
1 minute read
Awgrymiadau diogelwch at y gaeaf i’ch cartref – Chris Roberts
from Home Matters Welsh
by ClwydAlyn
EICH CARTREF EICH DIOGELWCH
CADW’N DDIOGEL Y GAEAF HWN
CHRIS ROBERTS
Mae ein Pennaeth Cydymffurfio a Diogelwch Adeiladau hefyd yn ddyn tân ar alwad. Mae Chris wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i annog ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân i’n staff a’n preswylwyr. ISOD MAE RHAI AWGRYMIADAU AR SUT I GADW’N GYNNES AC YN DDIOGEL Y GAEAF HWN
Mae’n bwysig cadw at y cyngor diogelwch canlynol i helpu i leihau’r risg o dân yn eich cartref wrth i chi gymryd camau ychwanegol i gadw’n gynnes.
Byddwch yn ofalus o gwmpas tân agored. Defnyddiwch warchodydd tân a sicrhau bod eich simnai yn lân Cadwch wresogyddion symudol oddi wrth lenni a dodrefn a pheidiwch byth â’u gorchuddio. Cadwch flancedi trydan yn wastad neu wedi eu rholio, peidiwch byth â’u plygu.
Peidiwch â’u defnyddio os yw’r gwifrau’n hen neu wedi cael difrod. Cadwch ganhwyllau’n syth, mewn daliwr addas a pheidiwch byth â’u gadael heb rywun yn yr ystafell. Diffoddwch yn iawn bob amser. Os byddwch chi yn profi toriad trydan a bod gennych larymau mwg ar y prif gyflenwad, gwiriwch bod y batri wrth gefn yn gweithio Os bydd tân, ewch allan, arhoswch allan a ffonio 999 ar unwaith.
Os ydych yn cael trafferth fforddio cynhesu eich cartref mae gan Lywodraeth Cymru gyllid i helpu. Dilynwch y ddolen isod i ddarllen rhagor ac ymgeisio (https://gov.wales/wales-fuel-support-scheme-2022-2023)
Gallwch hefyd siarad â’ch Swyddog Tai neu ein ffonio ar 0800 1835757. Rydym yma i’ch helpu.
CROESO CYNNES
Bydd y gaeaf hwn yn anodd i lawer gadw’n gynnes, o ystyried hynny mae llawer o sefydliadau’n dod at ei gilydd i gynnig lle cynnes trwy gynnig lloches gynnes, sgwrs neu baned. Mae Croeso Cynnes - Menter Môn wedi creu map lle gallwch chi weld lle mae lle cynnes yn lleol i chi. www.mentermon.com/en/croeso-cynnes/
Wyddech chi bod llawer o lyfrgelloedd cyngor yn cynnig lle cynnes hefyd, yma gallwch fwynhau amgylchedd cynnes cyfeillgar, gallwch ddysgu rhywbeth newydd, defnyddio eu cyfleusterau ar-lein a chymdeithasu trwy grwpiau hefyd. www.libraries.wales