3 minute read

Awgrymiadau garddio Cadw Cymru’n Daclus - hawliwch hadau am ddim gan #Dylanwadwch

EICH CARTREF AWGRYMIADAU GARDDIO

gan Wendy Jones Cadw Cymru’n Daclus

Efallai ei bod yn ymddangos bod natur wedi mynd i gysgu ar yr adeg yma o’r flwyddyn, wrth i’r clociau droi, ac i’r nosweithiau fynd yn hwy. Ond wrth i oriau’r dydd fyrhau, mae hyd yn oed yn bwysicach gwisgo’n gynnes a mynd allan i fwynhau manteision awyr iach a golau’r haul i godi eich hwyliau.

Hyd yn oed os ydi hi’n oer neu laith, rwy’n ceisio mynd allan ac arogli’r awyr. Credir bod pobl sy’n treulio dwy awr yr wythnos, neu tua 20 munud y dydd tu allan yn natur yn teimlo’n iachach yn gorfforol a meddyliol na’r rhai nad ydyn nhw. Mae bywyd wastad yn haws pan fyddaf wedi treulio amser yng nghanol natur. Fel rhan o fy rôl yn Cadw Cymru’n Daclus, rwy’n lwcus iawn o fod yn gallu helpu grwpiau cymunedol i wella eu hamgylchedd lleol. Trwy daclo ysbwriel trwy ein prosiect Caru Cymru neu greu mannau i bobl a natur ffynnu, gyda’n pecynnau grant Lleoedd i Natur. I mi, mae’r amser yma o’r flwyddyn yr un mor bwysig ar gyfer plannu â’r gwanwyn a’r haf cynnar, ac yn aml fe allwch fy ngweld yn fy welingtons yn plannu coed. Nid oes gan bawb le i dyfu coedwig neu hyd yn oed berllan, ond fe allwn ni i gyd gael y manteision o dyfu, boed yn fwyd i’r teulu, blodau i’r enaid neu gactws yn y gegin. Ar yr adeg yma o’r flwyddyn, rwy’n hoffi cymryd golwg iawn ar yr ardd. Dwi’n meddwl beth oedd y teulu a minnau wedi mwynhau eu tyfu a’u bwyta eleni, beth wnaeth dyfu’n dda, neu ddim mor dda, beth allwn i fod wedi ei wneud i wella’r cynnyrch, ac yn bwysicaf oll rwy’n cyffroi am y pethau hardd a blasus y byddwn yn hoffi eu tyfu’r flwyddyn nesaf! Mae gennyf rai cnydau caled yn dal i’n cadw i fynd trwy’r gaeaf, fel gorfetysen, cêl ac ysgewyll. Mae diwedd yr hydref a dechrau’r gaeaf yn amser delfrydol i blannu garlleg a rhai mathau o nionod i’w cynaeafu haf nesaf. Er bod fy ngwely llysiau’n llai llawn, rwy’n hoffi chwynnu a rhoi tail wedi pydru’n dda, gweddillion dail neu gompost cartref drosto i wella strwythur y pridd ac ategu maethynnau ar gyfer y tymor canlynol. Yn bennaf oll i mi, mae’r amser yma o’r flwyddyn yn ymwneud â myfyrio, fel y dail euraidd sy’n disgyn, rwy’n mwynhau fy synhwyrau gorffwys, ail wefru’r batris a pharatoi i’r gwanwyn nesaf ffrwydro.

Am ragor o wybodaeth am brosiectau Cadw Cymru’n Daclus yn eich ardal, neu i weld sut i gymryd rhan, ewch i’n gwefan www.keepwalestidy.cymru

HADAU AM DDIM

Cysylltwch â #Dylanwadwch i gael eich pecyn o hadau am ddim.

Gadewch i ni wybod os hoffech chi lysiau, ffrwythau, hadau plannu cyffredinol, gall hyn fod ar gyfer y tu mewn i’r tŷ neu yn yr awyr agored. Anfonwch eich cais trwy e-bost at InfluenceUs@clwydAlyn.co.uk neu ffoniwch 07880431004

Preswylwyr yn LLYS ERW, RHUTHUN

DA IAWN I BAWB

Mae preswylwyr yn Llys Erw, Rhuthun wedi dechrau gwella eu hardal gymunedol, ar ôl bod yn llwyddiannus yn cael grant.

Cychwynnodd gwirfoddolwyr o blith y preswylwyr a Chadw Cymru’n Daclus trwy osod gwelyau uchel newydd a thŷ gwydr.

This article is from: