3 minute read

Cynllun treialu trwsio DIY Preswylwyr

EICH NEWYDDION GWASANAETH TRWSIO DIY PRESWYLWYR

WEDI EI LANSIO’N SWYDDOGOL!

Ychydig fisoedd yn ôl fe wnaethom ddweud wrthych am ein cynlluniau i redeg cynllun peilot oedd yn gadael i aelodau o Dylanwadwch wneud eu mân waith trwsio eu hunain yn eu cartrefi.

Fel rhan o’r cynllun treialu, rhoddwyd cyfle i breswylwyr a ymunodd wneud y mân waith trwsio eu hunain a rhoddodd ClwydAlyn y deunyddiau iddynt pan oedd angen.

Rhoddodd gyfle i’r rhai oedd yn treialu’r peilot i guro’r ciwiau ac osgoi’r amseroedd aros i gael trefn ar y mân swyddi hynny.

Yn dilyn eu hadborth cytunwyd y bydd cynllun Trwsio DIY Preswylwyr yn cael ei gyflwyno i holl breswylwyr ClwydAlyn.

Dywedodd Carl Taylor, Rheolwr Gweithrediadau,

ClwydAlyn: “ Awgrymwyd y cynllun gan aelod o’r

Pwyllgor Preswylwyr, gan gynnig y cyfle i breswylwyr gyflawni gwaith trwsio sylfaenol eu hunain, gyda ni’n rhoi’r deunyddiau neu rannau iddynt naill ai wedi eu dosbarthu neu trwy drefniant i’w casglu.

“ Roedd y cynllun treialu cychwynnol yn llwyddiant mawr gydag aelodau o’r

Pwyllgor Preswylwyr a Dylanwadwch yn gwneud tasgau DIY bach oedd ganddynt yn eu cartrefi gan roi adborth am eu profiad yn ôl i ni.”

Mae Gemma Minards yn un o’n preswylwyr a gymerodd ran yn y cynllun peilot ac a wnaeth nifer o fân atgyweiriadau yn ei gardd.

Dywedodd: “ Roedd mor syml. Fe dynnais luniau o’r mân waith trwsio oedd angen eu gwneud i giât yr ardd a’r ffens a’u hanfon at aelod o’r Tîm Cynnal a

Chadw. Yna fe wnaethant ddarparu’r rhannu oedd arnaf eu hangen i mi ac ar ôl i’r rhannau gyrraedd fe gymerodd tua 20 munud i mi osod 2 golyn bach a chlo ar fy ngiât, ac fe wnaeth fy ngŵr drwsio’r ffens.

“ Roedd yr holl ddarnau a gefais yn iawn, ac i mi roedd y gwasanaeth yn gyfleus iawn, ddim yn gorfod aros i’r staff wneud y gwaith, oedd i’r dim i mi a minnau’n fam i 3 o blant ifanc. Hefyd fe wnaed y gwaith trwsio’n gyflym!

“ Roedd hyn yn brofiad gwych i mi, ac roeddwn yn barod iawn i gymryd rhan yn y cynllun peilot Gwnaeth y ffaith bod y Tîm Cynnal a Chadw wedi ymateb mor gyflym i fy nghais cyntaf am waith trwsio argraff fawr arnaf ac rwyf yn falch o’r hyn wnes i ei gyflawni ar fy mhen fy hun. Rwy’n meddwl y bydd hyn yn rhoi hyder i bobl i wneud mwy o’u mân waith trwsio eu hunain yn eu cartrefi.“

GWASANAETH TRWSIO DIY PRESWYLWYR

Ychwanegodd Carl Taylor: “ Mae’r Tîm Cynnal a Chadw yn brysur bob amser a thrwy’r flwyddyn gall y galw ar y gwasanaeth hwn amrywio gan ddibynnu ar amrywiaeth o bethau fel tywydd gwael. Mae hyn yn golygu y gall preswylwyr orfod aros ychydig yn hwy nag y byddem yn hoffi er mwyn i waith trwsio gael ei wneud.

“ Mae’n wych ein bod yn gallu cyflwyno’r cynllun hwn i’n holl breswylwyr, a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth wella’r gwasanaeth, yn ogystal â rhoi cyfle i’n preswylwyr wneud mân waith trwsio fel trwsio rheiddiaduron, drysau a ffensys ac ati.”

Trwy gwblhau eich mân waith trwsio eich hun, gallwch leihau’r amser yr ydych yn aros am waith trwsio a gallwch wneud y gwaith pan fydd yn gyfleus i chi. Mewn rhai achosion, gall hyn leihau’r angen i chi gymryd amser o’r gwaith er mwyn i’r tîm trwsio gael mynediad.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud eich gwaith trwsio eich hun, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt ClwydAlyn ar 0800 1835757 lle bydd aelod o’r tîm yn trafod y broses hefo chi.

This article is from: