Home Matter - Resident Magazine - Welsh

Page 17

CAL N CARTREFY EICH CYLGHGRAWN I BRESWYLWYR CLWYDALYN HAF 2022 Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol YN Y RHIFYN HWN • DIY • Arbed arian • diogelwchAwgrymiadau AWGRYMIADAU DA CYFLE I ENNILL Tocynnau Amazon drwy gystadlaethau llawn hwyl DARLLENWCH beth oedd gan ein preswylwyr newydd i’w ddweud y diwrnod wnaethon nhw symud i’w cartrefi newydd

CROESOEICH Cynnwys: EICH CROESO 3 Croeso gan y Golygydd EICH NEWYDDION 4 Dewch i gwrdd ag Annie Jackson a Laura Mckibbin o ClwydAlyn 5 Straeon gan breswylwyr: 5 - Dathlu Balchder 6 - Fy nhaith ar draws America EICH CYMUNED 8 Diweddariad Cymunedol 10 Jiwbilî’r Frenhines 12 Croeso i’ch Cartref Newydd EICH CARTREF 14 Uwchgylchu gyda Laura 15 Awgrymiadau Garddio 16 Diogelwch y Cartref 16 - Trydanol 17 - Carbon Monocsid 18 Eich awgrymiadau gorau ar gyfer arbed arian EICH CIPOLWG AR... 20 Aelod o’r Tîm Asedau Rebecca Elder 21 Swyddog Rheoli Asedau (SRhA) - Llwybr Datblygu Gyrfa 22 Blwch post – ateb eich cwestiynau 22 Porth FyClwydAlyn EICH DIGWYDDIADAU NESAF 23 Digwyddiad Cysgu Allan EICH RYSÁIT 24 Rysáit 25 Diwrnod Rhoi Diwedd ar Wastraff Bwyd EICH CYSTADLEUAETH 26 Cystadleuaeth Gweld y gwahaniaeth a Lliwio am gyfle i ennill gwobr 2

at Laura.McKibbin@clwydalyn.co.uk Croeso CROESOEICH Ceginau Cartrefol • Prydau bwyd cartref maethlon • Ystafelloedd gyda mynediad llawn ac ensuite • Gerddi helaeth Cydlynydd gweithgareddau llawn amser • Gofal dementia arbenigol 24 awr • Mewn ardal gadwraeth dawel a ddiogel. @ClwydAlyn Mae Clwyd Alyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol Cartref Gofal Llys y Waun Lle i fyw bywyd…... LLYS Y WAUN Maes-y-Waun, Y Waun, Wrecsam. LL14 5ND 01691 774 286 | admin.chirkcourt@clwydalyn.co.uk | ChirkCourt.co.uk Rydym ni’n arbenigo mewn gofal dementia ac yn darparu gofal personol gyda gweithwyr allweddol ymroddgar yn cefnogi pob preswylydd. Eich teulu chi ydy ein teulu ni Lle i wneud ffrindiau Cyfleusterau wedi’u hadeiladu yn bwrpasol er mwyn darparu gofal dementia rhagorol Rydym ni’n bwyta cacennau i ddathlu

bawbHelô ynchroesoaôl

i’ch cylchgrawn i breswylwyr Clwyd Alyn, Calon y Cartref. Mae’r haf wedi cyrraedd yn swyddogol ac am wahaniaeth gall rhyw faint o haul ei wneud! Gobeithio bod pawb yn gallu mwynhau ychydig o amser yn yr awyr agored ac ymysg natur gan ei fod yn dda iawn i’n lles.

Mae hi wedi bod yn ychydig wythnosau prysur ond cyffrous iawn yma. Mae Annie Jackson wedi dechrau yn ei swydd gyda ni yn ddiweddar a bydd hi’n gweithio ochr yn ochr â mi i sicrhau eich bod yn cael dweud eich dweud, gallwch ddarllen mwy am Annie a’i swydd newydd nes ymlaen yn y cylchgrawn. Bu inni hefyd fynd i Wobrau Arfer Da TPAS Cymru yn ddiweddar lle’r oeddem ni’n falch iawn o ddod yn ail yn y categori Cyfathrebu gydag ein Tenantiaid. Rydym ni hefyd wedi bod yn brysur yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cyffrous dros yr ychydig fisoedd nesaf, un o’r rheiny ydy ein Diwrnod o Hwyl i Breswylwyr! Rydym ni’n gobeithio y byddwch chi i gyd yn gallu ymuno gyda ni ar gyfer y diwrnod cyffrous a llawn hwyl hwn! Cofiwch fod y cylchgrawn hwn wedi’i greu ar eich cyfer chi a buaswn i wrth fy modd yn clywed beth hoffech chi ei weld ynddo yn y dyfodol. Rydym ni eisiau sicrhau bod y cylchgrawn yn ddefnyddiol ichi a’ch bod chi’n mwynhau ei ddarllen. Anfonwch unrhyw syniadau dros e-bost

bydda’ i’n gweithio ynddynt gyda phartneriaid, preswylwyr a chydweithwyr i greu cyfleoedd sy’n gwneud gwir wahaniaeth yn ein cymunedau. Bydd mesur effaith mentrau ac ymyriadau gaiff eu darparu yn ein cymunedau yn allweddol i’m swydd, gan sicrhau

• Tlodi Bwyd

• Tlodi Tanwydd • Dyma’rCyflogadwyeddpedwarmaesy ein bod bob tro’n cysylltu’r gwerth yn ôl gyda’r pedair blaenoriaeth. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am fy swydd – cysylltwch gyda mi!

• Cynhwysiad Digidol

Mae cenhadaeth ClwydAlyn, Gyda’n Gilydd i Drechu Tlodi, yn canolbwyntio ar ein pedair blaenoriaeth tlodi

AnnieHelô,Jackson ydw i –CymunedolYmgysylltuArbenigwr

Rydw i wedi gweithio i ClwydAlyn ers dros chwe blynedd ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau yn fy swydd newydd. Rydw i’n teimlo’n angerddol iawn dros wneud gwahaniaeth i’n cymunedau ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau mynd allan i gyfarfod ein preswylwyr a gweld sut alla’ i helpu. Fi fydd eich person ar gyfer unrhyw beth yn ymwneud â chodi arian, gweithio mewn partneriaeth a mesur gwerth cymdeithasol.

Annie.Jackson@clwydalyn.co.uk

LauraHelô,Mckibbin ydw i, Swyddog Cysylltu â Phreswylwyr newydd MewnClwydAlyngeiriau eraill, yn gryno mae’n golygu y bydda’ i’n gwrando ar beth mae ein preswylwyr yn ei feddwl am ein gwasanaethau ac yn adrodd yn ôl i weddill y tîm fel bod modd gwneud gwelliannau neu newidiadau.

Bydda’ i hefyd yn rhedeg y gwasanaeth #Dylanwadwch sy’n ffordd wych o gymryd rhan a chael dweud eich dweud fel preswylydd. Os hoffech chi gymryd rhan yn ein grŵp #Dylanwadwch, gallwch chi gofrestru a darllen mwy ar ein gwefanwww.clwydalyn.co.uk/Influence-Us Rydym ni eisiau i’n preswylwyr siapio’r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu, gan sicrhau bod ein preswylwyr yn rhan o’n penderfyniadau. Rydym ni eisiau cynnig gwasanaeth sy’n cyd-fynd gyda’n cenhadaeth i drechu tlodi gyda’n blaenoriaethau allweddol, y mae modd eu gweld yn ein Strategaeth Cysylltu â Phreswylwyr yma: resident-involvement-strategy_en.pdfwww.clwydalyn.co.uk/media/documents/

Dewch i gwrdd ag Annie Jackson a Laura MckibbinNEWYDDIONEICH

4

ClwydAlyn.newydd

BALCHDER

“Rydw i mor hapus ein bod ni wedi penderfynu symud i Tan y Fron. Rydym ni wedi addasu’n dda yma ac mae hynny wedi bod cymaint haws gan fod y staff wedi bod mor ofalgar a’r preswylwyr wedi bod yn anhygoel o groesawgar. Mae fel cymuned yn ei hun gyda chyfleoedd i gyfarfod preswylwyr eraill yn y cynllun am ginio a mynd i wahanol weithgareddau llawn hwyl trwy gydol yr wythnos. Rydym ni hyd yn oed wedi dod yn ffrindiau gyda thri phreswylydd arall oedd yn arfer gweithio fel gwasanaethwyr hediadau, gan roi cyfle inni siarad am y gorffennol a hel atgofion arbennig.”

Bu i’r cwpl gyfarfod gyntaf pan oedd y ddau yn gweithio i British Airways fel Gwasanaethwyr Hediadau yn y 1960au, gan gyfarfod gyntaf yn Nairobi, Cenia, ac yna yn Efrog Newydd ac yna dechrau ar eu perthynas ym Manceinion. Daw Colin o Lanfairfechan a Terry o Lundain a bu iddyn nhw fyw gyda’i gilydd o’u hugeiniau cynnar yn Heathrow wrth iddynt barhau i weithio i’r cwmni Buawyrennau.i’wgyrfaoedd

Mae Balchder i Terry a Colin yn golygu gweld sut mae cydraddoldeb i’r gymuned LHDTC+ wedi dod yn ei flaen gymaint yn ystod y cyfnod maen nhw wedi bod gyda’i gilydd. Fel y dywed Terry: “Tydyn ni erioed wedi cael unrhyw broblem ac mae mor dda bod pobl yn gallu bod yn agored rŵan. Rydym ni wedi cael y bywyd mwyaf arbennig gyda’n gilydd a buaswn i’n dweud wrthych i wneud beth bynnag allwch chi, ac yn bennaf, mwynhewch yr hyn byddwch chi’n ei wneud!”

Roedd eleni yn dynodi pen-blwydd yr orymdaith Falchder gyntaf yn y DU yn 50 mlwydd oed –diwrnod pan ddaeth cannoedd o bobl LHDTC+ a’u cynghreiriaid i Lundain i brotestio cymdeithas lle nad oeddem ni’n ddiogel i gael bod yn ni ein hunain. 50 mlynedd yn ddiweddarach, gallwn ni ymfalchïo mewn Prydain lle mae’r rhan fwyaf o’r cyhoedd yn gefnogol o’u cymdogion, cydweithwyr, teulu a ffrindiau LHDTC+.

Ychwanegodd Colin: “Rydym ni wedi byw bywyd anhygoel, wedi teithio’r byd gyda’n gilydd a gweld pethau arbennig. Fodd bynnag, mae hi bellach yn amser inni arafu ychydig yn ein bywydau.

Mae Terry a Colin yn breswylwyr yng nghynllun Gofal Ychwanegol Tan y Fron yn Llandudno ac wedi bod gyda’i gilydd ers 53 mlynedd. Bu iddyn nhw benderfynu symud i gyfleuster Gofal Ychwanegol ClwydAlyn yn gynharach eleni.

Dywedodd Terry: “Bu inni benderfynu symud i Tan y Fron yn dilyn diagnosis Colin o ddementia. Roeddem ni eisiau rhywle fyddai’n gallu addas wrth inni fynd yn hŷn, a dyma’n union gaiff ei gynnig drwy’r cyfleuster hwn. A dweud y gwir, symud yma oedd y penderfyniad gorau i ni. Hyd yma, mae’r cynllun wedi ein darparu ni gyda rhwydwaith arbennig o gefnogaeth, a ni fuaswn i eisiau byw yn unman arall.”

dilynol weld Terry yn symud i swydd fel Cynorthwy-ydd Personol i Gadeirydd cwmni mawr Americanaidd tra bu i Colin fwynhau cyfnod hapus o 32 mlynedd yn gweithio yn yr adran offer i Iceland foods. Bu i’r cwpl hapus briodi yn 2006 a thrwy gydol eu perthynas hirsefydlog maen nhw wedi mwynhau gweld y byd gan ymhyfrydu yn y moroedd tawel a’r tymheredd poeth drwy fynd ar fordaith flynyddol.

NEWYDDIONEICHDATHLU 5

Unwaith imi gyrraedd San Francisco treuliais i bum diwrnod yno ac roedd hi’n boeth iawn. Roedd y ddinas fel darlun, a gan ei bod hi’n ’Wythnos y Llynges’ yno roedd y Llynges yno ym mhob man, ac roeddwn i’n ffodus iawn o gael gweld yr Angylion Gleision – fersiwn America o’r Saethau Cochion – yn hedfan uwch ben y ddinas yn perfformio eu harddangosfa arbennig. Archebais i daith o amgylch y Bae cyn dal hediad byr i LA lle bu imi ymuno â’r Southwest Chief, y trên fyddai’n fy nghludo yn ôl ar draws y wlad i Chicago unwaith eto ar siwrne gyffrous am dridiau arall.

Jane Swinton - Fy nhaith ar draws America

NEWYDDIONEICH

STRAEON GAN BRESWYLWYR…

EFROG NEWYDD Bu imi yna dreulio pedwar diwrnod yn Chicago gan ymweld â Llyn Michigan a mynd ar wahanol deithiau. Dyma’r tro cyntaf imi ymweld â dinas mor hardd a buaswn i’n sicr yn mynd yno eto.

caeau gwenith anferth Kansas, a mynd drwy dwnnel Moffat sy’n arwain i fyny at Denver, gan groesi’r gwahaniad cyfandirol ac afonydd Fraser a Colorado sy’n llifo i mewn i’r Môr Iwerydd a’r Tawelfor.

6

Mae Jane wedi rhannu ei stori anhygoel gyda ni a sut roedd yn teimlo i fod yn annibynnol ac ymgymryd â her mor fawr a chyffrous!

Dyma stori Jane: Bu imi benderfynu, cyn Covid, i roi anrheg 70 mlwydd oed cynnar i fy hun a threfnu’r holl daith fy hun dros fy ffôn!

MAE’R TEITHIWR BRWD SWINTONJANE YN UN YNPHEN-BLWYDDDDATHLUÔLARFORDIRARFORDIRGANEIDAITHYNYNLLYSYCHWANEGOLGOFALYNGPRESWYLWYRO’NNGHYNLLUNRADDINGTONYFFLINT,AC2019AETHARAREIPHENHUNIUDA,FYNDOIACYNARYTRÊNIEI70OED.

Bu imi archebu seti cysgu, sef ystafelloedd bychain, a mwynhau bwyd ar wasanaeth llestri arian yn y bwyty ar bob trên. Dechreuais fy nhaith drwy hedfan i Efrog Newydd ac yna dal y trên i Chicago gan deithio i fyny Afon Hudson, i’r de o ffin Canada, sy’n cymryd 19 awr. Dyma oedd rhan gyntaf fy nhaith, ac roedd yn wych cael cymysgu gyda phobl o bob cefndir yn yr adrannau uwch a’r lolfeydd gwylio ar y trenau deulawr Amtrak hyn.

Es i ar y Californian Zephyr i San Francisco – mae gan y trenau mawr, pellter hir hyn enwau – ac roeddwn i arno am dri diwrnod, yn teithio o Chicago, gan groesi afon fawr Mississippi ac yna i Emeryville, reit drwy ganol BuAmerica.imiweld

TOCYNNAU£20 7

Llongyfarchiadau i’n preswylwyr, Liz ac Anita sydd wedi ennill tocyn siopa gwerth £20 yr un am rannu eu lluniau o ogledd Cymru Elizabeth Barnes – Y Rhyl Anita Bromilow – Glannau Dyfrdwy

NEWYDDIONEICH

LLONGYFARCHIADAU!

YR HAFN FAWR Ar y rhan yma o’r siwrne es i drwy Las Vegas ac o amgylch ymyl deheuol yr Hafn Fawr, ac yna drwy, Albuquerque, yn ôl i fyny drwy Colorado, Dinas Kansas, Iowa, Illinois ac yna i mewn i Chicago. Mae’r wlad mor fawr gallwch chi eistedd am oriau yn mynd drwy gaeau o gnwd india-corn, gan hefyd weld y rhandiroedd. Fe es i hefyd drwy Utah a gweld y ffurfiadau cerrig tywod cochion, a hyd yn oed teithio heibio lle cafodd y ffilm ‘Thelma a Louise’ ei ffilmio, oedd yn wych. Yna, es i yn fy mlaen o Chicago at fy man cychwyn yn Efrog Newydd drwy’r mynyddoedd oedd wedi’u gorchuddio’n anhygoel gan blanhigion deiliant. Roedd i gyd yn wirioneddol ryfeddol ac roeddwn i’n ffodus o gyfarfod â phobl mor ddiddorol – gyda nifer fawr ohonyn nhw’n mwynhau eu hymddeoliad yn teithio ar eu pennau eu hunain fel fi neu gyda ffrindiau. Roedd pobl America mor gyfeillgar; roedden nhw’n rhannu eu hanes gyda mi ac â meddwl agored iawn. Y bobl, ehangder y wlad a sut roedd y golygfeydd yn gallu newid mor sydyn; o gadwyni o fynyddoedd uchel, ceunentydd dwfn, gwastatiroedd anferthol i fynyddoedd helaeth gyda’u lliwiau hydrefol, wnaeth yr holl daith imi. Mae anhygoelanferth,gwrthgyferbyniadauacroeddynwladi’whigam-ogamu a gweld gymaint o amrywiaeth. Bu imi weld ddiwylliannaugwahanolfelybobl Amish yn y gorllewin-canol, a bywyd gwyllt fel heidiau anferth o geirw, a gwartheg yn rhedeg ochr yn ochr â’r trên ac eryr yn glanio yn afon Colorado i hela am eu cinio! Daeth y byd i stop oherwydd Covid yn 2020 a petawn i wedi ei adael tan hynny, fuaswn i byth wedi mynd. Fy nghyngor i unrhyw un sy’n trefnu taith debyg ydy i fynd amdani! Bu imi deithio dros 8,000 milltir ac roedd yn werth pob ceiniog a phob milltir. Fel y dywedais i, roedd y bobl yn groesawgar iawn, yn holgar a chyfeillgar a buaswn i’n ei wneud i gyd eto yn syth!

TACLUSO TRAETH TALACRE Mae’r haf wedi cyrraedd o’r diwedd ac wrth inni groesawu’r tywydd braf bu i Cameron Hughes o’r prosiect Quay a staff ClwydAlyn fynd ati unwaith eto a helpu i gael gwared ar hen lwyni o’r morlin. Bydd ein tenantiaid hefyd yn mynd i Dalacre unwaith y mis tan dymor yr Hydref i helpu’r amgylchedd, dysgu am natur a chyfarfod ag eraill sy’n angerddol dros natur. Diolch ichi am eich holl waith caled! GLANHAU’R AFON y Cyngor eu bod yn oymledol)rhywogaethauachasglusbwrielgwmpasLlysAlarch.

Tom ddaeth o hyd i’r peth mwyaf gwallgof – sef coeden Nadolig! Bydd yr holl sbwriel yn mynd i gael ei sortio a’i ailgylchu lle bo’n bosibl gan Travis Perkins. Y gwirfoddolwyr arbennig oedd Jennifer Toner, Erin O’Donnell,

Ami Jones a’i merch, Andy Frazer, James Howsam, Tom Boome, Ellen Wharton ac Amu Teodorescu. Da iawn a diolch yn fawr ichi gyd!! IAWNDABAWB Bu i Carol Quinn, aelod o’r pwyllgor preswylwyr, gynnal cystadleuaeth lliwio ar un o’n stadau yn y Fflint. Bu i’r holl blant wnaeth gymryd rhan ennill Ŵy Pasg yr un a bu i’r ddau enillydd hefyd ennill tocyn rhodd Amazon. Cafodd yr holl luniau eu harddangos yn ein cynllun Gofal Ychwanegol Llys Raddington CYSTADLEUAETH Y FFLINT Kael Badger 11 Maddie Edwards 7 8

CYMUNEDEICH

Tydy cymuned erioed wedi bod mor bwysig, felly mae’n dda cael tynnu sylw at ychydig o’r gwaith gwych mae ein staff a’n preswylwyr yn ei wneud yn ein cymunedau. Os hoffech chi rannu stori neu ddigwyddiad, anfonwch o at communications@clwydalyn.co.uk

CYMUNEDOL DIWEDDARIAD

Gawn ni roi bloedd fawr i’n tîm o staff wnaeth gymryd rhan yng ngwaith glanhau’r afon o gwmpas Llys Alarch yn ddiweddar. Bu i’r tîm o wirfoddolwyr gasglu llawer o sbwriel o’r afon, cael gwared ar rywogaethau nad oeddynt yn frodorol o lan yr afon (cadarnhaodd

BETH SY’N DIGWYDD YNG NGOGLEDD CYMRU Mae rhywbeth i’w fwynhau bob tro yma yng ngogledd Cymru, ac mae gan Go North Wales galendr lle gallwch chi weld yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd yn ninasoedd, trefi a phentrefi gogledd Cymru, gyda rhai hyd yn oed yn digwydd yn ein cestyll hanesyddol neu ar ein gwahanol draethau arbennig!

CYMUNEDEICH

IAWNDABAWB 9

Cymerwch gipolwg arno www.gonorthwales.co.uk/whats-onyma

DIGON O HWYL Bu i breswylwyr yn Llys y Waun hefyd fwynhau ychydig o weithgareddau’r Pasg. Edrychwch ar yr hetiau Pasg arbennig hyn!

PASG Bu i lawer o’n cynlluniau ddathlu’r Pasg drwy ddod at ei gilydd i fwynhau cystadlaethau Pasg, rafflau, a phartïon Pasg.

CYFRANIADAU WCRÁIN Rydym ni wedi bod yn casglu cyfraniadau i helpu ffoaduriaid Wcráin sydd mewn angen. Mae’n wych gweld faint o bobl sy’n helpu ac rydym ni’n sicr bydd yr holl eitemau sydd wedi’u rhoi yn cael fawr!gwerthfawrogi’neu

TPAS CYMRU Ar ddechrau mis Gorffennaf aeth staff ac aelodau’r pwyllgor preswylwyr i Gynhadledd a Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru. Roedd hi’n ddiwrnod gwych inni, lle bu inni rannu syniadau gyda landlordiaid eraill ac arddangos ychydig o’r gwaith arbennig rydym ni’n ei wneud yma yn ClwydAlyn.

Jiwbilî’r Frenhines Nid yn unig oedd Jiwbilî’r Frenhines yn rhoi inni ŵyl y banc ychwanegol i’w mwynhau, ond daeth â phawb at ei gilydd unwaith eto i ddathlu yn ein cymunedau. Dyma ychydig luniau o’n preswylwyr yn dathlu. CYMUNEDEICH Hafan Cefni Erw Groes Hurst Newton 10

CYMUNEDEICH Llys Marchan Llys y Waun Tan Y Fron Grŵp Ymbarél Tai Gwarchod (SHUG) Digon o hwyl a dathlu 11

CYMUNEDEICH

“LIZZIEFewnaethon ni achub ar y cyfle i symud yma gan fod cynllun y cartref yn fwy agored na’r hyn sydd gennym ni rŵan a gan fod gennym ni ddau o blant bach, ac mae gan y tŷ hwn ardd enfawr o’i chymharu â’r hyn sydd gennym ni. Doedden nhw heb orffen addasu’r cefn lle’r ydym ni rŵan ers llawer, ac roedden nhw wedi troi ein patio yn lle parcio a rhoi drysau dwbl i fynd i mewn i’r ardd.

“ Mae cymaint mwy o le yma ac mae’n hawdd symud o gwmpas. Yma mae’r holl drothwyon wedi’u gwneud felly mae mynediad hawdd yma, mae’r coridor a’r drysau yn llydan, mae gardd fawr, ystafell ymolchi lawr grisiau ac rydym ni’n symud ein lifft grisiau i mewn heddiw. Mae fy mhlentyn bach dwy oed yn llawn egni felly bydd y tŷ hwn yn wych. Mae cael drysau dwbl i fynd i mewn i’r ardd yn wych gan fy mod i’n gallu mynd allan i’r ardd yn hawdd iawn yma. “ Lle’r ydym ni’n byw rŵan mae’r parcio yn ofnadwy, ac mae pawb yn parcio ar yr ymylon gwastad a’r palmant felly alla’ i ddim mynd oddi ar y ffordd neu fynd heibio yn fy nghadair. Mae hyn yn dda fod gennym ni le parcio y tu allan ac mae ein lle ni ydy o, ni all unrhyw un arall barcio yma oni bai amdanom ni sy’n golygu y bydda i’n gallu mynd a dod yn llawer haws.”

CARTREFI AM BYTH I’CH CARTREF NEWYDDI’CH CARTREF NEWYDD 12

llai a doedd dim lle parcio yn lle’r oeddwn i’n byw ac roedd yn anodd iawn gan fod angen imi fynd â’m merch i’r ysbyty yn rheolaidd. Felly mae arna’ i angen rhywle i barcio fy nghar yn agos i’r tŷ.

I’CH CARTREF NEWYDD!

imi symud i rywle

“ROSERoeddangen

“ Mae’n galonogol gwybod bod eich cartref yn effeithlon, rydw i’n un sy’n ailgylchu ac rydw i’n edrych ymlaen at fyw mewn cartref gyda phaneli solar a system wresogi wyrddach. Alla’ i dal ddim credu’r peth a dweud y gwir, rydw i’n edrych ymlaen a bydd fy merch wedi gwirioni, a tydy fy mam sy’n 91 oed heb allu dod i’m tŷ ers saith mlynedd oherwydd doedd dim mynediad addas iddi. Hwn fydd y tro cyntaf bydd hi’n gallu dod i gael paned gyda mi ers blynyddoedd sy’n neis iawn.

Tydych chi ddim yn sylweddoli pa mor anodd ydy mynediad tan nad oes gennych chi o. Mae dyfodol fy merch gyda ffibrosis systig yn un prin, a bob rhyw ychydig flynyddoedd mae rhywbeth gwahanol yn digwydd. Felly mae gwybod bod gen i fynediad i gadair olwyn, ystafell ymolchi lawr grisiau a gwybod fod pethau mewn lle i’r dyfodol petai unrhyw beth yn newid gyda hi yn anhygoel. Mae gwaith saernïol hyd yn oed wedi’i wneud yn yr ystafell fyw ar gyfer lifft o’r llawr i’r to os bydd angen inni fyth ei addasu yn y dyfodol, sy’n wych. Tydw i dal heb wirioneddol fewnoli popeth eto.”

ANSAWDD ARDDERCHOG ARDAL HYFRYD 13

ddymunoGan hapusrwyddpobichiyneichcartrefnewydd

SAMMI “CALLUMARydymniwedi cyffroi yn lân, doedden ni methu credu’r peth pan gawsom ni’r newyddion ein bod ni am ei gael, mae ein tŷ ni mor fach. Mae gennym ni ddwy o genod bach ac mae un ohonyn nhw’n dechrau yn yr ysgol dros y ffordd y flwyddyn nesaf. Rydym ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael dewis y carpedi, aethom ni am liw llwyd ac maen nhw’n neis iawn, rydym ni wedi gwirioni.”

Llongyfarchiadau i’n preswylwyr sydd wedi symud i’w cartrefi newydd yn Glasdir, Rhuthun, Sir Ddinbych! Gyda rhan un wedi’i chwblhau, bu i 18 preswylydd symud i’w cartrefi newydd ar ddechrau mis Gorffennaf. Bydd y 63 cartref i gyd wedi’u cwblhau erbyn gwanwyn 2023

TAI SY’N NEWID BYWYD I RAI O’N PRESWYLWYR…

“CHARLOTTEYnsytharôlimiglywed y newyddion roeddwn i wedi cyffroi yn lân yn arbennig gan ei fod yn newydd sbon. A dweud y gwir roeddwn i wedi dechrau cael llond bol. Roeddwn i ar restr y cyngor erstalwm, ac roedden nhw fwy neu lai wedi dweud wrtha’ i am fynd yn breifat gan nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth imi ac yna bu imi newid fy rhif ffôn y llynedd. Ond pan ddaeth y rhain i’r amlwg daeth Sharon ar fy ôl i, ac ar fy ôl i, ac ar fy ôl i… ei chynnig olaf oedd iddi ddod o hyd i fy nghyfeiriad e-bost ar un o fy ffurflenni a bu iddi lwyddo i gael gafael arna’ i drwy hynny, fel arall fuaswn i ddim wedi ei gael. Petai hi heb barhau, ni fuaswn i yma rŵan. Buasai llawer o bobl wedi rhoi’r gorau iddi ond nid Sharon, bu iddi ddal ati a thrio ei gorau glas ac rydw i’n hynod ddiolchgar. Roeddwn i’n gallu dewis pa loriau oeddwn i eu heisiau ac mae’n hyfryd cael dewis o liw. Dw i wrth fy modd gydag o. “Mae fy mhlant yn mynd i’r ysgol dros y ffordd ac maent wedi gwirioni hefyd. Dw i’n siŵr eu bod nhw’n edrych trwy’r ffenestr rŵan wrth inni symud i mewn, tydyn nhw methu aros i ddod adref nes ymlaen.”

CYMUNEDEICH

CAM 3 Rŵan bod y set wedi’i osod yn ddiogel, sandiwch y pren er mwyn sicrhau ei fod yn esmwyth er mwyn lleihau’r risg o ysgyrion.

Gan ei bod hi’n haf, ac rydym ni’n obeithiol am ychydig o haul, rydw i’n rhannu prosiect uwchgylchu dw i wedi’i gwblhau yn ddiweddar. Mae modd ailddefnyddio paledi mewn sawl ffordd, ond penderfynais greu lle i eistedd y tu allan. Dilynwch fy nghamau syml i ail-greu’r meinciau yma y tu allan:

eu taflu, felly

CAM 4 Peintiwch y cyfan gyda’ch dewis o liw, neu fe allwch chi selio’r paent i gael edrychiad mwy naturiol. Fe wnes i ddefnyddio staen pren ar gyfer yr edrychiad gorffenedig. Fe allwch chi ychwanegu clustogau sy’n dal dŵr i fod yn fwy cyfforddus.

imi eu hachub, trwsio

a’r tair

AUWCHGYLCHUDIY £30ennillBuiLLONGYFARCHIADAUBethanBarroSirDdinbych.ilunuwchgylchuBethantocynAmazongwerthiddi! Mwynha’r gwario

CARTREFEICH

CAM 2 Unwaith byddwch chi wedi penderfynu ar eich cynllun delfrydol bydd angen ichi eu gosod yn eu lle, fe wnes i ddefnyddio dril a sgriwiau fy hun.

a diolch am rannu. Mae’r gwaith gorffenedig yn edrych yn wych! “ Roedd y

AWGRYMIADAU

i wobliad gyda glud pren, eu sandio a’u peintio mewn lliwiau golau shabby-chic . Mae fy mhlant wrth eu boddau gyda nhw!” CYSTADLEUAETHENILLYDD PRESWYLWYRUWCHGYLCHU’R TOCYNNAU£30 14

GAN LAURA Ydych chi eisiau gwella eich cartref heb wario llawer? Ym mhob rhifyn bydda’ i’n rhannu syniad uwchgylchu rhad rydw i wedi’i wneud fy hun. Bethan bwrdd bach cadair cael bu ambell

CAM 1

yn

Bydd arnoch chi angen paledi. Bydd arnoch chi angen digon o baledi i greu maint y dodrefn hoffech chi. Mae llawer o wahanol gynlluniau yn dibynnu ar faint o le sydd gennych chi a pha edrychiad sydd gennych chi mewn golwg.

AWGRYM DA BRESWYLYDDGANARALL AR SUT GALL CROEN OREN HELPU EICH GARDD. Os ydy cathod yn difetha eich gardd, gallwch chi roi croen oren ar wlâu blodau lle dydych chi ddim eisiau iddyn nhw fynd, tydyn nhw ddim yn hoffi hyn felly byddant yn cadw i ffwrdd!

flodeuotywyll,haul,mae’rHefyd,eichgallublodau,blodauDefnyddiwchblwyddyn.felPlannwchHYFRYD.ARDDANGOSFEYDDblanhigionparhaolbodgennychchiflodaubobddalwyr/potiauidyfueichplanhigionamaehynfeleichbodyneusymudogwmpasinewidarddangosfeyddblodau.feallwchchinewidlleplanhigion,e.e.yngngolau’rynycysgod,mewnllefyddbyddhynyneuhelpuiareugoraubosibl! Gall croen oren hefyd helpu gydag unrhyw broblemau gyda gwlithod. Os torrwch chi oren yn ei hanner, tynnu’r cnawd (a’i fwyta) a rhoi’r hanner gwag ar wely blodau (bydd angen ichi osod y gromen am i fyny lle mae gennych chi broblem gyda gwlithod) ac erbyn y bore dylai bod gwlithod yno oddi tanodd. Casglwch nhw a chael gwared ohonyn nhw. Gadewch ycroen yno am ambell i ddiwrnod.

CARTREFEICH RHANNODD MR SOLEK, YCHYDIG ARAWGRYMIADAUOSUTALLWCHCHI GREU

AWGRYMIADAU GARDDIO

InfluenceUs@ClwydAlyn.co.uk i gael eich pecyn o hadau am ddim. Gall plant gymryd rhan hefyd. Cofiwch rannu eich lluniau garddio gyda ni.

AMHADAUDDIM Hadau am ddim, cysylltwch gyda

Mae un o’n preswylwyr o Benrhos, Pwllheli yn arddwr brwd ac wedi rhannu rhai awgrymiadau i’ch gardd ar gyfer yr haf Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau garddio hoffech chi eu rhannu, cysylltwch gyda Laura.Mckibbin@clwydalyn.co.uk

15

DIOGELWCHEICH 16

2. Gwiriwch fod gan stribedi trydan nod ‘cutan diogelwch y DU neu Ewrop ac wedi’u gosod gyda’r ffiws cywir.

1. Peidiwch â gorlwytho socedi a pheidiwch byth â gosod stribedi trydan mewn cadwyn.

8. Os bydd tân, canwch y larwm yn syth er mwyn rhybuddio pobl eraill, peidiwch â chwilio am eich eiddo, EWCH ALLAN AC ARHOSWCH ALLAN, ffoniwch 999 a pheidiwch â dychwelyd i’r eiddo nes bod yr Uwch Swyddog Tân yn dweud ei bod yn ddiogel ichi wneud hynny.

CARTREFEICH

7. Tynnwch ddyfeisiau gwefru o’r plwg pan na fyddwch chi’n eu defnyddio, a gwefrwch eich dyfeisiau ar wyneb cadarn yn unig pan fyddwch chi yno.

3. Gwiriwch yn rheolaidd am geblau sydd wedi treulio neu dorri, plygiau wedi’u difrodi neu ddifrod i gasyn eich dyfeisiau.

Mae Paul, un o’r preswylwyr o’r Trallwng, yn gyn-Dechnegydd Meddygol Brys (E.M.T) gyda’r gwasanaeth Ambiwlans, ac yn awdur ac ymgynghorydd diogelwch gyda chymwysterau IOSH mewn Iechyd a Diogelwch. Bu i Paul sefydlu www.woo-uk.com/info.htm

fel porth gwybodaeth gydag amrediad eang o wybodaeth ddefnyddiol yn ymwneud â diogelwch y cartref a diogelwch personol. Mae hefyd yn nodi manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaethau brys, elusennau, diogelwch ar-lein a llawer o bynciau eraill fel lles. Mae’r wefan sydd am ddim, ac nid-er-elw, yn ddiogel, nid yw’n tracio na storio eich gwybodaeth a does dim hysbysebion arni. Mae Paul hefyd yn angerddol dros ddiogelwch y cartref ac eisiau codi ymwybyddiaeth o’r perygl o orlwytho socedi mewn byd lle yn aml mae arnom ni angen mwy o bwyntiau trydan na’r hyn sydd wedi’u gosod yn ein cartrefi. “ Mae llawer ohonom ni’n dibynnu ar stribedi trydan i roi socedi ychwanegol inni o gwmpas y tŷ, a tydy llawer o’r dyfeisiau trydan hyn heb eu gosod gyda ffiws. Gall y soced wal ymdopi gyda 13 amp yn unig, ond gall y stribedi trydan hyn orlwytho hyn o hyd at 10 gwaith yn fwy, gan achosi iddyn nhw orboethi a chreu perygl o dân. Mae croeso i breswylwyr gysylltu gyda mi dros e-bost, contact@woo-uk.com, i ofyn unrhyw gwestiwn fodd bynnag dylech bob tro geisio cymorth a chefnogaeth cymwysedig.” Hoffwn i rannu fy awgrymiadau gorau gyda phreswylwyr eraill:

4. Cadwch eich dyfeisiau yn lân ac edrychwch yn rheolaidd am dyllau awyru sydd wedi’u cau.

5. Defnyddiwch liniaduron/ llechi ar hambwrdd cadarn ac nid ar ddodrefn meddal neu ddillad gwely

6. Tynnwch bob eitem drydanol o’r plwg pan na fyddwch chi’n eu defnyddio neu yn mynd allan o’r tŷ neu i ffwrdd, oni bai eu bod wedi’u cynllunio i’w cadw ymlaen fel oergell.

I amddiffyn ein preswylwyr rhag y lladdwr cudd hwn rydym ni’n gosod larymau Carbon Monocsid ym mhob un o’n heiddo. Dyma rhai gwiriadau pwysig i gadw eich larymau mewn cyflwr da

• Cadwch eich larymau yn lân – gallwch chi lanhau tu allan y larymau gyda phig cul hwfer a’u sychu gyda chadach glân tamp • Peidiwch â pheintio’r larymau. Gall hyn achosi camrybuddion, amharu ar berfformiad ac efallai gwneud difrod i’r rhannau tu mewn i’r larwm CARBON MONOCSID Mae Carbon Monocsid (CO) yn nwy gwenwynig di-liw, diarogl a di-flas gaiff ei gynhyrchu wrth losgi yn anghyflawn tanwyddau sy’n seiliedig ar garbon fel nwy.

LARWM

LARWM GWRES / CARBBONSYNHWYRYDDSYNHWYRYDDMONOCSIDGWRESCOBOTWMPROFIGOLAU COCH COFIRE BOTWM PROFI METHU EI WELD METHU EI AROGLI METHU EI GLYWED 17

CARTREFEICH

Ni allwch chi ei weld, ei arogli na’i flasu, ond gall CO eich lladd yn sydyn heb rybudd. Hoffwn i rannu fy awgrymiadau gorau gyda phreswylwyr eraill: Bob blwyddyn mae tua 7 person yn marw o wenwyn CO wedi’i achosi gan ddyfeisiau nwy a chyrn simnai sydd heb eu gosod yn iawn, eu cynnal neu sy’n awyru’n wael.

• Profwch eich larymau bob wythnos, mae’n arfer da profi eich larymau tân/ gwres yr un pryd

CARBON MONOCSID

• Yn flaenorol yn Swyddog Cefnogi Tenantiaeth gyda ClwydAlwyn a chyn hynny yn swyddog tai am 28 mlynedd.

• Chwe blynedd o brofiad gyda budd-daliadau anabledd

• Y darn gorau am y swydd ydy helpu ein cleientiaid mwyaf bregus dderbyn budd-daliadau a ffynonellau eraill o gyllid lleol

• Yn flaenorol yn Swyddog Hawliau Lles am bum mlynedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yna RNIB cyn ymuno gyda ClwydAlyn wyth mlynedd yn ôl

• Profiad helaeth o fudd-daliadau etifeddol a budddaliadau anabledd

• Profiad helaeth o asiantaethau allanol arbenigol

LISA BEST

JOANNE ARKSEY

• Y darn gorau am y swydd ydy gwella ansawdd bywyd pobl fel eu bod yn gallu parhau i fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a bod yn llais i’r rhai mwyaf bregus wrth chwilio’r ffordd drwy ein system les gymhleth CHI’N COLLI AR GEFNOGAETH? Yn ôl entitledto.co.uk mae £15 biliwn yn peidio â chael ei hawlio mewn budddaliadau bob blwyddyn yn y DU – sy’n golygu gall

ALLAN

YDYCH

cartref cyffredin fod yn colli allan ar £1,020 drwy beidio â hawlio’r hyn sy’n iawn iddyn nhw ei dderbyn. AM WASTRAFF Visit entitledto.co.uk i weld beth allwch chi ei Doeddhawlio.Irene ddim yn siŵr pa un oedd hi’n ei hoffi fwyaf - y £470 Credyd Pensiwn wnaeth ClwydAlyn ei helpu i dderbyn, neu’r drwydded teledu am ddim gafodd hi oherwydd hyn. Naill ffordd, roedd angen i rywun wylio Love Island. EICH AWGRYMIADAU ARBED ARIAN Dewch i gwrdd â’n Tîm Hawliau Lles a gweld sut allan nhw eich helpu chi gyda’ch arian. CYSYLLTWCH GYDA JOANNE, JANICE NEU LISA AM WIRIAD CREDYD PENSIWN AM DDIM 0800 183 5757 CARTREFEICH 18

• Y darn gorau am y swydd ydy sicrhau bod y bobl yn derbyn y budd-daliadau maent yn gymwys i’w derbyn, yn arbennig os ydyn nhw wedi bod yn ei chael hi’n anodd byw

JANICE PETERSON • Yn flaenorol yn Swyddog Tai gyda phrofiad helaeth o Gredyd Cynhwysol a sut mae’n gweithio gyda’r budddaliadau LCG a LCC newydd.

CARTREFEICH Ffoniwch ni i drafod eich opsiynau 0800 052 6058 Ewch i’n gwefan am ragor o w ybodaeth dwrcymru.com/HelpGydaBiliau £ARBEDWCHHYDAT230 Ydy’ch teulu chi’n cael prydau ysgol am ddim? Wrth i gostau byw barhau i godi, efallai y bydd rhai o’n cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd fforddio talu am bethau hanfodol dros gyfnod yr haf. Rydym yma i’ch helpu, drwy arbed hyd at £230 o’ch bil dŵr. Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol: Credyd Pensiwn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA) Cymhorthdal Incwm Lwfans Cy flogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA) Credyd Treth Plant Credyd Treth Gwaith Credyd GoBudd-dalCynhwysolTaistyngiad/Cymorth Treth Gyngor Mae ein cynghorwyr cyfeillgar yn barod i siarad â chi’n gyfrinachol os dymunwch. 19

Rebecca Elder - Aelod o’r Tîm Asedau

Fe wnes i ymuno â ClwydAlyn bron i naw mlynedd yn ôl, ar ôl penderfynu newid fy ngyrfa o ofal plant. Fe wnes i ymgeisio am eu swydd dan hyfforddiant yn yr

AR...CIPOLWGEICH AELOD O’R TÎM ASEDAU REBECCA ELDER

CIPOLWG AR DDIWRNOD…

Mae’n swydd sy’n rhoi llawer o foddhad sy’n caniatáu imi gymhwyso fy sgiliau a’m gwybodaeth i ddatrys problemau i helpu preswylwyr yn eu cartrefi a sicrhau fy mod yn cyfrannu tuag at genhadaeth ClwydAlyn, ‘Gyda’n gilydd i drechu tlodi’.

EICH Mae’r Tîm Asedau yn gyfrifol am edrych ar ôl holl adeiladau a thir ClwydAlyn. Rydym ni’n gweithio’n galed i sicrhau ein bod ni’n darparu cartrefi diogel i’n preswylwyr. Rydym ni’n adran brysur iawn a does yr un diwrnod yr un peth. Bu imi symud ymlaen o fewn y tîm ac rydw i wedi bod yn gweithio fel Swyddog Rheoli Asedau (SRhA) ers pedair blynedd. Rydw i’n un o chwe SRhA ac yn edrych ar ôl clwstwr o bron i 1,000 o dai. Prif ran o’m swydd ydy cynnal archwiliadau yn y tai, i sicrhau eu bod yn ddiogel, gynnes a Petaifforddiadwy.preswylydd yn rhoi gwybod am broblem gyda’u cartref sy’n mynd y tu hwnt i atgyweiriadau cynnal a chadw cyffredinol, mae’n debygol y byddant yn cael archwiliad gan SRhA. Bydd y Swyddog yn penderfynu sut i ddatrys y broblem orau ac os bydd angen, yn trefnu bod y gwaith yn cael ei gwblhau. Does dim ‘diwrnod arferol’ imi, rhai diwrnodau bydda’ i’n ymweld â nifer o dai preswylwyr ac yn cynnal archwiliadau; rhai diwrnodau rydw i’n archwilio adeiladau cymunedol i gyd neu eiddo gwag yn fy nghlwstwr, ac yna mae rhai diwrnodau lle rydw i’n ymateb i argyfyngau fel difrod tân neu lifogydd. Mae’r swydd hon yn sicr yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed, ac fel maen nhw’n ei ddweud, mae pob ddiwrnod yn ddiwrnod ysgol. Rydw i’n mwynhau’r rhyddid ddaw gyda’m swydd, ac nad ydw i’n gorfod aros mewn un lleoliad neu o flaen cyfrifiadur bob dydd. Rydw i’n mwynhau amrywiaeth y gwaith rydw i’n ei wneud fel SRhA; rydw i’n mwynhau cyfarfod pobl newydd a gweithio gyda’n preswylwyr; Adran Cynnal a Chadw Eiddo ClwydAlyn, a chontractwyr allanol. Mae ymdeimlad gwych o weithio fel tîm, ac rydym ni i gyd yn gweithio tuag at gyflawni’r un nod.

Adran Ddatblygu ac ar ôl bron i dair blynedd o ddysgu dwys, bu imi gymhwyso fy ngwybodaeth am adeiladu, adnewyddu a chynnal a chadw tai i sicrhau swydd o fewn y Tîm Asedau.

20

AR...CIPOLWGEICH MANTEISIONPECYN Os hoffech chi weithio i ClwydAlyn rydym ni’n diweddaru ein tudalen Gweithio Gyda Ni yn rheolaidd yma www.clwydalyn.co.uk/work-for-us Rydym ni’n cynnig pecyn manteision sy’n cynnwys aelodaeth o gynllun pensiwn gyda chyfraniadau yr un fath gan y cyflogwr o hyd at 8%, cynllun beicio i’r gwaith, tocynnau gofal golwg a phecyn lles ariannol, 25 o ddiwrnodau gwyliau gyda Gwyliau’r Banc ar ben hynny sy’n arwain at 30 diwrnod, yswiriant bywyd, rhaglen EAP a phecyn hyfforddiant cynhwysfawr, i gyd o fewn sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd gyda diwylliant gwych. LLWYBR AT FOD YN SWYDDOG RHEOLI ASEDAU (SRhA) NOD: Datblygu a thyfu ar y llwybr datblygu gyrfa i ddod yn Swyddog Rheoli Asedau cymwys DYSGWCH SUT I • Asesu ac archwilio eiddo a chynnal Gwiriadau Iechyd Cartrefi • Trafod anghenion preswylwyr o ran eu heiddo • Cynnal stoc dai ac asedau eiddo’r cwmni i safon uchel ac yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. • Diweddaru’r pecynnau TG mewnol ar gyfer rheoli cyflwr stoc • Dilyn a RheoliadaugweithreduIechyd a Diogelwch •HYFFORDDIANT: Cofrestrwch am HNC Adeiladumewn • Ewch i hyfforddiant Iechyd a perthnasolDiogelwch SWYDDOG RHEOLI ASEDAU (SRHA) SGÔP Y SWYDD: • Darparu gwasanaeth cynnal a chadw cynhwysfawr, ymatebol, cynlluniedig a chylchol i breswylwyr a chleientiaid ClwydAlyn a darparu cefnogaeth dechnegol, lle bo’n briodol, i’r tîm Cynnal a Chadw. HYFFORDDIANT/CYMWYSTERAU• HNC Adeiladu neu gyfwerth • Aelodaeth CIOB • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch parhaus • Datblygiad proffesiynol parhaol parhaus 21

Gallwch chi FyClwydAlynddefnyddiounrhywbryd i: - Weld eich gwybodaeth fel tenant Gweld eich balans rhent Gweld hanes eich cyfrif - Talu eich rhent - Cofnodi gwaith atgyweirio Rhoi gwybod am broblem

AR...CIPOLWGEICH 22

CroseoRheolwch tenantiaetheichar-lein!

Pam FyClwydAlyn?defnyddio

Rydym ni’n gwybod eich bod chi’n brysur felly rydym ni eisiau gwneud pethau’n hawdd a chyflym ichi reoli eich tenantiaeth; dyna pam rydym ni wedi lansio FyClwydAlyn, gwasanaeth diogel, ar-lein ac am ddim i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

clwydalyn.co.uk/MyClwydAlyn Gobeithio y dewch chi o hyd i bopeth sydd arnoch chi ei angen yno. Arbedwch amser a dechreuwch reoli eich tenantiaeth unrhyw bryd, unrhyw le. www.myclwydalyn.co.uk

Preswylydd.Cwestiwn Oes rhaid imi ffonio i dalu fy rhent neu oes ffordd haws o wneud Atebhynny?eich cwestiynau Blwch post Os oes gennych chi gwestiwn hoffech chi gaelateb iddo yn y cylchlythyr anfonwch e-bost at communications@clwydalyn.co.uk JamesClwydAlynAtebCozens, Swyddog Marchnata Mae’r porth FyClwydAlyn i breswylwyr wedi bod ar fynd ers dros flwyddyn bellach ac mae’n cynnig mynediad hawdd at unrhyw un o’ch anghenion tai. Dyma’r ffordd fwyaf poblogaidd erbyn hyn i dalu eich rhent! Ewch draw i FyClwydAlyn yma www.myclwydalyn.co.uk/ Gallwch chi dalu eich rhent unrhyw le, unrhyw bryd a hyd yn oed cofnodi a chadw llygad ar unrhyw atgyweiriadau yn eich cartref. Diolch Porth iAmFyClwydAlynfwyowybodaethamFyClwydAlyn,gangynnwyssutigreucyfrifacamatebionraicwestiynaucyffredin,ewchi:

CYSGUDigwyddiad ALLAN

DIGWYDDIAD CYSGU ALLAN08HYD

NESAFDIGWYDDIADAUEICH 23

Eleni fydd pen-blwydd ein Digwyddiad Cysgu Allan yn 10 oed ac rydym ni’n gwahodd pawb i gymryd rhan. Dros y 9 mlynedd diwethaf, mae ein staff, preswylwyr a phartneriaid wedi codi dros £50,000 drwy gyfnewid eu gwlâu cynnes a chlyd am sach gysgu a bocs cardfwrdd. Caiff yr arian ei godi er mwyn cefnogi ein gwasanaethau i’r digartref a gwasanaeth hollbwysig Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru sy’n achub bywydau. Bydd y digwyddiad Cysgu Allan yn digwydd nos Sadwrn 8fed o Hydref 2022. Byddwch yn barod, dros y misoedd nesaf byddwn ni’n rhannu mwy o wybodaeth ar sut allwch chi ymuno yn yr hwyl a helpu i godi arian!

6. Rhowch ychydig o olew olewydd dros y tatws ac yna’r paprica mwg ar eu pennau.

RYSÁITEICH HAFAIDDBWYD

4. Unwaith bydd eich tatws wedi’u torri’n denau, rhowch nhw mewn tun rhostio.

8. Rhowch ysgydwad da i’r tatws gan wneud yn siŵr eu bod wedi’u gorchuddio’n dda gan yr olew, paprica a’r halen a phupur.

3. Ailadroddwch y broses hon gyda phob taten.

CYNHWYSION: 12 taten fachganolig 4 ewin garlleg 2 lwy de o Baprica Mwg

Mae ein partneriaid Wellfed – Can Cook yn rhannu rysáit ysgafn a hafaidd ichi roi cynnig arni, nid yw’n costio llawer ac mae’n iachus. Gallwch chi weld mwy o’u ryseitiau, neu brynu eu prydau maethlon rhad yma www.cancook.co.uk

7. Yn olaf, ychwanegwch binsiad hael o halen a phupur.

9. Rhostiwch nhw yn y popty am 45 munud i awr neu nes eu bod yn euraidd ac wedi’u crimpio.

5. Piliwch eich ewin garlleg a’u taflu i mewn gyda’r tatws.

4 person

24

OlewPupurHalenOlewydd OFFER: Llwy PoptyTunCyllellfawrfiniogrhostio Efallai mai dyma’r ffordd fwyaf crand o weini eich tatws ond peidiwch â chael eich twyllo gan eu hedrychiad allanol – tydyn nhw’n ddim anoddach i’w gwneud na’ch sglodion cartref arferol ond gyda deg gwaith mwy o flas.

1. Cynheswch eich popty i 200° C / 180° C fan/marc nwy 6.

Tatws Hasselback

2. I ddechrau, rhowch eich taten gyntaf ar lwy reit fawr neu lwy bren. Gan ddefnyddio cyllell finiog, torrwch i mewn i’r daten yn denau nes bod y gyllell yn cyrraedd y llwy – bydd hyn yn sicrhau nad ydych chi’n torri’r holl ffordd drwy’r daten. Dechreuwch ar un ochr y daten a pharhewch i dorri’n dafelli tenau nes eich bod wedi cyrraedd yr ochr arall.

Rydym ni’n deall bod costau byw wedi rhoi straen fawr ar lawer ohonom ni. Rydym ni’n credu na ddylai unrhyw un fyth orfod poeni am o ble daw eu pryd nesaf, ond yn anffodus nid dyma’r achos! Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd a gyda’i gilydd maent darparu bwyd a chefnogaeth mewn argyfwng i bobl sydd dan grafangau tlodi. Efallai bod arnoch chi angen mynediad at y gefnogaeth hon neu efallai eich bod adnabod rhywun sydd ei hangen. Am wybodaeth am eich banc bwyd lleol, dilynwch y ddolen hon: www.trusselltrust.org/get-help/find-a-foodbank Byddwch barodgennychgyda’rarbrofwchgreadigolynachynsyddchi’n Os ydych yn tyfu bwyd, gymydogdrosunrhywrhowchfwydbeni lysiauDefnyddiwchdrosben i wneud benRhowchcawl.raidrosynyrhewgell Cynlluniwch o flaen llaw drwy wneud rhestr o brydau ar gyfer yr wythnos cyn mynd i siopa AWGRYMIADAU DA # DIWRNODRHOIDIWEDDARWASTRAFFBWYD 25

ClwydAlyn.co.uk @ClwydAlyn Eich CystadleuaethAmgyfleiennill;ysgrifennwcheich enw llawn, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad. Anfonwch o at gyfeiriad ein Prif Swyddfa72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD Anfonwch neges destun at: 07880 431004 e-bost at InfluenceUs@clwydalyn.co.uk RHIFENW CYFEIRIADFFÔN EBOST CYFEIRIAD 10.9.8.7.6.5.4.3.2.1. Y dyddiad cau ydy 30ain Medi 2022 Cystadleuaeth Gweld Gwahaniaethy LLONGYFARCHIADAU I ENILLWYR RHIFYN Y GWANWYN wnaeth ennill tocyn siopagwerth £25 yr un… cofiwch gystadlu yn ein cystadleuaeth llawn hwyl am gyfer i ennill. Cara Owen Conwy Marion Ross Hafan Gwydir Shirley Higgings Sir y Fflint Cyfle ichi ennill gwerth £25 o docynnau Amazon Cystadleuaeth lliwio

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.