3 minute read

Datblygiadau

NEUADD MALDWYN

BYW’N ANNIBYNNOL I BOBL HŶN

Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen ar ddatblygu Neuadd Maldwyn, ar Ffordd Hafren, y Trallwng, i’w droi yn fflatiau byw’n annibynnol i bobl hŷn. Mae adeilad hanesyddol Neuadd Maldwyn yn cael ei adfer a’i ymestyn mewn modd cydnaws fel rhan o’r rhaglen..

Bydd y cynllun yn cynnwys 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely o safon uchel ar rent, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio.

Bydd y gwasanaethau rheoli tai a’r gwasanaethau ategol yn cael eu darparu gan ClwydAlyn, tra bydd Cyngor Sir Powys yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu gofal cartref ar y safle. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal y Trallwng neu sydd â chysylltiadau clos ag ardal y Trallwng. www.clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn

Mewn partneriaeth â: DYDDIAD CWBLHAU ARFAETHEDIG 2024

SUT MAE YMDDEOLIAD HEB OFAL A HEDDYCHLON YN SWNIO? DELFRYDOL?

RYDYM NI’N MEDDWL HYNNY HEFYD OND PEIDIWCH Â CHYMRYD EIN GAIR NI AM Y PETH...

I lawer o’n preswylwyr, mae byw yn ein cynlluniau byw’n annibynnol wedi newid eu bywydau ac nid ydynt wedi edrych yn ôl o gwbl. Dyma beth mae rhai o’n preswylwyr yn ei feddwl am fyw yn ein cynlluniau...

Mike yn Llys Raddington, Y Fflint Mona ym Maes y Dderwen, Wrecsam

“ Rwyf wedi bod yma ers i’r cynllun agor 4 mlynedd yn ôl, ac mae fy fflat 1 ystafell wely yn berffaith i mi. Y pethau gorau am fyw yma yw nad wyf fi byth ar fy mhen fy hun, mae’r cynllun mor agos i’r siopau, ac rwy’n mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau fel bingo ac ati. Rwyf hefyd eisiau diolch i’r gofalwyr am fod yna i mi yn ddiweddar pan oedd arnaf eu hangen. Mae’n wych cael y cymorth yna ar y safle ac rwy’n falch iawn fy mod wedi symud yma.” “ Symudais i fy fflat fis Tachwedd diwethaf. Rwyf wedi gwneud nifer o ffrindiau newydd a mwynhau’r cwmni a’r tynnu coes sy’n mynd ymlaen yn y boreau coffi ac ar amser bwyd! Er nad oes arnaf angen gofal ychwanegol fy hun, rwy’n gweld bod y staff yn gyfeillgar iawn ac yn ofalgar i’r rhai sydd ei angen. Nid wyf yn difaru symud yma o gwbl er ei bod yn anodd gorfod gadael fy nhŷ a’r ardd ond mae’r profiad o fyw yma yn gwrthbwyso hynny’n llwyr. Mae gan fy nheulu dawelwch meddwl o wybod fy mod mewn amgylchedd diogel a saff.”

EIN CYNLLUNIAU

• • • • • • • • • Hafan Gwydir, Llanrwst, Conwy Tan y Fron, Llandudno, Conwy Plas Telford, Wrecsam Maes y Dderwen, Wrecsam Llys Eleanor, Shotton, Sir y Fflint Llys Raddington, Y Fflint, Sir y Fflint Gorwel Newydd, Y Rhyl, Sir Ddinbych Hafan Cefni, Llangefni, Ynys Môn Neuadd Maldwyn, Y Trallwng, Powys – Yn cael ei ddatblygu

MYNEGWCH DDIDDORDEB MEWN CYNLLUN

Efallai bod gennych ddiddordeb mewn byw yn un o’n cynlluniau byw’n annibynnol eich hun neu efallai eich bod yn meddwl am rywle i aelod o’r teulu neu ffrind fyw. Pam na wnewch chi gael rhagor o wybodaeth, a chofrestru eich diddordeb mewn cynllun, ffoniwch 0800 183 5757, e-bost: help@clwydalyn.co.uk.

This article is from: