

EICH CROESO
Cynnwys:
EICH CROESO
3 Croeso’r golygydd – Laura Mckibbin
3 Dylanwadwch
EICH NEWYDDION
4-5 Dewch i gyfarfod eich aelod pwyllgor Shelia Powel Storïau preswylwyr:
6-7 Cynllun treialu trwsio DIY Preswylwyr
8-9 Llwyddiant i Hyfforddai Kick Start
9 BITC – Gweminarau Adolygiad Canol-Gyrfa
EICH CYMUNED
10-13 Hanes cymunedau – diwrnod y preswylwyr
14-15 Diwrnod hwyl i breswylwyr
16-17 Datblygiadau
18 Cartrefi fforddiadwy
EICH CARTREF
19 Awgrymiadau Uwchgylchu a DIY gan Laura
20-21 Awgrymiadau garddio Cadw Cymru’n Daclus - hawliwch hadau am ddim gan #Dylanwadwch
22 Ffyrdd i gadw’n gynnesCymru Gynnes
24 Awgrymiadau diogelwch at y gaeaf i’ch cartref – Chris Roberts
EICH RYSÁIT
25 Rysáit Preswyliwr
EICH CIP OLWG AR...
26-27 Eich cip olwg ar ddiwrnod ym mywyd... Ein Peirianwyr

29 Bag post - Ateb eich cwestiynau
EICH CYSTADLEUAETH
30 Cyfle i chi ennill £25 mewn talebau Amazon
Eich Croeso gan y Golygydd
LAURA MCKIBBIN
Helo bawb a chroeso ‘nôl i rifyn yr Hydref a’r Gaeaf o Calon y Cartref.
Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, rwyf yn aml yn edrych yn ôl ac i mi’n bersonol, mae’r flwyddyn yma wedi hedfan! Bu’n flwyddyn brysur hefyd ac mae cychwyn ar fy swydd newydd fel Swyddog Cynnwys Preswylwyr wedi bod yn rhan fawr o hyn.

Rwyf wedi cael y pleser o fynd allan ac o gwmpas i gyfarfod cymaint o breswylwyr hyfryd. Fe wnaethom hefyd gael diwrnod hwyl y preswylwyr oedd yn anhygoel. Diolch i bawb a ddaeth yno, roedd yn wych cymysgu hefo chi a dod i’ch adnabod chi.
Ym mhob rhifyn rydym yn ceisio cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i chi: mae llawer o bryder wedi bod am yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd ac rydym yn ceisio cefnogi’r holl breswylwyr gorau gallwn ni. Rŵan bod y tywydd yn mynd yn oerach, byddwn yn treulio mwy o amser gartref a dan do. Rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau a gwybodaeth i helpu yn ystod yr amser caled yma.
A oes gennych chi stori y byddech yn hoffi ei rhannu yn ein cylchgrawn preswylwyr?
Byddem wrth ein bodd yn clywed rhagor amdanoch chi neu eich cymuned. Gallai fod yn stori bersonol, awgrymiadau da neu weithgaredd gwych a gynhaliwyd. Gall fod yn rhywbeth o ychydig frawddegau, ychydig o luniau hyd at erthygl lawn y byddwn ni’n eich helpu i’w hysgrifennu. Cysylltwch â ni: e-bostiwch Laura.Mckibbin@clwydalyn.co.uk neu gallwch ffonio anfon WhatsApp i mi ar 07880431004
EICH CROESOBeth yw #Helpwr?
Bydd bod yn #Helpwr yn addas i chi os oes gennych lai o amser i’w roi, neu am gymryd llai o ran. Gallwch helpu trwy lenwi arolygon trwy negeseuon testun neu bost, neu trwy gyfryngau cymdeithasol.
Beth yw #Adolygwr?
Fel #Adolygwr byddwch yn chwarae mwy o ran, gall hyn fod yn fynychu cyfarfodydd / cynadleddau fideo. Rydym am i’n #Adolygwyr edrych ar beth sydd yn ei le yn awr, a yw hyn yn bodloni anghenion preswylwyr, ac i wneud argymhellion i wella pethau.
DEWCH I GYFARFOD EICH
Aelod o’r Pwyllgor Preswylwyr
SHELIA POWEL EICHBeth wnaeth i chi fod eisiau ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr?
Trwy fy oes rwyf wedi cael llawer o wybodaeth, yn bersonol a thrwy’r gwaith. Rwyf yn gwirioneddol fwynhau rhoi yn ôl i’m cymuned ac mae’r cyfle yma hefo ClwydAlyn wedi rhoi’r llwyfan i mi rannu a datblygu sgiliau newydd.
A oeddech chi wedi bod ar unrhyw Fyrddau neu Bwyllgorau eraill o’r blaen?
Do, rwyf wedi bod ar nifer o fyrddau a phwyllgorau dros y blynyddoedd, y cyfan â chysylltiad cryf â’m profiadau personol. Mae bod yn rhan o’r byrddau yma wedi bod yn rhyfeddol, gan roi cyfle i mi helpu preswylwyr i rymuso eu hunain a bod yn llais i’r rhai sy’n cael eu tangynrychioli.
Pa agweddau o’r rôl ydych chi’n eu mwynhau fwyaf?
Y rhan sy’n rhoi mwyaf o fwynhad o fod ar y pwyllgor preswylwyr yw dod i adnabod staff ClwydAlyn a chael mynd allan i gyfarfod y preswylwyr. Rwyf wirioneddol wedi mwynhau darganfod beth sy’n bwysig i’n preswylwyr a gweithio gyda staff i ddod o hyd i atebion a fydd o fudd i fywydau pobl.
A oedd unrhyw beth a wnaeth eich synnu?
Mae’n braf gwybod, hyd yn oed yn fy oed i, y gallaf yn dal gael fy synnu. Cael fy synnu oherwydd bod ClwydAlyn yn hollol agored ac yn barod i dderbyn yr holl syniadau a beirniadaethau yr wyf yn eu cyflwyno. Rwyf yn cael fy nhrin gyda’r parch mwyaf yma, ac mae hynny’n mynd ymhell iawn pan fydd pawb yn gweld ei gilydd fel pobl gyfartal. Pawb yn gwenu.
Fel preswyliwr beth yw’r peth pwysicaf i chi?
A minnau’n breswyliwr fy hun, fe fyddwn wrth fy modd petai mwy o breswylwyr yn ymuno â’r grŵp. Mae ar bob preswyliwr angen llais, cael gwybod beth yw’r hawliau sydd ganddo a sut i gael y pethau y mae arno eu hangen. Byddwn wrth fy modd yn gweld preswylwyr a fyddai fel arfer yn eu cloi eu hunain oddi wrth bawb ac yn ceisio anwybyddu problemau yn dod ymlaen, a dweud wrthym am beth y maent yn poeni neu ddweud sut y gallem eu helpu nhw neu eu cymdogion.
Beth yw eich gobeithion a’ch uchelgais ar gyfer ClwydAlyn?
Rwyf wedi byw yn nhai’r tri darparwr tai cymdeithasol yn Sir y Fflint, ac nid wyf yn swil wrth sefyll dros fy hawliau neu hawliau eraill sy’n teimlo nad ydynt yn gallu gwneud hynny eu hunain. Gallaf ddweud yn ddidwyll, â llaw ar fy nghalon, ClwydAlyn yw’r gorau. Maent yn poeni am eu preswylwyr. Efallai eich bod yn dweud ‘wel dwi wedi bod yn aros am...’, ond gallaf eich sicrhau, nid oherwydd hunanfodlonrwydd ar ochr ClwydAlyn y mae hyn, mae hyn oherwydd llawer o’r pwysedd o’r tu allan nad oes ganddynt fawr o reolaeth arno. Os gallaf fi helpu i baratoi’r ffordd i ClwydAlyn ddod y darparwr tai cymdeithasol gorau yn y Deyrnas Unedig, fe wnaf. Nhw yw’r unig ddarparwr tai cymdeithasol yr wyf wedi dod o hyd iddo sy’n chwilio yn barhaus am ffyrdd i wella bywydau eu tenantiaid ac yn eu gweithredu. Nid ydynt fyth yn anghofio pwy sy’n talu eu cyflogau. Welwch chi mohonyn nhw’n eistedd yn ôl. Mae ClwydAlyn eisoes wedi arwain y blaen mewn tai cymdeithasol gyda llwyth o gynlluniau newydd, gweithredu’r Pwyllgor Preswylwyr yn un o’r achosion dan sylw sydd wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol yng Ngwobrau TPAS Cymru am y ffordd y sefydlwyd y Pwyllgor Preswylwyr a’i ymgorffori yn eu strwythur llywodraethu.
A oes unrhyw gyngor y byddech yn ei rannu hefo rhywun sy’n ystyried ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr yn y dyfodol?
Nid oes gennyf unrhyw eiriau doeth i unrhyw un sy’n dymuno ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr, dim ond gair o groeso. Fe allwch CHI ei wneud. CROESO i bawb.
Rydym wedi sylwi eich bod chi a’ch mab wedi helpu yn ein diwrnod o hwyl i deuluoedd yn ddiweddar, a wnaethoch ei fwynhau, beth ydych chi’n ei hoffi am y math yma o ddigwyddiadau?
Roeddwn wrth fy modd hefo’r diwrnod o hwyl, yn bennaf oherwydd bod fy mab wedi dod hefo fi ac wedi cael croeso â breichiau agored. Mae gan Ben, fy mab Syndrom Downs, mae’n 25 oed ac wrth ei fodd yn helpu. Anelodd Ben yn syth at y stondin fynediad lle’r oedd y Prif Swyddog Gweithredol ac ychydig o’r staff uwch, y cyfan yn ferched. Rŵan i mi, mae hyn yn cadarnhau popeth yr wyf wedi ei ddweud eu bod yno i’r preswylwyr.
Gallais adael Ben yn helpu a mynd i wneud fy stwff Pwyllgor Preswylwyr. Dywedwyd wrthyf bod Ben yn barod i helpu, yn gwrtais, ac mai dim ond pedwar neu bump o fyrgers ychwanegol yr oedd wedi eu cael. Dwi ddim yn gwybod o ble y daeth y plentyn yma, ond dwi ddim yn meddwl mai fy Ben i oedd o. Llwyddodd Ben i weiddi’r rhifau bingo ac roedd yn boblogaidd iawn. Y peth gorau am y diwrnod hwn oedd, i ni i gyd allu dod at ein gilydd am ddiwrnod yn llawn o hwyl, roedd yn ddiogel ac roedd yn cyflawni ein holl anghenion. Fuodd ddim rhaid i ni ddweud, “O, allaf fi ddim ei wneud fe fydd yn costio ffortiwn”, roedd ClwydAlyn wedi talu. Cawsom gyfarfod pobl o ardaloedd eraill yn y sefydliad, cael hwyl a llawer o haul. Os cai ddweud, fe wrandawyd ar lawer o’r syniadau ar gyfer y diwrnod hwyl yma a’u defnyddio. Felly os nad oeddech yn hoffi rhannau o’r diwrnod, rhowch y bai arna i ac nid ClwydAlyn.

GWASANAETH TRWSIO
WEDI EI LANSIO’N SWYDDOGOL!
Ychydig fisoedd yn ôl fe wnaethom ddweud wrthych am ein cynlluniau i redeg cynllun peilot oedd yn gadael i aelodau o Dylanwadwch wneud eu mân waith trwsio eu hunain yn eu cartrefi.
Fel rhan o’r cynllun treialu, rhoddwyd cyfle i breswylwyr a ymunodd wneud y mân waith trwsio eu hunain a rhoddodd ClwydAlyn y deunyddiau iddynt pan oedd angen.
Rhoddodd gyfle i’r rhai oedd yn treialu’r peilot i guro’r ciwiau ac osgoi’r amseroedd aros i gael trefn ar y mân swyddi hynny. Yn dilyn eu hadborth cytunwyd y bydd cynllun Trwsio DIY Preswylwyr yn cael ei gyflwyno i holl breswylwyr ClwydAlyn.
Dywedodd Carl Taylor, Rheolwr Gweithrediadau, ClwydAlyn: “ Awgrymwyd y cynllun gan aelod o’r Pwyllgor Preswylwyr, gan gynnig y cyfle i breswylwyr gyflawni gwaith trwsio sylfaenol eu hunain, gyda ni’n rhoi’r deunyddiau neu rannau iddynt naill ai wedi eu dosbarthu neu trwy drefniant i’w casglu.
“ Roedd y cynllun treialu cychwynnol yn llwyddiant mawr gydag aelodau o’r Pwyllgor Preswylwyr a Dylanwadwch yn gwneud tasgau DIY bach oedd ganddynt yn eu cartrefi gan roi adborth am eu profiad yn ôl i ni.”
Mae Gemma Minards yn un o’n preswylwyr a gymerodd ran yn y cynllun peilot ac a wnaeth nifer o fân atgyweiriadau yn ei gardd.
Dywedodd:
“ Roedd mor syml. Fe dynnais luniau o’r mân waith trwsio oedd angen eu gwneud i giât yr ardd a’r ffens a’u hanfon at aelod o’r Tîm Cynnal a Chadw. Yna fe wnaethant ddarparu’r rhannu oedd arnaf eu hangen i mi ac ar ôl i’r rhannau gyrraedd fe gymerodd tua 20 munud i mi osod 2 golyn bach a chlo ar fy ngiât, ac fe wnaeth fy ngŵr drwsio’r ffens.
“ Roedd yr holl ddarnau a gefais yn iawn, ac i mi roedd y gwasanaeth yn gyfleus iawn, ddim yn gorfod aros i’r staff wneud y gwaith, oedd i’r dim i mi a minnau’n fam i 3 o blant ifanc. Hefyd fe wnaed y gwaith trwsio’n gyflym!
“ Roedd hyn yn brofiad gwych i mi, ac roeddwn yn barod iawn i gymryd rhan yn y cynllun peilot Gwnaeth y ffaith bod y Tîm Cynnal a Chadw wedi ymateb mor gyflym i fy nghais cyntaf am waith trwsio argraff fawr arnaf ac rwyf yn falch o’r hyn wnes i ei gyflawni ar fy mhen fy hun. Rwy’n meddwl y bydd hyn yn rhoi hyder i bobl i wneud mwy o’u mân waith trwsio eu hunain yn eu cartrefi.“
TRWSIO DIY PRESWYLWYR




Ychwanegodd Carl Taylor:
“ Mae’r Tîm Cynnal a Chadw yn brysur bob amser a thrwy’r flwyddyn gall y galw ar y gwasanaeth hwn amrywio gan ddibynnu ar amrywiaeth o bethau fel tywydd gwael. Mae hyn yn golygu y gall preswylwyr orfod aros ychydig yn hwy nag y byddem yn hoffi er mwyn i waith trwsio gael ei wneud.
“ Mae’n wych ein bod yn gallu cyflwyno’r cynllun hwn i’n holl breswylwyr, a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth wella’r gwasanaeth, yn ogystal â rhoi cyfle i’n preswylwyr wneud mân waith trwsio fel trwsio rheiddiaduron, drysau a ffensys ac ati.”
Trwy gwblhau eich mân waith trwsio eich hun, gallwch leihau’r amser yr ydych yn aros am waith trwsio a gallwch wneud y gwaith pan fydd yn gyfleus i chi. Mewn rhai achosion, gall hyn leihau’r angen i chi gymryd amser o’r gwaith er mwyn i’r tîm trwsio gael mynediad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud eich gwaith trwsio eich hun, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt ClwydAlyn ar 0800 1835757 lle bydd aelod o’r tîm yn trafod y broses hefo chi.
LLWYDDIANT I HYFFORDDAI KICK START

Cynigiwyd swydd lawn amser i hyfforddai Kickstart ar ôl cwblhau lleoliad 6 mis gyda ni. Cymerodd Sasha Davies, 22 oed, swydd hyfforddai gyda ClwydAlyn trwy’r cynllun Kickstart sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth. Dyluniwyd y cynllun i alluogi rhai 16-24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, ac mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir, i gael lleoliadau gwaith o safon uchel ar draws y Deyrnas Unedig.


Hyfforddodd Sasha fel Gweithiwr Prosiect Cynorthwyol yn Foyer Wrecsam, un o brosiectau byw â chefnogaeth ClwydAlyn sy’n cefnogi pobl ifanc o 16+ sy’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref.
Dywedodd Sasha:
“
Siaradodd gyda ni am sut y daeth i’r swydd, ei chynnydd rhyfeddol ers hynny, a sut y mae gweithio i ClwydAlyn wedi ei hysbrydoli i gynllunio ei gyrfa yn y dyfodol hefo ni.
Fe wnaeth y cyfan gychwyn tra’r oeddwn yn y brifysgol yn astudio Iechyd Meddwl a Llesiant. Fe benderfynais gymryd blwyddyn allan yn ystod y pandemig gan fod gennyf gyfrifoldebau gofal plant. Yn ystod yr amser hwnnw, deuthum ar draws y cynllun Kickstart sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth a theimlais y byddai’n gyfle gwych i mi ddatblygu sgiliau a phrofiadau newydd a fyddai o help i mi ddod o hyd i waith ar ôl cwblhau’r rhaglen.
“
Cychwynnais gyda ClwydAlyn ym mis Mawrth, a dechrau trwy gefnogi preswylwyr gyda’u bywydau o ddydd i ddydd, er enghraifft gyda sgiliau bywyd, cyllidebu, a chyfeirio at asiantaethau perthnasol. Wrth i mi ddod yn fwy cyfforddus yn y swydd, roeddwn yn ddigon hyderus i gynnal sesiynau cefnogi gan weithio 1 i 1 gyda phreswylwyr.

“
Yn ystod fy lleoliad fe wnes i hefyd drefnu ac arwain digwyddiadau cyfranogiad tenantiaid, a roddodd y cyfle i mi ddod i adnabod y bobl yr oeddwn yn gweithio’n agos hefo nhw trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau fel nosweithiau gemau a sesiynau coginio.
“
Daeth fy nghyfnod 6 mis gyda Kickstart i ben yn gynharach yr wythnos hon, ac rwy’n falch iawn o ddatgelu fy mod wedi cael cynnig contract parhaol fel Gweithiwr Prosiect hefo ClwydAlyn, sy’n newyddion gwych. Mae’n waith sy’n rhoi boddhad mawr ac mae’n wych gwybod fy mod yn helpu preswylwyr ac yn newid eu bywydau.”
Dywedodd yr Uwch Swyddog Prosiect yn ClwydAlyn, Sarah Davenport:
“ Mae cyflogi ein hyfforddai Kickstart, Sasha, wedi bod yn wych i’r gwasanaeth. Yn ystod ei hamser yma mae wedi cael gwybodaeth, hyder, profiad, a dealltwriaeth dda o’r swydd yn ogystal â llunio perthynas waith wych gyda’r staff a’r preswylwyr fel ei gilydd.

Mae Busnes yn y Gymuned yn arwain mudiad i greu byd teg a chynaliadwy i fyw a gweithio ynddo. Mae gweminarau Adolygiad Canol Gyrfa Busnes yn y Gymuned yn cynnig cyfle i unigolion yng Nghymru sy’n 50+ ac yn gweithio neu yn chwilio am waith i ystyried a chymryd golwg newydd ar eu bywyd, gan eu helpu i wneud cynlluniau a’u rhoi ar waith ar gyfer dyfodol positif.
“ Mae wedi bod yn bleser ei chael gyda ni a’i gwylio yn datblygu ei sgiliau; mae wedi dod yn aelod gwerthfawr o’r tîm ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn rhagori yn ei swydd newydd. Mae’r profiad Kickstart wedi bod yn werthfawr iawn.”
Ychwanegodd Sasha: “ Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dechrau arni yw os bydd yn gweld cyfle Kickstart, fe fyddwn i’n dweud ewch amdani ar unwaith. Peidiwch â gadael i ofn eich atal; mae’r swydd yma’n wych ac yn hollol wahanol i unrhyw beth yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Dwi’n mwynhau yn fawr iawn, ac fe hoffwn ddatblygu yn y cwmni a gweld i ble y gall arwain. Rwyf mor hapus hefo’r hyn yr wyf yn ei wneud ar hyn o bryd.”
Mae’r gweminarau am ddim yma, sy’n para tuag awr, yn rhoi trosolwg o’r pynciau allweddol sy’n berthnasol i waith, cyllid ynghyd ag iechyd a llesiant wrth i ni fynd yn hŷn. Bwriad y gweminarau yw helpu’r rhai sy’n bresennol deimlo bod ganddynt fwy o wybodaeth a’u bod yn hyderus am ddewisiadau a fydd yn cael effaith ar eu dyfodol. Mae BITC yn rhannu pecyn adnoddau gyda rhagor o wybodaeth ac offer i’ch helpu wrth gynllunio ar gyfer eich dyfodol.
CYMUNEDAU HANES Y
















Ni fu cymuned erioed mor bwysig, felly mae’n dda amlygu rhywfaint o’r gwaith gwych y mae ein staff a’n preswylwyr yn ei wneud yn ein cymunedau. Os hoffech chi rannu stori neu ddigwyddiad, anfonwch nhw at communications@clwydalyn.co.uk
DATHLIADAU PENBLWYDD
JEAN SCHOFIELD YN 100 OED!

Ar ddydd Gwener 14 Hydref dathlodd Jean Schofield, sy’n byw yn Llys Raddington ei phen-blwydd yn 100 oed!
Cynhaliwyd parti yn y cynllun a chafodd Jean, gyda’i theulu, ffrindiau a phreswylwyr eraill, brynhawn gwych ar y pen-blwydd mwyaf arbennig hwn!
Mae Jean wedi byw yn Llys Raddington ers iddo agor yn 2018, ac mae’n cael cefnogaeth wych gan ei meibion, Neil ac Andrew, a’i merched yng nghyfraith, Linda a Tricia.
Cafodd ei magu yn Norfolk lle’r oedd yn gweithio fel gweithredwr bwrdd ffôn yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yna symudodd i’r Fflint, Gogledd Cymru, gyda’i gŵr Joe, oedd yn gweithio i’r cwmni datblygu awyrennau, Hawker Siddeley.
Yna fe wnaethant sefydlu busnes teuluol yn rhedeg y modurdy ar Fynydd y Fflint, ac ar ôl marwolaeth Joe yn 1981, daliodd ati i redeg y busnes teuluol gyda’i meibion, gan ddod i adnabod llawer o ffrindiau a chysylltiadau yn y gymuned leol.

Mae wrth ei bodd yn byw yn y cynllun gan ei bod yn teimlo’n ddiogel, ac mae’r gofalwyr i gyd yn rhoi gofal ardderchog. Mae’n mwynhau gwneud croeseiriau, awyr iach, a gwylio pobl yn mynd a dod o’i balconi.
Roedd y staff a’r preswylwyr yn hapus iawn i ddathlu carreg filltir mor fawr hefo hi gan anfon eu llongyfarchion twymgalon at Jean a’i theulu i gyd.






Codi
arian i
DA IAWN BAWBI
LLYS Y WAUN
Fe wnaeth preswylwyr fwynhau eu diwrnod coffi Macmillan a chodi £640 gwych! Diolch yn fawr i’r helpwyr, y rhai fu’n gwneud y cacennau a phawb a wnaeth gefnogi trwy wneud y diwrnod mor llwyddiannus.


MARINE CLEAN CYMRU

Diolch yn fawr i’r gwirfoddolwyr o Glwb Pêl-droed Iau Bae Colwyn a ddaeth draw i’n helpu i gasglu ysbwriel ar gyfer Cadw Cymru’n Daclus ar Draeth Bae Colwyn. Casglwyd llawer o ysbwriel. Da iawn bawb
BORE COFFI CAE GLO
Mae ein preswylwyr yng Nghae Glo yn mwynhau bore coffi ddwywaith yr wythnos yn eu lolfa gymunedol.
Mae hon yn ffordd wych i’n preswylwyr gadw’n gymdeithasol, i weld beth sy’n digwydd yn y gymuned a mwynhau paned dda a sgwrs.

CADW’N
Mae Peter Maroc, y prif gymeriad, yn gyn swyddog SAS, ac ar ddechrau’r nofel mae’n dychwelyd o’r Almaen i’w bentref yn Eryri. Dair blynedd ynghynt roedd ei wraig wedi ei wahardd o’i gartref, gan fod ei thad, Max Southwell, wedi digio wrtho am esgeuluso ei ferch. Ar ôl dychwelyd mae’n gweld bod ei dad yng nghyfraith wedi ei adael i farw gan ei feibion crafangus, a gyda’i wraig yn gaeth mewn ysbyty yn Affrica ac yn methu helpu, mae Maroc yn penderfynu helpu Max Southwell i gael ei iechyd yn ôl ac adfer ei berthynas â’i wraig.
Am ysgrifennu’r nofel, dywedodd Keith, “ Cychwynnais y drafft cyntaf yn 2017, ac fe gymerodd 9 mis i mi ei hysgrifennu. Fe wnes i wedyn adael iddi am y 3 mlynedd a hanner nesaf a dechrau ei golygu 9 mis yn ôl. Cymerodd y broses gyfan o ysgrifennu a golygu 18 mis, ac mae’r llyfr yn 437 tudalen o hyd.

“
A minnau’n seicotherapydd wedi ymddeol, roeddwn wedi ysgrifennu nifer o lyfrau hunangymorth o’r blaen, a dyma fy nofel gyntaf. Fe wnes ei chyhoeddi’n 79 oed, a’r wythnos ddiwethaf roedd fy llwyddiant yn cael sylw yn y wasg yn lleol! Mae gan y llyfrgelloedd yng Nghonwy hefyd gopi, ac mae gan WH Smith hefyd ddiddordeb!”
Rhyddhawyd y llyfr i adolygiadau 5 seren, gydag un darllenydd yn dweud, ‘Mae Maroc yn haeddu’r clod uchaf, oherwydd yn fy marn i, mae’n nofel sy’n aeddfed i’w haddasu yn ffilm Hollywood, ac ymddangos ar restr gwerthwyr gorau Efrog Newydd. Mae’n nofel wedi ei llunio’n grefftus ac yn haeddu ei lle ar eich silffoedd llyfrau!’
Mae ‘Maroc: A Snowdonia Thriller’ ar gael yn awr ar ffurf clawr papur a Kindle gan amazon.co.uk.

DARLLEN GYDA’I
GILYDD
Mae’n wych gweld yr hen a’r ifanc yn dod at ei gilydd ac yn profi cysylltiad rhyfeddol trwy ddarllen Diolch i chi Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Bae Colwyn am ymweld â’n preswylwyr ym Merton Place.



BLODYN HAUL ANFERTH
Yn ystod yr haf, penderfynodd y Swyddog Tai Jenny Toner gael cystadleuaeth yn yr Wyddgrug i weld pwy allai dyfu’r blodyn haul talaf. Cymerodd llawer o’r preswylwyr ran ond yr enillydd oedd Ozzy a lwyddodd i dyfu blodyn haul 9 troedfedd trawiadol. Waw!! Roedd Ozzy’n falch iawn o’i wobrau, sef gwesty pryfed, hadau yn barod at y flwyddyn nesaf a thegan gwenynen ar ffon bren.

LLONGYFARCHIADAU OZZY!
CAREDIGRWYDD O
HAFAN CEFNI
Mae’r preswylwyr, Alison, John a Sandra o Hafan Cefni wedi bod yn codi arian i helpu’r rhai y mae’r rhyfel yn Wcráin wedi effeithio arnynt trwy drefnu digwyddiadau crefftau a chynnal stondin grefftau. Eu targed oedd codi £1,000 ac maent wedi ei gyrraedd a byddant yn rhoi’r arian i’r Groes Goch Brydeinig.



















NEUADD MALDWYN
BYW’N ANNIBYNNOL I BOBL HŶNMae’r gwaith yn mynd yn ei flaen ar ddatblygu Neuadd Maldwyn, ar Ffordd Hafren, y Trallwng, i’w droi yn fflatiau byw’n annibynnol i bobl hŷn. Mae adeilad hanesyddol Neuadd Maldwyn yn cael ei adfer a’i ymestyn mewn modd cydnaws fel rhan o’r rhaglen..
Bydd y cynllun yn cynnwys 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely o safon uchel ar rent, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio.

Bydd y gwasanaethau rheoli tai a’r gwasanaethau ategol yn cael eu darparu gan ClwydAlyn, tra bydd Cyngor Sir Powys yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu gofal cartref ar y safle. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal y Trallwng neu sydd â chysylltiadau clos ag ardal y Trallwng. www.clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn
Mewn partneriaeth â:
DYDDIAD CWBLHAU ARFAETHEDIG



SUT MAE YMDDEOLIAD HEB OFAL A HEDDYCHLON YN SWNIO? DELFRYDOL?
RYDYM NI’N MEDDWL HYNNY HEFYD OND PEIDIWCH Â CHYMRYD EIN GAIR NI AM Y PETH...
I lawer o’n preswylwyr, mae byw yn ein cynlluniau byw’n annibynnol wedi newid eu bywydau ac nid ydynt wedi edrych yn ôl o gwbl. Dyma beth mae rhai o’n preswylwyr yn ei feddwl am fyw yn ein cynlluniau...
Mike yn Llys Raddington, Y Fflint
“ Rwyf wedi bod yma ers i’r cynllun agor 4 mlynedd yn ôl, ac mae fy fflat 1 ystafell wely yn berffaith i mi. Y pethau gorau am fyw yma yw nad wyf fi byth ar fy mhen fy hun, mae’r cynllun mor agos i’r siopau, ac rwy’n mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau fel bingo ac ati. Rwyf hefyd eisiau diolch i’r gofalwyr am fod yna i mi yn ddiweddar pan oedd arnaf eu hangen. Mae’n wych cael y cymorth yna ar y safle ac rwy’n falch iawn fy mod wedi symud yma.”
Mona ym Maes y Dderwen, Wrecsam
“ Symudais i fy fflat fis Tachwedd diwethaf. Rwyf wedi gwneud nifer o ffrindiau newydd a mwynhau’r cwmni a’r tynnu coes sy’n mynd ymlaen yn y boreau coffi ac ar amser bwyd! Er nad oes arnaf angen gofal ychwanegol fy hun, rwy’n gweld bod y staff yn gyfeillgar iawn ac yn ofalgar i’r rhai sydd ei angen. Nid wyf yn difaru symud yma o gwbl er ei bod yn anodd gorfod gadael fy nhŷ a’r ardd ond mae’r profiad o fyw yma yn gwrthbwyso hynny’n llwyr. Mae gan fy nheulu dawelwch meddwl o wybod fy mod mewn amgylchedd diogel a saff.”
EIN CYNLLUNIAU
• Hafan Gwydir, Llanrwst, Conwy
• Tan y Fron, Llandudno, Conwy

• Plas Telford, Wrecsam



• Maes y Dderwen, Wrecsam
• Llys Eleanor, Shotton, Sir y Fflint
• Llys Raddington, Y Fflint, Sir y Fflint
• Gorwel Newydd, Y Rhyl, Sir Ddinbych
• Hafan Cefni, Llangefni, Ynys Môn
• Neuadd Maldwyn, Y Trallwng, Powys – Yn cael ei ddatblygu
MYNEGWCH DDIDDORDEB MEWN CYNLLUN
Efallai bod gennych ddiddordeb mewn byw yn un o’n cynlluniau byw’n annibynnol eich hun neu efallai eich bod yn meddwl am rywle i aelod o’r teulu neu ffrind fyw. Pam na wnewch chi gael rhagor o wybodaeth, a chofrestru eich diddordeb mewn cynllun, ffoniwch 0800 183 5757, e-bost: help@clwydalyn.co.uk.
CARTREFI FFORDDIADWY
Beth yw eiddo rhent canolraddol? Rhent canolraddol yw tai sydd â’r bwriad o roi dewis rhentu ychwanegol i aelwydydd ar incwm is, gan ddarparu cartrefi diogel, fforddiadwy, o safon uchel ar rent sy’n is na’r farchnad. Mae gan ClwydAlyn eiddo rhent canolraddol ar draws Gogledd Cymru ac mae’r rhain yn cael eu dyrannu trwy Gofrestr Cartrefi Fforddiadwy Tai Teg.
CONNECTING PEOPLE WITH HOUSING OPPORTUNITIES
A YDYCH YN GYMWYS?
• Rydych yn 18 oed neu hŷn
• Yn gweithio ag incwm gros yr aelwyd yn flynyddol rhwng £16,000 a £45,000 (gall gynnwys budd-daliadau)
Yn brynwr tro cyntaf neu eich cartref presennol yn anaddas ac nid yw’n bodloni anghenion eich teulu
• Nid ydych yn gallu fforddio rhentu ar y farchnad agored a / neu brynu eiddo sy’n addas i’ch anghenion
Os oes gennych incwm gros yr aelwyd yn flynyddol rhwng £16,000 a £45,000 (gall gynnwys budd-daliadau) a’ch bod angen tai fforddiadwy, gallech chi fod yn gymwys ar gyfer cynllun Rhent Canolradd.


Os hoffech chi wybod os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn gymwys, ewch i: www.taiteg.org.uk
SUT I GOFRESTRU:
Cofrestrwch gyda Tai Teg trwy:
• Fynd i www.taiteg.org.uk
• Cliciwch ar ‘cofrestru gyda Tai Teg’
• Llenwch y ffurflen gais
• Cliciwch ar ‘cyflwyno cais’
• Bydd Tai Teg yn asesu eich cais Os byddwch yn bodloni’r meini prawf a’ch bod yn cael eich cymeradwyo gallwch wedyn ymgeisio am eiddo Gwefan: www.taiteg.org.uk Ffôn: 03456 015 605 E-bost: info@taiteg.org.uk
CYSYLLTU POBL GYDA CYFLEON TAIAWGRYMIADAU DIY AC


UWCHGYLCHU


Rwyf yn ôl gyda phlinth DIY newydd, fe wnes i gopïo hyn o duedd yr oeddwn wedi ei gweld ar Instagram. Roedd hyn yn andros o rad ac yn hawdd iawn, dyma fy nghamau syml isod.
CAM 1


I ddechrau bydd arnoch angen prynu bowlenni neu ddefnyddio rhai hen, bin, neu botiau planhigion... p’run bynnag sy’n eich helpu i gael y siâp yr ydych ei eisiau.
CAM 2
Nesaf byddwch angen creu eich siâp trwy ludo’r rhain gyda’i gilydd fe ddefnyddiais i lud rhad o Home Bargains ond fe wnaeth gymryd llawer o amser i ludo, gadewais hwn i sychu am 24 awr.
CAM 3
Yn awr rydym eisiau peintio, roeddwn i eisiau golwg gyda gwead; fe wnes i gymysgu soda pobi gyda’r paent. Gorchuddiais y bowlenni gan ddefnyddio sbwng, gan weithio rhwng y ddau liw, eto roedd hyn er mwyn cael gorffeniad â gwead.

CAM 4
Gadewais iddo sychu cyn ychwanegu’r rhan uchaf, defnyddiais hen blât microdon oedd gennyf dros ben, ond gallwch ddefnyddio unrhyw blât sydd ar gael, bwrdd torri crwn neu mae rhai yn dewis peidio â gosod y rhan uchaf o gwbl a’i ddefnyddio fel potyn planhigion... Eich dewis chi yw hyn
RHESTR
OS YDYCH YN MWYNHAU UWCHGYLCHU CYMAINT Â FI, FE FYDDWN WRTH FY MODD YN GWELD EICH PROSIECTAU.
Anfonwch nhw ataf Laura.Mckibbin@clwydAlyn.co.uk neu anfonwch eich delwedd ar WhatsApp ar 07880431004.

Gallech ennill talebau siopa gwerth £30 o’ch dewis chi!

EICH CARTREF
AWGRYMIADAU GARDDIO
gan Wendy Jones Cadw Cymru’n DaclusEfallai ei bod yn ymddangos bod natur wedi mynd i gysgu ar yr adeg yma o’r flwyddyn, wrth i’r clociau droi, ac i’r nosweithiau fynd yn hwy. Ond wrth i oriau’r dydd fyrhau, mae hyd yn oed yn bwysicach gwisgo’n gynnes a mynd allan i fwynhau manteision awyr iach a golau’r haul i godi eich hwyliau.
Hyd yn oed os ydi hi’n oer neu laith, rwy’n ceisio mynd allan ac arogli’r awyr. Credir bod pobl sy’n treulio dwy awr yr wythnos, neu tua 20 munud y dydd tu allan yn natur yn teimlo’n iachach yn gorfforol a meddyliol na’r rhai nad ydyn nhw. Mae bywyd wastad yn haws pan fyddaf wedi treulio amser yng nghanol natur.
Fel rhan o fy rôl yn Cadw Cymru’n Daclus, rwy’n lwcus iawn o fod yn gallu helpu grwpiau cymunedol i wella eu hamgylchedd lleol.
Trwy daclo ysbwriel trwy ein prosiect Caru Cymru neu greu mannau i bobl a natur ffynnu, gyda’n pecynnau grant Lleoedd i Natur. I mi, mae’r amser yma o’r flwyddyn yr un mor bwysig ar gyfer plannu â’r gwanwyn a’r haf cynnar, ac yn aml fe allwch fy ngweld yn fy welingtons yn plannu coed.


Nid oes gan bawb le i dyfu coedwig neu hyd yn oed berllan, ond fe allwn ni i gyd gael y manteision o dyfu, boed yn fwyd i’r teulu, blodau i’r enaid neu gactws yn y gegin.
Ar yr adeg yma o’r flwyddyn, rwy’n hoffi cymryd golwg iawn ar yr ardd. Dwi’n meddwl beth oedd y teulu a minnau wedi mwynhau eu tyfu a’u bwyta eleni, beth wnaeth dyfu’n dda, neu ddim mor dda, beth allwn i fod wedi ei wneud i wella’r cynnyrch, ac yn bwysicaf oll rwy’n cyffroi am y pethau hardd a blasus y byddwn yn hoffi eu tyfu’r flwyddyn nesaf!
Mae gennyf rai cnydau caled yn dal i’n cadw i fynd trwy’r gaeaf, fel gorfetysen, cêl ac ysgewyll.
Mae diwedd yr hydref a dechrau’r gaeaf yn amser delfrydol i blannu garlleg a rhai mathau o nionod i’w cynaeafu haf nesaf. Er bod fy ngwely llysiau’n llai llawn, rwy’n hoffi chwynnu a rhoi tail wedi pydru’n dda, gweddillion dail neu gompost cartref drosto i wella strwythur y pridd ac ategu maethynnau ar gyfer y tymor canlynol.
Yn bennaf oll i mi, mae’r amser yma o’r flwyddyn yn ymwneud â myfyrio, fel y dail euraidd sy’n disgyn, rwy’n mwynhau fy synhwyrau gorffwys, ail wefru’r batris a pharatoi i’r gwanwyn nesaf ffrwydro.
Am ragor o wybodaeth am brosiectau Cadw Cymru’n Daclus yn eich ardal, neu i weld sut i gymryd rhan, ewch i’n gwefan www.keepwalestidy.cymru
Preswylwyr yn LLYS ERW, RHUTHUN

Mae preswylwyr yn Llys Erw, Rhuthun wedi dechrau gwella eu hardal gymunedol, ar ôl bod yn llwyddiannus yn cael grant.


Cychwynnodd gwirfoddolwyr o blith y preswylwyr a Chadw Cymru’n Daclus trwy osod gwelyau uchel newydd a thŷ gwydr.
Allwn ni ddim aros i weld y canlyniadau!

ALED JENKINS
yn rhannu awgrymiadau defnyddiol ar sut i gynhesu eich cartref am lai y gaeaf hwn.
Helo, fy enw yw Aled Jenkins a fi yw’r Cydlynydd Prosiect ar gyfer y prosiect Cartrefi Pobl Bywydau a Chymunedau Iach (HHPLC). Rwyf wedi bod yn gweithio i Cymru Gynnes ers Ionawr 2022, cyn hyn roeddwn yn gweithio fel rheolwr prosiect yn Hostel Hurst Newton yn Wrecsam. Cefais hyfforddiant i fod yn rheolwr prosiect gyda chefnogaeth gan ClwydAlyn ac roeddwn yn llwyddiannus gyda fy nghais am y swydd Cydlynydd Prosiect HHPLC.

Mae’r prosiect HHPLC yn brosiect cydweithredol rhwng Cymru Gynnes, ClwydAlyn a Thîm TGP Cymru o gwmpas y denantiaeth. Nod y prosiect yw cefnogi pobl fregus ar draws Gogledd Cymru i fod yn gynhesach, yn fwy diogel ac iachach, trwy gynnig dull holistaidd sy’n cydnabod y cysylltiadau rhwng tlodi tanwydd, anghyfartaledd iechyd y gellir ei osgoi a llesiant. Mae’r prosiect yn darparu pecyn o atebion sydd wedi eu gwneud yn benodol i anghenion yr aelwyd gan sicrhau bod y rhesymau craidd yn cael eu dynodi a’u trin.


Sut gallwn ni eich helpu:
Gallwch wneud cais am gefnogaeth ymashorturl.at/sIQS4
Trowch eich thermostat i lawr o 1 radd, neu fwy: Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld bod rhwng 18�C a 21�C yn gyfforddus

Dewch i adnabod eich peiriannau
Golchwch lwythi llawn o ddillad pan yn bosibl: Ceisiwch olchi ar 30 gradd yn lle 40 gradd
Rhowch y dŵr sydd arnoch ei angen yn unig yn y tegell. Mae’r aelwyd arferol yn y Deyrnas Unedig yn rhoi’r tegell ymlaen 1,500 o weithiau’r flwyddyn
Ceisiwch osgoi peiriannau sy’n sugno trydan: Trowch beiriannau trydan i ffwrdd, datgysylltwch fân beiriannau a diffodd goleuadau
Rhowch ynysydd ac atal drafftiau yn eich cartref: Trwy ddefnyddio offer atal drafft o siopau neu wedi eu gwneud gartref gallwch leihau’r drafftiau o gwmpas ffenestri, drysau, drysau cath/ cŵn, drysau atig.
Peidiwch â sychu dillad yn uniongyrchol ar y rheiddiadur: Mae hyn yn gwneud iddynt weithio yn galetach i roi’r un lefel o wres, defnyddiwch hors dillad yn lle hynny
Gollyngwch yr aer o reiddiaduron: Mae hyn yn cael gwared ar bocedi aer i wneud iddynt redeg yn fwy effeithlon
Gosodwch fesurydd clyfar (am ddim gan eich cyflenwr ynni): Bydd mesurydd clyfar yn anfon darlleniadau i’ch cyflenwr felly bydd eich biliau’n gywir, a bydd y sgrin yn eich cartref yn dangos yn union faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio
Os nad oes gennych fesurydd clyfar, rhowch ddarlleniadau cyson i’ch cyflenwr: Bydd hyn yn helpu i osgoi biliau wedi eu hamcangyfrif a all fod yn anghywir.
EICH DIOGELWCH
CADW’N DDIOGEL Y GAEAF HWN
CHRIS ROBERTS

Mae ein Pennaeth Cydymffurfio a Diogelwch Adeiladau hefyd yn ddyn tân ar alwad. Mae Chris wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i annog ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân i’n staff a’n preswylwyr.
ISOD MAE RHAI AWGRYMIADAU AR SUT I GADW’N GYNNES AC YN DDIOGEL Y GAEAF HWN
Mae’n bwysig cadw at y cyngor diogelwch canlynol i helpu i leihau’r risg o dân yn eich cartref wrth i chi gymryd camau ychwanegol i gadw’n gynnes.
Byddwch yn ofalus o gwmpas tân agored. Defnyddiwch warchodydd tân a sicrhau bod eich simnai yn lân
Cadwch wresogyddion symudol oddi wrth lenni a dodrefn a pheidiwch byth â’u gorchuddio.
Cadwch flancedi trydan yn wastad neu wedi eu rholio, peidiwch byth â’u plygu. Peidiwch â’u defnyddio os yw’r gwifrau’n hen neu wedi cael difrod.
Cadwch ganhwyllau’n syth, mewn daliwr addas a pheidiwch byth â’u gadael heb rywun yn yr ystafell. Diffoddwch yn iawn bob amser.
Os byddwch chi yn profi toriad trydan a bod gennych larymau mwg ar y prif gyflenwad, gwiriwch bod y batri wrth gefn yn gweithio
Os bydd tân, ewch allan, arhoswch allan a ffonio 999 ar unwaith.
Os ydych yn cael trafferth fforddio cynhesu eich cartref mae gan Lywodraeth Cymru gyllid i helpu. Dilynwch y ddolen isod i ddarllen rhagor ac ymgeisio (https://gov.wales/wales-fuel-support-scheme-2022-2023)
Gallwch hefyd siarad â’ch Swyddog Tai neu ein ffonio ar 0800 1835757. Rydym yma i’ch helpu.
CROESO CYNNES
Bydd y gaeaf hwn yn anodd i lawer gadw’n gynnes, o ystyried hynny mae llawer o sefydliadau’n dod at ei gilydd i gynnig lle cynnes trwy gynnig lloches gynnes, sgwrs neu baned.
Mae Croeso Cynnes - Menter Môn wedi creu map lle gallwch chi weld lle mae lle cynnes yn lleol i chi. www.mentermon.com/en/croeso-cynnes/ Wyddech chi bod llawer o lyfrgelloedd cyngor yn cynnig lle cynnes hefyd, yma gallwch fwynhau amgylchedd cynnes cyfeillgar, gallwch ddysgu rhywbeth newydd, defnyddio eu cyfleusterau ar-lein a chymdeithasu trwy grwpiau hefyd. www.libraries.wales

Cawl Tomato
CYNHWYSION:
2½ llwy fwrdd o olew blodau’r haul

4 ewin o arlleg
1 nionyn
½ llwy de teim (dewisol)
3 tun o domatos wedi eu malu
4 llwy de o siwgr brown neu unrhyw siwgr sydd gennych yn y cwpwrdd
½ llwy fwrdd finegr balsamig 20ml stoc llysiau
½ llwy de halen
OFFER
Bwrdd torri
Cyllell finiog
Sosban fawr
Jwg mesur
Llwy bren neu unrhyw beth arall yr ydych yn ei ddefnyddio i droi Cymysgydd llaw, neu gymysgydd arferol
DEWCH I GOGINIO!
1. Piliwch y garlleg a’i dafellu yn denau, rhowch o’r neilltu ar eich bwrdd torri.
2. Piliwch a thorri’r nionyn yn fras, a’i roi o’r neilltu ar eich bwrdd torri, ar wahân i’r garlleg.
3. Cynheswch yr olew mewn sosban, ychwanegwch y nionyn a’i ffrio dros wres canolig am 4-5 munud nes y bydd wedi troi ychydig yn euraidd, gan ei droi yn barhaus i wneud yn siŵr na fydd yn glynu yn y sosban.
4. Nesaf ychwanegwch y garlleg a dal i goginio am rai munudau. Cadwch lygad ar y garlleg gan y gall losgi’n gyflym iawn.
5. Ychwanegwch weddill y cynhwysion a mudferwi am 30-40 munud. Os sylwch chi bod y cawl yn ffrwtian gormod, gostyngwch y gwres a pharhau i goginio.
6. Yn olaf, cymysgwch â’r peiriant nes bydd yn llyfn, neu efallai bod gennych gymysgydd smwddi - defnyddiwch hwn, mae’n gweithio’n berffaith.
WYDDECH CHI…
mae bwyd iach bron dair gwaith yn fwy drud na bwyd nad yw’n iach?
Yn Bwydo’n Dda, maent yn gweithio i wneud bwyd da yn fforddiadwy, cadw plant yn iach a helpu mwy o bobl i goginio gartref.
Dilynwch Bwydo’n Dda ar Facebook, Twitter ac Instagram @CanCookWellFed i gael rhagor o newyddion am yr hyn y maen nhw’n ei wneud!

Digon i 4

CYNHESU GAEAF
Eich cip olwg ar ddiwrnod ym mywyd… Ein Peirianwyr
MARCUS SCOTT (Peiriannydd Plymio)

“ Deuthum i’r swydd ar ôl gweithio am 8 mlynedd gyda M A COOPER PROJECTS (MACP) fel Peiriannydd Plymio wedi cymhwyso’n llawn. Yn ystod fy nghyfnod yn MACP roeddwn yn helpu i osod y system blymio a gwresogi yng nghynllun gofal ychwanegol Llys Raddington. Tra’r oeddwn ar y safle fe wnes i hefyd waith pellach i fy rheolwr presennol, Nigel Blackwell.
Fe welais y swydd yn cael ei hysbysebu ac roeddwn yn meddwl ei bod yn edrych yn dda iawn ac mi wnes gais. A minnau’n dod o gefndir masnachol, roedd yn benderfyniad mawr, ond rwyf wedi bod yma am 5 mis erbyn hyn ac wrth fy modd.
Rwy’n ymweld â chartrefi pobl dros Ogledd Cymru i gyd i wneud gwaith ac rwy’n mwynhau siarad hefo’r preswylwyr. Os byddwch chi’n cael trafferth gyda gwaith, mae’r tîm yno bob amser i’ch helpu, ac ni allaf feddwl am le gwell i weithio.
Mae gennyf hefyd gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, ac yn gweithio 1 penwythnos allan o 5, mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer fy mywyd gartref. Byddwn yn annog unrhyw un i ymgeisio, gallaf yn sicr argymell ClwydAlyn.”

ADAM WILKINSON (Gweithiwr Tir Dan Hyfforddiant) “Ar ôl 10 mlynedd yn gweithio ar y rheilffyrdd, fe welais swydd Gweithiwr Tir Dan Hyfforddiant hefo ClwydAlyn ar wefan Indeed ac ymgeisio.
Rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Ers Ionawr rwyf wedi gweithio ar draws Gogledd Cymru, yn helpu preswylwyr i drwsio, gwaith cynnal a chadw cyffredinol ac rwyf hefyd yn ymdrin â phroblemau draeniad hefyd.
Rwyf wrth fy modd hefo’r amgylchedd gwaith yma a’r ffordd y mae pob swydd yn wahanol. Mae’r hyfforddiant mewnol yn wych, mae digonedd o gefnogaeth ac mae llawer mwy i weithio yn ClwydAlyn nag yr oeddwn yn ei feddwl.
Fe fyddwn yn argymell y gwaith i unrhyw un gan fod y gwaith wedi ei warantu ac mae’n wych o ran sefydlogrwydd. Rwyf wedi gweld bod y cwmni’n mynd y filltir ychwanegol i helpu teuluoedd sy’n ei chael yn anodd, ac mae fy rheolwyr bob amser yn rhoi amser i esbonio pethau, sy’n lleihau straen yn wirioneddol.
Yn bennaf oll dwi’n hoffi helpu pobl ac rwy’n edrych ymlaen at weithio rhagor yn y swydd, rhagor o hyfforddiant, ac rwyf wedi cyffroi i weld i ble mae’n fy arwain.”
We Mind the Gap

DYSGU’N SEILIEDIG AR WAITH
DFN Project Search

Mae ClwydAlyn yn falch o gefnogi Prosiect Search a WeMindTheGap ers blynyddoedd lawer.
Eleni, bydd ein tîm cynnal a chadw yn cynnig amrywiaeth o leoliadau i’r ddwy raglen i roi profiad i’r dysgwyr o grefftau fel Plymio, Trydan, Peintio ac Addurno, Gwaith Coed a Chynnal a Chadw Tiroedd.

Gan weithio mewn partneriaeth â HFT, Cyngor
Sir y Fflint a ClwydAlyn, mae Prosiect Search
DFN yn cynnig cyfleoedd dysgu yn y gwaith hanfodol i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i’w helpu i gael swyddi ystyrlon, cyflogedig.
Mae WeMindTheGap yn cynnig 6 mis o gyflogaeth i ddynion sy’n preswylio yn Sir y Fflint, 18-25 oed, sy’n cael eu tanwasanaethu, yn ddifreintiedig neu fregus mewn rhyw ffordd. Ochr yn ochr â hyn maent yn cynnig sgiliau hyfforddiant bywyd, mathemateg a Saesneg a phrofiad gwaith ystyrlon.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu interniaid o’r ddwy raglen i’n tîm cynnal a chadw.

Ydy’ch teulu chi’n cael prydau ysgol am ddim?
Wrth i gostau byw barhau i godi, efallai y bydd rhai o’n cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd fforddio talu am bethau hanfodol dros gyfnod yr haf. Rydym yma i’ch helpu, drwy arbed hyd at £230 o’ch bil dŵr.
Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol:
Credyd Pensiwn
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)
Cymhorthdal Incwm
Lwfans Cy flogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)
Credyd Treth Plant
Credyd Treth Gwaith Credyd Cynhwysol Budd-dal Tai Gost yngiad/Cymorth Treth Gyngor
Ffoniwch ni i drafod eich opsiynau 0800 052 6058
Ewch i’n gwefan am ragor o w ybodaeth dwrcymru.com/HelpGydaBiliau
Mae ein cynghorwyr cyfeillgar yn barod i siarad â chi’n gyfrinachol os dymunwch.
ClwydAlyn - Janice Peterson


Eich Cystadleuaeth
Cyfle i chi ennill £25 mewn Talebau siopa
Ymgeisiwch yn ein cystadleuaeth DIY a Chrefft Hydref / Gaeaf
Gall hyn fod yn rhywbeth fel: pobi, celf a chrefft, addurniadau DIY a gosod eich coeden Nadolig.
Cystadleuaeth Liwio
Er mwyn bod â chyfle i ennill anfonwch eich lluniau i ni! Anfonwch eich ymgeision trwy e-bost at laura.Mckibbin@clwydalyn.co.uk neu anfonwch nhw trwy WhatsApp at 07880431004
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Rhagfyr 2022
Gallwch hefyd gystadlu trwy liwio ein llun Hydref / Gaeaf a’i anfon i’n prif swyddfa, neu eto dynnu llun o’ch gwaith lliwio a’i anfon trwy e-bost neu WhatsApp.
Er mwyn bod â chyfle i ennill; Ysgrifennwch eich Enw llawn, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad.
Anfonwch i gyfeiriad ein Prif Swyddfa72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD Neges testun at: 07880 431004 neu e-bostio InfluenceUs@clwydalyn.co.uk