
1 minute read
Awgrymiadau Uwchgylchu a DIY gan Laura
from Home Matters Welsh
by ClwydAlyn
AWGRYMIADAU DIY AC UWCHGYLCHU
GAN LAURA MCKIBBIN


Rwyf yn ôl gyda phlinth DIY newydd, fe wnes i gopïo hyn o duedd yr oeddwn wedi ei gweld ar Instagram. Roedd hyn yn andros o rad ac yn hawdd iawn, dyma fy nghamau syml isod.
CAM 1 CAM 2
I ddechrau bydd arnoch angen prynu bowlenni neu ddefnyddio rhai hen, bin, neu botiau planhigion... p’run bynnag sy’n eich helpu i gael y siâp yr ydych ei eisiau. Nesaf byddwch angen creu eich siâp trwy ludo’r rhain gyda’i gilydd fe ddefnyddiais i lud rhad o Home Bargains ond fe wnaeth gymryd llawer o amser i ludo, gadewais hwn i sychu am 24 awr.
RHESTR SIOPA
4x bowlen gymysgu 1 x soda pobi 1 x glud 2 x Botyn profi £3.20 £1.00 £1.49 £3.50 CAM 3
Yn awr rydym eisiau peintio, roeddwn i eisiau golwg gyda gwead; fe wnes i gymysgu soda pobi gyda’r paent. Gorchuddiais y bowlenni gan ddefnyddio sbwng, gan weithio rhwng y ddau liw, eto roedd hyn er mwyn cael gorffeniad â gwead. CAM 4
Gadewais iddo sychu cyn ychwanegu’r rhan uchaf, defnyddiais hen blât microdon oedd gennyf dros ben, ond gallwch ddefnyddio unrhyw blât sydd ar gael, bwrdd torri crwn neu mae rhai yn dewis peidio â gosod y rhan uchaf o gwbl a’i ddefnyddio fel potyn planhigion... Eich dewis chi yw hyn
OS YDYCH YN MWYNHAU UWCHGYLCHU CYMAINT Â FI, FE FYDDWN WRTH FY MODD YN GWELD EICH PROSIECTAU.
Anfonwch nhw ataf Laura.Mckibbin@clwydAlyn.co.uk neu anfonwch eich delwedd ar WhatsApp ar 07880431004. Gallech ennill talebau siopa gwerth £30 o’ch dewis chi!