Y darn gorau am y swydd ydy helpu ein cleientiaid mwyaf bregus dderbyn budd-daliadau a ffynonellau eraill o gyllid lleol

JANICE PETERSON
•Yn flaenorol yn Swyddog Tai gyda phrofiad helaeth o Gredyd Cynhwysol a sut mae’n gweithio gyda’r budddaliadau LCG a LCC newydd. • Chwe blynedd o brofiad gyda budd-daliadau anabledd • Y darn gorau am y swydd ydy sicrhau bod y bobl yn derbyn y budd-daliadau maent yn gymwys i’w derbyn, yn arbennig os ydyn nhw wedi bod yn ei chael hi’n anodd byw
YDYCH CHI’N COLLI ALLAN AR GEFNOGAETH?
Yn ôl entitledto.co.uk mae £15 biliwn yn peidio â chael ei hawlio mewn budddaliadau bob blwyddyn yn y DU – sy’n golygu gall cartref cyffredin fod yn colli allan ar £1,020 drwy beidio â hawlio’r hyn sy’n iawn iddyn nhw ei dderbyn.
AM WASTRAFF
Visit entitledto.co.uk i weld beth allwch chi ei hawlio. Doedd Irene ddim yn siŵr pa un oedd hi’n ei hoffi fwyaf - y £470 Credyd Pensiwn wnaeth ClwydAlyn ei helpu i dderbyn, neu’r drwydded teledu am ddim gafodd hi oherwydd hyn. Naill ffordd, roedd angen i rywun wylio Love Island.
Ydy’ch teulu chi’n cael prydau ysgol am ddim?
Mae ein cynghorwyr cyfeillgar yn barod i siarad â chi’n gyfrinachol os dymunwch.
Wrth i gostau byw barhau i godi, efallai y bydd rhai o’n cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd fforddio talu am bethau hanfodol dros gyfnod yr haf. Rydym yma i’ch helpu, drwy arbed hyd at £230 o’ch bil dŵr.
Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol: — Credyd Pensiwn — Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA) — Cymhorthdal Incwm — Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA) — Credyd Treth Plant — Credyd Treth Gwaith — Credyd Cynhwysol — Budd-dal Tai — Gostyngiad/Cymorth Treth Gyngor