1 minute read

Uwchgylchu gyda Laura

EICH CARTREF AWGRYMIADAU UWCHGYLCHU A DIY GAN LAURA ENILLYDD CYSTADLEUAETH

TOCYNNAU £30

UWCHGYLCHU’R PRESWYLWYR

Ydych chi eisiau gwella eich cartref heb wario llawer? Ym mhob rhifyn bydda’ i’n rhannu syniad uwchgylchu rhad rydw i wedi’i wneud fy hun.

Gan ei bod hi’n haf, ac rydym ni’n obeithiol am ychydig o haul, rydw i’n rhannu prosiect uwchgylchu dw i wedi’i gwblhau yn ddiweddar. Mae modd ailddefnyddio paledi mewn sawl ffordd, ond penderfynais greu lle i eistedd y tu allan. Dilynwch fy nghamau syml i ail-greu’r meinciau yma y tu allan: CAM 1 CAM 3

Bydd arnoch chi angen paledi. Bydd arnoch chi angen digon o baledi i greu maint y dodrefn hoffech chi. Mae llawer o wahanol gynlluniau yn dibynnu ar faint o le sydd gennych chi a pha edrychiad sydd gennych chi mewn golwg.

CAM 2

Unwaith byddwch chi wedi penderfynu ar eich cynllun delfrydol bydd angen ichi eu gosod yn eu lle, fe wnes i ddefnyddio dril a sgriwiau fy hun. Rŵan bod y set wedi’i osod yn ddiogel, sandiwch y pren er mwyn sicrhau ei fod yn esmwyth er mwyn lleihau’r risg o ysgyrion.

CAM 4

Peintiwch y cyfan gyda’ch dewis o liw, neu fe allwch chi selio’r paent i gael edrychiad mwy naturiol. Fe wnes i ddefnyddio staen pren ar gyfer yr edrychiad gorffenedig. Fe allwch chi ychwanegu clustogau sy’n dal dŵr i fod yn fwy cyfforddus.

LLONGYFARCHIADAU

i Bethan Barr o Sir Ddinbych. Bu i lun uwchgylchu Bethan ennill tocyn Amazon gwerth £30 iddi!

Mwynha’r gwario Bethan a diolch am rannu. Mae’r gwaith gorffenedig yn edrych yn wych!

“ Roedd y bwrdd bach a’r tair cadair yn cael eu taflu, felly bu imi eu hachub, trwsio ambell i wobliad gyda glud pren, eu sandio a’u peintio mewn lliwiau golau shabby-chic . Mae fy mhlant wrth eu boddau gyda nhw!”

This article is from: