1 minute read

Cartrefi fforddiadwy

EICH CYMUNED CARTREFI FFORDDIADWY

Beth yw eiddo rhent canolraddol? Rhent canolraddol yw tai sydd â’r bwriad o roi dewis rhentu ychwanegol i aelwydydd ar incwm is, gan ddarparu cartrefi diogel, fforddiadwy, o safon uchel ar rent sy’n is na’r farchnad. Mae gan ClwydAlyn eiddo rhent canolraddol ar draws Gogledd Cymru ac mae’r rhain yn cael eu dyrannu trwy Gofrestr Cartrefi Fforddiadwy Tai Teg.

Os oes gennych incwm gros yr aelwyd yn flynyddol rhwng £16,000 a £45,000 (gall gynnwys budd-daliadau) a’ch bod angen tai fforddiadwy, gallech chi fod yn gymwys ar gyfer cynllun Rhent Canolradd.

Os hoffech chi wybod os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn gymwys, ewch i: www.taiteg.org.uk

CYSYLLTU POBL GYDA CYFLEON TAI

CONNECTING PEOPLE WITH HOUSING OPPORTUNITIES

A YDYCH YN GYMWYS?

• Rydych yn 18 oed neu hŷn • Yn gweithio ag incwm gros yr aelwyd yn flynyddol rhwng £16,000 a £45,000 (gall gynnwys budd-daliadau) • Yn brynwr tro cyntaf neu eich cartref presennol yn anaddas ac nid yw’n bodloni anghenion eich teulu • Nid ydych yn gallu fforddio rhentu ar y farchnad agored a / neu brynu eiddo sy’n addas i’ch anghenion

SUT I GOFRESTRU:

Cofrestrwch gyda Tai Teg trwy:

• Fynd i www.taiteg.org.uk • Cliciwch ar ‘cofrestru gyda Tai Teg’ • Llenwch y ffurflen gais • Cliciwch ar ‘cyflwyno cais’ • Bydd Tai Teg yn asesu eich cais

• Os byddwch yn bodloni’r meini prawf a’ch bod yn cael eich cymeradwyo gallwch wedyn ymgeisio am eiddo

Gwefan: www.taiteg.org.uk Ffôn: 03456 015 605 E-bost: info@taiteg.org.uk

This article is from: