3 minute read

Eich cip olwg ar ddiwrnod ym mywyd... Ein Peirianwyr

EICH CIP OLWG AR... Eich cip olwg ar ddiwrnod ym mywyd… Ein Peirianwyr

MARCUS SCOTT (Peiriannydd Plymio) “ Deuthum i’r swydd ar ôl gweithio am 8 mlynedd gyda M A COOPER PROJECTS (MACP) fel Peiriannydd Plymio wedi cymhwyso’n llawn. Yn ystod fy nghyfnod yn MACP roeddwn yn helpu i osod y system blymio a gwresogi yng nghynllun gofal ychwanegol Llys Raddington. Tra’r oeddwn ar y safle fe wnes i hefyd waith pellach i fy rheolwr presennol, Nigel Blackwell.

Fe welais y swydd yn cael ei hysbysebu ac roeddwn yn meddwl ei bod yn edrych yn dda iawn ac mi wnes gais. A minnau’n dod o gefndir masnachol, roedd yn benderfyniad mawr, ond rwyf wedi bod yma am 5 mis erbyn hyn ac wrth fy modd. Rwy’n ymweld â chartrefi pobl dros Ogledd Cymru i gyd i wneud gwaith ac rwy’n mwynhau siarad hefo’r preswylwyr. Os byddwch chi’n cael trafferth gyda gwaith, mae’r tîm yno bob amser i’ch helpu, ac ni allaf feddwl am le gwell i weithio.

Mae gennyf hefyd gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, ac yn gweithio 1 penwythnos allan o 5, mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer fy mywyd gartref. Byddwn yn annog unrhyw un i ymgeisio, gallaf yn sicr argymell ClwydAlyn.”

ADAM WILKINSON (Gweithiwr Tir Dan Hyfforddiant) “Ar ôl 10 mlynedd yn gweithio ar y rheilffyrdd, fe welais swydd Gweithiwr Tir Dan Hyfforddiant hefo ClwydAlyn ar wefan Indeed ac ymgeisio.

Rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Ers Ionawr rwyf wedi gweithio ar draws Gogledd Cymru, yn helpu preswylwyr i drwsio, gwaith cynnal a chadw cyffredinol ac rwyf hefyd yn ymdrin â phroblemau draeniad hefyd.

Rwyf wrth fy modd hefo’r amgylchedd gwaith yma a’r ffordd y mae pob swydd yn wahanol. Mae’r hyfforddiant mewnol yn wych, mae digonedd o gefnogaeth ac mae llawer mwy i weithio yn ClwydAlyn nag yr oeddwn yn ei feddwl. Fe fyddwn yn argymell y gwaith i unrhyw un gan fod y gwaith wedi ei warantu ac mae’n wych o ran sefydlogrwydd. Rwyf wedi gweld bod y cwmni’n mynd y filltir ychwanegol i helpu teuluoedd sy’n ei chael yn anodd, ac mae fy rheolwyr bob amser yn rhoi amser i esbonio pethau, sy’n lleihau straen yn wirioneddol.

Yn bennaf oll dwi’n hoffi helpu pobl ac rwy’n edrych ymlaen at weithio rhagor yn y swydd, rhagor o hyfforddiant, ac rwyf wedi cyffroi i weld i ble mae’n fy arwain.”

PECYN BUDDION PECYN BUDDION CLWYDALYN

Rydym yn cynnig pecyn buddion gan gynnwys aelodaeth o gynllun pensiwn gyda chyfraniadau cyfatebol gan y cyflogwr hyd at 8%, cynllun beicio i’r gwaith, talebau gofal llygaid, gostyngiadau hamdden a manwerthu, pecyn llesiant ariannol, 25 diwrnod o wyliau a Gwyliau Banc yn arwain at 30 diwrnod, yswiriant bywyd, rhaglen EAP, ynghyd â phecyn hyfforddi cynhwysfawr y cyfan mewn sefydliad wedi ei seilio ar werthoedd â diwylliant gwych!

We Mind the Gap

DYSGU’N SEILIEDIG AR WAITH

DFN Project Search

Mae ClwydAlyn yn falch o gefnogi Prosiect Search a WeMindTheGap ers blynyddoedd lawer.

Eleni, bydd ein tîm cynnal a chadw yn cynnig amrywiaeth o leoliadau i’r ddwy raglen i roi profiad i’r dysgwyr o grefftau fel Plymio, Trydan, Peintio ac Addurno, Gwaith Coed a Chynnal a Chadw Tiroedd.

Gan weithio mewn partneriaeth â HFT, Cyngor Sir y Fflint a ClwydAlyn, mae Prosiect Search DFN yn cynnig cyfleoedd dysgu yn y gwaith hanfodol i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i’w helpu i gael swyddi ystyrlon, cyflogedig. Mae WeMindTheGap yn cynnig 6 mis o gyflogaeth i ddynion sy’n preswylio yn Sir y Fflint, 18-25 oed, sy’n cael eu tanwasanaethu, yn ddifreintiedig neu fregus mewn rhyw ffordd. Ochr yn ochr â hyn maent yn cynnig sgiliau hyfforddiant bywyd, mathemateg a Saesneg a phrofiad gwaith ystyrlon.

This article is from: